Search Legislation

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 4) 2021

 Help about advanced features

Advanced Features

 Help about opening options

Opening Options

Newidiadau dros amser i: Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 4) 2021

 Help about opening options

Alternative versions:

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 4) 2021. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Cofnodir newidiadau ac effeithiau gan ein tîm golygyddol mewn rhestrau sydd i'w gweld yn yr adran 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth'. Os nad yw'r effeithiau hynny wedi'u cymhwyso eto i destun y ddeddfwriaeth gan y tîm golygyddol maent hefyd wedi'u rhestru ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth yn y darpariaethau yr effeithir arnynt. Defnyddiwch y ddolen 'mwy' i agor y newidiadau a'r effeithiau sy'n berthnasol i'r ddarpariaeth rydych yn edrych arni.

View outstanding changes

Changes and effects yet to be applied to :

Offerynnau Statudol Cymru

2021 Rhif 361 (Cy. 110)

Iechyd Y Cyhoedd, Cymru

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 4) 2021

Gwnaed

am 4.03 p.m. ar 19 Mawrth 2021

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

am 6.00 p.m. ar 19 Mawrth 2021

Yn dod i rym

am 4.00 a.m. ar 20 Mawrth 2021

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 45B, 45F(2) a 45P(2) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

RHAN 1LL+CCyffredinol

Enwi a dod i rymLL+C

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 4) 2021.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym am 4.00 a.m. ar 20 Mawrth 2021.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 1 mewn grym ar 20.3.2021 am 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)

RHAN 2LL+CDiwygiadau

Diwygiadau i Reoliadau Teithio Rhyngwladol (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020LL+C

2.  Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020(2) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Rhl. 2 mewn grym ar 20.3.2021 am 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)

Diwygiad i reoliad 10LL+C

3.  Yn rheoliad 10 (gofynion ynysu: eithriadau), ar ôl paragraff (4)(m) mewnosoder—

(n)os yw cwnstabl yn ei gwneud yn ofynnol iddo wneud hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Rhl. 3 mewn grym ar 20.3.2021 am 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)

Diwygiadau i reoliad 12ELL+C

4.—(1Mae rheoliad 12E (mesurau ychwanegol sy’n gymwys i bersonau sy’n teithio o wlad neu diriogaeth a restrir yn Atodlen 3A) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Ym mharagraff (2)(d)—

(a)ar ôl paragraff (i) mewnosoder—

(ia)paragraffau 7 i 10;;

(b)mae paragraff (ii) wedi ei hepgor.

(3Ar ôl paragraff (3) mewnosoder—

(3A) Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo gofyniad i ynysu (o fewn yr ystyr a roddir gan reoliad 10(2)) yn cael ei osod ar P pan fo P wedi dod i Gymru a’i fod wedi bod mewn gwlad neu diriogaeth a restrir yn Atodlen 3A ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod sy’n dechrau â’r degfed diwrnod cyn y dyddiad y mae P yn cyrraedd Cymru.

(3B) Pan fo paragraff (3A) yn gymwys—

(a)mae rheoliadau 7, 8, 9 a 10 yn gymwys i P gyda’r addasiadau ym mharagraffau (3C) i (3F);

(b)mae’r gofyniad i ynysu sydd wedi ei osod ar P fel y’i haddesir gan baragraffau (3C) i (3F) hefyd wedi ei osod ar bob aelod o aelwyd P.

(3C) Mae rheoliad 7 yn gymwys fel pe bai—

(a)ym mharagraff (1), cyfeiriadau at “gwlad neu diriogaeth nad yw’n esempt” yn gyfeiriadau at “gwlad neu diriogaeth a restrir yn Atodlen 3A”;

(b)paragraff (4)(b) wedi ei hepgor.

(3D) Mae rheoliad 8 yn gymwys fel pe bai—

(a)ym mharagraff (1), cyfeiriadau at “gwlad neu diriogaeth nad yw’n esempt” yn gyfeiriadau at “gwlad neu diriogaeth a restrir yn Atodlen 3A”;

(b)paragraff (2)(b) wedi ei hepgor.

(3E) Mae rheoliad 9 yn gymwys fel pe bai’r canlynol wedi ei roi yn lle paragraff (2)—

(2) Nid yw rheoliadau 7 ac 8 yn gymwys i berson a ddisgrifir yn rheoliad 12E(2).

(3F) Mae rheoliad 10 yn gymwys fel pe bai—

(a)ym mharagraff (3), “baragraff (4)” wedi ei roi yn lle “baragraff (4)(b) i (k)”;

(b)y canlynol wedi ei roi yn lle paragraff (4)—

(4) Caniateir i P ymadael â’r fangre a bod y tu allan iddi am gyhyd ag y bo’n angenrheidiol—

(a)i deithio at ddiben gadael Cymru;

(b)i geisio cynhorthwy meddygol, pan fo angen y cynhorthwy hwnnw ar frys neu yn unol â chyngor ymarferydd meddygol cofrestredig;

(c)i osgoi salwch, anaf, neu risg arall o niwed;

(d)i fodloni rhwymedigaeth gyfreithiol, gan gynnwys mynd i’r llys neu fodloni amodau mechnïaeth, neu i gymryd rhan mewn achos cyfreithiol;

(e)pan fo P yn blentyn nad yw’n byw ar yr un aelwyd â rhieni P, neu ag un o rieni P, i barhau â threfniant sydd eisoes yn bodoli er mwyn cael mynediad at, a chyswllt rhwng, P a rhieni P, ac at ddibenion yr is-baragraff hwn, mae “rhiant” yn cynnwys person nad yw’n rhiant i P, ond sydd â chyfrifoldeb rhiant dros P, neu sy’n gofalu amdano;

(f)am resymau tosturiol, gan gynnwys i fynd i angladd—

(i)aelod o deulu P;

(ii)ffrind agos;

(g)at ddiben cael prawf am y coronafeirws a ddarperir neu a weinyddir o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006(3);

(h)os yw cwnstabl yn ei gwneud yn ofynnol iddo wneud hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I4Rhl. 4 mewn grym ar 20.3.2021 am 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)

Diwygiadau i reoliad 13LL+C

5.  Yn lle rheoliad 13 (gorfodi gofyniad i ynysu) rhodder—

13.(1) Pan fo gan berson awdurdodedig sail resymol dros gredu bod person (“P”) wedi ymadael â’r lle y mae’n ynysu ynddo, neu ei fod y tu allan iddo, yn groes i reoliad 7(3) neu 8(3)(b) caiff y person awdurdodedig—

(a)cyfarwyddo P i ddychwelyd i’r fangre y mae P yn preswylio ynddi;

(b)pan fo’r person awdurdodedig yn gwnstabl, symud P ymaith i’r fangre y mae P yn preswylio ynddi;

(c)pan fo’r person awdurdodedig yn gwnstabl ac nad yw’n ymarferol neu’n briodol o dan yr amgylchiadau cymryd y cam yn is-baragraff (a) neu (b), symud P ymaith i fangre wedi ei threfnu gan Weinidogion Cymru sy’n addas i P breswylio ynddi at ddibenion rheoliad 7(3) neu 8(3)(b).

(2) Pan fo gan berson awdurdodedig sail resymol dros gredu bod P yn berson sy’n dod o fewn rheoliad 12E(3A), caiff person awdurdodedig wneud unrhyw un neu ragor o’r canlynol at ddiben sicrhau bod P yn cydymffurfio â gofyniad yn rheoliadau 7 ac 8—

(a)rhoi cyfarwyddyd i P, gan gynnwys cyfarwyddyd—

(i)bod P yn aros mewn ardal benodol o borthladd i aros i gael ei gludo i fangre benodedig;

(ii)bod P yn symud i le penodol er mwyn mynd ar gludiant i fangre benodedig;

(iii)bod P yn mynd ar gludiant er mwyn teithio i fangre benodedig;

(iv)bod P yn aros yn y fangre y mae P yn preswylio ynddi;

(b)symud P ymaith i fangre benodedig.

(3) Pan fo gan berson awdurdodedig sail resymol dros gredu bod P yn berson sy’n dod o fewn rheoliad 12E(3A) a bod P wedi cyflawni trosedd o dan reoliad 14(1)(g), caiff y person awdurdodedig—

(a)ei gwneud yn ofynnol i P ddangos ei basbort neu ei ddogfen deithio i’w archwilio neu ei harchwilio,

(b)cadw P am hyd at dair awr,

(c)cynnal chwiliad o P ac unrhyw baciau sy’n perthyn i P neu sydd o dan reolaeth P, neu unrhyw gerbyd y mae P wedi teithio ynddo, am dystiolaeth, ac eithrio eitemau sy’n ddarostyngedig i fraint gyfreithiol, sy’n ymwneud â chyflawni trosedd bosibl o dan reoliad 14(1)(g), a

(d)ymafael mewn unrhyw ddogfen neu wrthrych a ganfyddir mewn chwiliad o dan is-baragraff (c) a’i chadw neu ei gadw.

(4) Nid yw paragraff (3) yn rhoi pŵer i gadw neu gynnal chwiliad o blentyn sydd ar ei ben ei hun.

(5) Rhaid i unrhyw chwiliad o dan baragraff (3) gael ei gynnal gan berson awdurdodedig sydd o’r un rhywedd â P.

(6) Nid yw paragraff (3) yn rhoi pŵer i gynnal chwiliad o ran bersonol o’r corff.

(7) Caiff person awdurdodedig sy’n arfer y pŵer ym mharagraff (1)(b) neu (c), (2)(b) neu (3) ddefnyddio grym rhesymol, os yw hynny’n angenrheidiol, wrth arfer y pŵer.

(8) Pan fo P yn blentyn, a’i fod wedi ymadael â’r fangre y mae’n preswylio ynddi, neu’r tu allan iddi, a’i fod yng nghwmni unigolyn sy’n gyfrifol amdano—

(a)caiff person awdurdodedig gyfarwyddo’r unigolyn hwnnw i fynd â P i’r fangre y mae P yn preswylio ynddi, a

(b)rhaid i’r unigolyn hwnnw, i’r graddau y bo hynny’n rhesymol ymarferol, sicrhau bod P yn cydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddyd a roddir gan berson awdurdodedig i P.

(9) Pan fo P yn blentyn, a bod gan berson awdurdodedig sail resymol dros gredu bod P yn methu â chydymffurfio â gofyniad yn rheoliad 7 neu 8 yn fynych, caiff y person awdurdodedig gyfarwyddo unrhyw unigolyn sy’n gyfrifol am P i sicrhau, i’r graddau y bo hynny’n rhesymol ymarferol, bod P yn cydymffurfio â’r gofyniad.

(10) Caiff person awdurdodedig gymryd unrhyw gamau eraill y mae’r person awdurdodedig yn ystyried eu bod yn angenrheidiol ac yn gymesur i hwyluso arfer pŵer a roddir i’r person awdurdodedig gan y rheoliad hwn.

(11) Ni chaiff person awdurdodedig arfer pŵer a roddir i’r person awdurdodedig gan y rheoliad hwn oni fo’r person awdurdodedig yn ystyried ei fod yn ddull angenrheidiol a chymesur o sicrhau y cydymffurfir â gofyniad yn rheoliad 7 neu 8.

(12) At ddibenion y rheoliad hwn—

ystyr “mangre benodedig” (“specified premises”) yw mangre a bennir o dan reoliad 7 neu fangre y bernir ei bod yn addas o dan reoliad 8;

ystyr “person awdurdodedig” (“authorised person”) yw—

(a)

cwnstabl, neu

(b)

at ddibenion paragraffau (2), (3) a (10) yn unig, swyddog mewnfudo.

Gwybodaeth Cychwyn

I5Rhl. 5 mewn grym ar 20.3.2021 am 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)

Diwygiadau i Atodlen 3ALL+C

6.—(1Mae Atodlen 3A (gwledydd a thiriogaethau sy’n ddarostyngedig i fesurau ychwanegol) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2Hepgorer y cofnodion ar gyfer “Gweriniaeth Mauritius” a “Portiwgal”.

(3Yn y lleoedd priodol mewnosoder—

Ethiopia

Oman

Qatar

Somalia.

Gwybodaeth Cychwyn

I6Rhl. 6 mewn grym ar 20.3.2021 am 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)

Vaughan Gething

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

Am 4.03 p.m. ar 19 Mawrth 2021

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/574 (Cy. 132)) (y “Rheoliadau Teithio Rhyngwladol”).

Mae’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn gosod gofynion ar bersonau sy’n dod i Gymru ar ôl bod dramor. Maent yn cynnwys gofyniad i bersonau sy’n cyrraedd Cymru ynysu am gyfnod sydd i’w bennu yn unol â’r Rheoliadau hyn.

Mae rheoliad 3 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio rheoliad 10 o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol i ddarparu y caiff person y mae’n ofynnol iddo ynysu adael ei fangre ynysu os yw cwnstabl yn ei gwneud yn ofynnol iddo wneud hynny.

Mae rheoliad 4 o’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â phersonau nad ydynt yn esempt sy’n dod i Gymru ar ôl bod mewn gwlad neu diriogaeth a restrir yn Atodlen 3A i’r Rheoliadau Teithio Ryngwladol o fewn 10 niwrnod o gyrraedd. Mae’r personau hynny wedi eu gwahardd rhag dod i Gymru. Mae person sy’n torri’r gwaharddiad hwn yn agored i hysbysiad cosb benodedig o £10,000. Mae rheoliad 4 yn gwneud darpariaeth yn ymwneud â’r gofynion ynysu sydd ar y personau hynny ac unrhyw aelod o’u haelwydydd. Mae hefyd yn gwneud darpariaeth i esemptio personél hedfan a phersonél morwrol penodol rhag y gwaharddiad rhag dod i Gymru.

Mae rheoliad 5 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio’r pwerau gorfodi sydd ar gael o dan y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol mewn perthynas â’r gofynion i hunanynysu. Mae’n caniatáu i swyddogion yr heddlu gyfarwyddo personau neu eu symud ymaith i le y maent yn ynysu ynddo os ydynt yn amau’n rhesymol bod y person yn torri gofyniad i ynysu. Mae hefyd yn darparu pwerau i bersonau awdurdodedig gan gynnwys yr heddlu, swyddogion mewnfudo, a phersonau eraill a ddynodir gan Weinidogion Cymru mewn perthynas â phersonau nad ydynt yn esempt yr amheuir eu bod yn dod i Gymru ar ôl bod mewn gwlad neu diriogaeth a restrir yn Atodlen 3A. Mae’r pwerau hyn yn cynnwys pwerau i gyfarwyddo, cadw a chynnal chwiliad.

Mae rheoliad 6 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio Atodlen 3A i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol, sy’n cynnwys y rhestr o wledydd a thiriogaethau sy’n ddarostyngedig i fesurau ychwanegol. Mae personau nad ydynt yn esempt wedi eu gwahardd rhag dod i Gymru pan fônt wedi bod mewn gwlad neu diriogaeth a restrir o fewn 10 niwrnod o gyrraedd yn unol â rheoliad 12E o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol. Mae rheoliad 6 yn hepgor Portiwgal a Gweriniaeth Mauritius o’r Rhestr yn Atodlen 3A, ac yn ychwanegu Ethiopia, Oman, Qatar a Somalia ati.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

See additional information alongside the content

Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

Timeline of Changes

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources