Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2021
Enwi a chychwyn1.
(1)
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2021.
(2)
Deuant i rym drannoeth y diwrnod y’u gwneir.
Diwygio Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion ac Organeddau a Addaswyd yn Enetig) (Cymru) 20202.
(1)
(2)
“ystyr “pasbort planhigion” (“plant passport”) yw pasbort sy’n basbort planhigion y DU neu’n basbort planhigion arall a ganiateir;”.
(3)
Yn rheoliad 42—
(a)
yn y pennawd, hepgorer “y DU”;
(b)
ym mharagraff (1)(b) ac (c), hepgorer “y DU” yn y ddau le y mae’n digwydd.
(4)
Yn Atodlen 3, yn Rhan 1, yn y tabl—
(a)
yn y cofnod sy’n ymwneud ag Erthygl 79(1), yn y golofn gyntaf, yn lle “a 92a” rhodder “, 92a a 95a(2)”;
(b)
yn y cofnod sy’n ymwneud ag Erthygl 80(1), yn y golofn gyntaf, yn lle “a 92a” rhodder “, 92a a 95a(2)”;
(c)
yn y cofnod sy’n ymwneud ag Erthygl 93(5), yn yr ail golofn, yn lle “amnewid y DU” rhodder “penodol”;
(d)
“Erthygl 95a(1)
Yn gwahardd cyflwyno uned fasnach GI berthnasol i Brydain Fawr o Ogledd Iwerddon oni bai bod y pasbort planhigion a oedd yn ofynnol ar gyfer ei symud o fewn Gogledd Iwerddon yn dod gyda hi.”.
Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraffau 1(1) ac 11M o Atodlen 2 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p. 16) er mwyn ymdrin ag unrhyw fethiant yng nghyfraith yr UE a ddargedwir i weithredu’n effeithiol a diffygion eraill ac i ymdrin â materion sy’n deillio o’r Protocol ar Iwerddon/Gogledd Iwerddon yn y cytundeb ymadael â’r UE, neu faterion sy’n gysylltiedig ag ef.
Mae’r Rheoliadau hyn yn gysylltiedig â Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2021 (O.S. 2021/79) ac yn diwygio Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion ac Organeddau a Addaswyd yn Enetig) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/206 (Cy. 48)).
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.