Search Legislation

Rheoliadau Bwyd (Tynnu Cydnabyddiaeth yn Ôl) (Diwygiadau Amrywiol a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2022

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2022 Rhif 112 (Cy. 40)

Ymadael Â’r Undeb Ewropeaidd, Cymru

Bwyd, Cymru

Rheoliadau Bwyd (Tynnu Cydnabyddiaeth yn Ôl) (Diwygiadau Amrywiol a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2022

Gwnaed

7 Chwefror 2022

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

9 Chwefror 2022

Yn dod i rym

3 Mawrth 2022

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 16(1)(a) ac (e), 26(1) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990(1) ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy(2).

Cynhaliwyd ymgynghoriad fel sy’n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(3).

Mae Gweinidogion Cymru wedi rhoi sylw i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn unol ag adran 48(4A) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990(4).

Enwi, cychwyn, rhychwant a chymhwyso

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Bwyd (Tynnu Cydnabyddiaeth yn Ôl) (Diwygiadau Amrywiol a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2022.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 3 Mawrth 2022.

(3Mae’r Rheoliadau hyn yn rhychwantu Cymru a Lloegr, ac maent yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio Rheoliadau Bara a Blawd 1998 a darpariaeth drosiannol

2.—(1Mae Rheoliadau Bara a Blawd 1998(5) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2(1) (dehongli)—

(a)hepgorer y diffiniadau o “EEA Agreement” a “EEA State”;

(b)ar ôl y diffiniad o “sell”, mewnosoder—

third country” means any country, other than the United Kingdom, and includes—

(a)

the Bailiwick of Guernsey;

(b)

the Bailiwick of Jersey;

(c)

the Isle of Man.

(3Yn rheoliad 3 (esemptiadau)—

(a)hepgorer paragraffau (2) a (3);

(b)yn y lle priodol, mewnosoder—

(4) These Regulations do not apply to the following bread or flour if the nature of that bread or flour is clearly indicated on the labelling—

(a)any bread produced in Wales that is to be exported to a third country;

(b)any flour produced in Wales that is—

(i)to be exported to a third country, or

(ii)for use in the production of food that is to be exported to a third country;

(c)any flour imported or moved into Wales that is for use in Wales for the production of food that is to be exported to a third country.

(4Yn rheoliad 4 (cyfansoddiad blawd)—

(a)ym mharagraff (4), yn lle is-baragraff (b) rhodder—

(b)no person shall import or move into Wales any flour, or sell any flour imported or moved into Wales by them, which does not comply with this regulation.

(b)ym mharagraff (5), yn lle “or importation into Great Britain” rhodder “, importation or movement into Wales”.

3.—(1Er gwaethaf y diwygiadau a wneir gan reoliad 2(3)(a) o’r Rheoliadau hyn, mae rheoliad 3(2) o Reoliadau Bara a Blawd 1998 yn parhau i gael effaith fel yr oedd yn union cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym.

(2Mae paragraff (1) yn peidio â chael effaith ar ddiwedd 30 Medi 2022.

Diwygio Rheoliadau Brasterau Taenadwy (Safonau Marchnata) a Llaeth a Chynhyrchion Llaeth (Diogelu Dynodiadau) (Cymru) 2008 a darpariaeth drosiannol

4.  Yn Rheoliadau Brasterau Taenadwy (Safonau Marchnata) a Llaeth a Chynhyrchion Llaeth (Diogelu Dynodiadau) (Cymru) 2008(6), hepgorer rheoliad 3 (esemptiadau).

5.—(1Er gwaethaf y diwygiad a wneir gan reoliad 4 o’r Rheoliadau hyn, mae rheoliad 3 o Reoliadau Brasterau Taenadwy (Safonau Marchnata) a Llaeth a Chynhyrchion Llaeth (Diogelu Dynodiadau) (Cymru) 2008 yn parhau i gael effaith fel yr oedd yn union cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym.

(2Mae paragraff (1) yn peidio â chael effaith ar ddiwedd 30 Medi 2022.

Diwygio Rheoliadau Cynhyrchion sy’n Cynnwys Cig etc. (Cymru) 2014 a darpariaeth drosiannol

6.  Yn Rheoliadau Cynhyrchion sy’n Cynnwys Cig etc. (Cymru) 2014(7), yn rheoliad 3 (cwmpas)—

(a)ym mharagraff (1), yn lle “baragraffau (2) a (3)” rhodder “baragraff (2)”;

(b)hepgorer paragraff (3).

7.—(1Er gwaethaf y diwygiadau a wneir gan reoliad 6 o’r Rheoliadau hyn, mae rheoliad 3(3) o Reoliadau Cynhyrchion sy’n Cynnwys Cig etc. (Cymru) 2014 yn parhau i gael effaith fel yr oedd yn union cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym.

(2Mae paragraff (1) yn peidio â chael effaith ar ddiwedd 30 Medi 2022.

Diwygio Rheoliadau Cynhyrchion Jam a Chynhyrchion Tebyg (Cymru) 2018 a darpariaeth drosiannol

8.  Yn Rheoliadau Cynhyrchion Jam a Chynhyrchion Tebyg (Cymru) 2018(8), yn rheoliad 3 (cwmpas), hepgorer paragraff (2).

9.—(1Er gwaethaf y diwygiad a wneir gan reoliad 8 o’r Rheoliadau hyn, mae rheoliad 3(2) o Reoliadau Cynhyrchion Jam a Chynhyrchion Tebyg (Cymru) 2018 yn parhau i gael effaith fel yr oedd yn union cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym.

(2Mae paragraff (1) yn peidio â chael effaith ar ddiwedd 30 Medi 2022.

Lynne Neagle

Y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant o dan awdurdod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

7 Chwefror 2022

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio nifer o offerynnau statudol mewn perthynas â chyfansoddiad bwyd. Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Mae rheoliadau 2, 4, 6 ac 8 yn dileu esemptiadau penodol ar gyfer cynhyrchion o Aelod-wladwriaethau’r UE neu wledydd yr AEE (yn ddarostyngedig i ddarpariaethau trosiannol). Nid yw’r esemptiadau’n briodol mwyach yn dilyn ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd.

Mae rheoliad 2 hefyd yn diwygio Rheoliadau Bara a Blawd 1998 (O.S. 1998/141), o ran Cymru, i ddarparu esemptiadau newydd ar gyfer bara neu flawd sydd i’w allforio i drydydd gwledydd, neu sydd i’w ddefnyddio yn unig i gynhyrchu bwyd sydd i’w allforio i drydydd gwledydd.

Mae rheoliadau 3, 5, 7 a 9 yn cyflwyno cyfnod trosiannol, sy’n dechrau â’r diwrnod y daw’r Rheoliadau hyn i rym ac sy’n dod i ben ar ddiwedd 30 Medi 2022, pan fydd yr esemptiadau sydd wedi eu dileu yn parhau i fod yn gymwys.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn: Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru, 11eg Llawr, Tŷ Southgate, Stryd Wood, Caerdydd, CF10 1EW neu oddi ar wefan yr Asiantaeth yn www.food.gov.uk/cy .

(1)

1990 p. 16; diwygiwyd adran 16(1) gan baragraff 8 o Atodlen 5 i Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (p. 28) (“Deddf 1999”). Diddymwyd adran 26(3) yn rhannol gan Atodlen 6 i Ddeddf 1999. Diwygiwyd adran 48(1) gan baragraff 8 o Atodlen 5 i Ddeddf 1999.

(2)

Rhoddwyd y swyddogaethau hynny a oedd gynt yn arferadwy gan “the Ministers” i’r Ysgrifennydd Gwladol yn unol â pharagraff 8 o Atodlen 5 i Ddeddf 1999. Trosglwyddwyd y swyddogaethau hynny, i’r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan O.S. 1999/672 fel y’i darllenir gydag adran 40(3) o Ddeddf 1999. Mae’r swyddogaethau hynny bellach yn arferadwy gan Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32), a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.

(3)

EUR 2002/178, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(4)

Mewnosodwyd adran 48(4A) gan baragraff 21 of Atodlen 5 i Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (p. 28). Trosglwyddwyd y swyddogaethau hynny a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol, i’r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan O.S. 1999/672 fel y’i darllenir gydag adran 40(3) o Ddeddf 1999. Mae’r swyddogaethau hynny bellach yn arferadwy gan Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32), a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.

(5)

O.S. 1998/141, a ddiwygiwyd gan O.S. 2011/1043, 2012/1809, 2014/2303 (Cy. 227) a 2021/616. Mae O.S. 2021/616 yn gymwys yn Lloegr yn unig. Mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(6)

O.S. 2008/1341 (Cy. 141), a ddiwygiwyd gan O.S 2012/1809. Mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(7)

O.S. 2014/3087 (Cy. 308), y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources