Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Cynhyrchion sy'n Tarddu o Anifeiliaid (Mewnforion Trydydd Gwledydd) (Cymru) 2004

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

RHAN 3Darpariaethau sy'n Gymwys i Gynhyrchion yn Gyffredinol

Gwahardd cynhyrchion nad ydynt yn cydymffurfio

15.  Heb leihau effaith rheoliad 22 o Reoliadau Cynhyrchion Llaeth (Hylendid) 1995(1), ni chaiff neb gyflwyno cynnyrch nad yw'n cydymffurfio i mewn i Gymru o drydedd wlad, na chynnyrch nad yw'n cydymffurfio sy'n tarddu o drydedd wlad i mewn i Gymru o fan arall yn y tiriogaethau perthnasol—

(a)onid yw'n gynnyrch tramwy, neu

(b)onid yw ei sefydliad cyrchfan yn warws mewn parth rhydd, yn warws rydd neu'n warws dollfa sydd wedi'i chymeradwyo yn unol ag Erthygl 12(4)(b) o Gyfarwyddeb 97/78/EC, neu storfa longau sy'n cydymffurfio ag Erthygl 13 o Gyfarwyddeb 97/78/EC, a leolwyd (ym mhob achos) y tu allan i'r Deyrnas Unedig.

Gwahardd cyflwyno cynhyrchion ac eithrio wrth fannau archwilio ar y ffin

16.—(1Ni chaniateir cyflwyno unrhyw gynnrych i Gymru o drydedd wlad ac eithrio wrth fan archwilio ar y ffin a ddynodwyd ac a gymeradwywyd ar gyfer gwiriadau milfeddygol ar y cynnyrch hwnnw.

(2Ni chaniateir cyflwyno i Gymru unrhyw gynnyrch Erthygl 9, y mae'r man archwilio ar y ffin ar gyfer ei gyflwyno y tu allan i'r Deyrnas Unedig, ac y mae'r man archwilio ar y ffin ar gyfer ei gyrchfan yng Nghymru, ac eithrio wrth fan archwilio ar y ffin a ddynodwyd ac a gymeradwywyd ar gyfer gwiriadau milfeddygol ar y cynnyrch hwnnw.

(3Bydd y rheoliad hwn yn cael ei orfodi—

(a)wrth bwyntiau mynediad gan y Comisiynwyr;

(b)mewn mangreoedd y cyfeiriwyd atynt yn rheoliad 4(1)(b) gan yr Asiantaeth; ac

(c)mewn unrhyw fan arall gan yr awdurdod lleol.

(4Mewn achosion lle mae swyddog i awdurdod lleol, wrth arfer unrhyw swyddogaeth statudol, yn darganfod wrth bwynt mynediad lwyth neu gynnyrch y mae'r swyddog o'r farn y gallai fod wedi'i gyflwyno yn groes i'r rheoliad hwn, rhaid i'r swyddog hysbysu swyddog tollau a dal ei afael ar y llwyth neu'r cynnyrch nes bod swyddog tollau yn ei gymryd dan ei ofal.

(5At ddibenion cymhwyso Deddf Rheoli Tollau Tramor a Chartref 1979(2) i gynhyrchion sy'n cael eu cyflwyno yn groes i'r rheoliad hwn, amser eu mewnforio fydd yr amser cyflwyno yn unol ag adran 5 o'r Ddeddf honno.

Hysbysu ymlaen llaw ynglŷn â chyflwyno neu roi cynhyrchion

17.—(1Ni chaiff neb—

(a)cyflwyno cynnyrch i Gymru o drydedd wlad, na

(b)cyflwyno i Gymru gynnyrch Erthygl 9 y mae'r man archwilio ar y ffin ar gyfer ei gyrchfan yng Nghymru,

oni bai bod hysbysiad o'i gyflwyno wedi'i roi yn unol â'r rheoliad hwn i'r milfeddyg swyddogol wrth fan archwilio ar y ffin a ddynodwyd ac a gymeradwywyd ar gyfer gwiriadau milfeddygol ar y cynnyrch hwnnw a bod copi ohono wedi'i anfon i swyddfa'r Comisiynwyr sy'n gyfrifol am yr ardal y mae'r man archwilio hwnnw ar y ffin wedi'i leoli ynddi.

(2Pan fydd y man archwilio ar y ffin ar gyfer cyflwyno cynnyrch Erthygl 9 a'r man archwilio ar y ffin ar gyfer cyrchfan cynnyrch Erthygl 9 ill dau yng Nghymru, ni chaiff neb roi'r cynnyrch i fan archwilio ar y ffin oni bai bod hysbysiad o'i roi wedi'i roi yn unol â'r rheoliad hwn i'r milfeddyg swyddogol wrth fan archwilio ar y ffin ar gyfer cyrchfan a ddynodwyd ac a gymeradwywyd ar gyfer gwiriadau milfeddygol ar y cynnyrch hwnnw a bod copi o'r hysbysiad hwnnw wedi'i anfon i swyddfa'r Comisiynwyr sy'n gyfrifol am yr ardal y mae'r man archwilio hwnnw ar y ffin wedi'i leoli ynddi.

(3Rhaid i'r hysbysiad y cyfeiriwyd ato ym mharagraffau (1) a (2)—

(a)bod ar y ffurf a nodir fel Dalen 1 yn Atodlen 1 neu mae rhaid iddo gynnwys disgrifiad manwl o'r cynnyrch mewn ysgrifen neu ar ffurf electronig, sy'n cynnwys o leiaf y manylion sy'n ymddangos ar y ffurflen honno;

(b)bod yn Gymraeg neu yn Saesneg a hefyd yn iaith swyddogol y gyrchwlad yn y tiriogaethau perthnasol y cyfeirir atynt yn yr hysbysiad, os gwlad wahanol i'r Deyrnas Unedig yw'r gyrchwlad;

(c)cyrraedd y man archwilio ar y ffin—

(i)o leiaf chwe awr gwaith, yn achos cynnyrch sy'n cael ei gyflwyno drwy'r awyr, a

(ii)o leiaf un diwrnod gwaith, mewn unrhyw achos arall,

cyn bod y cynnyrch yn cael ei roi i'r milfeddyg swyddogol wrth y man archwilio ar y ffin yn unol â rheoliad 18; ac

(ch)yn achos hybsysiad a roddwyd i fan archwilio ar y ffin ar gyfer y gyrchfan, pennu pa wiriadau sydd wedi'u gwneud wrth y man archwilio ar y ffin ar gyfer cyflwyno.

(4Ym mharagraff (3) ystyr “oriau gwaith” yw oriau pryd y mae'r man archwilio ar y ffin ar agor ar gyfer rhoi cynhyrchion i'r milfeddyg swyddogol yn unol â rheoliad 18 ac ystyr “diwrnod gwaith” yw diwrnod pan fydd y man archwilio ar y ffin ar agor ar gyfer rhoi cynhyrchion i'r milfeddyg swyddogol yn unol â rheoliad 18.

Rhoi cynhyrchion wrth fannau archwilio ar y ffin

18.—(1Rhaid i unrhyw berson sy'n gyfrifol am gynnyrch sy'n cael ei gyflwyno i Gymru o drydedd wlad, neu am gynnyrch Erthygl 9 y mae'r man archwilio ar y ffin ar gyfer ei gyrchfan yng Nghymru ac sy'n cael ei gyflwyno i Gymru, roi'r cynnyrch a'r dogfennau gofynol neu sicrhau bod y rheini'n cael eu rhoi, yn ddi-oed i'r milfeddyg swyddogol yng nghyfleuster archwilio'r man archwilio ar y ffin y rhoddwyd hysbysiad o gyflwyno neu roi'r cynnyrch i'r man hwnnw yn unol â rheoliad 17.

(2Pan fydd man archwilio ar y ffin ar gyfer cyflwyno cynnyrch Erthygl 9 yn y Deyrnas Unedig a'r man archwilio ar y ffin ar gyfer ei gyrchfan yng Nghymru, rhaid i unrhyw berson sy'n gyfrifol am y cynnyrch ar ôl ei symud o'r man archwilio ar y ffin ar gyfer ei gyflwyno roi'r cynnyrch a'r dogfennau gofynnol, neu sicrhau bod y rheini'n cael eu rhoi, yn ddi-oed i'r milfeddyg swyddogol yng nghyfleuster archwilio'r man archwilio ar y ffin ar gyfer y gyrchfan y rhoddwyd hysbysiad o roi'r cynnyrch iddo yn unol â rheoliad 17.

(3Rhaid i berson sy'n rhoi cynnyrch, ac eithrio cynnyrch tramwy neu gynnyrch y mae Rhan 8 yn gymwys iddo, yn unol â pharagraff (1) neu (2) roi'r dogfennau gofynnol sy'n ymwneud ag ef a'r rheini'n ddogfennau sydd wedi'u llunio yn Gymraeg neu yn Saesneg.

(4Rhaid i berson sydd yn unol â pharagraff (1) neu (2) yn rhoi cynnyrch tramwy neu gynnyrch y mae Rhan 8 yn gymwys iddo ynghyd â dogfen ofynnol mewn iaith heblaw Cymraeg neu Saesneg, roi cyfieithiad o'r ddogfen ofynnol i'r Gymraeg neu'r Saesneg yr un pryd, a rhaid i'r cyfieithiad hwnnw fod yn un y mae arbenigydd â chymhwyster priodol wedi cadarnhau mai cyfieithiad cywir ydyw.

Gwiriadau milfeddygol

19.—(1Yn ddarostyngedig i reoliad 38, yn achos cynhyrchion sydd wedi'u trawslwytho, rhaid i unrhyw berson y mae'n ofynnol iddo yn rhinwedd rheoliad 18 roi cynnyrch a'i ddogfennau gofynnol, neu i sicrhau bod y rheini'n cael eu rhoi, i filfeddyg swyddogol ganiatáu i'r milfeddyg swyddogol, neu gynorthwy-ydd a benodwyd yn unol â rheoliad 6(1)(b) neu 6(2)(c), gyflawni'r gwiriadau canlynol ar y cynnyrch neu'r dogfennau gofynnol—

(a)gwiriad dogfennol,

(b)gwiriad adnabod, ac

(c)yn ddarostyngedig i reoliadau 41, 46 a 50, gwiriad ffisegol,

a rhaid iddo roi i'r milfeddyg swyddogol neu'r cynorthwy-ydd unrhyw gymorth y bydd yn gofyn yn rhesymol amdano i'w galluogi i gyflawni unrhyw un o'r gwiriadau hynny.

(2Pan fydd sampl o gynnyrch yn cael ei gymryd wrth gynnal gwiriad ffisegol, ni chaiff neb symud y cynnyrch neu beri iddo gael ei symud o'r man archwilio ar y ffin lle cafodd ei roi nes bod y milfeddyg swyddogol wedi awdurdodi ei symud drwy ddyroddi tystysgrif cliriad milfeddygol ar gyfer y cynnyrch neu ar gyfer y llwyth neu'r llwyth rhannol sy'n cynnwys y cynnyrch.

(3Tra'n aros nes bod y cynnyrch yn cael ei symud yn unol â pharagraff (2), rhaid i'r person sy'n gyfrifol am y llwyth sy'n cynnwys y cynnyrch ei storio o dan oruchwyliaeth y milfeddyg swyddogol yn y man ac o dan yr amodau a gyfarwyddir gan y milfeddyg swyddogol a thalu costau ei storio felly.

Tystysgrif cliriad milfeddygol i fynd gyda llwyth

20.—(1Rhaid i'r person sy'n gyfrifol am lwyth neu ran o lwyth y mae tystysgrif cliriad milfeddygol wedi'i dyroddi ar ei gyfer neu ar ei chyfer, ac unrhyw gludydd sydd â gofal drosto am y tro, sicrhau bod y dystysgrif cliriad milfeddygol yn mynd gyda'r llwyth neu'r rhan—

(a)yn achos llwyth neu ran y bwriedir ei fewnforio neu ei mewnforio, ac yn ddarostyngedig i reoliad 37(3), nes bod y llwyth neu'r rhan yn cyrraedd, ar ôl ei fewnforio neu ei mewnforio, y fangre lle mae cynhyrchion yn cael eu storio, eu prosesu, eu trafod, eu prynu neu eu gwerthu, a

(b)ym mhob achos arall tan na fydd y llwyth neu'r rhan yn ddarostyngedig mwyach i oruchwyliaeth gan yr awdurdodau tollau, o fewn ystyr Erthygl 4(13) o'r Cod Tollau.

(3Rhaid i'r person sy'n meddiannu at ddibenion ei fusnes y fangre y cyfeiriwyd ati yn is-baragraff (1)(a) gymryd meddiant ar y dystysgrif cliriad milfeddygol y cyfeiriwyd ati ym mharagraff (1) a dal ei afael arni yn y fangre am gyfnod o flwyddyn gan dechrau ar y diwrnod ar ôl iddi gyrraedd yno.

Cynhyrchion sy'n methu gwiriadau milfeddygol

21.—(1Yn ddarostyngedig i reoliad 22, mae'r rheoliad hwn yn gymwys—

(a)pan fydd y milfeddyg swyddogol wrth fan archwilio ar y ffin yn penderfynu, yn dilyn gwiriad milfeddygol yno, fod cynnyrch (ac eithrio cynnyrch tramwy sy'n bodloni gofynion Rhan 7 neu gynnyrch y cyfeiriwyd at ei sefydliad cyrchfan yn Rheoliad 15(b)) yn gynnyrch nad yw'n cydymffurfio, neu fod rhyw afreoleidd-dra arall mewn perthynas â'r cynnyrch; a

(b)pan fydd swyddog awdurdodedig yn penderfynu, yn dilyn gwiriad milfeddygol ar gynnyrch sydd wedi'i leoli i ffwrdd o fan archwilio ar y ffin (ac eithrio cynnyrch tramwy sy'n bodloni gofynion Rhan 7 neu gynnyrch y cyfeiriwyd at ei sefydliad cyrchfan yn Rheoliad 15(b)), yn penderfynu bod y cynnyrch yn gynnyrch nad yw'n cydymffurfio.

(2Os yw is-baragraff (1)(a) yn gymwys, rhaid i'r milfeddyg swyddogol gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i'r person sy'n gyfrifol am y cynnyrch, ac os yw is-baragraff (1)(b) yn gymwys, rhaid i'r swyddog awdurdodedig gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i'r person ymddangos iddo y mae'n ei fod â gofal dros y cynnyrch, yn ei gwneud yn ofynnol i'r person hwnnw naill ai—

(a)ailanfon y cynnyrch o'r man archwilio ar y ffin, neu, os yw is-baragraff (1)(b) yn gymwys, o fan archwilio ar y ffin sydd wedi'i nodi yn yr hysbysiad, drwy'r dull cludo y cafodd ei gyflwyno i Gymru drwyddo, i gyrchfan y cytunwyd arni gyda'r milfeddyg swyddogol neu'r swyddog awdurdodedig, a'r gyrchfan honno wedi'i lleoli mewn trydedd wlad, o fewn cyfnod o drigain niwrnod gan ddechrau ar y diwrnod ar ôl cyflwyno'r hysbysiad; neu

(b)gwaredu'r cynnyrch yn unol â Rheoliad (EC) Rhif 1774/2002 yn y cyfleusterau agosaf at y man archwilio ar y ffin, a'r rheini'n gyfleusterau a ddarparwyd at y diben hwnnw, neu, os yw is-baragraff (1)(b) yn gymwys, y cyfleusterau agosaf at leoliad y cynnyrch.

(3Rhaid gwaredu'r cynnyrch yn unol ag is-baragraff (2)(b)—

(a)pan fydd ei ailanfon wedi'i ragwahardd ar sail iechyd anifeiliaid neu iechyd y cyhoedd oherwydd canlyniadau gwiriad milfeddgol, neu drwy unrhyw ofyniad o ran iechyd anifeiliaid neu iechyd y cyhoedd sydd wedi'i osod mewn offeryn Cymunedol sydd mewn grym ar y dyddiad y cafodd y Rheoliadau hyn eu gwneud, neu sydd fel arall yn amhosibl; neu

(b)pan fydd y cyfnod o drigain niwrnod y cyfeiriwyd ato yn is-baragraff (2)(a) wedi mynd heibio; neu

(c)pan fydd y person sy'n gyfrifol am y cynnyrch neu, os yw is-baragraff (1)(b) yn gymwys, perchennog y cynnyrch, yn cytuno ar unwaith i'w waredu.

(4Rhaid i'r person sy'n gyfrifol am gynnyrch y mae hysbysiad wedi'i gyflwyno yn unol â pharagraff (2) mewn perthynas ag ef, neu os yw is-baragraff (1)(b) yn gymwys, rhaid i berchennog y cynnyrch hwnnw, sicrhau ei fod yn cael ei storio nes iddo gael ei ailanfon neu ei waredu o dan oruchwyliaeth y milfeddyg swyddogol neu'r swyddog awdurdodedig yn y fan ac o dan yr amodau a gyfarwyddir gan y milfeddyg swyddogol neu'r swyddog awdurdodedig yn yr hysbysiad.

(5Ym mharagraff (1)(a) ystyr “afreoleidd-dra arall” mewn perthynas â chynnyrch yw—

(a)ei gyflwyno i Gymru o drydedd wlad, neu ei roi i fan archwilio ar y ffin ar gyfer cyrchfan yng Nghymru, heb fod hysbysiad wedi'i roi yn unol â rheoliad 17;

(b)unrhyw wybodaeth ffug neu gamarweiniol sydd wedi'i chynnwys mewn hysbysiad a roddwyd yn unol â rheoliad 17;

(c)unrhyw wybodaeth ffug neu gamarweiniol a roddwyd yn unol â rheoliad 45 neu 49;

(ch)unrhyw gamgymeriad, hepgoriad neu wybodaeth ffug neu gamarweiniol mewn dogfen ofynnol, ac unrhyw anghysondeb rhwng dogfen ofynnol ac—

(i)yr hysbysiad a roddwyd yn unol â rheoliad 17 o gyflwyno neu roi'r cynnyrch, neu

(ii)y cynnyrch ei hun, neu

(iii)y seliau, y stampiau, y marciau neu'r labeli ar y cynnyrch, ar y llwyth sy'n cynnwys y cynnyrch neu ar y cynhwysydd sy'n dal y cynnyrch neu'r llwyth;

(d)unrhyw diffyg yn y cynnyrch sy'n ei wneud yn anffit i'w ddefnyddio at y diben y mae, yn ôl y dogfennau gofynnol, wedi'i fwriadu ar ei gyfer;

(dd)unrhyw diffyg yn y seliau, y stampiau, y marciau neu'r labeli y cyfeiriwyd atynt yn is-baragraff (5)(ch)(iii), gan gynnwys, yn achos cynnyrch sydd wedi'i becynnu, unrhyw doriad o'r gofynion labelu sydd wedi'u gosod ar gyfer y cynnyrch hwnnw mewn unrhyw gyfarwyddeb, penderfyniad neu reoliad a restrir yn Atodlen 2;

(e)yn achos cynnyrch sydd wedi'i fwriadu ar gyfer ei fewnforio, unrhyw awgrym yn y dogfennau gofynnol nad yw'r cynnyrch yn cydymffurfio â'r amodau mewnforio; ac

(f)yn achos cynnyrch nad yw'n cydymffurfio ac sy'n gynnyrch tramwy, neu'n gynnyrch y cyfeiriwyd at ei sefydliad cyrchfan yn Rheoliad 15(b), unrhyw doriad o'r gofynion sydd wedi'u gosod ar gyfer y cynnyrch hwnnw nad yw'n cydymffurfio mewn unrhyw gyfarwyddeb, penderfyniad neu reoliad a restrir yn Atodlen 2.

(6Caiff unrhyw berson y mae penderfyniad y cyfeiriwyd ato yn is-baragraff (1)(a) neu (1)(b) yn ei dramgwyddo apelio o fewn mis o'r penderfyniad i lys ynadon ar ffurf cwyn am orchymyn a bydd Deddf Llysoedd Ynadon 1980(3) yn gymwys i'r achos.

(7Tra'n aros i apêl gael ei phenderfynu yn unol â pharagraff (6), bydd paragraff (4) yn gymwys i storio'r cynnyrch o dan sylw.

Triniaeth cynhyrchion fel sgil-gynhyrchion anifeiliaid

22.—(1Os yw'r milfeddyg swyddogol neu'r swyddog awdurdodedig o'r farn nad yw cynnyrch y mae rheoliad 21 yn gymwys iddo yn peri unrhyw risg i iechyd anifeiliaid neu iechyd y cyhoedd, caiff awdurdodi bod y cynnyrch yn cael ei ddefnyddio yn unol â rheoliad 26 o Reoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Cymru) 2003(4) er gwaethaf paragraffau (2), (3) a (4) o reoliad 21.

(2Rhaid i'r awdurdodiad fod yn ysgrifenedig, caniateir ei wneud yn ddarostyngedig i amodau, a'i ddiwygio, ei atal neu ei ddirymu drwy hysbysiad ysgrifenedig ar unrhyw bryd.

(3Caiff yr awdurdodiad bennu p'un o'r defnyddiau yn rheoliad 26 o Reoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Cymru) 2003 a ganiateir.

Cynhyrchion sy'n cynnwys sylweddau anawdurdodedig a gweddillion gormodol

23.—(1Yn y rheoliad hwn—

(a)mae i “sylwedd anawdurdodedig” yr un ystyr ag “unauthorised substance” yng Nghyfarwyddeb y Cyngor 96/23/EC ar fesurau i fonitro sylweddau penodol a gweddillion y sylweddau hynny mewn anifeiliaid byw a chynhyrchion anifeiliaid ac yng Nghyfarwyddebau diddymu 85/358/EEC ac 86/469/EEC a Phenderfyniadau 89/187/EEC a 91/664/EEC(5);

(b)ystyr “terfyn gweddillion uchaf” yw terfyn gweddillion uchaf a restrir yn Atodiad I neu Atodiad III i Reoliad y Cyngor (EEC) Rhif 2377/90 sy'n gosod gweithdrefn Gymunedol ar gyfer sefydlu terfynau gweddillion uchaf cynhyrchion meddyginiaethol milfeddygol mewn bwydydd sy'n tarddu o anifeiliaid(6).

(2Mae'r rheoliad hwn yn gymwys pan fo gwiriad milfeddygol ar lwyth o sefydliad tarddiad penodol mewn trydedd wlad yn datgelu bod sylwedd anawdurdodedig yn bresennol, neu'n datgelu yr aethpwyd dros y terfyn gweddillion uchaf, ond nad oes unrhyw fesurau Cymunedol wedi'u mabwysiadu eto mewn ymateb i hyn.

(3O dan yr amgylchiadau a ddisgrifiwyd ym mharagraff (2), bydd paragraffau (4), (5), (6) a (7) yn gymwys i'r rhai o blith y deg llwyth nesaf a gyflwynwyd i'r Deyrnas Unedig o'r sefydliad hwnnw ac a gyflwynir i Gymru.

(4Rhaid i'r milfeddyg swyddogol wrth y man archwilio ar y ffin lle mae unrhyw lwyth o'r fath yn cael ei gyflwyno, ei gymryd dan ei ofal, drwy gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i'r person sy'n gyfrifol am y llwyth, a gwirio'r gweddillion yn y llwyth drwy gymryd sampl gynyrchioliadol o'r cynhyrchion sy'n ffurfio'r llwyth hwnnw a'i ddadansoddi.

(5Pan fydd hysbysiad wedi'i gyflwyno o dan baragraff (4), rhaid i'r person sy'n gyfrifol am y llwyth roi yng ngofal y milfeddyg swyddogol flaendal neu warant i sicrhau bod yr holl daliadau sy'n daladwy yn unol â Rhan 10 am wiriadau milfeddygol a gyflawnwyd ar y llwyth, gan gynnwys cymryd samplau, ac am unrhyw brawf neu ddadansoddiad labordy a wnaed ar unrhyw sampl a gymerwyd, yn cael eu talu.

(6Os bydd unrhyw wiriad milfeddygol a gyflawnwyd ar y llwyth yn datgelu bod sylweddau anawdurdodedig neu eu gweddillion yn bresennol neu'n datgelu yr aethpwyd dros ben y terfyn gweddillion uchaf, rhaid i'r milfeddyg swyddogol—

(a)drwy arnodi'r dogfennau gofynnol sy'n ymwneud â'r llwyth, roi awgrym clir o'r rhesymau dros ei wrthod; a

(b)ailanfon llwyth, neu unrhyw ran ohono y mae'r milfeddyg swyddogol yn barnu bod presenoldeb sylweddau anawdurdodedig neu eu gweddillion neu weddillion gormodol yn effeithio arni, ynghyd â'r dogfennau gofynnol, i'r drydedd wlad y mae'n tarddu ohoni.

(7Rhaid i gostau ailanfon a chludo'r llwyth neu'r rhan ohono i'r drydedd wlad y mae'n tarddu ohoni gael eu talu gan yr anfonydd y mae ei enw yn ymddangos ar yr hysbysiad o gyflwyno'r llwyth a roddwyd yn unol â Rheoliad 17.

Llwythi a chynhyrchion sy'n cael eu cyflwyno'n anghyfreithlon

24.—(1Mae'r rheoliad hwn yn gymwys —

(a)pan fydd llwyth neu gynnyrch yn cael ei gyflwyno i Gymru o drydedd wlad ond nad yw'n cael ei roi yn unol â rheoliad 18;

(b)pan fydd llwyth neu gynnyrch sy'n tarddu o drydedd wlad wedi'i gyflwyno i Gymru o rywle arall yn y tiriogaethau perthnasol, ond nad yw wedi'i roi wrth fan archwilio ar y ffin yno;

(c)pan fydd y man archwilio ar y ffin ar gyfer y gyrchfan i lwyth o gynhyrchion Erthygl 9 yng Nghymru ond nad yw'r llwyth yn cael ei roi yno yn unol â rheoliad 18(1); ac

(ch)pan fydd llwyth sy'n cael ei gyflwyno i Gymru yn cael ei roi i'r milfeddyg swyddogol wrth fan archwilio ar y ffin nad yw wedi'i ddynodi na'i gymeradwyo ar gyfer gwiriadau milfeddygol ar y cynhyrchion sy'n ffurfio'r llwyth hwnnw.

(2O dan yr amgylchiadau a ddisgrifiwyd yn is-baragraffau (1)(a), (b) ac (c) rhaid i swyddog awdurdodedig, drwy hysbysiad ysgrifenedig a gyflwynir i'r person y mae'n ymddangos ei fod â gofal dros y llwyth, ac, o dan yr amgylchiadau a ddisgrifiwyd yn is-baragraff (1)(ch), rhaid i'r milfeddyg swyddogol, drwy hysbysiad ysgrifenedig a gyflwynir i'r person sy'n gyfrifol amdano, gymryd y llwyth neu'r cynnyrch o dan ei ofal a naill ai —

(a)ei ailanfon, drwy'r dull cludo a ddefnyddiwyd i'w gyflwyno am y tro cyntaf i'r tiriogaethau perthnasol, i gyrchfan y cytunwyd arni gyda'r perchennog, o dan yr amgylchiadau a ddisgrifiwyd yn is-baragraffau 1(a), (b) ac (c), neu gyda'r person sy'n gyfrifol am y llwyth, o dan yr amgylchiadau a ddisgrifiwyd yn is-baragraff (1)(ch), a honno'n gyrchfan mewn trydedd wlad o fewn cyfnod o drigain niwrnod sy'n dechrau ar y diwrnod ar ôl diwrnod cyflwyno'r hysbysiad; neu

(b)ei waredu fel petai'n ddeunydd Categori 1 o dan Reoliad (EC) Rhif 1774/2002 yn y cyfleusterau agosaf at y man lle mae'r swyddog awdurdodedig neu'r milfeddyg swyddogol yn ei gymryd o dan ei ofal a'r rheini'n gyfleusterau a ddarparwyd at y diben hwnnw.

Cynhyrchion sy'n beryglus i iechyd anifeiliaid neu iechyd y cyhoedd

25.  Os yw milfeddyg swyddogol neu swyddog awdurdodedig o'r farn bod llwyth neu gynnyrch o drydedd wlad yn peri risg i iechyd anifeiliaid neu iechyd y cyhoedd rhaid iddo, drwy hysbysiad ysgrifenedig a gyflwynir i'r person y mae'n ymddangos ei fod â gofal dros y llwyth neu'r cynnyrch, ei gymryd o dan ei ofal a'i waredu yn unol â rheoliad 24(2)(b).

Tor-cyfraith difrifol neu fynych

26.—(1Pan fydd y Cynulliad Cenedlaethol neu'r Asiantaeth yn dod i'r casgliad rhesymol, ar sail canlyniadau gwiriadau milfeddygol, fod cynhyrchion o drydedd wlad benodol, rhan benodol o drydedd wlad neu sefydliad penodol mewn trydedd wlad yn gysylltiedig â thor-cyfraith difrifol neu fynych o unrhyw ofyniad a osodwyd mewn offeryn Cymunedol sy'n ymwneud ag iechyd anifeiliaid neu iechyd y cyhoedd, bydd y rheoliad hwn yn gymwys i'r rhai o blith y deg llwyth nesaf a gyflwynwyd i'r Deyrnas Unedig o'r drydedd wlad honno, o ran o drydedd wlad neu o sefydliad, a gyflwynir i Gymru.

(2Rhaid i'r milfeddyg swyddogol wrth y man archwilio ar y ffin lle mae unrhyw lwyth o'r fath yn cael ei gyflwyno, drwy hysbysiad ysgrifenedig a gyflwynir i'r person sy'n gyfrifol am y llwyth, ei gymryd o dan ei ofal a chyflawni gwiriad ffisegol ohono, gan gynnwys cymryd samplau a gwneud profion a dadansoddiadau labordy.

(3Pan fydd hysbysiad wedi'i gyflwyno o dan baragraff (2), rhaid i'r person sy'n gyfrifol am y llwyth roi yng ngofal y milfeddyg swyddogol flaendal neu warant sy'n ddigonol i sicrhau bod pob taliad sy'n daladwy yn unol â Rhan 10 am wiriadau milfeddygol a gyflawnwyd ar y llwyth, gan gynnwys cymryd samplau, ac unrhyw brawf neu ddadansoddiad labordy a wnaed ar unrhyw sampl a gymerwyd, yn cael eu talu.

(4Os bydd unrhyw wiriad milfeddygol sy'n cael ei gyflawni ar y llwyth yn datgelu bod unrhyw ofyniad a osodwyd mewn offeryn Cymunedol ynglŷn ag iechyd anifeiliaid neu iechyd y cyhoedd wedi'i dorri, rhaid i'r milfeddyg swyddogol naill ai ailanfon y llwyth neu ei waredu yn unol â rheoliad 21(2).

Annilysu dogfennau milfeddygol

27.  Pan fydd milfeddyg swyddogol neu swyddog awdurdodedig yn cyflwyno hysbysiad sy'n ei gwneud yn ofynnol bod cynnyrch yn cael ei ailanfon yn unol â rheoliad 21(2)(a), neu'n cymryd llwyth o dan ei ofal yn unol â rheoliad 24(2), rhaid i unrhyw berson sy'n meddu ar y dogfennau gofynnol sy'n ymwneud â'r cynnyrch neu'r llwyth hwnnw neu sy'n eu rheoli eu cyflwyno ar unwaith i'r milfeddyg swyddogol neu'r swyddog awdurdodedig i'w hannilysu.

Costau mewn perthynas â chynhyrchion sy'n cael eu hailanfon neu eu gwaredu

28.—(1Os gofynnir iddo wneud hynny, rhaid i'r person sy'n gyfrifol am y cynnyrch neu'r llwyth o dan sylw neu, os oes hysbysiad wedi'i gyflwyno i'r person y mae'n ymddangos ei fod â gofal dros y cynnyrch neu'r llwyth, perchennog y cynnyrch neu'r llwyth, neu'r person y mae hysbysiad atafaelu yn unol â Deddf Rheoli Tollau Tramor a Chartref 1979 wedi'i gyflwyno iddo, dalu costau storio, cludo, ailanfon a gwaredu unrhyw gynnyrch neu lwyth sy'n cael ei ailanfon neu ei waredu yn unol â rheoliad 21, 24, 25 neu 26, neu unrhyw bwerau sy'n cael eu harfer o dan Ddeddf Rheoli Tollau Tramor a Chartref 1979 wrth orfodi rheoliad 16.

(2Rhaid i unrhyw gost y cyfeiriwyd ati ym mharagraff (1) ac sy'n cael ei thalu gan filfeddyg swyddogol, swyddog awdurdodedig, y Cynulliad Cenedlaethol, awdurdod lleol, yr Asiantaeth neu'r Comisiynwyr gael ei had-dalu, os gofynnir iddo wneud hynny, gan y person sy'n gyfrifol am y cynnyrch neu'r llwyth neu gan berchennog y cynnyrch neu'r llwyth hwnnw.

(1)

O.S. 1995/1086, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1995/1763, 1996/1499, 1699, 1997/1729, 1998/2424, 2000/656 ac, o ran Cymru, gan y Rheoliadau hyn.

(5)

OJ Rhif L125, 23.5.96, t.10, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 806/2003 (OJ Rhif L122, 16.5.03, t.1).

(6)

OJ Rhif L224, 18.8.90, t.1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1873/2003 (OJ Rhif L275, 25.10.03, t.9).

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

You have chosen to open The Whole Instrument

The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open The Whole Instrument as a PDF

The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.

Would you like to continue?

You have chosen to open yr Offeryn Cyfan

Yr Offeryn Cyfan you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open Schedules only

Y Rhestrau you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill