- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
7.—(1) Mae unrhyw beth sydd, yn union cyn y dyddiad trosglwyddo, wedi cael ei wneud neu wrthi’n cael ei wneud gan Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre, neu mewn perthynas â hi wrth arfer swyddogaethau GGGC, neu mewn cysylltiad â’r swyddogaethau hynny, i gael effaith ar neu ar ôl y dyddiad trosglwyddo fel pe bai’n cael ei wneud gan IGDC neu mewn perthynas ag ef.
(2) I’r graddau y mae’n ofynnol er mwyn rhoi effaith i baragraff (1), mae cyfeiriad mewn unrhyw ddogfen at Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre i’w ddehongli ar ac ar ôl y dyddiad trosglwyddo fel cyfeiriad at IGDC.
(3) Yn ddarostyngedig i erthygl 3(8), nid yw unrhyw hawl i derfynu neu i amrywio contract, trefniant neu offeryn i weithredu neu i ddod yn arferadwy, ac nid yw unrhyw ddarpariaeth mewn unrhyw gontract, trefniant neu offeryn i weithredu neu i ddod yn arferadwy neu i gael ei thorri, oherwydd unrhyw drosglwyddiad o dan y Gorchymyn hwn neu oherwydd unrhyw weithrediad arall o’r Gorchymyn hwn.
(4) Mae’r trosglwyddiadau y darperir ar eu cyfer gan y Gorchymyn hwn i’w gwneud—
(a)ni waeth a oes unrhyw ofyniad ar gyfer cydsyniad a fyddai fel arall yn gymwys (pa un a yw’n codi o dan unrhyw ddeddfiad, offeryn, cytundeb neu fel arall),
(b)pa un a fyddent fel arall yn gallu cael eu trosglwyddo ai peidio, ac
(c)ni waeth a oes unrhyw ddarpariaeth (o ba natur bynnag) a fyddai fel arall yn atal y trosglwyddiadau hynny neu’n cyfyngu arnynt.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: