Sylwebaeth Ar Yr Adrannau
Adrannau 26 i 32 – Swyddogaethau disgyblu’r Cyngor
44.Yn rhinwedd adran 26, mae’n ofynnol i’r Cyngor gynnal ymchwiliadau pan honnir bod person cofrestredig (neu pan ymddengys i’r Cyngor fod person cofrestredig):
yn euog o ymddygiad proffesiynol annerbyniol neu anghymhwysedd proffesiynol difrifol; neu
wedi ei gollfarnu o drosedd berthnasol.
45.Rhaid i’r Cyngor benderfynu, ar ôl iddo gynnal ymchwiliad, ba gamau pellach i’w cymryd. Pan fo’r Cyngor yn penderfynu bod person yn euog (neu wedi ei gollfarnu) mae’r Cyngor yn gallu gwneud gorchymyn disgyblu. Pan fo o’r farn nad oes achos i’w ateb, caiff y Cyngor beidio â pharhau â’r achos.
46.At ddiben adran 26, mae adran 27 yn egluro bod y diffiniad o berson cofrestredig yn cynnwys person a oedd wedi ei gofrestru pan ddigwyddodd yr ymddygiad neu drosedd honedig (p’un ai o dan adran 9 o’r Ddeddf hon neu o dan adran 3 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998), yn ogystal ag unrhyw berson sydd wedi gwneud cais i gael ei gofrestru felly.
47.Mae adran 28 yn caniatáu i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau ynghylch swyddogaethau disgyblu’r Cyngor. Mae hyn yn cynnwys gwneud rheoliadau ynghylch gweithdrefnau ar gyfer ymchwilio, ynghylch gorchmynion disgyblu ac ynghylch y camau y caniateir iddi fod yn ofynnol i gyflogwr eu cymryd pan fo cyflogai yn cael gorchymyn disgyblu.
48.Ni all rheoliadau ei gwneud yn ofynnol i berson roi unrhyw dystiolaeth neu ddangos unrhyw ddogfennau na allai gael ei orfodi i’w rhoi mewn trafodion sifil mewn unrhyw lys yng Nghymru a Lloegr.
49.Mae adrannau 29, 30 ac 31 yn nodi effaith rhai o’r gorchmynion disgyblu sydd ar gael i’r Cyngor. Maent yn cynnwys:
gosod amodau ar gofrestriad person (a chymryd camau pellach os nad yw’n cydymffurfio â’r amodau hynny);
atal dros dro gofrestriad person am gyfnod o hyd at 2 flynedd (gan atal y person rhag gweithio fel person cofrestredig). Ar ddiwedd y cyfnod atal dros dro, gall fod rhaid i’r person gydymffurfio ag unrhyw amodau a osodwyd am gyfnod pellach; a
gwahardd person rhag bod yn berson cofrestredig a hynny am gyfnod amhenodol.
50.Mae adran 32 yn darparu hawl i apelio yn erbyn unrhyw orchymyn disgyblu a wneir gan y Cyngor. Rhaid gwneud apelau cyn pen 28 o ddiwrnodau. Mae’r Uchel Lys yn gallu gwneud unrhyw orchymyn sy’n briodol yn ei farn ef mewn perthynas ag apêl ac mae penderfyniad yr Uchel Lys yn derfynol.