Search Legislation

Rheoliadau Cyd-drefniadaeth y Marchnadoedd mewn Cynhyrchion Amaethyddol (Diwygio) (Cymru) 2022

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2022 Rhif 1215 (Cy. 252)

Amaethyddiaeth, Cymru

Bwyd, Cymru

Rheoliadau Cyd-drefniadaeth y Marchnadoedd mewn Cynhyrchion Amaethyddol (Diwygio) (Cymru) 2022

Gwnaed

21 Tachwedd 2022

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

23 Tachwedd 2022

Yn dod i rym

14 Rhagfyr 2022

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 50(3) a 53(2) o Ddeddf Amaethyddiaeth 2020(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Fel sy’n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(2), ymgynghorwyd yn agored ac yn dryloyw â’r cyhoedd wrth lunio’r Rheoliadau hyn.

RHAN 1Rhagarweiniol

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyd-drefniadaeth y Marchnadoedd mewn Cynhyrchion Amaethyddol (Diwygio) (Cymru) 2022.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 14 Rhagfyr 2022.

(3Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

RHAN 2

Diwygio deddfwriaeth uniongyrchol yr UE a ddargedwir

Diwygio Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 543/2008

2.—(1Mae Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 543/2008 sy’n gosod rheolau manwl ar gyfer cymhwyso Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1234/2007 o ran y safonau marchnata ar gyfer cig dofednod(3) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Yn Erthygl 1, yn lle “Article 75(1)(g) of Regulation (EC) No 1308/2013” rhodder “paragraph 17(1)(d) (poultry and poultrymeat) of Schedule 5 to the Agriculture Act 2020, excluding live poultry”.

(3Yn Erthygl 13, yn lle “Article 75(3)(g) of Regulation (EU) No 1308/2013” rhodder “Article 11(1)”.

Diwygio Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 617/2008

3.  Yn Erthygl 3(5) o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 617/2008 sy’n gosod rheolau manwl ar gyfer gweithredu Rheoliad (EC) Rhif 1234/2007 o ran safonau marchnata ar gyfer wyau deor a chywion dofednod buarth fferm(4), hepgorer “75(3),”.

Diwygio Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 543/2011

4.—(1Mae Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 543/2011 sy’n gosod rheolau manwl ar gyfer cymhwyso Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1234/2007 mewn cysylltiad â’r sectorau ffrwythau a llysiau a ffrwythau a llysiau wedi eu prosesu(5) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Yn Erthygl 3(2), hepgorer “referred to in Article 75(1)(b) of Regulation (EU) No 1308/2013”.

(3Yn Erthygl 8, yn lle “Articles 75 and” rhodder “Article”.

(4Yn Erthygl 10(1), hepgorer “pursuant to Article 75 of Regulation (EU) No 1308/2013”.

(5Yn Erthygl 11(1), yn lle “Articles 75 and” rhodder “Article”.

Diwygio Rheoliad (EU) Rhif 1308/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor

5.—(1Mae Rheoliad (EU) Rhif 1308/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n sefydlu cyd-drefniadaeth y marchnadoedd mewn cynhyrchion amaethyddol(6) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Yn Erthygl 76(1), hepgorer “referred to in Article 75”.

(3Yn Erthygl 80(1)—

(a)hepgorer “point (g) of Article 75(3) and in”;

(b)ar ôl “and (3)” mewnosoder “and in Commission Delegated Regulation (EU) 2019/934 supplementing Regulation (EU) No 1308/2013 of the European Parliament and of the Council as regards wine-growing areas where the alcoholic strength may be increased, authorised oenological practices and restrictions applicable to the production and conservation of grapevine products, the minimum percentage of alcohol for by-products and their disposal, and publication of OIV files(7)”.

(4Yn Erthygl 83(1), yn lle “Notwithstanding Article 75(2), nothing” rhodder “Nothing”.

(5Yn Erthygl 85—

(a)ym mharagraff 1, hepgorer y geiriau o “and the” hyd at y diwedd;

(b)ym mharagraff 2, hepgorer “pursuant to Article 86”.

(6Yn Erthygl 90(2), hepgorer “pursuant to Article 80(3)”.

(7Yn Erthygl 228(9), hepgorer pwynt (a).

(8Yn Atodiad 7—

(a)yn Rhan 2—

(i)ym mhwynt (1), yn yr ail baragraff—

(aa)ym mhwynt (c), hepgorer yr indent cyntaf;

(bb)ym mhwynt (d), hepgorer “, subject to derogations provided for under Article 75(2),”;

(ii)ym mhwynt (3)—

(aa)ym mhwynt (b), hepgorer y geiriau o “, except for” hyd at y diwedd;

(bb)ym mhwynt (c), yn y pedwerydd indent hepgorer y geiriau o “or a mixture” hyd at y diwedd;

(cc)ym mhwynt (d), hepgorer y geiriau o “, except for” hyd at y diwedd;

(dd)hepgorer pwynt (f);

(iii)ym mhwynt (6)(a), yn lle’r geiriau o “on any list” hyd at y diwedd rhodder “set out in the list in the Appendix to Annex 2 to Regulation (EU) 2019/934”;

(iv)ym mhwynt (12), hepgorer yr ail frawddeg;

(v)ym mhwynt (13), yn y paragraff cyntaf hepgorer y geiriau o “used in” hyd at “Article 91”;

(vi)ym mhwynt (14), yn y paragraff cyntaf, ym mhwynt (a)(i), hepgorer y geiriau o “used according” hyd at “Article 91”;

(b)yn Rhan 6, ym mhwynt 1(1), hepgorer “Article 75 concerning”;

(c)yn Rhan 8—

(i)ym mhwynt (1), yn yr ail baragraff—

(aa)ym mhwynt (a), yn lle “accordance with Article 75(2)” rhodder “Commission Regulation (EEC) No 2568/91 on the characteristics of olive oil and olive-residue oil and on the relevant methods of analysis(8) and Commission Implementing Regulation (EU) No 29/2012 on marketing standards for olive oil(9),”;

(bb)ym mhwyntiau (b) ac (c), yn lle “accordance with Article 75(2)” rhodder “Regulation (EEC) No 2568/91 and Regulation (EU) No 29/2012,”;

(ii)ym mhwyntiau (2) i (6), yn lle “accordance with Article 75(2)” rhodder “Regulation (EEC) No 2568/91 and Regulation (EU) No 29/2012,”.

(9Yn Atodiad 8—

(a)yn Rhan 1—

(i)yn Adran C, ym mharagraff 7 hepgorer “, subject to any exceptions made under Article 75(2)”;

(ii)yn Adran D, ym mharagraff 1, yn lle “under Article 75(2)” rhodder “in Regulation (EU) 2019/934”;

(b)yn Rhan 2, yn Adran D, ym mharagraff 5, yn lle “prescribed under Article 75(2)” rhodder “set out in Article 14 of Regulation (EU) 2019/934”.

Diwygio Rheoliad (EU) Rhif 251/2014 Senedd Ewrop a’r Cyngor

6.—(1Mae Rheoliad (EU) Rhif 251/2014 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar y diffiniad o gynhyrchion gwin a bersawrwyd, y disgrifiad ohonynt, eu cyflwyniad, eu labelu a gwarchod eu dynodiadau daearyddol(10) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Yn Erthygl 4(4) yn lle’r geiriau o “accordance with” hyd at “Regulation (EU) No 1308/2013” rhodder “paragraphs A to D of Part 1 of Annex 8 to Regulation (EU) No 1308/2013 and Commission Delegated Regulation (EU) 2019/934 supplementing Regulation (EU) No 1308/2013 of the European Parliament and of the Council as regards wine-growing areas where the alcoholic strength may be increased, authorised oenological practices and restrictions applicable to the production and conservation of grapevine products, the minimum percentage of alcohol for by-products and their disposal, and publication of OIV files”.

Diwygio Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2019/934

7.—(1Mae Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2019/934 sy’n ategu Rheoliad (EU) Rhif 1308/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran ardaloedd tyfu gwin lle caniateir cynyddu’r cryfder alcoholaidd, arferion gwinyddol awdurdodedig a chyfyngiadau sy’n gymwys i gynhyrchiad a chadwraeth cynhyrchion gwinwydd, y ganran isaf o alcohol ar gyfer sgil-gynhyrchion a’u gwarediad, a chyhoeddi ffeiliau OIV wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Yn Erthygl 4(1)(a), hepgorer “and Article 80(3)(b) to (e)”.

(3Yn Erthygl 7(1), hepgorer “point (h) of Article 75(3) and”.

(4Yn Erthygl 9(1), yn lle “Article 75(3)(f) of Regulation (EU) No 1308/2013” rhodder “this regulation”.

Diwygio Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/935

8.—(1Mae Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/935 sy’n gosod rheolau ar gyfer cymhwyso Rheoliad (EU) Rhif 1308/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran dulliau dadansoddi ar gyfer pennu nodweddion ffisegol, cemegol ac organoleptig cynhyrchion gwinwydd a hysbysiadau am benderfyniadau Aelod-wladwriaethau ynghylch cynnydd mewn cryfder alcoholaidd naturiol(11) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Yn Erthygl 2, hepgorer “referred to in point (d) of Article 75(5) of Regulation (EU) No 1308/2013”.

RHAN 3

Diwygio rheoliadau domestig

Diwygio Rheoliadau Marchnata Cynnyrch Garddwriaethol Ffres (Cymru) 2009

9.—(1Mae Rheoliadau Marchnata Cynnyrch Garddwriaethol Ffres (Cymru) 2009(12) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2(2)—

(a)yn y diffiniad o “rheolau marchnata”, yn lle “, 75 a 76” rhodder “a 76 o Reoliad (EU) 2013,”;

(b)yn y diffiniad o “safonau marchnata penodol”, hepgorer “y darperir ar eu cyfer o dan Erthygl 75(1)(b) o Reoliad (EU) 2013”.

Diwygio Rheoliadau Wyau a Chywion (Cymru) 2010

10.—(1Mae Rheoliadau Wyau a Chywion (Cymru) 2010(13) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn y tabl yn Rhan 1 o Atodlen 2, hepgorer y rhesi sy’n dechrau ag “Erthyglau 75(2) a (3)”.

Lesley Griffiths

Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, un o Weinidogion Cymru

21 Tachwedd 2022

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau sy’n ganlyniadol ar y diwygiadau hynny a wnaed gan Ran 4 o Atodlen 7 i Ddeddf Amaethyddiaeth 2020 (p. 21).

Mae’r diwygiadau yn ymwneud â safonau marchnata ac fe’u gwneir i ddeddfwriaeth uniongyrchol yr UE a ddargedwir a deddfwriaeth ddomestig sy’n deillio o’r UE. Mae’r diwygiadau naill ai’n hepgor croesgyfeiriadau at erthyglau yn Rheoliad (EU) Rhif 1308/2013 (EUR 2013/1308) (“y Rheoliad CMO”) sydd wedi eu datgymhwyso gan Ran 4 o Atodlen 7 i Ddeddf Amaethyddiaeth 2020, ynghyd â geiriad cysylltiedig mewn rhai achosion, neu’n gweithredu i roi cyfeiriad priodol at gyfraith yr UE a ddargedwir neu at Ddeddf Amaethyddiaeth 2020 yn lle cyfeiriadau at erthyglau yn y Rheoliad CMO.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

(2)

EUR 2002/178, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(3)

EUR 2008/543, a ddiwygiwyd gan O.S. 2019/1422. Mae offerynnau diwygio eraill, ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(4)

EUR 2008/617, a ddiwygiwyd gan O.S. 2019/1422.

(5)

EUR 2011/543, a ddiwygiwyd gan O.S. 2019/822. Mae offerynnau diwygio eraill, ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(6)

EUR 2013/1308, a ddiwygiwyd gan O.S. 2019/821, O.S. 2019/831 ac O.S. 2019/1422. Mae offerynnau diwygio eraill, ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(7)

EUR 2019/934, a ddiwygiwyd gan O.S. 2020/1637 ac O.S. 2021/632.

(8)

EUR 1991/2568, a ddiwygiwyd gan O.S. 2019/1422 (a ddiwygiwyd ei hun gan O.S. 2020/1453).

(9)

EUR 2012/29, a ddiwygiwyd gan O.S. 2019/1422 (a ddiwygiwyd ei hun gan O.S. 2020/1453) ac O.S. 2022/939 (Cy. 203).

(10)

EUR 2014/251, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(11)

EUR 2019/935, a ddiwygiwyd gan O.S. 2020/1637. Mae offeryn diwygio arall nad yw’n berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(13)

O.S. 2010/1671 (Cy. 158); yr offeryn diwygio perthnasol yw O.S. 2019/463 (Cy. 111).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources