Atodlen 20 – Rhyddhad ar gyfer caffaeliadau gan gyrff cyhoeddus a chyrff iechyd
Rhyddhad ar gyfer caffaeliadau penodol sy’n ymwneud â chyrff cyhoeddus
405.Mae paragraff 1 o’r Atodlen hon yn darparu rhyddhad rhag treth trafodiadau tir ar gyfer trafodiadau tir penodol yr ymrwymir iddynt rhwng cyrff cyhoeddus cymwys mewn cysylltiad ag ad-drefnu statudol. Caniateir hawlio rhyddhad hefyd pan fo Gweinidogion Cymru yn gwneud rheoliadau o dan is-baragraff (2) pan fo ad-drefnu a bod un o’r partïon i’r trafodiad tir yn gorff cyhoeddus.
406.Yn y paragraff hwn, ystyr “ad-drefnu” yw newidiadau sy’n ymwneud â:
sefydlu, diwygio neu ddiddymu un corff cyhoeddus neu ragor;
creu, addasu neu ddiddymu swyddogaethau sydd i’w cyflawni gan un corff cyhoeddus neu ragor; neu
trosglwyddo swyddogaethau o un corff cyhoeddus i un arall.
407.Mae is-baragraff (4) yn darparu rhestr o’r endidau hynny sy’n gyrff cyhoeddus at ddibenion y paragraff hwn. Mae cyfeiriadau at gorff cyhoeddus yn y paragraff hwn hefyd yn cynnwys cwmni lle mae’r corff cyhoeddus yn berchen ar holl gyfranddaliadau’r cwmni a’r corff cyhoeddus yn is-gwmni dan berchnogaeth lwyr cwmni o’r fath.
408.Caiff Gweinidogion Cymru ychwanegu at y rhestr o gyrff cyhoeddus yn is-baragraff (4) drwy reoliadau.
Rhyddhad ar gyfer caffaeliadau gan gyrff penodol y gwasanaeth iechyd
409.Mae paragraff 2 o’r Atodlen hon yn darparu rhyddhad rhag treth trafodiadau tir pan fo’r prynwr yn awdurdod iechyd penodol a ddiffinnir fel a ganlyn:
Bwrdd Iechyd Lleol a sefydlwyd o dan adran 11 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006;
Awdurdod Iechyd Arbennig a sefydlwyd o dan adran 22 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006; ac
Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol a sefydlwyd o dan adran 18 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006.
410.Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, ychwanegu at y rhestr o gyrff iechyd sydd â’r hawl i hawlio’r rhyddhad hwn.