Search Legislation

Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Ffitrwydd Annedd i Bobl Fyw Ynddi) (Cymru) 2022

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Offerynnau Statudol Cymru

2022 Rhif 6 (Cy. 4)

Tai, Cymru

Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Ffitrwydd Annedd i Bobl Fyw Ynddi) (Cymru) 2022

Gwnaed

7 Ionawr 2022

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

12 Ionawr 2022

Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 94(1), (2)(b) a (3) a 256(1) o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016(1).

Enwi a chychwyn

1.  Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Ffitrwydd Annedd i Bobl Fyw Ynddi) (Cymru) 2022 a deuant i rym ar y diwrnod y daw adran 239 o’r Ddeddf i rym(2).

Dehongli

2.—(1Mae i’r geiriau a’r ymadroddion a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn yr un ystyr ag sydd iddynt yn y Ddeddf.

(2Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “cyfnod meddiannaeth” (“period of occupation”), mewn perthynas â chontract meddiannaeth, yw’r cyfnod—

(a)

sy’n dechrau â dyddiad meddiannu’r contract, a

(b)

sy’n dod i ben pan ddaw’r contract i ben; ac

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016.

(3Mae’r rheoliad hwn yn ddarostyngedig i reoliad 7.

Penderfynu a yw annedd yn ffit i bobl fyw ynddi ai peidio

3.  Wrth benderfynu at ddibenion adran 91(1) o’r Ddeddf a yw annedd yn ffit i bobl fyw ynddi ai peidio, rhaid rhoi sylw i bresenoldeb neu fodolaeth, neu bresenoldeb tebygol neu fodolaeth debygol, y materion a’r amgylchiadau a restrir yn yr Atodlen.

Contractau meddiannaeth y mae rheoliadau 5 i 8 yn gymwys iddynt

4.  Nid yw rheoliadau 5 i 8 yn gymwys ond mewn perthynas ag —

(a)contract diogel,

(b)contract safonol cyfnodol, ac

(c)contract safonol cyfnod penodol a wnaed am gyfnod o lai na 7 mlynedd(3),

sy’n ymgorffori adran 91 o’r Ddeddf fel un o delerau’r contract.

Larymau mwg a larymau carbon monocsid

5.—(1Rhaid i’r landlord sicrhau, yn ystod pob cyfnod meddiannaeth, bod larwm mwg ar bob llawr o’r annedd sydd—

(a)mewn cyflwr da ac yn gweithio’n iawn,

(b)wedi ei gysylltu â chyflenwad trydan yr annedd, ac

(c)wedi ei gysylltu â phob larwm mwg arall yn yr annedd sydd wedi ei gysylltu â’r cyflenwad trydan.

(2Rhaid i’r landlord sicrhau, yn ystod pob cyfnod meddiannaeth, bod larwm carbon monocsid sydd mewn cyflwr da ac yn gweithio’n iawn ym mhob ystafell o’r annedd sy’n cynnwys cyfarpar nwy, cyfarpar hylosgi sy’n cael ei danio ag olew neu gyfarpar hylosgi sy’n llosgi tanwydd solet.

(3Mae annedd i’w thrin fel pe na bai’n ffit i bobl fyw ynddi pan nad yw’r landlord yn cydymffurfio â gofyniad a osodir gan baragraff (1) neu (2).

(4At ddibenion paragraff (3), mae landlord sydd heb gydymffurfio ag—

(a)paragraff (1) i’w drin fel pe bai’n cydymffurfio â’r paragraff hwnnw o’r adeg y mae’r landlord yn sicrhau bod larwm mwg (neu larymau mwg) yn bresennol yn yr annedd fel y disgrifir yn y paragraff hwnnw;

(b)paragraff (2) i’w drin fel pe bai’n cydymffurfio â’r paragraff hwnnw o’r adeg y mae’r landlord yn sicrhau bod larwm carbon monocsid (neu larymau carbon monocsid) yn bresennol yn yr annedd fel y disgrifir yn y paragraff hwnnw.

(5Yn y rheoliad hwn—

ystyr “cyfarpar nwy” (“gas appliance”) yw cyfarpar a ddyluniwyd i’w ddefnyddio gan ddefnyddiwr nwy ar gyfer gwresogi, goleuo, coginio neu at ddibenion eraill y gellir defnyddio nwy ar eu cyfer, ond nid yw’n cynnwys—

(a)

cyfarpar cludadwy neu symudol a gyflenwir â nwy o silindr, na’r silindr, y pibellau a’r ffitiadau eraill a ddefnyddir i gyflenwi nwy i’r cyfarpar hwnnw, neu

(b)

cyfarpar y mae gan ddeiliad y contract yr hawl i fynd ag ef o’r annedd o dan delerau’r contract meddiannaeth;

mae i “nwy” yr ystyr a roddir i “gas” gan adran 48(1) o Ddeddf Nwy 1986(4);

mae “ystafell” (“room”) yn cynnwys cyntedd, pen grisiau neu goridor.

Diogelwch trydanol

6.—(1Rhaid i’r landlord sicrhau bod adroddiad ar gyflwr trydanol dilys mewn cysylltiad â’r annedd yn ystod pob cyfnod meddiannaeth.

(2Mae adroddiad ar gyflwr trydanol—

(a)yn adroddiad ar gyflwr sy’n nodi canlyniadau archwiliad diogelwch trydanol a gynhaliwyd gan berson cymwysedig;

(b)yn ddilys—

(i)hyd at ddiwedd y cyfnod o 5 mlynedd sy’n dechrau â’r diwrnod y cynhaliwyd yr archwiliad diogelwch trydanol (“y dyddiad archwilio”), neu

(ii)os yw’r adroddiad ar gyflwr trydanol yn nodi y dylid cynnal yr archwiliad diogelwch trydanol nesaf lai na 5 mlynedd ar ôl y dyddiad archwilio, hyd at ddiwedd y dydd erbyn pryd y dylid cynnal, yn unol â’r adroddiad, yr archwiliad diogelwch trydanol nesaf.

(3Rhaid i’r landlord sicrhau y rhoddir i ddeiliad y contract, cyn diwedd y cyfnod o 7 niwrnod sy’n dechrau â’r dyddiad meddiannu—

(a)copi o’r adroddiad ar gyflwr trydanol mwyaf diweddar, a

(b)pan fo gwaith ymchwilio neu atgyweirio wedi ei wneud ar osodiad gwasanaeth trydanol yn yr annedd, neu mewn perthynas â gosodiad o’r fath, ar ôl yr archwiliad diogelwch trydanol y mae’r adroddiad hwnnw yn ymwneud ag ef (a chyn y dyddiad meddiannu), gadarnhad ysgrifenedig o’r gwaith.

(4Pan gynhelir archwiliad diogelwch trydanol ar ôl y dyddiad meddiannu, rhaid i’r landlord sicrhau y rhoddir i ddeiliad y contract gopi o’r adroddiad ar gyflwr trydanol yn ymwneud â’r archwiliad cyn diwedd y cyfnod o 7 niwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod y cwblhawyd yr archwiliad.

(5Pan fo gwaith ymchwilio neu atgyweirio yn cael ei wneud ar osodiad gwasanaeth trydanol yn yr annedd, neu mewn perthynas â gosodiad o’r fath, ar ôl y dyddiad meddiannu, rhaid i’r landlord sicrhau y rhoddir i ddeiliad y contract gadarnhad ysgrifenedig o’r gwaith cyn diwedd y cyfnod o 7 niwrnod gan ddechrau â’r diwrnod y cafodd y landlord y cadarnhad.

(6Mae annedd i’w thrin fel pe na bai’n ffit i bobl fyw ynddi ar adeg pan nad yw’r landlord yn cydymffurfio â gofyniad a osodir gan y rheoliad hwn.

(7At ddibenion paragraff (6), mae landlord—

(a)nad yw wedi cydymffurfio â pharagraff (1) i’w drin fel pe bai’n cydymffurfio â’r paragraff hwnnw ar unrhyw adeg—

(i)pan fo’r landlord wedi cael adroddiad ar gyflwr trydanol, a

(ii)pan fo’r adroddiad hwnnw yn ddilys.

(b)nad yw wedi cydymffurfio â pharagraff (3)(a) neu (4) i’w drin fel pe bai’n cydymffurfio â’r ddarpariaeth dan sylw o’r adeg y rhoddir i ddeiliad y contract gopi o’r adroddiad ar gyflwr trydanol dilys mwyaf diweddar;

(c)nad yw wedi cydymffurfio â pharagraff (3)(b) neu (5) i’w drin fel pe bai’n cydymffurfio â’r ddarpariaeth dan sylw o’r adeg y rhoddir i ddeiliad y contract gadarnhad ysgrifenedig o’r gwaith.

(8Yn y rheoliad hwn—

ystyr “archwiliad diogelwch trydanol” (“electrical safety inspection”) yw archwilio a phrofi pob gosodiad gwasanaeth trydanol mewn annedd yn unol â’r safonau diogelwch trydanol(5);

ystyr “cadarnhad ysgrifenedig o’r gwaith” (“written confirmation of work”), mewn perthynas â gwaith ymchwilio neu atgyweirio, yw copi o gadarnhad ysgrifenedig gan berson cymwysedig bod y gwaith dan sylw wedi ei wneud;

ystyr “gosodiad gwasanaeth trydanol” (“electrical service installation”) yw gosodiad ar gyfer cyflenwi trydan; ac mae cyfeiriadau at osodiad gwasanaeth trydanol mewn annedd yn cynnwys, pan fo’r annedd yn ffurfio rhan yn unig o adeilad, osodiad gwasanaeth trydanol sy’n gwasanaethu’r annedd yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, ac sydd naill ai—

(a)

yn ffurfio rhan o unrhyw ran o’r adeilad y mae gan y landlord ystad neu fuddiant ynddi, neu

(b)

yn eiddo i’r landlord neu sydd o dan reolaeth y landlord;

ystyr “person cymwysedig” (“qualified person”) yw person sy’n gymwys i wneud y gwaith arolygu a phrofi ar osodiad gwasanaeth trydanol, ac unrhyw waith archwilio neu waith atgyweirio pellach, yn unol â’r safonau diogelwch trydanol;

ystyr “safonau diogelwch trydanol” (“electrical safety standards”) yw’r safonau ar gyfer gosodiadau gwasanaeth trydanol a nodwyd yn y deunawfed argraffiad o’r Rheoliadau Gosod Gwifrau sef y “Wiring Regulations”, a gyhoeddwyd gan y Sefydliad Peirianneg a Thechnoleg a’r Sefydliad Safonau Prydeinig fel BS 7671:2018+A1:2020(6).

Cymhwyso i gontractau wedi eu trosi

7.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas â chontract wedi ei drosi.

(2Yn rheoliadau 5(1) a 6(1), ystyr “cyfnod meddiannaeth” yw’r cyfnod—

(a)sy’n dechrau â’r diwrnod sydd 12 mis ar ôl y dyddiad trosi, a

(b)sy’n dod i ben pan ddaw’r contract i ben.

(3Yn rheoliad 5(2), ystyr “cyfnod meddiannaeth” yw’r cyfnod—

(a)sy’n dechrau â’r dyddiad trosi, a

(b)sy’n dod i ben pan ddaw’r contract i ben.

(4Yn rheoliad 6(3), ystyr “dyddiad meddiannu” yw’r diwrnod sydd 12 mis ar ôl y dyddiad trosi.

(5Mae rheoliad 6 i’w ddarllen fel pe bai’r canlynol wedi ei roi yn lle paragraff (4)—

(4) Pan gynhelir archwiliad diogelwch trydanol ar ôl i ddeiliad y contract gael adroddiad yn unol ag is-baragraff (a) o baragraff (3) (fel y’i haddaswyd gan reoliad 7(4)), rhaid i’r landlord sicrhau y rhoddir copi i ddeiliad y contract o’r adroddiad ar gyflwr trydanol yn ymwneud â’r archwiliad cyn diwedd y cyfnod o 7 niwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod y cwblhawyd yr archwiliad.

(6Yn y rheoliad hwn, ystyr “dyddiad trosi”, mewn perthynas â chontract wedi ei drosi, yw’r dyddiad y daeth y denantiaeth neu’r drwydded yn gontract meddiannaeth o dan adran 240 o’r Ddeddf(7).

Darpariaeth drosiannol yn ymwneud â rheoliad 6: adroddiadau ar gyflwr trydanol sydd eisoes yn bodoli

8.  At ddibenion rheoliad 6(1), nid oes wahaniaeth os cafwyd yr adroddiad ar gyflwr trydanol dilys cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym.

Julie James

Y Gweinidog Newid Hinsawdd, un o Weinidogion Cymru

7 Ionawr 2022

Rheoliad 3

YR ATODLENMaterion ac Amgylchiadau

Lleithder, gwiddon a thyfiant llwydni neu ffwngaidd

1.  Bod mewn cyffyrddiad â gwiddon llwch mewn cartrefi, lleithder, tyfiant llwydni neu dyfiant ffwngaidd.

Oerfel

2.  Bod mewn cyffyrddiad â thymereddau rhy isel.

Gwres

3.  Bod mewn cyffyrddiad â thymereddau rhy uchel.

Asbestos a ffibrau mwynau a weithgynhyrchwyd

4.  Bod mewn cyffyrddiad â ffibrau asbestos neu ffibrau mwynau a weithgynhyrchwyd.

Bywleiddiaid

5.  Bod mewn cyffyrddiad â chemegolion a ddefnyddir i drin pren neu dyfiant llwydni.

Carbon monocsid a chynhyrchion hylosgi tanwydd

6.  Bod mewn cyffyrddiad â’r canlynol—

(a)carbon monocsid;

(b)nitrogen diocsid;

(c)sylffwr diocsid a mwg.

Plwm

7.  Amlyncu plwm.

Ymbelydredd

8.  Bod mewn cyffyrddiad ag ymbelydredd.

Nwy tanwydd nas hylosgwyd

9.  Bod mewn cyffyrddiad â nwy tanwydd nas hylosgwyd.

Cyfansoddion organig anweddol

10.  Bod mewn cyffyrddiad â chyfansoddion organig anweddol.

Gorlenwi a gofod

11.  Diffyg gofod digonol ar gyfer byw a chysgu.

Tresmaswyr yn dod i mewn

12.  Anawsterau wrth gadw’r annedd yn ddiogel rhag i bobl nas awdurdodir ddod i mewn.

Goleuo

13.  Diffyg golau digonol.

Sŵn

14.  Bod mewn cysylltiad â sŵn.

Hylendid domestig, plâu a sbwriel

15.—(1Dyluniad, cynllun neu adeiladwaith gwael fel na ellir yn hawdd gadw’r annedd yn lân.

(2Bod mewn cyffyrddiad â phlâu.

(3Darpariaeth annigonol ar gyfer storio gwastraff tŷ a’i waredu’n hylan.

Diogelwch bwyd

16.  Darpariaeth annigonol o gyfleusterau ar gyfer storio, paratoi a choginio bwyd.

Hylendid personol, carthffosiaeth a draeniau

17.  Darpariaeth annigonol—

(a)o gyfleusterau i gynnal hylendid personol da;

(b)o garthffosiaeth a draeniau.

Cyflenwad dŵr

18.  Cyflenwad annigonol o ddŵr sydd heb ei halogi, er mwyn ei yfed ac at ddibenion domestig eraill.

Cwympo yn gysylltiedig â baddonau etc.

19.  Cwympo sy’n gysylltiedig â thoiledau, baddonau, cawodydd neu gyfleusterau ymolchi eraill.

Cwympo ar arwynebau

20.  Cwympo ar arwyneb.

Cwympo ar risiau etc.

21.  Cwympo ar risiau, stepiau neu rampiau.

Cwympo rhwng arwynebau

22.  Cwympo o un arwyneb i un arall (gan gynnwys cwympo o uchder).

Peryglon trydanol

23.  Bod mewn cyffyrddiad â thrydan.

Tân

24.  Bod mewn cyffyrddiad â thân afreolus a’r mwg sy’n gysylltiedig ag ef.

Fflamau, arwynebau poeth etc.

25.  Bod mewn cyffyrddiad â’r canlynol—

(a)tân neu fflamau a reolir;

(b)Gwrthrychau, hylifau neu anweddau poeth.

Taro yn erbyn neu fynd yn sownd

26.  Taro yn erbyn drysau, ffenestri neu nodweddion pensaernïol eraill, neu rannau o’r corff yn mynd yn sownd ynddynt.

Ffrwydradau

27.  Ffrwydrad yn yr annedd.

Safle amwynderau a’u gweithrediad etc.

28.  Safle, lleoliad a gweithrediad amwynderau, ffitiadau ac offer.

Dymchwel strwythurol ac elfennau’n disgyn

29.  Yr annedd gyfan neu ran ohoni yn dymchwel gan gynnwys elfennau’n disgyn.

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae adran 91 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (dccc 1) (“y Ddeddf”) yn ei gwneud yn ofynnol i landlord, o dan gontract diogel, contract safonol cyfnodol neu gontract safonol cyfnod penodol a wneir am gyfnod o lai na 7 mlynedd, sicrhau bod yr annedd yn ffit i bobl fyw ynddi, ac mae adran 92 yn ei gwneud yn ofynnol i’r landlord gadw’r annedd mewn cyflwr da.

Mae adran 94(1) yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ragnodi materion ac amgylchiadau y mae rhaid rhoi sylw iddynt wrth benderfynu a yw annedd yn ffit i bobl fyw ynddi ai peidio, ac mae adran 94(2) yn galluogi Gweinidogion Cymru i ragnodi materion ac amgylchiadau a allai godi oherwydd methiant landlord i gadw’r annedd mewn cyflwr da. Mae adran 94(3) yn galluogi Gweinidogion Cymru i osod gofynion ar landlordiaid at ddiben atal y materion neu’r amgylchiadau hynny rhag codi ac i ragnodi os na chydymffurfir â’r gofynion hynny, bod yr annedd i’w thrin fel pe na bai’n ffit i bobl fyw ynddi.

Mae rheoliad 3 a’r Atodlen yn rhagnodi’r materion a’r amgylchiadau y mae rhaid rhoi sylw iddynt wrth benderfynu a yw annedd yn ffit i bobl fyw ynddi ai peidio. Mae hyn yn cynnwys materion ac amgylchiadau penodol a allai godi oherwydd methiant landlord i gadw’r annedd mewn cyflwr da.

Mae rheoliad 4 yn darparu bod rheoliadau 5 i 8 yn gymwys mewn perthynas â chontract diogel, contract safonol cyfnodol neu gontract safonol cyfnod penodol a wnaed am gyfnod o lai na 7 mlynedd, ac sy’n ymgorffori adran 91 o’r Ddeddf fel un o delerau’r contract. Mae rheoliad 4 yn cymhwyso rheoliadau 5 i 8 i’r un mathau o gontract meddiannaeth â rheoliad 3.

Mae rheoliadau 5 a 6 yn gosod gofynion ar landlord at ddiben atal unrhyw faterion neu amgylchiadau rhag codi a allai beri nad yw annedd yn ffit i bobl fyw ynddi.

Mae rheoliad 5 yn ei gwneud yn ofynnol i larymau mwg a larymau carbon monocsid, sydd mewn cyflwr da ac yn gweithio’n iawn, fod yn bresennol mewn annedd.

Mae rheoliad 6 yn ei gwneud yn ofynnol i’r gosodiadau gwasanaeth trydanol mewn annedd gael eu harchwilio a’u profi (“archwiliad diogelwch trydanol”) gan berson cymwysedig fesul ysbaid o 5 mlynedd neu lai; ac yn ei gwneud yn ofynnol i gopi o’r adroddiad ar gyflwr sy’n nodi canlyniadau’r archwiliad diogelwch trydanol gael ei roi i ddeiliad y contract. Os caiff gwaith ei wneud ar osodiadau gwasanaeth trydanol annedd rhwng archwiliadau diogelwch trydanol, rhaid i’r landlord sicrhau y rhoddir i ddeiliad y contract gadarnhad ysgrifenedig bod y gwaith wedi ei wneud.

Pan fo landlord yn methu â chydymffurfio â gofyniad a osodir gan reoliad 5 neu 6, mae’r annedd i’w thrin fel pe na bai’n ffit i bobl fyw ynddi a bydd yn parhau i’w thrin fel pe na bai’n ffit i bobl fyw ynddi o dan y rheoliadau hynny hyd nes y bydd y landlord wedi cywiro’r methiant (gweler Rhan 4 o’r Ddeddf am ddarpariaeth bellach ynghylch amgylchiadau pan fo rhwymedigaethau ac atebolrwyddau landlord o dan y Rhan honno yn codi). Os yw’r methiant yn digwydd eto ar ôl ei gywiro bydd yr annedd, unwaith eto, i’w thrin fel pe na bai’n ffit i bobl fyw ynddi hyd nes y caiff y methiant ei gywiro.

Mae’r landlord, mewn unrhyw achos, yn ddarostyngedig i’r rhwymedigaethau yn adran 92 o’r Ddeddf (os ydynt wedi eu hymgorffori yn y contract meddiannaeth) i gadw gosodiadau gwasanaeth trydanol mewn cyflwr da ac yn gweithio’n iawn. Bydd y rhwymedigaethau hynny yn berthnasol pan fo archwiliad diogelwch trydanol yn datgelu bod materion yn codi mewn cysylltiad â gosodiad.

Mae rheoliad 7 yn gwneud darpariaeth ynghylch sut y mae’r rheoliadau hyn yn gweithredu mewn perthynas â thenantiaethau a thrwyddedau presennol a ddaw yn gontractau meddiannaeth pan ddaw’r Ddeddf i rym. O dan y contractau hynny, bydd gan landlordiaid amser ychwanegol i sicrhau cydymffurfiaeth o’i fewn.

Mae rheoliad 8 yn gwneud darpariaeth yn ymwneud â rheoliad 6, gan ganiatáu i landlordiaid ddibynnu ar adroddiadau ar gyflwr trydanol a gafwyd cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Adran Dai, Llywodraeth Cymru, Parc Busnes Rhyd-y-car, Merthyr Tudful, CF48 1UZ.

(1)

2016 dccc 1. Gweler adran 252 i gael y diffiniad o “rhagnodedig”.

(2)

Daw adran 239 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 i rym ar ddiwrnod a benodir gan Weinidogion Cymru mewn gorchymyn a wneir drwy offeryn statudol.

(3)

Gweler adran 90 o’r Ddeddf sy’n gwneud darpariaeth ar gyfer pennu a yw contractau safonol cyfnod penodol i’w trin fel pe baent yn cael eu gwneud am lai, neu fwy, na 7 mlynedd.

(4)

1986 p. 44. Mae diwygiadau i adran 48 nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(5)

Gweler adran 92 o’r Ddeddf sydd (pan fo wedi ei hymgorffori fel un o delerau contract meddiannaeth) yn darparu bod rhaid i’r landlord gadw’r gosodiadau gwasanaeth trydanol yn yr annedd mewn cyflwr da ac yn gweithio’n iawn.

(6)

BS 7671:2018 (ISBN-13: 978-1-78561-170-4) a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2018, fel y’i cywirwyd gan gorigendwm dyddiedig Rhagfyr 2018; a ddiwygiwyd gan Ddiwygiad 1:2020 a gyhoeddwyd ar 1 Chwefror 2020 (ISBN-13: 978-1-83953-193-4); ac a gywirwyd gan gorigendwm i BS 7671:2018+A1:2020 dyddiedig Mai 2020. Gellir cael copïau gan y Sefydliad Peirianneg a Thechnoleg, Michael Faraday House, Six Hill Way, Stevenage, SG1 2AY.

(7)

Bydd y trosi’n digwydd ar y diwrnod penodedig. Diffinnir hyn gan adran 242 o’r Ddeddf.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources