2021 Rhif 361 (Cy. 110)
Iechyd Y Cyhoedd, Cymru

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 4) 2021

Gwnaed
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 45B, 45F(2) a 45P(2) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 19841, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

RHAN 1Cyffredinol

Enwi a dod i rym1.

(1)

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 4) 2021.

(2)

Daw’r Rheoliadau hyn i rym am 4.00 a.m. ar 20 Mawrth 2021.

Annotations:
Commencement Information

I1Rhl. 1 mewn grym ar 20.3.2021 am 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)

RHAN 2Diwygiadau

Diwygiadau i Reoliadau Teithio Rhyngwladol (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 20202.

Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 20202 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
Annotations:
Commencement Information

I2Rhl. 2 mewn grym ar 20.3.2021 am 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)

Diwygiad i reoliad 103.

Yn rheoliad 10 (gofynion ynysu: eithriadau), ar ôl paragraff (4)(m) mewnosoder—

“(n)

os yw cwnstabl yn ei gwneud yn ofynnol iddo wneud hynny.”

Annotations:
Commencement Information

I3Rhl. 3 mewn grym ar 20.3.2021 am 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)

Diwygiadau i reoliad 12E4.

(1)

Mae rheoliad 12E (mesurau ychwanegol sy’n gymwys i bersonau sy’n teithio o wlad neu diriogaeth a restrir yn Atodlen 3A) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2)

Ym mharagraff (2)(d)—

(a)

ar ôl paragraff (i) mewnosoder—

“(ia)

paragraffau 7 i 10;”;

(b)

mae paragraff (ii) wedi ei hepgor.

(3)

Ar ôl paragraff (3) mewnosoder—

“(3A)

Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo gofyniad i ynysu (o fewn yr ystyr a roddir gan reoliad 10(2)) yn cael ei osod ar P pan fo P wedi dod i Gymru a’i fod wedi bod mewn gwlad neu diriogaeth a restrir yn Atodlen 3A ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod sy’n dechrau â’r degfed diwrnod cyn y dyddiad y mae P yn cyrraedd Cymru.

(3B)

Pan fo paragraff (3A) yn gymwys—

(a)

mae rheoliadau 7, 8, 9 a 10 yn gymwys i P gyda’r addasiadau ym mharagraffau (3C) i (3F);

(b)

mae’r gofyniad i ynysu sydd wedi ei osod ar P fel y’i haddesir gan baragraffau (3C) i (3F) hefyd wedi ei osod ar bob aelod o aelwyd P.

(3C)

Mae rheoliad 7 yn gymwys fel pe bai—

(a)

ym mharagraff (1), cyfeiriadau at “gwlad neu diriogaeth nad yw’n esempt” yn gyfeiriadau at “gwlad neu diriogaeth a restrir yn Atodlen 3A”;

(b)

paragraff (4)(b) wedi ei hepgor.

(3D)

Mae rheoliad 8 yn gymwys fel pe bai—

(a)

ym mharagraff (1), cyfeiriadau at “gwlad neu diriogaeth nad yw’n esempt” yn gyfeiriadau at “gwlad neu diriogaeth a restrir yn Atodlen 3A”;

(b)

paragraff (2)(b) wedi ei hepgor.

(3E)

Mae rheoliad 9 yn gymwys fel pe bai’r canlynol wedi ei roi yn lle paragraff (2)—

“(2)

Nid yw rheoliadau 7 ac 8 yn gymwys i berson a ddisgrifir yn rheoliad 12E(2).”

(3F)

Mae rheoliad 10 yn gymwys fel pe bai—

(a)

ym mharagraff (3), “baragraff (4)” wedi ei roi yn lle “baragraff (4)(b) i (k)”;

(b)

y canlynol wedi ei roi yn lle paragraff (4)—

“(4)

Caniateir i P ymadael â’r fangre a bod y tu allan iddi am gyhyd ag y bo’n angenrheidiol—

(a)

i deithio at ddiben gadael Cymru;

(b)

i geisio cynhorthwy meddygol, pan fo angen y cynhorthwy hwnnw ar frys neu yn unol â chyngor ymarferydd meddygol cofrestredig;

(c)

i osgoi salwch, anaf, neu risg arall o niwed;

(d)

i fodloni rhwymedigaeth gyfreithiol, gan gynnwys mynd i’r llys neu fodloni amodau mechnïaeth, neu i gymryd rhan mewn achos cyfreithiol;

(e)

pan fo P yn blentyn nad yw’n byw ar yr un aelwyd â rhieni P, neu ag un o rieni P, i barhau â threfniant sydd eisoes yn bodoli er mwyn cael mynediad at, a chyswllt rhwng, P a rhieni P, ac at ddibenion yr is-baragraff hwn, mae “rhiant” yn cynnwys person nad yw’n rhiant i P, ond sydd â chyfrifoldeb rhiant dros P, neu sy’n gofalu amdano;

(f)

am resymau tosturiol, gan gynnwys i fynd i angladd—

(i)

aelod o deulu P;

(ii)

ffrind agos;

(g)

at ddiben cael prawf am y coronafeirws a ddarperir neu a weinyddir o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 20063;

(h)

os yw cwnstabl yn ei gwneud yn ofynnol iddo wneud hynny.”

Annotations:
Commencement Information

I4Rhl. 4 mewn grym ar 20.3.2021 am 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)

Diwygiadau i reoliad 135.

Yn lle rheoliad 13 (gorfodi gofyniad i ynysu) rhodder—

“13.

(1)

Pan fo gan berson awdurdodedig sail resymol dros gredu bod person (“P”) wedi ymadael â’r lle y mae’n ynysu ynddo, neu ei fod y tu allan iddo, yn groes i reoliad 7(3) neu 8(3)(b) caiff y person awdurdodedig—

(a)

cyfarwyddo P i ddychwelyd i’r fangre y mae P yn preswylio ynddi;

(b)

pan fo’r person awdurdodedig yn gwnstabl, symud P ymaith i’r fangre y mae P yn preswylio ynddi;

(c)

pan fo’r person awdurdodedig yn gwnstabl ac nad yw’n ymarferol neu’n briodol o dan yr amgylchiadau cymryd y cam yn is-baragraff (a) neu (b), symud P ymaith i fangre wedi ei threfnu gan Weinidogion Cymru sy’n addas i P breswylio ynddi at ddibenion rheoliad 7(3) neu 8(3)(b).

(2)

Pan fo gan berson awdurdodedig sail resymol dros gredu bod P yn berson sy’n dod o fewn rheoliad 12E(3A), caiff person awdurdodedig wneud unrhyw un neu ragor o’r canlynol at ddiben sicrhau bod P yn cydymffurfio â gofyniad yn rheoliadau 7 ac 8—

(a)

rhoi cyfarwyddyd i P, gan gynnwys cyfarwyddyd—

(i)

bod P yn aros mewn ardal benodol o borthladd i aros i gael ei gludo i fangre benodedig;

(ii)

bod P yn symud i le penodol er mwyn mynd ar gludiant i fangre benodedig;

(iii)

bod P yn mynd ar gludiant er mwyn teithio i fangre benodedig;

(iv)

bod P yn aros yn y fangre y mae P yn preswylio ynddi;

(b)

symud P ymaith i fangre benodedig.

(3)

Pan fo gan berson awdurdodedig sail resymol dros gredu bod P yn berson sy’n dod o fewn rheoliad 12E(3A) a bod P wedi cyflawni trosedd o dan reoliad 14(1)(g), caiff y person awdurdodedig—

(a)

ei gwneud yn ofynnol i P ddangos ei basbort neu ei ddogfen deithio i’w archwilio neu ei harchwilio,

(b)

cadw P am hyd at dair awr,

(c)

cynnal chwiliad o P ac unrhyw baciau sy’n perthyn i P neu sydd o dan reolaeth P, neu unrhyw gerbyd y mae P wedi teithio ynddo, am dystiolaeth, ac eithrio eitemau sy’n ddarostyngedig i fraint gyfreithiol, sy’n ymwneud â chyflawni trosedd bosibl o dan reoliad 14(1)(g), a

(d)

ymafael mewn unrhyw ddogfen neu wrthrych a ganfyddir mewn chwiliad o dan is-baragraff (c) a’i chadw neu ei gadw.

(4)

Nid yw paragraff (3) yn rhoi pŵer i gadw neu gynnal chwiliad o blentyn sydd ar ei ben ei hun.

(5)

Rhaid i unrhyw chwiliad o dan baragraff (3) gael ei gynnal gan berson awdurdodedig sydd o’r un rhywedd â P.

(6)

Nid yw paragraff (3) yn rhoi pŵer i gynnal chwiliad o ran bersonol o’r corff.

(7)

Caiff person awdurdodedig sy’n arfer y pŵer ym mharagraff (1)(b) neu (c), (2)(b) neu (3) ddefnyddio grym rhesymol, os yw hynny’n angenrheidiol, wrth arfer y pŵer.

(8)

Pan fo P yn blentyn, a’i fod wedi ymadael â’r fangre y mae’n preswylio ynddi, neu’r tu allan iddi, a’i fod yng nghwmni unigolyn sy’n gyfrifol amdano—

(a)

caiff person awdurdodedig gyfarwyddo’r unigolyn hwnnw i fynd â P i’r fangre y mae P yn preswylio ynddi, a

(b)

rhaid i’r unigolyn hwnnw, i’r graddau y bo hynny’n rhesymol ymarferol, sicrhau bod P yn cydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddyd a roddir gan berson awdurdodedig i P.

(9)

Pan fo P yn blentyn, a bod gan berson awdurdodedig sail resymol dros gredu bod P yn methu â chydymffurfio â gofyniad yn rheoliad 7 neu 8 yn fynych, caiff y person awdurdodedig gyfarwyddo unrhyw unigolyn sy’n gyfrifol am P i sicrhau, i’r graddau y bo hynny’n rhesymol ymarferol, bod P yn cydymffurfio â’r gofyniad.

(10)

Caiff person awdurdodedig gymryd unrhyw gamau eraill y mae’r person awdurdodedig yn ystyried eu bod yn angenrheidiol ac yn gymesur i hwyluso arfer pŵer a roddir i’r person awdurdodedig gan y rheoliad hwn.

(11)

Ni chaiff person awdurdodedig arfer pŵer a roddir i’r person awdurdodedig gan y rheoliad hwn oni fo’r person awdurdodedig yn ystyried ei fod yn ddull angenrheidiol a chymesur o sicrhau y cydymffurfir â gofyniad yn rheoliad 7 neu 8.

(12)

At ddibenion y rheoliad hwn—

ystyr “mangre benodedig” (“specified premises”) yw mangre a bennir o dan reoliad 7 neu fangre y bernir ei bod yn addas o dan reoliad 8;

ystyr “person awdurdodedig” (“authorised person”) yw—

(a)

cwnstabl, neu

(b)

at ddibenion paragraffau (2), (3) a (10) yn unig, swyddog mewnfudo.”

Annotations:
Commencement Information

I5Rhl. 5 mewn grym ar 20.3.2021 am 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)

Diwygiadau i Atodlen 3A6.

(1)

Mae Atodlen 3A (gwledydd a thiriogaethau sy’n ddarostyngedig i fesurau ychwanegol) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)

Hepgorer y cofnodion ar gyfer “Gweriniaeth Mauritius” a “Portiwgal”.

(3)

Yn y lleoedd priodol mewnosoder—

“Ethiopia”

“Oman”

“Qatar”

“Somalia”.

Annotations:
Commencement Information

I6Rhl. 6 mewn grym ar 20.3.2021 am 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)

Vaughan Gething
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/574 (Cy. 132)) (y “Rheoliadau Teithio Rhyngwladol”).

Mae’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn gosod gofynion ar bersonau sy’n dod i Gymru ar ôl bod dramor. Maent yn cynnwys gofyniad i bersonau sy’n cyrraedd Cymru ynysu am gyfnod sydd i’w bennu yn unol â’r Rheoliadau hyn.

Mae rheoliad 3 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio rheoliad 10 o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol i ddarparu y caiff person y mae’n ofynnol iddo ynysu adael ei fangre ynysu os yw cwnstabl yn ei gwneud yn ofynnol iddo wneud hynny.

Mae rheoliad 4 o’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â phersonau nad ydynt yn esempt sy’n dod i Gymru ar ôl bod mewn gwlad neu diriogaeth a restrir yn Atodlen 3A i’r Rheoliadau Teithio Ryngwladol o fewn 10 niwrnod o gyrraedd. Mae’r personau hynny wedi eu gwahardd rhag dod i Gymru. Mae person sy’n torri’r gwaharddiad hwn yn agored i hysbysiad cosb benodedig o £10,000. Mae rheoliad 4 yn gwneud darpariaeth yn ymwneud â’r gofynion ynysu sydd ar y personau hynny ac unrhyw aelod o’u haelwydydd. Mae hefyd yn gwneud darpariaeth i esemptio personél hedfan a phersonél morwrol penodol rhag y gwaharddiad rhag dod i Gymru.

Mae rheoliad 5 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio’r pwerau gorfodi sydd ar gael o dan y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol mewn perthynas â’r gofynion i hunanynysu. Mae’n caniatáu i swyddogion yr heddlu gyfarwyddo personau neu eu symud ymaith i le y maent yn ynysu ynddo os ydynt yn amau’n rhesymol bod y person yn torri gofyniad i ynysu. Mae hefyd yn darparu pwerau i bersonau awdurdodedig gan gynnwys yr heddlu, swyddogion mewnfudo, a phersonau eraill a ddynodir gan Weinidogion Cymru mewn perthynas â phersonau nad ydynt yn esempt yr amheuir eu bod yn dod i Gymru ar ôl bod mewn gwlad neu diriogaeth a restrir yn Atodlen 3A. Mae’r pwerau hyn yn cynnwys pwerau i gyfarwyddo, cadw a chynnal chwiliad.

Mae rheoliad 6 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio Atodlen 3A i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol, sy’n cynnwys y rhestr o wledydd a thiriogaethau sy’n ddarostyngedig i fesurau ychwanegol. Mae personau nad ydynt yn esempt wedi eu gwahardd rhag dod i Gymru pan fônt wedi bod mewn gwlad neu diriogaeth a restrir o fewn 10 niwrnod o gyrraedd yn unol â rheoliad 12E o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol. Mae rheoliad 6 yn hepgor Portiwgal a Gweriniaeth Mauritius o’r Rhestr yn Atodlen 3A, ac yn ychwanegu Ethiopia, Oman, Qatar a Somalia ati.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.