- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
39. Yn y Rhan hon—
ystyr “man archwilio ar y ffin ar gyfer dod i mewn” (“border inspection post of entry”) yw'r man archwilio ar y ffin lle mae cynnyrch tramwy yn dod i mewn i diriogaeth dollau'r Gymuned;
ystyr “man archwilio ar y ffin ar gyfer ymadael” (“border inspection post of exit”) yw'r man archwilio ar y ffin y bwriedir i gynnyrch tramwy ymadael â thiriogaeth dollau'r Gymuned drwyddo, fel a bennir yn y dystysgrif cliriad milfeddygol sy'n ymwneud â'r cynnyrch hwnnw.
40. Ni chaiff neb gyflwyno cynnyrch tramwy i Gymru o drydedd wlad oni bai bod y milfeddyg swyddogol wrth y man archwilio ar y ffin ar gyfer dod i mewn wedi awdurdodi tramwyad y cynnyrch hwnnw mewn ysgrifen o'r blaen.
41. Dim ond os yw'r milfeddyg swyddogol o'r farn bod cynnyrch tramwy yn peri risg i iechyd anifeiliaid neu iechyd y cyhoedd neu'n amau'n rhesymol fod rhyw afreoleidd-dra arall, fel y'i diffinnir yn rheoliad 21(5), mewn perthynas â'r cynnyrch tramwy, y mae angen i unrhyw berson y mae'n ofynnol o dan reoliad 18 iddo roi cynnyrch tramwy, neu sicrhau ei fod yn cael ei roi, i'r milfeddyg swyddogol wrth y man archwilio ar y ffin ar gyfer dod i mewn.
42.—(1) Ni chaiff neb symud cynnyrch tramwy o'r man archwilio ar y ffin ar gyfer dod i mewn na pheri iddo gael ei symud oni bai bod y person sy'n gyfrifol am y cynnyrch wedi rhoi ymrwymiad ysgrifenedig i'r milfeddyg swyddogol yno y byddai'n dilyn ac yn cyflawni gofynion rholiad 43.
(2) Pan fydd cynnyrch tramwy yn cael ei gludo, ar unrhyw adeg ar ôl ei symud o fan archwilio ar y ffin ar gyfer dod i mewn, drwy Gymru ar hyd ffordd, rheilffordd, dyfrffordd neu drwy'r awyr—
(a)rhaid i'r person sy'n gyfrifol am y cynnyrch tramwy ac unrhyw gludydd sydd â gofal drosto am y tro sicrhau ei fod yn cael ei gludo mewn cerbyd neu gynhwysydd sydd wedi'i selio gan yr awdurdodau tollau neu'r awdurdodau milfeddygol sy'n gyfrifol am y man archwilio ar y ffin ar gyfer dod i mewn, bod ei ddogfennau gofynnol, unrhyw gyfieithiadau sy'n ofynnol o dan reoliad 18(4) a'i dystysgrif cliriad milfeddygol, yn mynd gydag ef i'r man archwilio ar y ffin ar gyfer ymadael o dan oruchwyliaeth y Comisiynwyr yn unol â'r weithdrefn tramwy allanol y cyfeirir ati yn Erthyglau 91 i 97 o'r Cod Tollau;
(b)ni chaiff neb dorri'r seliau ar y cerbyd na'r cynhwysydd y mae'r cynnyrch tramwy yn cael ei gludo ynddo, na dadlwytho'r cynnyrch tramwy, na hollti'r llwyth na'r rhan o'r llwyth sy'n cynnwys y cynnyrch tramwy, na pheri i'r cynnyrch tramwy gael ei drafod mewn unrhyw ffordd; ac
(c)rhaid i'r person sy'n gyfrifol am y cynnyrch tramwy ac unrhyw gludydd sydd â gofal drosto am y tro sicrhau ei fod yn ymadael â thiriogaeth dollau'r Gymuned wrth y man archwilio ar y ffin ar gyfer ymadael heb fod yn hwy na 30 diwrnod ar ôl ei symud o'r man archwilio ar y ffin ar gyfer dod i mewn (heb gynnwys dyddiad ei symud).
(3) Ni chaiff neb gyflwyno cynnyrch tramwy i barth rhydd, warws rydd na warws dollfa yng Nghymru.
43.—(1) Os bydd cynnyrch tramwy yn cael ei ddychwelyd i Gymru ar ôl ymadael â thiriogaeth dollau'r Gymuned, rhaid i'r person sy'n gyfrifol am y cynnyrch tramwy naill ai—
(a)ailanfon y cynnyrch tramwy o'r man archwilio ar y ffin y mae'n cael ei ddychwelyd iddo i drydedd wlad drwy'r dull cludo a ddefnyddiwyd i'w ddychwelyd o fewn trigain niwrnod o'i ddychwelyd (heb gynnwys dyddiad ei ddychwelyd), neu
(b)os yw'r amgylchiadau a ddisgrifir ym mharagraff (2) yn gymwys, gwaredu'r cynnyrch fel petai'n ddeuynydd Categori 1 o dan Reoliad (EC) Rhif 1774/2002 yn y cyfleusterau agosaf at y man archwilio ar y ffin mae'r cynnyrch wedi'i ddychwelyd iddo a'r rheini'n gyfleusterau a ddarparwyd at y diben hwnnw.
(2) Rhaid gwaredu'r cynnyrch tramwy yn unol ag is-baragraff (1)(b) pan fydd—
(a)ailanfon y cynnyrch wedi'i ragwahardd ar sail iechyd anifeiliaid neu iechyd y cyhoedd oherwydd canlyniadau gwiriad ffisegol, neu oherwydd unrhyw ofyniad iechyd anifeiliaid neu iechyd y cyhoedd sydd wedi'i osod mewn offeryn Cymunedol sydd mewn grym ar y dyddiad y cafodd y Rheoliadau hyn eu gwneud, neu pan fydd yn amhosibl fel arall;
(b)y cyfnod o drigain niwrnod y cyfeiriwyd ato yn is-baragraff (1)(a) wedi dod i ben, neu
(c)y person sy'n gyfrifol am y cynnyrch tramwy yn cytuno ar unwaith i'w waredu.
(3) Rhaid i unrhyw berson y mae'r dogfennau gofynnol ynglŷn â chynnyrch tramwy y mae paragraff (1) yn gymwys iddo, neu y mae'r dystysgrif cliriad milfeddygol sy'n ymwneud ag ef yn ei feddiant neu o dan ei reolaeth, eu cyflwyno i'w hannilysu i'r milfeddyg swyddogol wrth y man archwilio ar y ffin y mae'r cynnyrch wedi'i ddychwelyd iddo.
(4) Rhaid i'r person sy'n gyfrifol am gynnyrch tramwy y mae paragraff (1) yn gymwys iddo ei storio nes iddo gael ei ailanfon neu ei ddinistrio o dan oruchwyliaeth y milfeddyg swyddogol wrth y man archwilio ar y ffin y mae'r cynnyrch wedi'i ddychwelyd iddo yn y man ac o dan yr amodau a gyfarwyddir gan y milfeddyg swyddogol.
(5) Rhaid i'r person sy'n gyfrifol am gynnyrch tramwy y mae paragraff (1) yn gymwys iddo dalu costau ei storio, ei gludo, ei ailanfon a'i waredu.
The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.
Would you like to continue?
Yr Offeryn Cyfan you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
Y Rhestrau you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys: