Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Ysgolion Newydd (Derbyniadau) (Cymru) 2006

 Help about what version

Pa Fersiwn

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Reoliadau hyn yw Rheoliadau Ysgolion Newydd (Derbyniadau) (Cymru) 2006 a deuant i rym ar 1 Chwefror 2006.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i ysgolion newydd yng Nghymru a fydd, yn y flwyddyn ysgol y byddant yn derbyn disgyblion am y tro cyntaf, yn ysgolion cymunedol, ysgolion sefydledig neu'n ysgolion gwirfoddol.

(3Nid yw rheoliadau 5, 6 a 7 yn gymwys i ysgol newydd pan fo'r awdurdod derbyn ar gyfer ysgol o'r fath, a sefydlwyd mewn cysylltiad â chynigion sy'n cynnwys cau ysgol arall a gynhelir gan awdurdod addysg lleol, yn penderfynu bod y trefniadau derbyn cychwynnol i fod yr un fath â rhai'r ysgol a gaewyd.

Dirymu a darpariaeth drosiannol

2.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae Rheoliadau Ysgolion Newydd (Derbyniadau) (Cymru) 1999(1) wedi'u dirymu.

(2Mae Rheoliadau Ysgolion Newydd (Derbyniadau) (Cymru) 1999 i barhau i gael effaith mewn perthynas ag unrhyw ysgol a sefydlir yn unol â chynigion a gyhoeddwyd o dan adran 28 o Ddeddf 1998 y mae'r dyddiad agor ar ei chyfer cyn y flwyddyn ysgol 2007-8 ac ni fydd dim yn y Rheoliadau hyn yn gymwys i ysgol o'r fath.

Dehongli

3.  Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “awdurdod derbyn” (“admission authority”) mewn perthynas ag ysgol newydd, yw'r person neu'r corff sy'n gyfrifol o dan reoliad 4 am wneud trefniadau derbyn cychwynnol yr ysgol;

ystyr “blwyddyn gychwynnol” (“initial year”), mewn perthynas ag ysgol newydd, yw'r flwyddyn ysgol gyntaf y derbynnir disgyblion (neu y bwriedir y dylid eu derbyn) i'r ysgol;

ystyr “corff llywodraethu dros dro” (“temporary governing body”) yw corff llywodraethu dros dro a ffurfir o dan adran 34 o Ddeddf Addysg 2002(2) ;

ystyr “Cynulliad Cenedlaethol” (“National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

ystyr “Deddf 1998” (“the 1998 Act”) yw Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998;

ystyr “Deddf 2000” (“the 2000 Act”) yw Deddf Dysgu a Medrau 2000(3);

ystyr “dyddiad agor yr ysgol” (“the school opening date”), mewn perthynas ag ysgol newydd, yw'r dyddiad y mae'r ysgol yn derbyn disgyblion am y tro cyntaf;

ystyr “nifer derbyn” (“admission number”) yw'r nifer o ddisgyblion mewn unrhyw grŵp oedran perthnasol y bwriedir eu derbyn i'r ysgol, fel a benderfynir gan awdurdod derbyn yn unol â rheoliad 6;

ystyr “trefniadau derbyn cychwynnol” (“initial admission arrangements”), mewn perthynas ag ysgol newydd, yw'r trefniadau ar gyfer derbyn plant i'r ysgol (gan gynnwys polisi derbyn yr ysgol) a benderfynir gan awdurdod derbyn yn unol â rheoliad 5(1);

ystyr “ysgol a gynhelir” (“maintained school”) yw ysgol gymunedol, ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol;

ystyr “ysgol newydd” yw ysgol newydd o fewn ystyr “new school” yn adran 72(3) o Ddeddf 1998.

Y cyfrifoldeb dros y trefniadau derbyn cychwynnol

4.—(1Mae'r trefniadau derbyn cychwynnol ar gyfer ysgol newydd sydd i fod yn ysgol gymunedol neu'n ysgol wirfoddol a reolir i'w gwneud gan—

(a)yr awdurdod addysg lleol; neu

(b)y corff llywodraethu dros dro pan fo'r awdurdod addysg lleol, gyda chytundeb y corff hwnnw, wedi dirprwyo iddynt y cyfrifoldeb dros benderfynu'r trefniadau hynny.

(2Mae'r trefniadau derbyn cychwynnol ar gyfer ysgol newydd sydd i fod yn ysgol sefydledig neu'n ysgol wirfoddol a gynorthwyir i'w gwneud gan—

(a)y corff llywodraethu dros dro; neu

(b)(onid yw is-baragraff (c) yn gymwys) yr hyrwyddwyr—

(i)pan nad yw'r corff llywodraethu dros dro wedi'i ffurfio eto, a

(ii)pan fo'r hyrwyddwyr yn credu y byddai'n hwylus i'r trefniadau derbyn gael eu penderfynu yn ddi-oed, neu

(c)yn achos ysgol sefydledig sydd i'w sefydlu gan awdurdod addysg lleol yn unol â chynigion a gyhoeddir o dan adran 28(1)(a) o Ddeddf 1998, yr awdurdod hwnnw—

(i)pan nad yw'r corff llywodraethu dros dro wedi'i ffurfio eto, a

(ii)pan fo'r awdurdod hwnnw yn credu y byddai'n hwylus i'r trefniadau derbyn gael eu penderfynu yn ddi-oed.

Y weithdrefn ar gyfer penderfynu trefniadau derbyn

5.—(1Rhaid i'r awdurdod derbyn ar gyfer ysgol newydd benderfynu'r trefniadau derbyn cychwynnol am y flwyddyn gychwynnol a'r flwyddyn ysgol ganlynol ddim llai na chwe mis cyn dyddiad agor yr ysgol.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (4) a chyn penderfynu'r trefniadau derbyn cychwynnol, rhaid i'r awdurdod derbyn ymgynghori â'r canlynol ynghylch y trefniadau arfaethedig, sef—

(a)os yr awdurdod addysg lleol yw'r awdurdod derbyn, pob awdurdod addysg lleol y mae unrhyw ran o'i ardal yn cydffinio ag ardal yr awdurdod ymgynghori;

(b)os y corff llywodraethu dros dro neu'r hyrwyddwyr yw'r awdurdod derbyn, pob awdurdod addysg lleol y mae unrhyw ran o'i ardal o fewn yr ardal berthnasol, neu'n cydffinio â hi; ac

(c)ym mhob achos—

(i)yr awdurdodau derbyn ar gyfer pob ysgol arall a gynhelir yn yr ardal berthnasol,

(ii)corff llywodraethu pob ysgol gymunedol a phob ysgol wirfoddol a reolir (i'r graddau nad ydynt yn dod o dan baragraff (i)) yn yr ardal berthnasol.

(3Ym mharagraff (2) “yr ardal berthnasol” yw'r ardal berthnasol neu'r ardaloedd perthnasol a benderfynir gan yr awdurdod addysg lleol yn unol â Rheoliadau Addysg (Ardaloedd Perthnasol ar gyfer Ymgynghori ynghylch Trefniadau Derbyn) 1999(4).

(4Mewn perthynas â'r trefniadau derbyn cychwynnol arfaethedig ar gyfer ysgol gynradd, yr unig gyrff y mae paragraff (2) yn ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod derbyn ymgynghori â hwy yw—

(a)yr awdurdodau derbyn ar gyfer ysgolion eraill yn yr ardal berthnasol sy'n ysgolion cynradd; a

(b)corff llywodraethu pob ysgol gymunedol ac ysgol wirfoddol a reolir (i'r graddau nad ydynt yn dod o dan is-baragraff (a)) yn yr ardal berthnasol sy'n ysgolion cynradd.

(5Rhaid i'r awdurdod derbyn ar gyfer ysgol sefydledig newydd neu ysgol wirfoddol sy'n un o ysgolion yr Eglwys yng Nghymru neu ysgolion yr Eglwys Gatholig (fel y diffinnir “Church in Wales school” a “Roman Catholic Church School” gan adran 142(1) o Ddeddf 1998), wrth baratoi trefniadau derbyn cychwynnol ar gyfer ymgynghoriad o dan baragraff (2), ymgynghori â'r awdurdod esgobaethol priodol ynglŷn â'r trefniadau derbyn cychwynnol y maent yn bwriadu eu penderfynu ar gyfer yr ysgol.

(6Pan fydd yr awdurdod derbyn wedi gwneud unrhyw ymgynghori o dan baragraff (2), rhaid i'r awdurdod—

(a)penderfynu mai eu trefniadau arfaethedig hwy (naill ai ar eu ffurf wreiddiol neu gyda'r addasiadau y cred yr awdurdod eu bod yn briodol) yw'r trefniadau derbyn cychwynnol; a

(b)o fewn 14 diwrnod i'r penderfyniad hwnnw hysbysu'r personau yr oedd yn ofynnol iddynt ymgynghori â hwy o dan baragraff (2) o'r trefniadau hynny.

Penderfynu'r nifer derbyn

6.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid i'r penderfyniad o dan reoliad 5(1) gan yr awdurdod derbyn ar y trefniadau derbyn cychwynnol gynnwys nifer derbyn a benderfynir ar gyfer pob grŵp oedran perthnasol yn unol â pharagraff (2).

(2O ran ysgol newydd sydd i'w sefydlu—

(a)yn unol â chynigion a gyhoeddir o dan adran 28 o Ddeddf 1998, rhaid i'r nifer derbyn fod yr un fath ag unrhyw nifer derbyn a nodir mewn unrhyw hysbysiad o'r cynigion y mae'n ofynnol ei gyhoeddi yn unol â rheoliadau a wnaed o dan is-adran (3) o'r adran honno, neu (os yw'n gymwys) fel y'u haddaswyd gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan baragraff 8(2) neu 10(2) o Atodlen 6 i Ddeddf 1998; neu

(b)yn unol â chynigion a wneir o dan adran 113A o Ddeddf 2000, rhaid i'r nifer derbyn fod yr un fath ag unrhyw nifer derbyn a nodir mewn unrhyw hysbysiad o'r cynigion y mae'n ofynnol ei gyhoeddi yn unol â rheoliadau a wnaed o dan is-adran (9) o'r adran honno, neu (os yw'n gymwys) fel y'u haddaswyd gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan is-adran (5) o'r adran honno, neu o dan baragraff 1(3) o Atodlen 7A i Ddeddf 2000.

(3Mae paragraff (4) yn gymwys mewn unrhyw achos lle, ar yr adeg y mae'r trefniadau derbyn cychwynnol yn cael eu penderfynu gan yr awdurdod derbyn, y mae unrhyw gynigion y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff (2) y mae'r trefniadau hynny yn berthnasol iddynt, heb eu cymeradwyo.

(4Pan fo'r paragraff hwn yn gymwys—

(a)rhaid i'r awdurdod derbyn benderfynu ar gyfer pob grŵp oedran perthnasol nifer derbyn, sef y nifer derbyn a benderfynir drwy gyfeirio at gapasiti yr ysgol, ac sydd yr un nifer derbyn a nodir mewn unrhyw hysbysiad o'r cynigion y cyfeiriwyd ato ym mharagraff (2);

(b)ystyrir y nifer derbyn a benderfynir yn unol ag is-baragraff (a) yn nifer derbyn dros dro hyd nes y cymeradwyir y nifer derbyn a nodir yn y cynigion neu (yn ôl y digwydd) hyd nes yr addesir y nifer derbyn hwnnw fel y'i disgrifiwyd ym mharagraff (2)(a) a (b); ac

(c)(ac eithrio lle bo'r cyd-destun yn mynnu fel arall) mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at nifer derbyn i gael effaith fel petai'n gyfeiriad at nifer derbyn dros dro.

Cyfeirio gwrthwynebiadau i'r Cynulliad Cenedlaethol

7.—(1Pan fo trefniadau derbyn cychwynnol wedi'u penderfynu gan awdurdod derbyn o dan reoliad 5(6)(a), caniateir i wrthwynebiad i'r trefniadau hynny gael ei gyfeirio i'r Cynulliad Cenedlaethol gan unrhyw berson yr oedd yn ofynnol i'r awdurdod derbyn ymgynghori ag ef o dan reoliad 5(2) ar yr amod—

(a)nad yw'r gwrthwynebiad yn dod o dan unrhyw ddisgrifiad o wrthwynebiad a ragnodir o dan reoliad 4(2) o Reoliadau Addysg (Gwrthwynebiadau i Drefniadau Derbyn) (Cymru) 2006(5); neu

(b)mewn unrhyw achos lle mae rheoliad 6(4) yn gymwys, nad yw'r gwrthwynebiad yn berthnasol i'r nifer derbyn mewn amgylchiadau lle mae dyddiad unrhyw gymeradwyaeth o'r cynigion (p'un a yw'r nifer derbyn wedi'i addasu neu beidio) yn llai na chwe mis cyn y dyddiad y bwriedir agor yr ysgol.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3), ni cheir cyfeirio gwrthwynebiad o dan baragraff (1) oni chaiff ei dderbyn gan y Cynulliad Cenedlaethol o fewn chwech wythnos ar ô l i'r person sy'n gwrthwynebu dderbyn hysbysiad o dan reoliad 5(6)(b).

(3Serch hynny, mae gwrthwynebiad a ddaw i lawr ar ôl diwedd y cyfnod a bennwyd ym mharagraff (2) i'w ystyried yn un sydd wedi ei gyfeirio'n briodol os yw'r Cynulliad Cenedlaethol yn fodlon nad oedd yn rhesymol ymarferol i'r gwrthwynebiad fod wedi dod i law ynghynt na'r adeg y daeth i law.

(4Pan fo gwrthwynebiad wedi ei gyfeirio o dan baragraff (1) rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol benderfynu a ddylid cadarnhau'r gwrthwynebiad, ac (os felly) i ba raddau y dylid gwneud hynny ac eithrio na fydd dim yn y paragraff hwn yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cynulliad Cenedlaethol wneud penderfyniad o'r fath—

(i)cyn bod cynigion a gyhoeddwyd o dan adran 28(1) a (2) o Ddeddf 1998 wedi'u cymeradwyo neu wedi'u penderfynu i'w gweithredu yn unol â darpariaethau Atodlen 6 i'r Ddeddf honno, neu

(ii)cyn bod cynigion a wnaed o dan adran 113A o Ddeddf 2000 wedi'u cymeradwyo yn unol â darpariaethau is-adran (5) o'r adran honno.

(5Pan fo'r Cynulliad Cenedlaethol yn penderfynu y dylid cadarnhau gwrthwynebiad i unrhyw raddau, gall ei benderfyniad ar y gwrthwynebiad bennu'r addasiadau sydd i'w gwneud i'r trefniadau derbyn cychwynnol o dan sylw.

(6Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol gyhoeddi ei benderfyniadau a'i resymau dros wneud y penderfyniadau hynny drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i bob parti i'r gwrthwynebiad, ac i bob person arall yr oedd yn ofynnol i'r awdurdod derbyn ymgynghori ag ef am y trefniadau derbyn cychwynnol o dan reoliad 5(2).

(7Bydd penderfyniad y Cynulliad Cenedlaethol ynglŷn â'r trefniadau derbyn cychwynnol o dan sylw yn rhwymo'r awdurdod derbyn a'r personau hynny sy'n gallu gwneud gwrthwynebiad ynglŷn â'r trefniadau hynny o dan baragraff (1). Os yw'r gwrthwynebiad yn cael ei gadarnhau'r i unrhyw raddau, rhaid i'r awdurdod derbyn adolygu'r trefniadau hynny ar unwaith i roi effaith i'r penderfyniad hwnnw.

Amrywio'r trefniadau derbyn cychwynnol

8.—(1Mae'r rheoliad hwn yn gymwys—

(a)pan fo'r awdurdod derbyn ar gyfer ysgol newydd wedi penderfynu'r trefniadau derbyn cychwynnol yn unol â rheoliad 5(6)(a); neu

(b)pan fo'r awdurdod derbyn ar gyfer ysgol newydd, a sefydlwyd mewn cysylltiad â chynigion sy'n cynnwys cau ysgol arall a gynhelir gan awdurdod addysg lleol, wedi penderfynu bod y trefniadau derbyn cychwynnol i fod yr un fath â rhai'r ysgol honno,

ond ei fod yn barnu ar unrhyw adeg yn ystod y flwyddyn gychwynnol neu'r flwyddyn ysgol ganlynol y dylid amrywio'r trefniadau.

(2Pan fo'r rheoliad hwn yn gymwys, caiff yr awdurdod derbyn—

(a)amrywio'r trefniadau derbyn am fod newid sylweddol i'r amgylchiadau wedi digwydd ers i'r trefniadau derbyn cychwynnol gael eu penderfynu felly; neu

(b)amrywio'r nifer derbyn os yw'r amrywiad hwnnw yn angenrheidiol i weithredu cynigion a gyhoeddwyd o dan adran 28 o Ddeddf 1998—

(i)pan fo'r cynigion hynny wedi'u cymeradwyo o dan baragraff 8 o Atodlen 6 i Ddeddf 1998, neu

(ii)pan fo'r awdurdod addysg lleol wedi penderfynu o dan baragraff 9 o'r Atodlen honno y byddai'n gweithredu'r cynigion hynny.

(3Os yw paragraff (2)(a) yn gymwys, rhaid i'r awdurdod derbyn gyfeirio'r amrywiad arfaethedig i'r Cynulliad Cenedlaethol, a hysbysu'r cyrff yr oedd yn ofynnol iddynt ymgynghori â hwy o dan reoliad 5(2) o'r amrywiad arfaethedig.

(4Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol bwyso a mesur a ddylai'r trefniadau gael effaith gyda'r amrywiad hwnnw tan ddiwedd y flwyddyn gychwynnol neu y flwyddyn ysgol ganlynol; ac os yw'n penderfynu y dylai'r trefniadau gael yr effaith honno neu y dylent gael effaith yn ddarostyngedig i unrhyw addasiadau i'r amrywiad hwnnw a benderfynir ganddo—

(a)mae'r trefniadau i gael effaith yn unol â hynny o ddyddiad ei benderfyniad; a

(b)rhaid i'r awdurdod derbyn hysbysu'r personau yr oedd yn ofynnol iddynt ymgynghori â hwy o dan reoliad 5(2) o'r amrywiad y mae'r trefniadau i gael effaith yn ddarostyngiedig iddo.

Cymhwyso'r deddfiadau

9.  Mae'r deddfiadau a grybwyllir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn yn gymwys i ysgolion newydd yn ddarostyngedig i'r addasiadau a ragnodir yn yr Atodlen honno.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(6).

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

31 Ionawr 2006

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill