Chwilio Deddfwriaeth

Nodiadau Esboniadol i Deddf Yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016

Adran 11 – Cytundebau partneriaeth dreftadaeth

58.Mae adran 11 yn mewnosod adrannau newydd 9ZA a 9ZB yn Neddf 1979 sy’n gwneud darpariaeth ar gyfer cytundebau partneriaeth dreftadaeth yng Nghymru. Yn fras, cytundebau rhwng Gweinidogion Cymru a pherchenogion henebion cofrestredig yw cytundebau partneriaeth dreftadaeth y caniateir iddynt roi cydsyniad heneb gofrestredig ar gyfer rhaglen o waith, gan gael gwared ar yr angen i wneud cais am gydsyniad ar wahân ar gyfer pob cyfres o waith.

9ZA Cytundeb partneriaeth dreftadaeth

59.Mae adran 9ZA(1) yn nodi bod rhaid i’r partïon i gytundeb gynnwys Gweinidogion Cymru a pherchennog heneb gofrestredig neu dir sy’n cydffinio â heneb gofrestredig neu dir sydd yng nghyffiniau heneb gofrestredig. Mae adran 9ZA(2) yn caniatáu i bersonau ychwanegol fod yn bartïon i gytundeb, gan gynnwys unrhyw berson a chanddo fuddiant yn yr ased, megis grŵp cymunedol, neu unrhyw berson sy’n ymwneud â rheoli’r ased, megis rheolwr safle.

60.Caiff cytundeb partneriaeth dreftadaeth roi cydsyniad heneb gofrestredig ar gyfer gwaith penodedig at ddiben:

  • symud yr heneb gofrestredig ymaith neu ei hatgyweirio, neu

  • gwneud unrhyw newidiadau i’r heneb neu ychwanegiadau ati.

61.Caiff cytundeb hefyd bennu unrhyw amodau sydd ynghlwm wrth y cydsyniad hwnnw.

62.Ni chaiff cytundeb partneriaeth dreftadaeth roi cydsyniad heneb gofrestredig ar gyfer gwaith sy’n arwain at ddymchwel neu ddinistrio heneb gofrestredig neu wneud unrhyw ddifrod iddi (adran 2(2)(a) o Ddeddf 1979) nac ychwaith ar gyfer unrhyw lifogydd neu weithrediadau tipio ar y tir, yn y tir neu o dan y tir lle y mae heneb gofrestredig (adran 2(2)(c) o Ddeddf 1979).

63.Mae adran 9ZA(4) yn nodi’r ystod o faterion ychwanegol y caiff cytundeb partneriaeth dreftadaeth wneud darpariaeth ar eu cyfer, gan gynnwys y fanyleb o waith y mae’r partïon yn cytuno na fyddai cydsyniad heneb gofrestredig yn ofynnol ar ei gyfer.

64.Mae adran 9ZA(6) a (7) yn diffinio perchennog (“owner”) at ddiben cytundebau partneriaeth dreftadaeth ac yn caniatáu i Weinidogion Cymru ymrwymo i gytundeb ag unrhyw un neu ragor o berchenogion heneb gofrestredig sydd o dan amlberchenogaeth, heb orfod ymrwymo i gytundeb â phob un o’r perchenogion hynny.

9ZB Cytundeb partneriaeth dreftadaeth: atodol

65.Mae adran newydd 9ZB yn gwneud darpariaeth atodol mewn perthynas â chytundebau partneriaeth dreftadaeth. Mae adran 9ZB(1) yn pennu bod rhaid i gytundebau o’r fath fod yn ysgrifenedig a rhaid iddynt wneud darpariaeth ar gyfer adolygu, terfynu ac amrywio’r cytundebau gan y partïon.

66.Mae adran 9ZB(2) yn ei gwneud yn glir y gall mwy nag un heneb gofrestredig fod yn destun cytundeb, ar yr amod bod Gweinidogion Cymru a’r perchennog yn bartïon i’r cytundeb ym mhob achos.

67.Mae adran 9ZB(3) yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau i ddarparu ar gyfer: yr ymgynghori a’r cyhoeddusrwydd y mae eu hangen ar gyfer creu neu amrywio cytundeb partneriaeth dreftadaeth; telerau y mae rhaid eu cynnwys mewn cytundeb partneriaeth dreftadaeth; a therfynu cytundeb partneriaeth dreftadaeth neu unrhyw ddarpariaeth ohono.

68.Mae adran 9ZB(4) a (5) yn pennu’r personau y mae rhaid ymgynghori â hwy o dan y trefniadau ymgynghori ar gyfer creu neu amrywio cytundeb partneriaeth dreftadaeth. Mae’r trefniadau ymgynghori yn wahanol ar gyfer cytundeb partneriaeth dreftadaeth sy’n cynnwys heneb gofrestredig ac ar gyfer cytundeb partneriaeth dreftadaeth sy’n cynnwys tir sy’n cydffinio â heneb gofrestredig neu dir sydd yng nghyffiniau heneb gofrestredig.

69.Mae adran 9ZB(6) yn darparu y gall y rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru sy’n galluogi i gytundeb partneriaeth dreftadaeth gael ei therfynu drwy orchymyn gynnwys darpariaeth atodol, gysylltiedig, ddarfodol, drosiannol neu arbed.

70.Mae adran 9ZB(7) yn caniatáu i’r rheoliadau ddatgymhwyso, cymhwyso neu atgynhyrchu, gydag addasiadau neu hebddynt, unrhyw ddarpariaethau o Ddeddf 1979 at ddiben cytundebau partneriaeth dreftadaeth.

71.Mae adran 9ZB(8) yn darparu na fydd cytundebau partneriaeth dreftadaeth ond yn rhwymo’r partïon i’r cytundebau hynny. Ni fydd perchenogion yr heneb gofrestredig yn y dyfodol yn cael eu rhwymo gan gytundeb partneriaeth dreftadaeth, nac ychwaith yn gallu manteisio ar unrhyw gydsyniad heneb gofrestredig a roddir gan y cytundeb.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Nodiadau Esboniadol

Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of the National Assembly for Wales.

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill