9ZC Hysbysiad gorfodi heneb gofrestredig
73.Mae adran 9ZC(1) a (2) yn caniatáu i Weinidogion Cymru gyflwyno hysbysiadau gorfodi mewn cysylltiad â gwaith anawdurdodedig sydd wedi ei wneud, neu sy’n cael ei wneud, i heneb gofrestredig neu ar dir y mae heneb gofrestredig ynddo, arno neu odano. Wrth ystyried pa un ai i ddyroddi hysbysiad gorfodi, rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw i effeithiau’r gwaith ar yr heneb sydd o bwys cenedlaethol.
74.Mae adran 9ZC(3) yn ei gwneud yn ofynnol i’r hysbysiad gorfodi bennu’r toriad honedig a’r gwaith sydd i ddod i ben a/neu’r camau y mae Gweinidogion Cymru yn ei gwneud yn ofynnol eu bod yn cael eu cymryd. Gall y camau hyn fod yn gamau i adfer yr heneb i’w chyflwr blaenorol neu’r tir i’w gyflwr blaenorol. Os yw Gweinidogion Cymru o’r farn nad yw’r gwaith o adfer yr heneb i’w chyflwr blaenorol neu’r tir i’w gyflwr blaenorol yn ymarferol neu’n ddymunol, caiff yr hysbysiad gorfodi bennu’r camau sy’n ofynnol i leddfu effaith y gwaith anawdurdodedig. Os rhoddwyd caniatâd heneb gofrestredig ar gyfer y gwaith, caiff hysbysiad gorfodi hefyd bennu’r camau sy’n ofynnol er mwyn sicrhau yr adferir yr heneb, neu’r tir, i’r cyflwr y byddai’r heneb neu’r tir wedi bod ynddo pe bai’r gwaith wedi cydymffurfio ag amodau’r cydsyniad heneb gofrestredig.
75.Rhaid i’r hysbysiad gorfodi hefyd nodi’r cyfnod y mae Gweinidogion Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i’r gwaith ddod i ben ynddo a’r cyfnod ar gyfer cymryd unrhyw gamau sy’n ofynnol gan yr hysbysiad. O ystyried y gall fod angen gwneud ystod o waith sy’n amrywio o ran pa mor frys ydyw, mae adran 9ZC(6) yn caniatáu i’r hysbysiad bennu cyfnodau cydymffurfio gwahanol ar gyfer gwaith neu gamau gwahanol. Er enghraifft, caiff yr hysbysiad ei gwneud yn ofynnol i ymchwiliad archaeolegol gael ei gynnal ar unwaith gydag adroddiad yn dilyn.