Chwilio Deddfwriaeth

Nodiadau Esboniadol i Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016

Atodlen 2 – Eithriadau i adran 7
Rhan 1 - Tenantiaethau a thrwyddedau nad ydynt o fewn adran 7 sy’n gontractau meddiannaeth os rhoddir hysbysiad
Paragraff 1

34.Nid yw tenantiaeth neu drwydded yn gontract meddiannaeth o dan adran 7, os gwneir hi gyda pherson (‘person A’), ond sy’n caniatáu i berson gwahanol fyw yn yr annedd y mae’r denantiaeth neu’r drwydded yn ymwneud â hi (disgrifir person o’r fath ym mharagraff 1 fel ‘buddiolwr’).

35.Mae’r un peth yn wir am denantiaeth neu drwydded nad oes rhent na chydnabyddiaeth arall (er enghraifft, gwaith a wneir gan ddeiliad y contract fel ffurf ar rent) yn daladwy mewn perthynas â hi.

36.Ond o dan baragraff 1, gall tenantiaeth neu drwydded o’r fath fod yn gontract meddiannaeth os yw’r landlord yn dymuno hynny. Os felly, rhaid i’r landlord roi hysbysiad i’r person y gwnaed y denantiaeth neu’r drwydded gydag ef (sef person A mewn perthynas â thenantiaeth neu drwydded y byddai buddiolwr yn byw yn yr annedd oddi tani) sy’n datgan y bydd y denantiaeth neu’r drwydded yn gontract meddiannaeth. Rhaid rhoi’r hysbysiad hwnnw cyn i’r denantiaeth neu’r drwydded gael ei gwneud, neu ar adeg ei gwneud.

Paragraff 2

37.Mae paragraff 2 yn gymwys i denantiaeth neu drwydded pan fo buddiolwr yn byw yn yr annedd, a’r landlord wedi rhoi hysbysiad o dan baragraff 1. Mae’n caniatáu i’r landlord bennu yn yr hysbysiad y dylid darllen darpariaethau penodol o’r Ddeddf (a darpariaethau rheoliadau a wneir oddi tani) fel petaent yn cyfeirio at y buddiolwr. Mae angen paragraff 2 oherwydd bod y Ddeddf yn cynnwys cyfeiriadau at ‘ddeiliaid contract’ (gan gynnwys mewn ‘darpariaethau sylfaenol’ a ddaw’n delerau’r contract meddiannaeth). Yn yr un modd, bydd rheoliadau a wneir o dan y Ddeddf yn cynnwys cyfeiriadau at ‘ddeiliaid contract’ (gan gynnwys mewn ‘darpariaethau atodol’, a fydd hefyd yn dod yn delerau’r contract meddiannaeth).

38.Mae’r darpariaethau hynny yn rhoi hawliau i ddeiliad y contract, sef person A yn yr amgylchiadau hyn, ac yn gosod rhwymedigaethau arno. Yn ymarferol, gall fod angen trin y darpariaethau hynny fel pe baent yn gymwys i’r buddiolwr er mwyn sicrhau bod y contract yn gweithredu’n hwylus o ddydd i ddydd.

Rhan 2 - Tenantiaethau a thrwyddedau o fewn adran 7 nad ydynt yn gontractau meddiannaeth oni roddir hysbysiad

39.Mae’r Rhan hon yn ymwneud â thenantiaethau a thrwyddedau penodol sydd o fewn adran 7 ac a fyddai felly yn gontractau meddiannaeth oni bai am baragraff 3. Ond os crybwyllir tenantiaeth neu drwydded ym mharagraff 3(2), nid yw’n gontract meddiannaeth onid yw’r landlord yn dymuno iddi fod yn gontract o’r fath (ac os felly, fel o dan Ran 1, rhaid i’r landlord roi hysbysiad i ddeiliad y contract ei bod yn gontract meddiannaeth cyn i’r denantiaeth neu’r drwydded gael ei gwneud, neu ar adeg ei gwneud).

Paragraff 3

40.Mae paragraff 3(2) yn nodi’r tenantiaethau a’r trwyddedau nad ydynt, er eu bod o fewn adran 7, yn gontractau meddiannaeth, oni roddir hysbysiad gan y landlord. Tenantiaethau a thrwyddedau yw’r rhain sy’n ymwneud â’r canlynol—

  • Llety gwyliau,

  • Llety mewn sefydliad gofal (gweler paragraff 4 o Atodlen 2),

  • ‘Trefniant hwylus dros dro’– hynny yw, tenantiaeth neu drwydded a wneir fel trefniant hwylus dros dro gyda pherson a oedd yn dresmaswr pan aeth i mewn i’r annedd (gweler paragraff 5), a

  • Llety a rennir â’r landlord – er enghraifft pan fo’r landlord yn cymryd lletywr (gweler paragraff 6).

Rhan 3 - Tenantiaethau a thrwyddedau nad ydynt byth yn gontractau meddiannaeth

41.Fel y gwna Rhan 2, mae’r Rhan hon yn ymwneud â thenantiaethau a thrwyddedau penodol sydd o fewn adran 7, ac a fyddai felly yn gontractau meddiannaeth oni bai am y Rhan hon. Os crybwyllir tenantiaeth neu drwydded ym mharagraff 7, ni all fyth fod yn gontract meddiannaeth, er gwaethaf y ffaith ei bod o fewn adran 7.

Paragraff 7

42.Nid yw tenantiaeth neu drwydded yn gontract meddiannaeth os yw’r tenant neu’r trwyddedai o dan 18 oed (neu os oes mwy nag un tenant neu drwyddedai, os yw pob un ohonynt o dan 18 oed).

43.Mae’r paragraff hwn hefyd yn eithrio tenantiaethau amrywiol eraill o fod yn gontractau meddiannaeth. Mae’r canlynol wedi eu heithrio o fod yn gontractau meddiannaeth:

  • tenantiaeth y mae Rhan 2 o Ddeddf Landlord a Thenant 1954 yn gymwys iddi, sy’n darparu diogelwch i denantiaid busnes wrth iddynt adnewyddu neu derfynu eu les. Nid yw’r tenantiaethau hyn o fewn cwmpas y Ddeddf hon, gan nad ydynt yn cael eu defnyddio at y diben o rentu cartref.

  • meddiannaeth warchodedig neu denantiaeth statudol o fewn ystyr Deddf Rhenti (Amaethyddiaeth) 1976, sy’n rhoi diogelwch deiliadaeth i weithwyr amaethyddol a letyir gan eu cyflogwyr, ynghyd â’u holynwyr.

  • tenantiaeth warchodedig neu denantiaeth statudol o fewn ystyr Deddf Rhenti 1977; mae gan denantiaid o dan y Ddeddf hon hawliau diffiniedig ynglŷn â swm y rhent y gellir ei godi arnynt, a diogelwch deiliadaeth.

  • tenantiaeth ddiogel sy’n denantiaeth cymdeithas dai, o fewn ystyr adran 86 o Ddeddf Rhenti 1977; mae gan denantiaid cymdeithas dai o dan y Ddeddf hon hawliau diffiniedig ynglŷn â swm y rhent y gellir ei godi arnynt, a diogelwch deiliadaeth.

  • tenantiaeth o ddaliad amaethyddol o fewn ystyr Deddf Daliadau Amaethyddol 1986; tir a gynhwysir mewn contract tenantiaeth amaethyddol.

  • tenantiaeth busnes fferm o fewn ystyr Deddf Tenantiaethau Amaethyddol 1995; mae gan landlordiaid a thenantiaid yr hawl i negodi eu darpariaethau eu hunain ynglŷn â lefelau rhenti a phenderfynu a oes arnynt eisiau cael adolygiadau rhent ai peidio; i fod yn gymwys, rhaid ffermio’r tir drwy gydol oes y denantiaeth.

  • tenantiaeth hir (gweler paragraff 8).

  • llety a ddarperir i aelod o’r lluoedd arfog, i aelod o deulu aelod o’r lluoedd arfog neu i sifiliad sy’n ddarostyngedig i ddisgyblaeth y lluoedd arfog at ddibenion unrhyw un neu ragor o’r lluoedd arfog (gweller paragraff 9 o Atodlen 2).

  • tenantiaeth neu drwydded sy’n ymwneud â ‘llety mynediad uniongyrchol’ (gweler paragraff 10).

Paragraff 8

44.Mae tenantiaethau hir wedi eu heithrio o fod yn gontractau meddiannaeth. Mae’r paragraff hwn yn diffinio tenantiaeth hir o dan y Ddeddf fel a ganlyn:

  • tenantiaeth am gyfnod penodol o fwy nag 21 mlynedd (hynny yw, cytunodd y partïon ar y dechrau y byddai’r denantiaeth yn parhau am gyfnod penodol o amser sy’n hwy nag 21 mlynedd),

  • tenantiaeth am gyfnod a bennwyd drwy gyfraith oherwydd cyfamod neu rwymedigaeth i’w hadnewyddu’n barhaus (megis opsiwn i’r tenant adnewyddu’r denantiaeth pan ddaw i ben, er enghraifft adnewyddu’r denantiaeth yn barhaus bob 5 mlynedd), neu

  • tenantiaeth a wneir yn unol â’r ‘hawl i brynu’ (Rhan 5 o Ddeddf Tai 1985) neu’r ‘hawl i gaffael’ (adran 17 o Ddeddf Tai 1996).

45.Ond nid yw tenantiaeth y gellir ei therfynu drwy hysbysiad ar ôl marwolaeth yn denantiaeth hir (oni bai ei bod yn denantiaeth cydberchnogaeth – gweler isod).

46.Tenantiaeth cydberchnogaeth yw tenantiaeth sy’n ymwneud ag annedd sy’n eiddo i landlord cymdeithasol cofrestredig, pan fo’r tenant wedi prynu canran o’r eiddo ar sail lesddaliad ac yn talu rhent am y gyfran nad yw’n berchen arni. Gall y tenant brynu cyfrannau pellach o’r rhan nad yw’n berchen arni, ac o bosibl leihau’r rhan honno i ddim.

Paragraff 10

47.Llety mynediad uniongyrchol yw llety a ddarperir gan landlord cymunedol neu elusen a gofrestrwyd gyda’r Comisiwn Elusennau (o dan Ddeddf Elusennau 2011), a ddarperir ar sail fyrdymor iawn (24 awr neu lai) i bobl sy’n bodloni meini prawf a bennir gan y landlord (fel rheol pan fo angen llety ar y person dan sylw ar unwaith).

Rhan 4 - Tenantiaethau a thrwyddedau y mae rheolau arbennig yn gymwys iddynt: digartrefedd

48.Mae gan awdurdod tai lleol ddyletswydd i’r bobl hynny sy’n ddigartref ac mewn angen. Mae hyn yn cynnwys dyletswydd i ddarparu llety interim o dan adran 68 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 (‘y ddyletswydd interim’) a dyletswydd i sicrhau llety (ar sail tymor hwy) o dan adran 75 o’r Ddeddf honno (‘y ddyletswydd lawn’). Mae dyletswydd interim awdurdod tai lleol yn ei gwneud yn ofynnol iddo sicrhau llety i geisydd y mae ganddo reswm i gredu ei fod yn ddigartref, yn gymwys i gael cymorth ac mewn angen blaenoriaethol.

49.Mae dyletswydd interim yn codi tra bo’r awdurdod lleol yn cynnal asesiad o dan adran 62 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014, i ystyried a oes dyletswydd lawn yn ddyledus i’r ceisydd mewn gwirionedd.

50.Yn dilyn yr asesiad hwn, bydd yr awdurdod lleol yn hysbysu’r ceisydd o’r canlyniad. Os dengys yr asesiad fod dyletswydd lawn yn ddyledus i’r ceisydd gan yr awdurdod lleol, bydd dyletswydd arno i ddarparu llety addas.

Paragraff 11

51.Mae’r paragraff hwn yn pennu nad yw llety a ddarperir gan awdurdod tai lleol mewn cysylltiad â’i swyddogaethau digartrefedd (ac eithrio llety a ddarperir yn unol â’r ddyletswydd lawn) yn cael ei ddarparu o dan gontract meddiannaeth. Felly, ni fydd llety a ddarperir o dan y ddyletswydd interim yn cael ei ddarparu o dan gontract meddiannaeth.

Paragraff 12

52.Mae paragraff 12 yn pennu’r rheolau sy’n gymwys pan fo awdurdod tai lleol yn ymrwymo i drefniadau gyda landlord arall i gyflawni ei swyddogaethau digartrefedd.

Rhan 5 - Tenantiaethau a thrwyddedau y mae rheolau arbennig yn gymwys iddynt: llety â chymorth
Paragraff 13

53.Nid yw tenantiaethau a thrwyddedau ar gyfer llety â chymorth y mae landlord yn bwriadu ar y dechrau eu darparu am ddim mwy na chwe mis, yn gontractau meddiannaeth. Landlordiaid cymunedol ac elusennau cofrestredig yw’r landlordiaid y mae hyn yn gymwys iddynt. Mae adran 143(2) yn diffinio llety â chymorth.

54.Os yw tenantiaeth neu drwydded ar gyfer llety â chymorth yn parhau y tu hwnt i chwe mis, bydd yn dod yn gontract meddiannaeth fel mater o drefn, sef ‘contract safonol â chymorth’; gweler adran 143 a Rhan 8 o’r Ddeddf yn gyffredinol. Gwneir eithriad i’r trosi awtomatig yn gontract meddiannaeth pan fo’r landlord yn ymestyn y cyfnod chwe mis drwy roi hysbysiad o dan baragraff 15.

55.Mae hyn yn golygu y bydd contract meddiannaeth yn cael ei ffurfio naill ai yn union ar ôl i’r cyfnod chwe mis dechreuol ddod i ben (os na wneir estyniad) neu (os gwneir estyniad) yn union ar ôl y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad o estyniad. Cyfeirir at y cyfnod cyn i’r denantiaeth neu’r drwydded ddod yn gontract meddiannaeth fel y ‘cyfnod perthnasol’.

Paragraff 14

56.Mae’r paragraff hwn yn pennu’r effaith a gaiff contractau blaenorol ynglŷn â llety â chymorth ar y modd y cyfrifir y cyfnod perthnasol. Yn gyffredinol, os cafwyd contractau blaenorol sy’n ymwneud â llety â chymorth, bydd y cyfnod perthnasol yn cael ei gyfrifo o ddyddiad cychwyn y cyntaf o’r contractau hynny.

57.Er mwyn i unrhyw gontract blaenorol gael ei drin yn y modd hwn, rhaid iddo fod yn ymwneud â llety â chymorth, ac ymwneud naill ai â’r un annedd â’r contract cyfredol, neu annedd o fewn yr un adeilad neu uned.

Paragraff 15

58.Fel y crybwyllwyd yn y paragraffau blaenorol, caiff landlord ymestyn y cyfnod pan nad oes gan berson sy’n byw mewn llety â chymorth gontract meddiannaeth.

59.Pan fo landlord yn dymuno parhau i ddarparu llety â chymorth y tu hwnt i’r cyfnod o chwe mis, ond nad yw’n dymuno i’r llety gael ei ddarparu o dan gontract meddiannaeth, caiff y landlord ymestyn y cyfnod hwnnw. Os nad yw’r landlord yn awdurdod tai lleol, rhaid i’r landlord gael caniatâd yr awdurdod tai lleol (a ddiffinnir yn adran 243) y lleolir y llety yn ei ardal. Gellir rhoi estyniad am gyfnod o hyd at dri mis ar y tro, ond gellir rhoi mwy nag un estyniad.

60.Er mwyn ymestyn y cyfnod, rhaid i’r landlord roi hysbysiad o estyniad i’r preswylydd, bedair wythnos o leiaf cyn y byddai’r denantiaeth neu’r drwydded, fel arall, yn dod yn gontract meddiannaeth (naill am fod cyfnod cychwynnol yn dod i ben, neu am fod estyniad blaenorol mewn grym ond y bydd yn dod i ben yn fuan).

61.Rhaid i’r hysbysiad ddarparu’r holl fanylion a nodir ym mharagraff 15(6) a (7) i’r preswylydd. Mae hyn yn cynnwys rhoi’r rhesymau am yr estyniad, hysbysu’r preswylydd pa bryd y daw’r cyfnod perthnasol fel y’i hymestynnwyd i ben, a hysbysu’r preswylydd am ei hawl i wneud cais i’r llys sirol am adolygiad o’r penderfyniad i ymestyn y cyfnod. Mae’n ofynnol hefyd fod y landlord yn ymgynghori â’r preswylydd cyn rhoi hysbysiad.

62.Wrth ystyried a ddylai wneud cais am estyniad, caiff y landlord ystyried ymddygiad y tenant neu’r trwyddedai ac ymddygiad unrhyw un arall y mae’n ymddangos i’r landlord ei fod yn byw yn yr eiddo.

63.Caiff Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau sy’n pennu manylion y weithdrefn ar gyfer cael caniatâd gan awdurdodau tai lleol.

Paragraff 16

64.Caiff person y rhoddir hysbysiad o estyniad iddo gan y landlord ofyn i‘r llys sirol adolygu’r penderfyniad i roi’r hysbysiad (os yw’r landlord yn awdurdod tai lleol) neu adolygu penderfyniad yr awdurdod tai lleol i gydsynio i roi’r hysbysiad (os nad yw’r landlord yn awdurdod tai lleol).

65.Caiff y llys gadarnhau neu ddiddymu’r penderfyniad i roi’r hysbysiad (neu i gydsynio i’w roi). Caiff y llys hefyd amrywio cyfnod yr estyniad, ond nid y tu hwnt i’r cyfnod estyniad hwyaf o dri mis.

66.Os yw’r llys yn diddymu’r hysbysiad gwreiddiol, caiff y landlord ddyroddi hysbysiad pellach o estyniad. Os yw’r landlord yn dyroddi’r hysbysiad newydd hwn o fewn 14 diwrnod ar ôl penderfyniad y llys, ystyrir y bydd yr hysbysiad yn cydymffurfio â'r cyfnod byrraf o rybudd, sef 4 wythnos, a bennir ym mharagraff 15, hyd yn oed os nad yw’n cydymffurfio’n ymarferol. Nid yw hyn yn effeithio ar y terfyn amser pan gaiff y preswylydd ofyn am adolygiad felly, yn ymarferol, caiff preswylydd wneud cais unwaith eto i’r llys sirol am adolygiad o’r hysbysiad pellach hwnnw, o dan baragraff 16.

67.Y llys sirol sy’n cynnal adolygiadau o benderfyniadau i ymestyn y cyfnod perthnasol, er mai yn unol â’r egwyddorion a gymhwysir gan yr Uchel Lys mewn cais am adolygiad barnwrol y gwneir hynny. Mae hyn hefyd yn wir am yr holl adolygiadau y bydd y llys sirol yn eu cynnal o dan y Ddeddf.

68.Mae paragraff 17 yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru ddiwygio Atodlen 2. Mae’r Atodlen yn cynnwys manylion arwyddocaol a llawer o ddiffiniadau y bydd angen eu diweddaru o bryd i’w gilydd.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Nodiadau Esboniadol

Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of the National Assembly for Wales.

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill