Yn ddilys o 01/12/2022
Y landlord yn terfynu’r contractLL+C
This
adran has no associated
Nodiadau Esboniadol
[25B(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gontract safonol cyfnod penodol—
(a)a oedd, yn union cyn y diwrnod penodedig, yn denantiaeth neu’n drwydded am gyfnod penodol, a
(b)nad yw o fewn Atodlen 9B.
[(1A)Nid yw’r cyfeiriad at denantiaeth neu drwydded am gyfnod penodol yn is-baragraff (1)(a) yn cynnwys cyfeiriad at denantiaeth sicr nad oedd yn denantiaeth fyrddaliol sicr.]
(2)Caiff y landlord, cyn neu ar ddiwrnod olaf y cyfnod y gwnaed y contract ar ei gyfer, roi hysbysiad i ddeiliad y contract fod rhaid iddo ildio meddiant o’r annedd ar ddyddiad a bennir yn yr hysbysiad.
(3)Ni chaiff y dyddiad a bennir fod yn llai na chwe mis ar ôl—
(a)y dyddiad meddiannu (gweler paragraff 31), neu
(b)os, yn union cyn y diwrnod penodedig, oedd y contract wedi ei drosi yn denantiaeth neu’n drwydded sy’n cymryd lle tenantiaeth neu drwydded arall, y diwrnod y daeth deiliad y contract i fod â hawl i feddiannu’r annedd o dan y denantiaeth neu’r drwydded wreiddiol.
(4)Yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), o ran y dyddiad a bennir—
(a)ni chaiff fod cyn diwrnod olaf y cyfnod y gwnaed y contract wedi ei drosi ar ei gyfer, a
(b)ni chaiff fod yn llai na dau fis ar ôl y diwrnod y rhoddir yr hysbysiad i ddeiliad y contract.
(5)At ddibenion is-baragraff (3)—
(a)roedd contract wedi ei drosi yn denantiaeth neu’n drwydded sy’n cymryd lle tenantiaeth neu drwydded arall—
(i)os yw dyddiad meddiannu’r contract wedi ei drosi yn dod yn union ar ôl diwedd tenantiaeth neu drwydded flaenorol,
(ii)os oedd, yn union cyn dyddiad meddiannu’r contract wedi ei drosi, tenant neu drwyddedai o dan y contract yn denant neu’n drwyddedai o dan y denantiaeth neu’r drwydded flaenorol, a landlord o dan y contract wedi ei drosi yn landlord o dan y denantiaeth neu’r drwydded flaenorol, a
(iii)os yw’r contract wedi ei drosi yn ymwneud â’r un annedd (neu’r un annedd i raddau helaeth) â’r denantiaeth neu’r drwydded flaenorol, a
(b)ystyr “tenantiaeth neu drwydded wreiddiol” yw—
(i)pan fo dyddiad meddiannu’r denantiaeth neu’r drwydded sy’n cymryd lle tenantiaeth neu drwydded arall yn dod yn union ar ôl diwedd tenantiaeth neu drwydded nad yw’n denantiaeth neu’n drwydded sy’n cymryd lle tenantiaeth neu drwydded arall, y denantiaeth neu’r drwydded a oedd yn rhagflaenu’r denantiaeth neu’r drwydded sy’n cymryd lle tenantiaeth neu drwydded arall;
(ii)pan fo cyfres o denantiaethau neu drwyddedau olynol yn denantiaethau neu’n drwyddedau sy’n cymryd lle tenantiaeth neu drwydded arall, y denantiaeth neu’r drwydded a oedd yn rhagflaenu’r cyntaf o’r tenantiaethau neu’r trwyddedau sy’n cymryd lle tenantiaeth neu drwydded arall.
(6)Os yw’r landlord yn rhoi hysbysiad i ddeiliad y contract o dan is-baragraff (2), caiff y landlord wneud hawliad meddiant ar y sail honno.
(7)Ni chaiff y landlord wneud hawliad meddiant ar y sail honno cyn diwedd y contract safonol cyfnod penodol.
(8)Mae is-baragraffau (2) i (7) yn ddarpariaethau sylfaenol sydd wedi eu hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnod penodol y mae’r paragraff hwn yn gymwys iddo.]