- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
Offerynnau Statudol Cymru
Ymadael Â’r Undeb Ewropeaidd, Cymru
Iechyd Planhigion, Cymru
Gwnaed
3 Mawrth 2021
Yn dod i rym
4 Mawrth 2021
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraffau 1(1) ac 11M o Atodlen 2 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018(1).
Gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd drwy benderfyniad ganddi yn unol â pharagraffau 1(8) ac 8F(7) o Atodlen 7 i’r Ddeddf honno(2).
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2021.
(2) Deuant i rym drannoeth y diwrnod y’u gwneir.
2.—(1) Mae Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion ac Organeddau a Addaswyd yn Enetig) (Cymru) 2020(3) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2(1), yn y lle priodol, mewnosoder—
“ystyr “pasbort planhigion” (“plant passport”) yw pasbort sy’n basbort planhigion y DU neu’n basbort planhigion arall a ganiateir;”.
(3) Yn rheoliad 42—
(a)yn y pennawd, hepgorer “y DU”;
(b)ym mharagraff (1)(b) ac (c), hepgorer “y DU” yn y ddau le y mae’n digwydd.
(4) Yn Atodlen 3, yn Rhan 1, yn y tabl—
(a)yn y cofnod sy’n ymwneud ag Erthygl 79(1), yn y golofn gyntaf, yn lle “a 92a” rhodder “, 92a a 95a(2)”;
(b)yn y cofnod sy’n ymwneud ag Erthygl 80(1), yn y golofn gyntaf, yn lle “a 92a” rhodder “, 92a a 95a(2)”;
(c)yn y cofnod sy’n ymwneud ag Erthygl 93(5), yn yr ail golofn, yn lle “amnewid y DU” rhodder “penodol”;
(d)ar ôl y cofnod sy’n ymwneud ag Erthygl 93(5) mewnosoder—
| “Erthygl 95a(1) | Yn gwahardd cyflwyno uned fasnach GI berthnasol i Brydain Fawr o Ogledd Iwerddon oni bai bod y pasbort planhigion a oedd yn ofynnol ar gyfer ei symud o fewn Gogledd Iwerddon yn dod gyda hi.”. |
Lesley Griffiths
Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
3 Mawrth 2021
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraffau 1(1) ac 11M o Atodlen 2 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p. 16) er mwyn ymdrin ag unrhyw fethiant yng nghyfraith yr UE a ddargedwir i weithredu’n effeithiol a diffygion eraill ac i ymdrin â materion sy’n deillio o’r Protocol ar Iwerddon/Gogledd Iwerddon yn y cytundeb ymadael â’r UE, neu faterion sy’n gysylltiedig ag ef.
Mae’r Rheoliadau hyn yn gysylltiedig â Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2021 (O.S. 2021/79) ac yn diwygio Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion ac Organeddau a Addaswyd yn Enetig) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/206 (Cy. 48)).
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.
2018 p. 16; mewnosodwyd paragraff 11M o Atodlen 2 gan adran 22 o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020 (p. 1). Gweler adran 20(1) o Ddeddf 2018 am y diffiniad o “devolved authority”.
Mae’r cyfeiriadau yn Neddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 at Gynulliad Cenedlaethol Cymru bellach yn cael effaith fel cyfeiriadau at Senedd Cymru, yn rhinwedd adran 150A(2) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).
O.S. 2020/206 (Cy. 48), a ddiwygiwyd gan O.S. 2020/1134 (Cy. 259), O.S. 2020/1303 (Cy. 288) ac O.S. 2020/1628 (Cy. 342).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: