Chwilio Deddfwriaeth

Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016

Newidiadau dros amser i: RHAN 2

 Help about opening options

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016, RHAN 2 yn gyfredol gyda’r holl newidiadau y gwyddys eu bod mewn grym ar neu cyn 09 Mai 2024. Mae newidiadau a all gael eu dwyn i rym yn y dyfodol. Mae newidiadau a wnaed yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt trwy anodiadau. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Cofnodir newidiadau ac effeithiau gan ein tîm golygyddol mewn rhestrau sydd i'w gweld yn yr adran 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth'. Os nad yw'r effeithiau hynny wedi'u cymhwyso eto i destun y ddeddfwriaeth gan y tîm golygyddol maent hefyd wedi'u rhestru ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth yn y darpariaethau yr effeithir arnynt. Defnyddiwch y ddolen 'mwy' i agor y newidiadau a'r effeithiau sy'n berthnasol i'r ddarpariaeth rydych yn edrych arni.

View outstanding changes

Changes and effects yet to be applied to Part 2:

  • specified provision(s) savings for amendments by 2018 anaw 1, s. 6, Sch. 6 by S.I. 2019/110 reg. 5

Changes and effects yet to be applied to the whole Act associated Parts and Chapters:

Whole provisions yet to be inserted into this Act (including any effects on those provisions):

RHAN 2LL+CCONTRACTAU MEDDIANNAETH A LANDLORDIAID

PENNOD 1LL+CCONTRACTAU MEDDIANNAETH

7Tenantiaethau a thrwyddedau sy’n gontractau meddiannaethLL+C

(1)Mae tenantiaeth neu drwydded yn gontract meddiannaeth—

(a)os yw o fewn is-adran (2) neu (3), a

(b)os oes rhent neu gydnabyddiaeth arall yn daladwy oddi tani.

(2)Mae tenantiaeth o fewn yr is-adran hon—

(a)os yw wedi ei gwneud rhwng landlord ac unigolyn, a

(b)os yw’n rhoi’r hawl i’r unigolyn feddiannu annedd fel cartref.

(3)Mae tenantiaeth neu drwydded o fewn yr is-adran hon—

(a)os yw wedi ei gwneud rhwng landlord a dau neu ragor o bersonau, a bod o leiaf un o’r rheini yn unigolyn, a

(b)os yw’n rhoi’r hawl i’r unigolyn (neu i un neu ragor ohonynt, os oes mwy nag un unigolyn) feddiannu annedd fel cartref.

(4)Ond mae eithriadau i is-adran (1) yn Atodlen 2, sy’n darparu—

(a)yn Rhan 1, y gall tenantiaethau a thrwyddedau penodol nad ydynt o fewn is-adran (2) neu (3) fod yn gontractau meddiannaeth os rhoddir hysbysiad,

(b)yn Rhan 2, nad yw tenantiaethau a thrwyddedau penodol sydd o fewn is-adran (2) neu (3) yn gontractau meddiannaeth oni bai y rhoddir hysbysiad,

(c)yn Rhan 3, nad yw tenantiaethau a thrwyddedau penodol byth yn gontractau meddiannaeth,

(d)yn Rhannau 4 a 5, y gall tenantiaethau a thrwyddedau penodol fod yn gontractau meddiannaeth, ond bod rheolau arbennig yn gymwys mewn perthynas â hwy, ac

(e)yn Rhan 6, y caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio’r Atodlen honno.

(5)Mae pob person y mae landlord yn gwneud contract meddiannaeth ag ef yn ddeiliad contract o dan y contract meddiannaeth.

(6)Ond ni all unigolyn fod yn ddeiliad contract o dan gontract meddiannaeth os nad yw wedi cyrraedd 18 oed.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 7 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I2A. 7 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

8Contractau diogel a chontractau safonolLL+C

(1)Mae contract meddiannaeth naill ai—

(a)yn gontract diogel, neu

(b)yn gontract safonol.

(2)Mae contract diogel yn gontract cyfnodol.

(3)Mae contract safonol naill ai’n gontract cyfnod penodol neu’n gontract cyfnodol.

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 8 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I4A. 8 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

PENNOD 2LL+CNATUR CONTRACTAU Y GALL LANDLORDIAID CYMUNEDOL A LANDLORDIAID PREIFAT EU GWNEUD ETC.

DiffiniadauLL+C

9Landlordiaid cymunedolLL+C

(1)Yn y Ddeddf hon, ystyr “landlord cymunedol” yw landlord sydd yn—

(a)awdurdod a grybwyllir yn is-adran (2),

(b)landlord cymdeithasol cofrestredig, heblaw cymdeithas dai gwbl gydfuddiannol neu gymdeithas dai gydweithredol, neu

(c)darparwr tai cymdeithasol preifat cofrestredig (gweler adran 80(3) o Ddeddf Tai ac Adfywio 2008 (p. 17)).

(2)Yr awdurdodau yw—

(a)awdurdod lleol;

(b)corfforaeth dref newydd;

(c)ymddiriedolaeth gweithredu tai;

(d)corfforaeth datblygu trefol;

(e)cydweithrediaeth tai y mae is-adran (3) yn gymwys iddi.

(3)Mae’r is-adran hon yn gymwys i gydweithrediaeth tai (o fewn ystyr adran 27B o Ddeddf Tai 1985 (p. 68)) i’r graddau y mae unrhyw annedd sy’n ddarostyngedig i gontract meddiannaeth wedi ei chynnwys mewn cytundeb cydweithrediaeth tai o fewn ystyr yr adran honno.

(4)Yn y Ddeddf hon, ystyr “landlord cymdeithasol cofrestredig” yw person a gofrestrwyd ar y gofrestr a gedwir o dan adran 1 o Ddeddf Tai 1996 (p. 52).

(5)Yn y Ddeddf hon, mae i “cymdeithas dai gwbl gydfuddiannol” a “cymdeithas dai gydweithredol” yr un ystyr ag a roddir i “fully mutual housing association” a “co-operative housing association” yn Neddf Cymdeithasau Tai 1985 (p. 69) (gweler adran 1(2) o’r Ddeddf honno).

(6)Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio’r adran hon drwy reoliadau at ddiben—

(a)darparu nad yw person sydd ar y pryd yn landlord cymunedol yn landlord cymunedol;

(b)darparu bod person nad yw’n landlord cymunedol yn landlord cymunedol;

(c)newid disgrifiad o berson sydd ar y pryd yn landlord cymunedol.

Gwybodaeth Cychwyn

I5A. 9 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I6A. 9 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

10Landlordiaid preifatLL+C

Yn y Ddeddf hon, ystyr “landlord preifat” yw landlord nad yw’n landlord cymunedol.

Gwybodaeth Cychwyn

I7A. 10 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I8A. 10 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

Contractau a wneir â landlordiaid cymunedol neu a fabwysiedir ganddyntLL+C

11Contract a wneir â landlord cymunedolLL+C

(1)Mae contract meddiannaeth a wneir â landlord cymunedol yn gontract diogel oni bai bod un o’r eithriadau a ganlyn yn gymwys.

(2)Mae’r eithriad cyntaf yn gymwys—

(a)os yw’r contract meddiannaeth o fewn Atodlen 3 (contractau meddiannaeth a wneir gyda landlordiaid cymunedol y caniateir iddynt fod yn gontractau safonol),

(b)os yw’r landlord, cyn gwneud y contract neu ar adeg gwneud y contract, yn rhoi hysbysiad i ddeiliad y contract o dan adran 13 (hysbysiad contract safonol), ac

(c)os nad oes unrhyw eithriad arall yn gymwys.

(3)Mae’r ail eithriad yn gymwys os caiff y contract ei wneud o ganlyniad i orchymyn o dan adran 116 (contract safonol ymddygiad gwaharddedig).

(4)Mae’r trydydd eithriad yn gymwys os yw’r contract yn bodoli yn sgil adran 184(2) neu os yw o fewn adran 184(6) (contractau ar ddiwedd cyfnod penodol).

(5)Mae’r pedwerydd eithriad yn gymwys os yw’r contract yn denantiaeth neu’n drwydded sy’n bodoli yn sgil adran 238 (tenantiaethau a thrwyddedau goblygedig).

(6)Mae adran 16 yn gwneud darpariaeth bellach am gontractau y mae’r eithriad cyntaf yn gymwys iddynt am fod y contract o fewn paragraff 3 o Atodlen 3 (contractau safonol rhagarweiniol).

Gwybodaeth Cychwyn

I9A. 11 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I10A. 11 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

12Contract a fabwysiedir gan landlord cymunedolLL+C

(1)Os yw landlord cymunedol yn dod yn landlord o dan gontract diogel sydd eisoes yn bodoli, mae’r contract yn parhau fel contract diogel.

(2)Os yw landlord cymunedol yn dod yn landlord o dan gontract safonol sydd eisoes yn bodoli oherwydd trosglwyddiad o dan adran 62 neu 66 (trosglwyddo hawliau a rhwymedigaethau landlord o dan gontract isfeddiannaeth), mae’r contract yn parhau fel contract safonol.

(3)Os yw landlord cymunedol yn dod yn landlord o dan gontract safonol sydd eisoes yn bodoli, a hynny am unrhyw reswm arall, mae’r contract sydd eisoes yn bodoli—

(a)yn dod i ben pan fydd y landlord cymunedol yn dod yn landlord, a

(b)yn cael ei ddisodli gan gontract diogel sydd â dyddiad meddiannu sy’n dod yn union ar ôl i’r contract sydd eisoes yn bodoli ddod i ben,

oni bai bod un o’r eithriadau a ganlyn yn gymwys.

(4)Mae’r eithriad cyntaf yn gymwys—

(a)os yw’r contract o fewn Atodlen 3 (contractau meddiannaeth a fabwysiedir gan landlord cymunedol),

(b)os yw’r landlord cymunedol, cyn iddo ddod yn landlord neu ar yr adeg y daw’n landlord, yn rhoi hysbysiad i ddeiliad y contract o dan adran 13, ac

(c)os nad oes unrhyw eithriad arall yn gymwys.

(5)Mae’r ail eithriad yn gymwys os caiff y contract ei wneud o ganlyniad i orchymyn o dan adran 116 (contract safonol ymddygiad gwaharddedig).

(6)Mae’r trydydd eithriad yn gymwys os yw’r contract yn bodoli yn sgil adran 184(2) neu os yw o fewn adran 184(6) (contractau ar ddiwedd cyfnod penodol).

(7)Mae’r pedwerydd eithriad yn gymwys os yw’r contract yn denantiaeth neu’n drwydded sy’n bodoli yn sgil adran 238 (tenantiaethau a thrwyddedau goblygedig).

(8)Mae’r pumed eithriad yn gymwys—

(a)os yw’r contract yn gontract safonol cyfnod penodol y talwyd premiwm ar ei gyfer, a

(b)os yw deiliad y contract, cyn i’r landlord cymunedol ddod yn landlord arno, yn penderfynu y dylai’r contract barhau i fod yn gontract safonol cyfnod penodol (mae adran 15 yn gwneud darpariaeth bellach am benderfyniadau o’r fath).

(9)Mae adran 16 yn gwneud darpariaeth bellach am gontractau y mae’r eithriad cyntaf yn gymwys iddynt am fod y contract o fewn paragraff 3 o Atodlen 3 (contractau safonol rhagarweiniol).

Gwybodaeth Cychwyn

I11A. 12 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I12A. 12 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

13Hysbysiad o gontract safonolLL+C

(1)Mae hysbysiad o dan yr adran hon yn hysbysiad—

(a)sy’n pennu’r paragraff o Atodlen 3, a’r disgrifiad o gontract meddiannaeth a nodir yn y paragraff hwnnw, y mae’r landlord yn dibynnu arno, a

(b)sy’n datgan bod y contract yn gontract safonol.

(2)Rhaid i’r hysbysiad hefyd hysbysu deiliad y contract o’i hawl i wneud cais am adolygiad o dan adran 14, ac erbyn pryd y mae’n rhaid gwneud y cais.

Gwybodaeth Cychwyn

I13A. 13 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I14A. 13 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

14Adolygu hysbysiadLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo landlord cymunedol yn rhoi hysbysiad o dan adran 13.

(2)Caiff deiliad y contract wneud cais i’r llys sirol am adolygiad o benderfyniad y landlord i roi’r hysbysiad.

(3)Rhaid gwneud y cais cyn diwedd y cyfnod o 14 diwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r landlord yn rhoi’r hysbysiad i ddeiliad y contract.

(4)Caiff y llys sirol roi caniatâd i gais gael ei wneud ar ôl diwedd y cyfnod a ganiateir gan is-adran (3), ond dim ond os yw’n fodlon—

(a)os ceisir caniatâd cyn diwedd y cyfnod hwnnw, bod rheswm da nad yw deiliad y contract yn gallu gwneud y cais mewn pryd, neu

(b)os ceisir caniatâd ar ôl hynny, bod rheswm da bod deiliad y contract wedi methu â gwneud y cais mewn pryd ac am unrhyw oedi cyn gwneud cais am ganiatâd.

(5)Caiff y llys sirol gadarnhau’r penderfyniad i roi’r hysbysiad neu ei ddiddymu.

(6)Wrth ystyried a ddylai gadarnhau’r penderfyniad neu ei ddiddymu, rhaid i’r llys sirol gymhwyso’r egwyddorion a gymhwysir gan yr Uchel Lys pan wneir cais am adolygiad barnwrol.

(7)Os yw’r llys sirol yn diddymu’r penderfyniad, caiff wneud unrhyw orchymyn y gallai’r Uchel Lys ei wneud wrth wneud gorchymyn diddymu ar gais am adolygiad barnwrol.

(8)Os yw’r llys sirol yn diddymu’r penderfyniad ac os yw’r landlord yn rhoi hysbysiad pellach i ddeiliad y contract o dan adran 13 cyn diwedd y cyfnod ôl-adolygiad, mae’r hysbysiad yn cael effaith (heblaw at ddibenion is-adran (3)), fel pe bai wedi ei roi—

(a)mewn achos sydd o fewn adran 11, ar adeg gwneud y contract, neu

(b)mewn achos sydd o fewn adran 12, ar yr adeg y daeth y landlord cymunedol yn landlord.

(9)Y cyfnod ôl-adolygiad yw’r cyfnod o 14 diwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r llys sirol yn diddymu’r penderfyniad.

Gwybodaeth Cychwyn

I15A. 14 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I16A. 14 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

15Hysbysiad o’r hawl i benderfynu parhau ar gontract safonol cyfnod penodolLL+C

(1)O leiaf fis cyn i landlord cymunedol ddod yn landlord o dan gontract safonol cyfnod penodol y talwyd premiwm ar ei gyfer, rhaid i’r landlord cymunedol roi hysbysiad i ddeiliad y contract o dan yr adran hon.

(2)Rhaid i’r hysbysiad—

(a)hysbysu deiliad y contract o’i hawl o dan adran 12(8)(b) i benderfynu y dylai‘r contract barhau i fod yn gontract safonol cyfnod penodol, a’i hysbysu erbyn pryd y mae’n rhaid iddo wneud y penderfyniad, a

(b)egluro sut y bydd adran 12 yn gymwys i’r contract os nad yw deiliad y contract yn gwneud y penderfyniad.

Gwybodaeth Cychwyn

I17A. 15 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I18A. 15 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

16Contractau safonol rhagarweiniolLL+C

(1)Mae contract meddiannaeth sy’n gontract safonol am fod yr eithriad cyntaf yn adran 11 neu 12 yn gymwys ac am ei fod o fewn paragraff 3 o Atodlen 3 (contract meddiannaeth newydd a wneir â landlord cymunedol)—

(a)yn gontract safonol cyfnodol yn ystod y cyfnod rhagarweiniol, a

(b)os yw’n bodoli yn union cyn diwedd y cyfnod hwnnw—

(i)yn dod i ben ar ddiwedd y cyfnod hwnnw, a

(ii)yn cael ei ddisodli gan gontract diogel sydd â dyddiad meddiannu sy’n dod yn union ar ôl i’r cyfnod hwnnw ddod i ben.

(2)Ond nid yw is-adran (1)(b) yn gymwys os yw cyfnod rhagarweiniol yn dod i ben oherwydd paragraff 1(6) o Atodlen 4 (landlord preifat yn dod yn landlord o dan y contract).

(3)Mae Atodlen 4 yn gwneud darpariaeth ynghylch cyfnodau rhagarweiniol ac ynghylch telerau contract diogel sy’n dod i fodolaeth yn sgil diwedd cyfnod rhagarweiniol.

(4)Yn y Ddeddf hon, ystyr “contract safonol rhagarweiniol” yw contract—

(a)sydd o fewn is-adran (1), a

(b)nad yw’r cyfnod rhagarweiniol sy’n berthnasol iddo wedi dod i ben.

Gwybodaeth Cychwyn

I19A. 16 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I20A. 16 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

Contractau a wneir â landlordiaid preifat neu a fabwysiedir ganddyntLL+C

17Contract a wneir â landlordiaid preifat neu a fabwysiedir ganddyntLL+C

(1)Mae contract meddiannaeth a wneir â landlord preifat yn gontract safonol oni bai bod y landlord, cyn neu ar adeg gwneud y contract, yn rhoi hysbysiad i ddeiliad y contract sy’n datgan bod y contract yn gontract diogel.

(2)Os yw landlord preifat yn dod yn landlord o dan gontract diogel sydd eisoes yn bodoli, mae’r contract yn parhau i fod yn gontract diogel.

(3)Os yw landlord preifat yn dod yn landlord o dan gontract safonol sydd eisoes yn bodoli, mae’r contract yn parhau i fod yn gontract safonol.

Gwybodaeth Cychwyn

I21A. 17 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I22A. 17 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

PENNOD 3LL+CDARPARIAETHAU SYLFAENOL CONTRACTAU MEDDIANNAETH

18Darpariaethau sylfaenolLL+C

(1)Darpariaethau sylfaenol yw darpariaethau yn y Ddeddf hon (a darpariaethau sy’n ddarpariaethau sylfaenol yn rhinwedd adran 22(1)(a)) a ymgorfforir fel telerau contractau meddiannaeth neu fel telerau mathau neu ddisgrifiadau penodol o gontractau meddiannaeth (yn ddarostyngedig i adrannau 20(1) a (2) a 21).

(2)Mae pob un o ddarpariaethau’r Ddeddf hon sy’n ddarpariaeth sylfaenol yn nodi hynny, ac yn pennu ym mha gontractau meddiannaeth y caiff ei hymgorffori fel teler sylfaenol.

(3)Nid oes dim yn y Ddeddf hon i’w ddarllen fel pe bai’n galluogi landlord neu ddeiliad contract i wneud unrhyw beth a fyddai’n cael yr effaith nad yw darpariaeth sylfaenol sy’n gymwys i’r contract meddiannaeth yn ddarpariaeth sylfaenol sy’n gymwys i’r contract hwnnw, neu’n cael yr effaith nad yw i’w drin felly (ond nid yw hyn yn atal cytundeb i addasu neu i beidio ag ymgorffori darpariaeth sylfaenol, neu amrywiad ar un o’r telerau sylfaenol, sydd yn unol â’r Ddeddf hon).

Gwybodaeth Cychwyn

I23A. 18 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I24A. 18 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

19Telerau sylfaenol a darpariaethau sylfaenol: diffiniadauLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys at ddibenion dehongli’r Ddeddf hon.

(2)Mae i “darpariaeth sylfaenol” yr ystyr a roddir yn adran 18.

(3)Mae cyfeiriad yn y Ddeddf hon at adran neu ddarpariaeth arall sydd yn ddarpariaeth sylfaenol yn cael effaith, mewn perthynas â chontract sy’n ymgorffori’r ddarpariaeth sylfaenol (ynghyd ag addasiadau i’r ddarpariaeth neu heb addasiadau iddi), fel cyfeiriad at deler sylfaenol y contract sy’n ymgorffori’r ddarpariaeth honno.

(4)Ystyr “teler sylfaenol”, mewn perthynas â chontract meddiannaeth, yw teler o’r contract sy’n ymgorffori darpariaeth sylfaenol (ynghyd ag addasiadau i’r ddarpariaeth neu heb addasiadau iddi).

Gwybodaeth Cychwyn

I25A. 19 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I26A. 19 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

20Ymgorffori ac addasu darpariaethau sylfaenolLL+C

(1)Nid yw darpariaeth sylfaenol wedi ei hymgorffori fel un o delerau contract meddiannaeth—

(a)os yw’r landlord a deiliad y contract yn cytuno na ddylid ei hymgorffori, a

(b)osF1... effaith peidio â’i hymgorffori yw bod sefyllfa deiliad y contract yn gwella.

(2)Mae darpariaeth sylfaenol wedi ei hymgorffori fel un o delerau contract meddiannaeth ynghyd ag addasiadau iddi—

(a)os yw’r landlord a deiliad y contract yn cytuno y dylid ei hymgorffori ynghyd â’r addasiadau hynny iddi, a

(b)osF2... effaith ei hymgorffori ynghyd â’r addasiadau hynny yw bod sefyllfa deiliad y contract yn gwella.

(3)Nid yw is-adrannau (1) a (2) yn gymwys i’r darpariaethau sylfaenol a ganlyn—

(a)adran 45 (gofyniad i ddefnyddio cynllun blaendal),

(b)adran 52 (cyd-ddeiliad contract yn peidio â bod yn barti i’r contract meddiannaeth),

(c)adran 55 (ymddygiad gwrthgymdeithasol ac ymddygiad gwaharddedig arall),

(d)adrannau 103(1)(b) a (2) a 108 (amrywio contractau diogel),

(e)adrannau 122(1)(b) a (2) a 127 (amrywio contractau safonol cyfnodol),

(f)adran 134(1)(b) a (2) a 135 (amrywio contractau safonol cyfnod penodol),

(g)adran 148 (terfynu a ganiateir),

(h)adran 149 (hawliadau meddiant),

(i)adran 155 (marwolaeth unig ddeiliad contract),

(j)adran 158 (sicrhau contract drwy ddatganiad ffug),

F3(k). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F3(l). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F3(m). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F3(n). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F3(o). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

(p)paragraff 7 o Atodlen 4 (amrywio contract diogel yr ymdrinnir ag ef mewn datganiad ysgrifenedig o gontract safonol rhagarweiniol)[F4, a

(q)Rhan 1 o Atodlen 9A (cyfyngiadau ar roi hysbysiad o dan adrannau 173 a 186 ac o dan gymal terfynu’r landlord).]

(4)Mae is-adrannau (1) a (2) yn ddarostyngedig i adran 34 (methiant landlord i ddarparu datganiad ysgrifenedig o’r contract) ac adran 36 (datganiad anghyflawn o’r contract).

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I27A. 20 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I28A. 20 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

21Effaith peidio ag ymgorffori darpariaethau sylfaenol ac addasu darpariaethau sylfaenolLL+C

(1)Mae is-adrannau (2) a (3) yn gymwys—

(a)pan nad yw darpariaeth sylfaenol wedi ei hymgorffori fel un o delerau contract meddiannaeth oherwydd cytundeb o dan adran 20(1), neu

(b)pan fo darpariaeth sylfaenol wedi ei hymgorffori ynghyd ag addasiadau iddi oherwydd cytundeb o dan adran 20(2).

(2)Os, o ganlyniad, yw’n angenrheidiol nad yw darpariaeth sylfaenol neu ddarpariaeth atodol arall (gweler Pennod 4) yn cael ei hymgorffori, nid yw’r ddarpariaeth honno wedi ei hymgorffori.

(3)Os, o ganlyniad, yw’n angenrheidiol ymgorffori darpariaeth sylfaenol neu ddarpariaeth atodol arall ynghyd ag addasiadau iddi, mae’r ddarpariaeth honno wedi ei hymgorffori ynghyd â’r addasiadau angenrheidiol hynny (yn ogystal ag unrhyw addasiadau a wneir oherwydd cytundeb o dan adran 20(2) neu adran 24(2)).

(4)Ond nid yw is-adrannau (2) a (3) yn gymwys pe byddai eu cymhwyso yn cael yr effaith na fyddai darpariaeth sylfaenol a grybwyllir yn adran 20(3) wedi ei hymgorffori, neu y byddai wedi ei hymgorffori ynghyd ag addasiadau iddi; felly, nid yw’r cytundeb a grybwyllir yn is-adran (1)(a) neu (b) yn cael unrhyw effaith.

Gwybodaeth Cychwyn

I29A. 21 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I30A. 21 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

22Pwerau o ran darpariaethau sylfaenolLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru ddarparu drwy reoliadau bod—

(a)darpariaeth mewn unrhyw ddeddfiad yn ddarpariaeth sylfaenol sy’n gymwys i gontract meddiannaeth;

(b)darpariaeth mewn unrhyw ddeddfiad sydd ar y pryd yn ddarpariaeth sylfaenol sy’n gymwys i gontract meddiannaeth, yn peidio â bod yn ddarpariaeth sylfaenol sy’n gymwys i gontract meddiannaeth.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru ddarparu drwy reoliadau nad yw—

(a)adran 20(1) yn gymwys i ddarpariaeth sylfaenol;

(b)adran 20(2) yn gymwys i ddarpariaeth sylfaenol.

F5(3). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I31A. 22 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I32A. 22 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

PENNOD 4LL+CDARPARIAETHAU ATODOL CONTRACTAU MEDDIANNAETH

23Darpariaethau atodolLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru ddarparu drwy reoliadau bod darpariaethau a ddynodir yn y rheoliadau wedi eu hymgorffori fel telerau contractau meddiannaeth (yn ddarostyngedig i adrannau 21, 24(1) a (2) a 25); at ddibenion y Ddeddf hon, mae darpariaethau o’r fath yn “ddarpariaethau atodol”.

(2)Rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag unrhyw bersonau sy’n briodol yn eu tyb hwy cyn gwneud Rheoliadau o dan is-adran (1).

(3)Mae adrannau 112 a 131 yn rhoi pwerau pellach i Weinidogion Cymru ragnodi darpariaethau atodol yn ymwneud â therfynau amser ar gyfer cyd-ddeiliaid contract yn tynnu’n ôl o gontractau diogel a chontractau safonol cyfnodol (ac mae’n rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori yn unol ag is-adran (2) cyn defnyddio’r pwerau hynny).

(4)Caiff Gweinidogion Cymru, o dan is-adran (1), ragnodi bod darpariaeth mewn deddfiad yn ddarpariaeth atodol sy’n gymwys i gontract meddiannaeth.

(5)Yn y Ddeddf hon—

  • mae i “darpariaeth atodol” (“supplementary provision”) (heblaw mewn perthynas ag adrannau 255 a 256) yr ystyr a roddir yn is-adran (1) o’r adran hon;

  • ystyr “teler atodol” (“supplementary term”), mewn perthynas â chontract meddiannaeth, yw unrhyw un neu ragor o delerau’r contract sy’n ymgorffori darpariaeth atodol (ynghyd ag addasiadau neu heb addasiadau iddi).

Gwybodaeth Cychwyn

I33A. 23 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I34A. 23 mewn grym ar 5.8.2016 at ddibenion penodedig gan O.S. 2016/813, ergl. 2(a), Atod. Rhn. 1

I35A. 23 mewn grym ar 1.12.2022 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2022/906, ergl. 2

24Ymgorffori ac addasu darpariaethau atodolLL+C

(1)Nid yw darpariaeth atodol wedi ei hymgorffori fel un o delerau contract meddiannaeth os yw’r landlord a deiliad y contract yn cytuno na ddylid ei hymgorffori.

(2)Mae darpariaeth atodol wedi ei hymgorffori fel un o delerau contract meddiannaeth ynghyd ag addasiadau iddi os yw’r landlord a deiliad y contract yn cytuno y dylid ei hymgorffori ynghyd â’r addasiadau hynny.

(3)Nid oes unrhyw effaith i gytundeb o dan is-adran (1) neu (2) a fyddai’n gwneud teler atodol mewn contract meddiannaeth yn anghydnaws ag un o delerau sylfaenol y contract.

(4)Mae is-adrannau (1) a (2) yn ddarostyngedig i adran 34 (methiant landlord i ddarparu datganiad ysgrifenedig o’r contract) ac adran 36 (datganiad anghyflawn o’r contract).

Gwybodaeth Cychwyn

I36A. 24 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I37A. 24 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

25Effaith peidio ag ymgorffori darpariaethau atodol ac addasu darpariaethau atodolLL+C

(1)Mae is-adrannau (2) a (3) yn gymwys—

(a)pan na fo darpariaeth atodol wedi ei hymgorffori fel un o delerau contract meddiannaeth oherwydd cytundeb o dan adran 24(1), neu

(b)pan fo darpariaeth atodol wedi ei hymgorffori fel un o delerau’r contract ynghyd ag addasiadau iddi oherwydd cytundeb o dan adran 24(2).

(2)Os, o ganlyniad, yw’n angenrheidiol nad yw darpariaeth atodol arall yn cael ei hymgorffori, nid yw’r ddarpariaeth arall wedi ei hymgorffori.

(3)Os, o ganlyniad, yw’n angenrheidiol ymgorffori darpariaeth atodol arall ynghyd ag addasiadau iddi, mae’r ddarpariaeth arall wedi ei hymgorffori ynghyd â’r addasiadau angenrheidiol hynny (yn ogystal ag unrhyw addasiadau a wneir oherwydd cytundeb o dan adran 24(2)).

Gwybodaeth Cychwyn

I38A. 25 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I39A. 25 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

PENNOD 5LL+CMATERION ALLWEDDOL A THELERAU YCHWANEGOL CONTRACTAU MEDDIANNAETH

26Materion allweddol mewn perthynas â phob contract meddiannaethLL+C

Mae’r canlynol yn faterion allweddol mewn perthynas â phob contract meddiannaeth—

(a)yr annedd,

(b)y dyddiad meddiannu,

(c)swm y rhent neu gydnabyddiaeth arall, a

(d)y cyfnodau rhentu.

Gwybodaeth Cychwyn

I40A. 26 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I41A. 26 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

27Materion allweddol pellach mewn perthynas â chontractau safonolLL+C

Mae’r canlynol yn faterion allweddol mewn perthynas â chontractau safonol (yn ychwanegol at y rheini a nodir yn adran 26)—

(a)pa un a yw’r contract yn un cyfnodol neu wedi ei wneud am gyfnod penodol,

(b)y cyfnod dan sylw, os yw wedi ei wneud am gyfnod penodol, ac

(c)os oes cyfnodau pan nad oes gan ddeiliad y contract hawl i feddiannu’r annedd fel cartref, y cyfnodau dan sylw (gweler adrannau 121 a 133).

Gwybodaeth Cychwyn

I42A. 27 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I43A. 27 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

28Telerau ychwanegolLL+C

(1)Telerau ychwanegol contract meddiannaeth yw unrhyw un neu ragor o delerau datganedig y contract ac eithrio—

(a)telerau sy’n ymdrin â’r materion allweddol mewn perthynas â’r contract,

(b)telerau sylfaenol y contract, ac

(c)telerau atodol y contract.

(2)Nid oes unrhyw effaith i un o delerau ychwanegol contract meddiannaeth sy’n anghydnaws ag unrhyw un neu ragor o’r telerau a grybwyllir ym mharagraffau (a) i (c) o is-adran (1).

(3)Yn y Ddeddf hon mae i “telerau ychwanegol” yr ystyr a roddir gan is-adran (1).

Gwybodaeth Cychwyn

I44A. 28 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I45A. 28 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

PENNOD 6LL+CCONTRACTAU ENGHREIFFTIOL

29Datganiad ysgrifenedig enghreifftiol o gontractLL+C

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru ragnodi datganiadau ysgrifenedig enghreifftiol o gontractau ar gyfer contract meddiannaeth o unrhyw fath neu ddisgrifiad sy’n briodol yn eu barn hwy.

(2)Mae datganiad ysgrifenedig enghreifftiol o gontract ar gyfer contract meddiannaeth o fath neu ddisgrifiad penodol yn ddatganiad ysgrifenedig (gweler adran 31) sy’n ymgorffori’r holl ddarpariaethau sylfaenol ac atodol sy’n gymwys i’r contract hwnnw, heb eu haddasu.

Gwybodaeth Cychwyn

I46A. 29 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I47A. 29 mewn grym ar 5.8.2016 at ddibenion penodedig gan O.S. 2016/813, ergl. 2(a), Atod. Rhn. 1

I48A. 29 mewn grym ar 1.12.2022 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2022/906, ergl. 2

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

You have chosen to open The Whole Act

The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open The Whole Act as a PDF

The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.

Would you like to continue?

You have chosen to open The Whole Act without Schedules

The Whole Act without Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open The Whole Act without Schedules as a PDF

The Whole Act without Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.

Would you like to continue?

You have chosen to open y Ddeddf Gyfan

Y Ddeddf Gyfan you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open y Ddeddf Gyfan heb Atodlenni

Y Ddeddf Gyfan heb Atodlenni you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open Schedules only

Y Rhestrau you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Gweler y wybodaeth ychwanegol ochr yn ochr â’r cynnwys

Rhychwant ddaearyddol: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Dangos Llinell Amser Newidiadau: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Nodiadau Esboniadol

Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of the National Assembly for Wales.

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Llinell Amser Newidiadau

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill