Atodlen 21 – Rhyddhad prynu gorfodol a rhyddhad rhwymedigaethau cynllunio
Rhyddhad am bryniant gorfodol sy’n hwyluso datblygiad
411.Mae paragraff 1 o’r Atodlen hon yn darparu rhyddhad rhag treth trafodiadau tir pan fo tir yn cael ei brynu yn dilyn gwneud gorchymyn prynu gorfodol at ddibenion hwyluso datblygiad gan barti arall. Er enghraifft, gellid hawlio’r rhyddhad hwn pan fo awdurdod lleol yn gwneud gorchymyn prynu gorfodol (pa un ai drwy gytundeb ai peidio) i gaffael tir neu eiddo i’w ddatblygu gan ddatblygwr ar wahân. Gan fod y sefyllfa hon yn cynnwys dau drafodiad tir, byddai dau swm o dreth trafodiadau tir yn daladwy. Fodd bynnag, ar yr amod nad yw’r awdurdod lleol yn gyfrifol am y datblygiad, gall hawlio rhyddhad rhag treth trafodiadau tir pan fydd yn caffael y buddiant trethadwy o dan y trafodiad cyntaf.
Rhyddhad am gydymffurfio â rhwymedigaethau cynllunio
412.Fel amod o roi caniatâd cynllunio, caiff corff cyhoeddus ei gwneud yn ofynnol i’r datblygwr ddarparu amwynderau penodol, megis ffyrdd newydd neu ysgol newydd, a elwir yn rhwymedigaethau cynllunio a osodir o dan adran 106 neu adran 106A o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. Mae paragraff 2 o’r Atodlen hon yn darparu rhyddhad rhag treth trafodiadau tir pan fo’r corff cyhoeddus (sef y prynwr) yn caffael buddiant trethadwy pan fydd y datblygwr (sef y gwerthwr) yn cydymffurfio â’r fath rwymedigaeth gynllunio. Er mwyn bod yn gymwys ar gyfer y rhyddhad rhaid i’r rhwymedigaeth gynllunio fod yn orfodadwy yn erbyn y gwerthwr; rhaid i’r prynwr fod yn gorff cyhoeddus; a rhaid i’r dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith fod o fewn cyfnod o 5 mlynedd sy’n dechrau â dyddiad y rhwymedigaeth gynllunio neu ddyddiad addasu’r rhwymedigaeth gynllunio.
413.Mae paragraff 2(3) yn diffinio’r endidau sy’n gyrff cyhoeddus at ddibenion y rhyddhad hwn ac yn darparu ymhellach y caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, ychwanegu at y rhestr o gyrff cyhoeddus sydd â’r hawl i hawlio’r rhyddhad hwn.