- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Iechyd Y Cyhoedd, Cymru
Cymeradwywyd gan Senedd Cymru
Gwnaed
21 Mawrth 2022
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
22 Mawrth 2022
Yn dod i rym
23 Mawrth 2022
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 90(2) o Ddeddf y Coronafeirws 2020(1).
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf y Coronafeirws 2020 (Newid Dyddiad Dod i Ben) (Cymru) 2022.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 23 Mawrth 2022.
2.—(1) O ran y darpariaethau yn Neddf y Coronafeirws 2020 a bennir ym mharagraff (2)—
(a)nid ydynt yn dod i ben ar yr adeg y byddent yn dod i ben fel arall yn rhinwedd adran 89 o’r Ddeddf, a
(b)maent yn dod i ben yn lle hynny ar ddiwedd y diwrnod ar 24 Medi 2022.
(2) Y darpariaethau yw—
(a)adran 38(1), i’r graddau y mae’n gymwys o ran Cymru;
(b)adran 82, i’r graddau y mae’n gymwys o ran Cymru;
(c)yn Rhan 1 o Atodlen 17—
(i)paragraff 2;
(ii)paragraff 3, i’r graddau y mae’n gymwys o ran Cymru;
(iii)paragraff 4, i’r graddau y mae’n gymwys o ran Cymru;
(iv)paragraff 7;
(v)paragraff 8.
Mark Drakeford
Y Prif Weinidog, un o Weinidogion Cymru
21 Mawrth 2022
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae adran 89(1) o Ddeddf y Coronafeirws 2020 yn darparu bod y Ddeddf yn dod i ben ar ddiwedd y cyfnod o 2 flynedd gan ddechrau â’r diwrnod y caiff ei phasio, yn ddarostyngedig i is-adran (2) o’r adran honno ac adran 90 o’r Ddeddf.
Mae adran 90(2) o’r Ddeddf yn darparu y caiff awdurdod cenedlaethol perthnasol, drwy reoliadau, ddarparu nad yw darpariaeth yn y Ddeddf yn dod i ben ar yr adeg y byddai’n dod i ben fel arall a’i bod yn dod i ben yn lle hynny ar adeg ddiweddarach a bennir yn y rheoliadau. Mae Gweinidogion Cymru yn awdurdod cenedlaethol perthnasol ar gyfer Cymru mewn perthynas â darpariaethau yn Neddf y Coronafeirws 2020 sy’n gymwys o ran Cymru ac a fyddai’n dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Senedd Cymru.
Mae’r Rheoliadau hyn yn estyn dyddiad dod i ben darpariaethau penodol yn Neddf y Coronafeirws 2020 i ddiwedd y diwrnod ar 24 Medi 2022. Byddent yn dod i ben fel arall ar ddiwedd y diwrnod ar 24 Mawrth 2022, fel y darperir ar ei gyfer gan adran 89 o’r Ddeddf honno.
Ni luniwyd asesiad effaith ar gyfer yr offeryn hwn.
2020 p. 7. Mae’r pŵer i wneud rheoliadau o dan adran 90(2) o’r Ddeddf wedi ei roi i “a relevant national authority” (“corff cenedlaethol perthnasol”). O dan adran 90(7) o’r Ddeddf, mae Gweinidogion Cymru yn awdurdod cenedlaethol perthnasol mewn perthynas â’r pŵer i estyn dyddiad dod i ben darpariaeth yn y Ddeddf sy’n rhychwantu Cymru a Lloegr ac sy’n gymwys o ran Cymru, ac a fyddai o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Senedd Cymru pe bai wedi ei chynnwys mewn Deddf gan Senedd Cymru (gan gynnwys unrhyw ddarpariaeth na ellid ond ei gwneud â chydsyniad un o Weinidogion y Goron o fewn ystyr “Minister of the Crown” yn Neddf Gweinidogion y Goron 1975).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: