Search Legislation

Nodiadau Esboniadol i Deddf Llesiant Cenedlaethau’R Dyfodol (Cymru) 2015

Cyflwyniad

1.Mae’r Nodiadau Esboniadol hyn ar gyfer Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a basiwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar 17 Mawrth 2015 ac a gafodd y Cydsyniad Brenhinol ar 29 Ebrill 2015. Paratowyd hwy gan Adran Cyfoeth Naturiol Llywodraeth Cymru i gynorthwyo darllenydd y Ddeddf. Dylid darllen y Nodiadau Esboniadol ar y cyd â’r Ddeddf, ond nid ydynt yn rhan ohoni.

Trosolwg Cyffredinol O’R Ddeddf

Rhan 1 – Cyflwyniad

2.Mae Rhan 1 yn darparu trosolwg o brif ddarpariaethau’r Ddeddf hon.

Rhan 2 – Gwella llesiant

3.Mae Rhan 2 yn pennu’r nodau llesiant y mae’n rhaid i gyrff cyhoeddus geisio’u cyrraedd.

4.Mae’r Rhan hon yn pennu pa gyrff sy’n ‘gyrff cyhoeddus’ at ddibenion Rhannau 2 a 3 o’r Ddeddf ac yn ei gwneud yn ofynnol i’r cyrff cyhoeddus hynny osod a chyhoeddi amcanion llesiant, a gynllunnir i sicrhau eu bod yn cyfrannu i’r eithaf at gyrraedd y nodau llesiant. Rhaid i’r cyrff cyhoeddus osod yr amcanion llesiant hyn a chymryd pob cam rhesymol i’w cyrraedd yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy. Pennir y materion y mae’n rhaid i gyrff cyhoeddus eu hystyried wrth weithredu yn unol â’r egwyddor honno yn y Rhan hon o’r Ddeddf.

5.O dan Ran 2, mae’n ofynnol bod Gweinidogion Cymru yn gosod dangosyddion cenedlaethol y mae’n rhaid eu defnyddio i fesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant, a rhaid iddynt hefyd osod cerrig milltir mewn perthynas â’r dangosyddion cenedlaethol. Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi, yn flynyddol, adroddiad (yr ‘adroddiad llesiant blynyddol’) ar y cynnydd a wnaed tuag at gyflawni’r nodau llesiant, gan gyfeirio at y dangosyddion a’r cerrig milltir hynny. Yn dilyn pob etholiad ar gyfer y Cynulliad Cenedlaethol, rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi ‘adroddiad tueddiadau tebygol y dyfodol’ a fydd yn cynnwys asesiad o’r tueddiadau tebygol yn y dyfodol o ran llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru.

6.Mae Rhan 2 hefyd yn ei wneud yn ofynnol i Archwilydd Cyffredinol Cymru gynnal ymchwiliadau ynghylch i ba raddau y mae cyrff cyhoeddus yn gosod amcanion llesiant ac yn cymryd camau i’w cyflawni yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy. Yn olaf, mae’r Rhan hon yn ei gwneud yn ofynnol bod cyrff cyhoeddus, gan gynnwys Gweinidogion Cymru, yn adrodd yn flynyddol ar y cynnydd a wnaed ganddynt tuag at gyrraedd eu hamcanion llesiant. Mae Atodlen 1, a gyflwynir yn y Rhan hon, yn pennu gofynion ychwanegol mewn perthynas ag adrodd yn flynyddol gan gyrff cyhoeddus (ac eithrio Gweinidogion Cymru).

Rhan 3 – Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru

7.Mae Rhan 3 ac Atodlen 2 yn sefydlu swydd Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru (y ‘Comisiynydd’).

8.O dan ddarpariaethau’r Rhan hon, mae’n ofynnol bod y Comisiynydd yn hyrwyddo’r egwyddor datblygu cynaliadwy ac yn monitro ac asesu i ba raddau y mae’r amcanion llesiant a osodir gan gyrff cyhoeddus o dan Ran 2 o’r Ddeddf yn cael eu diwallu. Mae Rhan 3 hefyd yn sefydlu panel o gynghorwyr i’r Comisiynydd (y ‘panel cynghori’) a fydd yn darparu cyngor i’r Comisiynydd ynghylch arfer ei swyddogaethau.

Rhan 4 – Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus

9.Mae Rhan 4 ac Atodlen 3 yn sefydlu byrddau gwasanaethau cyhoeddus statudol, a fydd yn cynnwys y prif wasanaethau cyhoeddus sy’n gweithio o fewn ardal awdurdod lleol. Mae Rhan 4 yn pennu eu nod mewn perthynas â gwella llesiant drwy gyfrannu at gyrraedd y nodau llesiant.

10.Mae’r Rhan hon yn ei gwneud yn ofynnol bod byrddau gwasanaethau cyhoeddus yn paratoi a chyhoeddi cynlluniau llesiant lleol sy’n nodi eu hamcanion lleol a’r camau y maent yn bwriadu eu cymryd i’w cyflawni. Mae’n ofynnol hefyd bod byrddau gwasanaethau cyhoeddus yn cynnal asesiad o gyflwr llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol yn eu hardaloedd lleol er mwyn goleuo’r amcanion sydd yn eu cynlluniau llesiant lleol.

11.Mae Rhan 4 yn pennu â phwy arall y caiff bwrdd gwasanaethau cyhoeddus gydweithio, ac yn darparu ar gyfer uno byrddau gwasanaethau cyhoeddus, neu ar gyfer cydlafurio rhyngddynt fel arall.

12.Mae Atodlen 4, a gyflwynir hefyd gan y Rhan hon, yn darparu ar gyfer diwygiadau canlyniadol a diddymiadau i ategu cyflawni darpariaethau Rhan 4 o’r Ddeddf.

Rhan 5 – Darpariaethau terfynol

13.Mae Rhan 5 yn cynnwys darpariaethau cyffredinol ynglŷn ag is-ddeddfwriaeth, dehongli, cychwyn ac enw byr y Ddeddf.

Sylwadau Ar Adrannau

Adran 2 – Datblygu cynaliadwy

14.Mae adran 2 yn diffinio datblygu cynaliadwy yn y Ddeddf hon fel y broses o wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru drwy weithredu, yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy, gan anelu at gyrraedd y nodau llesiant.

15.Mae adran 5 o’r Ddeddf yn rhoi manylion pellach ynghylch cymhwyso’r egwyddor datblygu cynaliadwy.

Adran 3 – Dyletswydd llesiant ar gyrff cyhoeddus

16.Mae adran 3 yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus ymgymryd â datblygu cynaliadwy (fel y darperir ar ei gyfer yn adran 2). Wrth gyflawni’r ddyletswydd hon, rhaid iddynt osod a chyhoeddi amcanion llesiant. Amcanion yw’r rhain sy’n ymwneud â sut y mae’r corff cyhoeddus yn bwriadu cyfrannu at gyrraedd y nodau llesiant (gweler adran 4). Rhaid i gyrff cyhoeddus osod amcanion llesiant sy’n ceisio sicrhau eu bod yn cyfrannu i’r eithaf at gyrraedd y nodau llesiant. Rhaid iddynt hefyd gymryd pob cam rhesymol, wrth arfer eu swyddogaethau, i gyflawni eu hamcanion.

17.Mae cyrff cyhoeddus penodol, megis Cyfoeth Naturiol Cymru neu Weinidogion Cymru, yn arfer swyddogaethau neu’n darparu gwasanaethau mewn perthynas â Chymru gyfan. Caiff cyrff cyhoeddus o’r fath bennu amcanion llesiant sy’n ymwneud â Chymru gyfan neu unrhyw ran o Gymru, fel yr ystyriant yn briodol.

18.Ni chaiff y cyrff cyhoeddus hynny sy’n arfer swyddogaethau neu’n darparu gwasanaethau mewn perthynas â rhan benodol o Gymru, megis Byrddau Iechyd Lleol neu awdurdodau lleol, osod amcanion ac eithrio mewn perthynas â’r rhan benodol honno o Gymru.

Adran 4 – Nodau llesiant

19.Mae adran 4 yn gosod cyfres o nodau llesiant sydd, ar y cyd, yn mynegi gweledigaeth ar gyfer llesiant economaidd, amgylcheddol, cymdeithasol a diwylliannol hirdymor Cymru ac yn darparu fframwaith cydlynol i lywio’r gwaith o wella llesiant mewn ffordd gynaliadwy.

20.Pennir y nodau llesiant yn Nhabl 1, sy’n rhestru’r holl nodau ynghyd â disgrifiad o bob nod.

21.Bydd y nodau llesiant yn galluogi cyrff cyhoeddus i ddeall pa bethau y mae’n rhaid iddynt geisio’u cyflawni er mwyn gwella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru, ar gyfer cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol.

22.Prif bwrpas y nodau llesiant yw pennu’r cyd-destun y bydd rhaid i gyrff cyhoeddus bennu amcanion llesiant ynddo (gweler adran 3). Bydd cyrff cyhoeddus yn ceisio cyrraedd y nodau llesiant drwy gyflawni eu hamcanion llesiant.

23.Mae pob un o’r nodau llesiant yn cynnwys agweddau economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol ar lesiant.

Adran 5Yr egwyddor datblygu cynaliadwy

24.Mae adran 5 yn cynnwys darpariaethau pellach ynglŷn â chymhwyso’r egwyddor datblygu cynaliadwy.

25.Rhaid i gyrff cyhoeddus gymryd pob cam rhesymol i gyflawni eu hamcanion llesiant, fel y’u gosodir o dan adran 3(2) o’r Ddeddf, yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy.

26.Mae is-adran (2) yn rhoi manylion am y materion y mae’n rhaid i gyrff cyhoeddus eu hystyried er mwyn cyflawni’r gofyniad hwn. Mae is-adran (2)(a) yn ymwneud â meddwl am y tymor hir. Wrth osod a chyflawni eu hamcanion llesiant, rhaid i gyrff cyhoeddus wrthbwyso’u hangen i weithredu er mwyn mynd i’r afael â materion cyfoes (sef y tymor byr) yn erbyn yr angen i ddiogelu eu gallu i ddiwallu anghenion hirdymor. Mae hyn yn arbennig o berthnasol pan fo modd i’w gweithredoedd tymor byr gael effaith andwyol yn y dyfodol.

27.Mae is-adran (2)(b)(i) a (ii) yn ymwneud â chyrff cyhoeddus sy’n cymryd ymagwedd integredig. Yng nghyd-destun yr amcanion llesiant, mae cymryd ymagwedd integredig yn golygu bod cyrff cyhoeddus yn ystyried sut mae’u hamcanion llesiant yn effeithio ar yr holl nodau llesiant.

28.Er mwyn cymryd ymagwedd integredig, rhaid i gorff cyhoeddus ystyried hefyd sut y mae ei amcanion llesiant yn effeithio ar ei gilydd ac, yn eu tro, ar amcanion llesiant cyrff cyhoeddus eraill. Dylai’r corff cyhoeddus ystyried hefyd sut y gall y camau y mae’n eu cymryd i gyflawni un amcan llesiant fod yn andwyol i gyflawni amcan neu amcanion eraill, gan gynnwys amcanion unrhyw gyrff cyhoeddus eraill sy’n ddarostyngedig i ddarpariaethau’r Ddeddf. Mae hyn yn arbennig o berthnasol pan fo modd i weithgareddau un corff cyhoeddus lesteirio gallu corff cyhoeddus arall i gyfrannu i’r eithaf at gyrraedd y nodau llesiant.

29.Rhaid i gyrff cyhoeddus roi sylw hefyd i bwysigrwydd ymgysylltu, fel y darperir ar ei gyfer gan is-adran (2)(c). Mae hynny’n golygu cynnwys y bobl a’r cymunedau y ceisiant wella’u llesiant, yn ogystal â rhai sydd â diddordeb yn y llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol.

30.Mae is-adran (2)(d) yn ymwneud â chyrff cyhoeddus sy’n cydlafurio. Ystyr hynny yw cyrff cyhoeddus lle mae cydweithio’n digwydd, naill ai gyda chyrff eraill neu rhwng gwahanol rannau o’r un corff er mwyn cynorthwyo i gyflawni eu hamcanion llesiant, neu amcanion llesiant unrhyw gorff cyhoeddus arall sy’n ddarostyngedig i ddarpariaethau’r Ddeddf.

31.Mae is-adran (2)(e) yn darparu ar gyfer gweithredu ataliol. Mewn perthynas â’r amcanion llesiant, mae hyn yn cyfeirio at gyrff cyhoeddus sy’n ystyried camau gweithredu y gallent ddyrannu adnoddau ar eu cyfer yn awr, er mwyn atal problemau rhag digwydd neu waethygu.

32.Rhaid i’r datganiad, a baratoir o dan adran 7(1) o’r Ddeddf, ddatgan ym mha ffordd y mae’r corff cyhoeddus yn credu ei fod, wrth osod ei amcanion llesiant, wedi ystyried y materion y darperir ar eu cyfer yn adran 5(2), a sut y mae’n bwriadu ystyried y materion hynny wrth gyflawni ei amcanion llesiant.

33.Rhaid i’r datganiad hwn hefyd roi manylion am y modd y mae’r corff cyhoeddus yn bwriadu cymryd pob cam rhesymol i gyflawni ei amcanion llesiant, gan gynnwys sut y bydd yn ei lywodraethu ei hun a sut y bydd ei ddyraniad blynyddol o adnoddau, er enghraifft ei gyllideb flynyddol, yn sicrhau y bydd yn cyflawni ei amcanion llesiant.

Adran 6 – Ystyr “corff cyhoeddus”

34.Mae adran 6 yn rhestru personau penodol sy’n ‘gorff cyhoeddus’ at ddibenion Rhannau 2 a 3 o’r Ddeddf. Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, ddiwygio ystyr corff cyhoeddus drwy ychwanegu person at y rhestr, ei dynnu oddi arni, neu ddiwygio’r disgrifiad o berson o’r fath (fel y darperir ar gyfer hynny yn adran 52 o’r Ddeddf).

Adran 7 – Datganiadau ynghylch amcanion llesiant

35.Wrth gyhoeddi ei amcanion llesiant, rhaid i gorff cyhoeddus gyhoeddi datganiad ynghylch ei amcanion llesiant. Manylir ar ofynion y datganiad hwnnw yn adran 7 o’r Ddeddf. Byddai’n ofynnol cyhoeddi’r datganiad hwn hefyd pe bai Gweinidogion Cymru yn diwygio eu hamcanion llesiant o dan adran 8, neu yn achos y cyrff cyhoeddus eraill, adran 9 o’r Ddeddf.

36.Wrth baratoi’r datganiad, rhaid i’r corff cyhoeddus egluro pam ei fod yn ystyried y bydd cyflawni ei amcanion llesiant yn cyfrannu at gyrraedd y nodau llesiant. Bydd y datganiad yn egluro pam y mae’r corff cyhoeddus yn ystyried bod ei amcanion llesiant wedi eu gosod yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy, a sut y mae’r corff cyhoeddus yn bwriadu cynnwys personau eraill yn y gwaith o gyrraedd y nodau llesiant, gan sicrhau bod y personau hynny yn adlewyrchu amrywiaeth y boblogaeth. Rhaid i’r datganiad hefyd roi manylion am yr hyn y mae’r corff cyhoeddus yn bwriadu ei wneud (ei gamau) i gyflawni ei amcanion llesiant yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy. Rhaid i’r corff cyhoeddus roi manylion am sut y bydd yn ei lywodraethu ei hun, sicrhau y parheir i adolygu’r camau ac egluro sut y caiff adnoddau eu dyrannu’n flynyddol er mwyn cymryd y camau a bennwyd. Yn ogystal, bydd y datganiad yn pennu erbyn pryd y mae’r corff yn disgwyl y bydd wedi cyflawni ei amcanion llesiant.

37.Caiff y cyrff cyhoeddus hynny sy’n aelodau o fwrdd gwasanaethau cyhoeddus (gweler adran 29) y dewis o gyflawni eu dyletswydd datblygu cynaliadwy, sef gosod a chyhoeddi amcanion llesiant, drwy’r cynllun llesiant lleol.

Adrannau 8 a 9 – Amcanion llesiant Gweinidogion Cymru ac amcanion llesiant cyrff cyhoeddus eraill

38.Mae adran 8 yn ei gwneud yn ofynnol bod Gweinidogion Cymru yn cyhoeddi amcanion llesiant, fel sy’n ofynnol o dan adrannau 3 a 7 o’r Ddeddf, yn ddim hwyrach na chwe mis ar ôl dyddiad pob etholiad cyffredinol y Cynulliad. Mae ‘etholiad cyffredinol’ yn cyfeirio at naill ai etholiad arferol neu etholiad eithriadol y Cynulliad, fel y’u diffinnir yn adrannau 3 neu 5 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

39.Rhaid i amcanion llesiant Gweinidogion Cymru gael eu gosod ar gyfer eu tymor mewn llywodraeth, sef tan ddyddiad penodedig etholiad arferol nesaf y Cynulliad, fel y’i diffinnir yn adran 3 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

40.Mae adran 9(2) yn darparu bod rhaid i gyrff cyhoeddus eraill, sef y rhai a restrir yn adran 6 ond gan hepgor Gweinidogion Cymru, yn gyntaf oll osod a chyhoeddi eu hamcanion llesiant cyn dechrau’r flwyddyn ariannol sy’n dilyn cychwyn adran 9 o’r Ddeddf. Rhaid i bob corff cyhoeddus wedyn osod a chyhoeddi amcanion llesiant dilynol ar ba bynnag adeg yr ystyriant yn briodol. Bydd yn ofynnol i bob corff cyhoeddus, bob amser, fod ag amcanion llesiant wedi eu gosod, a fydd yn cyfrannu at gyrraedd y nodau llesiant.

41.Rhaid i Weinidogion Cymru a’r cyrff cyhoeddus eraill, o dan adrannau 8(3) a 9(3), yn eu trefn, adolygu eu hamcanion llesiant pe bai’r nodau llesiant yn cael eu diwygio. Mynnir hyn er mwyn sicrhau bod yr amcanion llesiant yn parhau’n gydnaws â’r nodau llesiant cyfredol.

42.Os yw Gweinidogion Cymru a/neu gorff cyhoeddus yn penderfynu, yn dilyn adolygiad, nad yw amcan bellach yn briodol, rhaid iddynt ddiwygio’r amcan. Er enghraifft, gellid ystyried nad yw amcan bellach yn briodol os diwygiwyd y nod neu’r nodau llesiant y mae’r amcan yn cyfrannu ato neu atynt, neu os yw’r mater y mae’r amcan llesiant yn rhoi sylw iddo wedi newid (a’r amcan bellach yn amherthnasol), neu os nad yw’r amcan llesiant yn cyflawni’r gwelliant a ddisgwylid mewn perthynas â’r nod neu’r nodau llesiant (a’r amcan llesiant bellach yn aneffeithiol).

43.Caiff Gweinidogion Cymru neu’r cyrff cyhoeddus eraill adolygu a diwygio’u hamcanion llesiant, o dan adrannau 8(5) a 9(5) yn eu trefn, ar unrhyw adeg a ystyriant yn briodol. Rhaid cyhoeddi amcanion llesiant diwygiedig cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.

44.Mae adran 8(6) yn darparu bod rhaid i unrhyw amcanion llesiant a ddiwygir gan Weinidogion Cymru gael eu gosod am weddill eu cyfnod mewn llywodraeth.

45.Mae adrannau 8(8) a 9(7), yn eu trefn, yn ei gwneud yn ofynnol bod Gweinidogion Cymru a’r cyrff cyhoeddus eraill yn rhoi sylw i’r Adroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol diweddaraf, fel y’i paratowyd gan y Comisiynydd o dan ddarpariaethau adran 23 o’r Ddeddf, wrth osod neu ddiwygio’u hamcanion llesiant. Gall yr Adroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol gynorthwyo cyrff cyhoeddus i ddeall pa welliannau y gallent eu gwneud er mwyn gosod a chyflawni eu hamcanion llesiant yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy.

Adran 10 - Dangosyddion cenedlaethol ac adroddiad llesiant blynyddol

46.Mae’r adran hon yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i gyhoeddi dangosyddion cenedlaethol, a’u gosod gerbron y Cynulliad. Rhaid defnyddio’r dangosyddion cenedlaethol hyn i fesur y cynnydd a wneir ledled y cyrff cyhoeddus tuag at gyflawni’r nodau llesiant. Mae is-adran (2) yn rhoi manylion am y meini prawf y mae’n rhaid i’r dangosyddion cenedlaethol eu bodloni.

47.Mae dyletswydd ar Weinidogion Cymru hefyd i osod cerrig milltir, mewn perthynas â’r dangosyddion cenedlaethol, y maent yn ystyried y byddent, o’u cyflawni, yn cynorthwyo i ddangos bod cynnydd yn cael ei wneud tuag at gyrraedd y nodau llesiant. Wrth osod pob carreg filltir rhaid i Weinidogion Cymru hefyd bennu’r meini prawf ar gyfer penderfynu a yw’r garreg filltir wedi ei chyflawni, ac erbyn pryd y dylai hynny ddigwydd.

48.Caiff Gweinidogion Cymru adolygu a diwygio’r dangosyddion cenedlaethol a’r cerrig milltir ar unrhyw adeg yr ystyriant yn briodol. Fodd bynnag, o dan is-adran (5), rhaid iddynt adolygu’r dangosyddion cenedlaethol a’r cerrig milltir os diwygir y nodau llesiant. Mynnir hyn er mwyn sicrhau bod y dangosyddion cenedlaethol a’r cerrig milltir yn parhau’n gydnaws â’r nodau llesiant cyfredol.

49.Pe bai Gweinidogion Cymru, yn dilyn adolygiad, yn penderfynu nad yw unrhyw ddangosydd cenedlaethol neu garreg filltir yn briodol bellach, rhaid iddynt ddiwygio’r dangosydd/dangosyddion neu’r garreg filltir/cerrig milltir. Rhaid cyhoeddi’r dangosyddion cenedlaethol a’r cerrig milltir diwygiedig a’u gosod gerbron y Cynulliad Cenedlaethol cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.

50.Cyn gosod neu ddiwygio’r dangosyddion cenedlaethol a’r cerrig milltir rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r Comisiynydd, y cyrff cyhoeddus eraill ac unrhyw berson arall yr ystyriant yn briodol.

51.Mae’n ofynnol bod Gweinidogion Cymru yn cyhoeddi adroddiad diweddaru blynyddol (yr adroddiad llesiant blynyddol) mewn perthynas â’r dangosyddion cenedlaethol, sy’n rhoi manylion am y cynnydd a wneir tuag at gyrraedd y nodau llesiant. Rhaid i’r diweddariad hwn ddatgan y cyfnod o amser y mae’r mesuriad o bob dangosydd cenedlaethol yn ymwneud ag ef.

Adran 11 – Adroddiad tueddiadau tebygol y dyfodol

52.Mae’n ofynnol bod Gweinidogion Cymru yn paratoi “adroddiad tueddiadau tebygol y dyfodol” yn ystod y 12 mis sy’n dilyn etholiad Cynulliad arferol, fel y’i diffinnir yn adran 3 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Rhaid i’r adroddiad hwn gynnwys rhagfynegiadau o’r tueddiadau tebygol yn llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru, gan gynnwys unrhyw ddata dadansoddol a gwybodaeth gysylltiedig a ystyrir yn briodol gan Weinidogion Cymru. Wrth baratoi’r adroddiad, rhaid i Weinidogion Cymru ystyried unrhyw gamau a gymerir gan y Cenhedloedd Unedig mewn perthynas â Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig a’r Asesiad Risg Newid yn yr Hinsawdd diweddaraf a gynhyrchir o dan Ddeddf Newid yn yr Hinsawdd 2008. Cyhoeddi’r adroddiad hwn, o fewn y 12 mis sy’n dilyn etholiad, sy’n sbarduno darpariaethau adran 23 ynglŷn â’r gofyniad bod y Comisiynydd yn paratoi’r Adroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol.

Adrannau 12 a 13 – Adroddiadau blynyddol gan Weinidogion Cymru a chyrff cyhoeddus eraill

53.Mae’n ofynnol bod Gweinidogion Cymru yn paratoi adroddiad blynyddol ar y cynnydd a wnaed ganddynt tuag at gyflawni eu hamcanion llesiant. Rhaid cyhoeddi’r adroddiad blynyddol hwn a’i osod gerbron y Cynulliad cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl diwedd y flwyddyn ariannol y mae’r adroddiad yn ymwneud â hi.

54.Mae adran 13 yn ei gwneud yn ofynnol bod cyrff cyhoeddus eraill yn gwneud adroddiadau blynyddol, ac yn rhoi effaith i Atodlen 1 i’r Ddeddf, sy’n gwneud darpariaethau ar gyfer paratoi adroddiadau blynyddol gan bob corff cyhoeddus. Nid yw’r Atodlen hon yn gymwys i Weinidogion Cymru.

55.Wrth baratoi eu hadroddiad blynyddol rhaid i Weinidogion Cymru a chyrff cyhoeddus eraill adolygu eu hamcanion llesiant. Os yw corff cyhoeddus neu Weinidogion Cymru yn penderfynu nad yw unrhyw amcan llesiant bellach yn briodol, rhaid i’r corff hwnnw neu Weinidogion Cymru ddiwygio’r amcan neu’r amcanion llesiant. Pan fo’r adolygiad hwn yn arwain at ddiwygio un neu ragor o amcanion llesiant rhaid cynnwys cyfiawnhad ac esboniad o’r diwygiad yn yr adroddiad blynyddol.

Atodlen 1 – Adroddiadau blynyddol gan gyrff cyhoeddus eraill

56.Nid yw’r Atodlen hon yn gymwys i Weinidogion Cymru, yn rhinwedd adran 13(1) o’r Ddeddf.

57.Mae Atodlen 1 yn ei gwneud yn ofynnol bod cyrff cyhoeddus yn adrodd yn flynyddol ar eu cynnydd tuag at gyflawni eu hamcanion llesiant.

58.Rhaid i’r cyrff cyhoeddus hynny sy’n ddarostyngedig i baragraff 1 o’r Atodlen hon baratoi adroddiad mewn perthynas â phob blwyddyn ariannol. Diffinnir blwyddyn ariannol yn adran 55(1) o’r Ddeddf, fel y ‘cyfnod o 12 mis sy’n dod i ben ar 31 Mawrth’.

59.Mae paragraff 2 yn ei gwneud yn ofynnol bod Byrddau Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaethau’r GIG (Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru ac Ymddiriedolaeth GIG Felindre adeg cychwyn y Ddeddf) yn adrodd mewn perthynas â phob blwyddyn gyfrifyddu. Mae i “blwyddyn gyfrifyddu” yr ystyr a roddir i “accounting year” gan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006.

60.Mae paragraff 3 yn gwneud darpariaethau penodol mewn perthynas â Chorff Adnoddau Naturiol Cymru.

61.Mae Gorchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Sefydlu) 2012 yn ei gwneud yn ofynnol bod Corff Adnoddau Naturiol Cymru yn paratoi ‘adroddiad blynyddol’ sy’n rhoi manylion am y modd y cyflawnodd ei swyddogaethau yn ystod y flwyddyn ariannol honno. Mae paragraff 3 yn diwygio’r Gorchymyn hwnnw gan ei gwneud yn ofynnol bod yr adroddiad yn rhoi manylion hefyd am y cynnydd a wnaed gan y corff tuag at gyflawni ei amcanion llesiant.

62.Rhaid cyhoeddi’r adroddiadau blynyddol sy’n ofynnol o dan baragraffau 1 a 2 o Atodlen 1 cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl diwedd y flwyddyn ariannol y mae’r adroddiad yn ymwneud â hi.

Adran 14 – Canllawiau

63.Mae adran 14 yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i ddyroddi canllawiau i gyrff cyhoeddus eraill mewn perthynas â Rhan 2 o’r Ddeddf. Rhaid i gorff cyhoeddus gymryd y canllawiau hynny i ystyriaeth wrth arfer swyddogaethau neu gyflawni dyletswyddau y darperir ar eu cyfer o dan Ran 2 o’r Ddeddf.

Adran 15 – Yr egwyddor datblygu cynaliadwy: ymchwiliadau’r Archwilydd Cyffredinol

64.Mae adran 15 yn rhoi’r pŵer i Archwilydd Cyffredinol Cymru gynnal ymchwiliadau er mwyn asesu i ba raddau y mae’r cyrff cyhoeddus a restrir yn adran 2 wedi gweithredu yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy wrth osod yr amcanion llesiant a chymryd camau i gyflawni’r amcanion hynny. Rhaid i’r Archwilydd Cyffredinol gynnal o leiaf un ymchwiliad o bob corff cyhoeddus o fewn pob ‘cyfnod adrodd’ o 5 mlynedd. Mae pob cyfnod adrodd yn dechrau flwyddyn cyn y dyddiad y bwriedir cynnal etholiad cyffredinol arferol nesaf y Cynulliad ac yn para hyd flwyddyn a diwrnod cyn yr etholiad nesaf o’r fath.

65.Yn rhinwedd paragraff 32 o Atodlen 4, mae gan Archwilydd Cyffredinol Cymru y pŵer i godi ffioedd am gynnal yr ymchwiliadau hyn.

Adran 16 – Hyrwyddo datblygu cynaliadwy

66.Mae adran 16 yn diwygio adran 79 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, sy’n cynnwys dyletswydd ar Weinidogion Cymru mewn perthynas â datblygu cynaliadwy.

67.Cyn i’r adran hon ddod i rym, mae’r ddyletswydd o dan adran 79 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru wneud cynllun i hyrwyddo datblygu cynaliadwy.

68.O dan y diwygiad i adran 79 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a wneir gan y Ddeddf hon, mae’r ddyletswydd ar Weinidogion Cymru i wneud trefniadau priodol i hyrwyddo datblygu cynaliadwy, ac i gyhoeddi adroddiad blynyddol ar y trefniadau a wnaed, yn parhau.

69.Mae’n cael gwared ar y gofynion manwl i gynhyrchu cynllun ac asesiadau o effeithiolrwydd y cynllun ac, yn lle hynny, yn ei gwneud yn glir y gall Gweinidogion Cymru gyflawni’r trefniadau i hyrwyddo datblygu cynaliadwy drwy iddynt arfer eu swyddogaethau o dan adran 3(2) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae adran 3(2) yn darparu bod rhaid i Weinidogion Cymru osod amcanion llesiant sy’n ceisio sicrhau eu bod yn cyfrannu i’r eithaf at gyrraedd y nodau llesiant. Yn ogystal â hynny, rhaid i Weinidogion Cymru gymryd pob cam rhesymol, wrth arfer eu swyddogaethau, i gyflawni eu hamcanion llesiant.

Adran 17 – Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru

70.Mae adran 17 yn sefydlu swydd Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, sy’n unigolyn a benodir gan Weinidogion Cymru ar ôl ymgynghori â phwyllgor cyfrifol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

71.Mae is-adran (4) yn rhoi effaith i Atodlen 2 sy’n gwneud darpariaeth bellach ynglŷn â swydd y Comisiynydd.

Atodlen 2 – Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru

72.Mae paragraffau 1 i 5 yn cynnwys darpariaethau technegol ynglŷn â statws, telerau, cydnabyddiaeth ariannol a materion eraill ynglŷn â phenodiad y Comisiynydd. Mae paragraff 3 yn rhagnodi bod y Comisiynydd i gael ei benodi am gyfnod o 7 mlynedd.

73.Mae paragraffau 6 a 7 yn rhoi manylion am y seiliau a fyddai’n anghymhwyso unigolyn rhag ei benodi yn Gomisiynydd, ac am y trefniadau ar gyfer terfynu penodiad Comisiynydd (ac eithrio drwy anghymhwyso).

74.Mae paragraff 8 yn gwneud darpariaeth i’r perwyl y caiff y Comisiynydd wneud unrhyw beth yr ystyria’n briodol mewn cysylltiad â swyddogaethau’r Comisiynydd, gan gynnwys codi tâl am wasanaethau, talu i drydydd partïon am wasanaethau a derbyn rhoddion. Ni chaiff y Comisiynydd ddarparu cymorth ariannol i gaffael neu waredu tir heb gymeradwyaeth Gweinidogion Cymru.

75.Mae paragraffau 9 a 10 yn gwneud darpariaethau ynglŷn â’r ddyletswydd sydd ar y Comisiynydd i benodi Dirprwy Gomisiynydd, pwerau’r Comisiynydd i benodi staff a thalu iddynt, a’r gallu i ddirprwyo swyddogaethau’r Comisiynydd i unrhyw berson, gan gynnwys aelod o’i staff.

76.Mae paragraff 11 yn gwneud darpariaeth i’r Dirprwy Gomisiynydd arfer swyddogaethau’r Comisiynydd pan fo swydd y Comisiynydd yn wag, neu os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni nad yw’r Comisiynydd yn gallu arfer y swyddogaethau hynny am unrhyw reswm.

77.Mae paragraffau 12, 13 a 14 yn ei gwneud yn ofynnol bod y Comisiynydd yn sefydlu gweithdrefn ar gyfer ymchwilio i gwynion ynglŷn â’r modd yr arferir ei swyddogaethau, ac yn creu a chynnal cofrestr o fuddiannau’r Comisiynydd a’r Dirprwy Gomisiynydd, gan roi copi ohoni ar gael i’w harchwilio gan y cyhoedd. Mae paragraff 15 yn darparu bod rhaid i’r Comisiynydd a’r Dirprwy Gomisiynydd beidio ag arfer swyddogaeth os cofrestrwyd buddiant ganddo sy’n gysylltiedig ag arfer y swyddogaeth honno.

78.Mae paragraff 16 yn darparu y caiff Gweinidogion Cymru dalu symiau priodol i’r Comisiynydd mewn perthynas â gwariant ar gyflawni swyddogaethau’r Comisiynydd.

79.Mae paragraff 17 yn ei gwneud yn ofynnol bod y Comisiynydd yn paratoi adroddiad blynyddol mewn perthynas â phob blwyddyn ariannol; rhaid cyhoeddi’r adroddiad hwn yn ddim hwyrach na’r 31 Awst sy’n dilyn y flwyddyn ariannol y mae’r adroddiad yn ymdrin â hi. Rhaid i’r Comisiynydd anfon yr adroddiad at Weinidogion Cymru, a rhaid iddynt hwythau ei roi gerbron y Cynulliad Cenedlaethol.

80.Wrth baratoi’r adroddiad hwnnw rhaid i’r Comisiynydd ymgynghori â’r panel cynghori (gweler adran 26) ac unrhyw berson arall a ystyrir yn briodol gan y Comisiynydd. Rhaid i’r adroddiad blynyddol ddarparu crynodeb o raglen waith y Comisiynydd a manylion am y camau gweithredu a gymerwyd ganddo yn ystod y flwyddyn ariannol dan sylw, dadansoddiad o effeithiolrwydd y Comisiynydd o ran galluogi gwireddu ei ddyletswydd gyffredinol, ynghyd â manylion am ei raglen waith arfaethedig ar gyfer y flwyddyn ariannol ddilynol, a chrynodeb o unrhyw gwynion a wnaed. Caiff yr adroddiad gynnwys hefyd asesiad y Comisiynydd o’r gwelliannau y dylai cyrff cyhoeddus eu gwneud, er mwyn bod yn fwy cydnaws â’r egwyddor datblygu cynaliadwy, wrth osod a chyflawni eu hamcanion llesiant.

81.Mae paragraff 17 hefyd yn diffinio blwyddyn ariannol gyntaf y Comisiynydd at ddibenion y Ddeddf, sef y cyfnod sy’n dechrau gyda’r diwrnod y penodir y Comisiynydd ac yn dod i ben ar y 31 Mawrth dilynol.

82.Mae paragraffau 18 i 22 yn nodi cyfrifoldebau’r Comisiynydd fel swyddog cyfrifyddu ac o ran darparu ar gyfer paratoi amcangyfrifon a chyfrifon gan y Comisiynydd, gan gynnwys unrhyw gyfarwyddydau y caiff Gweinidogion Cymru eu rhoi, ac yn darparu ar gyfer archwilio’r cyfrifon a’r defnydd o adnoddau’r Comisiynydd gan Archwilydd Cyffredinol Cymru.

83.Mae paragraff 23 yn darparu y caniateir i’r Comisiynydd gael sêl ac yn darparu bod rhaid i unrhyw ddogfen yr honnir ei chyflawni o dan y sêl honno, neu ei llofnodi gan y Comisiynydd, neu ar ei ran, gael ei derbyn yn dystiolaeth ac, oni phrofir yn wahanol, ei derbyn fel dogfen y Comisiynydd.

Adrannau 18 ac 19 – Dyletswydd gyffredinol a swyddogaethau’r Comisiynydd

84.Mae adran 18 yn pennu mai dyletswydd gyffredinol y Comisiynydd yw hyrwyddo’r egwyddor datblygu cynaliadwy, yn benodol drwy weithredu fel ceidwad gallu cenedlaethau’r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion ac annog cyrff cyhoeddus i roi rhagor o ystyriaeth i effaith hirdymor eu gweithgareddau. At y diben hwnnw, rhaid i’r Comisiynydd fonitro ac asesu’r modd y cyflawnir yr amcanion llesiant a osodir gan gyrff cyhoeddus.

85.Mae adran 19(1) yn darparu y caiff y Comisiynydd, wrth gyflawni ei ddyletswydd gyffredinol, ddarparu cyngor neu gymorth (heblaw cymorth ariannol) i gorff cyhoeddus neu i unrhyw berson arall y tybia’r Comisiynydd ei fod yn cymryd, neu’n ceisio cymryd camau a allai gyfrannu at gyrraedd y nodau llesiant. Mae hyn yn cynnwys darparu cyngor ar newid yn yr hinsawdd.

86.Caiff y Comisiynydd ddarparu cyngor neu gymorth i Archwilydd Cyffredinol Cymru mewn perthynas â’r egwyddor datblygu cynaliadwy, ac i fyrddau gwasanaethau cyhoeddus ynglŷn â pharatoi eu cynllun llesiant lleol.

87.Caiff y Comisiynydd hefyd annog arferion da a hybu ymwybyddiaeth ymhlith cyrff cyhoeddus o’r angen i gyflawni eu hamcanion llesiant mewn modd sy’n gydnaws â’r egwyddor datblygu cynaliadwy; ac annog cyrff cyhoeddus i gydweithio â’i gilydd a chyda personau eraill os gallai hynny eu helpu i gyflawni eu hamcanion llesiant.

88.Mae adran 19(2) yn rhoi’r pŵer i’r Comisiynydd gynnal ymchwil neu astudiaeth arall mewn perthynas â’r egwyddor datblygu cynaliadwy, y graddau y mae’r nodau llesiant a’r dangosyddion cenedlaethol yn gyson â’r egwyddor datblygu cynaliadwy ac unrhyw beth mewn cysylltiad â’r pethau hyn sy’n effeithio ar lesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru, neu unrhyw ran o Gymru.

Adrannau 20 i 22 – Adolygiadau gan y Comisiynydd, argymhellion ganddo a dyletswydd i ddilyn yr argymhellion

89.Mae adran 20 yn darparu y caiff y Comisiynydd gynnal adolygiad ynghylch i ba raddau y mae corff cyhoeddus yn diogelu gallu cenedlaethau’r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion drwy ystyried effaith hirdymor yr hyn a wna’r corf hwnnw. Gall hyn ymwneud â mwy nag un corff cyhoeddus. Caiff y Comisiynydd adolygu’r camau y mae corff wedi eu cymryd neu y mae’n bwriadu eu cymryd er mwyn cyflawni ei amcanion llesiant, i ba raddau y mae’r amcanion llesiant hynny’n cael eu cyflawni ac a yw wedi gweithredu yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy wrth gymryd y camau hynny.

90.Caiff y comisiynydd wneud argymhellion o ganlyniad i unrhyw adolygiad; ystyr hynny yw y caiff y Comisiynydd argymell dull o weithredu y dylai corff cyhoeddus ei ddilyn er mwyn ymdrin â mater penodol. Gallai’r argymhellion hyn ymwneud â’r camau y mae corff cyhoeddus wedi eu cymryd i gyflawni ei amcanion llesiant a sut i osod amcanion llesiant a chymryd camau i’w cyflawni yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy. Mewn perthynas â Gweinidogion Cymru, caiff yr argymhellion ymwneud hefyd â’r nodau llesiant neu’r dangosyddion cenedlaethol.

91.Rhaid i’r Comisiynydd gyhoeddi unrhyw adolygiad y mae’n ei wneud, ac anfon copi o’r adolygiad a’r argymhellion at Weinidogion Cymru.

92.Caiff y Comisiynydd ei gwneud yn ofynnol bod corff cyhoeddus yn darparu unrhyw wybodaeth yr ystyria’r Comisiynydd fod ei hangen arno er mwyn cynnal yr adolygiad. Ni chaiff y Comisiynydd ofyn am yr wybodaeth os yw’r corff cyhoeddus wedi ei wahardd rhag datgelu’r wybodaeth honno gan unrhyw ddeddfiad neu reol gyfreithiol arall.

93.Rhaid i’r Comisiynydd gyhoeddi unrhyw adolygiad y mae’n ei wneud, ac anfon copi o’r argymhellion at Weinidogion Cymru.

94.Mae adran 22 yn ei gwneud yn ofynnol bod cyrff cyhoeddus yn dilyn y camau gweithredu a bennir mewn unrhyw argymhelliad a wneir gan y Comisiynydd o dan adran 20(4) o’r Ddeddf. Fodd bynnag, caiff y corff cyhoeddus ddiystyru’r cyfan neu ran o’r argymhelliad os bodlonir ef fod rheswm da dros wneud hynny. Caiff y corff hefyd benderfynu dilyn camau gweithredu amgen mewn perthynas â’r mater y cyfeirir ato yn yr argymhelliad, ond pan fo’n penderfynu peidio â dilyn yr argymhelliad rhaid iddo egluro ei ymateb a’r hyn y mae’n bwriadu ei wneud yn lle hynny.

95.Mae adran 22(2) yn darparu pŵer i Weinidogion Cymru baratoi a dyroddi canllawiau i’r cyrff cyhoeddus ynglŷn â sut i ymateb i argymhelliad gan y Comisiynydd. Wrth benderfynu sut i ymateb i argymhelliad, rhaid i’r corff cyhoeddus gymryd i ystyriaeth unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru o dan y pŵer hwn.

Adrannau 23 a 24 – Adroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol a gweithgareddau yn ystod y cyfnod adrodd

96.Mae adran 23 yn ei gwneud yn ofynnol bod y Comisiynydd yn paratoi adroddiad sy’n rhoi manylion am y gwelliannau y dylai cyrff cyhoeddus eu gwneud er mwyn gosod a chyflawni eu hamcanion llesiant mewn modd sy’n gydnaws â’r egwyddor datblygu cynaliadwy.

97.Rhaid i’r Comisiynydd gyhoeddi’r adroddiad hwn cyn diwedd y cyfnod adrodd. Mae’r ‘cyfnod adrodd’ yn dechrau gyda’r diwrnod sy’n dilyn y diwrnod y cyhoeddir adroddiad tueddiadau tebygol y dyfodol Gweinidogion Cymru o dan adran 11o’r Ddeddf, ac yn dod i ben ar y dyddiad un flwyddyn ac un diwrnod cyn dyddiad arfaethedig etholiad cyffredinol arferol nesaf y Cynulliad. Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio’r diffiniad o’r cyfnod adrodd, drwy reoliadau.

98.Rhaid i’r adroddiad hwn gynnwys asesiad o sut y dylai cyrff cyhoeddus wella’r modd y diogelir gallu cenedlaethau’r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion, a rhoi gwell ystyriaeth i effaith hirdymor eu gweithgareddau. Rhaid i’r adroddiad hefyd ddarparu crynodeb o’r dystiolaeth a gasglwyd a’r gweithgareddau a ymgymerodd y Comisiynydd â hwy yn ystod y cyfnod adrodd, crynodeb o’r adolygiadau a gynhaliwyd yn ystod y cyfnod adrodd, yn ogystal â’r camau gweithredu a gymerwyd ganddo wrth arfer ei swyddogaethau.

99.Rhaid i’r Comisiynydd anfon copi o’r adroddiad at Weinidogion Cymru, a rhaid iddynt hwythau osod copi gerbron y Cynulliad Cenedlaethol.

100.Rhaid i’r Comisiynydd ymgynghori â’r bobl hynny a restrir o dan adran 24(1), yn ogystal ag unrhyw un arall yr ystyria’n briodol, er mwyn sicrhau bod buddiannau economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol yn cael eu cynrychioli’n llawn, yn ystod y cyfnod adrodd a chyn cyhoeddi’r Adroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol.

101.Wrth baratoi ei Adroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol, rhaid i’r Comisiynydd ystyried y canlynol:

  • ymatebion y bobl y bu’n ymgynghori â hwy o dan adran 24(1);

  • yr adroddiad tueddiadau tebygol y dyfodol diweddaraf a baratowyd gan Weinidogion Cymru o dan adran 11 o’r Ddeddf; ac

  • unrhyw adroddiadau perthnasol gan Archwilydd Cyffredinol Cymru.

Adran 25 – Cydweithio

102.Mae adran 25 yn gwneud darpariaeth i’r Comisiynydd, pan fo’n cynnal adolygiad, gydweithio â’r Comisiynwyr eraill, sef Comisiynydd Plant Cymru, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru neu Gomisiynydd y Gymraeg.

103.Mae’r adran hon yn gymwys os yw’r Comisiynydd o’r farn bod mater y mae’n bwriadu ei adolygu yr un fath â mater, neu’n sylweddol debyg i fater, sy’n destun adolygiad neu ymchwiliad a ymgymerir gan un neu ragor o’r Comisiynwyr eraill. Caiff y Comisiynydd hysbysu’r Comisiynydd arall neu’r Comisiynwyr eraill am ei fwriad i gynnal adolygiad ac ymgynghori â’r Comisiynydd arall neu’r Comisiynwyr eraill.

104.Caiff y Comisiynwyr hefyd gydweithio mewn cysylltiad â chynnal adolygiad neu ymchwiliad, a chânt baratoi dogfen ar y cyd, a fydd yn darparu’r cyngor yn ogystal ag adrodd am ganfyddiadau’r adolygiad neu’r ymchwiliad.

Adrannau 26, 27 a 28 – Y panel cynghori, aelodau penodedig a thalu treuliau aelodau’r panel

105.Mae adran 26 yn sefydlu panel cynghori, sef panel o gynghorwyr sy’n darparu cyngor i’r Comisiynydd ynglŷn ag arfer ei swyddogaethau.

106.Rhestrir aelodau statudol y panel yn adran 26(2). Caiff Gweinidogion Cymru benodi aelodau ychwanegol o’r panel cynghori, a elwir yn ‘aelodau penodedig’.

107.Cyn penodi aelod penodedig, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r Comisiynydd ac ystyried unrhyw sylwadau a wneir gan y Comisiynydd.

108.Caiff Gweinidogion Cymru benderfynu am ba gyfnod o amser y penodir aelod penodedig, yn ddarostyngedig i gyfnod byrraf o 3 blynedd a chyfnod hwyaf o 5 mlynedd. Unwaith yn unig y caniateir ailbenodi aelod penodedig. Caiff yr aelod penodedig ymddiswyddo o’r panel, ond rhaid iddo roi o leiaf dri mis o rybudd mewn ysgrifen i Weinidogion Cymru.

109.Caiff Gweinidogion Cymru ddiswyddo aelod penodedig, ar ôl ymgynghori â’r Comisiynydd, os ystyriant fod yr aelod hwnnw’n anaddas, yn analluog neu’n anfodlon i barhau yn ei rôl.

110.Mae adran 28 yn rhoi i Weinidogion Cymru y gallu i dalu lwfansau a rhoddion ariannol i aelodau’r panel cynghori.

Adran 29 – Byrddau gwasanaethau cyhoeddus

111.Mae adran 29 yn darparu bod bwrdd gwasanaethau cyhoeddus i gael ei sefydlu ar gyfer pob ardal awdurdod lleol yng Nghymru. Rhestrir aelodau’r bwrdd gwasanaethau cyhoeddus, a gwneir darpariaethau pellach ym mharagraff 7 o Atodlen 3 ynglŷn â pha unigolion y mae’n ofynnol iddynt gynrychioli aelodau unigol mewn cyfarfodydd o’r bwrdd.

112.Mae aelodau o fwrdd gwasanaethau cyhoeddus yn gweithredu ar y cyd. O ganlyniad, mae unrhyw swyddogaeth i fwrdd gwasanaethau cyhoeddus yn swyddogaeth i bob un o’r aelodau, a dim ond ar y cyd â’r aelodau eraill y ceir ei harfer.

Adrannau 30 a 31 – Gwahoddiadau i gyfranogi

113.Mae adran 30(1) yn pennu unigolion neu sefydliadau penodol y mae’n ofynnol bod byrddau gwasanaethau cyhoeddus yn eu gwahodd i gyfranogi yng ngweithgareddau’r bwrdd. Unigolion neu sefydliadau yw’r rhain yr ystyrir y byddai eu cyfraniad i waith y bwrdd yn werthfawr, ond nad yw’n bosibl neu’n ddymunol gosod dyletswydd arnynt. Mae adran 31(1) yn darparu bod rhaid dyroddi’r gwahoddiadau hyn cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol:

  • ar ôl cyfarfod cyntaf bwrdd gwasanaethau cyhoeddus ar ôl ei sefydlu; ac wedyn

  • ar ôl cyfarfod cyntaf y bwrdd yn dilyn etholiad cyffredin, fel y’i diffinnir yn adran 26 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

114.Caiff y bwrdd hefyd wahodd unrhyw berson arall yr ystyria’n briodol, ar yr amod bod y person hwnnw’n arfer swyddogaethau o natur gyhoeddus. Caniateir, fodd bynnag, i’r person hwnnw arfer swyddogaethau eraill yn ogystal.

115.Ystyrir mai ‘cyfranogwr gwadd’ fydd unrhyw unigolyn neu gorff sy’n derbyn gwahoddiad i gyfranogi yng ngweithgarwch y bwrdd, ac ni fydd yn dod yn aelod o’r bwrdd. Mae cyfranogi yng ngweithgarwch y bwrdd yn golygu cydweithio â’r bwrdd, unrhyw aelod o’r bwrdd neu unrhyw berson arall sy’n derbyn gwahoddiad o dan adran 30 i ymgyrraedd at yr amcan lleol. O dan adran 30(4) mae ‘cydweithio’ yn cynnwys:

  • darparu ei safbwyntiau i’r bwrdd ar gynnwys asesiad y bwrdd o’r llesiant lleol neu ei gynllun llesiant lleol;

  • cymryd rhan yng nghyfarfodydd y bwrdd (gall hynny gynnwys, yn dilyn gwahoddiad gan aelodau’r Bwrdd ac yn ddarostyngedig i baragraffau 2(1) a 3(1) o Atodlen 3, gadeirio cyfarfodydd o’r Bwrdd); neu

  • ddarparu cyngor a chymorth arall i’r bwrdd (nid yw hyn, fodd bynnag, yn cynnwys darparu cymorth ariannol).

116.Caiff cyfranogwr gwadd gyfranogi yng ngweithgarwch y bwrdd o’r diwrnod pan fo’r bwrdd yn cael ateb gan y cyfranogwr yn derbyn y gwahoddiad tan ddyddiad yr etholiad cyffredin nesaf, fel y’i diffinnir yn adran 26 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

Adran 32 – Partneriaid eraill

117.Mae adran 32(1) yn rhestru cyrff ac unigolion penodol y mae’n rhaid i fwrdd gwasanaethau cyhoeddus eu cynnwys yng ngweithgarwch y bwrdd, a chyfeirir atynt fel ‘partneriaid eraill’.

118.Cyrff neu unigolion yw’r ‘partneriaid eraill’ a ystyrir yn ddarparwyr gwasanaethau a chynrychiolwyr buddiannau cyhoeddus pwysig. Rhaid i’r bwrdd ofyn am gyngor gan ei bartneriaid eraill a’u cynnwys yng ngweithgareddau’r bwrdd yn y modd, ac i’r graddau, a ystyrir yn briodol gan y bwrdd. Gall hyn olygu naill ai gofyn am gyngor gan y partneriaid neu eu cynnwys yn y gwaith o baratoi, cyflawni a rhoi ar waith gynllun llesiant y bwrdd.

Adran 33 – Newidiadau mewn cyfranogiad

119.Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, ddiwygio’r rhestr o aelodau, cyfranogwyr gwadd neu bartneriaid eraill ar y byrddau gwasanaethau cyhoeddus, drwy ychwanegu person neu dynnu person ymaith, neu ddiwygio ei ddisgrifiad. Cyn arfer y pŵer hwn, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag aelodau’r bwrdd neu’r byrddau gwasanaethau cyhoeddus y mae’r rheoliadau arfaethedig yn effeithio arno neu arnynt, ac os ydynt yn ychwanegu person, y person hwnnw.

120.Dim ond person sydd â swyddogaethau cyhoeddus y caniateir ei ychwanegu at adran 29(2) fel aelod o fyrddau gwasanaethau cyhoeddus. Os yw’r person yn arfer swyddogaethau eraill yn ogystal â swyddogaethau cyhoeddus, ei swyddogaethau cyhoeddus yn unig a all fod yn ddarostyngedig i Ran 4 o’r Ddeddf.

Adran 34 – Cyfarfodydd a chylch gorchwyl

121.Mae’r adran hon yn rhoi effaith i Atodlen 3, sy’n gwneud darpariaeth bellach ynghylch cyfarfodydd a chylch gorchwyl byrddau gwasanaethau cyhoeddus.

Atodlen 3 – Byrddau gwasanaethau cyhoeddus: darpariaethau pellach

122.Mae paragraff 1 yn pennu mai cworwm bwrdd gwasanaethau cyhoeddus yw pob un o’i aelodau. Mae hyn yn golygu bod rhaid i bob aelod fod yn bresennol mewn cyfarfod er mwyn i benderfyniadau a wneir yn y cyfarfod hwnnw gael eu hystyried yn ddilys.

123.Mae paragraffau 2 and 3 yn gwneud darpariaeth ynghylch amseroedd cyfarfodydd. Rhaid i fwrdd gwasanaethau cyhoeddus gynnal ei gyfarfod cyntaf, a gadeirir gan yr awdurdod lleol, heb fod yn hwyrach na 60 diwrnod ar ôl y dyddiad y sefydlwyd y bwrdd gan yr awdurdod lleol. Rhaid i’r bwrdd hefyd gynnal cyfarfod gorfodol, a gadeirir gan yr awdurdod lleol, heb fod yn hwyrach na 60 diwrnod ar ôl etholiad cyffredin, fel y’i diffinnir yn adran 26 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

124.Mae paragraff 4 yn ei gwneud yn ofynnol bod y bwrdd gwasanaethau cyhoeddus yn cytuno ar ei gylch gorchwyl yn ei gyfarfod cyntaf. Mae is-baragraff (2) yn rhoi manylion am y materion sydd i’w cynnwys yn y cylch gorchwyl. Caiff y bwrdd adolygu ei gylch gorchwyl fel y gwêl yn dda, ond rhaid iddo ei adolygu yn y cyfarfod gorfodol a gynhelir yn dilyn etholiad cyffredin. Yn dilyn adolygiad, caiff y bwrdd ddiwygio ei gylch gorchwyl.

125.Mae paragraff 5 yn ei gwneud yn ofynnol bod yr awdurdod lleol yn darparu cymorth gweinyddol i’r bwrdd gwasanaethau cyhoeddus.

126.Mae paragraff 6 yn gwneud darpariaethau mewn perthynas â sefydlu is-grwpiau o fwrdd gwasanaethau cyhoeddus a gallu’r is-grwpiau hynny i arfer swyddogaethau’r bwrdd. Ni chaiff is-grŵp o’r bwrdd gwasanaethau cyhoeddus wneud y canlynol:

  • gwahodd personau i gyfranogi o dan adran 30 o’r Ddeddf;

  • gosod, adolygu neu ddiwygio amcanion lleol y bwrdd;

  • paratoi neu gyhoeddi asesiad llesiant lleol;

  • ymgynghori ar ddrafft o asesiad llesiant lleol neu baratoi asesiad drafft at ddibenion ymgynghori;

  • paratoi neu gyhoeddi cynllun llesiant lleol;

  • ymgynghori ar ddrafft o gynllun llesiant lleol neu baratoi drafft o gynllun llesiant lleol at ddibenion ymgynghori;

  • adolygu neu ddiwygio cynllun llesiant lleol, cyhoeddi cynllun llesiant lleol diwygiedig neu ymgynghori ar ddrafft o gynllun llesiant lleol diwygiedig;

  • ymgynghori o dan adran 44;

  • cytuno i’r bwrdd—

    (i)

    uno â bwrdd gwasanaethau cyhoeddus arall o dan adran 47(1), neu

    (ii)

    cydlafurio â bwrdd arall o dan adran 48(1).

127.Mae paragraff 7 yn rhoi manylion am yr unigolion y mae’n rhaid iddynt gynrychioli pob aelod o’r bwrdd. Caiff cyfranogwyr gwadd ddynodi’r unigolyn sydd i’w cynrychioli. Caiff y bwrdd gwasanaethau cyhoeddus hefyd wahodd un neu ragor o’i bartneriaid eraill i fod yn bresennol mewn cyfarfod neu unrhyw ran o gyfarfod.

Adran 35 – Pwyllgor trosolwg a chraffu awdurdod lleol

128.Mae adran 35 yn ei gwneud yn ofynnol bod pob awdurdod lleol yn sicrhau bod gan ei bwyllgor trosolwg a chraffu y pŵer i gyflawni’r canlynol:

  • adolygu penderfyniadau a wnaed neu gamau a gymerwyd gan y bwrdd gwasanaethau cyhoeddus wrth arfer ei swyddogaethau, neu graffu arnynt;

  • adolygu trefniadau llywodraethu’r bwrdd, neu graffu arnynt;

  • gwneud adroddiadau neu argymhellion i Weinidogion Cymru;

  • ystyried pa bynnag faterion yn ymwneud â’r bwrdd a atgyfeirir i’r pwyllgor gan Weinidogion Cymru, ac adrodd wrth Weinidogion Cymru yn unol â hynny; a

  • chyflawni pa bynnag swyddogaethau eraill a osodir arno gan y Ddeddf.

129.Bydd yr awdurdod lleol yn gwneud hynny drwy’r ’trefniadau gweithrediaeth’ y mae’n ofynnol iddo’u gwneud o dan Ran 2 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000. Trefniadau gweithrediaeth yw trefniadau a wneir gan awdurdod lleol i sefydlu gweithrediaeth, a’i rhoi ar waith, i ymgymryd â’r cyfrifoldeb am swyddogaethau penodol yr awdurdod.

130.Rhaid i’r pwyllgor anfon copi o unrhyw adroddiad neu argymhelliad a wneir ganddo o dan is-adran (1)(c) at Weinidogion Cymru, y Comisiynydd ac Archwilydd Cyffredinol Cymru.

131.Caiff pwyllgor trosolwg a chraffu, wrth ymgymryd â’r swyddogaethau y darperir ar eu cyfer o dan is-adran (1), ei gwneud yn ofynnol i un neu ragor o’r personau a gaiff fod yn bresennol mewn cyfarfod o’r bwrdd gwasanaethau cyhoeddus, neu unrhyw un a ddynodir gan berson o’r fath, fod yn bresennol mewn cyfarfod o’r pwyllgor i esbonio pa bynnag faterion a fynnir gan y pwyllgor.

132.Pan fo gan awdurdod lleol fwy nag un pwyllgor trosolwg a chraffu, rhaid dehongli’r cyfeiriad yn Rhan 4 o’r Ddeddf at ei bwyllgor trosolwg a chraffu fel cyfeiriad at y pwyllgor a ddynodir gan yr awdurdod lleol at ddibenion adran 35.

Adran 36 – Dyletswydd llesiant ar fyrddau gwasanaethau cyhoeddus

133.Mae adran 36 yn nodi’r ddyletswydd llesiant sydd ar fyrddau gwasanaethau cyhoeddus, sef bod rhaid i fwrdd wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol ei ardal drwy gyfrannu at gyrraedd y nodau llesiant. Yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy, rhaid i bob bwrdd gwasanaethau cyhoeddus asesu cyflwr llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol yn ei ardal, gosod amcanion lleol a chymryd pob cam rhesymol, wrth arfer ei swyddogaethau, i gyflawni’r amcanion hynny, sydd wedi eu cynllunio i sicrhau bod y bwrdd yn cyfrannu i’r eithaf at gyrraedd y nodau llesiant. Rhaid i unrhyw beth y mae bwrdd gwasanaethau cyhoeddus yn ei wneud o dan yr adran hon gael ei wneud yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy.

Adrannau 37 a 38 – Asesiadau llesiant lleol

134.Mae adran 37(1) yn ei gwneud yn ofynnol bod pob bwrdd gwasanaethau cyhoeddus yn gwneud asesiad o lesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol ei ardal.

135.Rhaid i’r bwrdd gyhoeddi’r asesiad hwn 12 mis o leiaf cyn cyhoeddi ei gynllun llesiant lleol. Mae adran 39 o’r Ddeddf yn darparu bod rhaid cyhoeddi’r cynllun llesiant lleol yn ddim hwyrach nag un flwyddyn ar ôl etholiad cyffredin, fel y’i diffinnir yn adran 26 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. O ganlyniad, byddai’r asesiad yn cael ei gyhoeddi o fewn y 12 mis sy’n rhagflaenu pob etholiad llywodraeth leol cyffredin.

136.Rhaid i’r asesiad bennu’r ardaloedd cymunedol sydd o fewn ardal y bwrdd. Bwriedir i’r ‘ardaloedd cymunedol’ hyn fod yn ardaloedd o fewn ardal y bwrdd sy’n ddigon mawr i amlygu gwahaniaethau rhyngddynt ac i feddu ar ymdeimlad o hunaniaeth, ond heb fod mor fychan â wardiau etholiadol. Rhaid i’r asesiad ddarparu dadansoddiad o gyflwr llesiant:

  • ardal y bwrdd yn ei chyfanrwydd;

  • pob cymuned o fewn ardal y bwrdd.

137.Caiff yr asesiad hefyd gynnwys dadansoddiad o gategorïau penodol o bersonau y penderfyna’r bwrdd arnynt, gan gynnwys personau sy’n hyglwyf neu o dan anfantais fel arall, personau sy’n meddu ar nodwedd warchodedig gyffredin o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, plant, pobl ifanc sydd â’r hawlogaeth i gael cymorth o dan adrannau 105 i 115 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, personau y gallai fod arnynt angen gofal a chymorth arnynt neu’r rheini sy’n darparu gofal a chymorth a phersonau sy’n rhannu unrhyw ffactor cyffredin arall y mae’r Bwrdd yn ei ystyried yn briodol.

138.Wrth asesu llesiant pob cymuned, y bwriad yw sicrhau y dadansoddir y gwahaniaethau rhwng y gwahanol gymunedau o fewn ardal bwrdd gwasanaethau cyhoeddus. Bydd y cymunedau o fewn pob ardal yn cael eu penderfynu mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru neu, pan nad oes rheoliadau o’r fath wedi eu gwneud, gan y bwrdd.

139.Er y caiff y bwrdd ystyried cysoni'r cymunedau hyn â’r rhwydweithiau cymunedol sy’n bodoli eisoes, megis ‘cymdogaethau’ awdurdod lleol, ‘rhwydweithiau bro’ yn y maes iechyd neu glystyrau o gynghorau cymuned, ni fydd y cymunedau a bennir at ddibenion yr asesiad yn cyfateb o anghenraid i’r cynghorau cymuned o fewn ardal y bwrdd.

140.Rhaid i’r asesiad gynnwys unrhyw ddadansoddiad pellach a gyflawnir gan y bwrdd drwy gyfeirio at feini prawf a bennwyd ac a gymhwyswyd ganddo at y diben o asesu llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol yn yr ardal neu mewn unrhyw gymuned o fewn yr ardal.

141.Rhaid i’r asesiad hefyd gynnwys rhagfynegiadau o’r tueddiadau tebygol yn y dyfodol ac unrhyw wybodaeth a data dadansoddol eraill a ystyrir yn briodol gan y bwrdd, ynglŷn â llesiant economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol yr ardal.

142.Wrth baratoi’r dadansoddiad, rhaid i’r bwrdd gyfeirio at:

  • unrhyw ddangosyddion cenedlaethol, fel y’u cyhoeddwyd o dan adran 10 o’r Ddeddf;

  • unrhyw adroddiadau tueddiadau tebygol y dyfodol a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru o dan adran 11, os ydynt yn berthnasol i asesu llesiant yn yr ardal.

143.Mae adran 38(3) yn diffinio nifer o adolygiadau ac asesiadau statudol, y mae’n rhaid i’r bwrdd ystyried eu canfyddiadau wrth baratoi ei asesiad. Caiff Gweinidogion Cymru bennu, drwy reoliadau, unrhyw adolygiadau neu asesiadau eraill y dymunant i’r bwrdd eu hystyried.

144.Cyn cyhoeddi ei asesiad llesiant lleol, rhaid i fwrdd gwasanaethau cyhoeddus ymgynghori â’r bobl hynny a restrir yn adran 38(1). Rhaid i’r bwrdd ddarparu copi o’i asesiad drafft i bob un o’r bobl a restrir.

145.Rhaid i fwrdd gwasanaethau cyhoeddus anfon copi o’i asesiad at Weinidogion Cymru, y Comisiynydd, Archwilydd Cyffredinol Cymru a phwyllgor trosolwg a chraffu yr awdurdod lleol.

Adran 39 – Cynlluniau llesiant lleol

146.Rhaid i bob bwrdd gwasanaethau cyhoeddus, o dan adran 39(1), baratoi a chyhoeddi cynllun llesiant lleol.

147.Rhaid i fwrdd gyhoeddi ei gynllun llesiant lleol cyntaf yn ddim hwyrach 12 mis ar ôl yr etholiad cyffredin cyntaf, fel y’i diffinnir yn adran 26 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 a gynhelir ar ôl cychwyn yr adran hon. Rhaid i’r bwrdd wedyn gyhoeddi cynllun llesiant lleol yn ddim hwyrach na 12 mis ar ôl pob etholiad cyffredin dilynol. Mae’r gofynion hyn yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaethau trosiannol y caiff Gweinidogion Cymru eu gwneud.

148.Bydd y cynllun llesiant lleol yn pennu’r modd y mae’r bwrdd yn bwriadu gwella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol ei ardal, ac felly’n cyfrannu at y nodau llesiant. Rhaid iddo gynnwys amcanion a fydd yn cynyddu i’r eithaf y cyfraniad a wneir gan y bwrdd tuag at gyrraedd y nodau llesiant (gweler adran 4) yn ei ardal. Ni chaiff cynllun ond cynnwys amcan lleol sydd i’w ddiwallu drwy gamau a gymerir gan gyfranogwr gwadd os yw’r bwrdd wedi cael cydsyniad y cyfranogwr.

149.Mae aelodau’r bwrdd hefyd yn ‘gyrff cyhoeddus’ at ddibenion Rhannau 1 – 3 o’r Ddeddf ac o ganlyniad rhaid iddynt, o dan adrannau 3 a 7 o’r Ddeddf, osod amcanion llesiant. Caiff yr aelodau hyn, sef yr awdurdod lleol, y bwrdd iechyd lleol, yr awdurdod tân ac achub a Chyfoeth Naturiol Cymru ddewis cynnwys eu hamcanion llesiant yn y cynllun llesiant lleol.

150.Rhaid i’r amcanion a gynhwysir yn y cynllun llesiant lleol fod yn gydnaws â’r egwyddor datblygu cynaliadwy, sef yr angen i sicrhau nad yw camau a gymerir gan gyrff cyhoeddus i wella llesiant pobl heddiw yn effeithio ar allu cenedlaethau’r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion eu hunain. Rhaid i’r bwrdd gymryd pob cam rhesymol i gyflawni ei amcanion llesiant yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy.

151.Rhaid i’r cynllun llesiant lleol gynnwys datganiad sy’n esbonio pam y mae’r bwrdd o’r farn y bydd:

  • yr amcanion yn cyfrannu, o fewn yr ardal berthnasol, at gyrraedd y nodau llesiant;

  • yr amcanion yn mynd i’r afael ag unrhyw faterion a grybwyllwyd yn ei asesiad llesiant lleol diweddaraf; a

  • o fewn pa derfyn amser y mae’r bwrdd yn disgwyl cyflawni ei amcanion.

152.Rhaid i’r cynllun gynnwys datganiad hefyd sy’n nodi’r modd y mae’r bwrdd yn bwriadu gweithredu i gyflawni’r amcanion yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy (gweler adran 5).

153.Caiff y cynllun gynnwys amcanion sydd i’w cyflawni neu gamau sydd i’w cymryd gan un neu ragor o aelodau’r bwrdd, cyfranogwyr gwadd neu bartneriaid eraill, yn gweithredu yn unigol neu ar y cyd. Os yw’r amcanion hyn i gael eu cyflawni gan un neu ragor o aelodau’r bwrdd, cyfranogwyr gwadd neu bartneriaid eraill yn gweithredu ar y cyd, rhaid i’r datganiad bennu’r personau a fydd yn rhan o’r cyfuniad.

154.Yn achos cynlluniau llesiant lleol dilynol, rhaid i’r datganiad roi manylion am y camau a gymerwyd gan y bwrdd i gyflawni’r amcanion a bennwyd yng nghynllun llesiant lleol blaenorol y bwrdd ac i ba raddau y cyflawnwyd yr amcanion hynny.

155.Rhaid i fwrdd gwasanaethau cyhoeddus anfon copi o’i gynllun llesiant lleol at Weinidogion Cymru, y Comisiynydd, Archwilydd Cyffredinol Cymru a phwyllgor trosolwg a chraffu yr awdurdod lleol.

Adran 40 – Cynlluniau llesiant lleol: rôl cynghorau cymuned

156.Mae adran 40 yn gosod dyletswydd ar gynghorau cymuned penodedig i gymryd pob cam rhesymol tuag at gyflawni’r amcanion a gynhwysir yn y cynllun llesiant lleol ar gyfer eu hardal.

157.Mae’r adran hon yn nodi’r meini prawf ar gyfer pennu pa gynghorau cymuned sy’n ddarostyngedig i’r ddyletswydd hon; mynegir y meini prawf presennol fel trothwy ariannol. Y cynghorau cymuned hynny, yn unig, yr oedd eu hincwm gros neu’u gwariant gros yn £200,000 o leiaf ar gyfer pob un o’r tair blwyddyn ariannol a oedd yn rhagflaenu’r flwyddyn y cyhoeddwyd y cynllun llesiant lleol ynddi sy’n ddarostyngedig i’r ddyletswydd hon. Bydd y cynghorau cymuned hynny yn parhau’n ddarostyngedig i’r ddyletswydd hyd nes y cyhoeddir cynllun llesiant lleol newydd yn dilyn pob etholiad cyffredin dilynol fel y’i diffinnir yn adran 26 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, a bydd y cynghorau cymuned yn penderfynu a fyddant yn parhau’n ddarostyngedig i’r ddyletswydd ai peidio, bryd hynny, drwy gymhwyso’r meini prawf.

158.Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio’r meini prawf hyn. Wrth bennu’r meini prawf diwygiedig, caiff Gweinidogion adlewyrchu darpariaethau a wnaed mewn perthynas â chynghorau cymuned mewn rheoliadau o dan adran 39 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004. O 31 Mawrth 2015 ymlaen, y rheoliadau perthnasol fydd Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014.

159.Cyn arfer eu pwerau i ddiwygio’r meini prawf, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r Comisiynydd, unrhyw gyngor cymuned yr effeithid arno gan y newid ac unrhyw berson arall yr ystyriant yn briodol.

160.Pan fo cyngor cymuned yn ddarostyngedig i’r ddyletswydd, rhaid iddo gyhoeddi adroddiad ar gyfer pob blwyddyn ariannol berthnasol, gan roi manylion am y cynnydd a wnaed ganddo o ran cyflawni’r amcanion a gynhwysir yn y cynllun llesiant lleol. Mae Gweinidogion Cymru o dan ddyletswydd i ddyroddi canllawiau i gynghorau cymuned sy’n ddarostyngedig i’r ddyletswydd, a rhaid i’r cynghorau hynny gymryd canllawiau o’r fath i ystyriaeth wrth gyflawni’r ddyletswydd.

Adrannau 41, 42 a 43 – Paratoi cynlluniau llesiant lleol: gwybodaeth am weithgarwch eraill, cyngor y Comisiynydd ac ymgynghori pellach a chymeradwyaeth

161.Mae’r adrannau hyn yn pennu’r hyn y caiff bwrdd gwasanaethau cyhoeddus ei wneud, a’r hyn y mae’n rhaid iddo’i wneud, cyn cyhoeddi ei gynllun llesiant lleol. Cyn ymgynghori ar y cynllun, caiff y bwrdd ei gwneud yn ofynnol bod unrhyw berson a wahoddir i gyfranogi (ac eithrio Gweinidogion Cymru) neu ei bartneriaid eraill yn darparu gwybodaeth am unrhyw un neu ragor o’u gweithgareddau a allai gyfrannu, o fewn ardal y bwrdd, at gyrraedd y nodau llesiant.

162.Rhaid i’r bwrdd hefyd ofyn am gyngor gan y Comisiynydd. Bydd y cyngor hwnnw’n ymwneud â’r modd y gall y bwrdd gwasanaethau cyhoeddus gyflawni ei amcanion arfaethedig mewn ffordd sy’n gydnaws â’r egwyddor datblygu cynaliadwy.

163.Rhaid i’r Comisiynydd ddarparu cyngor ysgrifenedig o fewn 14 wythnos ar ôl i’r bwrdd ei geisio. Rhaid i’r bwrdd gyhoeddi’r cyngor hwnnw ochr yn ochr â’i gynllun llesiant lleol.

164.Mae adran 43 yn darparu bod rhaid i’r bwrdd, cyn cyhoeddi ei gynllun llesiant lleol, ymgynghori am gyfnod o 12 wythnos o leiaf gyda’r bobl hynny a restrir yn adran 43(1). Yn rhan o’r ymgynghoriad, rhaid i’r bwrdd ddarparu copi o’i gynllun llesiant lleol drafft i bob un o’r bobl a restrir.

165.Pan fo awdurdod lleol yn gweithredu trefniadau gweithrediaeth o dan Ran 2 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000, ni cheir cymeradwyo’r cynllun llesiant lleol ar gyfer ei gyhoeddi gan weithrediaeth o’r awdurdod o dan y trefniadau hynny. Yn ychwanegol, nid yw adran 101 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (cyflawni swyddogaethau gan bwyllgorau etc.) yn gymwys i gymeradwyo cynlluniau llesiant lleol ar gyfer eu cyhoeddi.

166.Mewn perthynas â Bwrdd Iechyd Lleol, awdurdod tân ac achub Cymreig a Chorff Adnoddau Naturiol Cymru, ni cheir cymeradwyo’r cynllun llesiant lleol ar gyfer ei gyhoeddi ac eithrio mewn cyfarfod o’r corff dan sylw.

Adran 44 – Adolygu cynlluniau llesiant lleol

167.Mae adran 44 yn caniatáu i fwrdd gwasanaethau cyhoeddus adolygu a diwygio ei amcanion lleol neu ei gynllun llesiant lleol fel y gwêl yn dda. Rhaid i’r bwrdd adolygu ei amcanion neu ei gynllun os cyfarwyddir ef i wneud hynny gan Weinidogion Cymru. Os yw Gweinidogion Cymru yn cyfarwyddo bwrdd i adolygu ei amcanion lleol neu ei gynllun llesiant lleol, rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi datganiad sy’n cynnwys eu rhesymau dros roi’r cyfarwyddyd.

168.Cyn diwygio ei gynllun, rhaid i’r bwrdd ymgynghori â’r Comisiynydd a’r bobl a restrir o dan is-adran 43(1) o’r Ddeddf.

169.Rhaid cyhoeddi’r cynllun diwygiedig cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ac anfon copi ohono at Weinidogion Cymru, y Comisiynydd, Archwilydd Cyffredinol Cymru a phwyllgor trosolwg a chraffu yr awdurdod lleol.

Adran 43 – Adroddiadau cynnydd blynyddol

170.Mae adran 45 yn darparu bod rhaid i’r bwrdd gwasanaethau cyhoeddus baratoi adroddiad cynnydd blynyddol sy’n nodi’r camau a gymerwyd ganddo ers cyhoeddi ei gynllun llesiant lleol diweddaraf, i gyrraedd yr amcanion a osodwyd yn y cynllun hwnnw. Caiff yr adroddiad gynnwys hefyd unrhyw wybodaeth arall a ystyrir yn briodol gan y bwrdd.

171.Rhaid i fwrdd gyhoeddi’r adroddiad hwn yn ddim hwyrach na 14 o fisoedd ar ôl cyhoeddi ei gynllun llesiant lleol cyntaf, ac wedyn yn ddim hwyrach na 14 o fisoedd ar ôl pob adroddiad cynnydd dilynol.

172.Nid oes angen i’r bwrdd baratoi adroddiad cynnydd yn ystod y flwyddyn y paratoir ei gynllun llesiant lleol ynddi. Hynny fyddai’r cyfnod o 14 o fisoedd ar ôl pob etholiad cyffredin, fel y’i diffinnir yn adran 26 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

173.Rhaid i fwrdd gwasanaethau cyhoeddus anfon copi o’i adroddiad cynnydd blynyddol at Weinidogion Cymru, y Comisiynydd, Archwilydd Cyffredinol Cymru a phwyllgor trosolwg a chraffu yr awdurdod lleol.

Adran 46 – Addasiadau i ddeddfiadau

174.Mae’r adran hon yn rhoi effaith i Atodlen 4.

Atodlen 4 – Byrddau gwasanaethau cyhoeddus: diwygiadau canlyniadol a diddymu

175.Mae Atodlen 4 yn rhestru’r mân ddiwygiadau a’r diwygiadau canlyniadol a wneir gan y Ddeddf i nifer o ddeddfiadau sy’n cynnwys darpariaethau ynglŷn â chyhoeddi asesiadau o lesiant lleol a chynlluniau llesiant lleol. Mae hefyd yn gwneud diwygiadau canlyniadol i Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013 a Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

Adran 47 – Uno byrddau gwasanaethau cyhoeddus

176.Mae’r adran hon yn darparu y caiff dau neu ragor o fyrddau gwasanaethau cyhoeddus uno os ystyriant y byddai hynny’n eu cynorthwyo i gyfrannu at gyrraedd y nodau llesiant. Yn ychwanegol, caiff Gweinidogion Cymru, yn rhinwedd is-adran 2, gyfarwyddo dau neu ragor o fyrddau gwasanaethau cyhoeddus i uno os yw Gweinidogion Cymru o’r farn y byddai hynny’n cynorthwyo’r byrddau i gyfrannu at gyrraedd y nodau llesiant.

177.Ni chaiff y byrddau uno onid yw’r un Bwrdd Iechyd Lleol yn aelod o bob un o’r byrddau ac nad oes Bwrdd neu Fyrddau Iechyd Lleol eraill yn aelod.

178.Yn dilyn uno dau neu ragor o fyrddau, rhaid dehongli unrhyw gyfeiriadau at fwrdd gwasanaethau cyhoeddus fel cyfeiriadau at y bwrdd unedig, ac unrhyw gyfeiriadau at ardal y bwrdd fel cyfeiriadau at ardaloedd cyfunedig yr awdurdodau lleol sy’n aelodau o’r byrddau a unwyd.

Adran 48 – Cydlafurio rhwng byrddau gwasanaethau cyhoeddus

179.Mae adran 48 yn darparu y caiff dau neu ragor o fyrddau gwasanaethau cyhoeddus gydlafurio os ydynt o’r farn y byddai hynny’n eu cynorthwyo i gyfrannu at gyrraedd y nodau llesiant. Yn ychwanegol, caiff Gweinidogion Cymru, yn rhinwedd is-adran (2), gyfarwyddo dau neu ragor o fyrddau gwasanaethau cyhoeddus i gydlafurio ym mha bynnag fodd y tybia Gweinidogion Cymru fyddai’n cynorthwyo’r byrddau i gyfrannu at gyrraedd y nodau llesiant.

180.Ceir ystyried bod bwrdd gwasanaethau cyhoeddus yn cydlafurio at ddibenion adran 48 os yw:

  • yn cydweithio â bwrdd arall;

  • yn hwyluso gweithgareddau bwrdd arall;

  • yn cydgysylltu ei weithgareddau â bwrdd arall;

  • yn arfer swyddogaethau bwrdd arall ar ei ran;

  • yn darparu staff, nwyddau, gwasanaethau neu lety i fwrdd arall.

Adran 49 – Cyfarwyddydau i uno neu i gydlafurio

181.Mae’r adran hon yn darparu bod rhaid i Weinidogion Cymru, cyn cyfarwyddo dau neu ragor o fyrddau i uno o dan adran 47 o’r Ddeddf, neu gydlafurio o dan adran 48 o’r Ddeddf, ymgynghori â phob aelod o’r byrddau y bwriadant eu cyfarwyddo.

182.Wrth roi cyfarwyddyd o’r fath, rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi datganiad sy’n cynnwys eu rhesymau dros ei roi.

Adran 50 – Dangosyddion perfformiad a safonau

183.Mae’r adran hon yn galluogi Gweinidogion Cymru, mewn rheoliadau, i osod dangosyddion a safonau ar gyfer mesur perfformiad pob bwrdd gwasanaethau cyhoeddus.

184.Cyn gwneud y rheoliadau hyn, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag aelodau’r bwrdd neu’r byrddau gwasanaethau cyhoeddus, neu’r personau yr ystyria Gweinidogion Cymru eu bod yn cynrychioli’r aelodau hynny, ac unrhyw berson arall a ystyrir yn briodol gan Weinidogion Cymru.

Adran 51 – Canllawiau

185.Mae’r adran hon yn rhoi dyletswydd ar Weinidogion Cymru i baratoi a dyroddi canllawiau i fyrddau gwasanaethau cyhoeddus mewn perthynas â darpariaethau Rhan 4 o’r Ddeddf.

186.Rhaid i fwrdd gwasanaethau cyhoeddus gymryd canllawiau o’r fath i ystyriaeth wrth arfer y swyddogaethau neu gyflawni’r dyletswyddau y darperir ar eu cyfer o dan Ran 4 o’r Ddeddf.

Adran 52 – Ystyr ‘corff cyhoeddus’: darpariaeth bellach

187.Mae is-adran (1) yn galluogi Gweinidogion Cymru i ddiwygio’r rhestr o gyrff cyhoeddus, y darperir ar ei chyfer yn adran 6(1) o’r Ddeddf. Caiff Gweinidogion Cymru ychwanegu neu dynnu ymaith gorff cyhoeddus, neu ddiwygio’r disgrifiad ohono.

188.Cyrff sydd â swyddogaethau cyhoeddus, yn unig, y caniateir eu hychwanegu at y rhestr. Os yw corff yn arfer swyddogaethau cyhoeddus yn ogystal â swyddogaethau eraill, ei swyddogaethau cyhoeddus yn unig gaiff fod yn ddarostyngedig i ddarpariaethau’r Ddeddf.

189.Cyn arfer y pŵer hwn, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r Comisiynydd ac unrhyw berson arall yr ystyriant yn briodol.

Adran 53 – Pŵer i wneud darpariaeth ganlyniadol etc.

190.Mae adran 53 yn darparu y caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaethau canlyniadol, cysylltiedig, atodol neu ddarfodol, neu ddarpariaethau arbed, mewn perthynas â rhoi effaith lawn i’r Ddeddf.

191.Caiff unrhyw reoliadau a wneir o dan y pŵer hwn ddiwygio, diddymu neu ddirymu unrhyw ddeddfiad a gynhwysir mewn Deddf Seneddol neu Fesur neu Ddeddf y Cynulliad Cenedlaethol, gan gynnwys y Ddeddf hon ac unrhyw ddeddfiad a gaiff ei basio neu ei wneud ar ôl pasio’r Ddeddf hon, neu unrhyw offeryn statudol a wneir oddi tanynt.

Adran 54 – Rheoliadau

192.Mae’r adran hon yn gwneud darpariaeth bellach ynglŷn â gwneud rheoliadau o dan y Ddeddf hon. Caiff y rheoliadau hyn wneud darpariaethau gwahanol ar gyfer gwahanol ddibenion neu ardaloedd, a chynnwys darpariaethau cysylltiedig, atodol, canlyniadol neu ddarfodol, neu ddarpariaethau arbed. Rhaid i unrhyw reoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru yn unol â darpariaethau’r Ddeddf gael eu gwneud drwy offeryn statudol.

193.Mae is-adran (4) yn pennu pa reoliadau a fydd yn ddarostyngedig i’r weithdrefn gadarnhaol; mae’r holl reoliadau eraill yn ddarostyngedig i’r weithdrefn negyddol.

Adran 56 – Cychwyn

194.Mae’r adran hon yn darparu ar gyfer dod ag adrannau 53, 54, 55, 56 a 57 i rym yn awtomatig ar y diwrnod ar ôl y diwrnod y cafodd y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol.

195.Daw gweddill darpariaethau’r Ddeddf i rym ar y diwrnod a bennir gan Weinidogion Cymru drwy orchymyn.

Cofnod Y Trafodion Yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru

196.Mae’r tabl a ganlyn yn nodi’r dyddiadau ar gyfer pob cam o daith y Ddeddf drwy Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Gellir gweld Cofnod y Trafodion a rhagor o wybodaeth am daith y Ddeddf ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn:

CamDyddiad
Cyflwynwyd7 Gorffennaf 2014
Cam 1 – Dadl9 Rhagfyr 2014
Cam 2 Pwyllgor Craffu – ystyried y gwelliannau5 Chwefror 2015
Cam 3 Cyfarfod Llawn – ystyried y gwelliannau10 Mawrth 2015
Cam 4 Cymeradwywyd gan y Cynulliad17 Mawrth 2015
Y Cydsyniad Brenhinol29 Ebrill 2015

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Explanatory Notes

Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of the Welsh Parliament.

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources