Search Legislation

Nodiadau Esboniadol i Deddf Addysg Uwch (Cymru) 2015

Adran 39 - Pŵer i dynnu cymeradwyaeth yn ôl

114.Mae’r adran hon yn caniatáu i CCAUC dynnu ei gymeradwyaeth i gynllun ffioedd a mynediad yn ôl:

  • pan fo corff llywodraethu wedi methu’n fynych â chydymffurfio â therfynau ar ffioedd myfyrwyr neu wedi methu â chydymffurfio â chyfarwyddyd cydymffurfio ac ad-dalu;

  • pan fo corff llywodraethu wedi methu’n fynych â chydymffurfio â gofynion cyffredinol cynllun sefydliad a gymeradwywyd neu wedi methu â chydymffurfio â chyfarwyddyd a roddir o dan adran 13;

  • pan fo ansawdd yr addysg a ddarperir gan neu ar ran y sefydliad yn ddifrifol o annigonol; neu

  • pan fo methiant difrifol wedi bod gan gorff llywodraethu sefydliad i gydymffurfio â’r Cod.

115.Gallai methu’n fynych (yng nghyd-destun ffioedd myfyrwyr a gofynion cyffredinol cynllun a gymeradwywyd) gynnwys nifer o fethiannau ar wahân neu ailadrodd yr un methiant neu barhau â’r un methiant. Mae adran 39(3) yn adlewyrchu’r ddarpariaeth yn adran 37(4). Mae adran 39(3) yn darparu, pan fo CCAUC wedi ei fodloni bod corff llywodraethu wedi cymryd pob cam rhesymol i gydymffurfio â gofyniad cyffredinol yn ei gynllun a gymeradwywyd, nad yw’r corff llywodraethu hwnnw i’w drin at ddibenion adran 39(2)(b) fel pe bai wedi methu â chydymffurfio â’r gofyniad hwnnw. Er enghraifft, caiff corff llywodraethu sefydliad ymrwymo yn ei gynllun a gymeradwywyd i ddarparu cymorth bwrsari i nifer penodol o fyfyrwyr. Mae nifer gwirioneddol y myfyrwyr sy’n cael bwrsari wedyn yn is na’r nifer a nodir yn y cynllun am fod nifer y myfyrwyr cymwys sy’n gwneud cais am y bwrsari yn llai na’r nifer a ddisgwyliwyd, er i’r bwrsari gael llawer o gyhoeddusrwydd. Mae’n bosibl y bydd CCAUC, yn y sefyllfa honno, wedi ei fodloni bod y corff llywodraethu wedi cymryd pob cam rhesymol i gydymffurfio â’r gofyniad cyffredinol.

116.Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth ynghylch yr hyn y mae rhaid i CCAUC ei ystyried wrth benderfynu pa un ai i roi hysbysiad ei fod yn tynnu ei gymeradwyaeth i gynllun yn ôl o dan yr adran hon. Er enghraifft, gallai hyn gynnwys gofyniad i CCAUC ystyried effaith addysg o ansawdd annigonol ar fyfyrwyr neu effaith peidio â chydymffurfio â’r Cod ar sefydlogrwydd ariannol sefydliad.

117.Mae’r gweithdrefnau hysbysiad rhybuddio ac adolygu yn adrannau 41 i 44 yn gymwys i hysbysiad a roddir gan CCAUC o dan yr adran hon.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Explanatory Notes

Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of the Welsh Parliament.

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources