Chwilio Deddfwriaeth

Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

RHAN 1RHEOLI CYNALIADWY AR ADNODDAU NATURIOL

Rhagarweiniad

1Diben y Rhan hon

Diben y Rhan hon yw hyrwyddo rheoli cynaliadwy ar adnoddau naturiol.

2Adnoddau naturiol

Yn y Rhan hon, mae “adnoddau naturiol” yn cynnwys y canlynol (ond nid yw wedi ei gyfyngu iddynt)—

(a)anifeiliaid, planhigion ac organeddau eraill;

(b)yr aer, dŵr a phridd;

(c)mwynau;

(d)nodweddion a phrosesau daearegol;

(e)nodweddion ffisiograffigol;

(f)nodweddion a phrosesau hinsoddol.

3Rheoli cynaliadwy ar adnoddau naturiol

(1)Yn y Rhan hon, ystyr “rheoli cynaliadwy ar adnoddau naturiol” yw—

(a)defnyddio adnoddau naturiol mewn modd ac ar gyfradd sy’n hyrwyddo cyflawni’r amcan yn is-adran (2),

(b)cymryd camau eraill sy’n hyrwyddo cyflawni’r amcan hwnnw, ac

(c)peidio â chymryd camau sy’n llesteirio cyflawni’r amcan hwnnw.

(2)Yr amcan yw cynnal a gwella cydnerthedd ecosystemau a’r manteision a gynigir ganddynt ac, wrth wneud hynny—

(a)diwallu anghenion y cenedlaethau presennol o bobl heb beryglu gallu cenedlaethau’r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion hwythau, a

(b)cyfrannu at gyrraedd y nodau llesiant yn adran 4 o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (dccc 2).

4Egwyddorion rheoli cynaliadwy ar adnoddau naturiol

Yn y Rhan hon, “egwyddorion rheoli cynaliadwy ar adnoddau naturiol” yw—

(a)rheoli mewn modd ymaddasol, drwy gynllunio, monitro, adolygu a, phan fo hynny’n briodol, newid gweithredoedd;

(b)ystyried y raddfa ofodol briodol ar gyfer gweithredu;

(c)hyrwyddo cydweithio a chydweithredu, a chyfranogi ynddynt;

(d)gwneud trefniadau priodol i’r cyhoedd gymryd rhan yn y broses o wneud penderfyniadau;

(e)ystyried yr holl dystiolaeth berthnasol a chasglu tystiolaeth mewn perthynas â materion y ceir ansicrwydd yn eu cylch;

(f)ystyried manteision a gwerth cynhenid adnoddau naturiol ac ecosystemau;

(g)ystyried effeithiau tymor byr, tymor canolig a hirdymor gweithredoedd;

(h)cymryd camau i atal niwed arwyddocaol i ecosystemau;

(i)ystyried cydnerthedd ecosystemau ac yn benodol, yr agweddau a ganlyn—

(i)amrywiaeth rhwng ecosystemau ac oddi fewn iddynt;

(ii)y cysylltiadau rhwng ecosystemau ac oddi fewn iddynt;

(iii)graddfa ecosystemau;

(iv)cyflwr ecosystemau (gan gynnwys eu strwythur a’u gweithrediad);

(v)gallu ecosystemau i addasu.

Dyletswyddau cyffredinol ar awdurdodau cyhoeddus

5Diben cyffredinol Corff Adnoddau Naturiol Cymru

(1)Mae Gorchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Sefydlu) 2012 (OS 2012/1903) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2)Yn lle erthygl 4 rhodder—

4Diben cyffredinol

(1)Rhaid i’r Corff—

(a)ymgyrraedd at reoli cynaliadwy ar adnoddau naturiol mewn perthynas â Chymru, a

(b)cymhwyso egwyddorion rheoli cynaliadwy ar adnoddau naturiol,

wrth arfer ei swyddogaethau, i’r graddau y bo hynny’n gyson â’u harfer yn briodol.

(2)Yn yr erthygl hon—

  • mae i “egwyddorion rheoli cynaliadwy ar adnoddau naturiol” (“principles of sustainable management of natural resources”) yr ystyr a roddir gan adran 4 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016;

  • mae i “rheoli cynaliadwy ar adnoddau naturiol” (“sustainable management of natural resources”) yr ystyr a roddir gan adran 3 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016.

(3)Yn erthygl 5—

(a)yn y pennawd, ar ôl “diben” mewnosoder “cyffredinol”;

(b)ym mharagraff (1), ar ôl “ddiben” mewnosoder “cyffredinol yn erthygl 4”;

(c)ym mharagraff (3) yn lle “swyddogaethau” rhodder “ddiben cyffredinol yn erthygl 4”.

(4)Hepgorer erthyglau 5B a 5E.

6Dyletswydd bioamrywiaeth a chydnerthedd ecosystemau

(1)Rhaid i awdurdod cyhoeddus geisio cynnal a gwella bioamrywiaeth wrth arfer swyddogaethau mewn perthynas â Chymru, ac wrth wneud hynny hyrwyddo cydnerthedd ecosystemau, i’r graddau y bo hynny’n gyson ag arfer y swyddogaethau hynny’n briodol.

(2)Wrth gydymffurfio ag is-adran (1), rhaid i awdurdod cyhoeddus ystyried cydnerthedd ecosystemau, a’r agweddau a ganlyn yn benodol—

(a)amrywiaeth rhwng ecosystemau ac oddi fewn iddynt;

(b)y cysylltiadau rhwng ecosystemau ac oddi fewn iddynt;

(c)graddfa ecosystemau;

(d)cyflwr ecosystemau (gan gynnwys eu strwythur a’u gweithrediad);

(e)gallu ecosystemau i addasu.

(3)Nid yw is-adran (1) yn gymwys i—

(a)arfer swyddogaeth gan Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi, neu

(b)arfer un neu ragor o swyddogaethau barnwrol llys neu dribiwnlys.

(4)Wrth gydymffurfio ag is-adran (1)—

(a)rhaid i Weinidogion Cymru, Prif Weinidog Cymru, Cwnsler Cyffredinol Llywodraeth Cymru, unrhyw un neu ragor o Weinidogion y Goron ac unrhyw un neu ragor o adrannau’r llywodraeth roi sylw i Gonfensiwn Rhaglen Amgylcheddol y Cenhedloedd Unedig ar Amrywiaeth Fiolegol 1992, a

(b)rhaid i unrhyw awdurdod cyhoeddus arall roi sylw i unrhyw ganllawiau a roddir iddo gan Weinidogion Cymru.

(5)Wrth gydymffurfio ag is-adran (1), rhaid i awdurdod cyhoeddus ac eithrio unrhyw un neu ragor o Weinidogion y Goron neu unrhyw un neu ragor o adrannau’r llywodraeth roi sylw i—

(a)y rhestr a gyhoeddir o dan adran 7;

(b)yr adroddiad ar gyflwr adnoddau naturiol a gyhoeddir o dan adran 8;

(c)unrhyw ddatganiad ardal a gyhoeddir o dan adran 11 ar gyfer ardal sy’n cynnwys ardal gyfan neu ran o ardal y mae’r awdurdod yn arfer swyddogaethau mewn perthynas â hi.

(6)Rhaid i awdurdod cyhoeddus ac eithrio unrhyw un neu ragor o Weinidogion y Goron neu unrhyw un neu ragor o adrannau’r llywodraeth baratoi a chyhoeddi cynllun sy’n nodi’r hyn y mae’n bwriadu ei wneud er mwyn cydymffurfio ag is-adran (1).

(7)Rhaid i awdurdod cyhoeddus, cyn diwedd 2019 a chyn diwedd pob trydedd flwyddyn ar ôl 2019, gyhoeddi adroddiad ar yr hyn y mae wedi ei wneud i gydymffurfio ag is-adran (1).

(8)O ran awdurdod cyhoeddus sydd wedi cyhoeddi cynllun o dan is-adran (6)—

(a)rhaid iddo adolygu’r cynllun yng ngoleuni pob adroddiad a gyhoeddir ganddo o dan is-adran (7), a

(b)caiff adolygu’r cynllun unrhyw bryd.

(9)Yn yr adran hon—

  • ystyr “awdurdod cyhoeddus”(“public authority”) yw—

    (a)

    Gweinidogion Cymru;

    (b)

    Prif Weinidog Cymru;

    (c)

    Cwnsler Cyffredinol Llywodraeth Cymru;

    (d)

    unrhyw un neu ragor o Weinidogion y Goron;

    (e)

    corff cyhoeddus (gan gynnwys un neu ragor o adrannau’r llywodraeth, awdurdod lleol, awdurdod cynllunio lleol a phanel cynllunio strategol);

    (f)

    person sy’n dal swydd—

    (i)

    o dan y Goron,

    (ii)

    a grëwyd neu sy’n parhau mewn bodolaeth o ganlyniad i Ddeddf gyffredinol gyhoeddus Cynulliad Cenedlaethol Cymru neu Senedd y DU, neu

    (iii)

    y telir tâl cydnabyddiaeth mewn perthynas â hi allan o arian a ddarperir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru neu Senedd y DU;

    (g)

    ymgymerwr statudol;

(10)Yn is-adran (9)—

  • mae i “awdurdod cynllunio lleol” yr ystyr a roddir i “local planning authority” gan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (p. 8);

  • ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw cyngor sir, bwrdeistref sirol neu gymuned yng Nghymru;

  • ystyr “panel cynllunio strategol” (“strategic planning panel”) yw panel cynllunio strategol a sefydlwyd o dan adran 60D o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (p. 5);

  • ystyr “ymgymerwr statudol” (“statutory undertaker”) yw unrhyw un neu ragor o’r canlynol—

    (a)

    person sydd wedi ei awdurdodi gan unrhyw ddeddfiad i weithredu unrhyw ymgymeriad rheilffordd, rheilffordd ysgafn, tramffordd, cludiant ar ffyrdd, cludiant ar ddŵr, camlas, mordwyo mewndirol, doc, harbwr, pier neu oleudy neu unrhyw ymgymeriad ar gyfer cyflenwi pŵer hydrolig;

    (b)

    gweithredydd un o rwydweithiau’r cod cyfathrebu electronig (o fewn ystyr paragraff 1(1) o Atodlen 17 i Ddeddf Cyfathrebiadau 2003 (p. 21));

    (c)

    gweithredydd maes awyr (o fewn ystyr Deddf Meysydd Awyr 1986 (p. 31)) sy’n gweithredu maes awyr y mae Rhan 5 o’r Ddeddf honno yn gymwys iddo;

    (d)

    trawsgludwr nwy (o fewn ystyr Rhan 1 o Ddeddf Nwy 1986 (p. 44));

    (e)

    deiliad trwydded o dan adran 6(1) o Ddeddf Trydan 1989 (p. 29);

    (f)

    ymgymerwr dŵr neu garthffosiaeth;

    (g)

    yr Awdurdod Hedfan Sifil neu ddeiliad trwydded o dan Bennod 1 o Ran 1 o Ddeddf Trafnidiaeth 2000 (p. 38), i’r graddau y bo’r person sy’n dal y drwydded yn cynnal gweithgareddau a awdurdodir ganddi;

    (h)

    darparwr gwasanaeth cyffredinol o fewn ystyr Rhan 3 o Ddeddf Gwasanaethau Post 2011 (p. 5).

7Rhestrau bioamrywiaeth a dyletswydd i gymryd camau i gynnal a gwella bioamrywiaeth

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru baratoi a chyhoeddi rhestr o’r organeddau byw a’r mathau o gynefinoedd sydd, yn eu barn hwy, o’r pwysigrwydd pennaf at ddiben cynnal a gwella bioamrywiaeth mewn perthynas â Chymru.

(2)Cyn cyhoeddi rhestr o dan yr adran hon rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â Chorff Adnoddau Naturiol Cymru (“CNC”) ynghylch yr organeddau byw a’r mathau o gynefinoedd sydd i’w cynnwys ar y rhestr.

(3)Heb ragfarnu adran 6, rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)cymryd pob cam rhesymol er mwyn cynnal a gwella’r organeddau byw a’r mathau o gynefinoedd a gynhwysir ar unrhyw restr a gyhoeddir o dan yr adran hon, a

(b)annog eraill i gymryd camau o’r fath.

(4)Rhaid i Weinidogion Cymru, mewn ymgynghoriad ag CNC—

(a)adolygu’n gyson unrhyw restr a gyhoeddir ganddynt o dan yr adran hon,

(b)gwneud y diwygiadau hynny i unrhyw restr o’r fath y mae’n ymddangos iddynt eu bod yn briodol, ac

(c)cyhoeddi unrhyw restr a ddiwygir yn y fath fodd cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl ei diwygio.

(5)Wrth arfer eu swyddogaethau o dan yr adran hon, rhaid i Weinidogion Cymru gymhwyso egwyddorion rheoli cynaliadwy ar adnoddau naturiol.

Adroddiad ar gyflwr adnoddau naturiol

8Dyletswydd i baratoi a chyhoeddi adroddiad ar gyflwr adnoddau naturiol

(1)Rhaid i CNC baratoi a chyhoeddi adroddiadau yn unol â’r adran hon sy’n cynnwys ei asesiad o gyflwr adnoddau naturiol mewn perthynas â Chymru.

(2)Rhaid i bob adroddiad nodi, ymysg pethau eraill—

(a)asesiad CNC o’r graddau y mae rheoli cynaliadwy ar adnoddau naturiol yn cael ei gyflawni;

(b)asesiad CNC o fioamrywiaeth (gan gynnwys yr organeddau byw a’r mathau o gynefinoedd a gynhwysir ar unrhyw restr a gyhoeddir o dan adran 7);

(c)yr hyn y mae CNC yn ei ystyried yw’r prif dueddiadau a ffactorau sy’n effeithio, ac sy’n debygol o effeithio, ar gyflwr adnoddau naturiol;

(d)unrhyw agweddau ar gyflwr adnoddau naturiol y mae CNC yn ystyried nad oes ganddo wybodaeth ddigonol amdanynt i wneud asesiad.

(3)Rhaid i CNC gyhoeddi ei adroddiad cyntaf cyn diwedd y cyfnod o bedwar mis sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r adran hon yn dod i rym.

(4)Wedi hynny, rhaid i CNC gyhoeddi adroddiad cyn diwedd y flwyddyn galendr sy’n dod cyn unrhyw flwyddyn y mae etholiad cyffredinol arferol i fod i gael ei gynnal.

(5)Rhaid i CNC gyhoeddi drafft o bob adroddiad sy’n ofynnol gan is-adran (4) cyn diwedd y flwyddyn galendr sy’n dod cyn y flwyddyn y mae’n rhaid i’r adroddiad gael ei gyhoeddi.

(6)Yn yr adran hon, ystyr “etholiad cyffredinol arferol” yw’r bleidlais a gynhelir mewn etholiad cyffredinol arferol o dan adran 3 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).

Polisi adnoddau naturiol cenedlaethol

9Dyletswydd i baratoi, cyhoeddi a gweithredu polisi adnoddau naturiol cenedlaethol

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru baratoi a chyhoeddi dogfen sy’n nodi eu polisïau cyffredinol a phenodol ar gyfer cyfrannu at gyflawni rheoli cynaliadwy ar adnoddau naturiol mewn perthynas â Chymru (y “polisi adnoddau naturiol cenedlaethol”).

(2)Rhaid i’r polisi adnoddau naturiol cenedlaethol nodi’r hyn y mae Gweinidogion Cymru yn ei ystyried yw’r blaenoriaethau, y risgiau a’r cyfleoedd allweddol ar gyfer rheoli cynaliadwy ar adnoddau naturiol mewn perthynas â Chymru, gan gynnwys yr hyn y maent yn ystyried y dylid ei wneud mewn perthynas â newid yn yr hinsawdd a bioamrywiaeth.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru gynnwys unrhyw beth yn y polisi adnoddau naturiol cenedlaethol y maent yn ystyried ei fod yn berthnasol i gyflawni rheoli cynaliadwy ar adnoddau naturiol mewn perthynas â Chymru.

(4)Rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)cymryd pob cam rhesymol er mwyn gweithredu’r polisi adnoddau naturiol cenedlaethol, a

(b)annog eraill i gymryd camau o’r fath.

(5)Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi’r polisi adnoddau naturiol cenedlaethol cyntaf cyn diwedd y 10 mis sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r adran hon yn dod i rym.

(6)Mewn perthynas â’r polisi adnoddau naturiol cenedlaethol—

(a)rhaid i Weinidogion Cymru ei adolygu ar ôl pob etholiad cyffredinol, a

(b)caiff Gweinidogion Cymru ei adolygu ar unrhyw adeg arall.

(7)Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio’r polisi adnoddau naturiol cenedlaethol ar unrhyw adeg a rhaid iddynt gyhoeddi’r polisi adnoddau naturiol cenedlaethol fel y’i diwygiwyd.

(8)Wrth arfer eu swyddogaethau o dan yr adran hon, rhaid i Weinidogion Cymru gymhwyso egwyddorion rheoli cynaliadwy ar adnoddau naturiol.

(9)Wrth baratoi neu ddiwygio’r polisi adnoddau naturiol cenedlaethol, rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw i’r adroddiad diweddaraf o dan adran 8 ynghylch cyflwr adnoddau naturiol mewn perthynas â Chymru.

(10)Pan fydd Gweinidogion Cymru yn cyhoeddi’r polisi adnoddau naturiol cenedlaethol (neu bolisi diwygiedig), rhaid iddynt hefyd gyhoeddi adroddiad sy’n crynhoi—

(a)unrhyw ymgynghori a gynhaliwyd wrth baratoi’r polisi, a

(b)unrhyw sylwadau a gafwyd o ganlyniad i’r ymgynghori.

(11)Yn is-adran (6), ystyr “etholiad cyffredinol” yw pleidlais a gynhelir mewn etholiad cyffredinol arferol o dan adran 3 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) neu etholiad cyffredinol eithriadol o dan adran 5 o’r Ddeddf honno.

Gweithredu’r polisi cenedlaethol ar sail ardaloedd

10Ystyr corff cyhoeddus yn adrannau 11 i 15

(1)Yn adrannau 11 i 15, ystyr “corff cyhoeddus” yw unrhyw un o’r canlynol—

(a)cyngor sir neu fwrdeistref sirol yng Nghymru;

(b)Bwrdd Iechyd Lleol;

(c)yr Ymddiriedolaethau GIG a ganlyn—

(i)Iechyd Cyhoeddus Cymru;

(ii)Felindre;

(d)awdurdod Parc Cenedlaethol ar gyfer Parc Cenedlaethol yng Nghymru;

(e)awdurdod tân ac achub yng Nghymru;

(f)Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru;

(g)Cyngor Celfyddydau Cymru;

(h)Cyngor Chwaraeon Cymru;

(i)Llyfrgell Genedlaethol Cymru;

(j)Amgueddfa Genedlaethol Cymru.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio is-adran (1) drwy reoliadau drwy—

(a)ychwanegu person,

(b)tynnu person ymaith, neu

(c)diwygio disgrifiad o berson.

(3)Ond ni chaiff y rheoliadau—

(a)ond diwygio is-adran (1) drwy ychwanegu person os yw’r person hwnnw’n arfer swyddogaethau o natur gyhoeddus;

(b)ond diwygio’r is-adran honno drwy ychwanegu un neu ragor o Weinidogion y Goron os yw’r Ysgrifennydd Gwladol yn cydsynio.

(4)Os yw’r rheoliadau’n diwygio is-adran (1) er mwyn ychwanegu person sydd â swyddogaethau o natur gyhoeddus a swyddogaethau eraill, nid yw adrannau 11 i 15 ond yn gymwys i’r person hwnnw mewn perthynas â swyddogaethau’r person hwnnw sydd o natur gyhoeddus.

(5)Cyn gwneud rheoliadau o dan is-adran (2), rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r canlynol—

(a)CNC,

(b)pob person y mae Gweinidogion Cymru yn bwriadu ei ychwanegu neu ei dynnu ymaith drwy’r rheoliadau, ac

(c)y personau eraill hynny y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol.

11Datganiadau ardal

(1)Rhaid i CNC baratoi a chyhoeddi datganiadau (“datganiadau ardal”) ar gyfer yr ardaloedd o Gymru y mae CNC yn ystyried eu bod yn briodol at ddiben hwyluso gweithrediad y polisi adnoddau naturiol cenedlaethol.

(2)Caiff CNC ddefnyddio’r datganiadau ardal at unrhyw ddiben arall wrth arfer ei swyddogaethau.

(3)Rhaid i bob datganiad ardal—

(a)egluro pam y paratowyd datganiad ar gyfer yr ardal, drwy gyfeirio at—

(i)yr adnoddau naturiol yn yr ardal,

(ii)y manteision y mae’r adnoddau naturiol yn eu cynnig, a

(iii)y blaenoriaethau, y risgiau a’r cyfleoedd ar gyfer rheoli cynaliadwy ar adnoddau naturiol y mae angen ymdrin â hwy;

(b)egluro sut y mae egwyddorion rheoli cynaliadwy ar adnoddau naturiol wedi eu cymhwyso wrth baratoi’r datganiad;

(c)datgan sut y mae CNC yn bwriadu ymdrin â’r blaenoriaethau, y risgiau a’r cyfleoedd, a sut y mae’n bwriadu cymhwyso egwyddorion rheoli cynaliadwy ar adnoddau naturiol wrth wneud hynny;

(d)pennu’r cyrff cyhoeddus y mae CNC yn ystyried y gallant gynorthwyo i ymdrin â’r blaenoriaethau, y risgiau a’r cyfleoedd.

(4)Rhaid i CNC sicrhau bod pob rhan o Gymru yn cael ei chynnwys yn o leiaf un o’r ardaloedd y mae’n paratoi datganiad ardal ar eu cyfer.

(5)Rhaid i CNC—

(a)cymryd pob cam rhesymol er mwyn gweithredu datganiad ardal, a

(b)annog eraill i gymryd camau o’r fath.

(6)Rhaid i CNC adolygu datganiadau ardal yn gyson a chaiff eu diwygio ar unrhyw adeg.

(7)Cyn cyhoeddi datganiad ardal, rhaid i CNC ystyried a ddylid—

(a)ymgorffori cynllun, strategaeth neu ddogfen debyg arall yn y datganiad ardal, neu

(b)ymgorffori’r datganiad ardal mewn cynllun, strategaeth neu ddogfen debyg arall.

12Cyfarwyddydau Gweinidogion Cymru i weithredu datganiadau ardal

(1)Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo corff cyhoeddus i gymryd y camau hynny y mae’n ymddangos iddynt eu bod yn rhesymol ymarferol er mwyn ymdrin â’r materion a bennir mewn datganiad ardal o dan adran 11(3).

(2)Cyn rhoi cyfarwyddyd rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r corff cyhoeddus y maent yn bwriadu ei gyfarwyddo.

(3)Pan roddir cyfarwyddyd i gorff cyhoeddus o dan yr adran hon, rhaid i’r corff gydymffurfio ag ef.

(4)Ni chaiff cyfarwyddyd o dan yr adran hon ei gwneud yn ofynnol i gorff cyhoeddus wneud rhywbeth na chaniateir iddo ei wneud fel arall wrth arfer ei swyddogaethau.

(5)Mewn perthynas â chyfarwyddyd o dan yr adran hon—

(a)rhaid iddo gael ei gyhoeddi;

(b)caniateir ei amrywio neu ei ddirymu gan gyfarwyddyd diweddarach;

(c)mae’n orfodadwy drwy orchymyn gorfodi ar gais gan Weinidogion Cymru, neu ar eu rhan.

13Canllawiau ynghylch gweithredu datganiadau ardal

(1)Wrth arfer ei swyddogaethau, rhaid i gorff cyhoeddus roi sylw i unrhyw ganllawiau a roddir iddo gan Weinidogion Cymru ynghylch camau y dylid eu cymryd i ymdrin â’r materion a bennir mewn datganiad ardal o dan adran 11(3).

(2)Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi unrhyw ganllawiau y maent yn eu rhoi at ddibenion yr adran hon.

14Dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i ddarparu gwybodaeth neu gymorth arall i CNC

(1)Os yw CNC yn gofyn i gorff cyhoeddus ddarparu gwybodaeth i CNC sy’n ofynnol ganddo at ddiben arfer swyddogaethau o dan adran 8 neu 11, rhaid i’r corff cyhoeddus ddarparu’r wybodaeth oni bai bod y corff cyhoeddus wedi ei wahardd rhag ei darparu yn rhinwedd deddfiad neu unrhyw reol gyfreithiol arall.

(2)Os yw CNC yn gofyn i gorff cyhoeddus arfer ei swyddogaethau i ddarparu cymorth arall i CNC sy’n ofynnol gan CNC at ddiben arfer swyddogaethau o dan adran 8 neu 11, rhaid i’r corff cyhoeddus ddarparu’r cymorth oni bai bod y corff cyhoeddus yn ystyried y byddai gwneud hynny—

(a)yn anghydnaws â dyletswyddau’r corff cyhoeddus ei hun, neu

(b)yn cael effaith andwyol fel arall ar arfer swyddogaethau’r corff cyhoeddus.

(3)Mae’r dyletswyddau ar gorff cyhoeddus yn is-adrannau (1) a (2) hefyd yn ddyletswyddau ar Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, ond nid ydynt ond yn gymwys i’r Comisiynydd os yw’r wybodaeth neu gymorth arall yn ofynnol er mwyn cynhyrchu adroddiad o dan adran 8 ar gyflwr adnoddau naturiol.

15Dyletswydd ar CNC i ddarparu gwybodaeth neu gymorth arall i gyrff cyhoeddus

(1)Os yw corff cyhoeddus yn gofyn i CNC ddarparu gwybodaeth i’r corff cyhoeddus sy’n ofynnol ganddo at ddiben gweithredu datganiad ardal, rhaid i CNC ddarparu’r wybodaeth oni bai bod CNC wedi ei wahardd rhag ei darparu yn rhinwedd deddfiad neu unrhyw reol gyfreithiol arall.

(2)Os yw corff cyhoeddus yn gofyn i CNC arfer ei swyddogaethau i ddarparu cymorth arall i’r corff cyhoeddus sy’n ofynnol gan y corff cyhoeddus at ddiben gweithredu datganiad ardal, rhaid i CNC ddarparu’r cymorth oni bai bod CNC yn ystyried y byddai gwneud hynny—

(a)yn anghydnaws â dyletswyddau CNC ei hun, neu

(b)yn cael effaith andwyol fel arall ar arfer swyddogaethau CNC.

Cytundebau rheoli tir

16Pŵer i ymrwymo i gytundebau rheoli tir

(1)Caiff CNC wneud cytundeb â pherson sydd â buddiant mewn tir yng Nghymru ynghylch rheolaeth y tir neu ddefnydd o’r tir (“cytundeb rheoli tir”), os yw’n ymddangos iddo fod gwneud hynny yn hyrwyddo cyflawni unrhyw amcan sydd ganddo o ran arfer ei swyddogaethau.

(2)Caiff cytundeb rheoli tir wneud y canlynol, ymhlith pethau eraill—

(a)gosod rhwymedigaethau mewn cysylltiad â defnydd o’r tir ar y person sydd â buddiant yn y tir;

(b)gosod cyfyngiadau ar arfer hawliau dros y tir ar y person sydd â buddiant yn y tir;

(c)darparu i unrhyw berson neu bersonau wneud y gwaith hwnnw a allai fod yn hwylus at ddibenion y cytundeb;

(d)darparu ar gyfer unrhyw fater y mae cynllun rheoli sy’n ymwneud â safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig yn darparu ar ei gyfer (neu y gallai ddarparu ar ei gyfer);

(e)darparu i’r naill barti neu’r llall wneud taliadau i’r parti arall neu i unrhyw berson arall;

(f)cynnwys darpariaeth gysylltiedig a chanlyniadol.

(3)Yn yr adran hon—

  • mae “buddiant mewn tir” (“interest in land”) yn cynnwys unrhyw ystad mewn tir ac unrhyw hawl dros dir, pa un a yw’r hawl yn arferadwy yn rhinwedd perchenogaeth o fuddiant mewn tir neu yn rhinwedd trwydded neu gytundeb, ac mae’n cynnwys yn benodol hawliau helwriaeth;

  • mae i “cynllun rheoli” yr ystyr a roddir i “management scheme” gan Ran 2 o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (p. 69) (gweler adran 28J);

  • mae i “safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig” yr ystyr a roddir i “site of special scientific interest” gan Ran 2 o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (gweler adran 52(1)).

17Effaith cytundebau rheoli tir penodol ar olynwyr yn y teitl

(1)Pan wneir cytundeb rheoli tir â pherson sydd â buddiant cymhwysol mewn tir sy’n ddarostyngedig i’r cytundeb ac nad yw’n dir cofrestredig, a’r cytundeb yn darparu bod darpariaethau’r is-adran hon yn cael effaith mewn perthynas â’r cytundeb—

(a)caniateir i’r cytundeb gael ei gofrestru fel pridiant tir o dan Ddeddf Pridiannau Tir 1972 (p. 61) fel pe bai’n bridiant sy’n effeithio ar dir sy’n dod o fewn paragraff (ii) o Ddosbarth D,

(b)mae darpariaethau adran 4 o’r Ddeddf honno (sy’n ymwneud ag effaith peidio â chofrestru) yn gymwys fel pe bai’r cytundeb yn bridiant tir o’r fath, ac

(c)yn ddarostyngedig i ddarpariaethau adran 4 o’r Ddeddf honno, mae’r cytundeb yn rhwymo unrhyw olynydd i’r person sydd â buddiant cymwys i’r un graddau ag y mae’n rhwymo’r person hwnnw, er gwaethaf y ffaith na fyddai wedi rhwymo’r olynydd hwnnw oni bai am ddarpariaethau’r is-adran hon.

(2)Pan wneir cytundeb rheoli tir â pherson sydd â buddiant cymwys mewn tir sy’n ddarostyngedig i’r cytundeb ac sy’n dir cofrestredig, a’r cytundeb yn darparu bod darpariaethau’r is-adran hon yn cael effaith mewn perthynas â’r cytundeb—

(a)caiff y cytundeb fod yn destun hysbysiad yn y gofrestr teitlau o dan Ddeddf Cofrestru Tir 2002 (p. 9) fel pe bai’n fuddiant sy’n effeithio ar y tir cofrestredig,

(b)mae darpariaethau adrannau 28 i 30 o’r Ddeddf honno (effaith gwarediadau tir cofrestredig ar flaenoriaeth buddiannau gwrthwynebus) yn gymwys fel pe bai’r cytundeb yn fuddiant o’r fath; ac

(c)yn ddarostyngedig i ddarpariaethau’r adrannau hynny, mae’r cytundeb yn rhwymo unrhyw olynydd i’r person sydd â buddiant cymwys i’r un graddau ag y mae’n rhwymo’r person hwnnw, er gwaethaf y ffaith na fyddai wedi rhwymo’r olynydd hwnnw oni bai am ddarpariaethau’r is-adran hon.

(3)Mae gan berson fuddiant cymwys mewn tir at ddiben yr adran hon os yw’r buddiant—

(a)yn ystad mewn ffi syml mewn meddiannaeth absoliwt;

(b)yn dymor o flynyddoedd absoliwt a roddwyd am dymor o fwy na saith mlynedd o ddyddiad ei roi ac yn yr achos hwnnw bod rhyw ran o’r cyfnod y rhoddwyd y tymor o flynyddoedd mewn perthynas ag ef yn parhau heb ddod i ben.

(4)Yn yr adran hon—

  • ystyr “olynydd” (“successor”), mewn perthynas â chytundeb â pherson sydd â buddiant cymwys mewn unrhyw dir, yw person y mae ei deitl yn deillio o’r person hwnnw sydd â buddiant cymwys, neu sy’n hawlio fel arall o dan y person hwnnw, ac eithrio yn hawl buddiant neu bridiant yr oedd buddiant y person gyda’r buddiant cymwys yn ddarostyngedig iddo yn union cyn—

    (a)

    yr adeg y gwnaed y cytundeb, pan nad yw’r tir yn dir cofrestredig, neu

    (b)

    yr adeg y cofrestrwyd yr hysbysiad am y cytundeb, pan fo’r tir yn dir cofrestredig;

  • mae i “tir cofrestredig” yr un ystyr ag a roddir i “registered land” yn Neddf Cofrestru Tir 2002.

18Cymhwyso Atodlen 2 i Ddeddf Coedwigaeth 1967 i gytundebau rheoli tir

Mae Atodlen 2 i Ddeddf Coedwigaeth 1967 (p. 10) (pŵer i denant am oes ac eraill ymrwymo i gyfamodau neilltuo coedwigaeth) yn gymwys i gytundebau rheoli tir fel ag y mae’n gymwys i gyfamodau neilltuo coedwigaeth.

19Effaith cytundebau ar gyflwyno priffordd a rhoi hawddfraint

At ddibenion unrhyw ddeddfiad neu reol gyfreithiol o ran yr amgylchiadau pan ganiateir rhagdybio bod priffordd wedi ei chyflwyno neu hawddfraint wedi ei rhoi, neu y caniateir penderfynu hynny drwy ragnodiad, mae’r ffaith bod y cyhoedd neu unrhyw berson yn defnyddio ffordd ar draws tir yn rhinwedd cytundeb rheoli tir i gael ei diystyru.

20Darpariaethau trosiannol

(1)Mae cytundeb sy’n ymwneud â thir yr ymrwymwyd iddo gan CNC, neu unrhyw gorff a ragflaenodd y corff hwnnw, o dan ddeddfiad a ddatgymhwysir i’w drin fel cytundeb rheoli tir.

(2)Y deddfiadau a ddatgymhwysir yw—

(a)adran 16 o Ddeddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad 1949 (p. 97);

(b)adran 15 o Ddeddf Cefn Gwlad 1968 (p. 41);

(c)adran 39 o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (p. 69).

21Tir y Goron

(1)Caiff yr awdurdod priodol ymrwymo i gytundeb rheoli tir mewn perthynas â buddiant yn nhir y Goron a ddelir gan y Goron neu ar ei rhan.

(2)Nid yw cytundeb rheoli tir o ran unrhyw fuddiant arall yn nhir y Goron yn cael unrhyw effaith oni bai ei fod yn cael ei gymeradwyo gan yr awdurdod priodol.

(3)Ystyr “tir y Goron” yw tir y mae buddiant ynddo—

(a)yn perthyn i Ei Mawrhydi yn hawl y Goron,

(b)yn perthyn i Ei Mawrhydi yn hawl Dugiaeth Caerhirfryn,

(c)yn perthyn i Ddugiaeth Cernyw, neu

(d)yn perthyn i un o adrannau’r llywodraeth neu’n cael ei ddal mewn ymddiriedolaeth ar gyfer Ei Mawrhydi at ddibenion un o adrannau’r llywodraeth.

(4)Ystyr “yr awdurdod priodol”, mewn perthynas ag unrhyw dir—

(a)os yw’r tir yn perthyn i Ei Mawrhydi yn hawl y Goron, yw Comisiynwyr Ystad y Goron neu un o adrannau eraill y llywodraeth sy’n rheoli’r tir o dan sylw;

(b)os yw’r tir yn perthyn i Ei Mawrhydi yn hawl Dugiaeth Caerhirfryn, yw Canghellor y Ddugiaeth;

(c)os yw’r tir yn perthyn i Ddugiaeth Cernyw, yw’r person hwnnw y mae Dug Cernyw, neu’r person sy’n meddu ar Ddugiaeth Cernyw am y tro, yn ei benodi;

(d)os yw’r tir yn perthyn i un o adrannau’r llywodraeth neu’n cael ei ddal mewn ymddiriedolaeth ar gyfer Ei Mawrhydi at ddibenion un o adrannau’r llywodraeth, yw’r adran honno.

(5)Os oes unrhyw gwestiwn yn codi o dan yr adran hon ynghylch pa awdurdod yw’r awdurdod priodol mewn perthynas ag unrhyw dir, mae’r cwestiwn hwnnw i gael ei gyfeirio at y Trysorlys, sydd biau’r penderfyniad terfynol.

Cynlluniau arbrofol

22Pŵer i atal dros dro ofynion statudol ar gyfer cynlluniau arbrofol

(1)Ar gais CNC, caiff Gweinidogion Cymru wneud darpariaeth drwy reoliadau mewn perthynas â Chymru—

(a)sy’n eithrio unrhyw berson rhag gofyniad statudol y mae CNC yn gyfrifol amdano;

(b)sy’n llacio unrhyw ofyniad o’r fath wrth ei gymhwyso i berson;

(c)sy’n ei gwneud yn ofynnol i berson y mae eithriad neu lacio gofyniad yn gymwys iddo gydymffurfio ag amodau a bennir yn y rheoliadau;

(d)sy’n addasu deddfiad mewn modd y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei fod yn angenrheidiol er mwyn gorfodi unrhyw ddarpariaeth a wneir yn rhinwedd paragraffau (a) i (c), neu o ganlyniad i unrhyw ddarpariaeth o’r fath.

(2)Ni chaiff rheoliadau o dan is-adran (1) wneud darpariaeth sy’n tynnu ymaith neu’n addasu swyddogaeth un o Weinidogion y Goron a oedd yn arferadwy gan un o Weinidogion y Goron cyn 5 Mai 2011 oni bai bod yr Ysgrifennydd Gwladol yn cydsynio i’r ddarpariaeth.

(3)Cyn gwneud darpariaeth o dan is-adran (1), rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)bod wedi eu bodloni bod y ddarpariaeth yn angenrheidiol er mwyn galluogi cynnal cynllun arbrofol sy’n debygol o gyfrannu at reoli cynaliadwy ar adnoddau naturiol,

(b)bod wedi eu bodloni na fydd y rheoliadau’n cael yr effaith gyffredinol o gynyddu’r baich rheoliadol ar unrhyw berson, a

(c)ymgynghori—

(i)â phersonau y maent yn barnu bod darpariaeth yn y rheoliadau yn debygol o effeithio arnynt, a

(ii)â phersonau y maent yn barnu bod y cynllun arbrofol yn debygol o effeithio arnynt fel arall.

(4)Mae rheoliadau o dan is-adran (1) yn cael effaith yn ystod cyfnod a bennir yn y rheoliadau na chaiff fod yn hwy na thair blynedd.

(5)Ond caiff rheoliadau o dan is-adran (1), ar un achlysur yn unig, ymestyn y cyfnod y mae rheoliadau blaenorol o dan yr is-adran honno yn cael effaith am gyfnod o ddim mwy na thair blynedd o ddiwedd y cyfnod a bennwyd yn y rheoliadau blaenorol.

(6)Pan fo rheoliadau o dan is-adran (1) yn cael yr effaith sylweddol o ddirymu rheoliadau blaenorol o dan yr is-adran honno, a hynny’n unig, caniateir i’r rheoliadau gael eu gwneud heb gais gan CNC.

(7)Ac nid yw is-adran (3) yn gymwys i ddarpariaethau mewn rheoliadau o dan is-adran (1) sy’n dirymu rheoliadau blaenorol o dan yr is-adran honno (pa un a yw CNC yn gwneud cais am y dirymiad ai peidio).

(8)Pan fo darpariaeth wedi ei gwneud o dan is-adran (1) i alluogi cynnal cynllun arbrofol, rhaid i CNC—

(a)gwerthuso’r cynllun ar ba adeg bynnag y mae’n ystyried ei bod yn briodol, a

(b)cyhoeddi adroddiad sy’n nodi’r gwerthusiad ac yn disgrifio unrhyw gamau y mae CNC yn ystyried y dylid eu cymryd yng ngoleuni’r gwerthusiad.

(9)At ddibenion yr adran hon—

(a)ystyr gofyniad statudol yw gofyniad a osodir gan ddeddfiad;

(b)mae CNC yn gyfrifol am ofyniad statudol—

(i)os yw’n ofyniad i gydymffurfio â safon neu ofyniad a osodir gan CNC,

(ii)os yw’n ofyniad i gael trwydded neu awdurdodiad arall gan CNC cyn gwneud rhywbeth,

(iii)os yw’n ofyniad y caiff CNC ei orfodi, neu

(iv)os yw’n ofyniad sy’n gymwys i CNC ac sy’n ymwneud â’r modd y mae adnoddau naturiol yn cael eu rheoli neu eu defnyddio, neu at ba ddibenion y maent yn cael eu rheoli neu eu defnyddio.

(10)Yn yr adran hon, ystyr “cynllun arbrofol” yw cynllun a gynhelir o dan drefniadau a wneir gan CNC o dan erthygl 10C o Orchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Sefydlu) 2012 (O.S. 2012/1903).

23Pŵer CNC i gynnal cynlluniau arbrofol etc.

Yng Ngorchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Sefydlu) 2012 (O.S. 2012/1903), yn lle erthygl 10C rhodder—

10CYmchwil a chynlluniau arbrofol

(1)Caiff y Corff wneud trefniadau i gyflawni (boed gan y Corff neu gan bersonau eraill) ymchwil a chynlluniau arbrofol sy’n berthnasol i arfer ei swyddogaethau.

(2)Caiff y Corff ddarparu cefnogaeth (drwy gyfrwng arian neu fel arall) ar gyfer ymchwil a chynlluniau arbrofol sy’n berthnasol i arfer ei swyddogaethau; ac mae paragraffau (2) a (3) o erthygl 10B yn gymwys i roi cymorth ariannol o dan y paragraff hwn.

(3)Wrth gyflawni gweithgareddau o dan yr erthygl hon mewn perthynas â chadwraeth natur, rhaid i’r Corff roi sylw i unrhyw safonau cyffredin a sefydlwyd o dan adran 34(2)(c) o Ddeddf yr Amgylchedd Naturiol a Chymunedau Gwledig 2006 i’r graddau y maent yn gymwys i’r gweithgareddau.

(4)Yn yr erthygl hon—

  • ystyr “cynllun arbrofol” (“experimental scheme”) yw cynllun sydd wedi ei ddylunio—

    (a)

    i ddatblygu neu i gymhwyso dulliau, cysyniadau neu dechnegau newydd neu addasedig, neu

    (b)

    i ddatblygu neu brofi cynigion ar gyfer newid rheoleiddiol;

  • mae “ymchwil” (“research”) yn cynnwys ymholiadau ac ymchwiliadau.

Cyffredinol

24Pŵer i ddiwygio cyfnodau ar gyfer paratoi a chyhoeddi dogfennau

(1)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth sy’n newid erbyn pa bryd y mae’n rhaid paratoi neu gyhoeddi’r dogfennau a ganlyn—

(a)adroddiad ar gyflwr adnoddau naturiol neu ddrafft o adroddiad o’r fath;

(b)y polisi adnoddau naturiol cenedlaethol.

(2)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) wneud darpariaeth ar ffurf diwygiad i’r Rhan hon.

(3)Cyn gwneud rheoliadau o dan is-adran (1) rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag CNC.

25Rheoliadau o dan y Rhan hon

(1)Mae pŵer i wneud rheoliadau o dan y Rhan hon i’w arfer drwy offeryn statudol.

(2)Mae pŵer i wneud rheoliadau o dan y Rhan hon yn cynnwys pŵer—

(a)i wneud darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol neu ar gyfer achosion gwahanol;

(b)i wneud darpariaeth drosiannol neu ddarpariaeth arbed.

(3)Ni chaniateir i offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau o dan y Rhan hon gael ei wneud oni bai bod drafft o’r offeryn wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac wedi ei gymeradwyo drwy benderfyniad ganddo.

(4)Nid yw offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau sy’n cael yr effaith sylweddol o ddirymu rheoliadau a wnaed o dan adran 22(1), a hynny’n unig, yn ddarostyngedig i’r gofyniad yn is-adran (3), ond rhaid iddo gael ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar ôl cael ei wneud.

26Dehongliad cyffredinol o’r Rhan hon

Yn y Rhan hon—

  • mae “adnoddau naturiol” (“natural resources”) i’w ddehongli yn unol ag adran 2;

  • ystyr “bioamrywiaeth” (“biodiversity”) yw amrywiaeth organeddau byw, boed ar lefel geneteg, rhywogaeth neu ecosystem;

  • ystyr “CNC” (“NRW”) yw Corff Adnoddau Naturiol Cymru;

  • ystyr “cytundeb rheoli tir” (“land management agreement”) yw cytundeb o dan adran 16;

  • mae i “egwyddorion rheoli cynaliadwy ar adnoddau naturiol” (“principles of sustainable management of natural resources”) yr ystyr a roddir gan adran 4;

  • mae i “polisi adnoddau naturiol cenedlaethol” (“national natural resources policy”) yr ystyr a roddir gan adran 9;

  • mae i “rheoli cynaliadwy ar adnoddau naturiol” (“sustainable management of natural resources”) yr ystyr a roddir gan adran 3;

  • mae “tir” (“land”) yn cynnwys tir wedi ei orchuddio â dŵr.

27Mân ddarpariaethau a darpariaethau canlyniadol

(1)Nid yw’r diwygiadau a wneir gan y Rhan hon i Orchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Sefydlu) 2012 (O.S. 2012/1903) yn effeithio ar bŵer Gweinidogion Cymru i wneud gorchmynion pellach o dan adrannau 13 a 15 o Ddeddf Cyrff Cyhoeddus 2011 (p. 24) sy’n diwygio neu’n dirymu’r ddarpariaeth a wneir gan y diwygiadau hynny.

(2)Mae Rhan 1 o Atodlen 2 yn darparu ar gyfer mân ddiwygiadau, diwygiadau canlyniadol a diddymiadau sy’n ymwneud â’r Rhan hon.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Gweler y wybodaeth ychwanegol ochr yn ochr â’r cynnwys

Dangos Nodiadau Eglurhaol ar gyfer Adrannau: Yn arddangos rhannau perthnasol o’r nodiadau esboniadol wedi eu cydblethu â chynnwys y ddeddfwriaeth.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Nodiadau Esboniadol

Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of the National Assembly for Wales.

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill