Adrannau 30 a 31 – Gwahoddiadau i gyfranogi
113.Mae adran 30(1) yn pennu unigolion neu sefydliadau penodol y mae’n ofynnol bod byrddau gwasanaethau cyhoeddus yn eu gwahodd i gyfranogi yng ngweithgareddau’r bwrdd. Unigolion neu sefydliadau yw’r rhain yr ystyrir y byddai eu cyfraniad i waith y bwrdd yn werthfawr, ond nad yw’n bosibl neu’n ddymunol gosod dyletswydd arnynt. Mae adran 31(1) yn darparu bod rhaid dyroddi’r gwahoddiadau hyn cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol:
ar ôl cyfarfod cyntaf bwrdd gwasanaethau cyhoeddus ar ôl ei sefydlu; ac wedyn
ar ôl cyfarfod cyntaf y bwrdd yn dilyn etholiad cyffredin, fel y’i diffinnir yn adran 26 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.
114.Caiff y bwrdd hefyd wahodd unrhyw berson arall yr ystyria’n briodol, ar yr amod bod y person hwnnw’n arfer swyddogaethau o natur gyhoeddus. Caniateir, fodd bynnag, i’r person hwnnw arfer swyddogaethau eraill yn ogystal.
115.Ystyrir mai ‘cyfranogwr gwadd’ fydd unrhyw unigolyn neu gorff sy’n derbyn gwahoddiad i gyfranogi yng ngweithgarwch y bwrdd, ac ni fydd yn dod yn aelod o’r bwrdd. Mae cyfranogi yng ngweithgarwch y bwrdd yn golygu cydweithio â’r bwrdd, unrhyw aelod o’r bwrdd neu unrhyw berson arall sy’n derbyn gwahoddiad o dan adran 30 i ymgyrraedd at yr amcan lleol. O dan adran 30(4) mae ‘cydweithio’ yn cynnwys:
darparu ei safbwyntiau i’r bwrdd ar gynnwys asesiad y bwrdd o’r llesiant lleol neu ei gynllun llesiant lleol;
cymryd rhan yng nghyfarfodydd y bwrdd (gall hynny gynnwys, yn dilyn gwahoddiad gan aelodau’r Bwrdd ac yn ddarostyngedig i baragraffau 2(1) a 3(1) o Atodlen 3, gadeirio cyfarfodydd o’r Bwrdd); neu
ddarparu cyngor a chymorth arall i’r bwrdd (nid yw hyn, fodd bynnag, yn cynnwys darparu cymorth ariannol).
116.Caiff cyfranogwr gwadd gyfranogi yng ngweithgarwch y bwrdd o’r diwrnod pan fo’r bwrdd yn cael ateb gan y cyfranogwr yn derbyn y gwahoddiad tan ddyddiad yr etholiad cyffredin nesaf, fel y’i diffinnir yn adran 26 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.