Cyflwyniad
1.Mae’r Nodiadau Esboniadol hyn ar gyfer Deddf Addysg (Cymru) 2014 a basiwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar 25 Mawrth 2014 ac a gafodd y Cydsyniad Brenhinol ar 12 Mai 2014. Fe’u lluniwyd gan Adran Addysg a Sgiliau Llywodraeth Cymru er mwyn cynorthwyo’r sawl sy’n darllen y Ddeddf. Dylid darllen y Nodiadau Esboniadol ar y cyd â’r Ddeddf ond nid ydynt yn rhan ohoni.
Cefndir
2.Sefydlwyd Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (CyngACC) o dan Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998. Mae wedi bod yn gyfrifol am gofrestru a rheoleiddio athrawon ers hynny.
3.Mae’r Ddeddf yn ailenwi CyngACC yn Gyngor y Gweithlu Addysg (y Cyngor) ac mae’n ehangu cylch gwaith y Cyngor er mwyn cynnwys cofrestru a rheoleiddio mwy o’r bobl sy’n ymwneud ag addysgu a dysgu yng Nghymru. O ganlyniad i’r newid hwn, mae’r Ddeddf yn diweddaru cyfansoddiad, trefniadau llywodraethu a swyddogaethau’r Cyngor. Mae’r Ddeddf hefyd yn darparu mecanwaith ar gyfer ychwanegu categorïau newydd o berson at gylch gwaith rheoleiddiol y Cyngor.
4.Mae’r Ddeddf hefyd yn manteisio ar y cyfle i ailddatgan rhai o’r darpariaethau perthnasol sy’n ymwneud ag athrawon a gweithwyr cymorth dysgu sydd i’w gweld ar hyn o bryd yn Neddf Addysg 2002.
5.Mae Rhan 3 o’r Ddeddf yn ymwneud â thri phwnc amrywiol ym maes addysg. Mae adran 42 yn ymwneud â dyddiadau tymhorau a gwyliau ac amserau sesiynau ysgol, mae adran 43 yn ymwneud â’r trefniadau ar gyfer penodi Arolygwyr Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru, ac mae adran 44 yn gwneud darpariaeth i egluro y gall swyddogaethau addysg awdurdodau lleol gael eu cyflawni gan bersonau a enwebir at bob diben pan fo cyfarwyddyd i’r perwyl hwnnw yn ei le.
Sylwebaeth Ar Yr Adrannau
Adran 1 – Trosolwg
6.Mae’r adran hon yn crynhoi prif ddarpariaethau’r Ddeddf. Ei nod yw bod yn ddarpariaeth dangos y ffordd a chyflwyno cysyniadau allweddol. Mae hefyd yn cyflwyno’r mynegai o eiriau ac ymadroddion wedi eu diffinio sydd i’w weld yn Atodlen 4 i’r Ddeddf.
Adrannau 2 i 6 (ac Atodlen 1) – Cyngor y Gweithlu Addysg
7.Mae adran 2 yn newid enw CyngACC i Gyngor y Gweithlu Addysg ac yn cyflwyno Atodlen 1 sy’n nodi cyfansoddiad diweddaraf y corff hwnnw.
8.Mae is-adran (1)(a) yn cadarnhau mai’r un endid cyfreithiol yw CyngACC a Chyngor y Gweithlu Addysg. Golyga hyn, er enghraifft, nad yw’r newidiadau yn effeithio ar delerau ac amodau contractau ei gyflogeion.
9.Mae adran 3 yn nodi prif nodau’r Cyngor, sef:
cyfrannu at wella safonau addysgu ac ansawdd y dysgu yng Nghymru; a
cynnal a gwella safonau ymddygiad proffesiynol ymhlith athrawon ac eraill yn y gweithlu addysg yng Nghymru.
10.Mae adran 4 yn pennu prif swyddogaethau’r Cyngor, sef:
darparu cyngor ar faterion sy’n ymwneud â’r personau y mae’r Cyngor yn eu rheoleiddio, ac ar faterion addysgu a dysgu (gweler adran 7);
hybu gyrfaoedd mewn proffesiynau cofrestradwy (gweler adran 8);
sefydlu a chynnal cofrestr (gweler adran 9);
sicrhau bod ganddo’r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch sefydlu’r gweithlu addysg a gwrando apelau mewn perthynas â phenderfyniadau sy’n ymwneud â sefydlu (gweler adrannau 17 a 19);
adolygu a diwygio cod ymddygiad ac ymarfer (gweler adran 24);
ymchwilio i ymddygiad proffesiynol annerbyniol ac anghymhwysedd proffesiynol a chymryd camau mewn perthynas ag ymddygiad o’r fath (gweler adran 26); ac
cadw a darparu gwybodaeth (gweler adrannau 33 a 35).
11.Yn rhinwedd adran 5 caiff Gweinidogion Cymru roi neu osod swyddogaethau ychwanegol ar y Cyngor, drwy orchymyn. Cyn gwneud gorchymyn o’r fath, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â phersonau neu gyrff priodol (er enghraifft, y Cyngor).
12.Mae adran 6 yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru i roi cyfarwyddiadau i’r Cyngor. Gellid defnyddio’r pwerau hyn o dan amgylchiadau pan oedd gan Weinidogion Cymru bryderon ynghylch llywodraethu’r Cyngor neu mewn perthynas â’r modd yr oedd yn arfer ei swyddogaethau. Rhaid i’r Cyngor gydymffurfio â chyfarwyddyd o’r fath.
13.Fodd bynnag, ni chaiff Gweinidogion Cymru roi cyfarwyddyd mewn perthynas â chais penodol i gofrestru, apêl sy’n ymwneud â chais o’r fath neu achos disgyblu penodol.
Adrannau 7 ac 8 – Darparu cyngor a hybu gyrfaoedd
14.Fel y nodir yn adran 4 o’r Ddeddf, un o brif swyddogaethau’r Cyngor yw darparu cyngor ar faterion sy’n ymwneud â’r personau y mae’n eu rheoleiddio, ac ar faterion addysgu a dysgu.
15.O dan adran 7 caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i’r Cyngor roi cyngor iddynt hwy neu i bersonau eraill ar ‘faterion perthnasol’ (mae’r materion perthnasol hyn wedi eu nodi yn adran 7(2)).
16.Caiff y Cyngor hefyd roi unrhyw gyngor i bersonau eraill sy’n briodol yn ei farn ef. Caniateir i gyngor gael ei roi ar ystod o faterion gan gynnwys hyfforddiant, datblygu gyrfa, rheoli perfformiad ac addasrwydd i ymarfer.
17.Rhaid i’r Cyngor hysbysu Gweinidogion Cymru yn ysgrifenedig, bob dau fis, am unrhyw gyngor sydd wedi ei roi ganddo ar faterion perthnasol yn ystod y ddau fis blaenorol ac am y sawl a gafodd y cyngor hwnnw.
18.Mae adran 8 yn darparu bod y Cyngor yn gallu rhoi cyngor, trefnu cynadleddau a darlithoedd a chyhoeddi deunyddiau hybu er mwyn hybu gyrfaoedd y gweithlu addysgol cofrestredig, sy’n ofynnol gan Weinidogion Cymru. Yn ychwanegol at ffeiriau gyrfaoedd, caniateir i hyn gynnwys trefnu cynadleddau a darlithoedd a fydd yn cyfrif tuag at ddatblygiad proffesiynol parhaus personau cofrestredig.
Adrannau 9 i 13 (ac Atodlen 2) – Cofrestru’r gweithlu addysg
19.Mae adrannau 9 i 13 yn ymwneud â chofrestru’r gweithlu addysg. Mae angen eu darllen ar y cyd ag Atodlen 2, a gyflwynir gan adran 9.
20.Yn rhinwedd adran 9, mae’n ofynnol i’r Cyngor gadw cofrestr o bob person sy’n gymwys i’w gofrestru ac sy’n gwneud cais i gael ei gofrestru.
21.Mae Atodlen 2 yn nodi’r union ddisgrifiadau o’r rhai y caiff fod yn ofynnol iddynt gofrestru ac yn caniatáu i Weinidogion Cymru (yn rhinwedd paragraff 2 o’r Atodlen) ychwanegu categorïau newydd o bersonau y caiff fod yn ofynnol iddynt gofrestru drwy orchymyn. Gallai hyn gynnwys, er enghraifft, gweithwyr ieuenctid neu bersonau sy’n gysylltiedig â chynlluniau dysgu seiliedig ar waith a sefydlwyd o dan adran 31 o Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000, a phersonau sy’n gweithio mewn ysgolion annibynnol.
22.Rhaid i berson sy’n dymuno cael ei gofrestru wneud cais i’r Cyngor, a rhaid iddo fodloni’r amodau cymhwystra a nodir yn adran 10. Os yw’r person yn bodloni’r amodau hynny, rhaid i’r Cyngor ei gofrestru.
23.Caiff person gofrestru yn llawn neu ar sail dros dro. Mae amrywiaeth o amgylchiadau pryd y gall fod yn briodol i berson gofrestru dros dro gan gynnwys tra bo’r person:
yn ymgymryd â chyfnod sefydlu;
yn dechrau hyfforddiant athrawon; neu
yn gweithio tuag at ennill cymhwyster gofynnol.
Fodd bynnag, dim ond unwaith y mae cymhwystra person i gael ei gofrestru yn cael ei asesu.
24.Mae angen darllen yr amodau y mae rhaid i berson eu bodloni er mwyn bod yn gymwys i gael ei gofrestru ar y cyd ag adran 40. Mae’r amodau yn cynnwys gofyniad bod y Cyngor wedi ei fodloni bod y ceisydd yn addas i gael ei gofrestru.
25.Mae adran 11 yn darparu hawl i apelio yn erbyn penderfyniad y Cyngor ynghylch addasrwydd ceisydd i gael ei gofrestru.
26.Mae adran 12 yn caniatáu i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau ynghylch y ffioedd y caiff y Cyngor eu codi mewn cysylltiad â chofrestru. Mae hyn yn cynnwys swm y ffioedd y caniateir iddo eu codi a hefyd y dulliau y caniateir iddynt gael eu defnyddio i gasglu’r ffioedd hynny. Er enghraifft, gallai fod yn ofynnol i gyflogwyr personau cofrestredig ddidynnu’r ffioedd o gyflog y person ac anfon y swm hwnnw i’r Cyngor.
27.Mae adran 13 yn caniatáu i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau ynghylch cofrestru yn gyffredinol. Mae is-adran (2) yn darparu rhai enghreifftiau o sut y caniateir i’r pŵer gael ei arfer. Mae hyn yn caniatáu i reoliadau gael eu gwneud ar ystod eang o bynciau sy’n amrywio o’r agweddau gweinyddol a gweithdrefnol ar gofrestru i’r canlyniadau ar ôl i berson roi gwybodaeth anwir neu gamarweiniol i’r Cyngor fel rhan o’r broses gofrestru, a sut y gall y cyhoedd weld yr wybodaeth y mae’r Cyngor yn ei chadw.
Adrannau 14 i 16 – Y gofynion sydd i’w bodloni er mwyn darparu gwasanaethau
28.Mae adrannau 14 i 16 yn galluogi Gweinidogion Cymru i osod cyfyngiadau ar bwy a gaiff ddarparu gwasanaethau penodol mewn ysgolion a gynhelir (ac ysgolion arbennig), ac mewn sefydliadau addysg bellach yng Nghymru. Er enghraifft, gall fod rhaid i’r person feddu ar gymwysterau neu brofiad penodol neu fodloni amodau penodol.
29.Mae adran 14 yn gwneud darpariaeth mewn cysylltiad ag athrawon ysgol a gweithwyr cymorth dysgu. Caiff y rheoliadau bennu’r mathau o wasanaethau nad yw person yn gallu eu darparu heb fodloni’r gofynion amrywiol. Gall hyn gynnwys, er enghraifft, addysgu neu baratoi cynlluniau gwersi.
30.Mae adrannau 15 ac 16 yn ymwneud â darparu addysg a gwasanaethau eraill mewn sefydliadau addysg bellach (neu ar eu rhan). Caniateir i’r cyfyngiad ar ddarparu gwasanaethau oni bai bod gofynion penodol wedi eu bodloni gael ei osod ar bobl sy’n darparu addysg bellach (neu sy’n cefnogi’r addysg honno) yn y gymuned.
31.Mae addysg yn y cyd-destun hwn yn cynnwys hyfforddiant galwedigaethol, cymdeithasol, corfforol a hamdden.
Adrannau 17 i 22 – Sefydlu personau cofrestredig
32.Mae adran 17 yn galluogi Gweinidogion Cymru i’w gwneud yn ofynnol i berson gwblhau cyfnod sefydlu cyn y gellir ei gofrestru’n llawn.
33.Caiff rheoliadau a wneir o dan yr adran hon nodi’r manylion o ran yr hyn y bydd ei angen o safbwynt sefydlu ym mhob un o’r categorïau cofrestru. Caiff hyn gynnwys pa mor hir y dylai’r cyfnod sefydlu bara; ei leoliad a phwy a ddylai asesu a yw’r cyfnod sefydlu wedi ei gwblhau’n foddhaol. Caiff y rheoliadau hefyd ddarparu ar gyfer y canlyniadau pan na fo person yn cwblhau cyfnod sefydlu yn foddhaol (er enghraifft, efallai na fydd person yn gallu cael ei gyflogi’n athro neu’n athrawes mewn ysgol a gynhelir).
34.Mae adran 18 yn caniatáu i Weinidogion Cymru bennu’r safonau y mae rhaid asesu person sy’n ymgymryd â chyfnod sefydlu yn unol â hwy. Wrth bennu’r safonau hynny rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r Cyngor.
35.Mae adran 19 yn darparu bod gan berson y bernir nad yw wedi cwblhau cyfnod sefydlu yn foddhaol yr hawl i apelio i’r Cyngor yn erbyn y penderfyniad.
36.Mae adran 20 yn gwneud darpariaeth i ymdrin ag achosion pan fo person neu gorff sydd â swyddogaethau mewn cysylltiad â chyfnodau sefydlu yn methu â chyflawni’r swyddogaethau hynny, neu’n eu cyflawni mewn modd annigonol.
37.Mae’n gwneud hynny drwy gymhwyso’r darpariaethau perthnasol o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 i’r swyddogaethau hyn. Mae hyn yn rhoi’r pŵer i Weinidogion Cymru i ymyrryd ac i ddyroddi cyfarwyddiadau yn unol â’r Ddeddf honno mewn perthynas â chorff llywodraethu sefydliad addysg bellach ac mewn perthynas â chyrff priodol (ac eithrio awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir).
38.Gan fod y Ddeddf hon wedi ei dosbarthu yn un o’r “Deddfau Addysg” (gweler adran 45 o’r Ddeddf) mae Deddf Safonau a Threftadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 eisoes yn gymwys i awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir neu ysgolion arbennig. Mae is-adran (3) yn cadarnhau nad oes bwriad i effeithio ar weithrediad y Ddeddf honno yn y cyswllt hwn.
39.Mae adran 22 yn ymwneud â chyllido mewn sefyllfaoedd pan fo person wedi methu â chwblhau cyfnod sefydlu yn foddhaol ond ei fod yn parhau yn gyflogedig (â dyletswyddau cyfyngedig) mewn ysgol a gynhelir sydd â chyllideb ddirprwyedig. O dan yr amgylchiadau hyn, dim ond os oes rhesymau da dros wneud hynny y caiff awdurdod lleol wneud didyniadau o’r costau sy’n ymwneud â thâl y person o gyfran yr ysgol o’r gyllideb.
Adran 23 – Gwerthuso personau cofrestredig
40.Mae adran 23 yn caniatáu i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau i’w gwneud yn ofynnol i berfformiad person cofrestredig gael ei werthuso.
Adrannau 24 a 25 – Cod ymddygiad ac ymarfer ar gyfer personau cofrestredig
41.Mae adran 24 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru lunio a chyhoeddi cod ymddygiad ac ymarfer sy’n pennu’r safonau a ddisgwylir gan bersonau cofrestredig. Caiff y Cod bennu safonau gwahanol ar gyfer categorïau gwahanol yn y gweithlu addysg.
42.Mae’n ofynnol i’r Cyngor adolygu’r Cod yn gyson. Rhaid iddo ei adolygu cyn pen 3 blynedd ar ôl y dyddiad y cyhoeddwyd y Cod ddiwethaf a pha bryd bynnag yr ychwanegir categori cofrestru newydd.
43.Mae adran 25 yn caniatáu i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau ynghylch y Cod. Mae hyn yn cynnwys gwneud rheoliadau ynghylch ffurf a chynnwys y Cod yn ogystal ag ynghylch y canlyniadau pan nad yw person cofrestredig wedi cydymffurfio â’r Cod.
Adrannau 26 i 32 – Swyddogaethau disgyblu’r Cyngor
44.Yn rhinwedd adran 26, mae’n ofynnol i’r Cyngor gynnal ymchwiliadau pan honnir bod person cofrestredig (neu pan ymddengys i’r Cyngor fod person cofrestredig):
yn euog o ymddygiad proffesiynol annerbyniol neu anghymhwysedd proffesiynol difrifol; neu
wedi ei gollfarnu o drosedd berthnasol.
45.Rhaid i’r Cyngor benderfynu, ar ôl iddo gynnal ymchwiliad, ba gamau pellach i’w cymryd. Pan fo’r Cyngor yn penderfynu bod person yn euog (neu wedi ei gollfarnu) mae’r Cyngor yn gallu gwneud gorchymyn disgyblu. Pan fo o’r farn nad oes achos i’w ateb, caiff y Cyngor beidio â pharhau â’r achos.
46.At ddiben adran 26, mae adran 27 yn egluro bod y diffiniad o berson cofrestredig yn cynnwys person a oedd wedi ei gofrestru pan ddigwyddodd yr ymddygiad neu drosedd honedig (p’un ai o dan adran 9 o’r Ddeddf hon neu o dan adran 3 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998), yn ogystal ag unrhyw berson sydd wedi gwneud cais i gael ei gofrestru felly.
47.Mae adran 28 yn caniatáu i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau ynghylch swyddogaethau disgyblu’r Cyngor. Mae hyn yn cynnwys gwneud rheoliadau ynghylch gweithdrefnau ar gyfer ymchwilio, ynghylch gorchmynion disgyblu ac ynghylch y camau y caniateir iddi fod yn ofynnol i gyflogwr eu cymryd pan fo cyflogai yn cael gorchymyn disgyblu.
48.Ni all rheoliadau ei gwneud yn ofynnol i berson roi unrhyw dystiolaeth neu ddangos unrhyw ddogfennau na allai gael ei orfodi i’w rhoi mewn trafodion sifil mewn unrhyw lys yng Nghymru a Lloegr.
49.Mae adrannau 29, 30 ac 31 yn nodi effaith rhai o’r gorchmynion disgyblu sydd ar gael i’r Cyngor. Maent yn cynnwys:
gosod amodau ar gofrestriad person (a chymryd camau pellach os nad yw’n cydymffurfio â’r amodau hynny);
atal dros dro gofrestriad person am gyfnod o hyd at 2 flynedd (gan atal y person rhag gweithio fel person cofrestredig). Ar ddiwedd y cyfnod atal dros dro, gall fod rhaid i’r person gydymffurfio ag unrhyw amodau a osodwyd am gyfnod pellach; a
gwahardd person rhag bod yn berson cofrestredig a hynny am gyfnod amhenodol.
50.Mae adran 32 yn darparu hawl i apelio yn erbyn unrhyw orchymyn disgyblu a wneir gan y Cyngor. Rhaid gwneud apelau cyn pen 28 o ddiwrnodau. Mae’r Uchel Lys yn gallu gwneud unrhyw orchymyn sy’n briodol yn ei farn ef mewn perthynas ag apêl ac mae penderfyniad yr Uchel Lys yn derfynol.
Adrannau 33 i 38 – Dyletswyddau o ran gwybodaeth
51.Mae adrannau 33 i 38 yn ymwneud â chadw a rhoi gwybodaeth sy’n berthnasol i swyddogaethau’r Cyngor o ran cofrestru a rheoleiddio personau sy’n dymuno cael eu cofrestru.
52.Mae adran 33 yn caniatáu i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r Cyngor gynnal cofnodion ynghylch personau amrywiol. Caiff hyn gynnwys, er enghraifft, gadw gwybodaeth am bobl sydd wedi gwneud cais i gofrestru ac sydd wedi cael eu gwrthod, neu am bobl sydd wedi eu tynnu oddi ar y gofrestr ar sail disgyblu.
53.Mae adran 34 yn caniatáu i Weinidogion Cymru ddarparu gwybodaeth i’r Cyngor am bersonau cofrestredig, naill ai ar gais y Cyngor neu pan fo Gweinidogion Cymru o’r farn ei bod yn angenrheidiol neu’n ddymunol i’r Cyngor gael yr wybodaeth honno. Mae adran 34 yn caniatáu i’r Ysgrifennydd Gwladol ddarparu gwybodaeth i’r Cyngor am athrawon unigol mewn ysgolion, naill ai ar gais y Cyngor neu pan fo’r Ysgrifennydd Gwladol o’r farn ei bod yn angenrheidiol neu’n ddymunol i’r Cyngor gael yr wybodaeth honno.
54.Mae adran 35 yn gosod nifer o ddyletswyddau o ran gwybodaeth ar y Cyngor. Mae’n caniatáu i Weinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i’r Cyngor ddarparu gwybodaeth iddynt (gan gynnwys gwybodaeth am bersonau cofrestredig). Mae hefyd yn caniatáu i berson y mae’r Cyngor yn cadw gwybodaeth amdano gael yr wybodaeth honno.
55.Mae adran 35 hefyd yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r Cyngor ddarparu gwybodaeth i bersonau neu gyrff penodol (at unrhyw ddibenion ac yn ddarostyngedig i unrhyw amodau y caiff Gweinidogion Cymru eu pennu). Er enghraifft, gellid defnyddio’r pŵer hwn i’w gwneud yn ofynnol i’r Cyngor ddarparu gwybodaeth i Gyngor Addysgu Cyffredinol yr Alban ynghylch person sy’n destun gorchymyn disgyblu.
56.Mae adran 36 yn ei gwneud yn ofynnol i gyflogwyr personau cofrestredig sy’n gweithio yng Nghymru roi i’r Cyngor enw unrhyw berson cofrestredig y mae’n ei gyflogi i ddarparu gwasanaethau perthnasol. Mae hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i’r cyflogwyr hynny hysbysu’r Cyngor os caiff person cofrestredig ei ddiswyddo o ganlyniad i ymddygiad proffesiynol annerbyniol neu anghymhwysedd proffesiynol, neu oherwydd collfarn am drosedd berthnasol, a rhoi unrhyw wybodaeth bellach i’r Cyngor a bennir mewn rheoliadau. Mae hyn yn galluogi’r Cyngor i adolygu a oes angen iddo ymchwilio i ymddygiad y person o dan ei bwerau disgyblu.
57.Mae adran 37 yn gosod dyletswyddau tebyg i’r rhai a osodir gan adran 36 ar bersonau sy’n gweithredu fel asiant i berson cofrestredig.
58.Mae adran 38 yn caniatáu i Weinidogion Cymru ddyroddi cyfarwyddyd, y caniateir ei orfodi drwy waharddeb, i unrhyw gyfloger neu asiant person cofrestredig os yw Gweinidogion Cymru o’r farn bod cyflogwr perthnasol neu asiant wedi methu neu’n debygol o fethu â chydymffurfio â dyletswydd o dan adran 36 neu adran 37.
Adrannau 39 a 40 – Darpariaeth drosiannol a darfodol sy’n ymwneud â chofrestru
59.Mae adran 39 yn darparu bod yr athrawon hynny sydd eisoes wedi eu cofrestru gyda CyngACC ac sydd wedi cwblhau cyfnod sefydlu yn foddhaol yn cael eu cofrestru’n awtomatig yn athro neu athrawes ysgol cyn gynted ag y bo’r gofrestr newydd a gynhelir gan y Cyngor yn dod i rym.
60.Mae hefyd yn darparu bod athrawon sydd wedi eu cofrestru, ond nad ydynt wedi cwblhau cyfnod sefydlu yn foddhaol hyd yn hyn, yn cael eu cofrestru’n awtomatig yn athro neu athrawes ysgol ar sail dros dro cyn gynted ag y bo’r gofrestr newydd yn dod i rym.
61.Mae adran 40 yn sicrhau bod y personau hynny sydd wedi eu gwahardd rhag addysgu drwy orchymyn disgyblu o dan Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 neu yn rhinwedd cyfarwyddyd o dan adran 142 o Ddeddf Addysg 2002 yn parhau yn anghymwys i’w cofrestru o dan y system newydd.
Adran 42 (ac Atodlen 3) – Dyddiadau tymhorau a gwyliau ac amserau sesiynau ysgol
62.Mae’r trefniadau presennol ar gyfer penderfynu ar ddyddiadau tymhorau a gwyliau ac amserau sesiynau ysgol wedi eu nodi yn adran 32 o Ddeddf Addysg 2002.
63.Mae adran 42 yn diwygio Deddf 2002 mewn cysylltiad â Chymru drwy fewnosod adrannau 32A, 32B a 32C newydd.
64.Mae adran 32A newydd o Ddeddf Addysg 2002 yn nodi cyfrifoldebau awdurdod lleol neu gorff llywodraethu o ran pennu dyddiadau tymhorau a gwyliau’r ysgolion y maent yn gyfrifol amdanynt.
65.Wrth bennu dyddiadau, rhaid i’r awdurdodau lleol a’r cyrff llywodraethu gydweithredu a chydgysylltu er mwyn sicrhau bod y dyddiadau a bennir yr un peth (neu mor agos â phosibl at fod yr un peth) ar gyfer pob ysgol a gynhelir yng Nghymru.
66.Unwaith y penderfynir ar y dyddiadau, mae Gweinidogion Cymru i gael eu hysbysu am y dyddiadau hynny yn dilyn gweithdrefn i’w nodi mewn rheoliadau.
67.Mae adran 32B newydd o Ddeddf 2002 yn caniatáu i Weinidogion Cymru gyfarwyddo awdurdod lleol neu gorff llywodraethu i benderfynu ar ddyddiadau tymhorau ysgol gwahanol i’r rhai a bennir o dan adran 32A. Gallai hyn ddigwydd, er enghraifft, pan fo digwyddiad arbennig yn cael ei gynnal sy’n golygu y gallai fod yn ddymunol i ysgol benodol neu gyfres o ysgolion fod ar wyliau ar adeg wahanol. Gellid defnyddio hyn hefyd pan na fo ardal wedi pennu dyddiadau tymhorau yn unol â gweddill Cymru.
68.Cyn rhoi cyfarwyddyd o dan yr adran hon, rhaid i Weinidogion Cymru gynnal ymgynghoriad priodol. Caniateir i reoliadau gael eu gwneud ynghylch ymgynghoriad o’r fath.
69.Mae adran 32C newydd o Ddeddf 2002 yn ailddatgan y ddarpariaeth bresennol o ran amserau sesiynau ysgol sy’n ymwneud â Chymru yn adran 32 gyfredol o Ddeddf Addysg 2002.
70.Mae’r trefniadau deddfwriaethol cyfredol ar gyfer Lloegr yn adran 32 o Ddeddf Addysg 2002 o ran penderfynu ar ddyddiadau tymhorau a gwyliau ac amserau sesiynau ysgol wedi eu cadw drwy baragraff 1 o Atodlen 3.
Adran 43 – Arolygiaeth Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru
71.Mae adran 43 yn diwygio adran 19 o Ddeddf Addysg 2005.
72.Fel y mae ar hyn o bryd, mae adran 19 yn darparu y caiff Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru (y “Prif Arolygydd”), ac Arolygwyr Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant, eu penodi gan Ei Mawrhydi drwy Orchymyn yn y Cyfrin Gyngor. Caiff y Prif Arolygydd ei ddiswyddo hefyd gan Ei Mawrhydi drwy Orchymyn yn y Cyfrin Gyngor.
73.Mae adran 19(6) o Ddeddf Addysg 2005 yn darparu bod Gweinidogion Cymru i gynghori’r Ysgrifennydd Gwladol ar unrhyw argymhelliad sydd i’w wneud i’w Mawrhydi ar arfer y pwerau penodi a diswyddo hyn. Fodd bynnag, yn rhinwedd confensiwn cyfansoddiadol, yn y dyfodol Prif Weinidog Cymru, yn rhinwedd ei swydd fel Cyfrin-Gynghorydd, fydd yn cynghori Ei Mawrhydi yn lle’r Ysgrifennydd Gwladol. Felly mae’r gofyniad statudol i Weinidogion Cymru gynghori’r Ysgrifennydd Gwladol wedi ei ddileu drwy ddiddymu adran 19(6) o Ddeddf 2005.
Adran 44 – Swyddogaethau addysg awdurdodau lleol yn arferadwy gan y personau a gyfarwyddir
74.Mae adran 44 yn diwygio Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 i egluro, pan fo cyfarwyddyd wedi ei wneud gan Weinidogion Cymru i swyddogaethau addysg awdurdod lleol gael eu cyflawni gan gorff arall, tra bo’r cyfarwyddyd hwnnw mewn grym y gall y swyddogaethau addysg hynny gael eu harfer at bob diben gan y corff hwnnw.
Adran 45 – Statws fel Deddf Addysg
75.Mae adran 45 yn darparu bod y Ddeddf i gael ei chynnwys yn y rhestr o Ddeddfau Addysg a nodir yn adran 578 o Ddeddf Addysg 1996. Mae hyn yn golygu, ymhlith pethau eraill, y bydd unrhyw swyddogaethau a roddir i awdurdod lleol o dan y Ddeddf hon yn swyddogaeth addysg (gweler adran 36A o Ddeddf Addysg 1996) ac yn ddarostyngedig i bwerau ymyrryd amrywiol Gweinidogion Cymru o dan Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013.
Adran 46 – Darpariaeth ategol
76.Mae’r pwerau a roddir i Weinidogion Cymru gan yr adran hon yn caniatáu iddynt wneud unrhyw orchmynion sy’n briodol yn eu barn hwy er mwyn i’r Ddeddf gyflawni ei dibenion a chael ei heffaith lawn.
77.Mae enghreifftiau o sut y gellid defnyddio’r pŵer hwn yn cynnwys:
i wneud newidiadau i ddeddfwriaeth arall o ganlyniad i’r newidiadau a wneir gan y Ddeddf hon;
i roi mwy o eglurder o ran unrhyw un neu ragor o’r gweithdrefnau newydd;
i ymdrin â manylion sydd heb eu rhag-weld ac sy’n codi wrth roi’r system newydd ar waith.
78.Pan fo’r pŵer hwn yn cael ei ddefnyddio i ddiwygio testun deddfwriaeth sylfaenol rhaid iddo gael ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a’i gymeradwyo ganddo, cyn y daw i rym (yn rhinwedd adran 47(2)(d)).
Adran 47 – Gorchmynion a rheoliadau
79.Mae’r adran hon yn nodi bod rheoliadau a gorchmynion o dan y Ddeddf i gael eu gwneud drwy offeryn statudol, ac mae’n nodi gweithdrefn Cynulliad Cenedlaethol Cymru mewn cysylltiad â’r offerynnau hyn.
80.Mae hefyd yn darparu y gall Gweinidogion Cymru wneud darpariaethau cysylltiedig, canlyniadol, atodol, trosiannol, darfodol ac arbed mewn cysylltiad â’r offerynnau hynny. Er enghraifft, os caiff categori cofrestru newydd ei ychwanegu, gellid defnyddio’r pŵer hwn i sicrhau bod y trefniadau trosiannol priodol yn eu lle tra bo’r gweithwyr newydd yn cofrestru.
81.Caiff gorchmynion a rheoliadau wneud darpariaeth wahanol ar gyfer categorïau cofrestru gwahanol. Er enghraifft, gellir gwneud trefniadau sefydlu neu werthuso gwahanol ar gyfer athrawon a gweithwyr cymorth dysgu mewn addysg bellach.
Adran 50 – Cychwyn
82.Mae’r adran hon yn ymdrin â pha bryd y daw’r Ddeddf i rym.
83.Er ei bod yn hunanesboniadol ar y cyfan, mae’n werth nodi i is-adran (2) ddwyn i rym adran 42 (dyddiadau tymhorau a gwyliau ac amserau sesiynau ysgol) ar y diwrnod y cafodd y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol, ond dim ond i’r graddau y mae ei hangen er mwyn i reoliadau gael eu gwneud o dan adrannau 32A a 32B newydd o Ddeddf Addysg 2002. Mae hyn yn caniatáu i’r gweithdrefnau ar gyfer rhoi hysbysiad am ddyddiadau tymhorau etc. fod yn eu lle cyn y daw’r dyletswyddau newydd ar awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu i rym.
Atodlen 1
84.Cyflwynir Atodlen 1 gan adran 2(2) ac mae’n gwneud darpariaeth mewn cysylltiad â chyfansoddiad a phwerau’r Cyngor. Mae’n darparu manylion ynghylch materion megis aelodaeth y Cyngor, penodi’r prif swyddog, swyddogaethau’r Cyngor a sefydlu pwyllgorau.
Atodlen 2
85.Cyflwynir Atodlen 2 gan adran 9(3) ac mae’n nodi’r categorïau a’r diffiniadau o bersonau sy’n gymwys i gofrestru gyda’r Cyngor. Mae Atodlen 2 yn darparu pŵer i Weinidogion Cymru newid y categorïau o weithwyr cofrestredig drwy orchymyn. Gallai hyn gynnwys ychwanegu, diwygio neu ddileu categorïau, a phennu’r gwasanaethau na chaniateir i berson eu darparu oni bai bod y person hwnnw wedi ei gofrestru.
Atodlen 3
86.Cyflwynir Atodlen 3 gan adran 48. Mae Rhan 1 o Atodlen 3 yn gwneud diwygiadau canlyniadol i Ddeddf Addysg 2002 a Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013. Mae Rhan 2 o Atodlen 3 yn diddymu rhai darpariaethau o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 a Deddf Addysg 2002.
Atodlen 4
87.Cyflwynir Atodlen 4 gan adran 1. Mae’n darparu mynegai o eiriau ac ymadroddion wedi eu diffinio a ddefnyddir yn y Ddeddf.
Cofnod Y Trafodion Yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru
88.Mae’r tabl a ganlyn yn nodi’r dyddiadau ar gyfer pob cyfnod o hynt y Ddeddf drwy Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Gellir cael Cofnod y Trafodion a rhagor o wybodaeth am hynt y Ddeddf hon ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar:
Cyfnod | Dyddiad |
---|---|
Cyflwyno | 01 Gorffennaf 2013 |
Cyfnod 1 – Dadl | 03 Rhagfyr 2013 |
Cyfnod 2 Pwyllgor Craffu – ystyried y gwelliannau | 23 Ionawr 2014 |
Cyfnod 3 Cyfarfod Llawn – ystyried y gwelliannau | 11 Mawrth 2014 |
Cyfnod 4 Cymeradwywyd gan y Cynulliad | 25 Mawrth 2014 |
Y Cydsyniad Brenhinol | 12 Mai 2014 |
- Previous
- Explanatory Notes Table of contents
- Next