Search Legislation

Gorchymyn Trwyddedu Morol (Gweithgareddau Esempt) (Cymru) (Diwygio) 2026

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.

Offerynnau Statudol Cymru

2026 Rhif 21

diogelu’r amgylchedd, Cymru

TRWYDDEDU (MOROL), CYMRU

LLYGREDD MOROL, CYMRU

Gorchymyn Trwyddedu Morol (Gweithgareddau Esempt) (Cymru) (Diwygio) 2026

Gwnaed

2 Chwefror 2026

Yn dod i rym

1 Ebrill 2026

Mae Gweinidogion Cymru, sef yr awdurdod trwyddedu priodol o dan adran 113(4)(b) o Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009(1) (“Deddf 2009”), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 74(1), (2) a (3) a 316(1)(a) o Ddeddf 2009.

Wrth benderfynu gwneud y Gorchymyn hwn, mae Gweinidogion Cymru wedi rhoi sylw i’r materion a grybwyllir yn adran 74(4) o Ddeddf 2009.

Mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â’r personau hynny y maent yn ystyried eu bod yn briodol, yn unol ag adran 74(5) o Ddeddf 2009.

Rhan 1Darpariaethau rhagarweiniol

Enwi, dod i rym a chymhwyso

1.—(1Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Trwyddedu Morol (Gweithgareddau Esempt) (Cymru) (Diwygio) 2026.

(2Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ebrill 2026.

(3Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw weithgaredd morol trwyddedadwy yr awdurdod trwyddedu priodol ar ei gyfer o dan adran 113(4) a (5) o Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009(2) yw Gweinidogion Cymru.

Diwygio Gorchymyn Trwyddedu Morol (Gweithgareddau Esempt) (Cymru) 2011

2.  Mae Gorchymyn Trwyddedu Morol (Gweithgareddau Esempt) (Cymru) 2011(3) wedi ei ddiwygio yn unol ag erthyglau 3 i 21.

Rhan 2Diwygio erthyglau presennol

Diwygio erthygl 3

3.  Yn erthygl 3 (dehongli)—

(a)hepgorer y diffiniad o “safle Ewropeaidd”;

(b)yn y lle priodol yn nhrefn yr wyddor, mewnosoder—

ystyr “ardal forol warchodedig” (“marine protected area”) yw safle—

(i)

sydd wedi ei ddynodi’n ardal cadwraeth arbennig yn unol â rheoliad 12(1) o Reoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017(4) neu reoliad 7(1) o Reoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau Morol Alltraeth 2017(5);

(ii)

sydd wedi ei ddosbarthu’n ardal gwarchodaeth arbennig yn unol â rheoliad 15(1) o Reoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017 neu reoliad 12(1) o Reoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau Morol Alltraeth 2017;

(iii)

sydd wedi ei ddynodi’n barth cadwraeth morol yn unol ag adran 116(1) o Ddeddf 2009;

(iv)

yr hysbyswyd ei fod yn safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig yn unol ag adran 28(1) o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981(6);

mae i “awdurdod diogelu’r arfordir” yr un ystyr ag a roddir i “coast protection authority” yn Neddf Diogelu’r Arfordir 1949(7);

ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru;

mae i “awdurdod rheoli risg i Gymru” yr ystyr a roddir i “Welsh risk management authority” yn adran 6 o Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010(8);

mae “buddiant strategol y Weinyddiaeth Amddiffyn” (“MoD strategic interest”) yn cynnwys unrhyw hyfforddiant, prawf, gwerthusiad neu weithrediad a gynhelir neu sydd i’w gynnal gan y Weinyddiaeth Amddiffyn, ar ran y Weinyddiaeth Amddiffyn neu gyda chaniatâd y Weinyddiaeth Amddiffyn;

mae i “rhywogaeth estron oresgynnol” yr un ystyr ag a roddir i “invasive non-native species” yn Atodlen 9A i Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (gweler paragraff 2(1) i (3))(9);

ystyr “sbwriel môr” (“marine litter”) yw unrhyw ddeunydd solet parhaus, a weithgynhyrchwyd neu a broseswyd sydd wedi ei daflu, ei waredu neu ei adael sy’n digwydd yn yr amgylchedd morol ac arfordirol;

ystyr “Swyddfa Hydrograffig y DU” (“the UK Hydrographic Office”) yw Swyddfa Hydrograffig y Weinyddiaeth Amddiffyn;

mae i “Trinity House” yr ystyr a roddir i “the Trinity House” yn adran 223(1) o Ddeddf Llongau Masnach 1995(10).

Diwygio erthygl 3A

4.  Yn erthygl 3A (addasu’r Gyfarwyddeb Fframwaith Gwastraff) hepgorer paragraff (9)(b).

Diwygio erthygl 9

5.  Yn erthygl 9 (gweithgareddau achub llongau)—

(a)daw’r geiriau o “Mae erthygl 4” i “llygru.” yn baragraff (1);

(b)ar ôl paragraff (1) mewnosoder—

(2) Ond nid yw erthygl 4 yn gymwys i symud llongddrylliadau neu wrthrychau o ddiddordeb archaeolegol neu hanesyddol.

Diwygio erthygl 13

6.  Yn erthygl 13 (lledaenu a magu pysgod cregyn)—

(a)ym mharagraff (2)—

(i)ar ôl “ddyddodiad” rhodder “, gweithgaredd symud na gweithgaredd treillio”;

(ii)hepgorer y “neu” ar ôl is-baragraff (b);

(b)ar ôl paragraff (2)(c) mewnosoder—

(ch)sy’n debygol o gael effaith sylweddol ar ardal forol warchodedig;

(d)a wneir at y diben o ehangu lledaenu neu fagu pysgod cregyn y tu hwnt i ffiniau gweithgareddau presennol.

(3) Mae paragraff (1) yn ddarostyngedig i’r amod bod hysbysiad yn cael ei roi i Swyddfa Hydrograffig y DU o leiaf 5 niwrnod cyn y diwrnod y mae unrhyw ddyddodiad yn dechrau, gan gynnwys manylion unrhyw strwythurau neu arwyddion a’u cyfesurynnau lledred a hydred yn unol â System Geodetig y Byd 1984(11)

Diwygio erthygl 15

7.   Yn erthygl 15 (dyddodi cyfarpar i reoli, cyfyngu neu adfer olew etc), ym mharagraff (1), yn lle “ddyddodiad o” rhodder “ddyddodi a symud”.

Amnewid erthygl 16

8.   Yn lle erthygl 16 (offer gwyddonol etc) rhodder—

Offer gwyddonol etc

16.(1) Mae erthygl 4 yn gymwys i—

(a)dyddodi unrhyw offeryn gwyddonol neu gyfarpar cysylltiedig mewn cysylltiad ag unrhyw arbrawf neu arolwg gwyddonol;

(b)gweithgaredd symud a ymgymerir at y diben o symud unrhyw offeryn gwyddonol neu gyfarpar cysylltiedig y cyfeirir ato yn is-baragraff (a);

(c)dyddodi unrhyw adweithredydd;

(ch)dyddodi unrhyw ddeunydd olrhain.

(2) Mae is-baragraff (a) o baragraff (1) yn ddarostyngedig i amod 1.

(3) Mae is-baragraff (b) o baragraff (1) yn ddarostyngedig i amod 2.

(4) Mae is-baragraffau (c) ac (ch) o baragraff (1) yn ddarostyngedig i amodau 3 a 4.

(5) Amod 1 yw bod rhaid hysbysu Swyddfa Hydrograffig y DU am fanylion unrhyw offeryn gwyddonol neu gyfarpar cysylltiedig sydd i’w ddyddodi o leiaf 5 niwrnod cyn y diwrnod y gwneir unrhyw ddyddodiad.

(6) Amod 2 yw bod hysbysiad yn cael ei roi i Swyddfa Hydrograffig y DU o unrhyw symudiad o unrhyw offeryn gwyddonol neu gyfarpar cysylltiedig o fewn 5 niwrnod i’r symudiad.

(7) Amod 3 yw bod rhaid i’r adweithredydd neu’r deunydd olrhain fod yn adweithredydd neu’n ddeunydd olrhain y mae’r defnydd ohono wedi ei gymeradwyo am y tro at ddibenion y Gorchymyn hwn gan yr awdurdod trwyddedu.

(8) Amod 4 yw bod rhaid defnyddio’r adweithredydd neu’r deunydd olrhain yn unol ag unrhyw amodau y mae’r gymeradwyaeth yn ddarostyngedig iddynt.

(9) Ond nid yw erthygl 4 yn gymwys i—

(a)unrhyw ddyddodiad o’r fath a wneir at y diben o waredu;

(b)unrhyw ddyddodiad o’r fath sy’n achosi neu sy’n debygol o achosi rhwystr neu berygl i fordwyaeth, yn benodol pan fo dyddodiad o’r fath wedi ei glymu ar dennyn i wely’r môr neu’n lleihau cliriad mordwyol mwy na 5% o gyfeirio at Seilnod Siart(12);

(c)unrhyw ddyddodiad na gweithgaredd symud o’r fath sy’n debygol o gael effaith sylweddol ar ardal forol warchodedig.

Diwygio erthygl 18

9.  Yn erthygl 18 (cynnal a chadw gweithiau ar gyfer diogelu’r arfordir, draenio ac amddiffyn rhag llifogydd), ym mharagraff (1)—

(a)yn lle “Corff Adnoddau Naturiol Cymru neu Asiantaeth yr Amgylchedd” rhodder “awdurdod rheoli risg i Gymru neu awdurdod diogelu’r arfordir”;

(b)hepgorer is-baragraff (b).

Diwygio erthygl 19

10.  Yn erthygl 19 (gwaith argyfwng wrth ymateb i lifogydd neu risg o lifogydd)—

(a)ym mharagraff (1), yn lle “a ymgymerir gan neu ar ran Corff Adnoddau Naturiol Cymru neu Asiantaeth yr Amgylchedd,” rhodder “a gynhelir”;

(b)yn lle paragraff (2) rhodder—

(2) Ond nid yw erthygl 4 yn gymwys pan fu methiant i gynnal a chadw strwythur cyn bod llifogydd neu risg o lifogydd yn digwydd.

Amnewid erthygl 20

11.   Yn lle erthygl 20 (defnyddio cerbydau i gasglu sbwriel neu wymon oddi ar draethau) rhodder—

Defnyddio cerbydau i symud sbwriel, sbwriel môr, malurion neu anifeiliaid marw oddi ar draethau ac ardaloedd rhynglanwol

20.(1) Mae erthygl 4 yn gymwys i weithgaredd symud gan ddefnyddio cerbyd neu long a ymgymerir gan neu ar ran Gweinidogion Cymru, awdurdod lleol, awdurdod harbwr o fewn ei awdurdodaeth, Corff Adnoddau Naturiol Cymru neu elusen amgylcheddol at y diben o symud—

(a)sbwriel, sbwriel môr, malurion neu anifeiliaid marw oddi ar draeth neu ardal rhynglanwol, neu

(b)gêr pysgota wedi ei adael, wedi ei daflu neu wedi ei golli.

(2) Mae paragraff (1) yn ddarostyngedig i amodau 1 a 2.

(3) Amod 1 yw na chaiff elusen amgylcheddol symud anifail marw oni bai ei bod yn gweithredu ar ran Gweinidogion Cymru, Corff Adnoddau Naturiol Cymru neu awdurdod lleol.

(4) Amod 2 yw bod hysbysiad o’r bwriad i symud anifail marw yn cael ei roi i’r awdurdod gorfodi cyn i’r gweithgaredd symud gael ei gynnal.

(5) Ond nid yw erthygl 4 yn gymwys i weithgaredd symud sy’n debygol o—

(a)cael effaith sylweddol ar ardal forol warchodedig;

(b)achosi difrod i nodweddion o ddiddordeb archaeolegol neu hanesyddol mewn ardal lle y mae’r gweithgaredd symud yn digwydd.

(6) Yn yr erthygl hon—

(a)mae i “awdurdod gorfodi” yr ystyr a roddir i “enforcement authority” yn adran 114 o’r Ddeddf;

(b)mae i “elusen amgylcheddol” yr ystyr a roddir i “environmental charity” yn adrannau 1(1), 2(1) a 3(1)(i) o Ddeddf Elusennau 2011(13);

(c)ystyr “ardal rhynglanwol” yw’r ardal rhwng lefel penllanw cymedrig y gorlleinw a lefel distyll cymedrig y gorlleinw.

Diwygio erthygl 21

12.   Yn erthygl 21 (dyddodion yn ystod mordwyo neu waith cynnal arferol), ym mharagraff (1), ar ôl “arferol” mewnosoder “, neu unrhyw weithgaredd symud cysylltiedig”.

Diwygio erthygl 23

13.   Yn erthygl 23 (symud rhwystr neu berygl i fordwyaeth), ar ôl paragraff (2) mewnosoder—

(3) Mae paragraff (1) yn ddarostyngedig i’r amod bod hysbysiad yn cael ei roi i Swyddfa Hydrograffig y DU o’r gweithgaredd symud o fewn 5 niwrnod i’r symudiad.

Diwygio erthygl 24

14.  Yn erthygl 24 (angorfeydd a chymhorthion mordwyo)—

(a)ym mharagraff (1)(b), ar ôl “berson o’r fath” mewnosoder “y cyfeirir ato ym mharagraff (2)”;

(b)ar ôl paragraff (1)(b) mewnosoder—

(c)dyddodiad, gweithgaredd symud neu weithgaredd gweithiau a ymgymerir gan berson y cyfeirir ato ym mharagraff (2) at y diben o ddisodli neu gynnal a chadw unrhyw angorfa neu gymorth mordwyo o’r fath.

Diwygio erthygl 25

15.  Yn erthygl 25 (arwyddion ar gyfer safleoedd morol Ewropeaidd)—

(a)yn y pennawd, yn lle “safleoedd morol Ewropeaidd” rhodder “ardaloedd morol gwarchodedig”;

(b)ym mharagraff (1)(a), yn lle’r geiriau “at ddibenion rheoliad 37(1)” hyd at y diwedd rhodder “i ddangos bodolaeth a rhychwant ardal forol warchodedig”;

(c)yn lle paragraff (2) rhodder—

(2) Mae paragraff (1) yn ddarostyngedig i’r amod bod hysbysiad o unrhyw ddyddodiad neu weithgaredd symud yn cael ei roi i’r cyrff canlynol o leiaf 5 niwrnod cyn y diwrnod y mae unrhyw ddyddodiad neu weithgaredd symud yn dechrau—

(a)Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau,

(b)Trinity House, ac

(c)Swyddfa Hydrograffig y DU.

Diwygio erthygl 26

16.  Yn erthygl 26 (lansio llongau a chychod etc)—

(a)yn y pennawd, ar ôl “lansio” mewnosoder “a symud”;

(b)ar ddiwedd yr erthygl mewnosoder “a gweithgaredd symud dilynol”.

Amnewid erthygl 28

17.   Yn lle erthygl 28 (llwybrau deifwyr mewn ardaloedd dan gyfyngiadau) rhodder—

Llwybrau deifwyr mewn ardaloedd o dan gyfyngiadau ac mewn perthynas â henebion cofrestredig

28.(1) Mae erthygl 4 yn gymwys i ddyddodiad neu weithgaredd symud a ymgymerir at y diben o osod, clymu’n sownd neu symud arwyddion neu ddynodyddion eraill sy’n ymwneud ag—

(a)llongddrylliad mewn ardal a ddynodwyd yn ardal o dan gyfyngiadau yn yr ystyr a roddir i “restricted area” yn adran 1 o Ddeddf Diogelu Llongddrylliadau 1973(14),

(b)heneb gofrestredig o fewn ystyr adran 3(7) o Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023(15), neu

(c)ardal a ddynodwyd yn safle a reolir o dan adran 1(2)(b) o Ddeddf Gwarchod Olion Milwrol 1986(16).

Diwygio erthygl 29

18.  Yn erthygl 29 (gweithgareddau gwylwyr y glannau – dibenion diogelwch a hyfforddiant)—

(a)yn lle “weithgaredd” rhodder “ddyddodiad neu weithgaredd symud”;

(b)yn lle “at y diben o” rhodder “neu i unrhyw un sy’n gweithredu mewn cysylltiad ag”;

(c)ym mharagraff (b), ar ôl “bywyd” mewnosoder “neu eiddo”.

Diwygio erthygl 31

19.  Yn erthygl 31 (ceblau a phiblinellau – archwilio ac atgyweirio awdurdodedig mewn argyfwng)—

(a)ym mharagraff (2), yn lle’r geiriau “na cheir” hyd at y diwedd rhodder “bod hysbysiad yn cael ei roi i Swyddfa Hydrograffig y DU o unrhyw ddiwygiadau a wneir i safleoedd ceblau a phiblinellau a siartiwyd o fewn 5 niwrnod ar ôl cwblhau unrhyw waith atgyweirio mewn argyfwng”;

(b)ym mharagraff (3), ar ôl “eitem 10” mewnosoder “nac i unrhyw ddyddodiad o’r fath at y ddiben o ddarparu diogelwch tymor hir i geblau neu biblinellau.”

Amnewid erthygl 32

20.   Yn lle erthygl 32 (twnelau turiedig) rhodder—

Twnelau turiedig

32.(1) Mae erthygl 4 yn gymwys i ddyddodiad neu weithgaredd gweithiau a ymgymerir yn gyfan gwbl o dan wely’r môr mewn cysylltiad ag adeiladu neu weithredu twnnel turiedig.

(2) Mae paragraff (1) yn ddarostyngedig i amodau 1 i 3.

(3) Amod 1 yw na chaiff y gweithgaredd effeithio’n andwyol ar amgylchedd Cymru, rhanbarth glannau Cymru a rhanbarth môr mawr Cymru na’r adnoddau byw y mae’r amgylchedd hwnnw yn eu cynnal.

(4) Amod 2 yw nad yw’r dyddodiad na’r gweithgaredd gweithiau yn achosi neu’n debygol o achosi rhwystr neu berygl i fordwyaeth.

(5) Amod 3 yw nad yw’r dyddodiad na’r gweithgaredd gweithiau yn achosi neu’n debygol o achosi difrod i nodweddion o ddiddordeb archaeolegol neu hanesyddol.

(6) Ond nid yw erthygl 4 yn gymwys i unrhyw ddyddodiad o’r fath a ymgymerir at y diben o waredu.

Rhan 3Esemptiadau Newydd

Mewnosod erthyglau 35 i 52

21.   Ar ôl erthygl 34 mewnosoder—

Mân weithiau rheolaidd i gynnal a chadw pontydd, strwythurau cantilifrog, glanfeydd a phierau presennol

35.(1) Mae erthygl 4 yn gymwys i fân weithiau rheolaidd a gynhelir gan awdurdod lleol neu awdurdod harbwr, neu unrhyw bersonau sy’n gweithredu ar eu rhan i gynnal a chadw pontydd, strwythurau cantilifrog, glanfeydd neu bierau presennol.

(2) Ond nid yw erthygl 4 yn gymwys i unrhyw—

(a)gwaith adeiladu strwythurau sy’n ofynnol i gynnal mynediad,

(b)gweithiau treillio neu waredu,

(c)dyddodiad neu weithgaredd symud sy’n achosi neu sy’n debygol o achosi rhwystr neu berygl i fordwyaeth,

(ch)dyddodiad neu weithgaredd symud sy’n lleihau’r cliriad aer uwchben y Penllanw Astronomaidd ar gyfer unrhyw longau sy’n pasio o dan bont, na

(d)dyddodiad neu weithgaredd symud sy’n debygol o gael effaith sylweddol ar ardal forol warchodedig.

Symud llongau wedi eu gadael neu longau adfeiliedig

36.(1) Mae erthygl 4 yn gymwys i ddyddodiad neu weithgaredd symud a ymgymerir gan, neu ar ran, awdurdod harbwr neu Corff Adnoddau Naturiol Cymru, yn ystod symud llong wedi ei gadael neu long adfeiliedig.

(2) Mae paragraff (1) yn ddarostyngedig i’r amod bod hysbysiad yn cael ei roi i Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau o leiaf 24 awr cyn ymgymryd ag unrhyw ddyddodiad neu weithgaredd symud.

(3) Ond nid yw erthygl 4 yn gymwys i—

(a)unrhyw ddyddodiad neu weithgaredd symud sy’n achosi neu sy’n debygol o achosi rhwystr neu berygl i fordwyaeth,

(b)unrhyw ddyddodiad neu weithgaredd symud sy’n debygol o gael effaith sylweddol ar ardal forol warchodedig, nac

(c)symud llongddrylliad o fewn ardal a ddynodwyd yn ardal o dan gyfyngiadau yn yr ystyr a roddir i “restricted area” yn adran 1 o Ddeddf Diogelu Llongddrylliadau 1973.

(4) Yn yr erthygl hon—

ystyr “adfeiliedig” (“derelict”) yw llong mewn cyflwr gwael a chyflwr o esgeulustod;

ystyr “wedi ei gadael” (“abandoned”) yw llong pan fo’r perchennog yn anhysbys, yn dilyn ymdrechion rhesymol i’w adnabod, neu wedi ildio hawliau perchnogaeth.

Arddangosfeydd tân gwyllt

37.(1) Mae erthygl 4 yn gymwys i ddyddodi neu ddefnyddio tân gwyllt fel rhan o arddangosfa tân gwyllt a symud unrhyw sbwriel cysylltiedig allan o’r amgylchedd morol.

(2) Ond nid yw erthygl 4 yn gymwys i unrhyw weithgaredd—

(a)sy’n achosi neu sy’n debygol o achosi rhwystr neu berygl i fordwyaeth, neu

(b)sy’n debygol o gael effaith sylweddol ar ardal forol warchodedig.

Samplau i’w profi neu eu dadansoddi

38.(1) Mae erthygl 4 yn gymwys i weithgaredd symud a gynhelir at y diben o gymryd sampl o unrhyw ddeunydd i’w brofi neu ei ddadansoddi.

(2) Mae paragraff (1) yn ddarostyngedig i’r amod na fydd unrhyw weithgaredd yn digwydd sy’n effeithio’n andwyol neu sy’n debygol o effeithio’n andwyol ar unrhyw fuddiant strategol y Weinyddiaeth Amddiffyn.

(3) Ond nid yw erthygl 4 yn gymwys i unrhyw ddyddodiad na gweithgaredd symud—

(a)pan fo cyfaint y deunydd a symudir yn fwy nag 1 metr ciwbig,

(b)sy’n achosi neu sy’n debygol o achosi rhwystr neu berygl i fordwyaeth,

(c)sy’n debygol o gael effaith sylweddol ar ardal forol warchodedig,

(ch)sy’n dod o fewn ardal a ddynodwyd yn ardal o dan gyfyngiadau yn yr ystyr a roddir i “restricted area” yn adran 1 o Ddeddf Diogelu Llongddrylliadau 1973,

(d)sy’n debygol o achosi difrod i henebion cofrestredig o fewn ystyr adran 3(7) o Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023, neu

(dd)sy’n gallu achosi effaith andwyol i ardal a ddynodwyd yn safle a reolir o dan adran 1(2)(b) o Ddeddf Gwarchod Olion Milwrol 1986.

Deifwyr yn symud sbwriel môr

39.(1) Mae erthygl 4 yn gymwys i symud y canlynol yn ystod gweithgareddau deifio—

(a)sbwriel môr, a

(b)gêr pysgota wedi ei adael, wedi ei daflu neu wedi ei golli.

(2) Ond nid yw erthygl 4 yn gymwys i weithgaredd symud—

(a)sy’n debygol o achosi difrod i nodweddion o ddiddordeb archaeolegol neu hanesyddol yn yr ardal lle y mae’r gweithgareddau deifio yn digwydd, neu

(b)sy’n debygol o gael effaith sylweddol ar ardal forol warchodedig.

Dyddodiadau damweiniol - gweithgaredd symud

40.(1) Mae erthygl 4 yn gymwys i weithgaredd symud a ymgymerir at y diben o symud unrhyw wrthrych sydd wedi ei ddyddodi’n ddamweiniol ar wely’r môr.

(2) Mae paragraff (1) yn ddarostyngedig i’r amod bod rhaid i’r gweithgaredd symud ddechrau o fewn 12 mis gan ddechrau â’r diwrnod y cafodd y gwrthrych ei ddyddodi’n ddamweiniol ar wely’r môr.

(3) Ond nid yw erthygl 4 yn gymwys i weithgaredd symud—

(a)sy’n achosi, neu sy’n debygol o achosi rhwystr neu berygl i fordwyaeth, neu

(b)sy’n debygol o gael effaith sylweddol ar ardal forol warchodedig.

Gwaith treillio cynnal a chadw mordwyaeth

41.(1) Mae erthygl 4 yn gymwys i weithgaredd treillio a ymgymerir at y diben o warchod neu gynnal a chadw mordwyaeth ardal o’r môr.

(2) Mae paragraff (1) yn ddarostyngedig i amodau 1 i 3.

(3) Amod 1 yw na chaniateir ymgymryd â’r gweithgaredd treillio ond ar safle ac ar ddyfnder lle, yn y 10 mlynedd cyn i’r gweithgaredd treillio ddechrau, yr ymgymerwyd ag o leiaf un gweithgaredd treillio arall neu un gweithrediad perthnasol arall at y diben y cyfeirir ato ym mharagraff (1).

(4) Amod 2 yw, ar y safle lle yr ymgymerir â’r gweithgaredd treillio, nad oes mwy na 1,500 metr ciwbig o ddeunydd i’w dreillio o ganlyniad i—

(a)y gweithgaredd treillio hwnnw, a

(b)unrhyw weithgareddau treillio eraill, a ymgymerir at y diben y cyfeirir ato ym mharagraff (1) yn y 12 mis cyn i’r gweithgaredd treillio hwnnw ddechrau.

(5) Amod 3 yw na ellir ymgymryd ag unrhyw weithgaredd treillio sy’n effeithio’n andwyol neu sy’n debygol o effeithio’n andwyol ar unrhyw fuddiant strategol y Weinyddiaeth Amddiffyn.

(6) Ond nid yw erthygl 4 yn gymwys i—

(a)gweithgaredd treillio pan fo cyfaint y deunydd yn fwy na 500 metr ciwbig,

(b)gweithgaredd treillio sy’n achosi neu sy’n debygol o achosi rhwystr neu berygl i fordwyaeth,

(c)gweithgaredd treillio sy’n debygol o gael effaith sylweddol ar ardal forol warchodedig,

(ch)gweithgaredd treillio sy’n cael yr effaith neu sy’n debygol o gael yr effaith, mewn perthynas ag unrhyw grynofa ddŵr, o—

(i)atal cyflawni unrhyw un neu ragor o’r amcanion amgylcheddol a restrir yn y cynllun rheoli basn afon perthnasol fel sy’n gymwys mewn perthynas â’r grynofa ddŵr honno, neu

(ii)achosi difrod amgylcheddol, na

(d)unrhyw warediad o ddeunydd wedi ei dreillio.

(7) Yn yr erthygl hon—

mae i “crynofa ddŵr” yr un ystyr ag a roddir i “body of water” yn rheoliad 2 o Reoliadau’r Amgylchedd Dŵr (Y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr) (Cymru a Lloegr) 2017(17);

mae i “cynllun rheoli basn afon” yr un ystyr ag a roddir i “river basin management plan” yn rheoliad 2 o Reoliadau’r Amgylchedd Dŵr (Y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr) (Cymru a Lloegr) 2017;

mae i “difrod amgylcheddol” (“environmental damage”) yr un ystyr ag yn rheoliad 4 o Reoliadau Difrod Amgylcheddol (Atal ac Adfer) (Cymru) 2009(18).

Arwyddion dros dro

42.(1) Mae erthygl 4 yn gymwys i ddyddodiad at y diben o osod arwydd ac unrhyw gyfarpar cysylltiedig i nodi ardaloedd ar gyfer gweithgareddau hamdden megis hwylio, nofio neu ddeifio.

(2) Mae paragraff (1) yn ddarostyngedig i amodau 1 a 2.

(3) Amod 1 yw bod hysbysiad o’r bwriad i gynnal unrhyw ddyddodiad neu weithgaredd symud dilynol y cyfeirir ato ym mharagraff (1) yn cael ei roi i Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau a Trinity House o leiaf 5 niwrnod cyn i’r dyddodiad gael ei gynnal, os bydd yr arwydd yn aros yn ei le am gyfnod sy’n hwy na 24 awr.

(4) Amod 2 yw bod rhaid symud yr arwydd ac unrhyw gyfarpar cysylltiedig allan o’r môr a, pan fo’n gymwys, oddi ar wely’r môr o fewn 28 o ddiwrnodau gan ddechrau â’r diwrnod y gwneir y dyddodiad.

(5) Ond nid yw erthygl 4 yn gymwys i unrhyw ddyddodiad na gweithgaredd symud—

(a)sy’n achosi, neu sy’n debygol o achosi rhwystr neu berygl i fordwyaeth, neu

(b)sy’n debygol o gael effaith sylweddol ar ardal forol warchodedig.

Sefydlu neu adfer gwely morwellt

43.(1) Mae erthygl 4 yn gymwys i—

(a)unrhyw ddyddodiad neu weithgaredd symud a ymgymerir at y diben o sefydlu neu adfer gwely morwellt;

(b)dyddodi unrhyw hedyn, toriad neu blanhigyn rhywogaeth frodorol o forwellt wrth sefydlu neu adfer gwely morwellt;

(c)gweithgaredd symud a ymgymerir at y diben o newid lleoliad hedyn, toriad neu blanhigyn morwellt wrth sefydlu neu adfer gwely morwellt, cyn belled nad yw hyn yn effeithio’n negyddol ar y gwely rhoi;

(ch)newid lleoliad creiddiau neu dyweirch morwellt, a ymgymerir at y diben o newid lleoliad hedyn, gwaddod, toriad neu blanhigyn morwellt wrth sefydlu neu adfer gwely morwellt, cyn belled nad yw hyn yn effeithio’n negyddol ar y gwely rhoi.

(2) Mae paragraff (1) yn ddarostyngedig i amodau 1 i 3.

(3) Amod 1 yw bod rhaid i unrhyw symudiad a dyddodiad dilynol o hedyn morwellt o wely rhoi iach i ardal arall ddilyn Canllawiau’r Undeb Rhyngwladol dros Gadwraeth Natur ar gyfer Ailgyflwyniadau a Thrawsleoliadau Cadwraeth Eraill(19).

(4) Amod 2 yw bod yr hedyn, y toriad neu’r planhigyn morwellt brodorol yn rhydd o rywogaethau estron goresgynnol.

(5) Amod 3 yw nad oes unrhyw weithgaredd yn digwydd sy’n effeithio’n andwyol neu sy’n debygol o effeithio’n andwyol ar unrhyw fuddiant strategol y Weinyddiaeth Amddiffyn.

(6) Ond nid yw erthygl 4 yn gymwys i ddyddodiad—

(a)a wneir at y diben o waredu,

(b)na gweithgaredd symud sy’n achosi neu sy’n debygol o achosi rhwystr neu berygl i fordwyaeth,

(c)na gweithgaredd symud sy’n debygol o gael effaith sylweddol ar ardal forol warchodedig,

(ch)na gweithgaredd symud sy’n debygol o achosi difrod i nodweddion o ddiddordeb archaeolegol neu hanesyddol, neu

(d)sy’n cynnwys unrhyw ddeunyddiau nad ydynt yn fioddiraddadwy neu unrhyw sylweddau niweidiol.

(7) Yn yr erthygl hon—

ystyr “coloneiddwyr naturiol” (”natural colonists”) yw rhywogaethau a gyrhaeddodd Gymru ohonynt eu hunain ac sydd wedi ymsefydlu, gan gynnwys y rheini sy’n dod yn rhywogaethau mudol;

ystyr “rhywogaethau brodorol” (“native species”) yw rhywogaethau sy’n bresennol yn naturiol yng Nghymru neu sydd wedi bod yn bresennol yn naturiol yn y gorffennol yno, gan gynnwys—

(i)

rhywogaethau mudol sy’n bresennol yn rheolaidd (rhywogaethau sy’n bridio a rhai nad ydynt yn bridio) a choloneiddwyr naturiol, a

(ii)

rhywogaethau sydd wedi eu hailgyflwyno yng Nghymru wedi iddynt ddiflannu yn y gorffennol.

Uwchraddio strwythurau arfordirol, strwythurau draenio a strwythurau amddiffyn rhag llifogydd

44.(1) Mae erthygl 4 yn gymwys i ddyddodiad neu weithgaredd symud a ymgymerir gan neu ar ran awdurdod rheoli risg i Gymru, neu awdurdod diogelu’r arfordir pan fo caniatâd cynllunio lleol yn ofynnol i uwchraddio unrhyw—

(a)gweithiau ar gyfer diogelu’r arfordir;

(b)gweithiau draenio;

(c)gweithiau i amddiffyn rhag llifogydd.

(2) Mae paragraff (1) yn ddarostyngedig i amodau 1 a 2.

(3) Amod 1 yw bod y dyddodiad neu’r gweithgaredd symud yn cael ei gynnal o fewn ffiniau presennol y gweithiau sy’n cael eu cynnal a’u cadw.

(4) Amod 2 yw bod swyddfa Hydrograffig y DU yn cael ei hysbysu am unrhyw ddyddodiad neu weithgareddau symud o’r fath o leiaf 5 niwrnod cyn i’r gweithgaredd ddechrau.

(5) Ond nid yw erthygl 4 yn gymwys i unrhyw waith adeiladu, dyddodiad na gweithgaredd symud sy’n ymestyn islaw marc distyll cymedrig y gorllanw.

Cyfleusterau doc sych

45.(1) Mae erthygl 4 yn gymwys i ddyddodiad neu weithgaredd symud a ymgymerir mewn ardal doc sych, o fewn harbwr a reoleiddir o dan Ddeddf Harbyrau 1964(20), pan ymgymerir â’r dyddodiad neu’r gweithgaredd symud gan, neu ar ran, awdurdod harbwr.

(2) Mae paragraff (1) yn ddarostyngedig i amodau 1 a 2.

(3) Amod 1 yw bod hysbysiad o’r bwriad i ymgymryd ag unrhyw ddyddodiad neu weithgaredd symud yn cael ei roi i Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau a Trinity House o leiaf 5 niwrnod cyn ymgymryd ag unrhyw ddyddodiad neu weithgaredd symud.

(4) Amod 2 yw bod yr holl falurion yn cael eu symud allan o’r doc sych cyn i unrhyw long fynd iddo neu allan ohono.

(5) Ond nid yw erthygl 4 yn gymwys i ddyddodiad na gweithgaredd symud—

(a)sy’n achosi neu sy’n debygol o achosi rhwystr neu berygl i fordwyaeth,

(b)sy’n debygol o gael effaith sylweddol ar ardal forol warchodedig, neu

(c)sy’n debygol o achosi difrod i nodweddion o ddiddordeb archaeolegol neu hanesyddol.

Gollwng cemegion ac olew alltraeth

46.  —Mae erthygl 4 yn gymwys i unrhyw weithgaredd y mae trwydded yn ofynnol mewn perthynas ag ef o dan—

(a)Rheoliadau Cemegion Alltraeth 2002(21), neu

(b)Rheoliadau Gweithgareddau Petrolewm Alltraeth (Atal a Rheoli Llygredd Olew) 2005(22).

Symud tywod a chwythwyd gan y gwynt a dyddodiad dilynol

47.(1) Mae erthygl 4 yn gymwys i ddyddodiad neu weithgaredd symud a ymgymerir gan awdurdod lleol, awdurdod harbwr, Corff Adnoddau Naturiol Cymru neu unrhyw berson sy’n gweithredu ar ei ran at y diben o glirio tywod a chwythwyd ar bromenadau, ffyrdd neu lithrfeydd ar ôl digwyddiad storm.

(2) Mae paragraff (1) yn ddarostyngedig i amodau 1 a 2.

(3) Amod 1 yw bod y tywod yn rhydd o sbwriel môr, malurion a halogion tir cyn iddo gael ei ddyddodi’n ôl ar draeth.

(4) Amod 2 yw bod y tywod yn cael ei ddyddodi’n ôl ar draeth o fewn 7 niwrnod ar ôl iddo gael ei chwythu gan y gwynt ar y promenâd, y ffordd neu’r llithrfa.

Pontynau

48.(1) Mae erthygl 4 yn gymwys i—

(a)dyddodiad neu weithgaredd gweithiau a ymgymerir gan, neu gyda chydsyniad, awdurdod harbwr at y diben o ddarparu pontŵn o fewn terfynau harbwr neu borthladd;

(b)gweithgaredd symud a ymgymerir gan, neu gyda chydsyniad, awdurdod harbwr at y diben o symud pontŵn.

(2) Mae paragraff (1)(a) yn ddarostyngedig i amodau 1 a 2.

(3) Amod 1 yw nad oes mwy na 10 pontŵn wedi eu hadeiladu neu eu dyddodi ar yr un safle yn ystod y 6 mis blaenorol.

(4) Amod 2 yw bod rhaid i’r pontŵn fod yn rhydd o rywogaethau estron goresgynnol cyn y dyddodiad neu yn ystod y gweithgaredd gweithiau.

(5) Ond nid yw erthygl 4 yn gymwys i—

(a)dyddodi, adeiladu neu symud pontŵn sydd â dec sydd ag arwynebedd sy’n fwy na 30 metr sgwâr,

(b)unrhyw annedd, strwythur parhaol neu seilwaith sydd wedi ei roi neu ei osod yn sownd ar ben pontŵn, nac

(c)unrhyw weithiau gosod seilbyst.

Tyllau prawf

49.(1) Mae erthygl 4 yn gymwys i ddyddodiad neu weithgaredd symud a ymgymerir at y diben o gloddio ac ôl-lenwi tyllau prawf.

(2) Mae paragraff (1) yn ddarostyngedig i’r amod nad yw’r deunyddiau a symudir oddi ar wely’r môr, fel rhan o unrhyw gynllun neu brosiect, yn fwy na 5 metr ciwbig.

(3) Ond nid yw erthygl 4 yn gymwys i ddyddodiad na gweithgaredd symud—

(a)sy’n achosi neu sy’n debygol o achosi rhwystr neu berygl i fordwyaeth,

(b)sy’n debygol o gael effaith sylweddol ar ardal forol warchodedig, neu

(c)sy’n debygol o achosi difrod i nodweddion o ddiddordeb archaeolegol neu hanesyddol.

Tyllau turio

50.(1) Mae Erthygl 4 yn gymwys i ddyddodiad neu weithgaredd symud a ymgymerir at y diben o symud, oddi ar wely’r môr, wrthrychau neu ddeunyddiau mewn cysylltiad â drilio tyllau turio.

(2) Mae paragraff (1) yn ddarostyngedig i’r amod nad yw’r deunyddiau a symudir oddi ar wely’r môr, fel rhan o unrhyw gynllun neu brosiect, yn fwy na 5 metr ciwbig.

(3) Ond nid yw erthygl 4 yn gymwys i ddyddodiad na gweithgaredd symud o’r fath—

(a)sy’n achosi neu sy’n debygol o achosi rhwystr neu berygl i fordwyaeth,

(b)sy’n debygol o gael effaith sylweddol ar ardal forol warchodedig, neu

(c)sy’n debygol o achosi difrod i nodweddion o ddiddordeb archaeolegol neu hanesyddol.

Samplu fibrograidd

51.(1) Mae erthygl 4 yn gymwys i ddyddodiad neu weithgaredd symud a ymgymerir at y diben o gymryd sampl o ddeunydd i’w brofi neu ei ddadansoddi yn ystod samplu fibrograidd.

(2) Mae paragraff (1) yn ddarostyngedig i’r amod na symudir mwy na 5 metr ciwbig o ddeunydd mewn unrhyw gynllun neu brosiect.

(3) Ond nid yw erthygl 4 yn gymwys i unrhyw ddyddodiad na gweithgaredd symud o’r fath—

(a)sy’n achosi neu sy’n debygol o achosi rhwystr neu berygl i fordwyaeth,

(b)sy’n debygol o gael effaith sylweddol ar ardal forol warchodedig, neu

(c)sy’n debygol o achosi difrod i nodweddion o ddiddordeb archaeolegol neu hanesyddol.

(4) Yn yr erthygl hon, ystyr “samplu fibrograidd” yw’r dechneg pan gaiff tiwb craidd dirgrynol ei durio i mewn i waddodion tanddwr megis tywod, silt, clai neu briddoedd meddal gan ddefnyddio pen dirgrynu wedi ei bweru’n electronig neu’n hydrolig sy’n adfer sampl graidd ddi-dor.

Glanhau corff llong yn y dŵr

52.(1) Mae erthygl 4 yn gymwys i ddyddodi sylwedd a symudir oddi ar gorff llong yn ystod glanhau.

(2) Mae paragraff (1) yn ddarostyngedig i’r amod bod y sylwedd yn cael ei symud â llaw, ac na ddefnyddir dim byd ond—

(a)brethyn meddal,

(b)sbwng, neu

(c)blew brwsh meddal.

Huw Irranca-Davies

Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru

2 Chwefror 2026

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Trwyddedu Morol (Gweithgareddau Esempt) (Cymru) 2011 (“Gorchymyn 2011”). Mae Gorchymyn 2011 yn pennu gweithgareddau morol trwyddedadwy nad yw trwydded forol o dan Ran 4 o Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009 (“Deddf 2009”) yn ofynnol mewn cysylltiad â hwy, pa un ai yn ddarostyngedig i amodau neu fel arall.

Mae’r diwygiadau hyn yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw ardal, ac unrhyw weithgaredd morol trwyddedadwy yr ymgymerir ag ef yn yr ardal honno, yr awdurdod trwyddedu priodol ar ei chyfer neu ar ei gyfer o dan adran 113(4)(b) o Ddeddf 2009 yw Gweinidogion Cymru.

Mae Rhan 1 yn cynnwys y darpariaethau rhagarweiniol.

Mae Rhan 2 yn diwygio esemptiadau presennol rhag y gofyniad i ddal trwydded forol fel y’u nodir yng Ngorchymyn 2011 drwy ychwanegu neu ddiwygio esemptiadau ac amodau sy’n ymwneud â’r esemptiadau hynny.

Mae Rhan 3 yn cyflwyno esemptiadau newydd rhag y gofyniad i ddal trwydded forol. Mae’r rhain yn ymwneud â mân weithiau rheolaidd i gynnal a chadw pontydd, strwythurau cantilifrog, glanfeydd a phierau presennol (erthygl 35), symud llongau wedi eu gadael neu longau adfeiliedig (erthygl 36), arddangosfeydd tân gwyllt (erthygl 37), samplau i’w profi neu eu dadansoddi (erthygl 38), deifwyr yn symud sbwriel môr (erthygl 39), dyddodiadau neu weithgaredd symud damweiniol (erthygl 40), gwaith treillio cynnal a chadw mordwyaeth (erthygl 41), arwyddion dros dro (erthygl 42), sefydlu neu adfer gwely morwellt (erthygl 43), uwchraddio strwythurau arfordirol, strwythurau draenio a strwythurau amddiffyn rhag llifogydd (erthygl 44), cyfleusterau doc sych (erthygl 45), gollwng cemegion ac olew alltraeth (erthygl 46), symud tywod a chwythwyd gan y gwynt a dyddodiad dilynol (erthygl 47), pontynau (erthygl 48), tyllau prawf (erthygl 49), tyllau turio (erthygl 50), samplu fibrograidd (erthygl 51) a glanhau corff llong yn y dŵr (erthygl 52).

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn. Gellir cael copi oddi wrth Is-adran y Môr a Bioamrywiaeth, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ ac fe’i cyhoeddir ar www.llyw.cymru.

(1)

2009 p. 23. Diwygiwyd adran 113 gan adran 46(2) o Ddeddf Cymru 2017 (p. 4) a diwygiwyd adran 316 gan Atodlen 10 i Ddeddf Pysgodfeydd 2020 (p. 22); mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol i’r Gorchymyn hwn.

(2)

Yn rhinwedd adran 113(4)(b) o Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009 (p. 23), Gweinidogion Cymru yw’r awdurdod trwyddedu priodol o ran ymgymryd â gweithgareddau penodol yn rhanbarth glannau Cymru a rhanbarth môr mawr Cymru (gweler adran 322(1) o’r Ddeddf honno am y diffiniadau o “Welsh inshore region” a Welsh offshore region”), ac eithrio mewn perthynas â gweithgareddau sy’n dod o dan adran 113(5) pan mai’r Ysgrifennydd Gwladol yw’r awdurdod trwyddedu priodol.

(4)

O.S. 2017/1012. Yr offeryn diwygio perthnasol yw O.S. 2019/579.

(5)

O.S. 2017/1013. Yr offeryn diwygio perthnasol yw O.S. 2019/579.

(6)

1981 p. 69. Yn unol ag adran 27AA mewn perthynas â thir yng Nghymru, mae cyfeiriadau at Natural England i’w darllen fel cyfeiriadau at Corff Adnoddau Naturiol Cymru. Yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 2006/2541 ac O.S. 2014/3088 (Cy. 309).

(7)

1949 p. 74. Yr offeryn diwygio perthnasol yw O.S. 1972/70.

(11)

Mae System Geodetig y Byd 1984 yn diffinio ffrâm gyfeirio ar gyfer y Ddaear, i’w defnyddio ar gyfer geodeseg a llywio. Fe’i datblygwyd gan National Geospacial-Intelligence Agency (“NGA”) yr Unol Daleithiau, sy’n gyfrifol am ei chynnal a’i chadw. Mae System Geodetig y Byd 1984 wedi ei diffinio ym mharagraff 2.1 o NGA Standardization Document, Department of Defense, System Geodetig y Byd 1984 (diweddarwyd 8 Gorffennaf 2014) (https://earth-info.nga.mil/index.php?dir=wgs84&action=wgs84#tab_wgs84-res). Mae copïau caled ar gael ar gais o swyddfeydd yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch, Parc Busnes Rhyngwladol Aberdeen, Adeilad 2, Lefel 1, Dyce Drive, Dyce, Aberdeen AB21 0BR.

(12)

Seilnod Siart yw’r plân y cyhoeddir pob dyfnder oddi tano ar siart fordwyo. Dyma’r plân y cyfeirir pob uchder llanw iddo hefyd, felly drwy adio uchder y llanw a’r dyfnder a siartiwyd, canfyddir gwir ddyfnder y dŵr. Drwy gytundeb rhyngwladol, mae Seilnod Siart wedi ei ddiffinio’n lefel mor isel fel na fydd y llanw yn disgyn islaw iddo yn aml. Yn y Deyrnas Unedig, mae’r lefel hon fel arfer oddeutu lefel y Distyll Astronomaidd.

(17)

O.S. 2017/407. Yr offeryn diwygio perthnasol yw O.S. 2019/558.

(18)

O.S. 2009/995 (Cy. 81). Yr offeryn diwygio perthnasol yw O.S. 2015/1394.

(19)

Cyhoeddwyd yn 2013 ar wefan yr Undeb Rhyngwladol dros Gadwraeth Natur, https://iucn.org/resources/publication/guidelines-reintroductions-and-other-conservation-translocations. Mae copïau caled ar gael ar gais o swyddfeydd Pencadlys y Byd, Rue Mauverney 28, 1196 Gland, y Swistir.

(21)

O.S. 2002/1355. Yr offeryn diwygio perthnasol yw O.S. 2011/982.

(22)

O.S. 2005/2055. Yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 2011/983, O.S. 2019/42 ac O.S. 2020/620.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources