Offerynnau Statudol Cymru

2021 Rhif 239 (Cy. 62)

Ymadael Â’r Undeb Ewropeaidd, Cymru

Iechyd Planhigion, Cymru

Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2021

Gwnaed

3 Mawrth 2021

Yn dod i rym

4 Mawrth 2021

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraffau 1(1) ac 11M o Atodlen 2 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018(1).

Gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd drwy benderfyniad ganddi yn unol â pharagraffau 1(8) ac 8F(7) o Atodlen 7 i’r Ddeddf honno(2).

Enwi a chychwyn

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2021.

(2Deuant i rym drannoeth y diwrnod y’u gwneir.

Diwygio Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion ac Organeddau a Addaswyd yn Enetig) (Cymru) 2020

2.—(1Mae Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion ac Organeddau a Addaswyd yn Enetig) (Cymru) 2020(3) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2(1), yn y lle priodol, mewnosoder—

ystyr “pasbort planhigion” (“plant passport”) yw pasbort sy’n basbort planhigion y DU neu’n basbort planhigion arall a ganiateir;.

(3Yn rheoliad 42—

(a)yn y pennawd, hepgorer “y DU”;

(b)ym mharagraff (1)(b) ac (c), hepgorer “y DU” yn y ddau le y mae’n digwydd.

(4Yn Atodlen 3, yn Rhan 1, yn y tabl—

(a)yn y cofnod sy’n ymwneud ag Erthygl 79(1), yn y golofn gyntaf, yn lle “a 92a” rhodder “, 92a a 95a(2)”;

(b)yn y cofnod sy’n ymwneud ag Erthygl 80(1), yn y golofn gyntaf, yn lle “a 92a” rhodder “, 92a a 95a(2)”;

(c)yn y cofnod sy’n ymwneud ag Erthygl 93(5), yn yr ail golofn, yn lle “amnewid y DU” rhodder “penodol”;

(d)ar ôl y cofnod sy’n ymwneud ag Erthygl 93(5) mewnosoder—

Erthygl 95a(1)Yn gwahardd cyflwyno uned fasnach GI berthnasol i Brydain Fawr o Ogledd Iwerddon oni bai bod y pasbort planhigion a oedd yn ofynnol ar gyfer ei symud o fewn Gogledd Iwerddon yn dod gyda hi..

Lesley Griffiths

Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru

3 Mawrth 2021

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraffau 1(1) ac 11M o Atodlen 2 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p. 16) er mwyn ymdrin ag unrhyw fethiant yng nghyfraith yr UE a ddargedwir i weithredu’n effeithiol a diffygion eraill ac i ymdrin â materion sy’n deillio o’r Protocol ar Iwerddon/Gogledd Iwerddon yn y cytundeb ymadael â’r UE, neu faterion sy’n gysylltiedig ag ef.

Mae’r Rheoliadau hyn yn gysylltiedig â Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2021 (O.S. 2021/79) ac yn diwygio Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion ac Organeddau a Addaswyd yn Enetig) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/206 (Cy. 48)).

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

(1)

2018 p. 16; mewnosodwyd paragraff 11M o Atodlen 2 gan adran 22 o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020 (p. 1). Gweler adran 20(1) o Ddeddf 2018 am y diffiniad o “devolved authority”.

(2)

Mae’r cyfeiriadau yn Neddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 at Gynulliad Cenedlaethol Cymru bellach yn cael effaith fel cyfeiriadau at Senedd Cymru, yn rhinwedd adran 150A(2) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).