- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
8.—(1) Caiff swyddog gorfodi—
(a)mynd i mewn i unrhyw fan archwilio ar y ffin neu ar unrhyw dir neu fangre arall (ac eithrio tir sy'n cael ei ddefnyddio fel anhedd-dy yn unig) a'u harchwilio ac archwilio unrhyw beth sydd ynddynt neu arnynt;
(b)agor unrhyw fwndel, pecyn, blwch pacio, neu eitem o fagiau personol, neu ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson, sy'n meddu ar unrhyw un ohonynt neu sy'n mynd gydag ef, ei agor;
(c)archwilio cynnwys unrhyw fwndel, pecyn, blwch pacio, neu eitem o fagiau personol a agorwyd yn unol ag is-baragraff (b);
(ch)archwilio unrhyw gynnyrch, gan gynnwys ei ddeunydd pacio, ei seliau, ei farciau, ei labeli a'i gyflwyniad, ac unrhyw beiriant neu gyfarpar sy'n cael ei ddefnyddio ar gyfer unrhyw gynnyrch neu mewn cysylltiad ag ef; a
(d)cymryd samplau o unrhyw gynnyrch.
(2) Pan fydd swyddog gorfodi yn cymryd sampl o gynnyrch ac eithrio yn ystod gwiriad ffisegol sy'n cael ei gyflawni yn unol â rheoliad 19(1), caiff y swyddog gorfodi gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i'r person y mae'n ymddangos ei fod â gofal dros y llwyth sy'n cynnwys y cynnyrch, yn ei gwneud yn ofynnol i'r llwyth neu ran ohono gael ei storio tan y bydd y swyddog gorfodi yn cyflwyno hysbysiad ysgrifenedig pellach yn caniatáu ei symud, o dan oruchwyliaeth y swyddog gorfodi, yn unrhyw fan ac o dan unrhyw amodau y bydd y swyddog gorfodi yn cyfarwyddo y dylid ei symud yn yr hysbysiad, a rhaid i gostau storio o'r fath gael eu talu gan y person sy'n gyfrifol am y llwyth.
(3) Caiff swyddog gorfodi sy'n mynd ar unrhyw dir neu fangre yn unol ag is-baragraff 1(a) gymryd gydag ef—
(a)personau eraill sy'n gweithredu o dan gyfarwyddiadau'r swyddog gorfodi;
(b)un neu ragor o gynrychiolwyr y Comisiwn Ewropeaidd; ac
(c)un neu ragor o gynrychiolwyr awdurdodau trydedd wlad, sydd wedi'u penodi ac sy'n gweithredu yn unol â'r darpariaethau yn un o'r penderfyniadau cyfwerthedd a restrir yn Atodlen 3.
The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.
Would you like to continue?
Yr Offeryn Cyfan you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
Y Rhestrau you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys: