Cefndir Polisi
3.Mae iechyd a llesiant poblogaeth Cymru yn parhau i wella. Yn gyffredinol, mae pobl yn byw yn hirach ac yn mwynhau iechyd gwell nag erioed o’r blaen. Fodd bynnag, mae Cymru yn parhau i wynebu nifer o heriau iechyd penodol a sylweddol. Mae’r rhain yn amrywio o heriau demograffig hollgyffredinol megis poblogaeth sy’n heneiddio ac anghydraddoldebau parhaus mewn iechyd, i rai sy’n fwy arwahanol a ddaw yn sgil dewisiadau o ran ffordd o fyw a datblygiadau cyfoes mewn cymdeithas.
4.Yn y gorffennol, mae deddfwriaeth wedi chwarae rôl bwysig o ran gwella ac amddiffyn iechyd. Bernir bod deddfwriaeth mewn meysydd mor amrywiol â gwahardd ysmygu mewn mannau cyhoeddus caeedig a gwisgo gwregysau diogelwch wedi gwneud cyfraniadau sylweddol i iechyd a llesiant.
5.Datblygwyd y Ddeddf hon yn dilyn ymgynghoriad ar Bapur Gwyn Iechyd y Cyhoedd, a oedd yn cynnwys cyfres o gynigion deddfwriaethol er mwyn mynd i’r afael â nifer o faterion iechyd y cyhoedd yng Nghymru. Mae’r Ddeddf yn canolbwyntio ar lunio amodau cymdeithasol sy’n ffafriol i iechyd da, a phan fo’n bosibl, osgoi ffactorau sy’n niweidio iechyd y gellir eu hosgoi.