Rhan 2: Swyddfa Archwilio Cymru a’i pherthynas â’r Archwilydd Cyffredinol
Adran 13 – Ymgorffori Swyddfa Archwilio Cymru
25.Mae adran 13 yn sefydlu corff corfforaethol newydd o'r enw Swyddfa Archwilio Cymru (SAC). Mae'r cymal hwn hefyd yn rhoi effaith i Atodlen 1, sy’n cynnwys darpariaeth ynghylch ymgorffori SAC.
Adrannau 14 a 15 – Pwerau ac Effeithlonrwydd
26.Mae adran 14 yn darparu y caiff SAC wneud unrhyw beth a fwriedir i hwyluso arfer unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau, neu sy’n gydnaws neu’n gysylltiedig â’u harfer, ond rhaid i SAC (yn rhinwedd adran 15) anelu at gyflawni ei swyddogaethau yn effeithiol ac yn gost-effeithlon.
Adran 16 – Y berthynas â’r Archwilydd Cyffredinol a SAC
27.Mae adran 16 yn darparu mai ACC yw prif weithredwr SAC, ond nad yw’n gyflogai iddi. Mae'r adran hon hefyd yn rhoi effaith i Atodlen 2 (Y berthynas rhwng yr Archwilydd Cyffredinol a SAC).
Adran 17 - SAC i fonitro a darparu cyngor
28.Rhaid i SAC fonitro ACC mewn perthynas â'i swyddogaethau. Caiff SAC hefyd gynghori ACC mewn perthynas â’i swyddogaethau. Mae ACC o dan ddyletswydd (adran 17(3)) i roi sylw i unrhyw gyngor o'r fath.
Adran 18 - Dirprwyo swyddogaethau’r Archwilydd Cyffredinol a’u harfer ar y cyd
29.Mae adran 18 yn galluogi i swyddogaethau ACC gael eu cyflawni gan gyflogai i SAC neu berson sy'n darparu gwasanaethau i SAC (er enghraifft, y rheini sydd wedi eu contractio i ddarparu gwasanaethau cefnogi archwilio i ACC), ar yr amod fod y cyflogai neu'r person wedi ei awdurdodi i wneud hynny mewn cynllun dirprwyo, ac yn cytuno i gydymffurfio â chod ymarfer archwilio ACC (gweler adran 10(1)). Caiff cynllun dirprwyo ei baratoi gan ACC, a bydd yn disgrifio amodau’r cynllun hwnnw. Pan fo swyddogaethau yn cael eu cyflawni o dan y cynllun dirprwyo mae'r cyfrifoldeb am y swyddogaeth yn aros gydag ACC.
30.Rhaid i'r cynllun dirprwyo gael ei baratoi gan ACC (a neb arall), a rhaid iddo ymgynghori gyda SAC wrth baratoi neu ddiwygio’r cynllun hwnnw.
Adran 19 - Darparu gwasanaethau
31.Mae adran 19 yn galluogi SAC i wneud trefniadau i gael gwasanaethau gweinyddol, proffesiynol neu dechnegol y gallai fod eu hangen arni hi neu ACC er mwyn cyflawni eu priod swyddogaethau, er enghraifft darparu gwasanaethau archwilio arbenigol yn ymwneud â threth. Mae hefyd yn galluogi SAC i wneud trefniadau gydag 'awdurdod perthnasol' (fel y’i diffinnir yn adran 19(9)) fel bod SAC neu ACC yn gallu darparu’r gwasanaethau hynny i awdurdod perthnasol, neu i arfer swyddogaethau’r awdurdod hwnnw.
32.Mae ‘awdurdod perthnasol’ yn cynnwys awdurdodau lleol (yng Nghymru a Lloegr), awdurdodau cyhoeddus eraill ac adrannau o'r llywodraeth.
33.Mae SAC yn gallu gwneud trefniadau am delerau, gan gynnwys rhai'n ymwneud â thalu. Os yw'r telerau'n cynnwys ffioedd sy'n daladwy i SAC (er enghraifft, ar gyfer darparu gwasanaethau gan ACC i awdurdod perthnasol), rhaid iddynt fod yn unol â'r cynllun codi ffioedd a lunnir o dan adran 24 (gweler isod).
Adran 20 – Gwariant
34.Rhaid i ACC a SAC ddarparu amcangyfrif ar y cyd ar gyfer pob blwyddyn ariannol (sy’n dod i ben ar 31 Mawrth) o bob incwm a gwariant gan SAC, gan gynnwys, yn benodol, yr adnoddau y mae eu hangen amdanynt ar gyfer arfer swyddogaethau ACC. Rhaid i'r amcangyfrif gael ei osod gerbron y Cynulliad er mwyn iddo gael edrych arno ac efallai ei addasu. Rhaid i'r amcangyfrif gael ei osod o leiaf bum mis cyn dechrau'r flwyddyn ariannol y mae'n ymwneud â hi.
35.Dim ond os ymgynghorir ag ACC a SAC, ac yr ystyrir unrhyw safbwyntiau a fynegir ganddynt, y caniateir i’r Cynulliad wneud unrhyw addasiadau i’r amcangyfrif.
36.Bydd yr amcangyfrif (wedi ei addasu neu fel arall) yn cael ei gynnwys yng Nghynnig Cyllidebol y Cynulliad o dan Reolau Sefydlog y Cynulliad. Rhaid i'r amcangyfrif gynnwys pob elfen incwm a gwariant, gan gynnwys y rhai sy’n ymwneud ag archwilio cyrff llywodraeth leol a phob incwm ffioedd amcangyfrifedig. (Mae paragraff 75 o Atodlen 4 i’r Ddeddf hon yn diddymu paragraffau 9(4) o Atodlen 8 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 – y pŵer i ACC gadw incwm rhai ffioedd).
Adran 21 – Darparu adnoddau ar gyfer swyddogaethau’r Archwilydd Cyffredinol
37.Mae adran 21 yn ei gwneud yn ofynnol bod SAC, fel deiliad y gyllideb, yn darparu i ACC ba adnoddau bynnag y bo’n ofynnol ganddo er mwyn cyflawni ei swyddogaethau. Yn benodol, bydd yr adnoddau hynny yn cynnwys—
staff i gynorthwyo ACC
gwasanaethau gan unrhyw berson (er enghraifft, gwasanaethau archwilio allanol neu wasanaethau archwilio eraill, yn bennaf o dan adran 19)
dal eiddo, dogfennau neu wybodaeth arall; a
cadw cofnodion mewn perthynas â swyddogaethau ACC.
Adran 22 - Benthyca
38.Mae’r adran hon yn galluogi SAC i fenthyca arian, ar ffurf gorddrafft neu fel arall, at y diben o fodloni gorwariant dros dro. Nid yw'r pŵer benthyca ar gael i ACC.
Adrannau 23 a 24 – yn ymwneud â ffioedd
39.Mae adran 23 yn galluogi SAC i godi ffioedd am archwiliadau a swyddogaethau mewn perthynas ag archwiliadau a gyflawnir gan ACC ac unrhyw wasanaethau a ddarperir gan ACC, a hynny yn unol â chynllun ar gyfer codi ffioedd a ddarperir gan SAC. Ni chaniateir i’r ffioedd a godir fod yn fwy na chost lawn darparu’r gwasanaethau dan sylw, ac y mae’r ffioedd yn daladwy i SAC.
40.O dan adran 24, rhaid i gynllun SAC nodi’r deddfiadau sy’n ei galluogi i godi ffi yn unol ag unrhyw swm penodedig neu raddfa ffioedd benodedig, yn ôl y digwydd. Ond os nad yw deddfiad yn gwneud darpariaeth ar gyfer swm neu raddfa, rhaid i SAC nodi ei sail ar gyfer cyfrifo’r ffi. Mae’r adran hon hefyd yn darparu ar gyfer rhagnodi rhai graddfeydd ffioedd gan Weinidogion Cymru, ac os gwnânt hynny, bydd rhaid i SAC gydymffurfio â’r graddfeydd a ragnodir. Rhaid i SAC adolygu ei chynllun o leiaf unwaith bob blwyddyn galendr a gosod ei chynllun (ac unrhyw ddiwygiad ohono) gerbron y Cynulliad ar gyfer ei gymeradwyo. Bydd y cynllun yn cael effaith pan gymeradwyir ef gan y Cynulliad; ac yn dilyn hynny, rhaid i SAC gyhoeddi’r cynllun.
Adrannau 25 i 27 – yn ymwneud â’r Cynllun Blynyddol
41.Rhaid i ACC a SAC ar y cyd baratoi cynllun blynyddol. Rhaid i’r cynllun blynyddol nodi'r gwaith a gynlluniwyd ar gyfer ACC a SAC fel ei gilydd; yr adnoddau sydd ar gael ac a allai ddod ar gael i SAC; a’r modd y mae’r adnoddau i gael eu defnyddio er mwyn cyflawni’r gwaith a gynlluniwyd ar eu cyfer (adran 25(2)).
42.Rhaid i’r cynllun blynyddol nodi hefyd uchafswm yr adnoddau y rhagwelir y bydd SAC yn eu dyrannu i ACC at y diben o ymgymryd â rhaglen waith ACC (gweler adran 25(2)(f))
43.Er nad yw ACC na SAC wedi eu rhwymo gan y cynllun blynyddol, rhaid iddynt roi sylw iddo (adran 27). Mae hynny’n golygu bod yn rhaid i ACC a SAC, wrth arfer eu swyddogaethau (gan gynnwys darparu'r adnoddau sy'n ofynnol gan ACC), roi i'r cynllun blynyddol y pwysigrwydd priodol o dan yr holl amgylchiadau. Os bydd rhyw waith nas rhagwelwyd yn codi, yna rhaid pwyso â mesur yn briodol yr angen i gyflawni'r gwaith hwnnw (a goblygiadau hynny i adnoddau) o’i gymharu â’r gwaith a gynlluniwyd (a'r adnoddau a ddyrannwyd i'r gwaith hwnnw).
44.Rhaid i’r cynllun blynyddol gael ei baratoi gan ACC a SAC cyn dechrau'r flwyddyn ariannol y mae'r gwaith i'w gyflawni ynddi (adran 25(1)). Unwaith y'i llunnir, rhaid ei osod gerbron y Cynulliad (adran 26), a bydd y Cynulliad o dan ddyletswydd i'w gyhoeddi yn rhinwedd adran 144 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (fel y'i diwygiwyd gan baragraff 73 o Atodlen 4 i’r Ddeddf hon).