- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Iechyd Y Cyhoedd, Cymru
Gwnaed
26 Ionawr 2022
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
27 Ionawr 2022
Yn dod i rym
28 Ionawr 2022
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 45C(1) a (3)(c) a 45P(2) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984(1).
Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.
Mae Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y cyfyngiadau a’r gofynion a osodir gan y Rheoliadau hyn yn gymesur â’r hyn y maent yn ceisio ei gyflawni, sef ymateb iechyd y cyhoedd i’r bygythiad hwnnw.
Yn unol ag adran 45Q(3) o’r Ddeddf honno mae Gweinidogion Cymru o’r farn nad yw’r offeryn yn cynnwys unrhyw ddarpariaeth a wneir yn rhinwedd adran 45C(3)(c) o’r Ddeddf sy’n gosod neu’n galluogi gosod cyfyngiad neu ofyniad arbennig, neu unrhyw gyfyngiad neu ofyniad arall sy’n cael neu a fyddai’n cael effaith sylweddol ar hawliau person.
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 3) 2022.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 28 Ionawr 2022.
2.—(1) Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020(2) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 6—
(a)ym mharagraff (4), yn lle “7 niwrnod” rhodder “5 niwrnod”;
(b)ym mharagraff (5), yn lle “7 niwrnod” rhodder “5 niwrnod”.
(3) Yn rheoliad 7—
(a)ym mharagraff (4), yn lle “7 niwrnod” rhodder “5 niwrnod”;
(b)ym mharagraff (5), yn lle “7 niwrnod” rhodder “5 niwrnod”.
(4) Hepgorer rheoliad 10B.
(5) O flaen rheoliad 11 mewnosoder—
10C.—(1) Pan fo’n ofynnol i oedolyn beidio ag ymadael â’r man lle y mae’r oedolyn yn byw, neu fod y tu allan iddo, yn unol â rheoliad 6(2) yn union cyn i Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 3) 2022 ddod i rym, mae diwrnod olaf ynysiad yr oedolyn i’w bennu yn unol â rheoliad 6(4) neu (5) fel y’i diwygir gan y Rheoliadau hynny.
(2) Pan fo’n ofynnol i blentyn beidio ag ymadael â’r man lle y mae’r plentyn yn byw, neu fod y tu allan iddo, yn unol â rheoliad 7(2) yn union cyn i Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 3) 2022 ddod i rym, mae diwrnod olaf ynysiad y plentyn i’w bennu yn unol â rheoliad 7(4) neu (5) fel y’i diwygir gan y Rheoliadau hynny.”
Mark Drakeford
Y Prif Weinidog, un o Weinidogion Cymru
26 Ionawr 2022
(Nid ywʼr nodyn hwn yn rhan oʼr Rheoliadau)
Mae Rhan 2A o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 yn galluogi Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, i wneud darpariaeth at ddiben atal, diogelu rhag, rheoli neu ddarparu ymateb iechyd y cyhoedd i fynychder neu ledaeniad haint neu halogiad yng Nghymru.
Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/1609 (Cy. 335)) (“y prif Reoliadau”) er mwyn—
diwygio rheoliadau 6 a 7 o’r prif Reoliadau i ddarparu ei bod bellach yn ofynnol i bersonau sy’n cael canlyniad positif am y coronafeirws hunanynysu am gyfnod o 5 niwrnod (yn hytrach na chyfnod o 7 niwrnod);
darparu, pan oedd yn ofynnol i berson ynysu yn union cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym, fod diwedd y cyfnod ynysu i’w bennu yn unol â rheoliad 6 neu 7 fel y’i diwygir gan y Rheoliadau hyn;
hepgor darpariaeth drosiannol sydd wedi ei disbyddu sy’n ymwneud â diwygiadau blaenorol i ofynion ynysu’r prif Reoliadau.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. Yn unol â’r Cod, ni chynhaliwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn, oherwydd bod angen eu rhoi yn eu lle ar frys i sicrhau bod cyfyngiadau a gofynion y prif Reoliadau yn parhau i fod yn gymesur.
1984 p. 22. Mewnosodwyd adrannau 45C a 45P gan adran 129 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2008 (p. 14). Mae’r swyddogaethau o dan yr adrannau hyn wedi eu rhoi i “the appropriate Minister” (“y Gweinidog priodol”). O dan adran 45T(6) o Ddeddf 1984, y Gweinidog priodol, o ran Cymru, yw Gweinidogion Cymru.
O.S. 2020/1609 (Cy. 335) fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2020/1610 (Cy. 336), O.S. 2020/1623 (Cy. 340), O.S. 2020/1645 (Cy. 345), O.S. 2021/20 (Cy. 7), O.S. 2021/46 (Cy. 10), O.S. 2021/57 (Cy. 13), O.S. 2021/66 (Cy. 15), O.S. 2021/95 (Cy. 26), O.S. 2021/103 (Cy. 28), O.S. 2021/172 (Cy. 40), O.S. 2021/210 (Cy. 52), O.S. 2021/307 (Cy. 79), O.S. 2021/413 (Cy. 133), O.S. 2021/502 (Cy. 150), O.S. 2021/542 (Cy. 154), O.S. 2021/583 (Cv. 160), O.S. 2021/668 (Cy. 169), O.S. 2021/686 (Cy. 172), O.S. 2021/722 (Cy. 183), O.S. 2021/862 (Cy. 201), O.S. 2021/925 (Cy. 210), O.S. 2021/970 (Cy. 228), O.S. 2021/1119 (Cy. 271), O.S. 2021/1131 (Cy. 274), O.S. 2021/1212 (Cy. 303), O.S. 2021/1304 (Cy. 334), O.S. 2021/1363 (Cy. 358), O.S. 2021/1407 (Cy. 366), O.S. 2021/1468 (Cy. 376), O.S. 2021/1477 (Cy. 379), O.S. 2021/1485 (Cy. 386), O.S. 2021/1490 (Cy. 390), O.S. 2022/39 (Cy. 16) ac O.S. 2022/55 (Cy. 21).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: