Chwilio Deddfwriaeth

Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

RHAN 2NEWID YN YR HINSAWDD

Rhagarweiniad

28Diben y Rhan hon

Diben y Rhan hon yw ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyrraedd targedau ar gyfer lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr o Gymru.

Targedau allyriadau a chyllidebau carbon: y prif ddyletswyddau ar Weinidogion Cymru

29Targed allyriadau 2050

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau bod cyfrif allyriadau net Cymru ar gyfer y flwyddyn 2050 o leiaf 80% yn is na’r waelodlin.

(2)Gweler adran 33 am ystyr “cyfrif allyriadau net Cymru”, a gweler adran 38 am ystyr y “waelodlin”.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, ddiwygio is-adran (1) fel ei bod yn pennu canran sy’n fwy nag 80%.

(4)Yn y Rhan hon, cyfeirir at y targed yn is-adran (1) fel “targed allyriadau 2050”.

30Targedau allyriadau interim

(1)Ar gyfer pob blwyddyn darged interim rhaid i Weinidogion Cymru, drwy reoliadau, osod uchafswm ar gyfer cyfrif allyriadau net Cymru, a fynegir fel canran islaw’r waelodlin (“targed allyriadau interim”).

(2)Rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau nad yw cyfrif allyriadau net Cymru ar gyfer pob blwyddyn darged interim yn uwch na’r targed allyriadau interim ar gyfer y flwyddyn honno.

(3)Y blynyddoedd targed interim yw 2020, 2030 a 2040.

(4)Rhaid i Weinidogion Cymru osod y targedau allyriadau interim cyn diwedd 2018.

31Cyllidebau carbon

(1)Ar gyfer pob cyfnod cyllidebol, rhaid i Weinidogion Cymru osod drwy reoliadau gyfanswm uchaf ar gyfer cyfrif allyriadau net Cymru (“cyllideb garbon”).

(2)Rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau nad yw cyfrif allyriadau net Cymru ar gyfer pob cyfnod cyllidebol yn uwch na’r gyllideb garbon ar gyfer y cyfnod hwnnw.

(3)Y cyfnodau cyllidebol yw—

(a)2016 i 2020, a

(b)pob cyfnod dilynol o bum mlynedd, sy’n dod i ben â 2046 i 2050.

(4)Rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)gosod y cyllidebau carbon ar gyfer y ddau gyfnod cyllidebol cyntaf cyn diwedd 2018, a

(b)gosod y gyllideb garbon ar gyfer y trydydd cyfnod cyllidebol a’r cyfnodau cyllidebol diweddarach o leiaf bum mlynedd cyn dechrau’r cyfnod o dan sylw.

32Targedau allyriadau a chyllidebau carbon: egwyddorion

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)gosod pob targed allyriadau interim ar lefel y maent wedi eu bodloni ei bod yn gyson â chyrraedd targed allyriadau 2050, a

(b)gosod y gyllideb garbon ar gyfer pob cyfnod cyllidebol ar lefel y maent wedi eu bodloni ei bod yn gyson â chyrraedd—

(i)targed allyriadau 2050, a

(ii)y targed allyriadau interim ar gyfer unrhyw flwyddyn darged interim sydd o fewn y cyfnod cyllidebol hwnnw neu’n dod ar ei ôl.

(2)Ni chaiff Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau sy’n newid targed allyriadau 2050, targed allyriadau interim neu gyllideb garbon oni bai bod o leiaf un o’r amodau a ganlyn wedi ei fodloni—

(a)eu bod wedi eu bodloni ei bod yn briodol gwneud y newid o ganlyniad i ddatblygiadau sylweddol o ran—

(i)gwybodaeth wyddonol ynghylch newid yn yr hinsawdd, neu

(ii)cyfreithiau neu bolisïau’r UE neu gyfreithiau neu bolisïau rhyngwladol sy’n ymwneud â newid yn yr hinsawdd;

(b)bod y corff cynghori wedi argymell y newid;

(c)bod y newid yn gysylltiedig â darpariaeth a wneir o dan adran 35(1) neu 37(2).

(3)Wrth wneud rheoliadau sy’n newid targed allyriadau 2050, neu’n gosod neu’n newid targed allyriadau interim neu gyllideb garbon, rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw i—

(a)yr adroddiad diweddaraf o dan adran 8 ar gyflwr adnoddau naturiol mewn perthynas â Chymru,

(b)yr adroddiad tueddiadau tebygol y dyfodol diweddaraf o dan adran 11 o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (dccc 2),

(c)yr adroddiad diweddaraf (os oes un) o dan adran 23 o’r Ddeddf honno (adroddiad cenedlaethau’r dyfodol),

(d)gwybodaeth wyddonol ynghylch newid yn yr hinsawdd,

(e)technoleg sy’n berthnasol i newid yn yr hinsawdd, ac

(f)cyfreithiau a pholisïau’r UE a chyfreithiau a pholisïau rhyngwladol sy’n ymwneud â newid yn yr hinsawdd (gan gynnwys cytundebau rhyngwladol ar fesurau a gynlluniwyd i gyfyngu ar gynnydd mewn tymheredd cyfartalog byd-eang).

(4)Mae adrannau 49 a 50 yn gwneud darpariaeth ynghylch y cyngor y mae’n rhaid i Weinidogion Cymru ei gael gan y corff cynghori, a’i ystyried, cyn gwneud rheoliadau sy’n newid targed allyriadau 2050 neu’n gosod neu’n newid targed allyriadau interim neu gyllideb garbon.

Targedau a chyllidebau: cwmpas a phrif gysyniadau

33Cyfrif allyriadau net Cymru

(1)“Cyfrif allyriadau net Cymru” ar gyfer cyfnod yw’r swm a gyfrifir fel a ganlyn—

(a)penderfynu swm allyriadau net Cymru o nwyon tŷ gwydr am y cyfnod yn unol ag adran 34;

(b)tynnu swm yr unedau carbon a gredydir i gyfrif allyriadau net Cymru am y cyfnod;

(c)ychwanegu swm yr unedau carbon a ddidynnir o gyfrif allyriadau net Cymru am y cyfnod.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru wneud darpariaeth ynghylch y canlynol drwy reoliadau—

(a)o dan ba amgylchiadau y caniateir credydu unedau carbon i gyfrif allyriadau net Cymru am gyfnod;

(b)o dan ba amgylchiadau y mae’n rhaid didynnu unedau carbon o gyfrif allyriadau net Cymru am gyfnod;

(c)sut y mae hynny i gael ei wneud.

(3)Rhaid i’r rheoliadau gynnwys darpariaeth ar gyfer sicrhau bod unedau carbon sy’n cael eu credydu i gyfrif allyriadau net Cymru am gyfnod yn peidio â bod ar gael i’w gosod yn erbyn allyriadau eraill o nwy tŷ gwydr.

(4)Rhaid i Weinidogion Cymru osod terfyn, drwy reoliadau, ar swm net yr unedau carbon y caniateir gostwng cyfrif allyriadau net Cymru am gyfnod o ganlyniad i gymhwyso is-adran (1)(b) ac (c).

(5)Caiff y rheoliadau ddarparu nad yw unedau carbon o ddisgrifiad a bennir yn y rheoliadau yn cyfrannu at y terfyn.

34Allyriadau net Cymru

(1)Yn y Rhan hon, ystyr “allyriadau net Cymru” o nwy tŷ gwydr am gyfnod yw swm allyriadau Cymru o’r nwy hwnnw am y cyfnod, wedi ei ostwng yn ôl swm echdyniadau Cymru o’r nwy hwnnw am y cyfnod.

(2)Ystyr “allyriadau Cymru” o nwy tŷ gwydr yw—

(a)allyriadau o’r nwy hwnnw o ffynonellau yng Nghymru, a

(b)allyriadau o’r nwy hwnnw o hedfan rhyngwladol neu forgludiant rhyngwladol sy’n cyfrif fel allyriadau Cymru yn rhinwedd rheoliadau o dan adran 35.

(3)Ystyr “echdyniadau Cymru” o nwyon tŷ gwydr yw echdyniadau o’r nwy hwnnw o’r atmosffer o ganlyniad i ddefnydd tir yng Nghymru, newid mewn defnydd tir yng Nghymru neu weithgareddau coedwigaeth yng Nghymru.

(4)Rhaid i symiau allyriadau Cymru ac echdyniadau Cymru o nwy tŷ gwydr ar gyfer cyfnod gael eu penderfynu yn gyson ag arferion rhyngwladol adrodd ar garbon, cyn belled ag y bo hynny’n rhesymol ymarferol.

35Allyriadau Cymru o hedfan a morgludiant rhyngwladol

(1)Caiff Gweinidogion Cymru wneud darpariaeth drwy reoliadau i allyriadau o nwy tŷ gwydr o hedfan rhyngwladol a morgludiant rhyngwladol gyfrif fel allyriadau Cymru o’r nwy.

(2)Caiff y rheoliadau—

(a)pennu gweithgareddau sydd i’w hystyried yn hedfan rhyngwladol neu’n forgludiant rhyngwladol;

(b)pennu o dan ba amgylchiadau, ac i ba raddau, y mae allyriadau o nwy tŷ gwydr o hedfan rhyngwladol neu forgludiant rhyngwladol i gyfrif fel allyriadau Cymru o’r nwy hwnnw;

(c)pennu o ba gyfnod (pa un a yw yn y gorffennol neu yn y dyfodol) y mae allyriadau o nwy tŷ gwydr o hedfan rhyngwladol neu forgludiant rhyngwladol i gyfrif fel allyriadau Cymru o’r nwy hwnnw;

(d)gwneud darpariaeth ynghylch sut y mae allyriadau o nwy tŷ gwydr o hedfan rhyngwladol neu forgludiant rhyngwladol i gael eu hystyried wrth benderfynu ar allyriadau Cymru o’r nwy am y flwyddyn waelodlin ar gyfer y nwy hwnnw;

(e)gwneud darpariaeth wahanol ar gyfer gwahanol nwyon tŷ gwydr a gwahanol gyfnodau.

36Unedau carbon

(1)Yn y Rhan hon, ystyr “uned garbon” yw uned o fath a bennir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru ac sy’n cynrychioli—

(a)gostyngiad mewn swm o allyriadau nwy tŷ gwydr,

(b)echdyniad o swm o nwy tŷ gwydr o’r atmosffer, neu

(c)swm o allyriadau nwy tŷ gwydr a ganiateir o dan gynllun neu drefniant sy’n gosod terfyn ar allyriadau o’r fath.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru wneud darpariaeth drwy reoliadau ar gyfer cynllun—

(a)i gofrestru unedau carbon neu gadw cyfrif ohonynt fel arall, neu

(b)i sefydlu a chynnal cyfrifon y caniateir i Weinidogion Cymru gadw unedau carbon ynddynt, a’u trosglwyddo rhyngddynt.

(3)Caiff y rheoliadau wneud darpariaeth, yn benodol, i gynllun cyfredol gael ei addasu at y dibenion hyn (gan gynnwys drwy ddiwygio unrhyw ddeddfiad sy’n ymwneud â’r cynllun cyfredol).

(4)Caiff y rheoliadau wneud darpariaeth—

(a)i benodi person (“gweinyddwr”) i weinyddu’r cynllun;

(b)sy’n rhoi swyddogaethau i’r gweinyddwr neu’n gosod swyddogaethau arno at y diben hwnnw (gan gynnwys drwy ddiwygio unrhyw ddeddfiad sy’n ymwneud â’r gweinyddwr);

(c)sy’n rhoi’r pŵer i Weinidogion Cymru roi canllawiau neu gyfarwyddydau i’r gweinyddwr;

(d)sy’n rhoi’r pŵer i Weinidogion Cymru ddirprwyo’r gwaith o gyflawni unrhyw un neu ragor o’r swyddogaethau a roddir i Weinidogion Cymru neu a osodir arnynt gan y rheoliadau;

(e)i’w gwneud yn ofynnol i bersonau sy’n defnyddio’r cynllun wneud taliadau (y penderfynir eu symiau gan y rheoliadau neu oddi tanynt) tuag at y gost o’i weithredu.

37Nwyon tŷ gwydr

(1)At ddibenion y Rhan hon, mae pob un o’r canlynol yn “nwy tŷ gwydr”—

(a)carbon deuocsid;

(b)methan;

(c)ocsid nitraidd;

(d)hydrofflworocarbonau;

(e)perfflworocarbonau;

(f)sylffwr hecsafflworid;

(g)nitrogen trifflworid.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio is-adran (1) drwy reoliadau er mwyn ychwanegu nwy neu ddiwygio disgrifiad o nwy.

38Y waelodlin

(1)Yn y Rhan hon, ystyr y “waelodlin” yw swm cyfanredol allyriadau net Cymru o nwyon tŷ gwydr ar gyfer y blynyddoedd gwaelodlin.

(2)Y flwyddyn waleodlin ar gyfer pob nwy tŷ gwydr yw—

(a)carbon deuocsid: 1990;

(b)methan: 1990;

(c)ocsid nitraidd: 1990;

(d)hydrofflworocarbonau: 1995;

(e)perfflworocarbonau: 1995;

(f)sylffwr hecsafflworid: 1995;

(g)nitrogen trifflworid: 1995.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio is-adran (2) drwy reoliadau er mwyn—

(a)pennu’r flwyddyn waelodlin ar gyfer nwy tŷ gwydr a ychwanegir gan reoliadau o dan adran 37(2);

(b)addasu’r flwyddyn waelodlin ar gyfer nwy tŷ gwydr.

(4)Ni chaiff Gweinidogion Cymru wneud darpariaeth o dan is-adran (3)(b) onid ydynt wedi eu bodloni ei bod yn briodol gwneud hynny o ganlyniad i ddatblygiadau sylweddol yn nghyfreithiau neu bolisïau’r UE neu gyfreithiau neu bolisïau rhyngwladol sy’n ymwneud â newid yn yr hinsawdd.

Cydymffurfio â chyllidebau carbon: adroddiadau a datganiadau gan Weinidogion Cymru

39Cynigion a pholisïau ar gyfer cyrraedd cyllideb garbon

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru baratoi a chyhoeddi adroddiad ar gyfer pob cyfnod cyllidebol yn amlinellu eu cynigion a’u polisïau ar gyfer cyrraedd y gyllideb garbon ar gyfer y cyfnod hwnnw.

(2)Rhaid i’r adroddiad nodi cynigion a pholisïau sy’n ymwneud â meysydd cyfrifoldeb pob un o Weinidogion Cymru.

(3)Rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)cyhoeddi’r adroddiad ar gyfer y cyfnod cyllidebol cyntaf cyn gynted ag sy’n rhesymol ymarferol ar ôl gosod y gyllideb garbon ar gyfer y cyfnod hwnnw;

(b)cyhoeddi’r adroddiad ar gyfer yr ail gyfnod cyllidebol a’r cyfnodau cyllidebol diweddarach cyn diwedd blwyddyn gyntaf y cyfnod o dan sylw.

40Cario symiau o un cyfnod cyllidebol i un arall

(1)Caiff Gweinidogion Cymru benderfynu cario rhan o’r gyllideb garbon ar gyfer cyfnod cyllidebol yn ôl i’r cyfnod cyllidebol blaenorol.

(2)Mae’r gyllideb garbon ar gyfer y cyfnod diweddarach yn cael ei gostwng, a’r gyllideb garbon ar gyfer y cyfnod cynharach yn cael ei chynyddu, yn ôl y swm a gariwyd yn ôl.

(3)Ni chaiff y swm sy’n cael ei gario yn ôl fod yn fwy nag 1% o’r gyllideb garbon ar gyfer y cyfnod diweddarach.

(4)Caiff Gweinidogion Cymru benderfynu cario unrhyw ran o’r gyllideb garbon ar gyfer cyfnod cyllidebol nas defnyddiwyd ymlaen i’r cyfnod cyllidebol nesaf.

(5)Mae’r gyllideb garbon ar gyfer y cyfnod diweddarach yn cael ei chynyddu, a’r gyllideb garbon ar gyfer y cyfnod cynharach yn cael ei gostwng, yn ôl y swm a gariwyd ymlaen.

(6)Mae’r gyllideb garbon ar gyfer cyfnod yn un “nas defnyddiwyd” i’r graddau ei bod yn fwy na chyfrif allyriadau net Cymru ar gyfer y cyfnod.

(7)Cyn penderfynu cario swm yn ôl neu ymlaen o dan yr adran hon, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r corff cynghori.

41Datganiad terfynol ar gyfer cyfnod cyllidebol

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)paratoi datganiad terfynol ar gyfer pob cyfnod cyllidebol yn unol â’r adran hon, a

(b)gosod y datganiad gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru cyn diwedd yr ail flwyddyn ar ôl y cyfnod y mae’r datganiad yn ymwneud ag ef.

(2)Rhaid i ddatganiad terfynol o dan yr adran hon ddatgan, mewn perthynas â phob nwy tŷ gwydr, gyfanswm allyriadau Cymru, echdyniadau Cymru ac allyriadau net Cymru ar gyfer y cyfnod cyllidebol y mae’r datganiad yn ymwneud ag ef.

(3)Rhaid iddo—

(a)datgan cyfanswm yr unedau carbon a gredydwyd i gyfrif allyriadau net Cymru neu a ddidynnwyd ohono am y cyfnod, a

(b)rhoi manylion am nifer yr unedau hynny a’r math o unedau.

(4)Rhaid iddo ddatgan swm terfynol cyfrif allyriadau net Cymru ar gyfer y cyfnod.

(5)Rhaid iddo ddatgan a yw Gweinidogion Cymru wedi penderfynu cario swm yn ôl neu ymlaen o dan adran 40 er mwyn cynyddu neu ostwng y gyllideb garbon ar gyfer y cyfnod, ac os felly rhaid iddo ddatgan y swm a gariwyd yn ôl neu ymlaen.

(6)Rhaid iddo ddatgan swm terfynol y gyllideb garbon ar gyfer y cyfnod.

(7)Penderfynir a gyrhaeddwyd y gyllideb garbon ar gyfer y cyfnod drwy gyfeirio at yr wybodaeth yn y datganiad.

(8)Rhaid i’r datganiad egluro’r rhesymau y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn gyfrifol am y ffaith bod y gyllideb garbon ar gyfer y cyfnod wedi ei chyrraedd, neu nad yw ei chyrraedd.

(9)Yn benodol, rhaid iddo gynnwys asesiad Gweinidogion Cymru ynghylch i ba raddau y mae eu cynigion a’u polisïau ar gyfer cyrraedd y gyllideb garbon ar gyfer y cyfnod—

(a)wedi eu gweithredu, a

(b)wedi cyfrannu at gyrraedd y gyllideb garbon ar gyfer y cyfnod (neu beidio â’i chyrraedd).

(10)Rhaid i’r asesiad ymdrin â meysydd cyfrifoldeb pob un o Weinidogion Cymru.

(11)Rhaid i ddatganiad o dan yr adran hon hefyd gynnwys—

(a)amcangyfrif o gyfanswm allyriadau defnyddwyr Cymru ar gyfer y cyfnod cyllidebol y mae’r datganiad yn ymwneud ag ef, a

(b)eglurhad o sut y mae Gweinidogion Cymru wedi cyfrifo’r amcangyfrif.

(12)Ystyr “allyriadau defnyddwyr Cymru” ar gyfer cyfnod yw’r allyriadau o nwyon tŷ gwydr, boed hwy yng Nghymru neu yn rhywle arall, y gellir eu priodoli yn rhesymol i ddefnyddio nwyddau a gwasanaethau yng Nghymru yn ystod y cyfnod.

42Cynigion a pholisïau pan nad yw cyllideb garbon wedi ei chyrraedd

(1)Mae’r adran hon yn gymwys os yw Gweinidogion Cymru wedi gosod datganiad terfynol gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru mewn cysylltiad â chyfnod cyllidebol lle mae allyriadau net Cymru yn fwy na’r gyllideb garbon.

(2)Yn ddim hwyrach na thri mis ar ôl gosod y datganiad, rhaid i Weinidogion Cymru osod adroddiad gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn nodi cynigion a pholisïau i wneud iawn am yr allyriadau sy’n fwy na’r gyllideb garbon mewn cyfnodau cyllidebol diweddarach.

Cydymffurfio â thargedau allyriadau: datganiadau gan Weinidogion Cymru

43Datganiadau ar gyfer blynyddoedd targed interim a 2050

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)paratoi datganiad ar gyfer pob blwyddyn darged interim ac ar gyfer y flwyddyn 2050 yn unol â’r adran hon, a

(b)gosod pob datganiad gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru cyn diwedd yr ail flwyddyn ar ôl y flwyddyn y mae’r datganiad yn ymwneud â hi.

(2)Rhaid i ddatganiad o dan yr adran hon ddatgan, mewn perthynas â phob nwy tŷ gwydr, gyfanswm allyriadau Cymru, echdyniadau Cymru ac allyriadau net Cymru ar gyfer y flwyddyn y mae’r datganiad yn ymwneud â hi.

(3)Rhaid iddo—

(a)datgan cyfanswm yr unedau carbon a gredydwyd i gyfrif allyriadau net Cymru neu a ddidynwyd ohono am y flwyddyn, a

(b)rhoi manylion am nifer yr unedau hynny a’r math o unedau.

(4)Rhaid iddo ddatgan swm cyfrif allyriadau net Cymru ar gyfer y flwyddyn.

(5)Penderfynir a gyrhaeddwyd targed allyriadau interim neu darged allyriadau 2050 drwy gyfeirio at yr wybodaeth yn y datganiad ar gyfer y flwyddyn y mae’r targed yn ymwneud â hi.

(6)Rhaid i’r datganiad egluro’r rhesymau y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn gyfrifol am y ffaith bod y targed wedi ei gyrraedd, neu nad yw ei gyrraedd.

(7)Caniateir i ddatganiad o dan yr adran hon ar gyfer blwyddyn gael ei gyfuno â’r datganiad o dan adran 41 ar gyfer y cyfnod cyllidebol sy’n cynnwys y flwyddyn honno.

Swyddogaethau corff cynghori: adroddiadau a chyngor

44Corff cynghori

(1)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau—

(a)sefydlu corff corfforaethol i arfer swyddogaethau’r corff cynghori o dan y rhan hon, neu

(b)dynodi person i fod yn gorff cynghori at ddibenion y Rhan hon.

(2)Ni chaiff y rheoliadau ddynodi person onid yw’r person yn arfer swyddogaethau o natur gyhoeddus.

(3)Os nad oes rheoliadau o dan is-adran (1) mewn grym, y corff cynghori yw’r Pwyllgor ar Newid Hinsawdd a sefydlwyd o dan adran 32 o Ddeddf Newid yn yr Hinsawdd 2008 (p. 27).

(4)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1)(a), yn benodol, gynnwys darpariaeth ynghylch—

(a)statws ac aelodaeth y corff a sefydlir gan y rheoliadau;

(b)cyflogi staff gan y corff;

(c)tâl, lwfansau a phensiynau ar gyfer aelodau a staff;

(d)trefniadaeth a gweithdrefn y corff;

(e)adroddiadau a chyfrifon (gan gynnwys archwilio).

(5)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1)(a) alluogi Gweinidogion Cymru i roi cyfarwyddydau i’r corff mewn perthynas â’r materion a grybwyllir yn is-adran (4).

(6)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) wneud darpariaeth gysylltiedig, atodol, ganlyniadol, drosiannol neu arbed, a all gynnwys darpariaeth sy’n diwygio, yn diddymu neu’n dirymu deddfiad.

45Adroddiadau cynnydd

(1)Cyn diwedd y cyfnod cyllidebol cyntaf, rhaid i’r corff cynghori anfon adroddiad at Weinidogion Cymru yn nodi safbwyntiau’r corff ynghylch—

(a)y cynnydd a wnaed tuag at gyrraedd—

(i)y cyllidebau carbon sydd wedi eu gosod o dan y Rhan hon,

(ii)y targedau allyriadau interim, a

(iii)targed allyriadau 2050,

(b)a yw’r cyllidebau a’r targedau hynny yn debygol o gael eu cyrraedd, ac

(c)unrhyw fesurau pellach sy’n angenrheidiol er mwyn cyrraedd y cyllidebau a’r targedau hynny.

(2)Yn ddim hwyrach na chwe mis ar ôl i Weinidogion Cymru osod y datganiad terfynol ar gyfer cyfnod cyllidebol gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 41, rhaid i’r corff cynghori anfon adroddiad at Weinidogion Cymru sy’n nodi safbwyntiau’r corff ynghylch—

(a)y modd y cyrhaeddwyd neu nas cyrhaeddwyd y gyllideb garbon ar gyfer y cyfnod,

(b)y camau a gymerwyd gan Weinidogion Cymru i leihau allyriadau net Cymru o nwyon tŷ gwydr yn ystod y cyfnod, a

(c)y materion a nodir yn is-adran (1).

(3)Yn ddim hwyrach na chwe mis ar ôl i Weinidogion Cymru osod y datganiad o dan adran 43 mewn perthynas â 2030 gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru, rhaid i’r corff cynghori anfon adroddiad at Weinidogion Cymru sy’n nodi safbwyntiau’r corff ynghylch⁠—

(a)a yw’r targed allyriadau interim ar gyfer 2040 a tharged allyriadau 2050 y targedau uchaf y gellir eu cyflawni, a

(b)os nad y targed uchaf y gellir ei gyflawni yw’r naill neu’r llall ohonynt, beth yw’r targed uchaf y gellir ei gyflawni.

(4)Yn ddim hwyrach na chwe mis ar ôl i Weinidogion Cymru osod y datganiad o dan adran 43 mewn perthynas â 2040 gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru, rhaid i’r corff cynghori anfon adroddiad at Weinidogion Cymru sy’n nodi safbwyntiau’r corff ynghylch⁠—

(a)a yw targed allyriadau 2050 y targed uchaf y gellir ei gyflawni,

(b)os nad ydyw, beth yw’r targed uchaf y gellir ei gyflawni.

(5)Caniateir cyfuno adroddiad o dan is-adran (3) neu (4) ag adroddiad o dan is-adran (2).

(6)Rhaid i Weinidogion Cymru osod copi o bob adroddiad a dderbynnir ganddynt o dan yr adran hon gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

(7)Rhaid i Weinidogion Cymru osod ymateb i’r pwyntiau a godwyd gan yr adroddiad gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn ddim hwyrach na chwe mis ar ôl cael yr adroddiad.

46Dyletswydd ar y corff cynghori i ddarparu cyngor a chymorth

Os yw Gweinidogion Cymru yn gofyn iddo wneud hynny, rhaid i’r corff cynghori roi i Weinidogion Cymru y cyngor, y dadansoddiad, yr wybodaeth neu’r cymorth arall sy’n berthnasol i—

(a)arfer swyddogaethau Gweinidogion Cymru o dan y Rhan hon, neu

(b)unrhyw faterion eraill sy’n ymwneud â newid yn yr hinsawdd.

47Canllawiau i’r corff cynghori

(1)Wrth arfer ei swyddogaethau o dan y Rhan hon, rhaid i’r corff cynghori roi sylw i unrhyw ganllawiau a roddir iddo gan Weinidogion Cymru.

(2)Ni chaiff Gweinidogion Cymru roi canllawiau i’r corff cynghori ynghylch cynnwys unrhyw gyngor neu adroddiad.

Rheoliadau: gweithdrefn a chyngor

48Rheoliadau: gweithdrefn

(1)Mae pŵer i wneud rheoliadau o dan y Rhan hon i’w arfer drwy offeryn statudol.

(2)Mae offeryn statudol yn ddarostyngedig i’w ddiddymu yn unol â phenderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru os yw’n cynnwys y canlynol yn unig—

(a)rheoliadau o dan adran 44(1)(b) nad ydynt yn gwneud darpariaeth sy’n diwygio neu’n diddymu deddfiad sydd wedi ei gynnwys mewn Deddf Seneddol neu mewn Mesur neu Ddeddf Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

(b)rheoliadau o dan adran 52.

(3)Ni chaniateir i unrhyw offeryn statudol arall sy’n cynnwys rheoliadau o dan y Rhan hon gael ei wneud oni bai bod drafft o’r offeryn wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a’i gymeradwyo drwy benderfyniad ganddo.

49Gofyniad i gael cyngor ynghylch cynigion i wneud rheoliadau

(1) Cyn gosod rheoliadau drafft gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 48(3), rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)gofyn am gyngor gan y corff cynghori ynghylch y cynnig i wneud y rheoliadau, a

(b)ystyried cyngor y corff cynghori.

(2)Pan fo Gweinidogion Cymru yn gofyn am gyngor gan y corff cynghori o dan yr adran hon, rhaid iddynt bennu cyfnod rhesymol y mae’n rhaid darparu’r cyngor oddi fewn iddo.

(3)Rhaid i’r corff cynghori ddarparu’r cyngor o fewn y cyfnod hwnnw.

(4)Rhaid i gyngor y corff cynghori nodi’r rhesymau dros y cyngor.

(5)Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi cyngor y corff cynghori cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl ei gael.

(6)Os yw’r rheoliadau drafft a osodir gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud darpariaeth wahanol i’r hyn a argymhellwyd gan y corff cynghori, rhaid i Weinidogion Cymru hefyd osod datganiad gerbron y Cynulliad Cenedlaethol sy’n nodi’r rhesymau paham y gwnaed hynny.

(7)Nid yw’r adran hon yn gymwys i reoliadau o dan adran 44.

50Cyngor ynghylch rheoliadau arfaethedig sy’n ymwneud â thargedau a chyllidebau

(1)Pan fo’r corff cynghori yn rhoi cyngor i Weinidogion Cymru ynghylch cynnig i wneud rheoliadau o dan adran 29 sy’n newid targed allyriadau 2050 neu reoliadau o dan adran 30 sy’n gosod neu’n newid targed allyriadau interim, rhaid i’r cyngor gynnwys barn y corff cynghori ynghylch—

(a)a yw’r targed a gynigir gan Weinidogion Cymru y targed uchaf y gellir ei gyflawni, a

(b)os nad ydyw, beth yw’r targed uchaf y gellir ei gyflawni.

(2)Pan fo’r corff cynghori yn rhoi cyngor i Weinidogion Cymru ynghylch cynnig i wneud rheoliadau o dan adran 31 sy’n gosod neu’n newid cyllideb garbon ar gyfer cyfnod cyllidebol, rhaid i’r cyngor gynnwys barn y corff cynghori ynghylch—

(a)lefel briodol y gyllideb garbon ar gyfer y cyfnod;

(b)i ba raddau y dylid cyrraedd y gyllideb garbon ar gyfer y cyfnod—

(i)drwy ostwng swm allyriadau net Cymru o nwyon tŷ gwydr, neu

(ii)drwy ddefnyddio unedau carbon y caniateir eu credydu i gyfrif allyriadau net Cymru ar gyfer y cyfnod yn unol â rheoliadau o dan adrannau 33 a 36;

(c)y cyfraniadau at gyrraedd y gyllideb garbon ar gyfer y cyfnod y dylai’r naill a’r llall o’r canlynol eu gwneud—

(i)y sectorau o economi Cymru y mae cynlluniau masnachu yn berthnasol iddynt (i gyd gyda’i gilydd);

(ii)y sectorau o economi Cymru nad yw cynlluniau o’r fath yn berthnasol iddynt (i gyd gyda’i gilydd);

(d) y sectorau o economi Cymru lle ceir cyfleoedd penodol i wneud cyfraniadau at gyrraedd y gyllideb garbon ar gyfer y cyfnod drwy leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr.

(3)Pan fo’n cynghori Gweinidogion Cymru ynghylch cynnig i wneud rheoliadau sy’n newid targed allyriadau 2050, neu’n gosod neu’n newid targed allyriadau interim neu gyllideb garbon, rhaid i’r corff cynghori roi sylw i’r materion a grybwyllir yn adran 32(3).

(4)Yn is-adran (2), mae i “cynllun masnachu” yr ystyr a roddir i “trading scheme” gan adran 44 o Ddeddf Newid yn yr Hinsawdd 2008 (p. 27).

Mesur a dehongli

51Mesur allyriadau

(1)At ddibenion y Rhan hon, rhaid mesur neu gyfrifo pob un o’r canlynol mewn symiau cyfwerth â thunnell o garbon deuocsid—

(a)allyriadau nwyon tŷ gwydr;

(b)gostyngiadau mewn allyriadau nwyon tŷ gwydr;

(c)echdyniadau nwyon tŷ gwydr o’r atmosffer.

(2)Ystyr “swm cyfwerth â thunnell o garbon deuocsid” yw un dunnell fetrig o garbon deuocsid neu swm o unrhyw nwy tŷ gwydr arall sydd â photensial cyfwerth o ran cynhesu byd-eang (a gyfrifir yn gyson ag arferion rhyngwladol adrodd ar garbon).

52Arferion rhyngwladol adrodd ar garbon

Yn y Rhan hon, ystyr “arferion rhyngwladol adrodd ar garbon” yw’r arferion cyffredin mewn perthynas ag adrodd at ddibenion—

(a)protocolau Confensiwn Fframwaith y Cenhedloedd Unedig ar Newid yn yr Hinsawdd, neu

(b)y cytundebau neu’r trefniadau rhyngwladol eraill hynny, neu’r ymrwymiadau hynny o dan gyfreithiau’r UE, y caiff Gweinidogion Cymru eu pennu drwy reoliadau.

53Dehongliad cyffredinol o’r Rhan hon

Yn y Rhan hon—

  • ystyr “allyriadau” (“emissions”) mewn perthynas â nwy tŷ gwydr, yw allyriadau o’r nwy hwnnw i’r atmosffer sydd i’w priodoli i weithgarwch pobl;

  • mae i “allyriadau Cymru” (“Welsh emissions”) yr ystyr a roddir gan adran 34(2);

  • mae i “allyriadau net Cymru” (“net Welsh emissions”) yr ystyr a roddir gan adran 34(1);

  • mae i “arferion rhyngwladol adrodd ar garbon” (“international carbon reporting practice”) yr ystyr a roddir gan adran 52;

  • mae i “blwyddyn darged interim” (“interim target year”) yr ystyr a roddir gan adran 30(3);

  • mae “corff cynghori” (“advisory body”) i’w ddehongli yn unol ag adran 44;

  • mae i “cyfnod cyllidebol” (“budgetary period”) yr ystyr a roddir gan adran 31(3);

  • ystyr “cyfreithiau’r UE” (“EU law”) yw—

    (a)

    yr holl hawliau, pwerau, rhwymedigaethau, ymrwymiadau a chyfyngiadau a grëir gan Gytuniadau’r UE neu sy’n codi oddi tanynt o dro i dro, a

    (b)

    yr holl rwymedïau a gweithdrefnau y darperir ar eu cyfer gan Gytuniadau’r UE neu oddi tanynt o dro i dro;

  • mae i “cyfrif allyriadau net Cymru” (“net Welsh emissions account”) yr ystyr a roddir gan adran 33;

  • mae i “cyllideb garbon“ (“carbon budget”) yr ystyr a roddir gan adran 31(1);

  • mae i “echdyniadau Cymru” (“Welsh removals”) yr ystyr a roddir gan adran 34(3);

  • mae i “gwaelodlin” (“baseline”) yr ystyr a roddir gan adran 38;

  • mae i “nwy tŷ gwydr” (“greenhouse gas”) yr ystyr a roddir gan adran 37;

  • mae i “targed allyriadau 2050” (“2050 emissions target”) yr ystyr a roddir gan adran 29;

  • mae i “targed allyriadau interim” (“interim emissions target”) yr ystyr a roddir gan adran 30(1);

  • mae i “uned garbon” (“carbon unit”) yr ystyr a roddir gan adran 36(1).

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Gweler y wybodaeth ychwanegol ochr yn ochr â’r cynnwys

Dangos Nodiadau Eglurhaol ar gyfer Adrannau: Yn arddangos rhannau perthnasol o’r nodiadau esboniadol wedi eu cydblethu â chynnwys y ddeddfwriaeth.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Nodiadau Esboniadol

Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of the National Assembly for Wales.

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill