Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Ysgolion Newydd (Derbyniadau) (Cymru) 2006

 Help about what version

Pa Fersiwn

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Rheoliad 9

ATODLENDARPARIAETHAU DEDDFIADAU SY'N GYMWYS GYDAG ADDASIADAU I YSGOLION NEWYDD

1.  Mae darpariaethau canlynol y Deddfau Addysg, sef—

(a)adrannau 324(5)(b), 324(5A) a 439 o Ddeddf Addysg 1996;

(b)adrannau 1, 84, 85A, 86, 87, 89B, 89C, 92, 94, 95 i 99, 101, 102 a 103(3) o Ddeddf 1998;

(c)unrhyw Reoliadau a wneir o dan unrhyw un o'r darpariaethau y cyfeirir atynt yn is-baragraffau (a) a (b) uchod,

yn gymwys i ysgol newydd ond maent yn ddarostyngedig i'r eithriadau a'r addasiadau a bennir ym mharagraffau 2 i 8 isod.

2.  Mae cyfeiriad mewn unrhyw un o'r darpariaethau a bennir ym mharagraff 1 at ysgol yn un o'r categorïau canlynol, sef—

(a)ysgol a gynhelir;

(b)ysgol a gynhelir gan awdurdod addysg lleol;

(c)ysgol gymunedol, sefydledig neu wirfoddol,

i'w ddehongli fel cyfeiriad at ysgol newydd a ddaw'n ysgol newydd o'r categori hwnnw pan fydd yn derbyn disgyblion am y tro cyntaf.

3.  Mae cyfeiriad mewn unrhyw un o'r darpariaethau hynny at gorff llywodraethu ysgol i gael effaith fel petai'n gyfeiriad at gorff llywodraethu dros dro neu (pan fo'r cyd-destun yn caniatáu hynny) at unrhyw berson arall sy'n gyfrifol am dderbyn disgyblion o dan y trefniadau derbyn cychwynnol.

4.  Mae cyfeiriad mewn unrhyw un o'r darpariaethau hynny at drefniadau derbyn i'w ddehongli fel cyfeiriad at drefniadau derbyn cychwynnol fel y'u diffinnir yn rheoliad 3.

5.  Mae cyfeiriad mewn unrhyw un o'r darpariaethau hynny at awdurdod derbyn i gael effaith fel petai'n gyfeiriad at awdurdod derbyn fel y'i diffinnir yn rheoliad 3.

6  Mae adran 101(1) o Ddeddf 1998 i gael effaith fel petai “the year in which pupils are first to be admitted to a new school” wedi'u rhoi yn lle'r geiriau “any year”.

7.  Mae adran 103(3) o Ddeddf 1998 i gael effaith fel petai'r geiriau “(whether authorised by section 100 or section 101)” wedi'u hepgor.

8.  Nid yw Rhan 4 o Reoliadau Addysg (Gwybodaeth Ysgolion) (Cymru) 1999(1) i fod yn gymwys i unrhyw ysgol newydd, y mae dyddiad agor yr ysgol honno rhwng 15 Ebrill ac 1 Awst mewn unrhyw flwyddyn.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill