Rhan 3: Amrywiol a chyffredinol
Adran 28 - Swyddogaethau'r Cynulliad Cenedlaethol
45.Mae'r adran hon yn darparu awdurdod i'r Cynulliad wneud darpariaeth (o fewn ei Reolau Sefydlog) ynghylch sut y mae'r swyddogaethau a nodir yn y Ddeddf sydd dan ofal y Cynulliad (ac eithrio ei swyddogaethau i gymeradwyo deddfwriaeth) i'w harfer. Y bwriad yw y gall y Cynulliad wneud darpariaeth yn ei Reolau Sefydlog, wrth ddibynnu ar y ddarpariaeth hon, fel bod un neu ragor o'i bwyllgorau yn gallu arfer y swyddogaethau hynny sy'n ymwneud â goruchwylio a chael trosolwg ar ACC. Er enghraifft, gallai’r Cynulliad ddarparu y bydd y swyddogaeth o benodi aelodau anweithredol SAC yn cael ei harfer gan bwyllgor y Cynulliad yn hytrach na chan y Cynulliad yn gweithredu mewn Cyfarfod llawn.
Adran 29 – Indemnio
46.Mae adran 29 yn darparu bod unrhyw ddigollediad i drydydd parti am dordyletswydd (er enghraifft mewn contract neu mewn achos o esgeulustra) gan ACC a benodwyd o dan y Ddeddf hon, person sy'n darparu gwasanaethau i ACC neu SAC (er enghraifft o dan adran 19), cyn-aelodau neu aelodau presennol SAC neu gyflogeion iddi, i'w godi ar CGC a'i dalu ohoni (felly nid yw'r digollediad yn ddarostyngedig i gymeradwyaeth y Cynulliad mewn penderfyniad cyllidebol). Gweler hefyd baragraff 13 o Atodlen 3 i'r Ddeddf.
Adran 30 - Gorchmynion
47.Mae'r adran hon yn gwneud darpariaeth gyffredinol ynghylch pwerau eraill yn y Ddeddf sy’n galluogi gwneud is-ddeddfwriaeth (sef gorchmynion). Mae’r is-ddeddfwriaeth honno i gael ei gwneud drwy offerynnau statudol. Yn is-adrannau (2) a (3) sefydlir gweithdrefn y Cynulliad ar gyfer gwneud y gorchmynion hynny. Darpariaeth dechnegol yw is-adran (4), sy'n sicrhau bod y pwerau sydd yn y Ddeddf i wneud yr is-ddeddfwriaeth yn ddigon eang i wneud darpariaethau penodol, megis darpariaethau atodol.
Adran 31 - Cyfarwyddiadau
48.Mae adran 31 yn gwneud darpariaeth gyffredinol mewn perthynas â’r pwerau yn y Ddeddf i ddyroddi cyfarwyddiadau.
Adran 32 – Dehongli
49.Mae'r adran hon yn darparu ystyr termau amrywiol a ddefnyddir yn y Ddeddf.
Adran 33 – Darpariaethau trosiannol, atodol ac arbed etc
50.Mae adran 33(1) yn rhoi effaith i Atodlen 3 i’r Ddeddf, sy’n nodi’r prif ddarpariaethau trosiannol etc.
51.Mae adran 33(2) yn galluogi Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn, i wneud darpariaethau trosiannol, darpariaethau darfodol neu ddarpariaethau arbed etc pellach mewn cysylltiad â'r Ddeddf hon yn dod i rym, neu i roi effaith lawn i’r Ddeddf pan fo wedi ei deddfu.
52.Mae adran 33(4) yn galluogi gorchymyn o dan is-adran (2) i addasu’r darpariaethau trosiannol etc. a nodir yn Atodlen 3. Mae’r ddarpariaeth hon yn ‘ddarpariaeth rhwyd arbed’ er mwyn sicrhau y gellir gwneud addasiadau i’r darpariaethau manwl a nodir yn Atodlen 3 petai’r amgylchiadau ar yr adeg pryd y daw’r Ddeddf i rym yn mynnu hynny.
Adran 34 – Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol
53.Mae Adran 34 yn rhoi effaith i Atodlen 4 (mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol).