Rhan 4 - Tynnu rhyddhad yn ôl
371.Mae rhyddhad grŵp wedi ei dynnu’n ôl pan fo’r prynwr yn peidio â bod yn aelod o’r un grŵp â’r gwerthwr o fewn 3 blynedd i’r dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith (neu o dan drefniadau a wneir yn ystod y cyfnod o 3 blynedd), ac yn fras, ar yr adeg honno fod y prynwr neu gwmni y mae’n ei reoli yn dal y buddiant trethadwy perthnasol o hyd.
372.Darperir eithriadau rhag tynnu rhyddhad grŵp yn ôl ym mharagraffau 9 i 11. Mae’r rhain yn cynnwys:
pan fo’r dadgrwpio yn digwydd oherwydd unrhyw beth a wneir yng nghwrs dirwyn i ben y gwerthwr (neu gwmni arall sydd uwchlaw’r gwerthwr yn strwythur y grŵp);
pan fo’r gwerthwr neu gwmni arall sydd uwchlaw’r gwerthwr yn strwythur y grŵp yn dod i ben mewn ffordd arall;
pan fo cwmni arall y mae adran 75 o Ddeddf Cyllid 1986 yn gymwys iddo (yn ddarostyngedig i eithriadau) wedi caffael cyfranddaliadau yn y prynwr, a’r prynwr yn gadael y grŵp o ganlyniad (mae darpariaeth gwrthweithio osgoi trethi yn gymwys);
pan fo’r gwerthwr yn gadael y grŵp; ac
achosion penodol pan fo’r prynwr yn gadael y grŵp o ganlyniad i drosglwyddo busnes neu ymrwymiad gan “cymdeithas gydfuddiannol” neu gymdeithas debyg.
373.Mae paragraff 12 yn darparu ymhellach ar gyfer tynnu rhyddhad grŵp yn ôl mewn achosion penodol sy’n ymwneud â thrafodiadau olynol, yn ddarostyngedig i’r eithriadau a ddarperir ym mharagraff 12 (6).