Search Legislation

Nodiadau Esboniadol i Deddf Addysg Uwch (Cymru) 2015

Crynodeb O’R Ddeddf

9.Mae wyth Rhan i’r Ddeddf sy’n cynnwys 60 o adrannau ac un Atodlen.

  • Mae’n caniatáu i sefydliad yng Nghymru sy’n darparu addysg uwch ac sy’n elusen wneud cais i CCAUC am gymeradwyaeth i gynllun ffioedd a mynediad. Mae’r Ddeddf yn ymdrin â chynnwys cynllun ffioedd a mynediad gan gynnwys terfyn ffioedd ar gyfer cyrsiau sydd i’w rhagnodi mewn rheoliadau.

  • Mae’n ei gwneud yn ofynnol i CCAUC fonitro cydymffurfedd sefydliadau â’u cynlluniau ffioedd a mynediad a monitro effeithiolrwydd y cynlluniau. Mae’r Ddeddf hefyd yn rhoi swyddogaethau i CCAUC y caiff eu harfer pan fo wedi ei fodloni bod sefydliad rheoleiddiedig wedi methu â chydymffurfio â therfyn ffioedd yn ei gynllun ffioedd a mynediad neu wedi methu â chydymffurfio â gofyniad cyffredinol yn ei gynllun.

  • Mae’n rhoi swyddogaethau i CCAUC sy’n ymwneud ag asesu ansawdd yr addysg a ddarperir yng Nghymru gan neu ar ran sefydliad rheoleiddiedig ac mewn perthynas â’r camau y caiff CCAUC eu cymryd os yw wedi ei fodloni bod ansawdd yr addysg yn annigonol, neu’n debygol o ddod yn annigonol.

  • Mae’n ei gwneud yn ofynnol i CCAUC lunio a chyhoeddi Cod rheolaeth ariannol a fydd yn gymwys i sefydliadau rheoleiddiedig. Mae’r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i CCAUC fonitro, neu wneud trefniadau ar gyfer monitro, cydymffurfedd sefydliadau â gofynion y Cod. Mae’r Ddeddf hefyd yn rhoi swyddogaethau i CCAUC y caiff eu harfer pan fo wedi ei fodloni bod sefydliad rheoleiddiedig wedi methu, neu’n debygol o fethu, â chydymffurfio â gofyniad yn y Cod.

  • Mae’n gwneud darpariaeth ar gyfer yr amgylchiadau pan gaiff CCAUC wrthod cymeradwyo cynllun ffioedd a mynediad newydd ar gyfer sefydliad a’r amgylchiadau pan fo rhaid i CCAUC, neu pan gaiff CCAUC, dynnu’n ôl ei gymeradwyaeth i gynllun ffioedd a mynediad.

  • Mae’n gwneud darpariaeth ar gyfer y gweithdrefnau i’w dilyn gan CCAUC mewn perthynas â’r camau y caiff eu cymryd mewn cysylltiad â sefydliadau rheoleiddiedig, gan gynnwys rhoi hysbysiadau rhybuddio a gallu sefydliadau i wneud cais am adolygiadau.

  • Mae’n rhoi swyddogaethau i CCAUC mewn perthynas â darparu adroddiadau i Weinidogion Cymru a darparu gwybodaeth a chyngor gan CCAUC.

  • Mae’n gwneud diwygiadau canlyniadol i Ddeddfau eraill, gan gynnwys Deddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 a Deddf Addysg Uwch 2004.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Explanatory Notes

Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of the Welsh Parliament.

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources