- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
34. Pan fydd gwiriad dogfennol wedi'i gyflawni wrth fan archwilio ar y ffin ar gynnyrch sydd wedi'i fwriadu (boed yn uniongyrchol neu yn y pen draw) ar gyfer ei fewnforio, rhaid i'r person a gyflwynodd y dogfennau gofynnol ynglŷn â'r cynnyrch hwnnw yn unol â rheoliad 18(1) ildio'r rheini i'r milfeddyg swyddogol wrth y man archwilio hwnnw ar y ffin.
35. Pan fydd tystysgrif cliriad milfeddygol wedi'i rhoi a bod honno'n ardystio bod llwyth yn ffit i'w fewnforio, rhaid i'r person sy'n gyfrifol am y llwyth roi tystiolaeth i'r Comisiynwyr sy'n eu boddhau—
(a)bod y dystysgrif wedi'i rhoi; a
(b)bod yr holl ffioedd sy'n daladwy yn unol â Rhan 10 am wiriadau milfeddygol a gyflawnwyd ar y llwyth, gan gynnwys samplu, ac am unrhyw brawf neu ddadansoddiad a wnaed ar unrhyw samplau a gymerwyd, wedi'u talu, neu fod taliad amdanynt wedi'i sicrhau drwy flaendal neu warant sy'n boddhau'r person y mae'r ffioedd yn daladwy iddo yn unol â rheoliad 52(2).
36. Pan fydd—
(a)hysbysiad o gyflwyno cynnyrch wedi'i roi yn unol â rheoliad 17; a
(b)yr hysbysiad hwnnw yn pennu Aelod-wladwriaeth ac eithrio'r Deyrnas Unedig yn gyrchwlad; ac
(c)tystysgrif cliriad milfeddygol wedi'i dyroddi ar gyfer y cynnyrch hwnnw, yn awdurdodi ei fewnforio—
(i)i mewn i'r Aelod-wladwriaeth honno neu ardal benodol ohoni yn unol â gofynion penodol, neu
(ii)at ddibenion penodol yn unol ag amodau,
a bod y gofynion neu'r amodau hynny wedi'u gosod ar gyfer cynhyrchion sy'n cael eu mewnforio i mewn i'r Aelod-wladwriaeth neu'r ardal benodol honno, neu ar gyfer cynhyrchion sy'n cael eu mewnforio at y dibenion penodol hynny, mewn unrhyw gyfarwyddeb, penderfyniad neu reoliad a restrir yn Atodlen 2,
ni chaiff neb, heb esgus rhesymol, atal na gohirio cludo'r cynnyrch hwnnw i'r Aelod-wladwriaeth honno.
37.—(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i gynhyrchion sydd wedi'u bwriadu ar gyfer eu mewnforio ac y mae'n ofynnol, o dan unrhyw gyfarwyddeb, penderfyniad neu reoliad a restrir yn Atodlen 2, iddynt gael eu cludo o dan oruchwyliaeth milfeddyg o'r man archwilio ar y ffin lle cawsant eu cyflwyno gyntaf i'r tiriogaethau perthnasol i'w sefydliad cyrchfan.
(2) Ni chaiff neb symud cynnyrch y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo o fan archwilio ar y ffin oni bai ei fod wedi'i gynnwys mewn cynhwysydd sy'n ddiogel rhag gollyngiadau neu gyfrwng cludo sydd wedi'i selio gan swyddog i'r Comisiynwyr neu gan y milfeddyg swyddogol wrth y man archwilio hwnnw ar y ffin.
(3) Rhaid i'r person sy'n gyfrifol am gynnyrch y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo ac unrhyw gludydd y mae o dan ei ofal am y tro sicrhau bod y cynnyrch yn cael ei gludo yn ddi-oed i'w sefydliad cyrchfan, a bod y dystysgrif cliriad milfeddygol a ddyroddwyd mewn perthynas â'r cynnyrch yn mynd gydag ef nes iddo gyrraedd ei sefydliad cyrchfan.
(4) Pan fydd tystysgrif cliriad milfeddygol wedi awdurdodi mewnforio cynnyrch y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo at ddibenion penodol fel y'u disgrifiwyd yn rheoliad 36(c)(ii), rhaid i'r person sy'n gyfrifol am y cynnyrch ac unrhyw gludydd sydd â gofal am y tro sicrhau ei fod yn aros o dan oruchwyliaeth y Comisiynwyr yn unol â'r weithdrefn T5 y darperir ar ei chyfer yn Erthyglau 471 i 495 o Reoliad y Comisiwn (EEC) Rhif 2454/93 sy'n gosod darpariaethau ar gyfer gweithredu Rheoliad y Cyngor (EEC) Rhif 2913/92 yn sefydlu'r Cod Tollau Cymunedol(1) nes iddo gyrraedd ei sefydliad cyrchfan.
(5) Rhaid i weithredydd sefydliad cyrchfan neu warws storio drosiannol roi hysbysiad ysgrifenedig ar unwaith i'r milfeddyg, sy'n gyfrifol ar ran y Cynulliad Cenedlaethol neu'r Asiantaeth am y sefydliad cyrchfan neu'r warws storio drosiannol, fod unrhyw gynnyrch y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo wedi cyrraedd yno.
(6) Rhaid i weithredydd sefydliad cyrchfan sicrhau bod cynnyrch y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo yn cael y driniaeth yn y sefydliad cyrchfan a ragnodir ar ei gyfer gan y gyfarwyddeb berthnasol, y penderfyniad perthnasol neu'r rheoliad perthnasol a restrir yn Atodlen 2.
38.—(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i gynhyrchion a drawslwythwyd pan fo'r man archwilio ar y ffin ar gyfer cyflwyno yng Nghymru.
(2) Cyn gynted ag y bo cynnyrch y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo yn cyrraedd y man archwilio ar y ffin ar gyfer cyflwyno, rhaid i'r person sy'n gyfrifol am y cynnyrch hysbysu'r milfeddyg swyddogol yno yn ysgrifenedig, neu ar ffurf gyfrifiadurol neu ffurf electronig arall, o union leoliad y cynnyrch, o'r amser yr amcangyfrifir y byddai'n cael ei drawslwytho neu ei ddadlwytho, ac o'r man archwilio ar y ffin ar gyfer ei gyrchfan.
(3) Yn ôl yr hysbysiad a roddwyd yn unol â pharagraff (2), pan fydd cynnyrch y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo i'w drawslwytho—
(a)o un awyren i un arall, naill ai'n uniongyrchol neu ar ôl iddo gael ei ddadlwytho mewn man o dan reolaeth y dollfa wrth y man archwilio ar y ffin at gyfer cyflwyno am lai na deuddeg awr, neu
(b)o un long fordwyol i un arall, naill ai'n uniongyrchol neu ar ôl ei ddadlwytho mewn man fel yr un a enwyd uchod am lai na saith niwrnod,
rhaid i unrhyw berson y mae'n ofynnol iddo o dan reoliad 18 roi'r cynnyrch a'i ddogfennau gofynnol, neu sicrhau eu bod yn cael eu rhoi, i'r milfeddyg swyddogol wrth y man archwilio ar y ffin ar gyfer cyflwyno, os yw'r milfeddyg swyddogol o'r farn bod y cynnyrch yn peri risg i iechyd anifeiliaid neu iechyd y cyhoedd, ganiatáu i'r milfeddyg swyddogol, neu gynorthwy-ydd a benodwyd yn unol â rheoliad 6(1)(b) neu 6(2)(c), gyflawni gwiriad dogfennol ar y dogfennau gofynnol.
(4) Pan fwriedir dadlwytho cynnyrch y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo o awyren am ddeuddeng awr neu fwy, rhaid i'r person sy'n gyrfifol am y cynnyrch sicrhau ei fod yn cael ei storio am gyfnod nad yw'n hwy na 48 awr o dan oruchwyliaeth y milfeddyg swyddogol yn y man archwilio ar y ffin ar gyfer cyflwyno mewn lle yno sydd o dan reolaeth y dollfa a'i fod wedyn yn cael ei ail-lwytho ar awyren i'w gludo ymlaen i'r man archwilio ar y ffin ar gyfer ei gyrchfan.
(5) Pan fwriedir dadlwytho cynnyrch y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo o long fordwyol am saith niwrnod neu fwy, rhaid i'r person sy'n gyfrifol am y cynnyrch sicrhau ei fod yn cael ei storio am gyfnod nad yw'n hwy nag ugain niwrnod o dan oruchwyliaeth y milfeddyg swyddogol yn y man archwilio ar y ffin ar gyfer cyflwyno mewn lle yn o sydd o dan reolaeth y dollfa a'i fod wedyn yn cael ei ail-lwytho ar long fordwyol i'w gludo ymlaen i'r man archwilio ar y ffin ar gyfer ei gyrchfan.
(6) Rhaid i unrhyw berson y mae'n ofynnol o dan reoliad 18 iddo roi cynnyrch y mae paragraff (4) neu baragraff (5) yn gymwys iddo a'i ddogfennau gofynnol i'r milfeddyg swyddogol wrth y man archwilio ar y ffin ar gyfer cyflwyno ganiatáu i'r milfeddyg swyddogol yno, neu gynorthwy-ydd a benodwyd yn unol â rheoliad 6(1)(b) neu 6(2)(c), gyflawni gwiriad dogfennol ar y dogfennau gofynnol ac, os yw'r milfeddyg swyddogol o'r farn bod y cynnyrch yn peri risg i iechyd anifeiliaid neu iechyd y cyhoedd, gwiriad adnabod ar y cynnyrch hwnnw yn erbyn y dogfennau gofynnol a gwiriad ffisegol o'r cynnyrch.
(7) Pan fydd cynnyrch y mae paragraff (4) yn gymwys iddo yn cael ei storio am fwy na 48 awr ar ôl ei ddadlwytho, neu os yw cynnyrch y mae paragraff (5) yn gymwys iddo yn cael ei storio am fwy nag ugain niwrnod ar ôl ei ddadlwytho, rhaid i unrhyw berson y mae'n ofynnol iddo o dan reoliad 18 roi'r cynnyrch a'i ddogfennau gofynnol i'r milfeddyg swyddogol wrth y man archwilio ar y ffin ar gyfer cyflwyno, ganiatáu i'r milfeddyg swyddogol yno, neu gynorthwy-ydd a benodwyd yn unol â rheoliad 6(1)(b) neu 6(2)(c), gyflawni ym mhob achos wiriad adnabod o'r cynnyrch yn erbyn y dogfennau gofynnol a gwiriad ffisegol o'r cynnyrch.
OJ Rhif L253, 11.10.93, t.1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1335/2003 (OJ Rhif L187, 26.7.2003, t.16).
The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.
Would you like to continue?
Yr Offeryn Cyfan you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
Y Rhestrau you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys: