Crynodeb O’R Ddeddf
9.Mae wyth Rhan i’r Ddeddf sy’n cynnwys 60 o adrannau ac un Atodlen.
Mae’n caniatáu i sefydliad yng Nghymru sy’n darparu addysg uwch ac sy’n elusen wneud cais i CCAUC am gymeradwyaeth i gynllun ffioedd a mynediad. Mae’r Ddeddf yn ymdrin â chynnwys cynllun ffioedd a mynediad gan gynnwys terfyn ffioedd ar gyfer cyrsiau sydd i’w rhagnodi mewn rheoliadau.
Mae’n ei gwneud yn ofynnol i CCAUC fonitro cydymffurfedd sefydliadau â’u cynlluniau ffioedd a mynediad a monitro effeithiolrwydd y cynlluniau. Mae’r Ddeddf hefyd yn rhoi swyddogaethau i CCAUC y caiff eu harfer pan fo wedi ei fodloni bod sefydliad rheoleiddiedig wedi methu â chydymffurfio â therfyn ffioedd yn ei gynllun ffioedd a mynediad neu wedi methu â chydymffurfio â gofyniad cyffredinol yn ei gynllun.
Mae’n rhoi swyddogaethau i CCAUC sy’n ymwneud ag asesu ansawdd yr addysg a ddarperir yng Nghymru gan neu ar ran sefydliad rheoleiddiedig ac mewn perthynas â’r camau y caiff CCAUC eu cymryd os yw wedi ei fodloni bod ansawdd yr addysg yn annigonol, neu’n debygol o ddod yn annigonol.
Mae’n ei gwneud yn ofynnol i CCAUC lunio a chyhoeddi Cod rheolaeth ariannol a fydd yn gymwys i sefydliadau rheoleiddiedig. Mae’r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i CCAUC fonitro, neu wneud trefniadau ar gyfer monitro, cydymffurfedd sefydliadau â gofynion y Cod. Mae’r Ddeddf hefyd yn rhoi swyddogaethau i CCAUC y caiff eu harfer pan fo wedi ei fodloni bod sefydliad rheoleiddiedig wedi methu, neu’n debygol o fethu, â chydymffurfio â gofyniad yn y Cod.
Mae’n gwneud darpariaeth ar gyfer yr amgylchiadau pan gaiff CCAUC wrthod cymeradwyo cynllun ffioedd a mynediad newydd ar gyfer sefydliad a’r amgylchiadau pan fo rhaid i CCAUC, neu pan gaiff CCAUC, dynnu’n ôl ei gymeradwyaeth i gynllun ffioedd a mynediad.
Mae’n gwneud darpariaeth ar gyfer y gweithdrefnau i’w dilyn gan CCAUC mewn perthynas â’r camau y caiff eu cymryd mewn cysylltiad â sefydliadau rheoleiddiedig, gan gynnwys rhoi hysbysiadau rhybuddio a gallu sefydliadau i wneud cais am adolygiadau.
Mae’n rhoi swyddogaethau i CCAUC mewn perthynas â darparu adroddiadau i Weinidogion Cymru a darparu gwybodaeth a chyngor gan CCAUC.
Mae’n gwneud diwygiadau canlyniadol i Ddeddfau eraill, gan gynnwys Deddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 a Deddf Addysg Uwch 2004.