- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ychwanegion Bwyd, Cyflasynnau Bwyd, a Bwydydd Newydd (Awdurdodiadau) a Bwyd a Bwyd Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2023.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn—
(a)yn rhychwantu Cymru a Lloegr;
(b)yn gymwys o ran Cymru.
(3) Daw Rhannau 1 a 5 i rym ar 14 Ebrill 2023.
(4) Daw Rhannau 2, 3 a 4 i rym ar 15 Mai 2023.
2. Mae Rheoliad (EC) Rhif 1333/2008 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar ychwanegion bwyd(1) wedi ei ddiwygio yn unol ag Atodlen 1.
3. Mae Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 231/2012 sy’n gosod manylebau ar gyfer ychwanegion bwyd a restrir yn Atodiadau II a III i Reoliad (EC) Rhif 1333/2008 Senedd Ewrop a’r Cyngor(2) wedi ei ddiwygio yn unol ag Atodlen 2.
4.—(1) Caniateir i unrhyw ychwanegyn bwyd neu fwyd a labelir cyn diwedd 14 Tachwedd 2024 fel E 960 glycosidau stefiol, neu fel eu bod yn cynnwys E 960 glycosidiau stefiol, sydd fel arall yn cydymffurfio â’r amodau defnyddio a’r fanyleb ar gyfer E 960a glycosidau stefiol o Stevia, barhau i gael eu rhoi ar y farchnad a’u defnyddio hyd nes y bydd y stociau wedi eu dihysbyddu.
(2) Mae i’r ymadroddion Cymraeg a ddefnyddir ym mharagraff (1) sy’n cyfateb i ymadroddion Saesneg a ddefnyddir yn Rheoliad (EC) Rhif 1333/2008 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar ychwanegion bwyd yr un ystyr â’r ymadroddion hynny yn y Rheoliad hwnnw.
5. Mae Rheoliad (EC) Rhif 1334/2008 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar gyflasynnau a chynhwysion bwyd penodol â phriodoleddau cyflasu sydd i’w defnyddio mewn bwydydd ac ar fwydydd(3) wedi ei ddiwygio yn unol ag Atodlen 3.
6. Mae Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2017/2470 sy’n sefydlu rhestr yr Undeb o fwydydd newydd yn unol â Rheoliad (EU) 2015/2283 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar fwydydd newydd(4) wedi ei ddiwygio yn unol ag Atodlenni 4 a 5.
7. Yn Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) 2012(5), yn rheoliad 12(2), yn lle’r geiriau o “nhabl 1” hyd at y diwedd rhodder “Nhabl 1 o Atodlen 6 ac yn ddarostyngedig i’r cyfyngiadau yn y Tabl hwnnw”.
8. Yn Rheoliadau Ychwanegion, Cyflasynnau, Ensymau a Thoddyddion Echdynnu Bwyd (Cymru) 2013(6), yn rheoliad 2(1), yn y diffiniad o “Rheoliadau’r UE a ddargedwir”—
(a)yn y testun Cymraeg, yn lle “(“the EU Regulations”)” rhodder “(“the retained EU Regulations”)”;
(b)yn y testun Saesneg, ar ôl ““the retained EU Regulations”” mewnosoder “(“Rheoliadau’r UE a ddargedwir”)”.
9.—(1) Mae Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Cyfansoddiad, Marchnata a Defnydd) (Cymru) 2016(7) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn Atodlen 1B, yn Nhabl 1, yn y testun Cymraeg, yn y cofnod ar gyfer “1. Arsenig”, yn yr ail golofn, yn lle “deunyddiau blawd”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “deunyddiau bwyd anifeiliaid”.
Lynne Neagle
Y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, o dan awdurdod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
20 Mawrth 2023
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: