Search Legislation

Rheolau Etholiadau Lleol (Prif Ardaloedd) (Cymru) 2021

Newidiadau dros amser i: Rheolau Etholiadau Lleol (Prif Ardaloedd) (Cymru) 2021

 Help about opening options

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Rheolau Etholiadau Lleol (Prif Ardaloedd) (Cymru) 2021. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.

Offerynnau Statudol Cymru

2021 Rhif 1459 (Cy. 374)

Llywodraeth Leol, Cymru

Cynrychiolaeth Y Bobl, Cymru

Rheolau Etholiadau Lleol (Prif Ardaloedd) (Cymru) 2021

Gwnaed

15 Rhagfyr 2021

Yn dod i rym

17 Rhagfyr 2021

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 36A(1), (2), (4), (5) a (9) o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983(1) ac adran 26(2) o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993(2), yn gwneud y Rheolau a ganlyn.

Yn unol ag adran 36A(7) o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983, mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â’r personau hynny yr oeddent o’r farn eu bod yn briodol.

Yn unol ag adran 36A(10) o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983, gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad(3).

Addasiadau (ddim yn newid testun)

C1Rheolau cymhwyswyd (gydag addasiadau) (10.3.2022) gan S.I. 2007/236, Atod. 4 Rhn. 3 (fel eu hamnewidiwyd gan Rheoliadau Etholiadau Lleol (Diwygiadau Amrywiol a Chanlyniadol) (Cymru) 2022 (O.S. 2022/263), rhl. 1(2), Atod. 3 para. 4 (ynghyd â rhl. 12(f)))

Enwi a chychwynLL+C

1.  Enw’r Rheolau hyn yw Rheolau Etholiadau Lleol (Prif Ardaloedd) (Cymru) 2021 a deuant i rym ar 17 Rhagfyr 2021.

Addasiadau (ddim yn newid testun)

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rheol 1 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1

Darpariaeth drosiannolLL+C

2.  Nid yw dod â’r Rheolau hyn i rym yn effeithio ar gynnal etholiad cynghorwyr i gyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol pe bai’r bleidlais yn cael ei chynnal, pe ceid gornest yn yr etholiad, cyn 5 Mai 2022.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Rheol 2 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1

DehongliLL+C

3.—(1Yn y Rheolau hyn—

ystyr “bwrdeistref sirol” (“county borough”) yw bwrdeistref sirol yng Nghymru;

ystyr “Deddf 1983” (“the 1983 Act”) yw Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983;

ystyr “diwrnod eithriedig” (“excluded day”) yw diwrnod sydd—

(a)

yn ddydd Sadwrn;

(b)

yn ddydd Sul;

(c)

yn Noswyl Nadolig;

(d)

yn Ddydd Nadolig;

(e)

yn ddydd Gwener y Groglith;

(f)

yn ddiwrnod sy’n ŵyl banc yng Nghymru a Lloegr o dan Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971(4);

(g)

[F1yn ddiwrnod a bennir ar gyfer diolchgarwch neu alaru cyhoeddus;]

mae i “gwybodaeth am gyfeiriad cartref” (“home address information”) o ran person a enwebir—

(a)

yn Atodlen 1, yr ystyr a roddir gan reol 13(3) o’r Atodlen honno, a

(b)

yn Atodlen 2, yr ystyr a roddir gan reol 13(3) o’r Atodlen honno;

ystyr “prif ardal” (“principal area”) yw sir neu fwrdeistref sirol;

ystyr “Rheoliadau Cyfuno Pleidleisiau” (“the Combination of Polls Regulations”) yw Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cyfuno Pleidleisiau) (Cymru a Lloegr) 2004(5);

ystyr “sir” (“county”) yw sir yng Nghymru.

(2At ddibenion y Rheolau hyn, mae etholiad yn “etholiad perthnasol” os yw’n un o’r etholiadau a ganlyn a bod y bleidlais yn yr etholiad yn cael ei chynnal ynghyd â’r bleidlais mewn etholiad cynghorwyr i gyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol—

(a)etholiad seneddol;

(b)etholiad cynghorwyr i gyngor cymuned;

(c)etholiad maer, hynny yw, etholiad a gynhelir o dan Reoliadau Awdurdodau Lleol (Etholiadau Maerol) (Cymru a Lloegr) 2007(6);

(d)etholiad comisiynydd heddlu a throseddu, hynny yw, etholiad comisiynydd heddlu a throseddu yn unol â Phennod 6 o Ran 1 o Ddeddf Diwygio’r Heddlu a Chyfrifoldeb Cymdeithasol 2011(7).

(3Yn y Rheolau hyn, oni nodir yn wahanol, mae i’r geiriau a’r ymadroddion Cymraeg a ganlyn sy’n cyfateb i eiriau ac ymadroddion Saesneg a ddefnyddir yn Neddf 1983 yr un ystyr â’r geiriau a’r ymadroddion hynny yn y Ddeddf honno (gweler [F2adrannau 202(1) a 203(1)](8) o’r Ddeddf honno)—

“anabledd” (“disability”);

“cofnod cofnodion dienw” (“record of anonymous entries”);

“cofnod dienw” (“anonymous entry);

“deiseb etholiad” (“election petition”);

“etholwr” (“elector”);

“llys etholiad” (“election court”);

“pleidleisiwr” (“voter”);

“rhestr dirprwyon” (“list of proxies”);

“rhestr pleidleiswyr post” (“postal voters list”);

“rhestr pleidleiswyr post drwy ddirprwy” (“proxy postal voters list”);

“swyddog priodol” (“proper officer”).

[F3system mwyafrif syml” (“simple majority system”)

system pleidlais sengl drosglwyddadwy” (“single transferable vote system”)]

Diwygiadau Testunol

Addasiadau (ddim yn newid testun)

C3Rheol 3 cymhwyswyd (gydag addasiadau) (18.7.2025) gan Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 (O.S. 2025/864), ergl. 1(2), Atod. 3 parau. 22, 23 (ynghyd ag ergl. 1(4))

Gwybodaeth Cychwyn

I3Rheol 3 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1

Adran 22(3)(a) o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000: defnyddio “Annibynnol”LL+C

4.  At ddibenion adran 22(3)(a) o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000(9), caniateir rhoi’r disgrifiad “Annibynnol” mewn papur enwebu ymgeisydd wrth ethol cynghorwyr i gyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru yn lle, neu yn ogystal â’r disgrifiad “Independent”.

Addasiadau (ddim yn newid testun)

Gwybodaeth Cychwyn

I4Rheol 4 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1

Cynnal etholiadau i gyngor prif ardalLL+C

5.—(1Mae Atodlen 1 yn nodi’r rheolau sy’n gymwys wrth gynnal etholiad cynghorwyr i gyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol pan na chynhelir y bleidlais yn yr etholiad ynghyd â’r bleidlais mewn etholiad arall.

(2Mae cyfeiriadau yn y rheolau yn Atodlen 1 at y swyddog canlyniadau yn gyfeiriadau at y swyddog canlyniadau yn yr etholiad cynghorwyr i gyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol.

(3Mae Atodlen 2 yn nodi’r rheolau sy’n gymwys wrth gynnal etholiad cynghorwyr i gyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol pan gynhelir y bleidlais yn yr etholiad ynghyd â’r bleidlais mewn un neu ragor o etholiadau perthnasol.

(4Mae cyfeiriadau yn y rheolau yn Atodlen 2 at y swyddog canlyniadau cydlynol yn gyfeiriadau at y swyddog canlyniadau sydd, o dan reoliad 4 o’r Rheoliadau Cyfuno Pleidleisiau, yn gyfrifol am gyflawni swyddogaethau a bennir yn rheoliad 5 o’r Rheoliadau hynny.

(5Mae cyfeiriadau yn y rheolau yn Atodlen 2 at y swyddog canlyniadau yn gyfeiriadau at y swyddog canlyniadau yn yr etholiad cynghorwyr i gyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol (p’un a yw’r person hwnnw hefyd yn swyddog canlyniadau cydlynol ai peidio), oni bai bod rheol benodol yn darparu fel arall.

(6Pan fo rheol yn Atodlen 1 neu 2 yn ei gwneud yn ofynnol i’r swyddog canlyniadau gyhoeddi dogfen, yna (oni bai bod y rheol yn darparu fel arall) rhaid i’r ddogfen gael ei chyhoeddi—

(a)ar-lein, a

(b)mewn unrhyw ffyrdd eraill y mae’r swyddog canlyniadau o’r farn eu bod yn briodol er mwyn dod â chynnwys y ddogfen i sylw’r cyhoedd.

(7Pan fo rheol yn Atodlen 1 neu 2 yn ei gwneud yn ofynnol i hysbysiad gael ei roi, neu’n awdurdodi rhoi hysbysiad, caniateir i’r hysbysiad—

(a)cael ei anfon drwy’r post,

(b)cael ei anfon yn electronig, neu

(c)cael ei ddanfon yn bersonol.

Addasiadau (ddim yn newid testun)

C5Rheol 5 cymhwyswyd (gydag addasiadau) (18.7.2025) gan Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 (O.S. 2025/864), ergl. 1(2), Atod. 3 parau. 22, 24 (ynghyd ag ergl. 1(4))

Gwybodaeth Cychwyn

I5Rheol 5 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1

Rebecca Evans

Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru

15 Rhagfyr 2021

ATODLENNI

Rheol 5(1)

ATODLEN 1LL+CRheolau cynnal etholiad cynghorwyr ar gyfer prif ardal pan na chynhelir y bleidlais ynghyd â phleidlais mewn etholiad arall

Gwybodaeth Cychwyn

I6Atod. 1 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1

RHAN 1LL+CDarpariaethau ynglŷn ag Amser

AmserlenLL+C

1.—(1Rhaid i drafodion yr etholiad gael eu cynnal yn unol â’r amserlen a ganlyn.

Amserlen
TrafodionAmser
Cyhoeddi hysbysiad etholiadDim hwyrach na’r pumed diwrnod ar hugain cyn diwrnod yr etholiad
Danfon papurau enwebuDim hwyrach na 4 p.m. ar y pedwerydd diwrnod ar bymtheg cyn diwrnod yr etholiad
Danfon hysbysiadau tynnu ymgeisyddiaeth yn ôlDim hwyrach na 4 p.m. ar y pedwerydd diwrnod ar bymtheg cyn diwrnod yr etholiad
Cyhoeddi datganiad ynghylch y personau a enwebwydDim hwyrach na 4 p.m. ar y deunawfed diwrnod cyn diwrnod yr etholiad

Hysbysiad o etholiad heb ornest

Hysbysiad o bleidlais mewn etholiad lle ceir gornest

Dim hwyrach na’r chweched diwrnod cyn diwrnod yr etholiad
PleidleisioRhwng 7 a.m. a 10 p.m. ar ddiwrnod yr etholiad

(2Mae paragraff (3) yn gymwys pan fo—

(a)papur enwebu yn cael ei anfon yn electronig neu ei gyflwyno ar-lein yn unol â threfniadau a nodir yn yr hysbysiad etholiad (gweler rheol 3), neu

(b)hysbysiad tynnu ymgeisyddiaeth yn ôl o dan reol 12 yn cael ei anfon yn electronig.

(3At ddiben penderfynu a yw’r papur neu’r hysbysiad wedi ei ddanfon yn unol â’r amserlen ym mharagraff (1), mae’r papur neu’r hysbysiad i’w drin fel pe bai wedi ei ddanfon ar yr amser y mae ei ddanfon yn cael ei gofnodi ar y system gyfrifiadurol a ddefnyddir gan y swyddog canlyniadau ar gyfer derbyn y papur neu’r hysbysiad.

(4Yn y rheol hon, ystyr “diwrnod yr etholiad” yw’r diwrnod a bennwyd yn hysbysiad yr etholiad fel y diwrnod y câi pleidlais ei chynnal pe ceid gornest.

Gwybodaeth Cychwyn

I7Atod. 1 para. 1 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1

Cyfrif amserLL+C

2.—(1Mae diwrnod eithriedig i’w ddiystyru wrth gyfrif unrhyw gyfnod a nodir yn ail golofn yr amserlen yn rheol 1.

(2Ni chaniateir i drafodion o dan y rheolau hyn hyd at gau’r bleidlais gael eu cynnal ar ddiwrnod eithriedig.

(3Nid yw’n ofynnol i’r swyddog canlyniadau fwrw ymlaen â chyfrif pleidleisiau ar ddiwrnod eithriedig.

Gwybodaeth Cychwyn

I8Atod. 1 para. 2 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1

RHAN 2LL+CHysbysiad Etholiad, Enwebu a Dull Ethol

Hysbysiad EtholiadLL+C

Hysbysiad etholiadLL+C

3.—(1Rhaid i’r swyddog canlyniadau gyhoeddi hysbysiad o’r etholiad.

(2Rhaid i’r hysbysiad ddatgan—

(a)nifer y cynghorwyr sydd i’w dychwelyd ar gyfer pob ward etholiadol yn y brif ardal,

(b)dyddiad y bleidlais os ceir gornest,

(c)y man lle gellir cael ffurflenni papurau enwebu a pha bryd a gwybodaeth am sut y gellir cael ffurflenni papur enwebu ar-lein a pha bryd,

(d)yr amser hwyraf ar gyfer danfon papurau enwebu, ac

(e)y man lle gellir danfon papurau enwebu a’r amserau pan ganiateir eu danfon i’r man hwnnw.

(3Rhaid i’r hysbysiad ddatgan hefyd erbyn pa ddyddiad y mae’n rhaid i geisiadau am bleidleisio drwy’r post neu drwy ddirprwy, a cheisiadau a hysbysiadau eraill ynghylch pleidleisio drwy’r post neu drwy ddirprwy, gyrraedd y swyddog cofrestru er mwyn bod yn effeithiol ar gyfer yr etholiad.

(4Rhaid i’r man a bennir yn yr hysbysiad fel y man lle gellir cael ffurflenni papurau enwebu, a lle gellir eu danfon, fod yn swyddfeydd cyngor y brif ardal.

(5Rhaid i’r swyddog canlyniadau hefyd gynnwys yn yr hysbysiad ddatganiad danfon electronig.

(6Mae datganiad danfon electronig yn ddatganiad y caniateir i bapurau enwebu gael eu danfon—

(a)drwy eu hanfon yn electronig i gyfeiriad ebost yn unol â threfniadau a nodir yn y datganiad,

(b)drwy eu cyflwyno ar-lein yn unol â threfniadau a nodir yn y datganiad, neu

(c)naill ai drwy eu hanfon yn electronig fel y crybwyllir yn is-baragraff (a) neu drwy eu cyflwyno ar-lein fel y crybwyllir yn is-baragraff (b).

Gwybodaeth Cychwyn

I9Atod. 1 para. 3 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1

EnwebuLL+C

Dyletswydd y swyddog canlyniadau i gyflenwi ffurflenni enwebu etc.LL+C

4.—(1Yn y man ac ar yr amserau ar gyfer cael ffurflenni papurau enwebu a nodir yn hysbysiad yr etholiad, rhaid i’r swyddog canlyniadau—

(a)cyflenwi cynifer o ffurflenni papurau enwebu i unrhyw berson ag y bydd y person yn gofyn amdanynt, a

(b)os gwneir cais, paratoi papur enwebu i’w lofnodi.

(2Rhaid i’r swyddog canlyniadau wneud trefniadau hefyd i sicrhau bod modd cael ffurflenni enwebu ar-lein yn unol â’r wybodaeth a roddir yn hysbysiad yr etholiad.

(3Er hynny, nid oes angen i enwebiad gael ei wneud ar ffurflen a gyflenwir gan y swyddog canlyniadau neu a geir ar-lein.

Gwybodaeth Cychwyn

I10Atod. 1 para. 4 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1

Enwebu ymgeiswyrLL+C

5.—(1Rhaid i ymgeisydd ei enwebu ei hun gan ddefnyddio papur enwebu yn y ffurf yn Atodiad 1, neu ffurf i’r un perwyl.

(2Caniateir i’r papur enwebu gael ei ddanfon naill ai—

(a)yn y man a bennir gan y swyddog canlyniadau yn hysbysiad yr etholiad, neu

(b)yn unol â’r trefniadau a nodir yn y datganiad danfon electronig.

(3Rhaid i’r papur enwebu—

(a)datgan enwau llawn yr ymgeisydd, gan osod y cyfenwau’n gyntaf,

(b)os yw’r ymgeisydd yn dymuno, cynnwys disgrifiad sy’n cydymffurfio â rheol 6,

(c)cynnwys datganiad o aelodaeth plaid sy’n cydymffurfio â rheol 8, a

(d)cynnwys y datganiadau a nodir yn y ffurf yn Atodiad 1, wedi eu llofnodi gan yr ymgeisydd.

(4Os yw ymgeisydd yn defnyddio’n gyffredin enwau blaen neu gyfenwau sy’n wahanol mewn unrhyw ffordd i’r enwau blaen neu’r cyfenwau a ddatgenir yn unol â pharagraff (3)(a) (gan gynnwys pan y gwahaniaeth yw defnyddio’r enwau blaen neu’r cyfenwau a ddefnyddir yn gyffredin mewn trefn wahanol, cynnwys rhai o’r enwau yn unig neu gynnwys enwau ychwanegol), caniateir i’r papur enwebu hefyd ddatgan yr enwau blaen neu’r cyfenwau a ddefnyddir yn gyffredin.

(5Rhaid i’r papur enwebu gael ei lofnodi gan yr ymgeisydd ym mhresenoldeb tyst sy’n gorfod tystio i’r llofnod.

(6I gyd-fynd â’r papur enwebu rhaid cael ffurflen (“ffurflen cyfeiriad cartref”) sy’n cydymffurfio â rheol 9.

Gwybodaeth Cychwyn

I11Atod. 1 para. 5 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1

Papurau enwebu: disgrifiadauLL+C

6.—(1Mae’r rheol hon yn nodi gofynion ynghylch y disgrifiadau y caniateir eu cynnwys mewn papur enwebu fel y crybwyllir yn rheol 5(3)(b).

(2Caiff y disgrifiad fod naill ai—

(a)yn ddisgrifiad sy’n debygol o arwain etholwyr i gysylltu’r ymgeisydd â phlaid wleidyddol gofrestredig neu â dwy neu ragor o bleidiau gwleidyddol cofrestredig ac a ganiateir o dan baragraff (3) neu (yn ôl y digwydd) paragraff (4), neu

(b)y gair “Independent” neu’r gair “Annibynnol”, neu’r ddau air hynny.

(3Caniateir disgrifiad sy’n debygol o arwain etholwyr i gysylltu’r ymgeisydd â phlaid wleidyddol gofrestredig—

(a)pan fo’r blaid yn blaid gymwys,

(b)pan fo’r disgrifiad naill ai—

(i)yn enw cofrestredig y blaid neu, os yw’r blaid wedi cofrestru enw Cymraeg ac enw Saesneg, y naill neu’r llall o’r enwau hynny neu’r ddau, neu

(ii)yn ddisgrifiad cofrestredig i’r blaid neu, yn achos disgrifiad a gofrestrwyd yn Gymraeg ac yn Saesneg, y naill neu’r llall o’r disgrifiadau hynny neu’r ddau, ac

(c)pan fo defnydd y disgrifiad gan yr ymgeisydd wedi ei awdurdodi gan dystysgrif a ddyroddwyd gan neu ar ran swyddog enwebu cofrestredig y blaid ac a ddaeth i law’r swyddog canlyniadau cyn yr amser olaf ar gyfer danfon papurau enwebu.

(4Caniateir disgrifiad sy’n debygol o arwain etholwyr i gysylltu’r ymgeisydd â dwy neu ragor o bleidiau gwleidyddol cofrestredig—

(a)pan fo pob un o’r pleidiau’n bleidiau cymwys,

(b)pan fo’r disgrifiad yn cynnwys enw cofrestredig pob un o’r pleidiau a ddangosir yn y naill neu’r llall o’r fersiynau a ddisgrifir ym mharagraff (5) neu’r ddau, ac

(c)pan fo defnydd y disgrifiad gan yr ymgeisydd wedi ei awdurdodi gan dystysgrif a ddyroddwyd gan neu ar ran swyddog enwebu cofrestredig pob un o’r pleidiau ac a ddaeth i law’r swyddog canlyniadau cyn yr amser olaf ar gyfer danfon papurau enwebu.

(5Y fersiynau y cyfeirir atynt ym mharagraff (4)(b) yw—

(a)fersiwn sy’n dangos (mewn unrhyw drefn) enwau cofrestredig y pleidiau, ynghyd ag ychwanegu unrhyw gysyllteiriau ac atalnodau priodol yn Saesneg (“y fersiwn Saesneg”);

(b)fersiwn sy’n dangos (mewn unrhyw drefn) enwau cofrestredig y pleidiau, ynghyd ag ychwanegu unrhyw gysyllteiriau ac atalnodau priodol yn Gymraeg (“y fersiwn Gymraeg”).

(6Pan fo unrhyw un neu ragor o’r pleidiau wedi cofrestru enw Saesneg ac enw Cymraeg—

(a)caniateir i enw cofrestredig y blaid yn Saesneg (ac nid enw cofrestredig y blaid yn Gymraeg) gael ei ddefnyddio yn y fersiwn Saesneg, a

(b)caniateir i enw cofrestredig y blaid yn Gymraeg (ac nid enw cofrestredig y blaid yn Saesneg) gael ei ddefnyddio yn y fersiwn Gymraeg.

(7Gweler hefyd reol 7 (sy’n nodi pryd a sut y caniateir ychwanegu’r geiriau “Wales”, “Welsh”, “Cymru” neu “Cymreig” at ddisgrifiadau a ganiateir o dan baragraff (3) neu (4)).

(8Mae person yn euog o arfer lwgr os yw’r person hwnnw’n honni’n dwyllodrus ei fod wedi ei awdurdodi i ddyroddi tystysgrif o dan baragraff (3)(c) neu (4)(c) ar ran swyddog enwebu plaid wleidyddol gofrestredig.

(9Yn y rheol hon—

(a)mae cyfeiriadau at enw cofrestredig plaid wleidyddol gofrestredig yn gyfeiriadau at enw’r blaid a gofrestrwyd o dan adran 28 o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000(10);

(b)mae cyfeiriadau at ddisgrifiad cofrestredig plaid wleidyddol gofrestredig yn gyfeiriadau at ddisgrifiad o’r blaid a gofrestrwyd o dan adran 28A o’r Ddeddf honno(11).

(10At ddibenion cymhwyso’r rheol hon mewn perthynas ag etholiad—

(a)ystyr “plaid wleidyddol gofrestredig” yw plaid sydd wedi ei chofrestru o dan Ran 2 o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 ar y diwrnod sydd ddau ddiwrnod cyn y diwrnod olaf ar gyfer danfon papurau enwebu yn yr etholiad (gan ddiystyru unrhyw ddiwrnod eithriedig);

(b)mae plaid wleidyddol gofrestredig yn blaid gymwys os yw’r blaid, ar y diwrnod hwnnw, wedi ei chofrestru mewn cysylltiad â Chymru yng nghofrestr Prydain Fawr a gynhelir o dan Ran 2 o’r Ddeddf honno.

Gwybodaeth Cychwyn

I12Atod. 1 para. 6 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1

Ychwanegu “Wales”, “Welsh”, “Cymru” neu “Cymreig”LL+C

7.—(1Mae’r rheol hon yn nodi pryd a sut y caiff ymgeisydd wneud ychwanegiadau mewn papur enwebu at ddisgrifiad y caniateir i’r ymgeisydd ei ddefnyddio o dan reol 6(3) neu (4).

(2Mae paragraff (3) yn gymwys—

(a)pan fo enw cofrestredig yn ddisgrifiad y caniateir i’r ymgeisydd ei ddefnyddio o dan reol 6(3) neu’n ffurfio rhan o’r disgrifiad hwnnw, a

(b)pan nad yw’r enw cofrestredig yn cynnwys yr un o’r geiriau “Wales”, “Welsh”, “Cymru” a “Cymreig”.

(3Caiff yr ymgeisydd wneud un o’r canlynol—

(a)ychwanegu’r gair “Wales” o flaen yr enw;

(b)ychwanegu’r gair “Welsh” o flaen yr enw;

(c)ychwanegu’r gair “Cymru” ar ôl yr enw;

(d)ychwanegu’r gair “Cymreig” ar ôl yr enw.

(4Mae paragraffau (5) a (6) yn gymwys—

(a)pan fo enw cofrestredig yn ffurfio rhan o ddisgrifiad y caniateir i’r ymgeisydd ei ddefnyddio o dan reol 6(4), a

(5Os yw’r enw cofrestredig yn y fersiwn Saesneg o’r disgrifiad (p’un a yw hefyd yn y fersiwn Gymraeg ai peidio), caiff yr ymgeisydd ychwanegu naill ai’r gair “Wales” neu’r gair “Welsh” o flaen yr enw yn y fersiwn honno.

(6Os yw’r enw cofrestredig yn y fersiwn Gymraeg o’r disgrifiad (p’un a yw hefyd yn y fersiwn Saesneg ai peidio), caiff yr ymgeisydd ychwanegu naill ai’r gair “Cymru” neu’r gair “Cymreig” ar ôl yr enw yn y fersiwn honno.

(7Mae paragraff (8) yn gymwys—

(a)pan fo disgrifiad cofrestredig yn ddisgrifiad y caniateir i’r ymgeisydd ei ddefnyddio o dan reol 6(3) neu’n ffurfio rhan o’r disgrifiad hwnnw, a

(b)pan nad yw’r disgrifiad cofrestredig yn cynnwys yr un o’r geiriau “Wales”, “Welsh”, “Cymru” a “Cymreig”.

(8Caiff yr ymgeisydd wneud un o’r canlynol—

(a)ychwanegu’r gair “Wales” ar ddechrau’r disgrifiad cofrestredig;

(b)ychwanegu’r gair “Welsh” ar ddechrau’r disgrifiad cofrestredig;

(c)ychwanegu’r gair “Cymru” ar ddiwedd y disgrifiad cofrestredig;

(d)ychwanegu’r gair “Cymreig” ar ddiwedd y disgrifiad cofrestredig.

(9At ddibenion paragraffau (3)(a) a (b) a (5), pan fo’r gair “the” (neu unrhyw air mewn iaith arall sydd â’r un swyddogaeth â’r gair “the”) yn ymddangos ar ddechrau enw cofrestredig, rhaid ei anwybyddu.

(10Pan fo ymgeisydd yn ychwanegu unrhyw beth at ddisgrifiad mewn papur enwebu yn unol â’r rheol hon, mae cyfeiriadau yn y darpariaethau a ganlyn yn yr Atodlen hon at y disgrifiad yn gyfeiriadau at y disgrifiad gyda’r ychwanegiad.

Gwybodaeth Cychwyn

I13Atod. 1 para. 7 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1

Papurau enwebu: datganiadau aelodaeth plaidLL+C

8.—(1Mae’r rheol hon yn nodi’r gofynion ynglŷn â datganiadau o aelodaeth plaid y mae’n rhaid eu cynnwys mewn papurau enwebu fel y crybwyllir yn rheol 5(3)(c).

(2Rhaid i’r datganiad ddatgan a yw’r ymgeisydd wedi bod yn aelod o unrhyw blaid wleidyddol gofrestredig unrhyw bryd yn ystod y cyfnod perthnasol.

(3Os yw’r ymgeisydd wedi bod yn aelod o un neu ragor o bleidiau gwleidyddol cofrestredig unrhyw bryd yn ystod y cyfnod perthnasol, rhaid i’r datganiad hefyd gynnwys yr wybodaeth a ganlyn mewn perthynas â’r blaid neu (yn ôl y digwydd) pob un o’r pleidiau y bu’r ymgeisydd yn aelod ohoni neu ohonynt—

(a)enw cofrestredig y blaid neu, pan fo gan y blaid ddau enw cofrestredig, enwau cofrestredig y blaid, a

(b)y dyddiadau yn ystod y cyfnod perthnasol pan fu’r ymgeisydd yn aelod o’r blaid.

(4Nid yw paragraff (3) yn gymwys—

(a)pan fo’r papur enwebu’n cynnwys disgrifiad sy’n debygol o arwain etholwyr i gysylltu’r ymgeisydd â phlaid wleidyddol gofrestredig neu â dwy neu ragor o bleidiau gwleidyddol cofrestredig ac a ganiateir o dan reol 6(3) neu (yn ôl y digwydd) rheol 6(4), a

(b)pan nad yw’r ymgeisydd wedi bod yn aelod o blaid wleidyddol gofrestredig unrhyw bryd yn ystod y cyfnod perthnasol ac eithrio’r blaid neu’r pleidiau y mae’r disgrifiad hwnnw’n ymwneud â hi neu â hwy.

(5Mae ymgeisydd sy’n methu’n fwriadol â chynnwys yn y papur enwebu ddatganiad o aelodaeth plaid sy’n cydymffurfio â gofynion y rheol hon yn euog o arfer lwgr.

(6Yn y rheol hon—

(a)ystyr “plaid wleidyddol gofrestredig” yw plaid sydd wedi ei chofrestru o dan Ran 2 o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 unrhyw bryd yn ystod y cyfnod perthnasol pan fo’r ymgeisydd yn aelod;

(b)mae cyfeiriadau at enw cofrestredig plaid wleidyddol gofrestredig yn gyfeiriadau at enw’r blaid a gofrestrwyd o dan adran 28 o’r Ddeddf honno;

(c)ystyr “y cyfnod perthnasol” yw’r cyfnod o 12 mis sy’n dod i ben â’r diwrnod y cyhoeddir hysbysiad yr etholiad.

Gwybodaeth Cychwyn

I14Atod. 1 para. 8 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1

Ffurflenni cyfeiriad cartrefLL+C

9.—(1Mae’r rheol hon yn nodi’r gofynion ynglŷn â ffurflenni cyfeiriad cartref y mae’n rhaid iddynt gyd-fynd â phapurau enwebu o dan reol 5(6).

(2Rhaid i ffurflen cyfeiriad cartref ddatgan—

(a)enwau llawn yr ymgeisydd,

(b)cyfeiriad cartref yr ymgeisydd yn llawn,

(c)cyfeiriad neu gyfeiriadau cymwys yr ymgeisydd, a

(d)y cymhwyster y mae pob cyfeiriad cymwys yn ymwneud ag ef.

(3Mae cyfeiriad neu gyfeiriadau cymwys yr ymgeisydd, a’r cymhwyster y mae pob cyfeiriad cymwys yn ymwneud ag ef, yn dibynnu ar ba un neu ragor o opsiynau (a) i (d) ar y papur enwebu sydd wedi eu dewis gan yr ymgeisydd, fel y’u nodir yn y tabl a ganlyn.

Yr opsiwn a ddewisir ar y papur enwebuCyfeiriad cymwys yr ymgeisyddY cymhwyster y mae cyfeiriad cymwys yr ymgeisydd yn ymwneud ag ef
Opsiwn (a)Y cyfeiriad llawn y mae’r ymgeisydd wedi ei gofrestru fel etholwr llywodraeth leol mewn cysylltiad ag efY cymhwyster a ddisgrifir yn opsiwn (a) (cofrestru fel etholwr llywodraeth leol ar gyfer ardal y cyngor sir neu’r cyngor bwrdeistref sirol)
Opsiwn (b)Disgrifiad a chyfeiriad y tir neu’r fangre y mae’r ymgeisydd wedi eu meddiannu fel perchennog neu denant (neu, os yw’r ymgeisydd yn dibynnu ar fwy nag un meddiant i fodloni’r cymhwyster, y disgrifiadau a’r cyfeiriadau)Y cymhwyster a ddisgrifir yn opsiwn (b) (meddiannu tir neu fangre arall yn ardal y cyngor sir neu’r cyngor bwrdeistref sirol fel perchennog neu denant)
Opsiwn (c)Cyfeiriad gweithle’r ymgeisydd (neu, os yw’r ymgeisydd yn dibynnu ar fwy nag un gweithle i fodloni’r cymhwyster, y cyfeiriadau)Y cymhwyster a ddisgrifir yn opsiwn (c) (prif neu unig weithle yn ardal y cyngor sir neu’r cyngor bwrdeistref sirol)
Opsiwn (d)Y cyfeiriad neu’r cyfeiriadau llawn lle mae’r ymgeisydd wedi preswylioY cymhwyster a ddisgrifir yn opsiwn (d) (preswylio yn ardal y cyngor sir neu’r cyngor bwrdeistref sirol)

(4Os yw papur enwebu’r ymgeisydd yn cynnwys enwau blaen neu gyfenwau a ddefnyddir yn gyffredin, rhaid i’r ffurflen cyfeiriad cartref hefyd ddatgan yr enwau a ddefnyddir yn gyffredin.

(5Rhaid i’r ffurflen cyfeiriad cartref ddatgan hefyd—

(a)enwau llawn y person sy’n dyst i lofnod yr ymgeisydd ar y papur enwebu, a

(b)cyfeiriad cartref y person hwnnw yn llawn.

(6Caiff y ffurflen cyfeiriad cartref gynnwys datganiad a wnaed ac a lofnodwyd gan yr ymgeisydd na chaniateir cyhoeddi cyfeiriad cartref yr ymgeisydd.

(7Os yw’r ffurflen cyfeiriad cartref yn cynnwys datganiad o’r fath, mae’n rhaid iddi—

(a)pan fo cyfeiriad cartref yr ymgeisydd yn y Deyrnas Unedig, ddatgan enw’r ardal berthnasol (gweler paragraff (8));

(b)pan fo cyfeiriad cartref yr ymgeisydd y tu allan i’r Deyrnas Unedig, ddatgan y wlad y mae wedi ei leoli ynddi.

(8Yn y rheol hon, ystyr “ardal berthnasol” yw—

(a)pan fo cyfeiriad cartref yr ymgeisydd yng Nghymru—

(i)os yw’r cyfeiriad mewn sir, y sir honno;

(ii)os yw’r cyfeiriad mewn bwrdeistref sirol, y fwrdeistref sirol honno;

(b)pan fo cyfeiriad cartref yr ymgeisydd yn Lloegr—

(i)os yw’r cyfeiriad mewn dosbarth y ceir cyngor dosbarth ar ei gyfer, y dosbarth hwnnw;

(ii)os yw’r cyfeiriad mewn sir nad oes dosbarthau â chynghorau ynddi, y sir honno;

(iii)os yw’r cyfeiriad yn un o fwrdeistrefi Llundain, y fwrdeistref honno yn Llundain;

(iv)os yw’r cyfeiriad yn Ninas Llundain (gan gynnwys y Temlau Mewnol a Chanol), Dinas Llundain;

(v)os yw’r cyfeiriad yn Ynysoedd Sili, Ynysoedd Sili;

(c)pan fo cyfeiriad cartref yr ymgeisydd yn yr Alban, yr ardal llywodraeth leol y mae’r cyfeiriad wedi ei leoli ynddi;

(d)pan fo cyfeiriad cartref yr ymgeisydd yng Ngogledd Iwerddon, y dosbarth llywodraeth leol y mae wedi ei leoli ynddo.

Gwybodaeth Cychwyn

I15Atod. 1 para. 9 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1

Penderfyniadau ynglŷn â dilysrwydd papurau enwebuLL+C

10.—(1Mae’r rheol hon yn gymwys pan ddanfonir papur enwebu a’r ffurflen cyfeiriad cartref sy’n cyd-fynd ag ef yn unol â’r rheolau hyn.

(2Mae’r ymgeisydd yn dal wedi ei enwebu oni bai a hyd nes y bydd un o’r digwyddiadau a ganlyn yn digwydd—

(a)bod y swyddog canlyniadau’n penderfynu bod y papur enwebu’n annilys;

(b)bod y swyddog canlyniadau wedi ei fodloni bod yr ymgeisydd wedi marw;

(c)bod yr ymgeisydd yn tynnu’n ôl.

(3Mae gan y swyddog canlyniadau hawl i ddyfarnu bod papur enwebu’n annilys ar un o’r seiliau a ganlyn yn unig—

(a)nad yw manylion yr ymgeisydd yn unol â gofynion y gyfraith;

[F4(aa)nad yw’r papur enwebu’n cynnwys y datganiadau sy’n ofynnol gan reol 5(3)(d), wedi eu llofnodi gan yr ymgeisydd;]

(b)nad yw ffurflen cyfeiriad cartref yr ymgeisydd yn cydymffurfio â rheol 9(2) i (6);

(c)pan fo ffurflen cyfeiriad cartref yr ymgeisydd yn cynnwys datganiad na chaniateir cyhoeddi’r cyfeiriad cartref, nad yw’r ffurflen yn cydymffurfio â rheol 9(7);

(d)nad yw’r papur enwebu wedi ei lofnodi gan yr ymgeisydd, neu nad yw llofnod yr ymgeisydd wedi ei ardystio, yn unol â gofynion rheol 5(5).

(4Yn ddarostyngedig i baragraff (5), rhaid i’r swyddog canlyniadau, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl i bob papur enwebu a ffurflen cyfeiriad cartref gael eu danfon, eu harchwilio a phenderfynu a yw’r ymgeisydd wedi ei enwebu’n ddilys.

(5Os oes disgrifiad mewn papur enwebu wedi ei gynnwys ym marn y swyddog canlyniadau yn groes i reol 6(3) neu (4) neu 7, rhaid i’r swyddog canlyniadau roi penderfyniad nad yw manylion yr ymgeisydd yn unol â gofynion y gyfraith—

(a)cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl i’r papur enwebu gael ei ddanfon, a

(b)beth bynnag, cyn diwedd y cyfnod o 24 awr sy’n dechrau â diwedd y cyfnod ar gyfer danfon papurau enwebu.

(6Pan fo’r swyddog canlyniadau’n penderfynu bod papur enwebu’n annilys, rhaid i’r swyddog canlyniadau arnodi ar y papur y ffaith bod y penderfyniad wedi ei wneud a’r rhesymau drosto a llofnodi’r arnodiad.

(7Rhaid i’r swyddog canlyniadau roi hysbysiad i bob ymgeisydd yn datgan penderfyniad y swyddog canlyniadau a yw papur enwebu’r ymgeisydd yn ddilys ynteu’n annilys.

(8Mae penderfyniad y swyddog canlyniadau bod papur enwebu yn ddilys yn derfynol ac ni chaniateir ei amau mewn unrhyw achos.

(9Ac eithrio fel y darperir gan baragraff (8), nid oes dim yn y rheol hon yn atal dilysrwydd enwebiad rhag cael ei amau ar ddeiseb etholiad.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I16Atod. 1 para. 10 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1

Enwebu mewn mwy nag un ward etholiadolLL+C

11.—(1Rhaid i ymgeisydd sydd wedi ei enwebu’n ddilys ar gyfer mwy nag un ward etholiadol yn yr un brif ardal dynnu’n ôl o ymgeisyddiaeth yn yr holl wardiau etholiadol hynny ond un.

(2Mae ymgeisydd nad yw’n tynnu’n ôl yn unol â gofynion paragraff (1) i’w drin fel pe bai wedi tynnu’n ôl o ymgeisyddiaeth yn yr holl wardiau etholiadol lle cafodd yr ymgeisydd ei enwebu’n ddilys.

Gwybodaeth Cychwyn

I17Atod. 1 para. 11 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1

Ymgeiswyr yn tynnu’n ôlLL+C

12.—(1Caiff ymgeisydd dynnu’n ôl o ymgeisyddiaeth drwy roi hysbysiad tynnu’n ôl i’r swyddog canlyniadau.

(2Rhaid i’r hysbysiad tynnu’n ôl gael ei lofnodi gan yr ymgeisydd ym mhresenoldeb tyst sy’n gorfod tystio i lofnod yr ymgeisydd.

Gwybodaeth Cychwyn

I18Atod. 1 para. 12 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1

Cyhoeddi datganiad o’r personau a enwebwydLL+C

13.—(1Rhaid i’r swyddog canlyniadau baratoi a chyhoeddi datganiad (“datganiad o’r personau a enwebwyd”) yn dangos—

(a)y personau a enwebwyd ac sy’n dal wedi eu henwebu, a

(b)unrhyw bersonau eraill a enwebwyd ond nad ydynt yn dal wedi eu henwebu mwyach, gyda’r rheswm nad ydynt yn dal wedi eu henwebu mwyach.

(2Rhaid i’r datganiad ddangos—

(a)enwau a disgrifiadau (os oes rhai) y personau a enwebwyd, fel y’u rhoddwyd yn eu papurau enwebu,

(b)yr wybodaeth am eu cyfeiriad cartref (gweler paragraff (3)), ac

(c)yr wybodaeth a gynhwyswyd yn eu datganiadau o aelodaeth plaid, fel y’i rhoddwyd yn eu papurau enwebu.

(3Yn y rheolau hyn, mae cyfeiriadau at yr wybodaeth am gyfeiriad cartref person a enwebwyd yn gyfeiriadau at yr wybodaeth a ganlyn fel y’i rhoddwyd yn y ffurflen cyfeiriad cartref sy’n cyd-fynd â’r papur enwebu—

(a)pan fo’r ffurflen cyfeiriad cartref yn cynnwys datganiad na chaniateir cyhoeddi’r cyfeiriad cartref, yr wybodaeth a roddwyd yn unol â rheol 9(7);

(b)pan nad yw’r ffurflen cyfeiriad cartref yn cynnwys datganiad o’r fath, cyfeiriad y person a enwebwyd.

(4Rhaid i’r datganiad ddangos y personau sy’n dal wedi eu henwebu yn nhrefn yr wyddor yn ôl eu cyfenwau, ac os oes gan ddau neu ragor ohonynt yr un cyfenwau, rhaid i’r datganiad ddangos y personau hynny yn nhrefn yr wyddor yn ôl eu henwau eraill.

(5Mae rheol 14 (defnyddio enwau a ddefnyddir yn gyffredin) a rheol 15 (enwau sydd yr un fath neu’n debyg) yn gwneud darpariaeth bellach ynghylch cynnwys y datganiad o’r personau a enwebwyd.

Gwybodaeth Cychwyn

I19Atod. 1 para. 13 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1

Defnyddio enwau a ddefnyddir yn gyffredin yn y datganiad o’r personau a enwebwydLL+C

14.—(1Mae’r rheol hon yn gymwys pan fo papur enwebu person yn rhoi enwau blaen neu gyfenwau a ddefnyddir yn gyffredin yn unol â rheol 5(4).

(2Rhaid i’r datganiad o’r personau a enwebwyd ddangos enwau blaen neu gyfenwau’r person a ddefnyddir yn gyffredin (yn hytrach na’r enwau blaen neu’r cyfenwau a ddatganwyd yn y papur enwebu yn unol â rheol 5(3)(a)) oni bai bod y swyddog canlyniadau’n penderfynu—

(a)y gallai defnyddio enwau blaen neu gyfenwau’r person a ddefnyddir yn gyffredin fod yn debygol o gamarwain neu ddrysu etholwyr, neu

(b)bod yr enwau blaen neu’r cyfenwau a ddefnyddir yn gyffredin yn anweddus neu’n dramgwyddus.

(3Pan fo paragraff (2)(a) neu (b) yn gymwys—

(a)rhaid i’r datganiad o’r personau a enwebwyd ddangos enwau blaen neu gyfenwau eraill y person fel y’u datganwyd yn y papur enwebu yn unol â rheol 5(3)(a) (yn hytrach na’r enwau blaen neu’r cyfenwau a ddefnyddir yn gyffredin), a

(b)rhaid i’r swyddog canlyniadau roi hysbysiad i’r ymgeisydd yn datgan y rhesymau dros wrthod caniatáu defnyddio’r enwau blaen neu’r cyfenwau a ddefnyddir yn gyffredin.

Gwybodaeth Cychwyn

I20Atod. 1 para. 14 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1

Enwau sydd yr un fath neu’n debygLL+C

15.—(1Mae’r rheol hon yn gymwys pan fo’r swyddog canlyniadau, wrth baratoi datganiad o’r personau a enwebwyd, yn penderfynu—

(a)bod dau neu ragor o’r enwau a fyddai’n cael eu dangos ar y datganiad yr un fath neu mor debyg nes eu bod yn debygol o beri dryswch,

(b)bod pob un o’r personau dan sylw wedi gwneud datganiad eu bod yn ei gwneud yn ofynnol i’w cyfeiriad cartref beidio â chael ei gyhoeddi (gweler rheol 9(6)), ac

(c)bod yr wybodaeth a roddwyd yn unol â rheol 9(7) yr un fath ar gyfer pob un ohonynt.

(2Caiff y swyddog canlyniadau drefnu i unrhyw un neu ragor o’u manylion gael eu dangos ar y datganiad o’r personau a enwebwyd gydag unrhyw ddiwygiadau neu ychwanegiadau sy’n briodol ym marn y swyddog canlyniadau er mwyn lleihau’r tebygolrwydd o ddryswch.

(3Wrth benderfynu a ddylid gwneud diwygiadau neu ychwanegiadau o dan y rheol hon, rhaid i’r swyddog canlyniadau roi sylw i unrhyw ganllawiau a roddwyd gan y Comisiwn Etholiadol at ddibenion y rheol hon.

(4Pan fo’n ymarferol gwneud hynny cyn cyhoeddi’r datganiad, rhaid i’r swyddog canlyniadau ymgynghori ag unrhyw bersonau y bwriedir diwygio’u manylion neu ychwanegu at eu manylion o dan y rheol hon.

(5Rhaid i’r swyddog canlyniadau roi hysbysiad i unrhyw berson y diwygiwyd ei fanylion neu yr ychwanegwyd at ei fanylion o dan y rheol hon, yn nodi’r diwygiadau neu’r ychwanegiadau.

(6Ni chaniateir i unrhyw beth a wneir gan swyddog canlyniadau o dan y rheol hon gael ei amau mewn unrhyw achos heblaw achos ar ddeiseb etholiad.

Gwybodaeth Cychwyn

I21Atod. 1 para. 15 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1

Cywiro mân wallau mewn papurau enwebu neu ffurflenni cyfeiriad cartrefLL+C

16.—(1Caiff swyddog canlyniadau, unrhyw bryd cyn cyhoeddi’r datganiad o’r personau a enwebwyd, gywiro mân wallau mewn papur enwebu neu ffurflen cyfeiriad cartref.

(2Mae’r gwallau y caniateir eu cywiro yn cynnwys—

(a)gwallau o ran rhif etholiadol person;

(b)gwallau sillafu amlwg;

(c)gwallau o ran yr wybodaeth a roddwyd yn unol â rheol 9(7) (gwybodaeth y mae’n rhaid ei chynnwys pan fo’r ymgeisydd wedi datgan na chaniateir cyhoeddi’r cyfeiriad cartref).

(3Ni chaniateir i unrhyw beth a wneir gan swyddog canlyniadau yn unol â’r rheol hon gael ei amau mewn unrhyw achos heblaw achos ar ddeiseb etholiad.

(4Wrth benderfynu a ddylid cywiro mân wallau o dan y rheol hon, rhaid i swyddog canlyniadau roi sylw i unrhyw ganllawiau a roddwyd gan y Comisiwn Etholiadol at ddibenion y rheol hon.

Gwybodaeth Cychwyn

I22Atod. 1 para. 16 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1

Archwilio papurau enwebuLL+C

17.—(1Yn ystod yr amser ar gyfer archwilio, caiff unrhyw berson archwilio papurau enwebu sydd wedi eu danfon.

(2Ym mharagraff (1), ystyr “yr amser ar gyfer archwilio” yw oriau swyddfa arferol ar unrhyw ddiwrnod ar ôl y diwrnod olaf ar gyfer danfon papurau enwebu a chyn diwrnod y bleidlais, ac eithrio diwrnod eithriedig.

(3Caiff person sy’n archwilio papurau enwebu gymryd copi o’r papurau, neu godi dyfyniadau ohonynt.

Gwybodaeth Cychwyn

I23Atod. 1 para. 17 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1

Archwilio ffurflenni cyfeiriad cartrefLL+C

18.—(1Yn ystod yr amser ar gyfer archwilio, caniateir i ffurflen cyfeiriad cartref ymgeisydd sy’n dal wedi ei enwebu gael ei harchwilio gan unrhyw un neu ragor o’r canlynol sy’n dymuno ei harchwilio—

(a)ymgeisydd arall sy’n dal wedi ei enwebu yn yr un ward etholiadol;

(b)asiant etholiadol ymgeisydd arall sy’n dal wedi ei enwebu yn y ward honno;

(c)yn achos ymgeisydd arall sy’n dal wedi ei enwebu yn y ward honno ac sy’n gweithredu fel ei asiant etholiadol ei hun, person arall a ddewisir gan yr ymgeisydd hwnnw.

(2Ym mharagraff (1), ystyr “yr amser ar gyfer archwilio” yw oriau swyddfa arferol ar unrhyw ddiwrnod ar ôl y diwrnod olaf ar gyfer danfon papurau enwebu a chyn diwrnod y bleidlais, ac eithrio diwrnod eithriedig.

(3Ni chaiff ymgeisydd neu berson arall sy’n cynnal archwiliad o dan y rheol hon gymryd copi o ffurflen cyfeiriad cartref na chodi dyfyniadau ohoni.

(4Ni chaiff y swyddog canlyniadau ganiatáu i ffurflen cyfeiriad cartref gael ei harchwilio heblaw yn unol â’r rheol hon neu at ryw ddiben arall a awdurdodir gan y gyfraith.

Gwybodaeth Cychwyn

I24Atod. 1 para. 18 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1

Gohirio trafodion enwebu os ceir terfysgLL+C

19.—(1Mae’r rheol hon yn gymwys os torrir ar draws trafodion ar gyfer enwebu, neu mewn cysylltiad ag enwebu, neu os rhwystrir y trafodion hynny, ar unrhyw ddiwrnod gan derfysg neu drais agored.

(2Rhaid rhoi’r gorau i’r trafodion am y diwrnod hwnnw.

(3Os y diwrnod olaf ar gyfer danfon papurau enwebu yw’r diwrnod y rhoddir y gorau i’r trafodion, rhaid ailddechrau’r trafodion drannoeth.

(4Pan fo paragraff (3) yn ei gwneud yn ofynnol bod y trafodion yn ailddecrhau drannoeth, mae’r dyddiadau cau a bennir yn ail golofn yr amserlen yn rheol 1 ar gyfer danfon papurau enwebu, danfon hysbysiadau tynnu ymgeisyddiaeth yn ôl a chyhoeddi’r datganiad o’r personau a enwebwyd i gyd yn cael eu hymestyn un diwrnod.

(5Pan roddir y gorau i drafodion o dan y rheol hon—

(a)ni chaniateir i ddim byd gael ei wneud ar ôl ailddechrau’r trafodion os oedd yr amser ar gyfer ei wneud wedi mynd heibio pan roddwyd y gorau i’r trafodion, a

(b)nid yw dim byd a wnaed cyn rhoi’r gorau i’r trafodion yn annilys oherwydd rhoi’r gorau iddynt.

Gwybodaeth Cychwyn

I25Atod. 1 para. 19 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1

Dull EtholLL+C

Penderfynu a oes gornest yn yr etholiad a datgan y canlyniad os nad oes gornestLL+C

20.—(1Rhaid i’r swyddog canlyniadau benderfynu a yw nifer y personau sy’n dal wedi eu henwebu’n ddilys ar gyfer y ward etholiadol ar ôl i unrhyw un neu ragor dynnu’n ôl o dan reol 12 yn fwy na nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol.

(2Os nad yw nifer y personau sy’n dal wedi eu henwebu’n ddilys yn fwy na nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol, rhaid i’r swyddog canlyniadau ddatgan bod y person neu’r personau sy’n dal wedi ei enwebu neu wedi eu henwebu’n ddilys wedi ei ethol neu wedi eu hethol.

(3Rhaid hefyd i’r swyddog canlyniadau—

(a)rhoi hysbysiad yn datgan enwau a chyfeiriadau’r rhai y datganwyd eu bod wedi eu hethol i swyddog priodol cyngor y brif ardal, a

(b)cyhoeddi eu henwau.

(4Os yw nifer y personau sy’n dal wedi eu henwebu’n ddilys yn fwy na nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol, rhaid cynnal pleidlais yn unol â Rhan 3.

Gwybodaeth Cychwyn

I26Atod. 1 para. 20 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1

RHAN 3LL+CY Bleidlais mewn Etholiadau lle Ceir Gornest

Darpariaethau CyffredinolLL+C

Y bleidlais i’w chynnal drwy bleidlais guddLL+C

21.—(1Rhaid i’r pleidleisiau yn y bleidlais gael eu rhoi drwy bleidlais gudd.

[F5(2) Rhaid canfod y canlyniad—

(a)pan y system mwyafrif syml yw’r system bleidleisio sy’n gymwys i’r etholiad, yn unol â Rhan 4;

(b)pan y system pleidlais sengl drosglwyddadwy yw’r system bleidleisio sy’n gymwys i’r etholiad, yn unol â Rhan 4A.]

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I27Atod. 1 para. 21 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1

Y papurau pleidleisioLL+C

22.—(1Rhaid i bleidlais gudd pob pleidleisiwr fod yn bapur pleidleisio.

(2Yr unig bersonau sydd â hawl i gael eu henwau wedi eu gosod ar y papur pleidleisio yw’r rhai sy’n dal wedi eu henwebu’n ddilys ar gyfer y ward etholiadol ar ôl i unrhyw un neu ragor dynnu’n ôl o dan reol 12.

(3[F6Pan y system mwyafrif syml yw’r system bleidleisio sy’n gymwys i’r etholiad,] Rhaid i bapur pleidleisio—

(a)bod yn y ffurf yn Atodiad 2, a

(b)bod wedi ei argraffu yn unol â’r cyfarwyddydau yn yr Atodiad hwnnw.

[F7(3A) Pan y system pleidlais sengl drosglwyddadwy yw’r system bleidleisio sy’n gymwys i’r etholiad, rhaid i bapur pleidleisio—

(a)bod yn y ffurf yn Atodiad 2A, a

(b)bod wedi ei argraffu yn unol â’r cyfarwyddydau yn yr Atodiad hwnnw.]

(4Rhaid i’r papur pleidleisio—

(a)cynnwys enwau a disgrifiadau (os oes rhai) yr ymgeiswyr a’r wybodaeth am eu cyfeiriad cartref, fel y’u dangoswyd yn y datganiad o’r personau a enwebwyd,

(b)gallu cael ei blygu, a

(c)bod â rhif a marc adnabod unigryw arall wedi eu hargraffu ar y cefn.

(5Ar gais ymgeisydd sydd wedi ei awdurdodi o dan reol 6(3)(c) i ddefnyddio disgrifiad sy’n debygol o arwain etholwyr i gysylltu’r ymgeisydd â phlaid wleidyddol gofrestredig, rhaid i’r papur pleidleisio gynnwys, gyferbyn â manylion yr ymgeisydd, un arwyddlun cofrestredig i’r blaid.

(6Ar gais ymgeisydd sydd wedi ei awdurdodi o dan reol 6(4)(c) i ddefnyddio disgrifiad sy’n debygol o arwain etholwyr i gysylltu’r ymgeisydd â dwy neu ragor o bleidiau gwleidyddol cofrestredig, rhaid i’r papur pleidleisio gynnwys, gyferbyn â manylion yr ymgeisydd, un arwyddlun cofrestredig i un o’r pleidiau.

(7Rhaid i gais yr ymgeisydd o dan baragraff (5) neu (6)—

(a)cael ei wneud mewn ysgrifen i’r swyddog canlyniadau, a

(b)dod i law’r swyddog canlyniadau cyn yr amser olaf ar gyfer danfon papurau enwebu fel y’i nodir yn yr amserlen yn rheol 1.

(8Rhaid i drefn yr enwau yn y papur pleidleisio fod yr un fath ag yn y datganiad o’r personau a enwebwyd.

Rhestr rhifau cyfatebolLL+C

23.—(1Rhaid i’r swyddog canlyniadau baratoi rhestr (“y rhestr rhifau cyfatebol”) yn unol â’r rheol hon.

(2Rhaid i’r rhestr rhifau cyfatebol fod mewn dwy ran.

(3Rhaid i Ran 1 gynnwys rhifau a marciau adnabod unigryw yr holl bapurau pleidleisio sydd i’w dyroddi yn unol â rheol 28(1) (papurau pleidleisio post).

(4Rhaid i Ran 2 gynnwys rhifau (ond nid marciau adnabod unigryw) yr holl bapurau pleidleisio sydd i’w darparu yn unol â rheol 32(1) (darparu blychau pleidleisio a phapurau pleidleisio mewn gorsafoedd pleidleisio).

(5Rhaid i’r rhestr rhifau cyfatebol fod yn y ffurf a nodir yn Atodiad 3 neu ffurf i’r un perwyl.

Gwybodaeth Cychwyn

I29Atod. 1 para. 23 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1

Y marc swyddogolLL+C

24.—(1Rhaid i bob papur pleidleisio gynnwys marc diogelwch priodol (“y marc swyddogol”).

(2Rhaid cadw’r marc swyddogol yn gyfrinachol.

(3Rhaid i gyfnod o ddim llai na phum mlynedd fynd heibio rhwng defnyddio’r un marc swyddogol mewn etholiadau ar gyfer yr un sir neu fwrdeistref sirol.

(4Caiff y swyddog canlyniadau ddefnyddio marc swyddogol gwahanol at ddibenion gwahanol yn yr un etholiad.

Gwybodaeth Cychwyn

I30Atod. 1 para. 24 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1

Gwahardd datgelu pleidlaisLL+C

25.  Ni chaniateir ei gwneud yn ofynnol i berson sydd wedi pleidleisio yn yr etholiad ddatgan dros bwy y pleidleisiodd mewn unrhyw achos cyfreithiol i amau’r etholiad.

Gwybodaeth Cychwyn

I31Atod. 1 para. 25 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1

Defnyddio ysgolion ac ystafelloedd cyhoeddusLL+C

26.—(1Caiff y swyddog canlyniadau ddefnyddio unrhyw un neu ragor o’r ystafelloedd a ganlyn yn rhad ac am ddim er mwyn cynnal y bleidlais neu gyfrif y pleidleisiau—

(a)ystafell mewn ysgol a gynhelir neu a gynorthwyir gan gyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol;

(b)ystafell mewn ysgol y mae grantiau’n cael eu rhoi mewn cysylltiad â hi o arian a ddarperir gan Senedd Cymru i’r person neu’r corff sy’n gyfrifol am reoli’r ysgol;

(c)unrhyw ystafell arall os yw cost cynnal a chadw’r ystafell yn daladwy yn gyfan gwbl neu’n bennaf o arian cyhoeddus.

(2Pan ddefnyddir ystafell a ddisgrifir ym mharagraff (1) er mwyn cynnal y bleidlais neu gyfrif y pleidleisiau, mae’n rhaid i’r swyddog canlyniadau—

(a)cywiro unrhyw ddifrod i’r ystafell sy’n deillio o’i defnyddio at y diben hwnnw, a

(b)talu unrhyw gost a ysgwyddir gan y person neu’r corff sydd â rheolaeth dros yr ystafell oherwydd ei defnyddio at y diben hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I32Atod. 1 para. 26 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1

Camau i’w cymryd cyn y bleidlaisLL+C

Hysbysiad y bleidlaisLL+C

27.—(1Rhaid i’r swyddog canlyniadau gyhoeddi hysbysiad o’r bleidlais yn datgan—

(a)y diwrnod a’r oriau a bennwyd ar gyfer y bleidlais,

(b)nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol dros y ward etholiadol, ac

(c)enwau a disgrifiadau (os oes rhai) pob ymgeisydd sy’n dal wedi ei enwebu’n ddilys a’r wybodaeth am eu cyfeiriad cartref.

(2Rhaid i fanylion yr ymgeiswyr, a threfn enwau’r ymgeiswyr, fod yr un fath ag yn y datganiad o’r personau a enwebwyd.

(3Rhaid i’r swyddog canlyniadau, cyn cyhoeddi hysbysiad o’r bleidlais, neu yr un pryd, hefyd gyhoeddi hysbysiad—

(a)o safle pob gorsaf bleidleisio, a

(b)o’r disgrifiad o bleidleiswyr sydd â hawl i bleidleisio yno.

(4Rhaid i’r swyddog canlyniadau, cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl cyhoeddi hysbysiad o dan baragraff (3), roi copi ohono i bob un o’r asiantau etholiadol.

Gwybodaeth Cychwyn

I33Atod. 1 para. 27 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1

Papurau pleidleisio postLL+C

28.—(1Rhaid i’r swyddog canlyniadau, yn unol â rheoliadau o dan Ddeddf 1983(12), ddyroddi i’r rhai sydd â hawl i bleidleisio drwy’r post—

(a)papur pleidleisio,

(b)datganiad pleidleisio post yn y ffurf a nodir yn [F8yr Atodiad cymwys] neu ffurf i’r un perwyl, ac

(c)unrhyw amlenni ar gyfer dychwelyd y papur pleidleisio a’r datganiad pleidleisio post a ragnodir gan reoliadau o dan Ddeddf 1983.

[F9(1A)  Ym mharagraff (1)(b), ystyr “yr Atodiad cymwys” yw—

(a)pan y system mwyafrif syml yw’r system bleidleisio sy’n gymwys i’r etholiad, Atodiad 4;

(b)pan y system pleidlais sengl drosglwyddadwy yw’r system bleidleisio sy’n gymwys i’r etholiad, Atodiad 4A.]

(2Rhaid i’r swyddog canlyniadau hefyd ddyroddi i’r rhai sydd â hawl i bleidleisio drwy’r post unrhyw wybodaeth y mae’r swyddog canlyniadau o’r farn ei bod yn briodol ynghylch sut i gael—

(a)cyfieithiadau i ieithoedd heblaw Cymraeg a Saesneg o unrhyw gyfarwyddydau neu ganllawiau i bleidleiswyr a anfonir gyda’r papur pleidleisio,

(b)cyfieithiad i Braille o’r cyfarwyddydau neu’r canllawiau hynny,

(c)delweddau graffig o’r cyfarwyddydau neu’r canllawiau hynny, a

(d)y cyfarwyddydau neu’r canllawiau ar unrhyw ffurf arall (gan gynnwys unrhyw ffurf glywadwy).

(3Rhaid i’r datganiad pleidleisio post gynnwys darpariaeth—

(a)i’r ffurflen gael ei llofnodi gan yr etholwr neu, pan fo’r etholwr yn pleidleisio drwy ddirprwy, gan y dirprwy, oni bai bod y swyddog cofrestru wedi hepgor y gofyniad ynglŷn â llofnod, a

(b)ar gyfer datgan dyddiad geni’r etholwr neu, pan fo’r etholwr yn pleidleisio drwy ddirprwy, dyddiad geni’r dirprwy.

(4Yn achos papur pleidleisio a ddyroddir i berson mewn cyfeiriad yn y Deyrnas Unedig, rhaid i’r swyddog canlyniadau sicrhau bod y pleidleisiwr yn gallu dychwelyd y papur pleidleisio a’r datganiad pleidleisio post yn rhad ac am ddim.

Darparu gorsafoedd pleidleisioLL+C

29.—(1Rhaid i’r swyddog canlyniadau—

(a)darparu nifer digonol o orsafoedd pleidleisio, a

(b)dyrannu’r etholwyr i’r gorsafoedd pleidleisio.

(2Caniateir darparu un neu ragor o orsafoedd pleidleisio yn yr un ystafell.

(3Rhaid i’r swyddog canlyniadau ddarparu i bob gorsaf bleidleisio unrhyw nifer o fythau a all fod yn angenrheidiol lle gall pleidleiswyr farcio’u pleidleisiau wedi eu sgrinio heb gael eu gweld.

Gwybodaeth Cychwyn

I35Atod. 1 para. 29 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1

Penodi swyddogion llywyddu a chlercodLL+C

30.—(1Rhaid i’r swyddog canlyniadau benodi a thalu—

(a)swyddog llywyddu i fod yn bresennol ym mhob gorsaf bleidleisio, a

(b)unrhyw nifer o glercod sy’n angenrheidiol at ddibenion y bleidlais neu’r cyfrif neu fel arall at ddibenion yr etholiad.

(2Ni chaiff y swyddog canlyniadau benodi’n fwriadol yn swyddog llywyddu neu glerc berson a gyflogwyd gan neu ar ran ymgeisydd mewn cysylltiad â’r etholiad.

(3Caiff y swyddog canlyniadau lywyddu mewn gorsaf bleidleisio.

(4Pan fo’r swyddog canlyniadau yn llywyddu mewn gorsaf bleidleisio, mae’r rheolau hyn yn gymwys i’r swyddog canlyniadau sy’n llywyddu felly gyda’r addasiadau angenrheidiol o ran pethau a wneir gan y swyddog canlyniadau mewn perthynas â’r swyddog llywyddu neu gan y swyddog llywyddu mewn perthynas â’r swyddog canlyniadau.

(5Caiff swyddog llywyddu awdurdodi’r clercod i wneud unrhyw beth (gan gynnwys gofyn cwestiynau) y mae’r rheolau hyn yn ei gwneud yn ofynnol i’r swyddog llywyddu ei wneud neu’n awdurdodi’r swyddog llywyddu i’w wneud F10..., ac eithrio gorchymyn i unrhyw berson gael ei wahardd neu ei symud o’r orsaf bleidleisio.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I36Atod. 1 para. 30 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1

Dyroddi cardiau pleidleisio swyddogolLL+C

31.—(1Cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl cyhoeddi hysbysiad o’r etholiad, rhaid i’r swyddog canlyniadau anfon neu ddanfon—

(a)cerdyn pleidleisio swyddogol i etholwyr nad ydynt yn pleidleisio drwy’r post,

(b)cerdyn swyddogol pleidleisio drwy’r post i etholwyr sy’n pleidleisio drwy’r post ac nid drwy ddirprwy,

(c)cerdyn swyddogol pleidleisio drwy ddirprwy i berson sy’n pleidleisio fel dirprwy ar ran etholwr ac nid drwy’r post, a

(d)cerdyn swyddogol pleidleisio drwy’r post drwy ddirprwy i berson sy’n pleidleisio fel dirprwy ar ran etholwr drwy’r post.

(2Rhaid i gerdyn pleidleisio swyddogol neu gerdyn swyddogol pleidleisio drwy’r post gael ei anfon neu ei ddanfon i gyfeiriad cymwys yr etholwr.

(3Rhaid i gerdyn swyddogol pleidleisio drwy ddirprwy neu gerdyn swyddogol pleidleisio drwy’r post drwy ddirprwy gael ei anfon neu ei ddanfon i gyfeiriad y dirprwy, fel y’i dangosir yn y rhestr dirprwyon.

(4Rhaid i bob cerdyn pleidleisio fod yn y ffurf briodol yn [F11yr Atodiad cymwys] neu ffurf i’r un perwyl a rhaid iddo nodi—

(a)enw’r cyngor y mae cynghorwyr i’w hethol iddo,

(b)y ward etholiadol y mae cynghorwyr i’w hethol drosti,

(c)nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol dros y ward etholiadol honno,

(d)enw, cyfeiriad cymwys a rhif cofrestr yr etholwr,

(e)dyddiad ac oriau’r bleidlais a safle gorsaf bleidleisio’r etholwr, ac

(f)unrhyw wybodaeth arall y mae’r swyddog canlyniadau o’r farn ei bod yn briodol.

(5Caniateir i wybodaeth wahanol gael ei darparu o dan baragraff (4)(f) i wahanol etholwyr neu ddisgrifiadau o etholwr.

(6Yn achos etholwr sydd â chofnod dienw, rhaid i’r cerdyn pleidleisio—

(a)cynnwys unrhyw wybodaeth a bennir yn [F12yr Atodiad cymwys] yn hytrach na’r wybodaeth a nodir ym mharagraff (4)(d), a

(b)cael ei anfon neu ei ddanfon mewn amlen neu fath arall o orchudd fel nad yw’n datgelu bod gan yr etholwr gofnod dienw.

(7Yn y rheol hon—

[F13(aa)ystyr “yr Atodiad cymwys” yw—

(i)pan y system mwyafrif syml yw’r system bleidleisio sy’n gymwys i’r etholiad, Atodiad 5;

(ii)pan y system pleidlais sengl drosglwyddadwy yw’r system bleidleisio sy’n gymwys i’r etholiad, Atodiad 5A.]

(a)ystyr “etholwr” yw person sydd wedi ei gofrestru yn y gofrestr etholwyr llywodraeth leol ar gyfer y ward etholiadol dan sylw ar y diwrnod olaf ar gyfer cyhoeddi hysbysiad o’r etholiad, ac eithrio ei fod yn cynnwys person a ddangosir y pryd hwnnw yn y gofrestr (neu, yn achos person sydd â chofnod dienw yn y gofrestr, yn y cofnod o gofnodion dienw) fel person sydd o dan yr oedran pleidleisio dim ond os yw’n ymddangos o’r gofrestr (neu o’r cofnod o gofnodion dienw) y bydd y person o oedran pleidleisio ar y diwrnod a bennwyd ar gyfer y bleidlais;

(b)mae i “cyfeiriad cymwys” yr un ystyr ag sydd i “qualifying address” yn Neddf 1983 (gweler adran 202(1) o’r Ddeddf honno(13)).

Cyfarpar gorsafoedd pleidleisioLL+C

32.—(1Rhaid i’r swyddog canlyniadau ddarparu i bob swyddog llywyddu unrhyw nifer o flychau pleidleisio a phapurau pleidleisio y mae’r swyddog canlyniadau o’r farn eu bod yn angenrheidiol.

(2Rhaid i bob blwch pleidleisio fod wedi ei adeiladu fel y gellir rhoi papurau pleidleisio ynddo, ond na ellir eu tynnu’n ôl ohono, heb i’r blwch gael ei ddatgloi neu, pan nad oes clo ar y blwch, heb i’r sêl gael ei thorri.

(3Rhaid i’r swyddog canlyniadau ddarparu i bob gorsaf bleidleisio—

(a)deunyddiau i alluogi’r pleidleiswyr i farcio’r papurau pleidleisio,

(b)copïau o’r gofrestr etholwyr berthnasol,

(c)copïau o unrhyw hysbysiadau a ddyroddwyd o dan adran 13B(3B) neu (3D) o Ddeddf 1983(14) i’r graddau y maent yn ymwneud â’r gofrestr etholwyr berthnasol,

(d)copïau o’r rhannau o unrhyw restrau o bersonau sydd â hawl i bleidleisio drwy’r post neu drwy ddirprwy sy’n cyfateb i’r gofrestr etholwyr berthnasol, ac

(e)rhestr (“rhestr rhifau cyfatebol yr orsaf bleidleisio”) sy’n cynnwys y rhan honno o Ran 2 o’r rhestr rhifau cyfatebol a baratowyd o dan reol 23 sy’n cynnwys y rhifau, ond nid y marciau adnabod unigryw eraill, sy’n cyfateb i’r rhai ar y papurau pleidleisio a ddarperir i’r swyddog llywyddu o dan baragraff (1).

(4Ym mharagraff (3), ystyr “y gofrestr etholwyr berthnasol” yw’r gofrestr etholwyr ar gyfer y ward etholiadol neu unrhyw ran ohoni sy’n cynnwys y cofnodion sy’n ymwneud â’r etholwyr a ddyrannwyd i’r orsaf bleidleisio.

(5Rhaid i’r swyddog canlyniadau beri i gopi sampl wedi ei ehangu o’r papur pleidleisio gael ei arddangos ym mhob gorsaf bleidleisio.

(6Rhaid i’r swyddog canlyniadau hefyd ddarparu i bob gorsaf bleidleisio—

(a)copi sampl wedi ei ehangu o’r papur pleidleisio i’w ddal yn y llaw er mwyn cynorthwyo pleidleiswyr sy’n rhannol ddall, a

(b)dyfais i alluogi pleidleiswyr sy’n ddall neu’n rhannol ddall i bleidleisio heb fod angen cymorth y swyddog llywyddu neu gydymaith (gweler rheolau 43 i 45 o ran y cymorth y caniateir i’r swyddog llywyddu neu gydymaith ei roi).

(7Rhaid i’r copi sampl o’r papur pleidleisio y mae’n ofynnol ei arddangos a’i ddarparu o dan baragraffau (5) a (6)(a) gael ei farcio’n glir fel sbesimen a’i ddarparu i arwain y pleidleiswyr yn unig.

(8Rhaid i’r ddyfais y cyfeirir ati ym mharagraff (6)(b)—

(a)caniatáu i bapur pleidleisio gael ei fewnosod yn y ddyfais a’i thynnu ohoni, neu ei gysylltu â’r ddyfais a’i datgysylltu oddi wrthi yn hawdd a heb ddifrodi’r papur,

(b)dal y papur pleidleisio yn gadarn yn ei le wrth gael ei defnyddio, ac

(c)darparu modd addas i’r pleidleisiwr—

(i)adnabod y bylchau ar y papur pleidleisio y gellir marcio pleidleisiau arnynt,

(ii)adnabod yr ymgeisydd y mae pob bwlch yn cyfeirio ato, a

(iii)marcio’i bleidlais yn y bwlch a ddewisir.

(9Rhaid i’r swyddog canlyniadau hefyd beri i hysbysiad yn y ffurf yn [F14yr Atodiad cymwys], yn rhoi cyfarwyddydau i arwain y pleidleiswyr wrth bleidleisio, gael ei arddangos—

(a)y tu mewn i bob gorsaf bleidleisio (ond y tu allan i’r bythau pleidleisio), a

(b)y tu allan i bob gorsaf bleidleisio.

[F15(9A)  Ym mharagraff (9), ystyr “yr Atodiad cymwys” yw—

(a)pan y system mwyafrif syml yw’r system bleidleisio sy’n gymwys i’r etholiad, Atodiad 6;

(b)pan y system pleidlais sengl drosglwyddadwy yw’r system bleidleisio sy’n gymwys i’r etholiad, Atodiad 6A.]

(10Caniateir hefyd i’r swyddog canlyniadau ddarparu copïau o’r hysbysiad mewn Braille neu mewn unrhyw ieithoedd heblaw Cymraeg a Saesneg y mae’r swyddog canlyniadau o’r farn eu bod yn briodol.

(11[F16Pan y system mwyafrif syml yw’r system bleidleisio sy’n gymwys i’r etholiad,] Rhaid dangos hysbysiad sy’n cynnwys yr wybodaeth a ganlyn y tu mewn i bob bwth pleidleisio ym mhob gorsaf bleidleisio—

(a)pan fo un cynghorydd yn unig i gael ei ethol, cyfarwyddyd i’r pleidleisiwr i bleidleisio unwaith yn unig drwy roi croes [X] yn y blwch gyferbyn â’i ddewis;

(b)pan fo mwy nag un cynghorydd i gael eu hethol, cyfarwyddyd i’r pleidleisiwr i bleidleisio dros ddim mwy na’r nifer sydd i’w ethol drwy roi croes [X] yn y blwch gyferbyn â phob un o’i ddewisiadau;

(c)rhybudd i’r pleidleisiwr i beidio â rhoi unrhyw farc arall ar y papur pleidleisio neu mae’n bosibl na fydd ei bleidlais yn cyfrif.

[F17(12)  Pan y system pleidlais sengl drosglwyddadwy yw’r system bleidleisio sy’n gymwys i’r etholiad, rhaid dangos hysbysiad sy’n cynnwys yr wybodaeth a ganlyn y tu mewn i bob bwth pleidleisio ym mhob gorsaf bleidleisio—

(a)cyfarwyddyd i’r pleidleisiwr i roi’r rhif 1 yn y blwch pleidleisio gyferbyn â’i ddewis cyntaf;

(b)esboniad i’r pleidleisiwr y caiff wneud cynifer neu gyn lleied o ddewisiadau ychwanegol ag y dymuna, ynghyd â chyfarwyddyd ynghylch sut i wneud hyn drwy roi’r rhif 2 gyferbyn â’i ail ddewis, y rhif 3 gyferbyn â’i drydydd dewis ac yn y blaen.]

Penodi asiantau pleidleisio ac asiantau cyfrifLL+C

33.—(1Cyn i’r bleidlais ddechrau, caiff ymgeisydd benodi—

(a)asiantau pleidleisio i fod yn bresennol mewn gorsafoedd pleidleisio er mwyn canfod cambersonadu, a

(b)asiantau cyfrif i fod yn bresennol wrth i’r pleidleisiau gael eu cyfrif.

(2Caniateir i’r un person gael ei benodi’n asiant pleidleisio neu’n asiant cyfrif gan fwy nag un ymgeisydd.

(3Uchafswm yr asiantau pleidleisio a gaiff fod yn bresennol mewn gorsaf bleidleisio yw pedwar neu unrhyw nifer uwch a ganiateir gan y swyddog canlyniadau drwy hysbysiad.

(4Os yw nifer yr asiantau pleidleisio a benodir i fod yn bresennol mewn gorsaf bleidleisio benodol yn fwy na phedwar (neu unrhyw nifer uwch a ganiateir gan y swyddog canlyniadau drwy hysbysiad)—

(a)rhaid i’r swyddog canlyniadau benderfynu pa asiantau y caniateir iddynt fod yn bresennol drwy fwrw coelbren, a

(b)dim ond yr asiantau y mae’r coelbren yn mynd o’u plaid sydd i’w trin fel pe baent wedi eu penodi.

(5Caiff y swyddog canlyniadau osod terfyn ar nifer yr asiantau cyfrif y caniateir i bob ymgeisydd eu penodi ond rhaid i’r terfyn—

(a)bod yr un fath ar gyfer pob un o’r ymgeiswyr, a

(b)oni bai bod amgylchiadau arbennig, beidio â bod yn llai na’r nifer a geir drwy rannu nifer y clercod a gyflogir yn y cyfrif â nifer yr ymgeiswyr (gan anwybyddu unrhyw weddill).

(6At ddibenion y cyfrifiadau sy’n ofynnol gan baragraff (5), mae asiant cyfrif a benodwyd ar gyfer mwy nag un ymgeisydd yn asiant ar wahân ar gyfer pob un o’r ymgeiswyr y’i penodwyd ganddynt.

(7Rhaid i’r ymgeisydd roi hysbysiad i’r swyddog canlyniadau pan benodir asiantau pleidleisio neu asiantau cyfrif.

(8Rhaid i’r hysbysiad—

(a)rhoi enwau a chyfeiriadau’r personau a benodwyd, a

(b)cael ei roi dim hwyrach na’r pumed diwrnod cyn diwrnod y bleidlais, gan ddiystyru unrhyw ddiwrnod eithriedig.

(9Os bydd asiant pleidleisio neu asiant cyfrif yn marw neu’n dod yn analluog i weithredu—

(a)caiff yr ymgeisydd benodi asiant arall yn ei le, a

(b)rhaid i’r ymgeisydd roi hysbysiad i’r swyddog canlyniadau ar unwaith yn datgan enw a chyfeiriad yr asiant arall.

Gwybodaeth Cychwyn

I39Atod. 1 para. 33 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1

Asiantau pleidleisio ac asiantau cyfrif: darpariaeth atodolLL+C

34.—(1Caiff ymgeisydd neu asiant etholiadol yr ymgeisydd—

(a)gwneud unrhyw beth y mae asiant pleidleisio neu asiant cyfrif yr ymgeisydd wedi ei awdurdodi i’w wneud (neu y byddai wedi ei awdurdodi i’w wneud, pe bai wedi ei benodi);

(b)cynorthwyo asiant pleidleisio neu asiant cyfrif yr ymgeisydd i wneud unrhyw beth y mae’r asiant pleidleisio neu’r asiant cyfrif wedi ei awdurdodi i’w wneud.

(2Caniateir i unrhyw beth y mae’n ofynnol ei wneud neu yr awdurdodir ei wneud o dan y rheolau hyn ym mhresenoldeb yr asiantau pleidleisio neu’r asiantau cyfrif gael ei wneud yn hytrach ym mhresenoldeb asiant etholiadol yr ymgeisydd.

(3Pan fo’r rheolau hyn yn ei gwneud yn ofynnol i rywbeth gael ei wneud neu’n awdurdodi rhywbeth i gael ei wneud ym mhresenoldeb yr asiantau pleidleisio neu’r asiantau cyfrif, nid yw diffyg presenoldeb yr asiant neu’r asiantau ar yr adeg a’r lle a benodwyd yn peri bod y peth a wneir yn annilys.

(4Pan nad oes gan ymgeisydd asiant cyfrif, caiff y swyddog canlyniadau roi unrhyw hysbysiad y mae’n ofynnol ei roi i’r asiant cyfrif o dan y rheolau hyn i’r ymgeisydd.

Gwybodaeth Cychwyn

I40Atod. 1 para. 34 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1

Hysbysu’r gofyniad cyfrinacheddLL+C

35.—(1Rhaid i’r swyddog canlyniadau wneud trefniadau i sicrhau bod pawb sy’n bresennol mewn gorsaf bleidleisio, heblaw am berson a ddisgrifir ym mharagraff (2)(a) i (d), wedi cael hysbysiad yn nodi darpariaethau adran 66(1), (3) a (6) o Ddeddf 1983(15).

(2Y personau nad yw’r ddyletswydd o dan baragraff (1) yn gymwys iddynt yw—

(a)person sy’n bresennol yn yr orsaf bleidleisio at ddiben pleidleisio;

(b)person o dan 16 oed sy’n mynd yng nghwmni pleidleisiwr i’r orsaf bleidleisio;

(c)person sy’n bresennol yn yr orsaf bleidleisio fel cydymaith pleidleisiwr ag anableddau;

(d)person sy’n bresennol yn yr orsaf bleidleisio fel cwnstabl ar ddyletswydd.

(3Yn y rheol hon, mae cyfeiriad at gwnstabl yn cynnwys cyfeiriad at berson a ddynodwyd yn swyddog cymorth cymunedol neu’n wirfoddolwr cymorth cymunedol o dan adran 38 o Ddeddf Diwygio’r Heddlu 2002(16) (pwerau’r heddlu i staff sy’n sifiliaid a gwirfoddolwyr).

Gwybodaeth Cychwyn

I41Atod. 1 para. 35 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1

Dychwelyd papurau pleidleisio postLL+C

36.—(1Pan fo pleidlais bost wedi ei dychwelyd mewn cysylltiad â pherson sydd wedi ei gofnodi ar y rhestr pleidleiswyr post, rhaid i’r swyddog canlyniadau farcio’r rhestr yn y modd a ragnodir gan reoliadau o dan Ddeddf 1983.

(2Pan fo pleidlais bost drwy ddirprwy wedi ei dychwelyd mewn cysylltiad â dirprwy sydd wedi ei gofnodi ar y rhestr pleidleiswyr post drwy ddirprwy, rhaid i’r swyddog canlyniadau farcio’r rhestr yn y modd a ragnodir gan reoliadau o dan y Ddeddf honno.

(3Nid yw rheol 54(7) yn gymwys at ddibenion penderfynu a yw pleidlais bost neu bleidlais bost drwy ddirprwy wedi ei dychwelyd at ddibenion y rheol hon.

Gwybodaeth Cychwyn

I42Atod. 1 para. 36 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1

Y BleidlaisLL+C

Derbyn i’r orsaf bleidleisioLL+C

37.—(1Rhaid i’r swyddog llywyddu wahardd pawb o’r orsaf bleidleisio ac eithrio—

(a)pleidleiswyr a ddyrannwyd i’r orsaf bleidleisio,

(b)personau o dan 16 oed sy’n mynd yng nghwmni pleidleiswyr i’r orsaf bleidleisio,

(c)yr ymgeiswyr a’u hasiantau etholiadol,

(d)yr asiantau pleidleisio a benodwyd i fod yn bresennol yn yr orsaf bleidleisio,

(e)y clercod a benodwyd i fod yn bresennol yn yr orsaf bleidleisio,

(f)y swyddog canlyniadau neu aelodau o staff y swyddog canlyniadau,

(g)personau sydd â hawl i fod yn bresennol yn rhinwedd unrhyw un neu ragor o adrannau 6A i 6D o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (cynrychiolwyr y Comisiwn Etholiadol a sylwedyddion achrededig)(17),

(h)y cwnstabliaid ar ddyletswydd, ac

(i)cymdeithion pleidleiswyr ag anableddau.

(2Rhaid i’r swyddog llywyddu reoleiddio cyfanswm nifer y pleidleiswyr a’r personau o dan 16 oed sydd yn eu cwmni a dderbynnir i’r orsaf bleidleisio yr un pryd.

(3Dim ond un asiant pleidleisio y caniateir ei dderbyn yr un pryd i orsaf bleidleisio ar ran yr un ymgeisydd.

(4Caiff cwnstabl sy’n pleidleisio’n bersonol wneud hynny naill ai—

(a)yn yr orsaf bleidleisio a ddyrannwyd o dan y rheolau hyn, neu

(b)mewn gorsaf bleidleisio arall, os yw’r cwnstabl yn dangos ac yn ildio tystysgrif yn y ffurf yn Atodiad 7 neu ffurf i’r un perwyl, a lofnodwyd gan swyddog heddlu sydd â gradd arolygydd neu’n uwch.

(5Caiff person a gyflogir gan y swyddog canlyniadau, os yw’n pleidleisio’n bersonol, wneud hynny naill ai—

(b)mewn gorsaf bleidleisio arall, os yw’r person yn dangos ac yn ildio tystysgrif yn y ffurf yn Atodiad 7 neu ffurf i’r un perwyl, a lofnodwyd gan y swyddog canlyniadau.

(6Rhaid i dystysgrif sy’n cael ei hildio o dan baragraff (4) neu (5) gael ei chanslo ar unwaith.

(7Yn y rheol hon, mae cyfeiriad at gwnstabl yn cynnwys cyfeiriad at berson a ddynodwyd yn swyddog cymorth cymunedol neu’n wirfoddolwr cymorth cymunedol o dan adran 38 o Ddeddf Diwygio’r Heddlu 2002 (pwerau’r heddlu i staff sy’n sifiliaid a gwirfoddolwyr).

Gwybodaeth Cychwyn

I43Atod. 1 para. 37 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1

Cadw trefn yn yr orsafLL+C

38.—(1Rhaid i’r swyddog llywyddu gadw trefn yn yr orsaf bleidleisio.

(2Os bydd person yn camymddwyn mewn gorsaf bleidleisio, neu’n methu ag ufuddhau i unrhyw orchmynion a roddir yn gyfreithlon gan y swyddog llywyddu, caiff y swyddog llywyddu orchymyn i’r person gael ei symud o’r orsaf bleidleisio.

(3Pan fo’r swyddog llywyddu yn gorchymyn bod person yn cael ei symud, caniateir i’r person gael ei symud ar unwaith—

(a)gan gwnstabl yn yr orsaf bleidleisio neu yn ei hymyl, neu

(b)gan unrhyw berson arall a awdurdodir mewn ysgrifen gan y swyddog canlyniadau i symud pobl o’r orsaf bleidleisio.

(4Pan fo person wedi ei symud, ni chaiff fynd yn ôl, heb ganiatâd y swyddog llywyddu, i’r orsaf bleidleisio ar ddiwrnod y bleidlais.

(5Pan gyhuddir person sydd wedi ei symud o gyflawni trosedd yn yr orsaf bleidleisio, caniateir ymdrin â’r person fel person y mae cwnstabl wedi mynd ag ef i’r ddalfa am drosedd heb warant.

(6Ni chaniateir i’r pwerau a roddir gan y rheol hon gael eu harfer er mwyn atal pleidleisiwr sydd fel arall â hawl i bleidleisio mewn gorsaf bleidleisio rhag cael cyfle i bleidleisio yn yr orsaf honno.

Gwybodaeth Cychwyn

I44Atod. 1 para. 38 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1

Selio blychau pleidleisioLL+C

39.—(1Rhaid i’r swyddog llywyddu gymryd y camau a ganlyn yn union cyn i’r bleidlais ddechrau.

(2Rhaid i’r swyddog llywyddu ddangos y blwch pleidleisio gwag i’r bobl hynny (os oes rhai) sy’n bresennol yn yr orsaf bleidleisio, fel y gallant weld ei fod yn wag.

(3Yna rhaid i’r swyddog llywyddu—

(a)cloi’r blwch, os oes iddo glo, a

(b)gosod sêl y swyddog canlyniadau arno, mewn modd sy’n ei atal rhag cael ei agor heb dorri’r sêl.

(4Yna rhaid i’r swyddog llywyddu osod y blwch, o fewn golwg y swyddog llywyddu, i dderbyn papurau pleidleisio.

(5Rhaid i’r swyddog llywyddu gadw’r blwch dan glo a than sêl neu (os nad oes iddo glo) ei gadw dan sêl.

Gwybodaeth Cychwyn

I45Atod. 1 para. 39 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1

Cwestiynau y caniateir eu gofyn i bleidleiswyrLL+C

40.—(1Adeg cais am bapur pleidleisio (ond nid wedyn), caiff y swyddog llywyddu ofyn i unrhyw berson a ddisgrifir yng ngholofn gyntaf Tabl 1 (a nodir ym mharagraff (3)) neu yng ngholofn gyntaf Tabl 2 (a nodir ym mharagraff (4)), un neu ragor o’r cwestiynau a nodir yn y cofnod cyfatebol yn yr ail golofn.

(2Os bydd yr ymgeisydd neu asiant etholiadol neu asiant pleidleisio’r ymgeisydd yn ei gwneud yn ofynnol i’r swyddog llywyddu wneud hynny, rhaid i’r swyddog llywyddu ofyn i unrhyw berson a ddisgrifir yng ngholofn gyntaf Tabl 1 un neu ragor o’r cwestiynau a nodir yn y cofnod cyfatebol yn yr ail golofn.

(3Mae Tabl 1 yn nodi cwestiynau y caiff swyddog llywyddu eu gofyn o dan baragraff (1) ac y caiff ymgeisydd (neu asiant etholiadol neu asiant pleidleisio’r ymgeisydd) ei gwneud yn ofynnol iddynt gael eu gofyn o dan baragraff (2).

Tabl 1
DisgrifiadCwestiynau
1. Person sy’n gwneud cais fel etholwr

1(a) Ai chi yw’r person sydd wedi ei gofrestru yn y gofrestr etholwyr llywodraeth leol ar gyfer yr etholiad hwn fel a ganlyn?

Nodiadau ar 1(a)

Yna rhaid i’r swyddog llywyddu ddarllen y cofnod cyfan o’r copïau o’r cofnodion cofrestru.

1(b) Ydych chi eisoes wedi pleidleisio, yn y ward etholiadol hon neu ward etholiadol arall, yn yr etholiad ar gyfer cynghorwyr i’r sir/ fwrdeistref sirol hon, heblaw fel dirprwy ar ran rhyw berson arall?

Nodiadau ar 1(b)

Rhaid i’r swyddog llywyddu ddweud naill ai “sir” neu “fwrdeistref sirol”, fel y bo’n briodol.

Caniateir hepgor y geiriau “, yn y ward etholiadol hon neu ward etholiadol arall,” os oes etholiad yn digwydd mewn un ward etholiadol yn unig.

2. Person sy’n gwneud cais fel dirprwy ar ran etholwr heblaw etholwr sydd â chofnod dienw

2(a) Ai chi yw’r person y mae ei enw’n ymddangos fel AB yn y rhestr dirprwyon ar gyfer yr etholiad hwn fel person sydd â hawl i bleidleisio fel dirprwy ar ran CD?

2(b) Ydych chi eisoes wedi pleidleisio, yn y ward etholiadol hon neu ward etholiadol arall, yn yr etholiad ar gyfer cynghorwyr i’r sir/ fwrdeistref sirol, fel dirprwy ar ran CD?

2(c) Ai chi yw priod, partner sifil, rhiant, taid, nain, brawd, chwaer, plentyn, ŵyr neu wyres CD?

Nodiadau ar 2(a) i (c)

Pan fo cwestiwn yn cyfeirio at AB, mae’r swyddog llywyddu’n darllen yr enw fel y mae’n ymddangos yn y rhestr dirprwyon. Pan fo cwestiwn yn cyfeirio at CD, mae’r swyddog llywyddu’n darllen enw’r etholwr.

Nodyn ar 2(b)

Rhaid i’r swyddog llywyddu ddweud naill ai “sir” neu “fwrdeistref sirol”, fel y bo’n briodol.

Caniateir hepgor y geiriau “, yn y ward etholiadol hon neu ward etholiadol arall,” os oes etholiad yn digwydd mewn un ward etholiadol yn unig.

3. Person sy’n gwneud cais fel dirprwy ar ran etholwr sydd â chofnod dienw

3(a) Ai chi yw’r person sydd â hawl i bleidleisio fel dirprwy ar ran yr etholwr sydd â’r rhif [x] yn y gofrestr etholwyr?

3(b) Ydych chi eisoes wedi pleidleisio fel dirprwy ar ran yr etholwr sydd â’r rhif [x] yn y gofrestr etholwyr?

3(c) Ai chi yw priod, partner sifil, rhiant, taid, nain, brawd, chwaer, plentyn, ŵyr neu wyres y person sydd â’r rhif [x] yn y gofrestr etholwyr?

Nodyn ar 3(a) i (c)

Pan fo’r cwestiynau yn y cofnod hwn yn cyfeirio at [x], rhaid i’r swyddog llywyddu ddarllen rhif yr etholwr o’r copïau o’r cofnodion cofrestru.

4. Person sy’n gwneud cais fel dirprwy y gofynnwyd y cwestiwn sydd wedi ei rifo 2(c) neu 3(c) yng ngholofn 2 iddo ac nad yw wedi ateb “Ie”

4. Ydych chi eisoes wedi pleidleisio, yn y ward etholiadol hon neu ward etholiadol arall, yn yr etholiad ar gyfer cynghorwyr i’r sir/fwrdeistref sirol, ar ran dau berson nad ydych yn briod, partner sifil, rhiant, taid, nain, brawd, chwaer, plentyn, ŵyr neu wyres iddynt?

Nodyn ar 4

(4Mae Tabl 2 yn nodi’r cwestiynau y caiff swyddog llywyddu eu gofyn o dan baragraff (1) (ond na chaniateir ei gwneud yn ofynnol i’r swyddog llywyddu eu gofyn o dan baragraff (2)).

Tabl 2
DisgrifiadCwestiynau
1. Person sy’n gwneud cais fel etholwr y ceir cofnod mewn perthynas ag ef yn y rhestr pleidleiswyr post

1(a) Wnaethoch chi gais am bleidleisio drwy’r post?

1(b) Pam nad ydych chi wedi pleidleisio drwy’r post?

2. Person sy’n gwneud cais fel dirprwy ac sydd wedi ei enwi yn y rhestr pleidleiswyr post drwy ddirprwy

2(a) Wnaethoch chi gais am bleidleisio drwy’r post fel dirprwy?

2(b) Pam nad ydych chi wedi pleidleisio drwy’r post fel dirprwy?

(5Ni chaniateir rhoi papur pleidleisio i unrhyw berson y mae’n ofynnol iddo ateb un neu ragor o’r cwestiynau yn Nhabl 1 neu 2 oni bai bod y person wedi ateb y cwestiwn neu’r cwestiynau’n foddhaol.

(6Ac eithrio fel yr awdurdodir gan y rheol hon, ni chaniateir ymholi ynglŷn â hawl unrhyw berson i bleidleisio.

(7Yn y rheol hon, ystyr “y copïau o’r cofnodion cofrestru” yw’r copïau a ddarperir gan y swyddog canlyniadau ar gyfer yr orsaf bleidleisio o dan reol 32(3)(b) ac (c) (copïau o’r gofrestr etholwyr berthnasol a chopïau o unrhyw hysbysiadau a ddyroddwyd o dan adran 13B(3B) neu (3D) o Ddeddf 1983 sy’n ymwneud â’r gofrestr etholwyr berthnasol).

Gwybodaeth Cychwyn

I46Atod. 1 para. 40 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1

Herio pleidleisiwrLL+C

41.  Ni chaniateir atal person rhag pleidleisio dim ond am fod y naill neu’r llall neu’r ddau o’r canlynol yn gymwys—

(a)bod ymgeisydd neu asiant etholiadol neu asiant pleidleisio ymgeisydd yn datgan bod ganddynt achos rhesymol dros gredu bod y person wedi cyflawni trosedd cambersonadu;

(b)bod y person wedi ei arestio ar y sail yr amheuir ei fod wedi cyflawni neu ar fin cyflawni trosedd cambersonadu.

Gwybodaeth Cychwyn

I47Atod. 1 para. 41 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1

Gweithdrefn pleidleisioLL+C

42.—(1Rhaid rhoi papur pleidleisio i bleidleisiwr sy’n gwneud cais am un.

(2Yn union cyn i’r papur pleidleisio gael ei roi—

(a)rhaid i rif yr etholwr, fel y’i nodir yn y copïau o’r cofnodion cofrestru, gael ei alw,

(b)oni bai bod gan yr etholwr gofnod dienw, rhaid i enw’r etholwr, fel y’i nodir yn y copïau o’r cofnodion cofrestru, gael ei alw hefyd,

(c)rhaid i rif yr etholwr gael ei farcio ar restr rhifau cyfatebol yr orsaf bleidleisio wrth ochr rhif y papur pleidleisio sydd i’w ddyroddi,

(d)rhaid gosod marc yn y copïau o’r cofnodion cofrestru gyferbyn â rhif yr etholwr i nodi bod papur pleidleisio wedi ei dderbyn, ond heb ddangos y papur pleidleisio penodol a dderbyniwyd, ac

(e)yn achos person sy’n gwneud cais am bapur pleidleisio fel dirprwy, rhaid gosod marc hefyd gyferbyn ag enw’r person yn y rhestr dirprwyon.

(3Yn achos etholwr sydd â chofnod dienw—

(a)dim ond os dangosir cerdyn pleidleisio swyddogol yr etholwr neu, pan fo’r etholwr yn pleidleisio drwy ddirprwy, cerdyn pleidleisio swyddogol y dirprwy, i’r swyddog llywyddu y caniateir rhoi’r papur pleidleisio, a

(b)dim ond rhif yr etholwr y caniateir ei alw.

(4Ar ôl cael y papur pleidleisio, rhaid i’r pleidleisiwr fynd ar unwaith i un o’r bythau yn yr orsaf bleidleisio.

(5Heb oedi’n ddiangen, rhaid wedyn i’r pleidleisiwr—

(a)marcio’r papur pleidleisio’n gyfrinachol,

(b)plygu’r papur pleidleisio er mwyn cuddio’r bleidlais,

(c)dangos cefn y papur pleidleisio i’r swyddog llywyddu, er mwyn datgelu’r rhif a’r marc adnabod unigryw arall, a

(d)rhoi’r papur pleidleisio yn y blwch pleidleisio ym mhresenoldeb y swyddog llywyddu.

(6Cyn gynted ag y bydd y pleidleisiwr wedi rhoi’r papur pleidleisio yn y blwch pleidleisio, rhaid i’r pleidleisiwr adael yr orsaf bleidleisio.

(7Os bydd pleidleisiwr yn yr orsaf bleidleisio, neu mewn ciw y tu allan i’r orsaf bleidleisio, wrth i’r bleidlais gau ac nad yw wedi gallu bwrw ei bleidlais eto, rhaid i’r swyddog llywyddu ganiatáu i’r pleidleisiwr fwrw ei bleidlais cyn gynted ag y bo’n ymarferol.

(8Yn y rheol hon, mae i “y copïau o’r cofnodion cofrestru” yr un ystyr ag yn rheol 40 (gweler paragraff (7) o’r rheol honno).

Gwybodaeth Cychwyn

I48Atod. 1 para. 42 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1

Pleidleiswyr sydd ag anabledd neu sy’n methu darllen: marcio pleidleisiau gan y swyddog llywydduLL+C

43.—(1Caiff pleidleisiwr wneud cais i’r swyddog llywyddu am i’w bleidlais gael ei marcio os yw’r pleidleisiwr—

(a)yn methu, oherwydd dallineb neu anabledd arall, â phleidleisio yn y modd a gyfarwyddir gan y rheolau hyn, neu

(b)yn datgan ar lafar nad yw’n gallu darllen.

(2Pan wneir cais, rhaid i’r swyddog llywyddu, ym mhresenoldeb unrhyw asiantau pleidleisio sydd yn yr orsaf bleidleisio pan wneir y cais—

(a)peri i bleidlais y pleidleisiwr gael ei marcio ar bapur pleidleisio yn y modd a gyfarwyddir gan y pleidleisiwr, a

(b)peri i’r papur pleidleisio gael ei osod yn y blwch pleidleisio.

(3Pan fo pleidlais pleidleisiwr wedi ei marcio yn unol â pharagraff (2), rhaid i’r swyddog llywyddu nodi’r manylion a ganlyn ar restr a gedwir gan y swyddog llywyddu at ddibenion y rheol hon (“y rhestr pleidleisiau a farciwyd gan y swyddog llywyddu”)—

(a)enw a rhif y pleidleisiwr, fel y’u dangosir yn y copïau o’r cofnodion cofrestru, a

(b)y rheswm y cafodd y bleidlais ei marcio.

(4Yn achos person sy’n pleidleisio fel dirprwy ar ran etholwr, y rhif sydd i’w gofnodi ynghyd ag enw’r pleidleisiwr yn y rhestr pleidleisiau a farciwyd gan y swyddog llywyddu yw rhif yr etholwr.

(5Yn y rheol hon, mae i “y copïau o’r cofnodion cofrestru” yr un ystyr ag yn rheol 40 (gweler paragraff (7) o’r rheol honno).

Gwybodaeth Cychwyn

I49Atod. 1 para. 43 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1

Pleidleiswyr sydd ag anabledd neu sy’n methu darllen: cymorth cymdeithionLL+C

44.—(1Caiff pleidleisiwr wneud cais i’r swyddog llywyddu, ar sail dallineb neu anabledd arall neu anallu i ddarllen, am ganiatâd i bleidleisio gyda chymorth cydymaith.

(2Pan wneir cais, rhaid i’r swyddog llywyddu ei gwneud yn ofynnol i’r pleidleisiwr ddatgan, ar lafar neu mewn ysgrifen, a yw dallineb neu anabledd arall, neu anallu i ddarllen, yn effeithio ar y pleidleisiwr fel na all bleidleisio heb gymorth cydymaith.

(3Yn y darpariaethau a ganlyn yn y rheol hon, cyfeirir at bleidleisiwr sy’n datgan bod dallineb neu anabledd arall, neu anallu i ddarllen yn effeithio arno fel na all bleidleisio heb gymorth cydymaith fel pleidleisiwr ag anableddau.

(4Pan wneir cais am bleidleisio gyda chymorth cydymaith, rhaid i’r cydymaith wneud datganiad ysgrifenedig gerbron y swyddog llywyddu bod y cydymaith—

(a)wedi cyrraedd 16 oed, a

(b)heb gynorthwyo mwy nag un pleidleisiwr ag anableddau o’r blaen i bleidleisio yn yr etholiad.

(5Rhaid i ddatganiad y cydymaith—

(a)bod yn y ffurf yn Atodiad 8, a

(b)cael ei roi i’r swyddog llywyddu sy’n gorfod tystio iddo a’i gadw.

(6Rhaid i’r swyddog llywyddu ganiatáu cais y pleidleisiwr am gymorth cydymaith os yw’r swyddog llywyddu—

(a)wedi ei fodloni bod dallineb neu anabledd arall, neu anallu i ddarllen, yn effeithio ar y pleidleisiwr fel na all bleidleisio heb gymorth cydymaith, a

(b)wedi ei fodloni hefyd gan ddatganiad ysgrifenedig y cydymaith fod y cydymaith wedi cyrraedd 16 oed ac nad yw’r cydymaith wedi cynorthwyo mwy nag un pleidleisiwr ag anableddau o’r blaen i bleidleisio yn yr etholiad.

(7Pan ganiateir y cais—

(a)caniateir i unrhyw beth y mae’n ofynnol ei wneud o dan y rheolau hyn i’r pleidleisiwr mewn cysylltiad â rhoi’r bleidlais gael ei wneud yn hytrach i’r cydymaith, a

(b)caiff y pleidleisiwr wneud unrhyw beth y mae angen ei wneud mewn cysylltiad â rhoi’r bleidlais gyda chymorth y cydymaith.

Gwybodaeth Cychwyn

I50Atod. 1 para. 44 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1

Pleidleisio gyda chymorth cydymaith: darpariaeth atodolLL+C

45.—(1Pan roddir pleidlais gyda chymorth cydymaith yn unol â rheol 44, rhaid i’r swyddog llywyddu wedyn nodi’r manylion a ganlyn mewn rhestr a gedwir gan y swyddog llywyddu (“y rhestr pleidleiswyr ag anableddau a gynorthwywyd gan gydymaith”)—

(a)enw a rhif y pleidleisiwr, fel y’u dangosir yn y copïau o’r cofnodion cofrestru, a

(b)enw a chyfeiriad y cydymaith.

(2Yn achos person sy’n pleidleisio fel dirprwy ar ran etholwr, y rhif sydd i’w nodi ynghyd ag enw’r pleidleisiwr yn y rhestr pleidleiswyr ag anableddau a gynorthwywyd gan gydymaith yw rhif yr etholwr.

(3Pan fo gan y pleidleisiwr gofnod dienw, dim ond rhif y pleidleisiwr yn y copïau o’r cofnodion cofrestru y caniateir ei nodi yn y rhestr pleidleiswyr ag anableddau a gynorthwywyd gan gydymaith.

(4Ni chaniateir codi ffi na thaliad arall mewn cysylltiad â datganiad a wneir gan gydymaith o dan reol 44(4).

(5Yn y rheol hon, mae i “y copïau o’r cofnodion cofrestru” yr un ystyr ag yn rheol 40 (gweler paragraff (7) o’r rheol honno).

Gwybodaeth Cychwyn

I51Atod. 1 para. 45 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1

Papurau pleidleisio a dendrwyd: yr amgylchiadau lle maent ar gaelLL+C

46.—(1Mae’r rheol hon yn nodi amgylchiadau pan fo gan berson sy’n gwneud cais am bleidlais (“y ceisydd”) hawl i bleidleisio ar ôl ateb yn foddhaol y cwestiynau y mae’r gyfraith yn caniatáu eu gofyn yn y bleidlais ond pan fo’r weithdrefn ar gyfer rhoi’r bleidlais yn cael ei haddasu yn y ddwy ffordd a ganlyn—

(a)bod rhaid i’r person ddefnyddio papur pleidleisio sydd o liw gwahanol i bapurau pleidleisio eraill, a

(b)bod rhaid i’r person roi’r papur pleidleisio i’r swyddog llywyddu (yn hytrach na’i roi yn y blwch pleidleisio).

Amgylchiadau lle mae pleidlais eisoes wedi ei rhoi yn bersonol

(2Y set gyntaf o amgylchiadau yw—

(a)pan fo’r ceisydd yn honni ei fod yn etholwr penodol a enwir yn y copïau o’r cofnodion cofrestru ac nad yw wedi ei enwi yn y rhestr pleidleiswyr post neu’r rhestr dirprwyon, a

(b)pan fo person arall eisoes wedi pleidleisio’n bersonol naill ai fel yr etholwr hwnnw neu fel dirprwy’r etholwr hwnnw.

(3Yr ail set o amgylchiadau yw—

(a)pan fo’r ceisydd yn honni ei fod yn berson penodol a enwir yn y rhestr dirprwyon fel dirprwy ar ran etholwr ac nad oes ganddo hawl i bleidleisio drwy’r post fel dirprwy, a

Amgylchiadau lle mae ceisydd ar y rhestr pleidleiswyr post yn honni nad yw wedi gwneud cais am bleidlais bost

(4Y drydedd set o amgylchiadau yw—

(a)pan fo’r ceisydd yn honni ei fod yn etholwr penodol a enwir yn y copïau o’r cofnodion cofrestru,

(b)pan fo’r ceisydd hefyd wedi ei enwi yn y rhestr pleidleiswyr post, ac

(c)pan fo’r ceisydd yn honni nad yw wedi gwneud cais am bleidleisio drwy’r post yn yr etholiad.

(5Y bedwaredd set o amgylchiadau yw—

(a)pan fo’r ceisydd yn honni ei fod yn berson penodol a enwir yn ddirprwy yn y rhestr dirprwyon,

(b)pan fo’r person hwnnw hefyd wedi ei enwi ar y rhestr pleidleiswyr post drwy ddirprwy, ac

(c)pan fo’r ceisydd yn honni nad yw wedi gwneud cais am bleidleisio drwy’r post fel dirprwy yn yr etholiad.

Amgylchiadau lle mae’r ceisydd yn honni ei fod wedi colli papur pleidleisio post etc.

(6Y bumed set o amgylchiadau yw—

(a)pan fo’r ceisydd, ar ôl yr amser olaf y caiff person wneud cais am bapur pleidleisio post newydd ond cyn i’r bleidlais gau, yn honni ei fod yn etholwr penodol a enwir yn y copïau o’r cofnodion cofrestru sydd hefyd wedi ei enwi yn y rhestr pleidleiswyr post, a

(b)pan fo’r ceisydd yn honni ei fod wedi colli papur pleidleisio post y person hwnnw neu heb ei gael.

(7Y chweched set o amgylchiadau yw—

(a)pan fo’r ceisydd, ar ôl yr amser olaf y caiff person wneud cais am bapur pleidleisio post newydd ond cyn i’r bleidlais gau, yn honni ei fod yn berson penodol a enwir yn ddirprwy yn y rhestr dirprwyon sydd hefyd wedi ei enwi yn y rhestr pleidleiswyr post drwy ddirprwy, a

(8Cyfeirir at bapur pleidleisio a roddir i swyddog llywyddu yn unol â’r rheol hon yn y rheolau hyn fel “papur pleidleisio a dendrwyd”.

(9Pan fo gan etholwr gofnod dienw, mae’r cyfeiriadau yn y rheol hon at berson a enwir yn y copïau o’r cofnodion cofrestru neu mewn rhestr i’w darllen fel cyfeiriadau at berson sydd â rhif yn y copïau neu yn y rhestr.

(10Yn y rheol hon, mae i “y copïau o’r cofnodion cofrestru” yr un ystyr ag yn rheol 40 (gweler paragraff (7) o’r rheol honno).

Gwybodaeth Cychwyn

I52Atod. 1 para. 46 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1

Dyletswyddau swyddogion llywyddu mewn perthynas â phapurau pleidleisio a dendrwydLL+C

47.—(1Mae’r rheol hon yn nodi dyletswyddau’r swyddog llywyddu mewn perthynas â phapurau pleidleisio a dendrwyd.

(2Rhaid i’r swyddog llywyddu arnodi’r wybodaeth a ganlyn ar y papur pleidleisio—

(a)enw’r pleidleisiwr, a

(b)rhif y pleidleisiwr yn y copïau o’r cofnodion cofrestru neu, os yw’r pleidleisiwr yn pleidleisio fel dirprwy ar ran etholwr, rhif yr etholwr.

(3Rhaid i’r swyddog llywyddu roi’r papur pleidleisio mewn pecyn ar wahân.

(4Rhaid cofnodi’r wybodaeth a ganlyn ar restr (y “rhestr pleidleisiau a dendrwyd”)—

(5Pan fo gan etholwr gofnod dienw, rhaid i’r swyddog llywyddu beidio â chynnwys enw’r pleidleisiwr ar y papur pleidleisio nac yn y rhestr pleidleisiau a dendrwyd.

(6Yn y rheol hon, mae i “y copïau o’r cofnodion cofrestru” yr un ystyr ag yn rheol 40 (gweler paragraff (7) o’r rheol honno).

Gwybodaeth Cychwyn

I53Atod. 1 para. 47 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1

Papurau pleidleisio a ddifethwydLL+C

48.—(1Mae’r rheol hon yn gymwys pan fo pleidleisiwr wedi ymdrin yn anfwriadol â’i bapur pleidleisio yn y fath fodd fel na ellir ei ddefnyddio’n gyfleus fel papur pleidleisio.

(2Caiff y pleidleisiwr sicrhau papur pleidleisio arall—

(a)drwy roi’r papur pleidleisio yr ymdriniwyd ag ef yn anfwriadol (y “papur pleidleisio a ddifethwyd”) i’r swyddog llywyddu, a

(b)drwy brofi er boddhad y swyddog llywyddu yr ymdriniwyd ag ef yn anfwriadol.

(3Pan roddir papur pleidleisio arall i’r pleidleisiwr, rhaid i’r papur pleidleisio a ddifethwyd gael ei ganslo ar unwaith.

Gwybodaeth Cychwyn

I54Atod. 1 para. 48 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1

Cywiro gwallau ar ddiwrnod y bleidlaisLL+C

49.  Rhaid i’r swyddog llywyddu gadw rhestr o bersonau y rhoddir papurau pleidleisio iddynt o ganlyniad i addasiad yn y gofrestr a wneir yn rhinwedd adran 13B(3B) neu (3D) o Ddeddf 1983 sy’n dod yn effeithiol ar ddiwrnod y bleidlais.

Gwybodaeth Cychwyn

I55Atod. 1 para. 49 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1

Gohirio’r bleidlais os ceir terfysgLL+C

50.—(1Mae’r rheol hon yn gymwys pan dorrir ar draws y trafodion mewn unrhyw orsaf bleidleisio neu pan gânt eu rhwystro gan derfysg neu drais agored.

(2Rhaid i’r swyddog llywyddu—

(a)gohirio’r trafodion tan drannoeth, a

(b)hysbysu’r swyddog canlyniadau ar unwaith.

(3Pan gaiff y bleidlais ei gohirio mewn gorsaf bleidleisio—

(a)rhaid i’r oriau pleidleisio ar y diwrnod y caiff ei gohirio iddo fod yr un fath ag ar gyfer y diwrnod gwreiddiol, a

(b)mae cyfeiriadau yn y rheolau hyn at ddiwedd y bleidlais i’w darllen fel cyfeiriadau at ddiwedd yr oriau pleidleisio ar y diwrnod y caiff ei gohirio iddo.

Gwybodaeth Cychwyn

I56Atod. 1 para. 50 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1

Y weithdrefn wrth gau’r bleidlaisLL+C

51.—(1Mae’r rheol hon yn nodi’r camau y mae’n rhaid i’r swyddog llywyddu eu cymryd cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl i bob pleidleisiwr fwrw ei bleidlais.

(2Ym mhresenoldeb unrhyw asiantau pleidleisio sydd yn yr orsaf bleidleisio, rhaid i’r swyddog llywyddu selio pob blwch pleidleisio (gyda’r allwedd ynghlwm os oes un) a oedd yn cael ei ddefnyddio yn yr orsaf bleidleisio er mwyn atal gosod papurau pleidleisio ychwanegol ynddo, gan ddefnyddio sêl y swyddog llywyddu a seliau unrhyw asiantau pleidleisio sy’n dymuno gosod eu sêl.

(3F18... Rhaid i’r swyddog llywyddu osod pob un o’r canlynol mewn pecynnau ar wahân, wedi eu selio gan ddefnyddio sêl y swyddog llywyddu a seliau unrhyw asiantau pleidleisio sy’n dymuno gosod eu sêl—

(a)y papurau pleidleisio sydd heb eu defnyddio a’r papurau pleidleisio a ddifethwyd (gyda’i gilydd);

(b)y papurau pleidleisio a dendrwyd;

(c)y copïau a farciwyd o’r cofnodion cofrestru a’r rhestr dirprwyon (gyda’i gilydd);

(d)rhestr rhifau cyfatebol yr orsaf bleidleisio, fel y’i marciwyd (gweler rheol 42(2)(c)) (y cyfeirir ati yn y darpariaethau a ganlyn yn y rheolau hyn fel “y rhestr rhifau cyfatebol a gwblhawyd”);

(e)unrhyw dystysgrifau a ildiwyd o dan reol 37(4) neu (5) (ildio tystysgrifau a ddyroddwyd i gwnstabliaid neu staff swyddogion canlyniadau);

(f)y rhestrau a’r datganiadau a ganlyn (gyda’i gilydd)—

(i)y rhestr pleidleisiau a farciwyd gan y swyddog llywyddu, ynghyd â datganiad o nifer y pleidleiswyr y mae eu pleidleisiau wedi eu marcio o dan y penawdau “anabledd” a “methu darllen” (gweler rheol 43);

(ii)y datganiadau a wnaed gan gymdeithion pleidleiswyr ag anableddau (gweler rheol 44);

(iii)y rhestr pleidleiswyr ag anableddau a gynorthwywyd gan gydymaith (gweler rheol 45);

(iv)y rhestr pleidleisiau a dendrwyd (gweler rheol 47);

(v)y rhestr a gadwyd o dan reol 49 (cywiro gwallau ar ddiwrnod y bleidlais).

[F19(3A) Rhaid i’r swyddog llywyddu wneud unrhyw beth sy’n ofynnol gan baragraff (3)(a), (b), (e) neu (f) yn yr orsaf bleidleisio, ym mhresenoldeb unrhyw asiantau pleidleisio sydd yno.

(3B) Caiff y swyddog llywyddu wneud unrhyw beth sy’n ofynnol gan baragraff (3)(c) neu (d)—

(a)yn yr orsaf bleidleisio, ym mhresenoldeb unrhyw asiantau pleidleisio sydd yno, neu

(b)os yw’r swyddog llywyddu wedi hysbysu’r asiantau pleidleisio ac wedi rhoi cyfle iddynt i fod yn bresennol, yn unrhyw le arall y mae’r swyddog llywyddu yn ystyried ei fod yn briodol, ym mhresenoldeb unrhyw asiantau pleidleisio sydd yno.]

(4Rhaid i’r swyddog llywyddu ddanfon y blychau pleidleisio a’r pecynnau a seliwyd i’r swyddog canlyniadau neu beri iddynt gael eu danfon yn unol â threfniadau a gymeradwywyd gan y swyddog canlyniadau.

(5I gyd-fynd â’r pecynnau rhaid cael datganiad (“cyfriflen papurau pleidleisio”) a baratowyd gan y swyddog llywyddu ac sy’n dangos—

(a)nifer y papurau pleidleisio a roddwyd i’r swyddog llywyddu, a

(b)sut y cyfrifwyd y papurau pleidleisio o dan y penawdau a ganlyn—

(i)nifer y papurau pleidleisio a ddyroddwyd ac na chyfrifwyd hwy fel arall;

(ii)nifer y papurau pleidleisio sydd heb eu defnyddio;

(iii)nifer y papurau pleidleisio a ddifethwyd;

(iv)nifer y papurau pleidleisio a dendrwyd.

(6Yn y rheol hon, ystyr “y copïau a farciwyd o’r cofnodion cofrestru” yw’r copïau o’r cofnodion cofrestru (fel y’u diffinnir gan reol 40(7)), fel y’u marciwyd yn unol â’r rheolau hyn.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I57Atod. 1 para. 51 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1

RHAN 4LL+C[F20Cyfrif y Pleidleisiau: Etholiadau sy’n Defnyddio’r System Mwyafrif Syml ]

Trefniadau cyfrif y pleidleisiauLL+C

52.—(1Rhaid i’r swyddog canlyniadau wneud trefniadau i’r pleidleisiau gael eu cyfrif ym mhresenoldeb yr asiantau cyfrif cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl i’r bleidlais gau.

(2Rhaid i’r swyddog canlyniadau roi hysbysiad i’r asiantau cyfrif yn datgan yr amser a’r lle y bydd y swyddog canlyniadau yn dechrau cyfrif y pleidleisiau.

Gwybodaeth Cychwyn

I58Atod. 1 para. 52 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1

Presenoldeb wrth i’r pleidleisiau gael eu cyfrifLL+C

53.—(1Mae gan y personau a ganlyn hawl i fod yn bresennol wrth i’r pleidleisiau gael eu cyfrif—

(a)y swyddog canlyniadau ac aelodau staff y swyddog canlyniadau;

(b)pob ymgeisydd a gwestai i bob ymgeisydd;

(c)yr asiantau etholiadol;

(d)yr asiantau cyfrif;

(e)unrhyw berson sydd â hawl i fod yn bresennol yn rhinwedd adrannau 6A i 6D o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (cynrychiolwyr y Comisiwn Etholiadol a sylwedyddion achrededig);

(f)y cwnstabliaid ar ddyletswydd.

(2Caiff y swyddog canlyniadau ganiatáu i unrhyw berson arall fod yn bresennol wrth i’r pleidleisiau gael eu cyfrif.

(3Ni chaniateir rhoi caniatâd o dan baragraff (2) oni bai bod y swyddog canlyniadau—

(a)wedi ei fodloni na fydd presenoldeb y person yn rhwystro’r pleidleisiau rhag cael eu cyfrif yn effeithlon, a

(b)naill ai wedi ymgynghori â’r asiantau etholiadol ynghylch a ddylid rhoi caniatâd neu wedi penderfynu nad yw’n ymarferol ymgynghori â hwy.

(4Rhaid i’r swyddog canlyniadau roi pob cyfleuster rhesymol i’r asiantau cyfrif ar gyfer goruchwylio’r trafodion, a’r holl wybodaeth amdanynt, y gall y swyddog canlyniadau eu rhoi yn gyson â chynnal y trafodion yn drefnus a chyflawni dyletswyddau’r swyddog canlyniadau.

(5Yn benodol, pan fo’r pleidleisiau’n cael eu cyfrif drwy ddidoli’r papurau pleidleisio yn ôl yr ymgeisydd y rhoddir y bleidlais iddo ac wedyn cyfrif nifer y papurau pleidleisio ar gyfer pob ymgeisydd, mae gan yr asiantau cyfrif hawl i’w bodloni eu hunain fod y papurau pleidleisio wedi eu didoli’n gywir.

(6Rhaid i’r swyddog canlyniadau wneud trefniadau i sicrhau bod pawb sy’n bresennol wrth i’r pleidleisiau gael eu cyfrif (ac eithrio’r cwnstabliaid ar ddyletswydd) wedi cael hysbysiad yn nodi darpariaethau adran 66(2) a (6) o Ddeddf 1983 (hysbysiad o ofyniad cyfrinachedd).

(7Yn y rheol hon, mae cyfeiriad at gwnstabl yn cynnwys cyfeiriad at berson a ddynodwyd yn swyddog cymorth cymunedol neu’n wirfoddolwr cymorth cymunedol o dan adran 38 o Ddeddf Diwygio’r Heddlu 2002 (pwerau’r heddlu i staff sy’n sifiliaid a gwirfoddolwyr).

Gwybodaeth Cychwyn

I59Atod. 1 para. 53 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1

Y cyfrif: camauLL+C

54.—(1Rhaid i’r swyddog canlyniadau gymryd y camau a ganlyn.

(2Rhaid i’r swyddog canlyniadau, ym mhresenoldeb yr asiantau cyfrif, agor pob blwch pleidleisio, tynnu’r papurau pleidleisio, eu cyfrif a chofnodi nifer y papurau pleidleisio.

(3Ni chaiff y swyddog canlyniadau gyfrif unrhyw bapur pleidleisio a dendrwyd.

(4Rhaid i’r swyddog canlyniadau, ym mhresenoldeb yr asiantau etholiadol, ddilysu pob cyfriflen papurau pleidleisio drwy ei chymharu â nifer y papurau pleidleisio a gofnodwyd, y papurau pleidleisio heb eu defnyddio a’r papurau pleidleisiau a ddifethwyd sydd ym meddiant y swyddog canlyniadau a’r rhestr pleidleisiau a dendrwyd (gan agor ac ailselio’r pecynnau sy’n cynnwys y papurau pleidleisio heb eu defnyddio, y papurau pleidleisio a ddifethwyd a’r rhestr pleidleisiau a dendrwyd).

(5Rhaid i’r swyddog canlyniadau baratoi datganiad ynglŷn â chanlyniad y dilysiad a rhoi copi o’r datganiad i unrhyw asiant etholiadol sy’n gofyn amdano.

(6Rhaid hefyd i’r swyddog canlyniadau—

(a)cyfrif y papurau pleidleisio post sydd wedi eu dychwelyd yn briodol (gweler paragraff (7)), a

(b)cofnodi’r nifer a gyfrifwyd.

(7Mae papur pleidleisio post i’w drin fel pe bai wedi ei ddychwelyd yn briodol os yw’r papur pleidleisio a’r datganiad pleidleisio post sy’n cyd-fynd ag ef sydd wedi ei gwblhau’n briodol—

(a)wedi eu cyflwyno mewn gorsaf bleidleisio yn y ward etholiadol cyn i’r bleidlais gau,

(b)wedi eu rhoi â llaw i’r swyddog canlyniadau cyn i’r bleidlais gau, neu

(c)wedi dod i law’r swyddog canlyniadau drwy’r post cyn i’r bleidlais gau.

(8Mae datganiad pleidleisio post wedi ei gwblhau’n briodol—

(a)os yw wedi ei lofnodi gan yr etholwr neu (yn ôl y digwydd) y dirprwy, oni bai bod y swyddog cofrestru wedi hepgor y gofyniad ynglŷn â llofnod,

(b)os yw’n datgan dyddiad geni’r etholwr neu (yn ôl y digwydd) dyddiad geni’r dirprwy, ac

(c)mewn achos lle mae camau i ddilysu dyddiad geni a llofnod etholwr neu ddirprwy wedi eu rhagnodi gan reoliadau o dan Ddeddf 1983, os yw’r swyddog canlyniadau wedi cymryd y camau hynny ac wedi dilysu’r dyddiad geni ac (ac eithrio mewn achos lle mae’r gofyniad ynglŷn â llofnod wedi ei hepgor) y llofnod.

(9Pan fo person, wrth i’r bleidlais gau, yn yr orsaf bleidleisio, neu mewn ciw y tu allan i’r orsaf bleidleisio, er mwyn cyflwyno papur pleidleisio post a datganiad pleidleisio post—

(a)rhaid caniatáu i’r person gyflwyno’r papur pleidleisio a’r datganiad yn yr orsaf bleidleisio, a

(b)pan fônt wedi eu cyflwyno, maent i’w trin fel pe baent wedi eu cyflwyno cyn diwedd y bleidlais at ddibenion y rheol hon.

(10Ni chaiff y swyddog canlyniadau gyfrif y pleidleisiau a roddwyd ar unrhyw bapur pleidleisio—

(a)yn achos papurau pleidleisio post, nes eu bod wedi eu cymysgu â’r papurau pleidleisio o un blwch pleidleisio o leiaf, a

(b)yn achos papurau pleidleisio o flwch pleidleisio, nes eu bod wedi eu cymysgu â’r papurau pleidleisio o un blwch pleidleisio arall o leiaf.

(11Wrth gyfrif a chofnodi nifer y papurau pleidleisio a chyfrif y pleidleisiau, rhaid i’r swyddog canlyniadau—

(a)cadw’r papurau pleidleisio â’u hwynebau i fyny, a

(b)cymryd unrhyw ragofalon eraill sy’n briodol i atal unrhyw berson rhag gweld y rhifau neu’r marciau adnabod unigryw eraill a argraffwyd ar gefn y papurau.

Gwybodaeth Cychwyn

I60Atod. 1 para. 54 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1

Y cyfrif: cyffredinolLL+C

55.—(1Rhaid canfod canlyniad y bleidlais drwy gyfrif y pleidleisiau a roddwyd i bob ymgeisydd.

(2Rhaid datgan bod yr ymgeisydd neu’r ymgeiswyr y rhoddwyd mwy o bleidleisiau iddo ef neu iddynt hwy nag i’r ymgeiswyr eraill wedi ei ethol neu wedi eu hethol, hyd at nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol.

(3Yn ddarostyngedig i baragraff (4), rhaid i’r swyddog canlyniadau, i’r graddau y bo’n ymarferol, fwrw ymlaen yn ddi-dor â’r gwaith cyfrif pleidleisiau, gan ganiatáu amser ar gyfer lluniaeth yn unig.

(4Caiff y swyddog canlyniadau eithrio unrhyw oriau rhwng 7 p.m. a 9 a.m. fore trannoeth.

(5Yn ystod unrhyw amser sydd wedi ei eithrio, rhaid i’r swyddog canlyniadau—

(a)gosod y papurau pleidleisio a’r dogfennau eraill sy’n ymwneud â’r etholiad o dan sêl y swyddog canlyniadau a seliau unrhyw asiantau cyfrif sy’n dymuno gosod eu sêl, a

(b)cymryd rhagofalon priodol fel arall ar gyfer diogelwch y papurau pleidleisio a’r dogfennau eraill.

Gwybodaeth Cychwyn

I61Atod. 1 para. 55 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1

Y cyfrif: papurau pleidleisio a wrthodwydLL+C

56.—(1Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (4), mae’r papurau pleidleisio a ganlyn yn ddi-rym ac ni chaniateir eu cyfrif—

(a)papur pleidleisio nad oes arno farc swyddogol;

(b)papur pleidleisio y rhoddwyd pleidleisiau arno dros fwy o ymgeiswyr nag y mae gan y pleidleisiwr hawl i bleidleisio drostynt;

(c)papur pleidleisio y mae unrhyw beth wedi ei ysgrifennu neu wedi ei farcio arno y gellir adnabod y pleidleisiwr drwyddo ac eithrio’r rhif printiedig a’r marc adnabod unigryw arall ar y cefn;

(d)papur pleidleisio sydd heb ei farcio neu’n ddi-rym oherwydd ansicrwydd.

(2Pan fo gan y pleidleisiwr hawl i bleidleisio dros fwy nag un ymgeisydd, nid yw papur pleidleisio i’w drin fel pe bai’n ddi-rym oherwydd ansicrwydd o ran unrhyw bleidlais nad oes ansicrwydd yn codi yn ei chylch a rhaid cyfrif y bleidlais honno.

(3Mae paragraff (4) yn gymwys i bapur pleidleisio y marciwyd pleidlais arno—

(a)mewn man heblaw’r man priodol,

(b)heblaw drwy gyfrwng croes, neu

(c)drwy fwy nag un marc.

(4Nid yw’r papur pleidleisio i’w drin fel pe bai’n ddi-rym (naill ai’n gyfan gwbl neu o ran y bleidlais honno), oherwydd y modd y mae’r bleidlais wedi ei marcio yn unig—

(a)os yw’n glir o’r papur pleidleisio fod y pleidleisiwr yn bwriadu pleidleisio dros un neu’r llall o’r ymgeiswyr,

(b)os nad yw’r modd y mae’r papur pleidleisio wedi ei farcio ynddo’i hun yn adnabod y pleidleisiwr, ac

(c)os yw’r swyddog canlyniadau wedi ei fodloni na ellir adnabod y pleidleisiwr o’r papur pleidleisio.

(5Rhaid i’r swyddog canlyniadau—

(a)arnodi’r gair “gwrthodwyd” ar unrhyw bapur pleidleisio nad yw, yn unol â’r rheol hon, i’w gyfrif;

(b)arnodi’r geiriau “gwrthodwyd yn rhannol” ar unrhyw bapur pleidleisio y cyfrifir pleidlais arno yn unol â pharagraff (2) a nodi pa bleidlais neu bleidleisiau a gyfrifwyd.

(6Os bydd asiant cyfrif yn gwrthwynebu penderfyniad y swyddog canlyniadau, rhaid i’r swyddog canlyniadau ychwanegu’r geiriau “gwrthwynebwyd y gwrthodiad” at yr arnodiad.

(7Rhaid i’r swyddog canlyniadau baratoi datganiad yn dangos nifer y papurau pleidleisio a wrthodwyd a’r nifer a wrthodwyd yn rhannol.

(8Rhaid i’r datganiad nodi’r nifer a wrthodwyd neu a wrthodwyd yn rhannol o dan bob un o’r penawdau yn is-baragraffau (a) i (d) o baragraff (1).

Gwybodaeth Cychwyn

I62Atod. 1 para. 56 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1

AilgyfrifLL+C

57.—(1Caiff ymgeisydd neu asiant etholiadol yr ymgeisydd, os yw’n bresennol pan fydd y cyfrif wedi ei gwblhau, ofyn i’r swyddog canlyniadau ailgyfrif y pleidleisiau.

(2Rhaid i’r swyddog canlyniadau gydymffurfio â’r cais oni bai bod y swyddog canlyniadau o’r farn bod y cais yn afresymol.

(3Ni chaniateir cymryd unrhyw gam pan fo’r cyfrif wedi ei gwblhau nes bod yr ymgeiswyr a’r asiantau etholiadol sy’n bresennol wedi cael cyfle rhesymol i ofyn i’r pleidleisiau gael eu hailgyfrif.

(4Pan fydd ailgyfrif yn digwydd, mae’r rheol hon hefyd yn gymwys mewn perthynas â’r ailgyfrif (fel y gall yr ymgeisydd neu asiant etholiadol yr ymgeisydd, er enghraifft, os yw’n bresennol pan fydd yr ailgyfrif wedi ei gwblhau, ofyn i’r swyddog canlyniadau ailgyfrif y pleidleisiau).

Gwybodaeth Cychwyn

I63Atod. 1 para. 57 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1

Pleidleisiau cyfartalLL+C

58.—(1Mae’r rheol hon yn gymwys pan fo’r pleidleisiau’n gyfartal rhwng unrhyw ymgeiswyr ar ôl cyfrif y pleidleisiau (gan gynnwys unrhyw ailgyfrif), a phan fyddai ychwanegu pleidlais yn rhoi’r hawl i unrhyw un o’r ymgeiswyr hynny gael ei ethol.

(2Rhaid i’r swyddog canlyniadau benderfynu ar unwaith rhwng yr ymgeiswyr drwy fwrw coelbren a bwrw ymlaen fel pe bai’r ymgeisydd y mae’r coelbren yn mynd o’i blaid wedi cael pleidlais ychwanegol.

Gwybodaeth Cychwyn

I64Atod. 1 para. 58 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1

Penderfynu ar bapurau pleidleisioLL+C

59.  Mae penderfyniad y swyddog canlyniadau ar unrhyw gwestiwn sy’n codi mewn cysylltiad â phapur pleidleisio yn derfynol, ond caniateir ei adolygu ar ddeiseb etholiad.

Gwybodaeth Cychwyn

I65Atod. 1 para. 59 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1

Datgan y canlyniadLL+C

60.—(1Pan fydd y cyfrif wedi ei gwblhau, rhaid i’r swyddog canlyniadau ddatgan bod yr ymgeisydd neu’r ymgeiswyr y rhoddwyd mwy o bleidleisiau iddo ef neu iddynt hwy nag i ymgeiswyr eraill wedi ei ethol neu wedi eu hethol, hyd at nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol.

(2Rhaid i’r swyddog canlyniadau roi hysbysiad yn nodi enwau a chyfeiriadau’r ymgeiswyr a etholwyd i swyddog priodol y cyngor y cynhaliwyd yr etholiad ar ei gyfer.

(3Rhaid i’r swyddog canlyniadau gyhoeddi hysbysiad hefyd—

(a)o enwau’r ymgeiswyr a etholwyd,

(b)o gyfanswm nifer y pleidleisiau a roddwyd i bob ymgeisydd (p’un a etholwyd hwy ai peidio), ac

(c)o nifer y papurau pleidleisiau a wrthodwyd o dan bob pennawd a ddangosir yn y datganiad o’r papurau pleidleisio a wrthodwyd (gweler rheol 56).

Gwybodaeth Cychwyn

I66Atod. 1 para. 60 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1

[F21Rhan 4ALL+CCyfrif y Pleidleisiau: Etholiadau sy’n Defnyddio’r System Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy

PENNOD 1LL+CDarpariaethau rhagarweiniol

Trefniadau cyfrif y pleidleisiau LL+C

60A.(1)  Rhaid i’r swyddog canlyniadau wneud trefniadau i’r pleidleisiau gael eu cyfrif ym mhresenoldeb yr asiantau cyfrif cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl i’r bleidlais gau.

(2) Rhaid i’r swyddog canlyniadau roi hysbysiad i’r asiantau cyfrif yn datgan yr amser a’r lle y bydd y swyddog canlyniadau yn dechrau cyfrif y pleidleisiau.

Presenoldeb wrth i’r pleidleisiau gael eu cyfrif LL+C

60B.(1) Mae gan y personau a ganlyn hawl i fod yn bresennol wrth i’r pleidleisiau gael eu cyfrif—

(a)y swyddog canlyniadau ac aelodau staff y swyddog canlyniadau;

(b)pob ymgeisydd a gwestai i bob ymgeisydd;

(c)yr asiantau etholiadol;

(d)yr asiantau cyfrif;

(e)unrhyw berson sydd â hawl i fod yn bresennol yn rhinwedd adrannau 6A i 6D o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (cynrychiolwyr y Comisiwn Etholiadol a sylwedyddion achrededig);

(f)y cwnstabliaid ar ddyletswydd.

(2) Caiff y swyddog canlyniadau ganiatáu i unrhyw berson arall fod yn bresennol wrth i’r pleidleisiau gael eu cyfrif.

(3) Ni chaniateir rhoi caniatâd o dan baragraff (2) oni bai bod y swyddog canlyniadau—

(a)wedi ei fodloni na fydd presenoldeb y person yn rhwystro’r pleidleisiau rhag cael eu cyfrif yn effeithlon, a

(b)naill ai wedi ymgynghori â’r asiantau etholiadol ynghylch a ddylid rhoi caniatâd neu wedi penderfynu nad yw’n ymarferol ymgynghori â hwy.

(4) Rhaid i’r swyddog canlyniadau roi pob cyfleuster rhesymol i’r asiantau cyfrif ar gyfer goruchwylio’r trafodion, a’r holl wybodaeth amdanynt, y gall y swyddog canlyniadau eu rhoi yn gyson â chynnal y trafodion yn drefnus a chyflawni dyletswyddau’r swyddog canlyniadau.

(5) Yn benodol, pan fo’r pleidleisiau’n cael eu cyfrif drwy ddidoli’r papurau pleidleisio yn ôl yr ymgeisydd y rhoddwyd y dewis cyntaf o’i ran ac yna cyfrif nifer y papurau pleidleisio ar gyfer pob ymgeisydd, mae gan yr asiantau cyfrif hawl i’w bodloni eu hunain fod y papurau pleidleisio wedi eu didoli’n gywir.

(6) Rhaid i’r swyddog canlyniadau wneud trefniadau i sicrhau bod pawb sy’n bresennol wrth i’r pleidleisiau gael eu cyfrif (ac eithrio’r cwnstabliaid ar ddyletswydd) wedi cael hysbysiad yn nodi darpariaethau adran 66(2) a (6) o Ddeddf 1983 (hysbysiad o ofyniad cyfrinachedd).

(7) Yn y rheol hon, mae cyfeiriad at gwnstabl yn cynnwys cyfeiriad at berson a ddynodwyd yn swyddog cymorth cymunedol neu’n wirfoddolwr cymorth cymunedol o dan adran 38 o Ddeddf Diwygio’r Heddlu 2002 (pwerau’r heddlu i staff sy’n sifiliaid a gwirfoddolwyr).

Y cyfrif: camau LL+C

60C.(1) Rhaid i’r swyddog canlyniadau gymryd y camau a ganlyn.

(2) Rhaid i’r swyddog canlyniadau, ym mhresenoldeb yr asiantau cyfrif, agor pob bocs pleidleisio, tynnu’r papurau pleidleisio, eu cyfrif a chofnodi nifer y papurau pleidleisio.

(3) Ni chaiff y swyddog canlyniadau gyfrif unrhyw bapur pleidleisio a dendrwyd.

(4) Rhaid i’r swyddog canlyniadau, ym mhresenoldeb yr asiantau etholiadol, ddilysu pob cyfriflen papurau pleidleisio drwy ei chymharu â nifer y papurau pleidleisio a gofnodwyd, y papurau pleidleisio heb eu defnyddio a’r papurau pleidleisio a ddifethwyd sydd ym meddiant y swyddog canlyniadau a’r rhestr pleidleisiau a dendrwyd (gan agor ac ailselio’r pecynnau sy’n cynnwys y papurau pleidleisio heb eu defnyddio, y papurau pleidleisio a ddifethwyd a’r rhestr pleidleisiau a dendrwyd).

(5) Rhaid i’r swyddog canlyniadau baratoi datganiad ynglŷn â chanlyniad y dilysiad a rhoi copi o’r datganiad i unrhyw asiant etholiadol sy’n gofyn amdano.

(6) Rhaid hefyd i’r swyddog canlyniadau—

(a)cyfrif y papurau pleidleisio post sydd wedi eu dychwelyd yn briodol (gweler paragraff (7)), a

(b)cofnodi’r nifer a gyfrifwyd.

(7) Mae papur pleidleisio post i’w drin fel pe bai wedi ei ddychwelyd yn briodol os yw’r papur pleidleisio a’r datganiad pleidleisio post sy’n cyd-fynd ag ef sydd wedi ei gwblhau’n briodol—

(a)wedi eu cyflwyno mewn gorsaf bleidleisio yn y ward etholiadol cyn i’r bleidlais gau,

(b)wedi eu rhoi â llaw i’r swyddog canlyniadau cyn i’r bleidlais gau, neu

(c)wedi dod i law’r swyddog canlyniadau drwy’r post cyn i’r bleidlais gau.

(8) Mae datganiad pleidleisio post wedi ei gwblhau’n briodol—

(a)os yw wedi ei lofnodi gan yr etholwr neu (yn ôl y digwydd) y dirprwy, oni bai bod y swyddog cofrestru wedi hepgor y gofyniad ynglŷn â llofnod,

(b)os yw’n datgan dyddiad geni’r etholwr neu (yn ôl y digwydd) dyddiad geni’r dirprwy, ac

(c)mewn achos lle mae camau i ddilysu dyddiad geni a llofnod etholwr neu ddirprwy wedi eu rhagnodi gan reoliadau o dan Ddeddf 1983, os yw’r swyddog canlyniadau wedi cymryd y camau hynny ac wedi dilysu’r dyddiad geni ac (ac eithrio mewn achos lle mae’r gofyniad ynglŷn â llofnod wedi ei hepgor) y llofnod.

(9) Pan fo person, wrth i’r bleidlais gau, yn yr orsaf bleidleisio, neu mewn ciw y tu allan i’r orsaf bleidleisio, er mwyn cyflwyno papur pleidleisio post a datganiad pleidleisio post—

(a)rhaid caniatáu i’r person gyflwyno’r papur pleidleisio a’r datganiad yn yr orsaf bleidleisio, a

(b)pan fônt wedi eu cyflwyno, maent i’w trin fel pe baent wedi eu cyflwyno cyn i’r bleidlais gau at ddibenion y rheol hon.

(10) Ni chaiff y swyddog canlyniadau gyfrif y pleidleisiau a roddwyd ar unrhyw bapur pleidleisio—

(a)yn achos papurau pleidleisio post, nes eu bod wedi eu cymysgu â’r papurau pleidleisio o un bocs pleidleisio o leiaf, a

(b)yn achos papurau pleidleisio o focs pleidleisio, nes eu bod wedi eu cymysgu â’r papurau pleidleisio o un bocs pleidleisio arall o leiaf.

(11) Wrth gyfrif a chofnodi nifer y papurau pleidleisio a chyfrif y pleidleisiau, rhaid i’r swyddog canlyniadau—

(a)cadw’r papurau pleidleisio â’u hwynebau i fyny, a

(b)cymryd unrhyw ragofalon eraill sy’n briodol i atal unrhyw berson rhag gweld y rhifau neu’r marciau adnabod unigryw eraill a argraffwyd ar gefn y papurau.

Y cyfrif: cyffredinol LL+C

60D.(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i’r swyddog canlyniadau, i’r graddau y bo’n ymarferol, fwrw ymlaen yn ddi-dor â’r gwaith cyfrif pleidleisiau hyd nes y bydd pob swydd wag wedi ei llenwi, gan ganiatáu amser ar gyfer lluniaeth yn unig.

(2) Caiff y swyddog canlyniadau eithrio unrhyw oriau rhwng 7 p.m. a 9 a.m. fore trannoeth.

(3) Yn ystod unrhyw amser sydd wedi ei eithrio, rhaid i’r swyddog canlyniadau—

(a)gosod y papurau pleidleisio a’r dogfennau eraill sy’n ymwneud â’r etholiad o dan sêl y swyddog canlyniadau a seliau unrhyw asiantau cyfrif sy’n dymuno gosod eu sêl, a

(b)cymryd rhagofalon priodol fel arall ar gyfer diogelwch y papurau pleidleisio a’r dogfennau eraill.

Y cyfrif: papurau pleidleisio a wrthodwyd LL+C

60E.(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae’r papurau pleidleisio a ganlyn yn ddi-rym ac ni chaniateir eu cyfrif—

(a)papur pleidleisio nad oes arno farc swyddogol;

(b)papur pleidleisio nad yw’r rhif “1” ar ei ben ei hun wedi ei nodi arno er mwyn dangos dewis cyntaf o ran ymgeisydd penodol;

(c)papur pleidleisio y mae’r rhif “1” ar ei ben ei hun i ddangos dewis cyntaf wedi ei nodi arno gyferbyn ag enw mwy nag un ymgeisydd;

(d)papur pleidleisio y mae unrhyw beth wedi ei ysgrifennu neu wedi ei farcio arno y gellir adnabod y pleidleisiwr drwyddo ac eithrio’r rhif printiedig a’r marc adnabod unigryw arall ar y cefn;

(e)papur pleidleisio sydd heb ei farcio neu’n ddi-rym oherwydd ansicrwydd.

(2) Mae paragraff (3) yn gymwys i bapur pleidleisio y marciwyd pleidlais arno—

(a)mewn man heblaw’r man priodol, neu

(b)heblaw drwy ddefnyddio geiriau neu unrhyw farc arall yn lle ffigur.

(3) Nid yw’r papur pleidleisio i’w drin fel pe bai’n ddi-rym, oherwydd y modd y mae’r bleidlais wedi ei marcio yn unig, os yw’n glir o’r papur pleidleisio, ym marn y swyddog canlyniadau, fod y pleidleisiwr wedi nodi’n glir ddewis neu ddewisiadau.

(4) Rhaid i’r swyddog canlyniadau arnodi’r gair “gwrthodwyd” ar unrhyw bapur pleidleisio nad yw, yn unol â’r rheol hon, i’w gyfrif.

(5) Os bydd asiant cyfrif yn gwrthwynebu penderfyniad y swyddog canlyniadau, rhaid i’r swyddog canlyniadau ychwanegu’r geiriau “gwrthwynebwyd y gwrthodiad” at yr arnodiad.

(6) Rhaid i’r swyddog canlyniadau baratoi datganiad yn dangos nifer y papurau pleidleisio a wrthodwyd.

(7) Rhaid i’r datganiad nodi’r nifer a wrthodwyd o dan bob un o is-baragraffau (a) i (e) o baragraff (1).

PENNOD 2LL+CCanfod y Canlyniad

Dehongli LL+C

60F.  Yn y Bennod hon—

ystyr “cam o’r cyfrif” (“stage of the count”) yw—

(a)

pennu’r pleidleisiau dewis cyntaf ar gyfer pob ymgeisydd;

(b)

trosglwyddo papurau trosglwyddadwy ymgeisydd a drinnir fel pe bai wedi ei ethol ac sydd â phleidleisiau dros ben (gweler rheolau 60J a 60K);

(c)

eithrio un ymgeisydd neu ragor ar unrhyw adeg benodol (gweler rheol 60O);

ystyr “cwota” (“quota”) yw’r nifer a gyfrifir yn unol â rheol 60H;

ystyr “cyfrif” (“count”) yw’r holl weithrediadau sy’n ymwneud â chyfrif dewisiadau cyntaf a gofnodwyd o ran ymgeiswyr, trosglwyddo papurau trosglwyddadwy oddi wrth ymgeiswyr a drinnir fel pe baent wedi eu hethol ac y mae ganddynt bleidleisiau dros ben, a throsglwyddo papurau trosglwyddadwy oddi wrth ymgeiswyr sydd wedi eu heithrio o dan reol 60O;

ystyr “dewis nesaf sydd ar gael” (“next available preference”) yw dewis sy’n ail ddewis neu’n ddewis pellach mewn trefn olynol o ran ymgeisydd sy’n parhau (ac felly nid yw’n cynnwys dewis o ran ymgeisydd a drinnir fel pe bai wedi ei ethol na dewis o ran ymgeisydd a eithriwyd o dan reol 60O);

ystyr “pleidleisiau dros ben” (“surplus”) yw nifer y pleidleisiau sydd uwchlaw’r cwota o blith cyfanswm nifer y pleidleisiau dros unrhyw ymgeisydd;

ystyr “ymgeisydd sy’n parhau” (“continuing candidate”) yw unrhyw ymgeisydd nad yw eisoes yn cael ei drin fel pe bai wedi ei ethol ac nad yw wedi ei eithrio o dan reol 60O.

Cyfrif pleidleisiau dewis cyntaf LL+C

60G.(1) Rhaid i’r swyddog canlyniadau ddidoli’r papurau pleidleisio dilys yn grwpiau yn ôl yr ymgeiswyr y rhoddwyd y pleidleisiau dewis cyntaf iddynt.

(2) Yna rhaid i’r swyddog canlyniadau—

(a)cyfrif nifer y papurau pleidleisio ym mhob grŵp, a

(b)cofnodi’r niferoedd hynny.

(3) Rhaid i’r swyddog canlyniadau hefyd ganfod a chofnodi cyfanswm nifer y papurau pleidleisio dilys.

Pennu’r cwota LL+C

60H.  Rhaid i’r swyddog canlyniadau gymryd y camau a ganlyn i bennu nifer y pleidleisiau sy’n ddigon i sicrhau y dychwelir ymgeisydd fel cynghorydd (“y cwota”).

Cam 1

Cymryd cyfanswm nifer y papurau pleidleisio dilys a gofnodwyd ar gyfer y ward etholiadol o dan reol 60G(3).

Cam 2

Cymryd nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol ar gyfer y ward etholiadol ac ychwanegu un.

Cam 3

Rhannu’r nifer a gymerwyd yng ngham 1 â’r nifer a gymerwyd yng ngham 2. Os yw canlyniad y rhannu yn cynnwys lleoedd degol, eu hanwybyddu.

Cam 4

Ychwanegu un at ganlyniad y rhannu yng ngham 3 (gan anwybyddu unrhyw ddegolion). Y nifer hwn yw’r cwota.

Dychwelyd cynghorwyr LL+C

60I.(1) Pan fo nifer y pleidleisiau dros ymgeisydd, ar unrhyw gam o’r cyfrif, yn cyfateb i’r cwota neu uwchlaw’r cwota, trinnir yr ymgeisydd fel pe bai wedi ei ethol.

(2) At ddiben pennu a yw nifer y pleidleisiau dewis cyntaf dros unrhyw ymgeisydd yn cyfateb i’r cwota neu uwchlaw’r cwota, mae’r ymgeisydd i’w gredydu ag un bleidlais ar gyfer pob papur pleidleisio y rhoddwyd pleidlais dewis cyntaf i’r ymgeisydd arno.

(3) Mae rheolau 60J, 60K, 60O a 60P yn gwneud darpariaeth ynghylch nifer y pleidleisiau sydd i’w credydu i ymgeisydd pan fo papur pleidleisio y rhoddir ail ddewis neu ddewis pellach o ran yr ymgeisydd arno yn cael ei drosglwyddo i’r ymgeisydd yn unol â’r rheolau hynny.

(4) Caiff ymgeisydd a drinnir fel pe bai wedi ei ethol ei ddychwelyd fel cynghorydd pan fydd y swyddog canlyniadau’n datgan bod yr ymgeisydd wedi ei ethol yn unol â rheol 60W.

(5) Ar gyfer ystyr “cwota”, gweler rheol 60F.

Trosglwyddiadau pan fo’r pleidleisiau dewis cyntaf uwchlaw’r cwota LL+C

60J.(1) Mae’r rheol hon yn gymwys pan fo nifer y pleidleisiau dewis cyntaf dros ymgeisydd uwchlaw’r cwota.

(2) Rhaid i’r swyddog canlyniadau ddidoli’r holl bapurau pleidleisio y rhoddir pleidleisiau dewis cyntaf i’r ymgeisydd arnynt fel eu bod wedi eu grwpio—

(a)yn ôl yr ymgeisydd sy’n parhau y rhoddir y dewis nesaf sydd ar gael o’i ran ar y papurau hynny, neu

(b)pan nad oes dewis nesaf sydd ar gael wedi ei roi, fel grŵp ar wahân.

Mae’r papurau pleidleisio yn y grwpiau a ffurfiwyd o dan baragraff (a) (“papurau trosglwyddadwy”) i’w trosglwyddo yn unol â pharagraffau (4) a (5) o’r rheol hon. Nid yw’r papurau pleidleisio yn y grŵp a ffurfiwyd o dan baragraff (b) (“papurau anhrosglwyddadwy”) i’w trosglwyddo.

(3) Rhaid i’r swyddog canlyniadau gyfrif nifer y papurau pleidleisio ym mhob grŵp o bapurau trosglwyddadwy ac yn y grŵp o bapurau anhrosglwyddadwy.

(4) Yna rhaid i’r swyddog canlyniadau drosglwyddo pob grŵp o bapurau trosglwyddadwy i’r ymgeisydd sy’n parhau y rhoddwyd y dewis nesaf sydd ar gael o’i ran ar y papurau hynny.

(5) Trosglwyddir y bleidlais ar bob papur trosglwyddadwy yn ôl gwerth (“y gwerth trosglwyddo”) a gyfrifir drwy gymryd y camau a ganlyn.

Cam 1

Cymryd pleidleisiau dros ben yr ymgeisydd y trosglwyddir papurau pleidleisio oddi wrtho.

Cam 2

Rhannu’r pleidleisiau dros ben â chyfanswm nifer y papurau pleidleisio a drosglwyddir. Gwneud y cyfrifiad i ddau le degol ac anwybyddu’r gweddill. Dyma’r gwerth trosglwyddo.

(6) Ar gyfer ystyr “ymgeisydd sy’n parhau”, “dewis nesaf sydd ar gael”, “cwota” a “pleidleisiau dros ben”, gweler rheol 60F.

(7) Gweler hefyd—

reol 60L (sy’n nodi’r amgylchiadau pan nad yw pleidleisiau i’w trosglwyddo o dan y rheol hon);

rheol 60M (sy’n nodi’r drefn y mae pleidleisiau dros ben i’w trosglwyddo ynddi pan fo gan ddau ymgeisydd neu ragor bleidleisiau dros ben);

rheol 60N (sy’n gwneud darpariaeth atodol).

Trosglwyddiadau eraill pan fo’r pleidleisiau uwchlaw’r cwota LL+C

60K.(1) Mae’r rheol hon yn gymwys pan fo nifer y pleidleisiau dros ymgeisydd uwchlaw’r cwota ar ddiwedd unrhyw gam o’r cyfrif sy’n cynnwys trosglwyddo papurau pleidleisio.

(2) Rhaid i’r swyddog canlyniadau ddidoli’r holl bapurau pleidleisio yn y grŵp o bapurau a drosglwyddwyd a gafwyd ddiwethaf gan yr ymgeisydd hwnnw fel eu bod wedi eu grwpio—

(a)yn ôl yr ymgeisydd sy’n parhau y rhoddwyd y dewis nesaf sydd ar gael o’i ran ar y papurau hynny, neu

(b)pan nad oes dewis nesaf sydd ar gael wedi ei roi, fel grŵp ar wahân.

Mae’r papurau pleidleisio yn y grwpiau a ffurfiwyd o dan baragraff (a) (“papurau trosglwyddadwy”) i’w trosglwyddo yn unol â pharagraffau (4) a (5) o’r rheol hon. Nid yw’r papurau pleidleisio yn y grŵp a ffurfiwyd o dan baragraff (b) (“papurau anhrosglwyddadwy”) i’w trosglwyddo.

(3) Rhaid i’r swyddog canlyniadau gyfrif nifer y papurau pleidleisio ym mhob grŵp o bapurau trosglwyddadwy ac yn y grŵp o bapurau anhrosglwyddadwy.

(4) Yna rhaid i’r swyddog canlyniadau drosglwyddo pob grŵp o bapurau trosglwyddadwy i’r ymgeisydd sy’n parhau y rhoddwyd y dewis nesaf sydd ar gael o’i ran ar y papurau hynny.

(5) Trosglwyddir y bleidlais ar bob papur trosglwyddadwy yn ôl gwerth (“y gwerth trosglwyddo”) a gyfrifir drwy gymryd y camau a ganlyn.

Cam 1

Cymryd pleidleisiau dros ben yr ymgeisydd y trosglwyddir papurau pleidleisio oddi wrtho.

Cam 2

Rhannu’r pleidleisiau dros ben â chyfanswm nifer y papurau pleidleisio a drosglwyddir. Gwneud y cyfrifiad i ddau le degol ac anwybyddu’r gweddill.

Cam 3

Cymharu’r nifer a geir ar ôl cam 2 â gwerth y bleidlais ar y papur pleidleisio pan gafwyd hi gan yr ymgeisydd y mae’r papurau pleidleisio yn awr yn cael eu trosglwyddo oddi wrtho.

Os yw’r nifer a geir ar ôl cam 2 yn llai na gwerth y bleidlais ar y papur pleidleisio pan gafwyd hi gan yr ymgeisydd hwnnw, neu’n gyfwerth â’r bleidlais honno, y nifer hwnnw yw’r gwerth trosglwyddo.

Os yw’r nifer a geir ar ôl cam 2 yn fwy na gwerth y bleidlais ar y papur pleidleisio pan gafwyd hi gan yr ymgeisydd hwnnw, gwerth y bleidlais pan gafwyd hi gan yr ymgeisydd hwnnw yw’r gwerth trosglwyddo.

(6) Ar gyfer ystyr “ymgeisydd sy’n parhau”, “dewis nesaf sydd ar gael”, “cwota” a “pleidleisiau dros ben”, gweler rheol 60F.

(7) Gweler hefyd—

reol 60L (sy’n nodi’r amgylchiadau pan nad yw pleidleisiau i’w trosglwyddo o dan y rheol hon);

rheol 60M (sy’n nodi’r drefn y mae pleidleisiau dros ben i’w trosglwyddo ynddi pan fo gan ddau ymgeisydd neu ragor bleidleisiau dros ben);

rheol 60N (sy’n gwneud darpariaeth atodol).

Amgylchiadau pan na throsglwyddir pleidleisiau o dan reol 60J neu 60K LL+C

60L.(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3), rhaid i’r swyddog canlyniadau barhau i wneud trosglwyddiadau o dan reolau 60J a 60K hyd nes—

(a)nad oes ymgeisydd a drinnir fel pe bai wedi ei ethol sydd â phleidleisiau dros ben, neu

(b)bod pob swydd wag wedi ei llenwi (ar ôl cymhwyso rheol 60S, pan fo hynny’n berthnasol).

(2) Nid yw papurau trosglwyddadwy i’w trosglwyddo pan fo’r pleidleisiau dros ben (neu, pan fo gan ddau ymgeisydd neu ragor bleidleisiau dros ben, gyfanswm y pleidleisiau dros ben hynny), ar unrhyw gam o’r cyfrif, yn llai na’r gwahaniaeth rhwng—

(a)nifer y pleidleisiau sydd wedi eu credydu bryd hynny i’r ymgeisydd sy’n parhau sydd â’r nifer lleiaf o bleidleisiau, a

(b)nifer y pleidleisiau sydd wedi eu credydu bryd hynny i’r ymgeisydd sy’n parhau sydd nesaf uwchben yr ymgeisydd hwnnw.

(3) Nid yw papurau trosglwyddadwy i’w trosglwyddo pan fo’r pleidleisiau dros ben (neu, pan fo gan ddau ymgeisydd neu ragor bleidleisiau dros ben, gyfanswm y pleidleisiau dros ben hynny), ar unrhyw gam o’r cyfrif, yn llai na’r gwahaniaeth rhwng—

(a)cyfanswm nifer y pleidleisiau sydd wedi eu credydu bryd hynny i’r ddau ymgeisydd sy’n parhau neu ragor sydd â’r nifer lleiaf o bleidleisiau, a

(b)nifer y pleidleisiau sydd wedi eu credydu bryd hynny i’r ymgeisydd sy’n parhau sydd nesaf uwchben yr ymgeiswyr hynny.

(4) Nid yw rheolau 60J a 60K yn gymwys i etholiad pan nad oes ond un swydd wag.

(5) Ar gyfer ystyr “ymgeisydd sy’n parhau” a “pleidleisiau dros ben”, gweler rheol 60F.

Trefn trosglwyddiadau o dan reolau 60J a 60K LL+C

60M.(1) Os oes gan ddau ymgeisydd neu ragor, ar unrhyw gam o’r cyfrif, bleidleisiau dros ben yr ymdrinnir â hwy o dan reol 60J neu 60K, rhaid i bapurau trosglwyddadwy’r ymgeisydd sydd â’r nifer mwyaf o bleidleisiau dros ben gael eu trosglwyddo gyntaf.

(2) Os yw’r pleidleisiau dros ben mewn cysylltiad â dau ymgeisydd neu ragor yn gyfartal, rhaid i bapurau trosglwyddadwy yr ymgeisydd a oedd â’r nifer uchaf o bleidleisiau ar y cam cynharaf o’r cyfrif pan oedd eu pleidleisiau’n anghyfartal gael eu trosglwyddo gyntaf.

(3) Os oedd y pleidleisiau a oedd wedi eu credydu i ddau ymgeisydd neu ragor yn gyfartal ar bob cam o’r cyfrif—

(a)rhaid i’r swyddog canlyniadau benderfynu rhwng yr ymgeiswyr hynny drwy fwrw coelbren, a

(b)rhaid i bapurau trosglwyddadwy’r ymgeisydd y mae’r coelbren yn mynd o’i blaid gael eu trosglwyddo gyntaf.

(4) Ar gyfer ystyr “pleidleisiau dros ben”, gweler rheol 60F.

Trosglwyddiadau o dan reolau 60J a 60K: darpariaeth atodol LL+C

60N.(1) Mae pob trosglwyddiad o dan reol 60J neu 60K o ran yr holl bapurau trosglwyddadwy oddi wrth ymgeisydd sydd â phleidleisiau dros ben yn ffurfio cam yn y cyfrif.

(2) Rhaid i’r swyddog canlyniadau, ar ôl cwblhau’r cam hwnnw—

(a)cofnodi cyfanswm gwerth trosglwyddo’r pleidleisiau a drosglwyddwyd i bob ymgeisydd,

(b)ychwanegu’r gwerth hwnnw at gyfanswm blaenorol y pleidleisiau a gofnodwyd ar gyfer pob ymgeisydd a chofnodi’r cyfanswm newydd,

(c)cofnodi fel pleidleisiau anhrosglwyddadwy y gwahaniaeth rhwng y pleidleisiau dros ben a chyfanswm gwerth trosglwyddo’r pleidleisiau a drosglwyddwyd, a

(d)ychwanegu’r gwahaniaeth hwnnw at y cyfanswm a gofnodwyd yn flaenorol o ran pleidleisiau anhrosglwyddadwy.

(3) Yna rhaid i’r swyddog canlyniadau gymharu—

(a)cyfanswm nifer y pleidleisiau a gofnodwyd bryd hynny ar gyfer yr holl ymgeiswyr, ynghyd â chyfanswm nifer y pleidleisiau anhrosglwyddadwy, â

(b)y cyfanswm a gofnodwyd o ran pleidleisiau dewis cyntaf dilys.

(4) Rhaid i’r holl bapurau pleidleisio a drosglwyddwyd o dan reol 60J neu 60K fod wedi eu marcio’n glir, naill ai’n unigol neu fel grŵp, er mwyn dangos y gwerth trosglwyddo y trosglwyddwyd y bleidlais ar y papur yn ei ôl neu, yn ôl y digwydd, werth trosglwyddo’r holl bleidleisiau ar y papurau yn y grŵp hwnnw.

(5) Rhaid i’r swyddog canlyniadau gynnwys papur pleidleisio yn y grŵp o bapurau anhrosglwyddadwy a ffurfiwyd o dan reol 60J neu 60K(2)—

(a)os yw’r swyddog canlyniadau o’r farn bod y papur pleidleisio’n dangos bod y dewis nesaf yn nhrefn y dewisiadau wedi ei roi o ran dau ymgeisydd neu ragor (p’un a ydynt yn ymgeiswyr olynol ai peidio),

(b)os yw’r swyddog canlyniadau o’r farn nad yw’r dewis nesaf ar y papur pleidleisio (p’un a yw dros ymgeisydd sy’n parhau ai peidio) yn dilyn yn olynol ar ôl y dewis sy’n dod yn union o’i flaen, neu

(c)os nad yw’n glir i’r swyddog canlyniadau am unrhyw reswm arall pa ymgeisydd sydd nesaf yn nhrefn y dewisiadau.

(6) Ar gyfer ystyr “pleidleisiau dros ben”, gweler rheol 60F.

Eithrio ymgeiswyr a throsglwyddo papurau pleidleisio dewis cyntaf LL+C

60O.(1) Mae’r rheol hon yn gymwys—

(a)pan fo’r swyddog canlyniadau wedi trosglwyddo’r holl bapurau trosglwyddadwy y mae’n ofynnol i’r swyddog canlyniadau eu trosglwyddo o dan unrhyw ddarpariaeth yn y Bennod hon, a

(b)pan fo un swydd wag neu ragor i’w llenwi o hyd (ar ôl cymhwyso rheol 60S, pan fo hynny’n berthnasol).

(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid i’r swyddog canlyniadau eithrio o’r etholiad, ar y cam hwnnw, yr ymgeisydd sydd â’r nifer lleiaf o bleidleisiau bryd hynny.

(3) Rhaid i’r swyddog canlyniadau eithrio dau ymgeisydd neu ragor sydd â’r nifer lleiaf o bleidleisiau pan fo cyfanswm nifer pleidleisiau’r ymgeiswyr hynny, ynghyd ag unrhyw bleidleisiau dros ben nad ydynt wedi eu trosglwyddo, yn llai na nifer y pleidleisiau sydd wedi eu credydu bryd hynny i’r ymgeisydd sydd nesaf uwchben yr ymgeiswyr hynny.

(4) Rhaid i’r swyddog canlyniadau ddidoli’r holl bapurau pleidleisio y rhoddir arnynt bleidleisiau dewis cyntaf i’r ymgeisydd neu’r ymgeiswyr a eithriwyd fel eu bod wedi eu grwpio—

(a)yn ôl yr ymgeisydd sy’n parhau y rhoddwyd y dewis nesaf sydd ar gael o’i ran ar y papurau hynny, neu

(b)pan nad oes dewis nesaf sydd ar gael wedi ei roi, fel grŵp ar wahân.

Mae’r papurau pleidleisio yn y grwpiau a ffurfiwyd o dan baragraff (a) (“papurau trosglwyddadwy”) i’w trosglwyddo yn unol â’r rheol hon. Nid yw’r papurau pleidleisio yn y grŵp a ffurfiwyd o dan baragraff (b) (“papurau anhrosglwyddadwy”) i’w trosglwyddo.

(5) Rhaid i’r swyddog canlyniadau drosglwyddo pob grŵp o bapurau trosglwyddadwy i’r ymgeisydd sy’n parhau y rhoddwyd y dewis nesaf sydd ar gael o’i ran ar y papurau hynny.

(6) Trosglwyddir y bleidlais ar bob papur trosglwyddadwy yn ôl gwerth trosglwyddo, a’r gwerth hwnnw fydd 1.

(7) Pan fo’r swyddog canlyniadau wedi cwblhau’r trosglwyddiadau sy’n ofynnol gan baragraff (5) a bo un swydd wag neu ragor i’w llenwi o hyd (ar ôl cymhwyso rheol 60S, pan fo hynny’n berthnasol), rhaid i’r swyddog canlyniadau weithredu nesaf yn unol â rheol 60P.

(8) Mae paragraff (7) yn gymwys p’un a drinnir unrhyw ymgeisydd fel pe bai wedi ei ethol ar ôl y trosglwyddiadau ai peidio a ph’un a oes ganddo bleidleisiau dros ben ai peidio.

(9) Ar gyfer ystyr “ymgeisydd sy’n parhau”, “dewis nesaf sydd ar gael” a “pleidleisiau dros ben”, gweler rheol 60F.

(10) Gweler hefyd—

reol 60Q (sy’n ymdrin â’r drefn eithrio pan fo gan fwy nag un ymgeisydd y nifer lleiaf o bleidleisiau);

rheol 60R (sy’n gwneud darpariaeth atodol).

Trosglwyddo papurau pleidleisio eraill ymgeiswyr a eithriwyd LL+C

60P.(1) Mae’r rheol hon yn gymwys—

(a)pan fo’r swyddog canlyniadau wedi trosglwyddo holl bapurau trosglwyddadwy ymgeisydd neu ymgeiswyr a eithriwyd y mae’n ofynnol i’r swyddog canlyniadau eu trosglwyddo o dan reol 60O, a

(b)pan fo un swydd wag neu ragor i’w llenwi o hyd (ar ôl cymhwyso rheol 60S, pan fo hynny’n berthnasol).

(2) Rhaid i’r swyddog canlyniadau ddidoli’n grwpiau yr holl bapurau pleidleisio, os oes rhai, a drosglwyddwyd i’r ymgeisydd a eithriwyd (neu i unrhyw un neu ragor o’r ymgeiswyr a eithriwyd) ar gam cynharach o’r cyfrif yn ôl y gwerth trosglwyddo a oedd i’r pleidleisiau ar y papurau pleidleisio pan gafodd yr ymgeisydd hwnnw hwy.

(3) Yna rhaid i’r swyddog canlyniadau ddidoli’r papurau pleidleisio yn y grŵp o bapurau pleidleisio sydd â’r pleidleisiau â’r gwerth trosglwyddo uchaf yn grwpiau pellach fel a ganlyn—

(a)yn ôl yr ymgeisydd sy’n parhau y rhoddwyd y dewis nesaf sydd ar gael o’i ran ar y papurau hynny, neu

(b)pan nad oes dewis nesaf sydd ar gael wedi ei roi, fel grŵp ar wahân.

Mae’r papurau pleidleisio yn y grwpiau a ffurfiwyd o dan baragraff (a) (“papurau trosglwyddadwy”) i’w trosglwyddo yn unol â’r rheol hon. Nid yw’r papurau pleidleisio yn y grŵp a ffurfiwyd o dan baragraff (b) (“papurau anhrosglwyddadwy”) i’w trosglwyddo.

(4) Rhaid i’r swyddog canlyniadau drosglwyddo pob grŵp o bapurau trosglwyddadwy i’r ymgeisydd sy’n parhau y rhoddwyd y dewis nesaf sydd ar gael o’i ran ar y papurau hynny.

(5) Trosglwyddir y bleidlais ar bob papur trosglwyddadwy yn ôl gwerth trosglwyddo, sef y gwerth a oedd i’r bleidlais ar y papur pleidleisio pan gafwyd hi gan yr ymgeisydd a eithriwyd y mae’r papur yn cael ei drosglwyddo oddi wrtho.

(6)  Pan fo’r swyddog canlyniadau wedi cwblhau’r trosglwyddiadau sy’n ofynnol gan baragraff (4) a bo un swydd wag neu ragor i’w llenwi o hyd (ar ôl cymhwyso rheol 60S, pan fo hynny’n berthnasol), rhaid i’r swyddog canlyniadau ailadrodd y camau ym mharagraffau (3) i (5) mewn perthynas â’r grwpiau sy’n weddill o bapurau pleidleisio a ffurfiwyd o dan baragraff (2), gan ymdrin â phob grŵp mewn trefn ddisgynnol yn ôl gwerth y pleidleisiau hyd nes—

(a)naill ai nad oes swyddi gwag ar ôl i’w llenwi (ar ôl cymhwyso rheol 60S, pan fo hynny’n berthnasol), neu

(b)yr ymdriniwyd â phob grŵp.

(7) Mae paragraff (6) yn gymwys p’un a drinnir unrhyw ymgeisydd fel pe bai wedi ei ethol ai peidio a ph’un a oes ganddo bleidleisiau dros ben ai peidio ar ôl cwblhau’r camau ym mharagraffau (3) i (5) mewn perthynas â’r grŵp o bapurau pleidleisio sydd â’r pleidleisiau sydd â’r gwerth trosglwyddo uchaf neu mewn perthynas ag unrhyw un neu ragor o’r grwpiau sy’n weddill.

(8) Mewn achos pan ymdriniwyd â phob grŵp o bapurau pleidleisio a ffurfiwyd o dan baragraff (2) ond bod un swydd wag neu ragor i’w llenwi o hyd (ar ôl cymhwyso rheol 60S, pan fo hynny’n berthnasol), rhaid i’r swyddog canlyniadau fwrw ymlaen fel a ganlyn—

(a)yn unol â rheol 60K os oes gan un ymgeisydd neu ragor a drinnir fel pe bai wedi ei ethol neu fel pe baent wedi eu hethol ar ôl trosglwyddo’r papurau pleidleisio o dan reol 60O neu’r rheol hon bleidleisiau dros ben, neu

(b)fel arall yn unol â rheol 60O.

(9) Ar gyfer ystyr “ymgeisydd sy’n parhau”, “dewis nesaf sydd ar gael” a “pleidleisiau dros ben”, gweler rheol 60F.

(10) Gweler hefyd reol 60R (sy’n gwneud darpariaeth atodol).

Y drefn eithrio LL+C

60Q.(1) Mae’r rheol hon yn gymwys—

(a)pan fo’r swyddog canlyniadau yn penderfynu pa ymgeisydd i’w eithrio o dan reol 60O(2),

(b)pan fo gan ddau ymgeisydd neu ragor yr un nifer o bleidleisiau, ac

(c)pan na fo gan yr un ymgeisydd arall lai o bleidleisiau.

(2) Rhaid i’r swyddog canlyniadau eithrio p’un bynnag o’r ymgeiswyr a oedd â’r nifer lleiaf o bleidleisiau ar y cam cynharaf o’r cyfrif pan oedd ganddynt nifer anghyfartal o bleidleisiau.

(3) Pan oedd nifer y pleidleisiau a oedd wedi eu credydu i’r ymgeiswyr yn gyfartal ar bob cam, rhaid i’r swyddog canlyniadau—

(a)penderfynu rhwng yr ymgeiswyr drwy fwrw coelbren, a

(b)eithrio’r ymgeisydd yr aeth y coelbren o’i blaid.

Eithrio ymgeiswyr: darpariaeth atodol LL+C

60R.(1) Mae eithrio ymgeisydd, neu ddau ymgeisydd neu ragor gyda’i gilydd, o dan reol 60O yn ffurfio cam pellach o’r cyfrif.

(2) Rhaid i’r swyddog canlyniadau gymryd y camau a ganlyn ar ôl gorffen trosglwyddo papurau trosglwyddadwy o dan reol 60O(5) neu ar ôl ymdrin â grŵp o bapurau pleidleisio a ffurfiwyd o dan reol 60P(2) yn unol â rheol 60P(3) i (5)—

(a)cofnodi cyfanswm gwerth y pleidleisiau a drosglwyddwyd i bob ymgeisydd o dan reol 60O(5) neu 60P(4);

(b)ychwanegu’r cyfanswm hwnnw at gyfanswm blaenorol y pleidleisiau a gofnodwyd ar gyfer pob ymgeisydd a chofnodi’r cyfanswm newydd,

(c)cofnodi gwerth y pleidleisiau yn y grwpiau o bapurau anhrosglwyddadwy a ffurfiwyd o dan reol 60O(4) neu 60P(3), a

(d)ychwanegu’r gwerth hwnnw at y cyfanswm a gofnodwyd yn flaenorol o ran pleidleisiau anhrosglwyddadwy.

(3) Yna rhaid i’r swyddog canlyniadau gymharu—

(a)cyfanswm nifer y pleidleisiau a gofnodwyd bryd hynny ar gyfer pob ymgeisydd, ynghyd â chyfanswm nifer y pleidleisiau anhrosglwyddadwy, â

(b)y cyfanswm a gofnodwyd o ran pleidleisiau dewis cyntaf dilys.

(4) Rhaid i’r holl bapurau pleidleisio a drosglwyddwyd o dan reol 60O(5) neu 60P(4) fod wedi eu marcio’n glir, naill ai’n unigol neu fel grŵp, er mwyn dangos y gwerth y trosglwyddwyd y bleidlais ar y papur yn ei ôl neu, yn ôl y digwydd, werth trosglwyddo’r holl bleidleisiau ar y papurau yn y grŵp hwnnw.

(5) Rhaid i’r swyddog canlyniadau gynnwys papur pleidleisio yn y grŵp o bapurau anhrosglwyddadwy a ffurfiwyd o dan reol 60O(4) neu 60P(3)—

(a)os yw’r swyddog canlyniadau o’r farn bod y papur pleidleisio’n dangos bod y dewis nesaf yn nhrefn y dewisiadau wedi ei roi o ran dau ymgeisydd neu ragor (p’un a ydynt yn ymgeiswyr olynol ai peidio),

(b)os yw’r swyddog canlyniadau o’r farn nad yw’r dewis nesaf ar y papur pleidleisio (p’un a yw dros ymgeisydd sy’n parhau ai peidio) yn dilyn yn olynol ar ôl y dewis sy’n dod yn union o’i flaen, neu

(c)os nad yw’n glir i’r swyddog canlyniadau am unrhyw reswm arall pa ymgeisydd sydd nesaf yn nhrefn y dewisiadau.

Llenwi swyddi gwag olaf LL+C

60S.(1) Pan fo nifer yr ymgeiswyr sy’n parhau yn cyfateb i nifer y swyddi gwag sy’n dal heb eu llenwi, trinnir yr ymgeiswyr sy’n parhau fel pe baent wedi eu hethol.

(2) Pan nad oes ond un swydd yn dal heb ei llenwi, rhaid trin yr ymgeisydd sy’n parhau sydd wedi ei gredydu bryd hynny â’r nifer uchaf o bleidleisiau fel pe bai wedi ei ethol os yw’r nifer hwnnw o bleidleisiau yn cyfateb i gyfanswm nifer y pleidleisiau sydd wedi eu credydu bryd hynny i’r ymgeiswyr eraill sy’n parhau ynghyd ag unrhyw bleidleisiau dros ben nas trosglwyddwyd, neu os yw’n fwy na hynny.

(3) Pan ellir llenwi’r swyddi olaf o dan y rheol hon, ni chaniateir trosglwyddo pleidleisiau ymhellach.

(4) Ar gyfer ystyr “ymgeisydd sy’n parhau” a “pleidleisiau dros ben”, gweler rheol 60F.

Ailgyfrif LL+C

60T.(1) Rhaid i’r swyddog canlyniadau, ar ôl cwblhau pob cam o’r cyfrif, hysbysu’r holl ymgeiswyr a’u hasiantau etholiadol sy’n bresennol bryd hynny o’i fwriad, yn ddarostyngedig i gais am ailgyfrif, i fwrw ymlaen i’r cam nesaf.

(2) Cyn i’r swyddog canlyniadau fwrw ymlaen, caiff unrhyw ymgeisydd neu asiant etholiadol sy’n bresennol yn y cyfrif ofyn i’r cam diwethaf a gwblhawyd gael ei ailgyfrif.

(3) Rhaid i’r swyddog canlyniadau gydymffurfio â’r cais oni bai bod y swyddog canlyniadau o’r farn bod y cais yn afresymol.

(4) Os na cheir cais rhaid i’r swyddog canlyniadau fwrw ymlaen â cham nesaf y cyfrif.

(5) Pan ddeuir o hyd i gamgymeriad o ganlyniad i ailgyfrif, rhaid i’r swyddog canlyniadau, pan fo hynny’n angenrheidiol, ddiwygio unrhyw ganlyniadau sydd eisoes wedi eu cyhoeddi.

Trefn ethol yr ymgeiswyr LL+C

60U.(1) Y drefn y trinnir ymgeiswyr y mae eu pleidlais uwchlaw’r cwota fel pe baent wedi eu hethol ynddi yw’r drefn y trosglwyddwyd eu priod bleidleisiau dros ben ynddi neu’r drefn y byddai’r pleidleisiau dros ben hynny wedi eu trosglwyddo ynddi oni bai am reol 60L(2) neu (3).

(2) Mae ymgeisydd a gredydwyd â nifer o bleidleisiau sy’n cyfateb i’r cwota i’w roi (yn nhrefn y rheini a drinnir fel pe baent wedi eu hethol) ar ôl unrhyw ymgeiswyr eraill a drinnir fel pe baent wedi eu hethol ar yr un pryd ac yr oedd ganddynt bleidleisiau dros ben.

(3) Ar gyfer ystyr “cwota” a “pleidleisiau dros ben”, gweler rheol 60F.

Penderfyniadau ar bapurau pleidleisio LL+C

60V.  Mae penderfyniad y swyddog canlyniadau ar unrhyw gwestiwn sy’n codi mewn cysylltiad â phapur pleidleisio, trosglwyddo papurau pleidleisio neu eithrio ymgeiswyr yn derfynol, ond caniateir ei adolygu ar ddeiseb etholiad.

Datgan y canlyniad mewn etholiad lle ceir gornest LL+C

60W.(1) Pan fo pob cam o’r cyfrif wedi ei gwblhau, rhaid i’r swyddog canlyniadau ddatgan bod yr ymgeiswyr sydd wedi eu trin fel pe baent wedi eu hethol o dan y Bennod hon wedi eu hethol.

(2) Rhaid i’r swyddog canlyniadau roi hysbysiad yn nodi enwau a chyfeiriadau’r ymgeiswyr a etholwyd i swyddog priodol y cyngor y cynhaliwyd yr etholiad ar ei gyfer.

(3) Rhaid i’r swyddog canlyniadau gyhoeddi hysbysiad hefyd—

(a)o enwau’r ymgeiswyr a etholwyd;

(b)o nifer y dewisiadau cyntaf a’r dewisiadau pellach o ran pob ymgeisydd (p’un a’i hetholwyd ai peidio);

(c)o nifer y papurau pleidleisio a drosglwyddwyd a’u gwerth trosglwyddo ar bob cam o’r cyfrif;

(d)o nifer y pleidleisiau a gredydwyd i bob ymgeisydd ar bob cam o’r cyfrif;

(e)o nifer y papurau pleidleisio anhrosglwyddadwy a nifer y pleidleisiau anhrosglwyddadwy ar bob cam o’r cyfrif;

(f)o nifer y papurau pleidleisio a wrthodwyd o dan bob pennawd a ddangosir yn y datganiad o’r papurau pleidleisio a wrthodwyd.]

RHAN 5LL+CGwaredu Dogfennau

Selio papurau pleidleisio mewn etholiadau lle ceir gornestLL+C

61.—(1Mae’r rheol hon yn gymwys ar ôl cwblhau cyfrif y pleidleisiau mewn etholiad lle ceir gornest.

(2Rhaid i’r swyddog canlyniadau selio mewn pecynnau ar wahân—

(a)y papurau pleidleisio a gyfrifwyd, a

(b)y papurau pleidleisio a wrthodwyd (gan gynnwys y papurau pleidleisio a wrthodwyd yn rhannol).

(3Ni chaiff y swyddog canlyniadau agor unrhyw becynnau a seliwyd o dan reol 51(3) sy’n cynnwys—

(a)papurau pleidleisio a dendrwyd,

(b)rhestrau rhifau cyfatebol a gwblhawyd,

(c)tystysgrifau a ildiwyd gan gwnstabliaid neu staff swyddogion canlyniadau o dan reol 37(4) neu (5), neu

(d)copïau a farciwyd o’r cofnodion cofrestru a’r rhestrau dirprwyon.

Gwybodaeth Cychwyn

I67Atod. 1 para. 61 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1

Danfon dogfennau i’r swyddog cofrestru mewn etholiadau lle ceir gornestLL+C

62.—(1Mae’r rheol hon yn gymwys pan fo’r swyddog canlyniadau wedi selio’r papurau pleidleisio a gyfrifwyd ac a wrthodwyd o dan reol 61(2).

(2Rhaid i’r swyddog canlyniadau anfon y dogfennau a ganlyn at swyddog cofrestru’r cyngor sir neu’r cyngor bwrdeistref sirol y cynhelir yr etholiad yn ei ardal—

(a)y pecynnau o bapurau pleidleisio sydd ym meddiant y swyddog canlyniadau;

(b)y cyfriflenni papurau pleidleisio a baratowyd o dan reol 51(5);

(c)y datganiadau o’r papurau pleidleisio a wrthodwyd a baratowyd o dan reol 56(7) [F22neu reol 60E(6)];

(d)y datganiadau ynglŷn â chanlyniad dilysiad y cyfriflenni papurau pleidleisio a baratowyd o dan reol 54(5) [F23neu reol 60C(5)];

(e)y rhestrau a’r datganiadau a ganlyn—

(i)y rhestrau pleidleisiau a farciwyd gan y swyddog llywyddu, ynghyd â datganiad o nifer y pleidleiswyr y mae eu pleidleisiau wedi eu marcio o dan y penawdau “anabledd” a “methu darllen” (gweler rheol 43);

(ii)y datganiadau a wnaed gan gymdeithion pleidleiswyr ag anableddau (gweler rheol 44);

(iii)y rhestrau pleidleiswyr ag anableddau a gynorthwywyd gan gymdeithion (gweler rheol 45);

(iv)y rhestrau pleidleisiau a dendrwyd (gweler rheol 47);

(v)y rhestrau a gadwyd o dan reol 49 (cywiro gwallau ar ddiwrnod y bleidlais);

(f)y pecynnau sy’n cynnwys y rhestrau rhifau cyfatebol a gwblhawyd;

(g)y pecynnau sy’n cynnwys tystysgrifau a ildiwyd gan gwnstabliaid neu staff swyddogion canlyniadau o dan reol 37(4) neu (5);

(h)y pecynnau sy’n cynnwys copïau o gofnodion cofrestru a rhestrau dirprwyon;

(i)y pecynnau sy’n cynnwys y rhestr pleidleiswyr post a’r rhestr pleidleiswyr post drwy ddirprwy.

Dangos etc. dogfennauLL+C

63.—(1Mae’r rheol hon yn gymwys mewn perthynas â’r dogfennau a ganlyn pan fyddant ym meddiant y swyddog cofrestru (ar ôl cael eu hanfon o dan reol 62)—

(a)papurau pleidleisio a wrthodwyd ac a gyfrifwyd;

(b)pecynnau a seliwyd sy’n cynnwys rhestrau rhifau cyfatebol a gwblhawyd;

(c)pecynnau a seliwyd sy’n cynnwys tystysgrifau a ildiwyd gan gwnstabliaid neu staff swyddogion canlyniadau o dan reol 37(4) neu (5).

(2Caiff llys sirol wneud unrhyw un neu ragor o’r gorchmynion a ganlyn, os yw wedi ei fodloni gan dystiolaeth ar lw fod angen y gorchymyn er mwyn naill ai cychwyn neu gynnal erlyniad am drosedd mewn perthynas â phapurau pleidleisio neu at ddibenion deiseb etholiad—

(a)gorchymyn i archwilio neu ddangos unrhyw un neu ragor o’r papurau pleidleisio a wrthodwyd (gan gynnwys unrhyw bapurau pleidleisio a wrthodwyd yn rhannol);

(b)gorchymyn i archwilio unrhyw un neu ragor o’r papurau pleidleisio a gyfrifwyd;

(c)gorchymyn i agor unrhyw un neu ragor o’r pecynnau a seliwyd sy’n cynnwys—

(i)rhestrau rhifau cyfatebol a gwblhawyd, neu

(ii)tystysgrifau a ildiwyd gan gwnstabliaid neu staff swyddogion canlyniadau o dan reol 37(4) neu (5);

(d)pan wneir gorchymyn i agor unrhyw un neu ragor o’r pecynnau a seliwyd o dan is-baragraff (c), gorchymyn i archwilio neu ddangos y cyfan neu ran o’r cynnwys.

(3Caiff llys etholiad wneud—

(a)gorchymyn i archwilio unrhyw un neu ragor o’r papurau pleidleisio a gyfrifwyd;

(b)gorchymyn i agor unrhyw un neu ragor o’r pecynnau a seliwyd sy’n cynnwys—

(c)pan wneir gorchymyn i agor unrhyw un neu ragor o’r pecynnau a seliwyd o dan is-baragraff (b), gorchymyn i archwilio neu ddangos y cyfan neu ran o’r cynnwys.

(4Caniateir i orchymyn o dan y rheol hon gael ei wneud yn ddarostyngedig i unrhyw un neu ragor o’r amodau a ganlyn y mae’r llys yn credu eu bod yn briodol—

(a)amodau ynglŷn â phersonau;

(b)amodau ynglŷn ag amser;

(c)amodau ynglŷn â’r lle archwilio a’r dull archwilio;

(d)amodau ynglŷn â dangos neu agor.

(5Rhaid i lys, wrth wneud gorchymyn o dan y rheol hon i archwilio papurau pleidleisio a gyfrifwyd neu i agor pecyn a seliwyd, osod unrhyw amodau o dan baragraff (4) y mae’r llys o’r farn eu bod yn briodol i sicrhau na ddatgelir y modd y mae etholwr wedi rhoi ei bleidlais oni bai a hyd nes y profwyd—

(a)bod yr etholwr wedi rhoi ei bleidlais, a

(b)bod y bleidlais wedi ei datgan yn annilys gan lys cymwys.

(6Rhaid i unrhyw berson sy’n rhoi ei effaith i orchymyn o dan y rheol hon i archwilio papurau pleidleisio a gyfrifwyd neu i agor pecyn a seliwyd gymryd gofal i sicrhau na ddatgelir y modd y mae etholwr wedi rhoi ei bleidlais oni bai a hyd nes y profwyd—

(7At yr Uchel Lys y cyfeirir apêl sy’n deillio o orchymyn llys sirol o dan y rheol hon.

(8Caniateir i bwerau llys sirol o dan y rheol hon gael eu harfer gan unrhyw un neu ragor o farnwyr y llys heblaw mewn llys agored.

(9Ac eithrio fel y darperir gan y rheol hon, ni chaiff neb—

(a)archwilio unrhyw un neu ragor o’r papurau pleidleisio a wrthodwyd neu a gyfrifwyd;

(b)agor unrhyw un neu ragor o’r pecynnau a seliwyd sy’n cynnwys—

(ii)tystysgrifau a ildiwyd gan gwnstabliaid neu staff swyddogion canlyniadau o dan reol 37(4) neu (5).

Gwybodaeth Cychwyn

I69Atod. 1 para. 63 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1

Gorchmynion i ddangos etc. dogfennau: darpariaeth atodolLL+C

64.—(1Mae paragraffau (2) a (3) yn gymwys pan wneir gorchymyn o dan reol 63 i swyddog cofrestru ddangos dogfen sydd ym meddiant y swyddog cofrestru ac sy’n ymwneud ag etholiad a bennwyd yn y gorchymyn.

(2Mae dangos y ddogfen gan y swyddog cofrestru neu asiant y swyddog cofrestru yn y modd a gyfarwyddwyd gan y gorchymyn yn dystiolaeth bendant bod y ddogfen yn ymwneud â’r etholiad a bennwyd.

(3Os bydd pecyn o bapurau pleidleisio sydd ag arnodiad ar y pecyn yn cael ei ddangos gan y swyddog cofrestru neu asiant y swyddog cofrestru i gydymffurfio â’r gorchymyn, mae’r arnodiad yn dystiolaeth prima facie mai’r papurau pleidleisio yw’r hyn y mae’r arnodiad yn dweud eu bod.

(4Mae paragraff (5) yn gymwys pan fo swyddog cofrestru neu asiant swyddog cofrestru, er mwyn cydymffurfio â gorchymyn o dan reol 63, wedi dangos—

(a)papur pleidleisio sy’n honni ei fod wedi ei ddefnyddio mewn etholiad, a

(b)rhestr rhifau cyfatebol a gwblhawyd a oedd yn cael ei defnyddio yn yr etholiad, gyda rhif wedi ei farcio mewn ysgrifen wrth ochr rhif y papur pleidleisio hwnnw ar y rhestr.

(5Mae dangos y papur pleidleisio a’r rhestr yn dystiolaeth prima facie mai’r etholwr y rhoddwyd ei bleidlais gan y papur pleidleisio hwnnw oedd y person yr oedd ei gofnod adeg yr etholiad yn y gofrestr etholwyr, neu ar hysbysiad a ddyroddwyd o dan adran 13B(3B) neu (3D) o Ddeddf 1983, yn cynnwys yr un rhif â’r rhif a ysgrifennwyd ar y papur pleidleisio.

Gwybodaeth Cychwyn

I70Atod. 1 para. 64 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1

Cadw a dinistrio dogfennau a anfonwyd at y swyddog cofrestruLL+C

65.—(1Rhaid i’r swyddog cofrestru gadw’r holl ddogfennau a anfonwyd o dan reol 62 am gyfnod o flwyddyn sy’n dechrau â’r diwrnod y daethant i law’r swyddog cofrestru.

(2Ar ddiwedd y cyfnod hwnnw o flwyddyn, rhaid i’r swyddog cofrestru beri i’r dogfennau gael eu dinistrio oni chyfarwyddir fel arall gan orchymyn llys sirol, Llys y Goron, llys ynadon neu lys etholiad.

Gwybodaeth Cychwyn

I71Atod. 1 para. 65 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1

Dinistrio ffurflenni cyfeiriad cartref gan y swyddog canlyniadauLL+C

66.—(1Rhaid i’r swyddog canlyniadau ddinistrio ffurflen cyfeiriad cartref pob ymgeisydd—

(a)drannoeth y 35ain diwrnod ar ôl i’r swyddog canlyniadau ddychwelyd enwau’r cynghorwyr a etholwyd, oni bai bod deiseb etholiad sy’n amau etholiad neu ddychweliad yr ymgeiswyr yn cael ei chyflwyno cyn y diwrnod hwnnw;

(b)os cyflwynir deiseb etholiad sy’n amau etholiad neu ddychweliad cynghorwyr cyn y diwrnod hwnnw, cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl i’r achos ynglŷn â’r ddeiseb ddod i ben (gan gynnwys achos yr apêl, pan geir apêl).

(2Er mwyn penderfynu ar y diwrnod y mae’n rhaid dinistrio ffurflenni cyfeiriad cartref ymgeiswyr, rhaid diystyru unrhyw ddiwrnod sy’n ddiwrnod eithriedig.

Gwybodaeth Cychwyn

I72Atod. 1 para. 66 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1

RHAN 6LL+CMarwolaeth Ymgeisydd

Diddymu pleidlais neu roi’r gorau iddi ar ôl i ymgeisydd farwLL+C

67.—(1Mae’r rheol hon yn gymwys pan fo’r swyddog canlyniadau, mewn etholiad lle ceir gornest, wedi ei fodloni cyn i ganlyniad yr etholiad gael ei ddatgan fod un o’r personau a enwyd neu sydd i’w enwi yn ymgeisydd yn y papurau pleidleisio wedi marw.

(2Rhaid i’r swyddog canlyniadau ddiddymu hysbysiad y bleidlais neu, os yw’r pleidleisio wedi dechrau, rhaid i’r swyddog canlyniadau gyfarwyddo rhoi’r gorau i’r bleidlais ac ni chaniateir dyroddi rhagor o bapurau pleidleisio.

(3Pan roddir y gorau i’r bleidlais, rhaid i’r swyddog llywyddu mewn unrhyw orsaf bleidleisio sy’n cael ei defnyddio yn yr etholiad gymryd y camau (i’r graddau nad ydynt eisoes wedi eu cymryd) y byddai’n ofynnol i’r swyddog llywyddu eu cymryd o dan reol 51 ar ddiwedd y bleidlais, ac eithrio nad oes angen i’r swyddog llywyddu baratoi cyfriflen papurau pleidleisio.

(4Rhaid i’r swyddog canlyniadau ymdrin â phapurau pleidleisio a dogfennau eraill sydd ym meddiant y swyddog canlyniadau pan roddir y gorau i’r bleidlais, neu a ddanfonir i’r swyddog canlyniadau wedyn er mwyn cydymffurfio â pharagraff (3), yn yr un modd ag y byddai’n ofynnol i’r swyddog canlyniadau ymdrin â phapurau pleidleisio a dogfennau eraill o dan reolau 61 a 62 ar ôl cwblhau cyfrif y pleidleisiau, ac eithrio—

(a)bod rhaid i’r swyddog canlyniadau selio’r holl bapurau pleidleisio (p’un a yw’r pleidleisiau arnynt wedi eu cyfrif ai peidio), a

(b)nad oes angen selio papurau pleidleisio a gyfrifwyd ac a wrthodwyd mewn pecynnau ar wahân.

(5Mae darpariaethau rheolau 63 i 65 yn gymwys i bapurau pleidleisio a dogfennau eraill sy’n ymwneud â phleidlais y rhoddwyd y gorau iddi oherwydd marwolaeth ymgeisydd, ac eithrio—

(a)bod papurau pleidleisio na chafodd y pleidleisiau arnynt eu cyfrif na’u gwrthod i’w trin fel papurau pleidleisio a gyfrifwyd, a

(b)y caniateir i orchymyn gael ei wneud o dan reol 63(2) neu (3) er mwyn cychwyn neu gynnal erlyniad am drosedd mewn perthynas â phapurau pleidleisio yn unig.

(6O ran yr hyn sy’n digwydd ar ôl i hysbysiad o bleidlais gael ei ddiddymu neu ar ôl rhoi’r gorau i bleidlais, gweler adran 39 o Ddeddf 1983(18).

Gwybodaeth Cychwyn

I73Atod. 1 para. 67 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1

F24 F25F26 F27 ATODIADAULL+CNodyn: Caniateir i’r ffurflenni a geir yn yr Atodiadau hyn gael eu haddasu i’r graddau y bo’r amgylchiadau’n gofyn.

Rheol 5(3)

ATODLEN 2LL+CRheolau cynnal etholiad cynghorwyr ar gyfer prif ardal pan gynhelir y bleidlais ynghyd â phleidlais mewn etholiad perthnasol

Addasiadau (ddim yn newid testun)

Gwybodaeth Cychwyn

I75Atod. 2 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1

RHAN 1LL+CDarpariaethau ynglŷn ag Amser

AmserlenLL+C

1.—(1Rhaid i drafodion yr etholiad gael eu cynnal yn unol â’r amserlen a ganlyn.

Amserlen
TrafodionAmser
Cyhoeddi hysbysiad etholiadDim hwyrach na’r pumed diwrnod ar hugain cyn diwrnod yr etholiad
Danfon papurau enwebuDim hwyrach na 4 p.m. ar y pedwerydd diwrnod ar bymtheg cyn diwrnod yr etholiad
Danfon hysbysiadau tynnu ymgeisyddiaeth yn ôlDim hwyrach na 4 p.m. ar y pedwerydd diwrnod ar bymtheg cyn diwrnod yr etholiad
Cyhoeddi datganiad ynghylch y personau a enwebwydDim hwyrach na 4 p.m. ar y deunawfed diwrnod cyn diwrnod yr etholiad

Hysbysiad o etholiad heb ornest

Hysbysiad o bleidlais mewn etholiad lle ceir gornest

Dim hwyrach na’r chweched diwrnod cyn diwrnod yr etholiad
PleidleisioRhwng 7 a.m. a 10 p.m. ar ddiwrnod yr etholiad

(2Mae paragraff (3) yn gymwys pan fo—

(a)papur enwebu yn cael ei anfon yn electronig neu ei gyflwyno ar-lein yn unol â threfniadau a nodir yn yr hysbysiad etholiad (gweler rheol 3), neu

(b)hysbysiad tynnu ymgeisyddiaeth yn ôl o dan reol 12 yn cael ei anfon yn electronig.

(3At ddiben penderfynu a yw’r papur neu’r hysbysiad wedi ei ddanfon yn unol â’r amserlen ym mharagraff (1), mae’r papur neu’r hysbysiad i’w drin fel pe bai wedi ei ddanfon ar yr amser y mae ei ddanfon yn cael ei gofnodi ar y system gyfrifiadurol a ddefnyddir gan y swyddog canlyniadau ar gyfer derbyn y papur neu’r hysbysiad.

(4Yn y rheol hon, ystyr “diwrnod yr etholiad” yw’r diwrnod a bennwyd yn hysbysiad yr etholiad fel y diwrnod y câi pleidlais ei chynnal pe ceid gornest.

Gwybodaeth Cychwyn

I76Atod. 2 para. 1 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1

Cyfrif amserLL+C

2.—(1Mae diwrnod eithriedig i’w ddiystyru wrth gyfrif unrhyw gyfnod a nodir yn ail golofn yr amserlen yn rheol 1.

(2Ni chaniateir i drafodion o dan y rheolau hyn hyd at gau’r bleidlais gael eu cynnal ar ddiwrnod eithriedig.

(3Nid yw’n ofynnol i’r swyddog canlyniadau fwrw ymlaen â chyfrif pleidleisiau ar ddiwrnod eithriedig.

Gwybodaeth Cychwyn

I77Atod. 2 para. 2 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1

RHAN 2LL+CHysbysiad Etholiad, Enwebu a Dull Ethol

Hysbysiad EtholiadLL+C

Hysbysiad etholiadLL+C

3.—(1Rhaid i’r swyddog canlyniadau gyhoeddi hysbysiad o’r etholiad.

(2Rhaid i’r hysbysiad ddatgan—

(a)nifer y cynghorwyr sydd i’w dychwelyd ar gyfer pob ward etholiadol yn y brif ardal,

(b)dyddiad y bleidlais os ceir gornest,

(c)y man lle gellir cael ffurflenni papurau enwebu a pha bryd a gwybodaeth am sut y gellir cael ffurflenni papur enwebu ar-lein a pha bryd,

(d)yr amser hwyraf ar gyfer danfon papurau enwebu, ac

(e)y man lle gellir danfon papurau enwebu a’r amserau pan ganiateir eu danfon i’r man hwnnw.

(3Rhaid i’r hysbysiad ddatgan hefyd erbyn pa ddyddiad y mae’n rhaid i geisiadau am bleidleisio drwy’r post neu drwy ddirprwy, a cheisiadau a hysbysiadau eraill ynghylch pleidleisio drwy’r post neu drwy ddirprwy, gyrraedd y swyddog cofrestru er mwyn bod yn effeithiol ar gyfer yr etholiad.

(4Rhaid i’r man a bennir yn yr hysbysiad fel y man lle gellir cael ffurflenni papurau enwebu, a lle gellir eu danfon, fod yn swyddfeydd cyngor y brif ardal.

(5Rhaid i’r swyddog canlyniadau hefyd gynnwys yn yr hysbysiad ddatganiad danfon electronig.

(6Mae datganiad danfon electronig yn ddatganiad y caniateir i bapurau enwebu gael eu danfon—

(a)drwy eu hanfon yn electronig i gyfeiriad ebost yn unol â threfniadau a nodir yn y datganiad,

(b)drwy eu cyflwyno ar-lein yn unol â threfniadau a nodir yn y datganiad, neu

(c)naill ai drwy eu hanfon yn electronig fel y crybwyllir yn is-baragraff (a) neu drwy eu cyflwyno ar-lein fel y crybwyllir yn is-baragraff (b).

Gwybodaeth Cychwyn

I78Atod. 2 para. 3 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1

EnwebuLL+C

Dyletswydd y swyddog canlyniadau i gyflenwi ffurflenni enwebu etc.LL+C

4.—(1Yn y man ac ar yr amserau ar gyfer cael ffurflenni papurau enwebu a nodir yn hysbysiad yr etholiad, rhaid i’r swyddog canlyniadau—

(a)cyflenwi cynifer o ffurflenni papurau enwebu i unrhyw berson ag y bydd y person yn gofyn amdanynt, a

(b)os gwneir cais, paratoi papur enwebu i’w lofnodi.

(2Rhaid i’r swyddog canlyniadau wneud trefniadau hefyd i sicrhau bod modd cael ffurflenni papurau enwebu ar-lein yn unol â’r wybodaeth a roddir yn hysbysiad yr etholiad.

(3Er hynny, nid oes angen i enwebiad gael ei wneud ar ffurflen a gyflenwir gan y swyddog canlyniadau neu a geir ar-lein.

Gwybodaeth Cychwyn

I79Atod. 2 para. 4 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1

Enwebu ymgeiswyrLL+C

5.—(1Rhaid i ymgeisydd ei enwebu ei hun gan ddefnyddio papur enwebu yn y ffurf yn Atodiad 1 neu ffurf i’r un perwyl.

(2Caniateir i’r papur enwebu gael ei ddanfon naill ai—

(a)yn y man a bennir gan y swyddog canlyniadau yn hysbysiad yr etholiad, neu

(b)yn unol â’r trefniadau a nodir yn y datganiad danfon electronig.

(3Rhaid i’r papur enwebu—

(a)datgan enwau llawn yr ymgeisydd, gan osod y cyfenwau’n gyntaf,

(b)os yw’r ymgeisydd yn dymuno, cynnwys disgrifiad sy’n cydymffurfio â rheol 6,

(c)cynnwys datganiad o aelodaeth plaid sy’n cydymffurfio â rheol 8, a

(d)cynnwys y datganiadau a nodir yn y ffurf yn Atodiad 1, wedi eu llofnodi gan yr ymgeisydd.

(4Os yw ymgeisydd yn defnyddio’n gyffredin enwau blaen neu gyfenwau sy’n wahanol mewn unrhyw ffordd i’r enwau blaen neu’r cyfenwau a ddatgenir yn unol â pharagraff (3)(a) (gan gynnwys pan y gwahaniaeth yw defnyddio’r enwau blaen neu’r cyfenwau a ddefnyddir yn gyffredin mewn trefn wahanol, cynnwys rhai o’r enwau yn unig neu gynnwys enwau ychwanegol), caniateir i’r papur enwebu hefyd ddatgan yr enwau blaen neu’r cyfenwau a ddefnyddir yn gyffredin.

(5Rhaid i’r papur enwebu gael ei lofnodi gan yr ymgeisydd ym mhresenoldeb tyst sy’n gorfod tystio i’r llofnod.

(6I gyd-fynd â’r papur enwebu rhaid cael ffurflen (“ffurflen cyfeiriad cartref”) sy’n cydymffurfio â rheol 9.

Gwybodaeth Cychwyn

I80Atod. 2 para. 5 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1

Papurau enwebu: disgrifiadauLL+C

6.—(1Mae’r rheol hon yn nodi gofynion ynghylch y disgrifiadau y caniateir eu cynnwys mewn papur enwebu fel y crybwyllir yn rheol 5(3)(b).

(2Caiff y disgrifiad fod naill ai—

(a)yn ddisgrifiad sy’n debygol o arwain etholwyr i gysylltu’r ymgeisydd â phlaid wleidyddol gofrestredig neu â dwy neu ragor o bleidiau gwleidyddol cofrestredig ac a ganiateir o dan baragraff (3) neu (yn ôl y digwydd) paragraff (4), neu

(b)y gair “Independent” neu’r gair “Annibynnol”, neu’r ddau air hynny.

(3Caniateir disgrifiad sy’n debygol o arwain etholwyr i gysylltu’r ymgeisydd â phlaid wleidyddol gofrestredig—

(a)pan fo’r blaid yn blaid gymwys,

(b)pan fo’r disgrifiad naill ai—

(i)yn enw cofrestredig y blaid neu, os yw’r blaid wedi cofrestru enw Cymraeg ac enw Saesneg, y naill neu’r llall o’r enwau hynny neu’r ddau, neu

(ii)yn ddisgrifiad cofrestredig i’r blaid neu, yn achos disgrifiad a gofrestrwyd yn Gymraeg ac yn Saesneg, y naill neu’r llall o’r disgrifiadau hynny neu’r ddau, ac

(c)pan fo defnydd y disgrifiad gan yr ymgeisydd wedi ei awdurdodi gan dystysgrif a ddyroddwyd gan neu ar ran swyddog enwebu cofrestredig y blaid ac a ddaeth i law’r swyddog canlyniadau cyn yr amser olaf ar gyfer danfon papurau enwebu.

(4Caniateir disgrifiad sy’n debygol o arwain etholwyr i gysylltu’r ymgeisydd â dwy neu ragor o bleidiau gwleidyddol cofrestredig—

(a)pan fo pob un o’r pleidiau’n bleidiau cymwys,

(b)pan fo’r disgrifiad yn cynnwys enw cofrestredig pob un o’r pleidiau a ddangosir yn y naill neu’r llall o’r fersiynau a ddisgrifir ym mharagraff (5) neu’r ddau, ac

(c)pan fo defnydd y disgrifiad gan yr ymgeisydd wedi ei awdurdodi gan dystysgrif a ddyroddwyd gan neu ar ran swyddog enwebu cofrestredig pob un o’r pleidiau ac a ddaeth i law’r swyddog canlyniadau cyn yr amser olaf ar gyfer danfon papurau enwebu.

(5Y fersiynau y cyfeirir atynt ym mharagraff (4)(b) yw—

(a)fersiwn sy’n dangos (mewn unrhyw drefn) enwau cofrestredig y pleidiau, ynghyd ag ychwanegu unrhyw gysyllteiriau ac atalnodau priodol yn Saesneg (“y fersiwn Saesneg”);

(b)fersiwn sy’n dangos (mewn unrhyw drefn) enwau cofrestredig y pleidiau, ynghyd ag ychwanegu unrhyw gysyllteiriau ac atalnodau priodol yn Gymraeg (“y fersiwn Gymraeg”).

(6Pan fo unrhyw un neu ragor o’r pleidiau wedi cofrestru enw Saesneg ac enw Cymraeg—

(a)caniateir i enw cofrestredig y blaid yn Saesneg (ac nid enw cofrestredig y blaid yn Gymraeg) gael ei ddefnyddio yn y fersiwn Saesneg, a

(b)caniateir i enw cofrestredig y blaid yn Gymraeg (ac nid enw cofrestredig y blaid yn Saesneg) gael ei ddefnyddio yn y fersiwn Gymraeg.

(7Gweler hefyd reol 7 (sy’n nodi pryd a sut y caniateir ychwanegu’r geiriau “Wales”, “Welsh”, “Cymru” neu “Cymreig” at ddisgrifiadau a ganiateir o dan baragraff (3) neu (4)).

(8Mae person yn euog o arfer lwgr os yw’r person hwnnw’n honni’n dwyllodrus ei fod wedi ei awdurdodi i ddyroddi tystysgrif o dan baragraff (3)(c) neu (4)(c) ar ran swyddog enwebu plaid wleidyddol gofrestredig.

(9Yn y rheol hon—

(a)mae cyfeiriadau at enw cofrestredig plaid wleidyddol gofrestredig yn gyfeiriadau at enw’r blaid a gofrestrwyd o dan adran 28 o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000;

(b)mae cyfeiriadau at ddisgrifiad cofrestredig plaid wleidyddol gofrestredig yn gyfeiriadau at ddisgrifiad o’r blaid a gofrestrwyd o dan adran 28A o’r Ddeddf honno.

(10At ddibenion cymhwyso’r rheol hon mewn perthynas ag etholiad—

(a)ystyr “plaid wleidyddol gofrestredig” yw plaid sydd wedi ei chofrestru o dan Ran 2 o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 ar y diwrnod sydd ddau ddiwrnod cyn y diwrnod olaf ar gyfer danfon papurau enwebu yn yr etholiad (gan ddiystyru unrhyw ddiwrnod eithriedig);

(b)mae plaid wleidyddol gofrestredig yn blaid gymwys os yw’r blaid, ar y diwrnod hwnnw, wedi ei chofrestru mewn cysylltiad â Chymru yng nghofrestr Prydain Fawr a gynhelir o dan Ran 2 o’r Ddeddf honno.

Gwybodaeth Cychwyn

I81Atod. 2 para. 6 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1

Ychwanegu “Wales”, “Welsh”, “Cymru” neu “Cymreig”LL+C

7.—(1Mae’r rheol hon yn nodi pryd a sut y caiff ymgeisydd wneud ychwanegiadau mewn papur enwebu at ddisgrifiad y caniateir i’r ymgeisydd ei ddefnyddio o dan reol 6(3) neu (4).

(2Mae paragraff (3) yn gymwys—

(a)pan fo enw cofrestredig yn ddisgrifiad y caniateir i’r ymgeisydd ei ddefnyddio o dan reol 6(3) neu’n ffurfio rhan o’r disgrifiad hwnnw, a

(b)pan nad yw’r enw cofrestredig yn cynnwys yr un o’r geiriau “Wales”, “Welsh”, “Cymru” a “Cymreig”.

(3Caiff yr ymgeisydd wneud un o’r canlynol—

(a)ychwanegu’r gair “Wales” o flaen yr enw;

(b)ychwanegu’r gair “Welsh” o flaen yr enw;

(c)ychwanegu’r gair “Cymru” ar ôl yr enw;

(d)ychwanegu’r gair “Cymreig” ar ôl yr enw.

(4Mae paragraffau (5) a (6) yn gymwys—

(a)pan fo enw cofrestredig yn ffurfio rhan o ddisgrifiad y caniateir i’r ymgeisydd ei ddefnyddio o dan reol 6(4), a

(b)pan nad yw’r enw cofrestredig yn cynnwys yr un o’r geiriau “Wales”, “Welsh”, “Cymru” a “Cymreig”.

(5Os yw’r enw cofrestredig yn y fersiwn Saesneg o’r disgrifiad (p’un a yw hefyd yn y fersiwn Gymraeg ai peidio), caiff yr ymgeisydd ychwanegu naill ai’r gair “Wales” neu’r gair “Welsh” o flaen yr enw yn y fersiwn honno.

(6Os yw’r enw cofrestredig yn y fersiwn Gymraeg o’r disgrifiad (p’un a yw hefyd yn y fersiwn Saesneg ai peidio), caiff yr ymgeisydd ychwanegu naill ai’r gair “Cymru” neu’r gair “Cymreig” ar ôl yr enw yn y fersiwn honno.

(7Mae paragraff (8) yn gymwys—

(a)pan fo disgrifiad cofrestredig yn ddisgrifiad y caniateir i’r ymgeisydd ei ddefnyddio o dan reol 6(3) neu’n ffurfio rhan o’r disgrifiad hwnnw, a

(b)pan nad yw’r disgrifiad cofrestredig yn cynnwys yr un o’r geiriau “Wales”, “Welsh”, “Cymru” a “Cymreig”.

(8Caiff yr ymgeisydd wneud un o’r canlynol—

(a)ychwanegu’r gair “Wales” ar ddechrau’r disgrifiad cofrestredig;

(b)ychwanegu’r gair “Welsh” ar ddechrau’r disgrifiad cofrestredig;

(c)ychwanegu’r gair “Cymru” ar ddiwedd y disgrifiad cofrestredig;

(d)ychwanegu’r gair “Cymreig” ar ddiwedd y disgrifiad cofrestredig.

(9At ddibenion paragraffau (3)(a) a (b) a (5), pan fo’r gair “the” (neu unrhyw air mewn iaith arall sydd â’r un swyddogaeth â’r gair “the”) yn ymddangos ar ddechrau enw cofrestredig, rhaid ei anwybyddu.

(10Pan fo ymgeisydd yn ychwanegu unrhyw beth at ddisgrifiad mewn papur enwebu yn unol â’r rheol hon, mae cyfeiriadau yn y darpariaethau a ganlyn yn yr Atodlen hon at y disgrifiad yn gyfeiriadau at y disgrifiad gyda’r ychwanegiad.

Gwybodaeth Cychwyn

I82Atod. 2 para. 7 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1

Papurau enwebu: datganiadau aelodaeth plaidLL+C

8.—(1Mae’r rheol hon yn nodi’r gofynion ynglŷn â datganiadau aelodaeth plaid y mae’n rhaid eu cynnwys mewn papurau enwebu fel y crybwyllir yn rheol 5(3)(c).

(2Rhaid i’r datganiad ddatgan a yw’r ymgeisydd wedi bod yn aelod o unrhyw blaid wleidyddol gofrestredig unrhyw bryd yn ystod y cyfnod perthnasol.

(3Os yw’r ymgeisydd wedi bod yn aelod o un neu ragor o bleidiau gwleidyddol cofrestredig unrhyw bryd yn ystod y cyfnod perthnasol, rhaid i’r datganiad hefyd gynnwys yr wybodaeth a ganlyn mewn perthynas â’r blaid neu (yn ôl y digwydd) pob un o’r pleidiau y bu’r ymgeisydd yn aelod ohoni neu ohonynt—

(a)enw cofrestredig y blaid neu, pan fo gan y blaid ddau enw cofrestredig, enwau cofrestredig y blaid, a

(b)y dyddiadau yn ystod y cyfnod perthnasol pan fu’r ymgeisydd yn aelod o’r blaid.

(4Nid yw paragraff (3) yn gymwys—

(a)pan fo’r papur enwebu’n cynnwys disgrifiad sy’n debygol o arwain etholwyr i gysylltu’r ymgeisydd â phlaid wleidyddol gofrestredig neu â dwy neu ragor o bleidiau gwleidyddol cofrestredig ac a ganiateir o dan reol 6(3) neu (yn ôl y digwydd) rheol 6(4), a

(b)pan nad yw’r ymgeisydd wedi bod yn aelod o blaid wleidyddol gofrestredig unrhyw bryd yn ystod y cyfnod perthnasol ac eithrio’r blaid neu’r pleidiau y mae’r disgrifiad hwnnw’n ymwneud â hi neu â hwy.

(5Mae ymgeisydd sy’n methu’n fwriadol â chynnwys yn y papur enwebu ddatganiad o aelodaeth plaid sy’n cydymffurfio â gofynion y rheol hon yn euog o arfer lwgr.

(6Yn y rheol hon—

(a)ystyr “plaid wleidyddol gofrestredig” yw plaid sydd wedi ei chofrestru o dan Ran 2 o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 unrhyw bryd yn ystod y cyfnod perthnasol pan fo’r ymgeisydd yn aelod;

(b)mae cyfeiriadau at enw cofrestredig plaid wleidyddol gofrestredig yn gyfeiriadau at enw’r blaid a gofrestrwyd o dan adran 28 o’r Ddeddf honno;

(c)ystyr “y cyfnod perthnasol” yw’r cyfnod o 12 mis sy’n dod i ben â’r diwrnod y cyhoeddir hysbysiad yr etholiad.

Gwybodaeth Cychwyn

I83Atod. 2 para. 8 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1

Ffurflenni cyfeiriad cartrefLL+C

9.—(1Mae’r rheol hon yn nodi’r gofynion ynglŷn â ffurflenni cyfeiriad cartref y mae’n rhaid iddynt gyd-fynd â phapurau enwebu o dan reol 5(6).

(2Rhaid i ffurflen cyfeiriad cartref ddatgan—

(a)enwau llawn yr ymgeisydd,

(b)cyfeiriad cartref yr ymgeisydd yn llawn,

(c)cyfeiriad neu gyfeiriadau cymwys yr ymgeisydd, a

(d)y cymhwyster y mae pob cyfeiriad cymwys yn ymwneud ag ef.

(3Mae cyfeiriad neu gyfeiriadau cymwys yr ymgeisydd, a’r cymhwyster y mae pob cyfeiriad cymwys yn ymwneud ag ef, yn dibynnu ar ba un neu ragor o opsiynau (a) i (d) ar y papur enwebu sydd wedi eu dewis gan yr ymgeisydd, fel y’u nodir yn y tabl a ganlyn.

Yr opsiwn a ddewisir ar y papur enwebuCyfeiriad cymwys yr ymgeisyddY cymhwyster y mae cyfeiriad cymwys yr ymgeisydd yn ymwneud ag ef
Opsiwn (a)Y cyfeiriad llawn y mae’r ymgeisydd wedi ei gofrestru fel etholwr llywodraeth leol mewn cysylltiad ag efY cymhwyster a ddisgrifir yn opsiwn (a) (cofrestru fel etholwr llywodraeth leol ar gyfer ardal y cyngor sir neu’r cyngor bwrdeistref sirol)
Opsiwn (b)Disgrifiad a chyfeiriad y tir neu’r fangre y mae’r ymgeisydd wedi eu meddiannu fel perchennog neu denant (neu, os yw’r ymgeisydd yn dibynnu ar fwy nag un meddiant i fodloni’r cymhwyster, y disgrifiadau a’r cyfeiriadau)Y cymhwyster a ddisgrifir yn opsiwn (b) (meddiannu tir neu fangre arall yn ardal y cyngor sir neu’r cyngor bwrdeistref sirol fel perchennog neu denant)
Opsiwn (c)Cyfeiriad gweithle’r ymgeisydd (neu, os yw’r ymgeisydd yn dibynnu ar fwy nag un gweithle i fodloni’r cymhwyster, y cyfeiriadau)Y cymhwyster a ddisgrifir yn opsiwn (c) (prif neu unig weithle yn ardal y cyngor sir neu’r cyngor bwrdeistref sirol)
Opsiwn (d)Y cyfeiriad neu’r cyfeiriadau llawn lle mae’r ymgeisydd wedi preswylioY cymhwyster a ddisgrifir yn opsiwn (d) (preswylio yn ardal y cyngor sir neu’r cyngor bwrdeistref sirol)

(4Os yw papur enwebu’r ymgeisydd yn cynnwys enwau blaen neu gyfenwau a ddefnyddir yn gyffredin, rhaid i’r ffurflen cyfeiriad cartref hefyd ddatgan yr enwau a ddefnyddir yn gyffredin.

(5Rhaid i’r ffurflen cyfeiriad cartref ddatgan hefyd—

(a)enwau llawn y person sy’n dyst i lofnod yr ymgeisydd ar y papur enwebu, a

(b)cyfeiriad cartref y person hwnnw yn llawn.

(6Caiff y ffurflen cyfeiriad cartref gynnwys datganiad a wnaed ac a lofnodwyd gan yr ymgeisydd na chaniateir cyhoeddi cyfeiriad cartref yr ymgeisydd.

(7Os yw’r ffurflen cyfeiriad cartref yn cynnwys datganiad o’r fath, mae’n rhaid iddi—

(a)pan fo cyfeiriad cartref yr ymgeisydd yn y Deyrnas Unedig, ddatgan enw’r ardal berthnasol (gweler paragraff (8));

(b)pan fo cyfeiriad cartref yr ymgeisydd y tu allan i’r Deyrnas Unedig, ddatgan y wlad y mae wedi ei leoli ynddi.

(8Yn y rheol hon, ystyr “ardal berthnasol” yw—

(a)pan fo cyfeiriad cartref yr ymgeisydd yng Nghymru—

(i)os yw’r cyfeiriad mewn sir, y sir honno;

(ii)os yw’r cyfeiriad mewn bwrdeistref sirol, y fwrdeistref sirol honno;

(b)pan fo cyfeiriad cartref yr ymgeisydd yn Lloegr—

(i)os yw’r cyfeiriad mewn dosbarth y ceir cyngor dosbarth ar ei gyfer, y dosbarth hwnnw;

(ii)os yw’r cyfeiriad mewn sir nad oes dosbarthau â chynghorau ynddi, y sir honno;

(iii)os yw’r cyfeiriad yn un o fwrdeistrefi Llundain, y fwrdeistref honno yn Llundain;

(iv)os yw’r cyfeiriad yn Ninas Llundain (gan gynnwys y Temlau Mewnol a Chanol), Dinas Llundain;

(v)os yw’r cyfeiriad yn Ynysoedd Sili, Ynysoedd Sili;

(c)pan fo cyfeiriad cartref yr ymgeisydd yn yr Alban, yr ardal llywodraeth leol y mae’r cyfeiriad wedi ei leoli ynddi;

(d)pan fo cyfeiriad cartref yr ymgeisydd yng Ngogledd Iwerddon, y dosbarth llywodraeth leol y mae wedi ei leoli ynddo.

Gwybodaeth Cychwyn

I84Atod. 2 para. 9 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1

Penderfyniadau ynglŷn â dilysrwydd papurau enwebuLL+C

10.—(1Mae’r rheol hon yn gymwys pan ddanfonir papur enwebu a’r ffurflen cyfeiriad cartref sy’n cyd-fynd ag ef yn unol â’r rheolau hyn.

(2Mae’r ymgeisydd yn dal wedi ei enwebu oni bai a hyd nes y bydd un o’r digwyddiadau a ganlyn yn digwydd—

(a)bod y swyddog canlyniadau’n penderfynu bod y papur enwebu’n annilys;

(b)bod y swyddog canlyniadau wedi ei fodloni bod yr ymgeisydd wedi marw;

(c)bod yr ymgeisydd yn tynnu’n ôl.

(3Mae gan y swyddog canlyniadau hawl i ddyfarnu bod papur enwebu’n annilys ar un o’r seiliau a ganlyn yn unig—

(a)nad yw manylion yr ymgeisydd yn unol â gofynion y gyfraith;

[F28(aa)nad yw’r papur enwebu’n cynnwys y datganiadau sy’n ofynnol gan reol 5(3)(d), wedi eu llofnodi gan yr ymgeisydd;]

(b)nad yw ffurflen cyfeiriad cartref yr ymgeisydd yn cydymffurfio â rheol 9(2) i (6);

(c)pan fo ffurflen cyfeiriad cartref yr ymgeisydd yn cynnwys datganiad na chaniateir cyhoeddi’r cyfeiriad cartref, nad yw’r ffurflen yn cydymffurfio â rheol 9(7);

(d)nad yw’r papur enwebu wedi ei lofnodi gan yr ymgeisydd, neu nad yw llofnod yr ymgeisydd wedi ei ardystio, yn unol â gofynion rheol 5(5).

(4Yn ddarostyngedig i baragraff (5), rhaid i’r swyddog canlyniadau, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl i bob papur enwebu a ffurflen cyfeiriad cartref gael eu danfon, eu harchwilio a phenderfynu a yw’r ymgeisydd wedi ei enwebu’n ddilys.

(5Os oes disgrifiad mewn papur enwebu wedi ei gynnwys ym marn y swyddog canlyniadau yn groes i reol 6(3) neu (4) neu 7, rhaid i’r swyddog canlyniadau roi penderfyniad nad yw manylion yr ymgeisydd yn unol â gofynion y gyfraith—

(a)cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl i’r papur enwebu gael ei ddanfon, a

(b)beth bynnag, cyn diwedd y cyfnod o 24 awr sy’n dechrau â diwedd y cyfnod ar gyfer danfon papurau enwebu.

(6Pan fo’r swyddog canlyniadau’n penderfynu bod papur enwebu’n annilys, rhaid i’r swyddog canlyniadau arnodi ar y papur y ffaith bod y penderfyniad wedi ei wneud a’r rhesymau drosto a llofnodi’r arnodiad.

(7Rhaid i’r swyddog canlyniadau roi hysbysiad i bob ymgeisydd yn datgan penderfyniad y swyddog canlyniadau a yw papur enwebu’r ymgeisydd yn ddilys ynteu’n annilys.

(8Mae penderfyniad y swyddog canlyniadau bod papur enwebu yn ddilys yn derfynol ac ni chaniateir ei amau mewn unrhyw achos.

(9Ac eithrio fel y darperir gan baragraff (8), nid oes dim yn y rheol hon yn atal dilysrwydd enwebiad rhag cael ei amau ar ddeiseb etholiad.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I85Atod. 2 para. 10 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1

Enwebu mewn mwy nag un ward etholiadolLL+C

11.—(1Rhaid i ymgeisydd sydd wedi ei enwebu’n ddilys ar gyfer mwy nag un ward etholiadol yn yr un brif ardal dynnu’n ôl o ymgeisyddiaeth yn yr holl wardiau etholiadol hynny ond un.

(2Mae ymgeisydd nad yw’n tynnu’n ôl yn unol â gofynion paragraff (1) i’w drin fel pe bai wedi tynnu’n ôl o ymgeisyddiaeth yn yr holl wardiau etholiadol lle cafodd yr ymgeisydd ei enwebu’n ddilys.

Gwybodaeth Cychwyn

I86Atod. 2 para. 11 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1

Ymgeiswyr yn tynnu’n ôlLL+C

12.—(1Caiff ymgeisydd dynnu’n ôl o ymgeisyddiaeth drwy roi hysbysiad tynnu’n ôl i’r swyddog canlyniadau.

(2Rhaid i’r hysbysiad tynnu’n ôl gael ei lofnodi gan yr ymgeisydd ym mhresenoldeb tyst sy’n gorfod tystio i lofnod yr ymgeisydd.

Gwybodaeth Cychwyn

I87Atod. 2 para. 12 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1

Cyhoeddi datganiad o’r personau a enwebwydLL+C

13.—(1Rhaid i’r swyddog canlyniadau baratoi a chyhoeddi datganiad (“datganiad o’r personau a enwebwyd”) yn dangos—

(a)y personau a enwebwyd ac sy’n dal wedi eu henwebu, a

(b)unrhyw bersonau eraill a enwebwyd ond nad ydynt yn dal wedi eu henwebu mwyach, gyda’r rheswm nad ydynt yn dal wedi eu henwebu mwyach.

(2Rhaid i’r datganiad ddangos—

(a)enwau a disgrifiadau (os oes rhai) y personau a enwebwyd, fel y’u rhoddwyd yn eu papurau enwebu,

(b)yr wybodaeth am eu cyfeiriad cartref (gweler paragraff (3)), ac

(c)yr wybodaeth a gynhwyswyd yn eu datganiadau o aelodaeth plaid, fel y’i rhoddwyd yn eu papurau enwebu.

(3Yn y rheolau hyn, mae cyfeiriadau at yr wybodaeth am gyfeiriad cartref person a enwebwyd yn gyfeiriadau at yr wybodaeth a ganlyn fel y’i rhoddwyd yn y ffurflen cyfeiriad cartref sy’n cyd-fynd â’r papur enwebu—

(a)pan fo’r ffurflen cyfeiriad cartref yn cynnwys datganiad na chaniateir cyhoeddi’r cyfeiriad cartref, yr wybodaeth a roddwyd yn unol â rheol 9(7);

(b)pan nad yw’r ffurflen cyfeiriad cartref yn cynnwys datganiad o’r fath, cyfeiriad y person a enwebwyd.

(4Rhaid i’r datganiad ddangos y personau sy’n dal wedi eu henwebu yn nhrefn yr wyddor yn ôl eu cyfenwau, ac os oes gan ddau neu ragor ohonynt yr un cyfenwau, rhaid i’r datganiad ddangos y personau hynny yn nhrefn yr wyddor yn ôl eu henwau eraill.

(5Mae rheol 14 (defnyddio enwau a ddefnyddir yn gyffredin) a rheol 15 (enwau sydd yr un fath neu’n debyg) yn gwneud darpariaeth bellach ynghylch cynnwys y datganiad o’r personau a enwebwyd.

Gwybodaeth Cychwyn

I88Atod. 2 para. 13 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1

Defnyddio enwau a ddefnyddir yn gyffredin yn y datganiad o’r personau a enwebwydLL+C

14.—(1Mae’r rheol hon yn gymwys pan fo papur enwebu person yn rhoi enwau blaen neu gyfenwau a ddefnyddir yn gyffredin yn unol â rheol 5(4).

(2Rhaid i’r datganiad o’r personau a enwebwyd ddangos enwau blaen neu gyfenwau’r person a ddefnyddir yn gyffredin (yn hytrach na’r enwau blaen neu’r cyfenwau a ddatganwyd yn y papur enwebu yn unol â rheol 5(3)(a)) oni bai bod y swyddog canlyniadau’n penderfynu—

(a)y gallai defnyddio enwau blaen neu gyfenwau’r person a ddefnyddir yn gyffredin fod yn debygol o gamarwain neu ddrysu etholwyr, neu

(b)bod yr enwau blaen neu’r cyfenwau a ddefnyddir yn gyffredin yn anweddus neu’n dramgwyddus.

(3Pan fo paragraff (2)(a) neu (b) yn gymwys—

(a)rhaid i’r datganiad o’r personau a enwebwyd ddangos enwau blaen neu gyfenwau eraill y person fel y’u datganwyd yn y papur enwebu yn unol â rheol 5(3)(a) (yn hytrach na’r enwau blaen neu’r cyfenwau a ddefnyddir yn gyffredin), a

(b)rhaid i’r swyddog canlyniadau roi hysbysiad i’r ymgeisydd yn datgan y rhesymau dros wrthod caniatáu defnyddio’r enwau blaen neu’r cyfenwau a ddefnyddir yn gyffredin.

Gwybodaeth Cychwyn

I89Atod. 2 para. 14 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1

Enwau sydd yr un fath neu’n debygLL+C

15.—(1Mae’r rheol hon yn gymwys pan fo’r swyddog canlyniadau, wrth baratoi datganiad o’r personau a enwebwyd, yn penderfynu—

(a)bod dau neu ragor o’r enwau a fyddai’n cael eu dangos ar y datganiad yr un fath neu mor debyg nes eu bod yn debygol o beri dryswch,

(b)bod pob un o’r personau dan sylw wedi gwneud datganiad eu bod yn ei gwneud yn ofynnol i’w cyfeiriad cartref beidio â chael ei gyhoeddi (gweler rheol 9(6)), ac

(c)bod yr wybodaeth a roddwyd yn unol â rheol 9(7) yr un fath ar gyfer pob un ohonynt.

(2Caiff y swyddog canlyniadau drefnu i unrhyw un neu ragor o’u manylion gael eu dangos ar y datganiad o’r personau a enwebwyd gydag unrhyw ddiwygiadau neu ychwanegiadau sy’n briodol ym marn y swyddog canlyniadau er mwyn lleihau’r tebygolrwydd o ddryswch.

(3Wrth benderfynu a ddylid gwneud diwygiadau neu ychwanegiadau o dan y rheol hon, rhaid i’r swyddog canlyniadau roi sylw i unrhyw ganllawiau a roddwyd gan y Comisiwn Etholiadol at ddibenion y rheol hon.

(4Pan fo’n ymarferol gwneud hynny cyn cyhoeddi’r datganiad, rhaid i’r swyddog canlyniadau ymgynghori ag unrhyw bersonau y bwriedir diwygio’u manylion neu ychwanegu at eu manylion o dan y rheol hon.

(5Rhaid i’r swyddog canlyniadau roi hysbysiad i unrhyw berson y diwygiwyd ei fanylion neu yr ychwanegwyd at ei fanylion o dan y rheol hon, yn nodi’r diwygiadau neu’r ychwanegiadau.

(6Ni chaniateir i unrhyw beth a wneir gan swyddog canlyniadau o dan y rheol hon gael ei amau mewn unrhyw achos heblaw achos ar ddeiseb etholiad.

Gwybodaeth Cychwyn

I90Atod. 2 para. 15 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1

Cywiro mân wallau mewn papurau enwebu neu ffurflenni cyfeiriad cartrefLL+C

16.—(1Caiff swyddog canlyniadau, unrhyw bryd cyn cyhoeddi’r datganiad o’r personau a enwebwyd, gywiro mân wallau mewn papur enwebu neu ffurflen cyfeiriad cartref.

(2Mae’r gwallau y caniateir eu cywiro yn cynnwys—

(a)gwallau o ran rhif etholiadol person;

(b)gwallau sillafu amlwg;

(c)gwallau o ran yr wybodaeth a roddwyd yn unol â rheol 9(7) (gwybodaeth y mae’n rhaid ei chynnwys pan fo’r ymgeisydd wedi datgan na chaniateir cyhoeddi’r cyfeiriad cartref).

(3Ni chaniateir i unrhyw beth a wneir gan swyddog canlyniadau yn unol â’r rheol hon gael ei amau mewn unrhyw achos heblaw achos ar ddeiseb etholiad.

(4Wrth benderfynu a ddylid cywiro mân wallau o dan y rheol hon, rhaid i swyddog canlyniadau roi sylw i unrhyw ganllawiau a roddwyd gan y Comisiwn Etholiadol at ddibenion y rheol hon.

Gwybodaeth Cychwyn

I91Atod. 2 para. 16 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1

Archwilio papurau enwebuLL+C

17.—(1Yn ystod yr amser ar gyfer archwilio, caiff unrhyw berson archwilio papurau enwebu sydd wedi eu danfon.

(2Ym mharagraff (1), ystyr “yr amser ar gyfer archwilio” yw oriau swyddfa arferol ar unrhyw ddiwrnod ar ôl y diwrnod olaf ar gyfer danfon papurau enwebu a chyn diwrnod y bleidlais, ac eithrio diwrnod eithriedig.

(3Caiff person sy’n archwilio papurau enwebu gymryd copi o’r papurau, neu godi dyfyniadau ohonynt.

Gwybodaeth Cychwyn

I92Atod. 2 para. 17 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1

Archwilio ffurflenni cyfeiriad cartrefLL+C

18.—(1Yn ystod yr amser ar gyfer archwilio, caniateir i ffurflen cyfeiriad cartref ymgeisydd sy’n dal wedi ei enwebu gael ei harchwilio gan unrhyw un neu ragor o’r canlynol sy’n dymuno ei harchwilio—

(a)ymgeisydd arall sy’n dal wedi ei enwebu yn yr un ward etholiadol;

(b)asiant etholiadol ymgeisydd arall sy’n dal wedi ei enwebu yn y ward honno;

(c)yn achos ymgeisydd arall sy’n dal wedi ei enwebu yn y ward honno ac sy’n gweithredu fel ei asiant etholiadol ei hun, person arall a ddewisir gan yr ymgeisydd hwnnw.

(2Ym mharagraff (1), ystyr “yr amser ar gyfer archwilio” yw oriau swyddfa arferol ar unrhyw ddiwrnod ar ôl y diwrnod olaf ar gyfer danfon papurau enwebu a chyn diwrnod y bleidlais, ac eithrio diwrnod eithriedig.

(3Ni chaiff ymgeisydd neu berson arall sy’n cynnal archwiliad o dan y rheol hon gymryd copi o ffurflen cyfeiriad cartref na chodi dyfyniadau ohoni.

(4Ni chaiff y swyddog canlyniadau ganiatáu i ffurflen cyfeiriad cartref gael ei harchwilio heblaw yn unol â’r rheol hon neu at ryw ddiben arall a awdurdodir gan y gyfraith.

Gwybodaeth Cychwyn

I93Atod. 2 para. 18 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1

Gohirio trafodion enwebu os ceir terfysgLL+C

19.—(1Mae’r rheol hon yn gymwys os torrir ar draws trafodion ar gyfer enwebu, neu mewn cysylltiad ag enwebu, neu os rhwystrir y trafodion hynny, ar unrhyw ddiwrnod gan derfysg neu drais agored.

(2Rhaid rhoi’r gorau i’r trafodion am y diwrnod hwnnw.

(3Os y diwrnod olaf ar gyfer danfon papurau enwebu yw’r diwrnod y rhoddir y gorau i’r trafodion, rhaid ailddechrau’r trafodion drannoeth.

(4Pan fo paragraff (3) yn ei gwneud yn ofynnol bod y trafodion yn ailddecrhau drannoeth, mae’r dyddiadau cau a bennir yn ail golofn yr amserlen yn rheol 1 ar gyfer danfon papurau enwebu, danfon hysbysiadau tynnu ymgeisyddiaeth yn ôl a chyhoeddi’r datganiad o’r personau a enwebwyd i gyd yn cael eu hymestyn un diwrnod.

(5Pan roddir y gorau i drafodion o dan y rheol hon—

(a)ni chaniateir i ddim byd gael ei wneud ar ôl ailddechrau’r trafodion os oedd yr amser ar gyfer ei wneud wedi mynd heibio pan roddwyd y gorau i’r trafodion, a

(b)nid yw dim byd a wnaed cyn rhoi’r gorau i’r trafodion yn annilys oherwydd rhoi’r gorau iddynt.

Gwybodaeth Cychwyn

I94Atod. 2 para. 19 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1

Dull EtholLL+C

Penderfynu a oes gornest yn yr etholiad a datgan y canlyniad os nad oes gornestLL+C

20.—(1Rhaid i’r swyddog canlyniadau benderfynu a yw nifer y personau sy’n dal wedi eu henwebu’n ddilys ar gyfer y ward etholiadol ar ôl i unrhyw un neu ragor dynnu’n ôl o dan reol 12 yn fwy na nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol.

(2Os nad yw nifer y personau sy’n dal wedi eu henwebu’n ddilys yn fwy na nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol, rhaid i’r swyddog canlyniadau ddatgan bod y person neu’r personau sy’n dal wedi ei enwebu neu wedi eu henwebu’n ddilys wedi ei ethol neu wedi eu hethol.

(3Rhaid hefyd i’r swyddog canlyniadau—

(a)rhoi hysbysiad yn datgan enwau a chyfeiriadau’r rhai y datganwyd eu bod wedi eu hethol i swyddog priodol cyngor y brif ardal, a

(b)cyhoeddi eu henwau.

(4Os yw nifer y personau sy’n dal wedi eu henwebu’n ddilys yn fwy na nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol, rhaid cynnal pleidlais yn unol â Rhan 3.

Gwybodaeth Cychwyn

I95Atod. 2 para. 20 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1

RHAN 3LL+CY Bleidlais mewn Etholiadau lle Ceir Gornest

Darpariaethau CyffredinolLL+C

Y bleidlais i’w chynnal drwy bleidlais guddLL+C

21.—(1Rhaid i’r pleidleisiau yn y bleidlais gael eu rhoi drwy bleidlais gudd.

[F29(2) Rhaid canfod y canlyniad—

(a)pan y system mwyafrif syml yw’r system bleidleisio sy’n gymwys i’r etholiad, yn unol â Rhan 4;

(b)pan y system pleidlais sengl drosglwyddadwy yw’r system bleidleisio sy’n gymwys i’r etholiad, yn unol â Rhan 4A.]

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I96Atod. 2 para. 21 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1

Y papurau pleidleisioLL+C

22.—(1Rhaid i bleidlais gudd pob pleidleisiwr fod yn bapur pleidleisio.

(2Yr unig bersonau sydd â hawl i gael eu henwau wedi eu gosod ar y papur pleidleisio yw’r rhai sy’n dal wedi eu henwebu’n ddilys ar gyfer y ward etholiadol ar ôl i unrhyw un neu ragor dynnu’n ôl o dan reol 12.

(3[F30Pan y system mwyafrif syml yw’r system bleidleisio sy’n gymwys i’r etholiad,] Rhaid i bapur pleidleisio—

(a)bod yn y ffurf yn Atodiad 2, a

(b)bod wedi ei argraffu yn unol â’r cyfarwyddydau yn yr Atodiad hwnnw.

[F31(3A) Pan y system pleidlais sengl drosglwyddadwy yw’r system bleidleisio sy’n gymwys i’r etholiad, rhaid i bapur pleidleisio—

(a)bod yn y ffurf yn Atodiad 2A, a

(b)bod wedi ei argraffu yn unol â’r cyfarwyddydau yn yr Atodiad hwnnw.]

(4Rhaid i’r papur pleidleisio—

(a)cynnwys enwau a disgrifiadau (os oes rhai) yr ymgeiswyr a’r wybodaeth am eu cyfeiriad cartref, fel y’i dangoswyd yn y datganiad o’r personau a enwebwyd,

(b)gallu cael ei blygu,

(c)bod â rhif a marc adnabod unigryw arall wedi eu hargraffu ar y cefn, a

(d)bod o liw gwahanol i liw unrhyw bapurau pleidleisio a ddefnyddir mewn etholiad perthnasol.

(5Ar gais ymgeisydd sydd wedi ei awdurdodi o dan reol 6(3)(c) i ddefnyddio disgrifiad sy’n debygol o arwain etholwyr i gysylltu’r ymgeisydd â phlaid wleidyddol gofrestredig, rhaid i’r papur pleidleisio gynnwys, gyferbyn â manylion yr ymgeisydd, un arwyddlun cofrestredig i’r blaid.

(6Ar gais ymgeisydd sydd wedi ei awdurdodi o dan reol 6(4)(c) i ddefnyddio disgrifiad sy’n debygol o arwain etholwyr i gysylltu’r ymgeisydd â dwy neu ragor o bleidiau gwleidyddol cofrestredig, rhaid i’r papur pleidleisio gynnwys, gyferbyn â manylion yr ymgeisydd, un arwyddlun cofrestredig i un o’r pleidiau.

(7Rhaid i gais yr ymgeisydd o dan baragraff (5) neu (6)—

(a)cael ei wneud mewn ysgrifen i’r swyddog canlyniadau, a

(b)dod i law’r swyddog canlyniadau cyn yr amser olaf ar gyfer danfon papurau enwebu fel y’i nodir yn yr amserlen yn rheol 1.

(8Rhaid i drefn yr enwau yn y papur pleidleisio fod yr un fath ag yn y datganiad o’r personau a enwebwyd.

Rhestr rhifau cyfatebolLL+C

23.—(1Rhaid i’r swyddog canlyniadau baratoi rhestr (“y rhestr rhifau cyfatebol”) yn unol â’r rheol hon.

(2Rhaid i’r rhestr rhifau cyfatebol fod mewn dwy ran.

(3Rhaid i Ran 1 gynnwys rhifau a marciau adnabod unigryw yr holl bapurau pleidleisio sydd i’w dyroddi yn unol â rheol 28(1) (papurau pleidleisio post).

(4Rhaid i Ran 2 gynnwys rhifau (ond nid marciau adnabod unigryw) yr holl bapurau pleidleisio sydd i’w darparu yn unol â rheol 32(1) (darparu blychau pleidleisio a phapurau pleidleisio mewn gorsafoedd pleidleisio).

(5Rhaid i’r rhestr rhifau cyfatebol fod yn y ffurf a nodir yn Atodiad 3 neu ffurf i’r un perwyl.

(6Pan nad y swyddog canlyniadau cydlynol yw’r swyddog canlyniadau, gweler hefyd reoliadau 4 a 5 o’r Rheoliadau Cyfuno Pleidleisiau (sy’n darparu ar gyfer amgylchiadau lle mae swyddogaethau’r swyddog canlyniadau o dan y rheol hon i gael eu cyflawni gan y swyddog canlyniadau cydlynol).

Gwybodaeth Cychwyn

I98Atod. 2 para. 23 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1

Y marc swyddogolLL+C

24.—(1Rhaid i bob papur pleidleisio gynnwys marc diogelwch priodol (“y marc swyddogol”).

(2Rhaid cadw’r marc swyddogol yn gyfrinachol.

(3Rhaid i gyfnod o ddim llai na phum mlynedd fynd heibio rhwng defnyddio’r un marc swyddogol mewn etholiadau ar gyfer yr un sir neu fwrdeistref sirol.

(4Caiff y swyddog canlyniadau ddefnyddio marc swyddogol gwahanol at ddibenion gwahanol yn yr un etholiad.

Gwybodaeth Cychwyn

I99Atod. 2 para. 24 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1

Gwahardd datgelu pleidlaisLL+C

25.  Ni chaniateir ei gwneud yn ofynnol i berson sydd wedi pleidleisio yn yr etholiad ddatgan dros bwy y pleidleisiodd mewn unrhyw achos cyfreithiol i amau’r etholiad.

Gwybodaeth Cychwyn

I100Atod. 2 para. 25 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1

Defnyddio ysgolion ac ystafelloedd cyhoeddusLL+C

26.—(1Caiff y swyddog canlyniadau ddefnyddio unrhyw un neu ragor o’r ystafelloedd a ganlyn yn rhad ac am ddim er mwyn cynnal y bleidlais neu gyfrif y pleidleisiau—

(a)ystafell mewn ysgol a gynhelir neu a gynorthwyir gan gyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol;

(b)ystafell mewn ysgol y mae grantiau’n cael eu rhoi mewn cysylltiad â hi o arian a ddarperir gan Senedd Cymru i’r person neu’r corff sy’n gyfrifol am reoli’r ysgol;

(c)unrhyw ystafell arall os yw cost cynnal a chadw’r ystafell yn daladwy yn gyfan gwbl neu’n bennaf o arian cyhoeddus.

(2Pan ddefnyddir ystafell a ddisgrifir ym mharagraff (1) er mwyn cynnal y bleidlais neu gyfrif y pleidleisiau, mae’n rhaid i’r swyddog canlyniadau—

(a)cywiro unrhyw ddifrod i’r ystafell sy’n deillio o’i defnyddio at y diben hwnnw, a

(b)talu unrhyw gost a ysgwyddir gan y person neu’r corff sydd â rheolaeth dros yr ystafell oherwydd ei defnyddio at y diben hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I101Atod. 2 para. 26 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1

Camau i’w cymryd cyn y bleidlaisLL+C

Hysbysiad y bleidlaisLL+C

27.—(1Rhaid i’r swyddog canlyniadau gyhoeddi hysbysiad o’r bleidlais yn datgan—

(a)y diwrnod a’r oriau a bennwyd ar gyfer y bleidlais,

(b)nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol dros y ward etholiadol, ac

(c)enwau a disgrifiadau (os oes rhai) pob ymgeisydd sy’n dal wedi ei enwebu’n ddilys a’r wybodaeth am eu cyfeiriad cartref.

(2Rhaid i fanylion yr ymgeiswyr, a threfn enwau’r ymgeiswyr, fod yr un fath ag yn y datganiad o’r personau a enwebwyd.

(3Rhaid i’r swyddog canlyniadau, cyn cyhoeddi hysbysiad o’r bleidlais, neu yr un pryd, hefyd gyhoeddi hysbysiad—

(a)o safle pob gorsaf bleidleisio, a

(b)o’r disgrifiad o bleidleiswyr sydd â hawl i bleidleisio yno.

(4Rhaid i’r hysbysiad a gyhoeddir o dan baragraff (3)—

(a)datgan bod y bleidlais yn etholiad y brif ardal i’w chynnal ynghyd â phleidlais mewn un neu ragor o etholiadau perthnasol,

(b)pennu’r etholaeth neu, fel y bo’n briodol, yr ardal arall y mae pob etholiad perthnasol yn ymwneud â hi, ac

(c)pan gynhelir unrhyw un neu ragor o’r pleidleisiau ar y cyd mewn rhan yn unig o’r sir neu’r fwrdeistref sirol, pennu’r rhan honno.

(5Rhaid i’r swyddog canlyniadau, cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl cyhoeddi hysbysiad o dan baragraff (3), roi copi ohono i bob un o’r asiantau etholiadol.

(6Pan nad y swyddog canlyniadau cydlynol yw’r swyddog canlyniadau, gweler hefyd reoliadau 4 a 5 o’r Rheoliadau Cyfuno Pleidleisiau (sy’n darparu ar gyfer amgylchiadau lle mae swyddogaethau’r swyddog canlyniadau o dan baragraffau (3) i (5) i gael eu cyflawni gan y swyddog canlyniadau cydlynol).

Gwybodaeth Cychwyn

I102Atod. 2 para. 27 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1

Papurau pleidleisio postLL+C

28.—(1Rhaid i’r swyddog canlyniadau, yn unol â rheoliadau o dan Ddeddf 1983, ddyroddi i’r rhai sydd â hawl i bleidleisio drwy’r post—

(a)papur pleidleisio,

(b)datganiad pleidleisio post yn y ffurf a nodir yn [F32yr Atodiad cymwys] neu ffurf i’r un perwyl, ac

(c)unrhyw amlenni ar gyfer dychwelyd y papur pleidleisio a’r datganiad pleidleisio post a ragnodir gan reoliadau o dan Ddeddf 1983.

[F33(1A) Ym mharagraff (1)(b), ystyr “yr Atodiad cymwys” yw—

(a)pan y system mwyafrif syml yw’r system bleidleisio sy’n gymwys i’r etholiad, Atodiad 4;

(b)pan y system pleidlais sengl drosglwyddadwy yw’r system bleidleisio sy’n gymwys i’r etholiad, Atodiad 4A.]

(2Rhaid i’r swyddog canlyniadau hefyd ddyroddi i’r rhai sydd â hawl i bleidleisio drwy’r post unrhyw wybodaeth y mae’r swyddog canlyniadau o’r farn ei bod yn briodol ynghylch sut i gael—

(a)cyfieithiadau i ieithoedd heblaw Cymraeg a Saesneg o unrhyw gyfarwyddydau neu ganllawiau i bleidleiswyr a anfonir gyda’r papur pleidleisio,

(b)cyfieithiad i Braille o’r cyfarwyddydau neu’r canllawiau hynny,

(c)delweddau graffig o’r cyfarwyddydau neu’r canllawiau hynny, a

(d)y cyfarwyddydau neu’r canllawiau ar unrhyw ffurf arall (gan gynnwys unrhyw ffurf glywadwy).

(3Rhaid i’r datganiad pleidleisio post gynnwys darpariaeth—

(a)i’r ffurflen gael ei llofnodi gan yr etholwr neu, pan fo’r etholwr yn pleidleisio drwy ddirprwy, gan y dirprwy, oni bai bod y swyddog cofrestru wedi hepgor y gofyniad ynglŷn â llofnod, a

(b)ar gyfer datgan dyddiad geni’r etholwr neu, pan fo’r etholwr yn pleidleisio drwy ddirprwy, dyddiad geni’r dirprwy.

(4Yn achos papur pleidleisio a ddyroddir i berson mewn cyfeiriad yn y Deyrnas Unedig, rhaid i’r swyddog canlyniadau sicrhau bod y pleidleisiwr yn gallu dychwelyd y papur pleidleisio a’r datganiad pleidleisio post yn rhad ac am ddim.

(5Pan nad y swyddog canlyniadau cydlynol yw’r swyddog canlyniadau, gweler hefyd reoliadau 4 a 5 o’r Rheoliadau Cyfuno Pleidleisiau (sy’n darparu ar gyfer amgylchiadau lle mae swyddogaethau’r swyddog canlyniadau o dan y rheol hon i gael eu cyflawni gan y swyddog canlyniadau cydlynol).

Darparu gorsafoedd pleidleisioLL+C

29.—(1Rhaid i’r swyddog canlyniadau—

(a)darparu nifer digonol o orsafoedd pleidleisio, a

(b)dyrannu’r etholwyr i’r gorsafoedd pleidleisio.

(2Caniateir darparu un neu ragor o orsafoedd pleidleisio yn yr un ystafell.

(3Rhaid i’r swyddog canlyniadau ddarparu i bob gorsaf bleidleisio unrhyw nifer o fythau a all fod yn angenrheidiol lle gall pleidleiswyr farcio’u pleidleisiau wedi eu sgrinio heb gael eu gweld.

(4Pan nad y swyddog canlyniadau cydlynol yw’r swyddog canlyniadau, gweler hefyd reoliadau 4 a 5 o’r Rheoliadau Cyfuno Pleidleisiau (sy’n darparu ar gyfer amgylchiadau lle mae swyddogaethau’r swyddog canlyniadau o dan y rheol hon i gael eu cyflawni gan y swyddog canlyniadau cydlynol).

Gwybodaeth Cychwyn

I104Atod. 2 para. 29 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1

Penodi swyddogion llywyddu a chlercodLL+C

30.—(1Rhaid i’r swyddog canlyniadau benodi a thalu—

(a)swyddog llywyddu i fod yn bresennol ym mhob gorsaf bleidleisio, a

(b)unrhyw nifer o glercod sy’n angenrheidiol at ddibenion y bleidlais neu’r cyfrif neu fel arall at ddibenion yr etholiad.

(2Ni chaiff y swyddog canlyniadau benodi’n fwriadol yn swyddog llywyddu neu glerc berson a gyflogwyd gan neu ar ran ymgeisydd mewn cysylltiad â’r etholiad.

(3Caiff y swyddog canlyniadau lywyddu mewn gorsaf bleidleisio.

(4Pan fo’r swyddog canlyniadau yn llywyddu mewn gorsaf bleidleisio, mae’r rheolau hyn yn gymwys i’r swyddog canlyniadau sy’n llywyddu felly gyda’r addasiadau angenrheidiol o ran pethau a wneir gan y swyddog canlyniadau mewn perthynas â’r swyddog llywyddu neu gan y swyddog llywyddu mewn perthynas â’r swyddog canlyniadau.

(5Caiff swyddog llywyddu awdurdodi’r clercod i wneud unrhyw beth (gan gynnwys gofyn cwestiynau) y mae’r rheolau hyn yn ei gwneud yn ofynnol i’r swyddog llywyddu ei wneud neu’n awdurdodi’r swyddog llywyddu i’w wneud F34... ac eithrio gorchymyn i unrhyw berson gael ei wahardd neu ei symud o’r orsaf bleidleisio.

(6Pan nad y swyddog canlyniadau cydlynol yw’r swyddog canlyniadau, gweler hefyd reoliadau 4 a 5 o’r Rheoliadau Cyfuno Pleidleisiau (sy’n darparu ar gyfer amgylchiadau lle mae swyddogaethau’r swyddog canlyniadau o dan y rheol hon mewn perthynas â phenodi swyddogion llywyddu a chlercod i gael eu cyflawni gan y swyddog canlyniadau cydlynol).

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I105Atod. 2 para. 30 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1

Dyroddi cardiau pleidleisio swyddogolLL+C

31.—(1Cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl cyhoeddi hysbysiad o’r etholiad, rhaid i’r swyddog canlyniadau anfon neu ddanfon—

(a)cerdyn pleidleisio swyddogol i etholwyr nad ydynt yn pleidleisio drwy’r post,

(b)cerdyn swyddogol pleidleisio drwy’r post i etholwyr sy’n pleidleisio drwy’r post ac nid drwy ddirprwy,

(c)cerdyn swyddogol pleidleisio drwy ddirprwy i berson sy’n pleidleisio fel dirprwy ar ran etholwr ac nid drwy’r post, a

(d)cerdyn swyddogol pleidleisio drwy’r post drwy ddirprwy i berson sy’n pleidleisio fel dirprwy ar ran etholwr drwy’r post.

(2Rhaid i gerdyn pleidleisio swyddogol neu gerdyn swyddogol pleidleisio drwy’r post gael ei anfon neu ei ddanfon i gyfeiriad cymwys yr etholwr.

(3Rhaid i gerdyn swyddogol pleidleisio drwy ddirprwy neu gerdyn swyddogol pleidleisio drwy’r post drwy ddirprwy gael ei anfon neu ei ddanfon i gyfeiriad y dirprwy, fel y’i dangosir yn y rhestr dirprwyon.

(4Rhaid i bob cerdyn pleidleisio fod yn y ffurf briodol yn [F35yr Atodiad cymwys] neu ffurf i’r un perwyl a rhaid iddo nodi—

(a)enw’r cyngor y mae cynghorwyr i’w hethol iddo,

(b)y ward etholiadol y mae cynghorwyr i’w hethol drosti,

(c)nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol dros y ward etholiadol honno,

(d)enw, cyfeiriad cymwys a rhif cofrestr yr etholwr,

(e)dyddiad ac oriau’r bleidlais a safle gorsaf bleidleisio’r etholwr, ac

(f)unrhyw wybodaeth arall y mae’r swyddog canlyniadau o’r farn ei bod yn briodol.

(5Caniateir i wybodaeth wahanol gael ei darparu o dan baragraff (4)(f) i wahanol etholwyr neu ddisgrifiadau o etholwr.

(6Yn achos etholwr sydd â chofnod dienw, rhaid i’r cerdyn pleidleisio—

(a)cynnwys unrhyw wybodaeth a bennir yn [F36yr Atodiad cymwys] yn hytrach na’r wybodaeth a nodir ym mharagraff (4)(d), a

(b)cael ei anfon neu ei ddanfon mewn amlen neu fath arall o orchudd fel nad yw’n datgelu bod gan yr etholwr gofnod dienw.

(7Os yw’r swyddog canlyniadau a’r swyddog canlyniadau ar gyfer pob etholiad perthnasol o’r farn ei bod yn briodol, caniateir i gerdyn pleidleisio a ddyroddir o dan y rheol hon gael ei gyfuno â cherdyn pleidleisio o’r un math a ddyroddir ym mhob etholiad perthnasol.

(8Yn y rheol hon—

[F37(aa)ystyr “yr Atodiad cymwys” yw—

(i)pan y system mwyafrif syml yw’r system bleidleisio sy’n gymwys i’r etholiad, Atodiad 5;

(ii)pan y system pleidlais sengl drosglwyddadwy yw’r system bleidleisio sy’n gymwys i’r etholiad, Atodiad 5A.]

(a)ystyr “etholwr” yw person sydd wedi ei gofrestru yn y gofrestr etholwyr llywodraeth leol ar gyfer y ward etholiadol dan sylw ar y diwrnod olaf ar gyfer cyhoeddi hysbysiad o’r etholiad, ac eithrio ei fod yn cynnwys person a ddangosir y pryd hwnnw yn y gofrestr (neu, yn achos person sydd â chofnod dienw yn y gofrestr, yn y cofnod o gofnodion dienw) fel person sydd o dan yr oedran pleidleisio dim ond os yw’n ymddangos o’r gofrestr (neu o’r cofnod o gofnodion dienw) y bydd y person o oedran pleidleisio ar y diwrnod a bennwyd ar gyfer y bleidlais;

(b)mae i “cyfeiriad cymwys” yr un ystyr ag sydd i “qualifying address” yn Neddf 1983 (gweler adran 202(1) o’r Ddeddf honno).

Cyfarpar gorsafoedd pleidleisioLL+C

32.—(1Rhaid i’r swyddog canlyniadau ddarparu i bob swyddog llywyddu unrhyw nifer o flychau pleidleisio a phapurau pleidleisio y mae’r swyddog canlyniadau o’r farn eu bod yn angenrheidiol.

(2Rhaid i bob blwch pleidleisio fod wedi ei adeiladu fel y gellir rhoi papurau pleidleisio ynddo, ond na ellir eu tynnu’n ôl ohono, heb i’r blwch gael ei ddatgloi neu, pan nad oes clo ar y blwch, heb i’r sêl gael ei thorri.

(3Os yw’r swyddog canlyniadau o’r farn ei bod yn briodol, caniateir defnyddio’r un blwch pleidleisio ar gyfer y bleidlais yn etholiad y brif ardal a’r bleidlais ym mhob etholiad perthnasol.

(4Os bwriedir defnyddio blychau ar wahân, rhaid i bob blwch gael ei farcio’n glir—

(a)â’r etholiad y mae’n ymwneud ag ef, fel y’i dangosir ar bapurau pleidleisio’r etholiad hwnnw, a

(b)â gwybodaeth sy’n pennu lliw’r papurau pleidleisio y caniateir eu gosod yn y blwch.

(5Rhaid i’r swyddog canlyniadau ddarparu i bob gorsaf bleidleisio—

(a)deunyddiau i alluogi’r pleidleiswyr i farcio’r papurau pleidleisio,

(b)copïau o’r gofrestr etholwyr berthnasol,

(c)copïau o unrhyw hysbysiadau a ddyroddwyd o dan adran 13B(3B) neu (3D) o Ddeddf 1983 i’r graddau y maent yn ymwneud â’r gofrestr etholwyr berthnasol,

(d)copïau o’r rhannau o unrhyw restrau o bersonau sydd â hawl i bleidleisio drwy’r post neu drwy ddirprwy sy’n cyfateb i’r gofrestr etholwyr berthnasol, ac

(e)rhestr (“rhestr rhifau cyfatebol yr orsaf bleidleisio”) sy’n cynnwys y rhan honno o Ran 2 o’r rhestr rhifau cyfatebol a baratowyd o dan reol 23 sy’n cynnwys y rhifau, ond nid y marciau adnabod unigryw eraill, sy’n cyfateb i’r rhai ar y papurau pleidleisio a ddarperir i’r swyddog llywyddu o dan baragraff (1).

(6Ym mharagraff (5), ystyr “y gofrestr etholwyr berthnasol” yw’r gofrestr etholwyr ar gyfer y ward etholiadol neu unrhyw ran ohoni sy’n cynnwys y cofnodion sy’n ymwneud â’r etholwyr a ddyrannwyd i’r orsaf bleidleisio.

(7Rhaid i’r swyddog canlyniadau beri i gopi sampl wedi ei ehangu o’r papur pleidleisio gael ei arddangos ym mhob gorsaf bleidleisio.

(8Rhaid i’r swyddog canlyniadau hefyd ddarparu i bob gorsaf bleidleisio—

(a)copi sampl wedi ei ehangu o’r papur pleidleisio i’w ddal yn y llaw er mwyn cynorthwyo pleidleiswyr sy’n rhannol ddall, a

(b)dyfais i alluogi pleidleiswyr sy’n ddall neu’n rhannol ddall i bleidleisio heb fod angen cymorth y swyddog llywyddu neu gydymaith (gweler rheolau 43 i 45 o ran y cymorth y caiff y swyddog llywyddu neu gydymaith ei roi).

(9Rhaid i’r copi sampl o’r papur pleidleisio y mae’n ofynnol ei arddangos a’i ddarparu o dan baragraffau (7) ac (8)(a) gael ei farcio’n glir fel sbesimen a’i ddarparu i arwain y pleidleiswyr yn unig.

(10Rhaid i’r ddyfais y cyfeirir ati ym mharagraff (8)(b)—

(a)caniatáu i bapur pleidleisio gael ei fewnosod yn y ddyfais a’i thynnu ohoni, neu ei gysylltu â’r ddyfais a’i datgysylltu oddi wrthi yn hawdd a heb ddifrodi’r papur,

(b)dal y papur pleidleisio yn gadarn yn ei le wrth gael ei defnyddio, ac

(c)darparu modd addas i’r pleidleisiwr—

(i)adnabod y bylchau ar y papur pleidleisio y gellir marcio pleidleisiau arnynt,

(ii)adnabod yr ymgeisydd y mae pob bwlch yn cyfeirio ato, a

(iii)marcio’i bleidlais yn y bwlch a ddewisir.

(11Rhaid i’r swyddog canlyniadau hefyd beri i hysbysiad yn y ffurf yn [F38yr Atodiad cymwys], yn rhoi cyfarwyddydau i arwain y pleidleiswyr wrth bleidleisio, gael ei arddangos—

(a)y tu mewn i bob gorsaf bleidleisio (ond y tu allan i’r bythau pleidleisio), a

(b)y tu allan i bob gorsaf bleidleisio.

[F39(11A) Ym mharagraff (11), ystyr “yr Atodiad cymwys” yw—

(a)pan y system mwyafrif syml yw’r system bleidleisio sy’n gymwys i’r etholiad, Atodiad 6;

(b)pan y system pleidlais sengl drosglwyddadwy yw’r system bleidleisio sy’n gymwys i’r etholiad, Atodiad 6A.]

(12Caniateir hefyd i’r swyddog canlyniadau ddarparu copïau o’r hysbysiad mewn Braille neu mewn unrhyw ieithoedd heblaw Cymraeg a Saesneg y mae’r swyddog canlyniadau o’r farn eu bod yn briodol.

(13[F40Pan y system mwyafrif syml yw’r system bleidleisio sy’n gymwys i’r etholiad,] Rhaid arddangos hysbysiad sy’n cynnwys cyfarwyddiadau ar gyfer marcio’r papur pleidleisio yn etholiad y brif ardal a phob etholiad perthnasol y tu mewn i bob bwth pleidleisio ym mhob gorsaf bleidleisio ac, mewn perthynas ag etholiad y brif ardal rhaid i’r wybodaeth honno gynnwys y canlynol—

(a)pan fo un cynghorydd yn unig i gael ei ethol, cyfarwyddyd i’r pleidleisiwr i bleidleisio unwaith yn unig drwy roi croes [X] yn y blwch gyferbyn â’i ddewis;

(b)pan fo mwy nag un cynghorydd i gael eu hethol, cyfarwyddyd i’r pleidleisiwr i bleidleisio dros ddim mwy na’r nifer sydd i’w ethol drwy roi croes [X] yn y blwch gyferbyn â phob un o’i ddewisiadau;

(c)rhybudd i’r pleidleisiwr i beidio â rhoi unrhyw farc arall ar y papur pleidleisio neu mae’n bosibl na fydd ei bleidlais yn cyfrif.

[F41(13A) Pan y system pleidlais sengl drosglwyddadwy yw’r system bleidleisio sy’n gymwys i’r etholiad, rhaid dangos hysbysiad sy’n cynnwys cyfarwyddiadau ynghylch marcio’r papur pleidleisio yn etholiad y brif ardal ac ym mhob etholiad perthnasol y tu mewn i bob bwth pleidleisio ym mhob gorsaf bleidleisio ac, mewn perthynas ag etholiad y brif ardal, rhaid i’r wybodaeth honno gynnwys y canlynol—

(a)cyfarwyddyd i’r pleidleisiwr i roi’r rhif 1 yn y blwch pleidleisio gyferbyn â’i ddewis cyntaf;

(b)esboniad i’r pleidleisiwr y caiff wneud cynifer neu gyn lleied o ddewisiadau ychwanegol ag y dymuna, ynghyd â chyfarwyddyd ynghylch sut i wneud hyn drwy roi’r rhif 2 gyferbyn â’i ail ddewis, y rhif 3 gyferbyn â’i drydydd dewis ac yn y blaen.]

(14Pan nad y swyddog canlyniadau cydlynol yw’r swyddog canlyniadau, gweler hefyd reoliadau 4 a 5 o’r Rheoliadau Cyfuno Pleidleisiau (sy’n darparu ar gyfer amgylchiadau lle mae swyddogaethau’r swyddog canlyniadau o dan y rheol hon i gael eu cyflawni gan y swyddog canlyniadau cydlynol).

Penodi asiantau pleidleisio ac asiantau cyfrifLL+C

33.—(1Cyn i’r bleidlais ddechrau, caiff ymgeisydd benodi—

(a)asiantau pleidleisio i fod yn bresennol mewn gorsafoedd pleidleisio er mwyn canfod cambersonadu, a

(b)asiantau cyfrif i fod yn bresennol wrth i’r pleidleisiau gael eu cyfrif.

(2Caniateir i’r un person gael ei benodi’n asiant pleidleisio neu’n asiant cyfrif gan fwy nag un ymgeisydd.

(3Uchafswm yr asiantau pleidleisio a gaiff fod yn bresennol mewn gorsaf bleidleisio yw pedwar neu unrhyw nifer uwch a ganiateir gan y swyddog canlyniadau drwy hysbysiad.

(4Os yw nifer yr asiantau pleidleisio a benodir i fod yn bresennol mewn gorsaf bleidleisio benodol yn fwy na phedwar (neu unrhyw nifer uwch a ganiateir gan y swyddog canlyniadau drwy hysbysiad)—

(a)rhaid i’r swyddog canlyniadau benderfynu pa asiantau y caniateir iddynt fod yn bresennol drwy fwrw coelbren, a

(b)dim ond yr asiantau y mae’r coelbren yn mynd o’u plaid sydd i’w trin fel pe baent wedi eu penodi.

(5Caiff y swyddog canlyniadau osod terfyn ar nifer yr asiantau cyfrif y caniateir i bob ymgeisydd eu penodi ond rhaid i’r terfyn—

(a)bod yr un fath ar gyfer pob un o’r ymgeiswyr, a

(b)oni bai bod amgylchiadau arbennig, beidio â bod yn llai na’r nifer a geir drwy rannu nifer y clercod a gyflogir yn y cyfrif â nifer yr ymgeiswyr (gan anwybyddu unrhyw weddill).

(6At ddibenion y cyfrifiadau sy’n ofynnol gan baragraff (5), mae asiant cyfrif a benodwyd ar gyfer mwy nag un ymgeisydd yn asiant ar wahân ar gyfer pob un o’r ymgeiswyr y’i penodwyd ganddynt.

(7Rhaid i’r ymgeisydd roi hysbysiad i’r swyddog canlyniadau cydlynol pan benodir asiantau pleidleisio neu asiantau cyfrif.

(8Rhaid i’r hysbysiad—

(a)rhoi enwau a chyfeiriadau’r personau a benodwyd, a

(b)cael ei roi dim hwyrach na’r pumed diwrnod cyn diwrnod y bleidlais, gan ddiystyru unrhyw ddiwrnod eithriedig.

(9Os bydd asiant pleidleisio neu asiant cyfrif yn marw neu’n dod yn analluog i weithredu—

(a)caiff yr ymgeisydd benodi asiant arall yn ei le, a

(b)rhaid i’r ymgeisydd roi hysbysiad i’r swyddog canlyniadau cydlynol ar unwaith yn datgan enw a chyfeiriad yr asiant arall.

Gwybodaeth Cychwyn

I108Atod. 2 para. 33 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1

Asiantau pleidleisio ac asiantau cyfrif: darpariaeth atodolLL+C

34.—(1Caiff ymgeisydd neu asiant etholiadol yr ymgeisydd—

(a)gwneud unrhyw beth y mae asiant pleidleisio neu asiant cyfrif yr ymgeisydd wedi ei awdurdodi i’w wneud (neu y byddai wedi ei awdurdodi i’w wneud, pe bai wedi ei benodi);

(b)cynorthwyo asiant pleidleisio neu asiant cyfrif yr ymgeisydd i wneud unrhyw beth y mae’r asiant pleidleisio neu’r asiant cyfrif wedi ei awdurdodi i’w wneud.

(2Caniateir i unrhyw beth y mae’n ofynnol ei wneud neu yr awdurdodir ei wneud o dan y rheolau hyn ym mhresenoldeb yr asiantau pleidleisio neu’r asiantau cyfrif gael ei wneud yn hytrach ym mhresenoldeb asiant etholiadol yr ymgeisydd.

(3Pan fo’r rheolau hyn yn ei gwneud yn ofynnol i rywbeth gael ei wneud neu’n awdurdodi rhywbeth i gael ei wneud ym mhresenoldeb yr asiantau pleidleisio neu’r asiantau cyfrif, nid yw diffyg presenoldeb yr asiant neu’r asiantau ar yr adeg a’r lle a benodwyd yn peri bod y peth a wneir yn annilys.

(4Pan nad oes gan ymgeisydd asiant cyfrif, caiff y swyddog canlyniadau roi unrhyw hysbysiad y mae’n ofynnol ei roi i’r asiant cyfrif o dan y rheolau hyn i’r ymgeisydd.

Gwybodaeth Cychwyn

I109Atod. 2 para. 34 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1

Hysbysu’r gofyniad cyfrinacheddLL+C

35.—(1Rhaid i’r swyddog canlyniadau wneud trefniadau i sicrhau bod pawb sy’n bresennol mewn gorsaf bleidleisio, heblaw am berson a ddisgrifir ym mharagraff (2)(a) i (d), wedi cael hysbysiad yn nodi darpariaethau adran 66(1), (3) a (6) o Ddeddf 1983.

(2Y personau nad yw’r ddyletswydd o dan baragraff (1) yn gymwys iddynt yw—

(a)person sy’n bresennol yn yr orsaf bleidleisio at ddiben pleidleisio;

(b)person o dan 16 oed sy’n mynd yng nghwmni pleidleisiwr i’r orsaf bleidleisio;

(c)person sy’n bresennol yn yr orsaf bleidleisio fel cydymaith pleidleisiwr ag anableddau;

(d)person sy’n bresennol yn yr orsaf bleidleisio fel cwnstabl ar ddyletswydd.

(3Yn y rheol hon, mae cyfeiriad at gwnstabl yn cynnwys cyfeiriad at berson a ddynodwyd yn swyddog cymorth cymunedol neu’n wirfoddolwr cymorth cymunedol o dan adran 38 o Ddeddf Diwygio’r Heddlu 2002 (pwerau’r heddlu i staff sy’n sifiliaid a gwirfoddolwyr).

(4Pan nad y swyddog canlyniadau cydlynol yw’r swyddog canlyniadau, gweler hefyd reoliadau 4 a 5 o’r Rheoliadau Cyfuno Pleidleisiau (sy’n darparu ar gyfer amgylchiadau lle mae swyddogaethau’r swyddog canlyniadau o dan y rheol hon i gael eu cyflawni gan y swyddog canlyniadau cydlynol).

Gwybodaeth Cychwyn

I110Atod. 2 para. 35 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1

Dychwelyd papurau pleidleisio postLL+C

36.—(1Pan fo pleidlais bost wedi ei dychwelyd mewn cysylltiad â pherson sydd wedi ei gofnodi ar y rhestr pleidleiswyr post, rhaid i’r swyddog canlyniadau farcio’r rhestr yn y modd a ragnodir gan reoliadau o dan Ddeddf 1983.

(2Pan fo pleidlais bost drwy ddirprwy wedi ei dychwelyd mewn cysylltiad â dirprwy sydd wedi ei gofnodi ar y rhestr pleidleiswyr post drwy ddirprwy, rhaid i’r swyddog canlyniadau farcio’r rhestr yn y modd a ragnodir gan reoliadau o dan y Ddeddf honno.

(3Nid yw rheol 58(2) yn gymwys at ddibenion penderfynu a yw pleidlais bost neu bleidlais bost drwy ddirprwy wedi ei dychwelyd at ddibenion y rheol hon.

(4Pan nad y swyddog canlyniadau cydlynol yw’r swyddog canlyniadau, gweler hefyd reoliadau 4 a 5 o’r Rheoliadau Cyfuno Pleidleisiau (sy’n darparu ar gyfer amgylchiadau lle mae swyddogaethau’r swyddog canlyniadau o dan y rheol hon i gael eu cyflawni gan y swyddog canlyniadau cydlynol).

Gwybodaeth Cychwyn

I111Atod. 2 para. 36 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1

Y BleidlaisLL+C

Derbyn i’r orsaf bleidleisioLL+C

37.—(1Rhaid i’r swyddog llywyddu wahardd pawb o’r orsaf bleidleisio ac eithrio—

(a)pleidleiswyr a ddyrannwyd i’r orsaf bleidleisio,

(b)personau o dan 16 oed sy’n mynd yng nghwmni pleidleiswyr i’r orsaf bleidleisio,

(c)yr ymgeiswyr a’u hasiantau etholiadol,

(d)yr asiantau pleidleisio a benodwyd i fod yn bresennol yn yr orsaf bleidleisio,

(e)y clercod a benodwyd i fod yn bresennol yn yr orsaf bleidleisio,

(f)y swyddog canlyniadau neu aelodau o staff y swyddog canlyniadau,

(g)personau sydd â hawl i fod yn bresennol yn rhinwedd unrhyw un neu ragor o adrannau 6A i 6D o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (cynrychiolwyr y Comisiwn Etholiadol a sylwedyddion achrededig),

(h)y cwnstabliaid ar ddyletswydd,

(i)cymdeithion pleidleiswyr ag anableddau, a

(j)personau sydd â hawl i fod yn bresennol yn yr orsaf bleidleisio at ddibenion etholiad perthnasol.

(2Rhaid i’r swyddog llywyddu reoleiddio cyfanswm nifer y pleidleiswyr a’r personau o dan 16 oed sydd yn eu cwmni a dderbynnir i’r orsaf bleidleisio yr un pryd.

(3Dim ond un asiant pleidleisio y caniateir ei dderbyn yr un pryd i orsaf bleidleisio ar ran yr un ymgeisydd.

(4Caiff cwnstabl sy’n pleidleisio’n bersonol wneud hynny naill ai—

(a)yn yr orsaf bleidleisio a ddyrannwyd o dan y rheolau hyn, neu

(b)mewn gorsaf bleidleisio arall, os yw’r cwnstabl yn dangos ac yn ildio tystysgrif yn y ffurf yn Atodiad 7 neu ffurf i’r un perwyl, a lofnodwyd gan swyddog heddlu sydd â gradd arolygydd neu’n uwch.

(5Caiff person a gyflogir gan y swyddog canlyniadau, os yw’n pleidleisio’n bersonol, wneud hynny naill ai—

(a)yn yr orsaf bleidleisio a ddyrannwyd o dan y rheolau hyn, neu

(b)mewn gorsaf bleidleisio arall, os yw’r person yn dangos ac yn ildio tystysgrif yn y ffurf yn Atodiad 7 neu ffurf i’r un perwyl, a lofnodwyd gan y swyddog canlyniadau.

(6Caniateir i un dystysgrif gael ei defnyddio ar gyfer etholiad y brif ardal a phob etholiad perthnasol.

(7Rhaid i dystysgrif sy’n cael ei hildio o dan baragraff (4) neu (5) gael ei chanslo ar unwaith.

(8Yn y rheol hon, mae cyfeiriad at gwnstabl yn cynnwys cyfeiriad at berson a ddynodwyd yn swyddog cymorth cymunedol neu’n wirfoddolwr cymorth cymunedol o dan adran 38 o Ddeddf Diwygio’r Heddlu 2002 (pwerau’r heddlu i staff sy’n sifiliaid a gwirfoddolwyr).

(9Pan nad y swyddog canlyniadau cydlynol yw’r swyddog canlyniadau, gweler hefyd reoliadau 4 a 5 o’r Rheoliadau Cyfuno Pleidleisiau (sy’n darparu ar gyfer amgylchiadau lle mae swyddogaeth llofnodi tystysgrif at ddibenion paragraff (5) o’r rheol hon i gael ei chyflawni gan y swyddog canlyniadau cydlynol).

Gwybodaeth Cychwyn

I112Atod. 2 para. 37 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1

Cadw trefn yn yr orsafLL+C

38.—(1Rhaid i’r swyddog llywyddu gadw trefn yn yr orsaf bleidleisio.

(2Os bydd person yn camymddwyn mewn gorsaf bleidleisio, neu’n methu ag ufuddhau i unrhyw orchmynion a roddir yn gyfreithlon gan y swyddog llywyddu, caiff y swyddog llywyddu orchymyn i’r person gael ei symud o’r orsaf bleidleisio.

(3Pan fo’r swyddog llywyddu yn gorchymyn bod person yn cael ei symud, caniateir i’r person gael ei symud ar unwaith—

(a)gan gwnstabl yn yr orsaf bleidleisio neu yn ei hymyl, neu

(b)gan unrhyw berson arall a awdurdodir mewn ysgrifen gan y swyddog canlyniadau i symud pobl o’r orsaf bleidleisio.

(4Pan fo person wedi ei symud, ni chaiff fynd yn ôl, heb ganiatâd y swyddog llywyddu, i’r orsaf bleidleisio ar ddiwrnod y bleidlais.

(5Pan gyhuddir person sydd wedi ei symud o gyflawni trosedd yn yr orsaf bleidleisio, caniateir ymdrin â’r person fel person y mae cwnstabl wedi mynd ag ef i’r ddalfa am drosedd heb warant.

(6Ni chaniateir i’r pwerau a roddir gan y rheol hon gael eu harfer er mwyn atal pleidleisiwr sydd fel arall â hawl i bleidleisio mewn gorsaf bleidleisio rhag cael cyfle i bleidleisio yn yr orsaf honno.

(7Pan nad y swyddog canlyniadau cydlynol yw’r swyddog canlyniadau, gweler hefyd reoliadau 4 a 5 o’r Rheoliadau Cyfuno Pleidleisiau (sy’n darparu ar gyfer amgylchiadau lle mae swyddogaeth y swyddog canlyniadau o dan baragraff (3)(b) o’r rheol hon i gael ei chyflawni gan y swyddog canlyniadau cydlynol).

Gwybodaeth Cychwyn

I113Atod. 2 para. 38 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1

Selio blychau pleidleisioLL+C

39.—(1Rhaid i’r swyddog llywyddu gymryd y camau a ganlyn yn union cyn i’r bleidlais ddechrau.

(2Rhaid i’r swyddog llywyddu ddangos y blwch pleidleisio gwag i’r bobl hynny (os oes rhai) sy’n bresennol yn yr orsaf bleidleisio, fel y gallant weld ei fod yn wag.

(3Yna rhaid i’r swyddog llywyddu—

(a)cloi’r blwch, os oes iddo glo, a

(b)gosod sêl y swyddog canlyniadau arno, mewn modd sy’n ei atal rhag cael ei agor heb dorri’r sêl.

(4Yna rhaid i’r swyddog llywyddu osod y blwch, o fewn golwg y swyddog llywyddu, i dderbyn papurau pleidleisio.

(5Rhaid i’r swyddog llywyddu gadw’r blwch dan glo a than sêl neu (os nad oes iddo glo) ei gadw dan sêl.

Gwybodaeth Cychwyn

I114Atod. 2 para. 39 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1

Cwestiynau y caniateir eu gofyn i bleidleiswyrLL+C

40.—(1Adeg cais am bapur pleidleisio (ond nid wedyn), caiff y swyddog llywyddu ofyn i unrhyw berson a ddisgrifir yng ngholofn gyntaf Tabl 1 (a nodir ym mharagraff (3)) neu yng ngholofn gyntaf Tabl 2 (a nodir ym mharagraff (4)), un neu ragor o’r cwestiynau a nodir yn y cyfnod cyfatebol yn yr ail golofn.

(2Os bydd yr ymgeisydd neu asiant etholiadol neu asiant pleidleisio’r ymgeisydd yn ei gwneud yn ofynnol i’r swyddog llywyddu wneud hynny, rhaid i’r swyddog llywyddu ofyn i unrhyw berson a ddisgrifir yng ngholofn gyntaf Tabl 1 un neu ragor o’r cwestiynau a nodir yn y cofnod cyfatebol yn yr ail golofn.

(3Mae Tabl 1 yn nodi cwestiynau y caiff swyddog llywyddu eu gofyn o dan baragraff (1) ac y caiff ymgeisydd (neu asiant etholiadol neu asiant pleidleisio’r ymgeisydd) ei gwneud yn ofynnol iddynt gael eu gofyn o dan baragraff (2).

Tabl 1
DisgrifiadCwestiynau
1. Person sy’n gwneud cais fel etholwr

1(a) Ai chi yw’r person sydd wedi ei gofrestru yn y gofrestr etholwyr llywodraeth leol ar gyfer yr etholiad hwn fel a ganlyn?

Nodiadau ar 1(a)

Yna rhaid i’r swyddog llywyddu ddarllen y cofnod cyfan o’r copïau o’r cofnodion cofrestru.

1(b) Ydych chi eisoes wedi pleidleisio, yn y ward etholiadol hon neu ward etholiadol arall, yn yr etholiad ar gyfer cynghorwyr i’r sir/fwrdeistref sirol hon, heblaw fel dirprwy ar ran rhyw berson arall?

Nodiadau ar 1(b)

Rhaid i’r swyddog llywyddu ddweud naill ai “sir” neu “fwrdeistref sirol”, fel y bo’n briodol.

Caniateir hepgor y geiriau “, yn y ward etholiadol hon neu ward etholiadol arall,” os oes etholiad yn digwydd mewn un ward etholiadol yn unig.

2. Person sy’n gwneud cais fel dirprwy ar ran etholwr heblaw etholwr sydd â chofnod dienw

2(a) Ai chi yw’r person y mae ei enw’n ymddangos fel AB yn y rhestr dirprwyon ar gyfer yr etholiad hwn fel person sydd â hawl i bleidleisio fel dirprwy ar ran CD?

2(b) Ydych chi eisoes wedi pleidleisio, yn y ward etholiadol hon neu ward etholiadol arall, yn yr etholiad ar gyfer cynghorwyr i’r sir/fwrdeistref sirol, fel dirprwy ar ran CD?

2(c) Ai chi yw priod, partner sifil, rhiant, taid, nain, brawd, chwaer, plentyn, ŵyr neu wyres CD?

Nodiadau ar 2(a) i (c)

Pan fo cwestiwn yn cyfeirio at AB, mae’r swyddog llywyddu’n darllen yr enw fel y mae’n ymddangos yn y rhestr dirprwyon. Pan fo cwestiwn yn cyfeirio at CD, mae’r swyddog llywyddu’n darllen enw’r etholwr.

Nodyn ar 2(b)

Rhaid i’r swyddog llywyddu ddweud naill ai “sir” neu “fwrdeistref sirol”, fel y bo’n briodol.

Caniateir hepgor y geiriau “, yn y ward etholiadol hon neu ward etholiadol arall,” os oes etholiad yn digwydd mewn un ward etholiadol yn unig.

3. Person sy’n gwneud cais fel dirprwy ar ran etholwr sydd â chofnod dienw

3(a) Ai chi yw’r person sydd â hawl i bleidleisio fel dirprwy ar ran yr etholwr sydd â’r rhif [x] yn y gofrestr etholwyr?

3(b) Ydych chi eisoes wedi pleidleisio fel dirprwy ar ran yr etholwr sydd â’r rhif [x] yn y gofrestr etholwyr?

3(c) Ai chi yw priod, partner sifil, rhiant, taid, nain, brawd, chwaer, plentyn, ŵyr neu wyres y person sydd â’r rhif [x] yn y gofrestr etholwyr?

Nodyn ar 3(a) i (c)

Pan fo’r cwestiynau yn y cofnod hwn yn cyfeirio at [x], rhaid i’r swyddog llywyddu ddarllen rhif yr etholwr o’r copïau o’r cofnodion cofrestru.

4. Person sy’n gwneud cais fel dirprwy y gofynnwyd y cwestiwn sydd wedi ei rifo 2(c) neu 3(c) yng ngholofn 2 iddo ac nad yw wedi ateb “Ie”

4. Ydych chi eisoes wedi pleidleisio, yn y ward etholiadol hon neu ward etholiadol arall, yn yr etholiad ar gyfer cynghorwyr i’r sir/fwrdeistref sirol, ar ran dau berson nad ydych yn briod, partner sifil, rhiant, taid, nain, brawd, chwaer, plentyn, ŵyr neu wyres iddynt?

Nodyn ar 4

Rhaid i’r swyddog llywyddu ddweud naill ai “sir” neu “fwrdeistref sirol”, fel y bo’n briodol.

Caniateir hepgor y geiriau “, yn y ward etholiadol hon neu ward etholiadol arall,” os oes etholiad yn digwydd mewn un ward etholiadol yn unig.

(4Mae Tabl 2 yn nodi’r cwestiynau y caiff swyddog llywyddu eu gofyn o dan baragraff (1) (ond na chaniateir ei gwneud yn ofynnol i’r swyddog llywyddu eu gofyn o dan baragraff (2)).

Tabl 2
DisgrifiadCwestiynau
1. Person sy’n gwneud cais fel etholwr y ceir cofnod mewn perthynas ag ef yn y rhestr pleidleiswyr post

1(a) Wnaethoch chi gais am bleidleisio drwy’r post?

1(b) Pam nad ydych chi wedi pleidleisio drwy’r post?

2. Person sy’n gwneud cais fel dirprwy ac sydd wedi ei enwi yn y rhestr pleidleiswyr post drwy ddirprwy

2(a) Wnaethoch chi gais am bleidleisio drwy’r post fel dirprwy?

2(b) Pam nad ydych chi wedi pleidleisio drwy’r post fel dirprwy?

(5Ni chaniateir rhoi papur pleidleisio i unrhyw berson y mae’n ofynnol iddo ateb un neu ragor o’r cwestiynau yn Nhabl 1 neu 2 oni bai bod y person wedi ateb y cwestiwn neu’r cwestiynau’n foddhaol.

(6Ac eithrio fel yr awdurdodir gan y rheol hon, ni chaniateir ymholi ynglŷn â hawl unrhyw berson i bleidleisio.

(7Yn y rheol hon, ystyr “y copïau o’r cofnodion cofrestru” yw’r copïau a ddarperir gan y swyddog canlyniadau ar gyfer yr orsaf bleidleisio o dan reol 32(5)(b) ac (c) (copïau o’r gofrestr etholwyr berthnasol a chopïau o unrhyw hysbysiadau a ddyroddwyd o dan adran 13B(3B) neu (3D) o Ddeddf 1983 sy’n ymwneud â’r gofrestr etholwyr berthnasol).

Gwybodaeth Cychwyn

I115Atod. 2 para. 40 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1

Herio pleidleisiwrLL+C

41.  Ni chaniateir atal person rhag pleidleisio dim ond am fod y naill neu’r llall neu’r ddau o’r canlynol yn gymwys—

(a)bod ymgeisydd neu asiant etholiadol neu asiant pleidleisio ymgeisydd yn datgan bod ganddynt achos rhesymol dros gredu bod y person wedi cyflawni trosedd cambersonadu;

(b)bod y person wedi ei arestio ar y sail yr amheuir ei fod wedi cyflawni neu ar fin cyflawni trosedd cambersonadu.

Gwybodaeth Cychwyn

I116Atod. 2 para. 41 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1

Gweithdrefn pleidleisioLL+C

42.—(1Rhaid rhoi papur pleidleisio i bleidleisiwr sy’n gwneud cais am un.

(2Yn union cyn i’r papur pleidleisio gael ei roi—

(a)rhaid i rif yr etholwr, fel y’i nodir yn y copïau o’r cofnodion cofrestru, gael ei alw,

(b)oni bai bod gan yr etholwr gofnod dienw, rhaid i enw’r etholwr, fel y’i nodir yn y copïau o’r cofnodion cofrestru, gael ei alw hefyd,

(c)rhaid i rif yr etholwr gael ei farcio ar restr rhifau cyfatebol yr orsaf bleidleisio wrth ochr rhif y papur pleidleisio sydd i’w ddyroddi,

(d)rhaid gosod marc yn y copïau o’r cofnodion cofrestru gyferbyn â rhif yr etholwr i nodi bod papur pleidleisio wedi ei dderbyn, ond heb ddangos y papur pleidleisio penodol a dderbyniwyd, ac

(e)yn achos person sy’n gwneud cais am bapur pleidleisio fel dirprwy, rhaid gosod marc hefyd gyferbyn ag enw’r person yn y rhestr dirprwyon.

(3Yn achos etholwr sydd â chofnod dienw—

(a)dim ond os dangosir cerdyn pleidleisio swyddogol yr etholwr neu, pan fo’r etholwr yn pleidleisio drwy ddirprwy, cerdyn pleidleisio swyddogol y dirprwy, i’r swyddog llywyddu y caniateir rhoi’r papur pleidleisio, a

(b)dim ond rhif yr etholwr y caniateir ei alw.

(4Ar ôl cael y papur pleidleisio, rhaid i’r pleidleisiwr fynd ar unwaith i un o’r bythau yn yr orsaf bleidleisio.

(5Heb oedi’n ddiangen, rhaid wedyn i’r pleidleisiwr—

(a)marcio’r papur pleidleisio’n gyfrinachol,

(b)plygu’r papur pleidleisio er mwyn cuddio’r bleidlais,

(c)dangos cefn y papur pleidleisio i’r swyddog llywyddu, er mwyn datgelu’r rhif a’r marc adnabod unigryw arall, a

(d)rhoi’r papur pleidleisio yn y blwch pleidleisio ym mhresenoldeb y swyddog llywyddu.

(6Cyn gynted ag y bydd y pleidleisiwr wedi rhoi’r papur pleidleisio yn y blwch pleidleisio, rhaid i’r pleidleisiwr adael yr orsaf bleidleisio

(7Os bydd pleidleisiwr yn yr orsaf bleidleisio, neu mewn ciw y tu allan i’r orsaf bleidleisio, wrth i’r bleidlais gau ac nad yw wedi gallu bwrw ei bleidlais eto, rhaid i’r swyddog llywyddu ganiatáu i’r pleidleisiwr fwrw ei bleidlais cyn gynted ag y bo’n ymarferol.

(8Caniateir i’r copïau o’r cofnodion cofrestru a ddefnyddir ar gyfer etholiad y brif ardal gael eu defnyddio hefyd ar gyfer pob etholiad perthnasol.

(9Pan ddyroddir papurau pleidleisio i bleidleisiwr mewn cysylltiad ag etholiad y brif ardal ac mewn cysylltiad â phob etholiad perthnasol, caniateir gosod un marc yn y copïau o’r cofnodion cofrestru a, lle bo’n briodol, yn y rhestr dirprwyon i ddynodi bod y papurau pleidleisio wedi eu dyroddi.

(10Mewn unrhyw achos arall, rhaid marcio’r copïau o’r cofnodion cofrestru a, lle bo’n briodol, y rhestr dirprwyon mewn modd sy’n dynodi pob etholiad y mae papur pleidleisio wedi ei ddyroddi mewn cysylltiad ag ef.

(11Yn y rheol hon, mae i “y copïau o’r cofnodion cofrestru” yr un ystyr ag yn rheol 40 (gweler paragraff (7) o’r rheol honno).

Gwybodaeth Cychwyn

I117Atod. 2 para. 42 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1

Pleidleiswyr sydd ag anabledd neu sy’n methu darllen: marcio pleidleisiau gan y swyddog llywydduLL+C

43.—(1Caiff pleidleisiwr wneud cais i’r swyddog llywyddu am i’w bleidlais gael ei marcio os yw’r pleidleisiwr—

(a)yn methu, oherwydd dallineb neu anabledd arall, â phleidleisio yn y modd a gyfarwyddir gan y rheolau hyn, neu

(b)yn datgan ar lafar nad yw’n gallu darllen.

(2Pan wneir cais, rhaid i’r swyddog llywyddu, ym mhresenoldeb unrhyw asiantau pleidleisio sydd yn yr orsaf bleidleisio pan wneir y cais—

(a)peri i bleidlais y pleidleisiwr gael ei marcio ar bapur pleidleisio yn y modd a gyfarwyddir gan y pleidleisiwr, a

(b)peri i’r papur pleidleisio gael ei osod yn y blwch pleidleisio.

(3Pan fo pleidlais pleidleisiwr wedi ei marcio yn unol â pharagraff (2), rhaid i’r swyddog llywyddu nodi’r manylion a ganlyn ar restr a gedwir gan y swyddog llywyddu at ddibenion y rheol hon (“y rhestr pleidleisiau a farciwyd gan y swyddog llywyddu”)—

(a)enw a rhif y pleidleisiwr, fel y’u dangosir yn y copïau o’r cofnodion cofrestru, a

(b)y rheswm y cafodd y bleidlais ei marcio.

(4Yn achos person sy’n pleidleisio fel dirprwy ar ran etholwr, y rhif sydd i’w gofnodi ynghyd ag enw’r pleidleisiwr yn y rhestr pleidleisiau a farciwyd gan y swyddog llywyddu yw rhif yr etholwr.

(5Caniateir defnyddio’r un rhestr o bleidleisiau a farciwyd gan y swyddog llywyddu ar gyfer etholiad y brif ardal a phob etholiad perthnasol.

(6Pan ddefnyddir yr un rhestr, mae cofnod yn y rhestr i’w gymryd fel pe bai’n golygu bod pleidlais y pleidleisiwr wedi ei marcio mewn cysylltiad ag etholiad y brif ardal ac mewn cysylltiad â phob etholiad perthnasol, oni bai bod y rhestr yn dynodi un neu ragor o etholiadau lle cafodd pleidlais y pleidleisiwr ei marcio.

(7Yn y rheol hon, mae i “y copïau o’r cofnodion cofrestru” yr un ystyr ag yn rheol 40 (gweler paragraff (7) o’r rheol honno).

Gwybodaeth Cychwyn

I118Atod. 2 para. 43 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1

Pleidleiswyr sydd ag anabledd neu sy’n methu darllen: cymorth cymdeithionLL+C

44.—(1Caiff pleidleisiwr wneud cais i’r swyddog llywyddu, ar sail dallineb neu anabledd arall neu anallu i ddarllen, am ganiatâd i bleidleisio gyda chymorth cydymaith.

(2Pan wneir cais, rhaid i’r swyddog llywyddu ei gwneud yn ofynnol i’r pleidleisiwr ddatgan, ar lafar neu mewn ysgrifen, a yw dallineb neu anabledd arall, neu anallu i ddarllen, yn effeithio ar y pleidleisiwr fel na all bleidleisio heb gymorth cydymaith.

(3Yn y darpariaethau a ganlyn yn y rheol hon, cyfeirir at bleidleisiwr sy’n datgan bod dallineb neu anabledd arall, neu anallu i ddarllen yn effeithio arno fel na all bleidleisio heb gymorth cydymaith fel pleidleisiwr ag anableddau.

(4Pan wneir cais am bleidleisio gyda chymorth cydymaith, rhaid i’r cydymaith wneud datganiad ysgrifenedig gerbron y swyddog llywyddu bod y cydymaith—

(a)wedi cyrraedd 16 oed, a

(b)heb gynorthwyo mwy nag un pleidleisiwr ag anableddau o’r blaen i bleidleisio yn yr etholiad.

(5Rhaid i ddatganiad y cydymaith—

(a)bod ar ffurf y datganiad sy’n ymwneud ag etholiad y brif ardal yn Atodiad 8, a

(b)cael ei roi i’r swyddog llywyddu sy’n gorfod tystio iddo a’i gadw.

(6Caniateir i ddatganiad y cydymaith yn etholiad y brif ardal ac ym mhob etholiad perthnasol gael ei wneud yn yr un ddogfen.

(7Rhaid i’r swyddog llywyddu ganiatáu cais y pleidleisiwr am gymorth cydymaith os yw’r swyddog llywyddu—

(a)wedi ei fodloni bod dallineb neu anabledd arall, neu anallu i ddarllen, yn effeithio ar y pleidleisiwr fel na all bleidleisio heb gymorth cydymaith, a

(b)wedi ei fodloni hefyd gan ddatganiad ysgrifenedig y cydymaith fod y cydymaith wedi cyrraedd 16 oed ac nad yw’r cydymaith wedi cynorthwyo mwy nag un pleidleisiwr ag anableddau o’r blaen i bleidleisio yn yr etholiad.

(8Pan ganiateir y cais—

(a)caniateir i unrhyw beth y mae’n ofynnol ei wneud o dan y rheolau hyn i’r pleidleisiwr mewn cysylltiad â rhoi’r bleidlais gael ei wneud yn hytrach i’r cydymaith, a

(b)caiff y pleidleisiwr wneud unrhyw beth y mae angen ei wneud mewn cysylltiad â rhoi’r bleidlais gyda chymorth y cydymaith.

Gwybodaeth Cychwyn

I119Atod. 2 para. 44 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1

Pleidleisio gyda chymorth cydymaith: darpariaeth atodolLL+C

45.—(1Pan roddir pleidlais gyda chymorth cydymaith yn unol â rheol 44, rhaid i’r swyddog llywyddu wedyn nodi’r manylion a ganlyn mewn rhestr a gedwir gan y swyddog llywyddu (“y rhestr pleidleiswyr ag anableddau a gynorthwywyd gan gydymaith”)—

(a)enw a rhif y pleidleisiwr, fel y’u dangosir yn y copïau o’r cofnodion cofrestru, a

(b)enw a chyfeiriad y cydymaith.

(2Yn achos person sy’n pleidleisio fel dirprwy ar ran etholwr, y rhif sydd i’w nodi ynghyd ag enw’r pleidleisiwr yn y rhestr pleidleiswyr ag anableddau a gynorthwywyd gan gydymaith yw rhif yr etholwr.

(3Pan fo gan y pleidleisiwr gofnod dienw, dim ond rhif y pleidleisiwr yn y copïau o’r cofnodion cofrestru y caniateir ei nodi yn y rhestr pleidleiswyr ag anableddau a gynorthwywyd gan gydymaith.

(4Ni chaniateir codi ffi na thaliad arall mewn cysylltiad â datganiad a wneir gan gydymaith o dan reol 44(4).

(5Caniateir defnyddio’r un rhestr o bleidleiswyr ag anableddau a gynorthwywyd gan gydymaith ar gyfer etholiad y brif ardal a phob etholiad perthnasol.

(6Pan ddefnyddir yr un rhestr, mae cofnod yn y rhestr i’w gymryd fel pe bai’n golygu bod pleidlais y pleidleisiwr wedi ei rhoi gyda chymorth mewn cysylltiad ag etholiad y brif ardal ac mewn cysylltiad â phob etholiad perthnasol, oni bai bod y rhestr yn dynodi un neu ragor o etholiadau lle cafodd pleidlais y pleidleisiwr ei rhoi gyda chymorth.

(7Yn y rheol hon, mae i “y copïau o’r cofnodion cofrestru” yr un ystyr ag yn rheol 40 (gweler paragraff (7) o’r rheol honno).

Gwybodaeth Cychwyn

I120Atod. 2 para. 45 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1

Papurau pleidleisio a dendrwyd: yr amgylchiadau lle maent ar gaelLL+C

46.—(1Mae’r rheol hon yn nodi amgylchiadau pan fo gan berson sy’n gwneud cais am bleidlais (“y ceisydd”) hawl i bleidleisio ar ôl ateb yn foddhaol y cwestiynau y mae’r gyfraith yn caniatáu eu gofyn yn y bleidlais ond pan fo’r weithdrefn ar gyfer rhoi’r bleidlais yn cael ei haddasu yn y ddwy ffordd a ganlyn—

(a)bod rhaid i’r person ddefnyddio papur pleidleisio sydd o liw gwahanol i bapurau pleidleisio eraill, a

(b)bod rhaid i’r person roi’r papur pleidleisio i’r swyddog llywyddu (yn hytrach na’i roi yn y blwch pleidleisio).

Amgylchiadau lle mae pleidlais eisoes wedi ei rhoi yn bersonol

(2Y set gyntaf o amgylchiadau yw—

(a)pan fo’r ceisydd yn honni ei fod yn etholwr penodol a enwir yn y copïau o’r cofnodion cofrestru ac nad yw wedi ei enwi yn y rhestr pleidleiswyr post neu’r rhestr dirprwyon, a

(b)pan fo person arall eisoes wedi pleidleisio’n bersonol naill ai fel yr etholwr hwnnw neu fel dirprwy’r etholwr hwnnw.

(3Yr ail set o amgylchiadau yw—

(a)pan fo’r ceisydd yn honni ei fod yn berson penodol a enwir yn y rhestr dirprwyon fel dirprwy ar ran etholwr ac nad oes ganddo hawl i bleidleisio drwy’r post fel dirprwy, a

(b)pan fo person arall eisoes wedi pleidleisio’n bersonol naill ai fel yr etholwr hwnnw neu fel dirprwy’r etholwr hwnnw.

Amgylchiadau lle mae ceisydd ar y rhestr pleidleiswyr post yn honni nad yw wedi gwneud cais am bleidlais bost

(4Y drydedd set o amgylchiadau yw—

(a)pan fo’r ceisydd yn honni ei fod yn etholwr penodol a enwir yn y copïau o’r cofnodion cofrestru,

(b)pan fo’r ceisydd hefyd wedi ei enwi yn y rhestr pleidleiswyr post, ac

(c)pan fo’r ceisydd yn honni nad yw wedi gwneud cais am bleidleisio drwy’r post yn yr etholiad.

(5Y bedwaredd set o amgylchiadau yw—

(a)pan fo’r ceisydd yn honni ei fod yn berson penodol a enwir yn ddirprwy yn y rhestr dirprwyon,

(b)pan fo’r person hwnnw hefyd wedi ei enwi ar y rhestr pleidleiswyr post drwy ddirprwy, ac

(c)pan fo’r ceisydd yn honni nad yw wedi gwneud cais am bleidleisio drwy’r post fel dirprwy yn yr etholiad.

Amgylchiadau lle mae’r ceisydd yn honni ei fod wedi colli papur pleidleisio post etc.

(6Y bumed set o amgylchiadau yw—

(a)pan fo’r ceisydd, ar ôl yr amser olaf y caiff person wneud cais am bapur pleidleisio post newydd ond cyn i’r bleidlais gau, yn honni ei fod yn etholwr penodol a enwir yn y copïau o’r cofnodion cofrestru sydd hefyd wedi ei enwi yn y rhestr pleidleiswyr post, a

(b)pan fo’r ceisydd yn honni ei fod wedi colli papur pleidleisio post y person hwnnw neu heb ei gael.

(7Y chweched set o amgylchiadau yw—

(a)pan fo’r ceisydd, ar ôl yr amser olaf y caiff person wneud cais am bapur pleidleisio post newydd ond cyn i’r bleidlais gau, yn honni ei fod yn berson penodol a enwir yn ddirprwy yn y rhestr dirprwyon sydd hefyd wedi ei enwi yn y rhestr pleidleiswyr post drwy ddirprwy, a

(b)pan fo’r ceisydd yn honni ei fod wedi colli papur pleidleisio post y person hwnnw neu heb ei gael.

(8Cyfeirir at bapur pleidleisio a roddir i swyddog llywyddu yn unol â’r rheol hon yn y rheolau hyn fel “papur pleidleisio a dendrwyd”.

(9Pan fo gan etholwr gofnod dienw, mae’r cyfeiriadau yn y rheol hon at berson a enwir yn y copïau o’r cofnodion cofrestru neu mewn rhestr i’w darllen fel cyfeiriadau at berson sydd â rhif yn y copïau neu yn y rhestr.

(10Yn y rheol hon, mae i “y copïau o’r cofnodion cofrestru” yr un ystyr ag yn rheol 40 (gweler paragraff (7) o’r rheol honno).

Gwybodaeth Cychwyn

I121Atod. 2 para. 46 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1

Dyletswyddau swyddogion llywyddu mewn perthynas â phapurau pleidleisio a dendrwydLL+C

47.—(1Mae’r rheol hon yn nodi dyletswyddau’r swyddog llywyddu mewn perthynas â phapurau pleidleisio a dendrwyd.

(2Rhaid i’r swyddog llywyddu arnodi’r wybodaeth a ganlyn ar y papur pleidleisio—

(a)enw’r pleidleisiwr, a

(b)rhif y pleidleisiwr yn y copïau o’r cofnodion cofrestru neu, os yw’r pleidleisiwr yn pleidleisio fel dirprwy ar ran etholwr, rhif yr etholwr.

(3Rhaid i’r swyddog llywyddu roi’r papur pleidleisio mewn pecyn ar wahân.

(4Rhaid cofnodi’r wybodaeth a ganlyn ar restr (y “rhestr pleidleisiau a dendrwyd”)—

(a)enw’r pleidleisiwr, a

(b)rhif y pleidleisiwr yn y copïau o’r cofnodion cofrestru neu, os yw’r pleidleisiwr yn pleidleisio fel dirprwy ar ran etholwr, rhif yr etholwr.

(5Pan fo gan etholwr gofnod dienw, rhaid i’r swyddog llywyddu beidio â chynnwys enw’r pleidleisiwr ar y papur pleidleisio nac yn y rhestr pleidleisiau a dendrwyd.

(6Caniateir defnyddio’r un rhestr pleidleisiau a dendrwyd ar gyfer etholiad y brif ardal a phob etholiad perthnasol.

(7Pan ddefnyddir yr un rhestr, mae cofnod yn y rhestr i’w gymryd fel pe bai papur pleidleisio a dendrwyd wedi ei roi i’r swyddog llywyddu mewn cysylltiad ag etholiad y brif ardal ac mewn cysylltiad â phob etholiad perthnasol, oni bai bod y rhestr yn dynodi un neu ragor o etholiadau lle cafodd papur pleidleisio a dendrwyd ei roi.

(8Yn y rheol hon, mae i “y copïau o’r cofnodion cofrestru” yr un ystyr ag yn rheol 40 (gweler paragraff (7) o’r rheol honno).

Gwybodaeth Cychwyn

I122Atod. 2 para. 47 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1

Papurau pleidleisio a ddifethwydLL+C

48.—(1Mae’r rheol hon yn gymwys pan fo pleidleisiwr wedi ymdrin yn anfwriadol â’i bapur pleidleisio yn y fath fodd fel na ellir ei ddefnyddio’n gyfleus fel papur pleidleisio.

(2Caiff y pleidleisiwr sicrhau papur pleidleisio arall—

(a)drwy roi’r papur pleidleisio yr ymdriniwyd ag ef yn anfwriadol (y “papur pleidleisio a ddifethwyd”) i’r swyddog llywyddu, a

(b)drwy brofi er boddhad y swyddog llywyddu yr ymdriniwyd ag ef yn anfwriadol.

(3Pan roddir papur pleidleisio arall i’r pleidleisiwr, rhaid i’r papur pleidleisio a ddifethwyd gael ei ganslo ar unwaith.

Gwybodaeth Cychwyn

I123Atod. 2 para. 48 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1

Cywiro gwallau ar ddiwrnod y bleidlaisLL+C

49.—(1Rhaid i’r swyddog llywyddu gadw rhestr o bersonau y rhoddir papurau pleidleisio iddynt o ganlyniad i addasiad yn y gofrestr a wneir yn rhinwedd adran 13B(3B) neu (3D) o Ddeddf 1983 sy’n dod yn effeithiol ar ddiwrnod y bleidlais.

(2Caniateir defnyddio’r un rhestr ar gyfer etholiad y brif ardal a phob etholiad perthnasol.

(3Pan ddefnyddir yr un rhestr, mae cofnod yn y rhestr i’w gymryd fel pe bai papurau pleidleisio wedi eu rhoi o ganlyniad i addasiad yn y gofrestr mewn cysylltiad ag etholiad y brif ardal ac mewn cysylltiad â phob etholiad perthnasol, oni bai bod y rhestr yn dynodi un neu ragor o etholiadau lle cafodd papurau pleidleisio eu rhoi felly.

Gwybodaeth Cychwyn

I124Atod. 2 para. 49 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1

Gohirio’r bleidlais os ceir terfysgLL+C

50.—(1Mae’r rheol hon yn gymwys pan dorrir ar draws y trafodion mewn unrhyw orsaf bleidleisio neu pan gânt eu rhwystro gan derfysg neu drais agored.

(2Rhaid i’r swyddog llywyddu—

(a)gohirio’r trafodion tan drannoeth, a

(b)hysbysu’r swyddog canlyniadau cydlynol ar unwaith.

(3Pan gaiff y bleidlais ei gohirio mewn gorsaf bleidleisio—

(a)rhaid i’r oriau pleidleisio ar y diwrnod y caiff ei gohirio iddo fod yr un fath ag ar gyfer y diwrnod gwreiddiol, a

(b)mae cyfeiriadau yn y rheolau hyn at ddiwedd y bleidlais i’w darllen fel cyfeiriadau at ddiwedd yr oriau pleidleisio ar y diwrnod y caiff ei gohirio iddo.

Gwybodaeth Cychwyn

I125Atod. 2 para. 50 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1

Y weithdrefn wrth gau’r bleidlaisLL+C

51.—(1Mae’r rheol hon yn nodi’r camau y mae’n rhaid i’r swyddog llywyddu eu cymryd cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl i bob pleidleisiwr fwrw ei bleidlais.

(2Ym mhresenoldeb unrhyw asiantau pleidleisio a benodwyd at ddibenion etholiad y brif ardal neu etholiad perthnasol sydd yn yr orsaf bleidleisio, rhaid i’r swyddog llywyddu selio pob blwch pleidleisio (gyda’r allwedd ynghlwm os oes un) a oedd yn cael ei ddefnyddio yn yr orsaf bleidleisio er mwyn atal gosod papurau pleidleisio ychwanegol ynddo, gan ddefnyddio sêl y swyddog llywyddu a seliau unrhyw asiantau pleidleisio sy’n dymuno gosod eu sêl.

(3F42... Rhaid i’r swyddog llywyddu osod pob un o’r canlynol mewn pecynnau ar wahân, wedi eu selio gan ddefnyddio sêl y swyddog llywyddu a seliau unrhyw asiantau pleidleisio sy’n dymuno gosod eu sêl—

(a)y papurau pleidleisio sydd heb eu defnyddio a’r papurau pleidleisio a ddifethwyd (gyda’i gilydd);

(b)y papurau pleidleisio a dendrwyd;

(c)y copïau a farciwyd o’r cofnodion cofrestru a’r rhestr dirprwyon (gyda’i gilydd);

(d)rhestr rhifau cyfatebol yr orsaf bleidleisio, fel y’i marciwyd (gweler rheol 42(2)(c)) (y cyfeirir ati yn y darpariaethau a ganlyn o’r rheolau hyn fel “y rhestr rhifau cyfatebol a gwblhawyd”);

(e)unrhyw dystysgrifau a ildiwyd o dan reol 37(4) neu (5) (ildio tystysgrifau a ddyroddwyd i gwnstabliaid neu staff swyddogion canlyniadau);

(f)y rhestrau a’r datganiadau a ganlyn (gyda’i gilydd)—

(i)y rhestr pleidleisiau a farciwyd gan y swyddog llywyddu, ynghyd â datganiad o nifer y pleidleiswyr y mae eu pleidleisiau wedi eu marcio o dan y penawdau “anabledd” a “methu darllen” (gweler rheol 43);

(ii)y datganiadau a wnaed gan gymdeithion pleidleiswyr ag anableddau (gweler rheol 44);

(iii)y rhestr pleidleiswyr ag anableddau a gynorthwywyd gan gydymaith (gweler rheol 45);

(iv)y rhestr pleidleisiau a dendrwyd (gweler rheol 47);

(v)y rhestr a gadwyd o dan reol 49 (cywiro gwallau ar ddiwrnod y bleidlais).

[F43(3A) Rhaid i’r swyddog llywyddu wneud unrhyw beth sy’n ofynnol gan baragraff (3)(a), (b), (e) neu (f) yn yr orsaf bleidleisio, ym mhresenoldeb unrhyw asiantau pleidleisio a benodwyd at ddibenion yr etholiad prif ardal neu etholiad perthnasol sydd yno.

(3B) Caiff y swyddog llywyddu wneud unrhyw beth sy’n ofynnol gan baragraff (3)(c) neu (d)—

(a)yn yr orsaf bleidleisio, ym mhresenoldeb unrhyw asiantau pleidleisio a benodwyd at ddibenion yr etholiad prif ardal neu etholiad perthnasol sydd yno, neu

(b)os yw’r swyddog llywyddu wedi hysbysu’r asiantau pleidleisio a benodwyd at ddibenion yr etholiad prif ardal neu etholiad perthnasol ac wedi rhoi cyfle iddynt i fod yn bresennol, yn unrhyw le arall y mae’r swyddog llywyddu yn ystyried ei fod yn briodol, ym mhresenoldeb unrhyw un neu ragor o’r asiantau pleidleisio hynny sydd yno.]

(4Rhaid i’r swyddog llywyddu ddanfon y blychau pleidleisio a’r pecynnau a seliwyd i’r swyddog canlyniadau cydlynol neu beri iddynt gael eu danfon yn unol â threfniadau a gymeradwywyd gan y swyddog canlyniadau hwnnw.

(5I gyd-fynd â’r pecynnau rhaid cael datganiad (“cyfriflen papurau pleidleisio”) a baratowyd gan y swyddog llywyddu ac sy’n dangos—

(a)nifer y papurau pleidleisio a roddwyd i’r swyddog llywyddu, a

(b)sut y cyfrifwyd y papurau pleidleisio o dan y penawdau a ganlyn—

(i)nifer y papurau pleidleisio a ddyroddwyd ac na chyfrifwyd hwy fel arall;

(ii)nifer y papurau pleidleisio sydd heb eu defnyddio;

(iii)nifer y papurau pleidleisio a ddifethwyd;

(iv)nifer y papurau pleidleisio a dendrwyd.

(6Ni chaniateir cyfuno cynnwys y pecynnau sy’n cynnwys y papurau pleidleisio sydd heb eu defnyddio a’r papurau pleidleisio a ddifethwyd a’r papurau pleidleisio a dendrwyd â chynnwys y pecynnau a wneir o dan y rheol gyfatebol sy’n gymwys mewn unrhyw etholiad perthnasol.

(7Ni chaniateir cyfuno’r gyfriflen papurau pleidleisio â’r gyfriflen papurau pleidleisio a baratoir o dan y rheol gyfatebol sy’n gymwys mewn unrhyw etholiad perthnasol.

(8Yn y rheol hon, ystyr “y copïau a farciwyd o’r cofnodion cofrestru” yw’r copïau o’r cofnodion cofrestru (fel y’u diffinnir gan reol 40(7)), fel y’u marciwyd yn unol â’r rheolau hyn.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I126Atod. 2 para. 51 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1

RHAN 4LL+C[F44Cyfrif y Pleidleisiau: Etholiadau sy’n Defnyddio’r System Mwyafrif Syml ]

Trosolwg o’r rheolau a dehongliLL+C

52.—(1Mae’r rheol hon yn rhoi trosolwg o sut y cymhwysir y Rhan hon.

(2Pan y swyddog canlyniadau cydlynol yw’r swyddog canlyniadau, mae’r rheolau a ganlyn yn gymwys—

(a)rheol 53 (presenoldeb mewn trafodion);

(b)rheol 54 (dyletswyddau rhagarweiniol a chyffredinol);

(c)rheol 55 (gwahanu papurau pleidleisio etc.);

(d)rheolau 58 i 64 (darpariaethau ynglŷn â chyfrif etc.).

(3Pan nad y swyddog canlyniadau cydlynol yw’r swyddog canlyniadau, mae’r rheolau a ganlyn yn gymwys—

(a)rheol 53(1) a (3) i (9) (presenoldeb mewn trafodion);

(b)rheol 56 (dyletswyddau rhagarweiniol a chyffredinol);

(c)rheol 57 (agor cynwysyddion etc.);

(d)rheolau 58 i 64 (darpariaethau ynglŷn â chyfrif etc.).

(4Yn y Rhan hon—

(a)mae cyfeiriadau at asiantau cyfrif y brif ardal yn gyfeiriadau at yr asiantau cyfrif a benodwyd at ddibenion etholiad y brif ardal;

(b)mae cyfeiriadau at asiantau cyfrif eraill yn gyfeiriadau at yr asiantau cyfrif a benodwyd at ddibenion unrhyw etholiad perthnasol;

(c)mae cyfeiriadau at asiantau etholiadol y brif ardal yn gyfeiriadau at yr asiantau etholiadol a benodwyd at ddibenion etholiad y brif ardal;

(d)mae cyfeiriadau at asiantau etholiadol eraill yn gyfeiriadau at yr asiantau etholiadol a benodwyd at ddibenion unrhyw etholiad perthnasol.

Gwybodaeth Cychwyn

I127Atod. 2 para. 52 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1

Presenoldeb mewn trafodion o dan y Rhan honLL+C

53.—(1Mae gan y personau a ganlyn hawl i fod yn bresennol mewn trafodion o dan reolau 55(2) i (10), 57 a 59 i 64—

(a)y swyddog canlyniadau ac aelodau staff y swyddog canlyniadau;

(b)pob ymgeisydd a gwestai i bob ymgeisydd;

(c)asiantau etholiadol y brif ardal;

(d)asiantau cyfrif y brif ardal;

(e)unrhyw berson sydd â hawl i fod yn bresennol yn rhinwedd adrannau 6A i 6D o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (cynrychiolwyr y Comisiwn Etholiadol a sylwedyddion achrededig);

(f)y cwnstabliaid ar ddyletswydd.

(2Yn ychwanegol, mae gan unrhyw berson sydd â hawl i fod yn bresennol wrth i’r pleidleisiau gael eu cyfrif mewn etholiad perthnasol hawl i fod yn bresennol mewn trafodion o dan reol 55(2) i (10).

(3Caiff y swyddog canlyniadau ganiatáu i unrhyw berson arall fod yn bresennol mewn trafodion o dan unrhyw un neu ragor o reolau 55(2) i (10), 57 neu 59 i 64.

(4Ni chaniateir rhoi caniatâd o dan baragraff (3) oni bai bod y swyddog canlyniadau—

(a)wedi ei fodloni na fydd presenoldeb y person yn rhwystro swyddogaethau’r swyddog canlyniadau rhag cael eu cyflawni’n effeithlon, a

(b)naill ai wedi ymgynghori â’r personau priodol ynghylch a ddylid rhoi caniatâd neu wedi penderfynu nad yw’n ymarferol ymgynghori â hwy.

(5At ddibenion paragraff (3)(b), y “personau priodol” yw—

(a)yn achos trafodion o dan reol 55(2) i (10), asiantau etholiad y brif ardal ac asiantau’r etholiad arall;

(b)yn achos unrhyw drafodion eraill, asiantau etholiad y brif ardal.

(6Rhaid i’r swyddog canlyniadau roi pob cyfleuster rhesymol i unrhyw asiantau cyfrif sydd â hawl i fod yn bresennol ar gyfer goruchwylio’r trafodion, a’r holl wybodaeth amdanynt, y gall y swyddog canlyniadau eu rhoi yn gyson â chynnal y trafodion yn drefnus a chyflawni dyletswyddau’r swyddog canlyniadau.

(7Yn benodol, pan fo’r pleidleisiau’n cael eu cyfrif drwy ddidoli’r papurau pleidleisio yn ôl yr ymgeisydd y rhoddir y bleidlais iddo ac wedyn cyfrif nifer y papurau pleidleisio ar gyfer pob ymgeisydd, mae gan asiantau cyfrif y brif ardal hawl i’w bodloni eu hunain fod y papurau pleidleisio wedi eu didoli’n gywir.

(8Rhaid i’r swyddog canlyniadau wneud trefniadau i sicrhau bod pawb sy’n bresennol wrth i’r pleidleisiau gael eu cyfrif (ac eithrio’r cwnstabliaid ar ddyletswydd) wedi cael hysbysiad yn nodi darpariaethau adran 66(2) a (6) o Ddeddf 1983 (hysbysiad o ofyniad cyfrinachedd).

(9Yn y rheol hon, mae cyfeiriad at gwnstabl yn cynnwys cyfeiriad at berson a ddynodwyd yn swyddog cymorth cymunedol neu’n wirfoddolwr cymorth cymunedol o dan adran 38 o Ddeddf Diwygio’r Heddlu 2002 (pwerau’r heddlu i staff sy’n sifiliaid a gwirfoddolwyr).

Gwybodaeth Cychwyn

I128Atod. 2 para. 53 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1

Dyletswyddau rhagarweiniol a chyffredinol pan y swyddog canlyniadau cydlynol yw’r swyddog canlyniadauLL+C

54.—(1Mae’r rheol hon yn gymwys pan y swyddog canlyniadau cydlynol yw’r swyddog canlyniadau.

(2Rhaid i’r swyddog canlyniadau wneud trefniadau ar gyfer cyflawni’r swyddogaethau o dan reol 55 cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl i’r bleidlais gau.

(3Rhaid i’r swyddog canlyniadau roi hysbysiad i asiantau cyfrif y brif ardal a’r asiantau cyfrif eraill yn datgan yr amser a’r lle y bydd y swyddog canlyniadau yn dechrau cyflawni’r swyddogaethau o dan [F45reol 55].

(4Wrth gyfrif a chofnodi nifer y papurau pleidleisio a chyfrif y pleidleisiau, rhaid i’r swyddog canlyniadau—

(a)cadw’r papurau pleidleisio gyda’u hwynebau i fyny, a

(b)cymryd y rhagofalon eraill hynny sy’n briodol at ddiben atal unrhyw berson rhag gweld y rhifau neu farciau adnabod unigryw eraill a argraffwyd ar gefn y papurau.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I129Atod. 2 para. 54 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1

Gwahanu papurau pleidleisio etc. pan y swyddog canlyniadau cydlynol yw’r swyddog canlyniadauLL+C

55.—(1Mae’r rheol hon yn gymwys pan y swyddog canlyniadau cydlynol yw’r swyddog canlyniadau.

(2Rhaid i’r swyddog canlyniadau, ym mhresenoldeb asiantau cyfrif y brif ardal a’r asiantau cyfrif eraill, agor pob blwch pleidleisio, tynnu’r papurau pleidleisio, eu cyfrif a chofnodi ar wahân nifer y papurau pleidleisio a ddefnyddiwyd ym mhob etholiad.

(3Ni chaiff y swyddog canlyniadau gyfrif unrhyw bapur pleidleisio a dendrwyd.

(4Pan ddefnyddiwyd blychau pleidleisio ar wahân yn y bleidlais, nid yw unrhyw bleidlais dros ymgeisydd yn etholiad y brif ardal i’w thrin fel pleidlais annilys am ei bod wedi ei gosod yn y blwch pleidleisio y bwriadwyd ei ddefnyddio mewn etholiad perthnasol.

(5Rhaid i’r swyddog canlyniadau, ym mhresenoldeb asiantau etholiadol y brif ardal a’r asiantau etholiadol eraill, ddilysu pob cyfriflen papurau pleidleisio drwy ei chymharu â nifer y papurau pleidleisio a gofnodwyd, y papurau pleidleisio heb eu defnyddio a’r papurau pleidleisiau a ddifethwyd sydd ym meddiant y swyddog canlyniadau a’r rhestr pleidleisiau a dendrwyd (gan agor ac ailselio’r pecynnau sy’n cynnwys y papurau pleidleisio heb eu defnyddio a’r papurau pleidleisio a ddifethwyd, a’r rhestr pleidleisiau a dendrwyd).

(6Rhaid i’r swyddog canlyniadau baratoi datganiad ynglŷn â chanlyniad y dilysiad a rhoi copi o’r datganiad i unrhyw asiant etholiadol prif ardal, ac i unrhyw asiant etholiadol arall, sy’n gofyn amdano.

(7Rhaid hefyd i’r swyddog canlyniadau—

(a)cyfrif y papurau pleidleisio post sydd wedi eu dychwelyd yn briodol (ynglŷn â hynny gweler rheol 58), a

(b)cofnodi ar wahân y nifer a gyfrifwyd yn y bleidlais yn etholiad y brif ardal ac ym mhob etholiad perthnasol.

(8Yna rhaid i’r swyddog canlyniadau—

(a)gwahanu’r papurau pleidleisio sy’n ymwneud ag etholiad y brif ardal o’r papurau pleidleisio sy’n ymwneud â phob etholiad perthnasol,

(b)trefnu’r papurau pleidleisio ar gyfer pob etholiad perthnasol yn becynnau, ac

(c)selio’r pecynnau mewn cynwysyddion ar wahân gan arnodi ar bob un ddisgrifiad o’r ardal y mae’r papurau pleidleisio yn ymwneud â hi.

(9Yna rhaid i’r swyddog canlyniadau ddanfon neu beri danfon i swyddog canlyniadau pob etholiad perthnasol—

(a)cynwysyddion y papurau pleidleisio sy’n ymwneud â’r etholiad, ynghyd â rhestr o’r cynwysyddion a’u cynnwys,

(b)y cyfriflenni papurau pleidleisio sy’n ymwneud â’r etholiad, ynghyd â chopi o’r datganiadau ynglŷn â chanlyniad y dilysiad, ac

(c)y pecynnau o bapurau pleidleisio heb eu defnyddio a’r papurau pleidleisio a ddifethwyd a’r papurau pleidleisio a dendrwyd.

(10Yna rhaid i’r swyddog canlyniadau gymysgu’r holl bapurau pleidleisio a ddefnyddiwyd yn etholiad y brif ardal gyda’i gilydd.

Gwybodaeth Cychwyn

I130Atod. 2 para. 55 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1

Dyletswyddau rhagarweiniol a chyffredinol pan nad y swyddog canlyniadau cydlynol yw’r swyddog canlyniadauLL+C

56.—(1Mae’r rheol hon yn gymwys pan nad y swyddog canlyniadau cydlynol yw’r swyddog canlyniadau.

(2Rhaid i’r swyddog canlyniadau wneud trefniadau ar gyfer cyfrif y pleidleisiau ym mhresenoldeb asiantau cyfrif y brif ardal cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl i’r papurau pleidleisio gael eu danfon gan y swyddog canlyniadau, sef y swyddog canlyniadau cydlynol.

(3Rhaid i’r swyddog canlyniadau roi hysbysiad i asiantau cyfrif y brif ardal yn nodi’r amser y dechreuir cyfrif pleidleisiau (a bwrw bod y papurau pleidleisio wedi eu danfon) a’r man lle bydd y cyfrif yn digwydd.

(4Tra bydd yn cyfrif ac yn cofnodi nifer y papurau pleidleisio ac yn cyfrif y pleidleisiau, rhaid i’r swyddog canlyniadau—

(a)cadw’r papurau pleidleisio â’u hwynebau i fyny, a

(b)cymryd unrhyw ragofalon eraill sy’n briodol i atal unrhyw berson rhag gweld y rhifau neu’r marciau adnabod unigryw eraill a argraffwyd ar gefn y papurau.

Gwybodaeth Cychwyn

I131Atod. 2 para. 56 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1

Agor cynwysyddion etc. pan nad y swyddog canlyniadau cydlynol yw’r swyddog canlyniadauLL+C

57.—(1Mae’r rheol hon yn gymwys pan nad y swyddog canlyniadau cydlynol yw’r swyddog canlyniadau.

(2Ar ôl cael y cynwysyddion papurau pleidleisio oddi wrth y swyddog canlyniadau sef y swyddog canlyniadau cydlynol, ac ar ôl yr amser a bennwyd yn yr hysbysiad a roddwyd o dan reol 56(3), rhaid i’r swyddog canlyniadau agor pob cynhwysydd ym mhresenoldeb asiantau cyfrif y brif ardal.

(3Pan nad yw’r trafodion ynglŷn â dyroddi a derbyn papurau pleidleisio post yn cael eu cynnal ynghyd â’r trafodion hynny mewn etholiad perthnasol o dan reoliad 65 o Reoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001(19) neu o dan y rheoliad hwnnw fel y’i cymhwysir gan reoliadau o dan adran 44 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000(20), rhaid i’r swyddog canlyniadau gyfrif y papurau pleidleisio post sydd wedi eu dychwelyd yn briodol a chofnodi’r nifer a gyfrifwyd.

(4Yna, rhaid i’r swyddog canlyniadau gymysgu’r holl bapurau pleidleisio post a’r holl bapurau pleidleisio o’r cynwysyddion gyda’i gilydd.

Gwybodaeth Cychwyn

I132Atod. 2 para. 57 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1

Darpariaeth bellach ynghylch papurau pleidleisio postLL+C

58.—(1Mae’r rheol hon yn gymwys ar gyfer penderfynu a yw papur pleidleisio post i’w drin fel pe bai wedi ei ddychwelyd yn briodol fel y crybwyllir yn rheolau 55(7)(a) a 57(3).

(2Mae papur pleidleisio post i’w drin fel pe bai wedi ei ddychwelyd yn briodol os yw’r papur pleidleisio a’r datganiad pleidleisio post sy’n cyd-fynd ag ef sydd wedi ei gwblhau’n briodol—

(a)wedi eu cyflwyno mewn gorsaf bleidleisio yn yr ardal briodol cyn i’r bleidlais gau,

(b)wedi eu rhoi â llaw i’r swyddog canlyniadau cyn i’r bleidlais gau, neu

(c)wedi dod i law’r swyddog canlyniadau drwy’r post cyn i’r bleidlais gau.

(3Mae datganiad pleidleisio post wedi ei gwblhau’n briodol—

(a)os yw wedi ei lofnodi gan yr etholwr neu (yn ôl y digwydd) y dirprwy, oni bai bod y swyddog canlyniadau wedi hepgor y gofyniad ynglŷn â llofnod,

(b)os yw’n datgan dyddiad geni’r etholwr neu (yn ôl y digwydd) dyddiad geni’r dirprwy, ac

(c)mewn achos lle mae camau i ddilysu dyddiad geni a llofnod etholwr neu ddirprwy wedi eu rhagnodi gan reoliadau o dan Ddeddf 1983, os yw’r swyddog canlyniadau wedi cymryd y camau hynny ac wedi dilysu’r dyddiad geni ac (ac eithrio mewn achos lle mae’r gofyniad ynglŷn â llofnod wedi ei hepgor) y llofnod.

(4Pan fo person, wrth i’r bleidlais gau, yn yr orsaf bleidleisio, neu mewn ciw y tu allan i’r orsaf bleidleisio, er mwyn cyflwyno papur pleidleisio post a datganiad pleidleisio post—

(a)rhaid caniatáu i’r person gyflwyno’r papur pleidleisio a’r datganiad yn yr orsaf bleidleisio, a

(b)pan fônt wedi eu cyflwyno, maent i’w trin fel pe baent wedi eu cyflwyno cyn i’r bleidlais gau at ddibenion y rheol hon.

(5“Yr ardal briodol” y cyfeirir ati ym mharagraff (2)(a) yw’r ardal a ddynodir drwy—

(a)canfod y pleidleisiau y rhoddwyd papur pleidleisio i’r pleidleisiwr post mewn cysylltiad â hwy,

(b)adnabod yr etholaeth neu’r ardal arall y mae pob un o’r pleidleisiau hynny’n cael eu cynnal mewn cysylltiad â hi, ac

(c)wedyn adnabod yr ardal sy’n gyffredin i’r holl ardaloedd hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I133Atod. 2 para. 58 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1

Y cyfrif: cyffredinolLL+C

59.—(1Mae’r rheol hon yn gymwys pan fo’r swyddog canlyniadau wedi cymysgu’r papurau pleidleisio o dan reol 55(10) neu 57(4).

(2Rhaid canfod canlyniad y bleidlais drwy gyfrif y pleidleisiau a roddwyd i bob ymgeisydd.

(3Rhaid datgan bod yr ymgeisydd neu’r ymgeiswyr y rhoddwyd mwy o bleidleisiau iddo ef neu iddynt hwy nag i’r ymgeiswyr eraill, hyd at nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol, wedi ei ethol neu wedi eu hethol.

(4Yn ddarostyngedig i baragraff (5), rhaid i’r swyddog canlyniadau, i’r graddau y bo’n ymarferol, fwrw ymlaen yn ddi-dor â’r gwaith cyfrif pleidleisiau, gan ganiatáu amser ar gyfer lluniaeth yn unig.

(5Caiff y swyddog canlyniadau eithrio unrhyw oriau rhwng 7 p.m. a 9 a.m. fore trannoeth.

(6Yn ystod unrhyw amser sydd wedi ei eithrio, rhaid i’r swyddog canlyniadau—

(a)gosod y papurau pleidleisio a’r dogfennau eraill sy’n ymwneud â’r etholiad o dan sêl y swyddog canlyniadau a seliau unrhyw asiantau cyfrif prif ardal sy’n dymuno gosod eu sêl, a

(b)cymryd rhagofalon priodol fel arall ar gyfer diogelwch y papurau pleidleisio a’r dogfennau eraill.

Gwybodaeth Cychwyn

I134Atod. 2 para. 59 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1

Y cyfrif: papurau pleidleisio a wrthodwydLL+C

60.—(1Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (4), mae’r papurau pleidleisio a ganlyn yn ddi-rym ac ni chaniateir eu cyfrif—

(a)papur pleidleisio nad oes arno farc swyddogol;

(b)papur pleidleisio y rhoddwyd pleidleisiau arno dros fwy o ymgeiswyr nag y mae gan y pleidleisiwr hawl i bleidleisio drostynt;

(c)papur pleidleisio y mae unrhyw beth wedi ei ysgrifennu neu wedi ei farcio arno y gellir adnabod y pleidleisiwr drwyddo ac eithrio’r rhif printiedig a’r marc adnabod unigryw arall ar y cefn;

(d)papur pleidleisio sydd heb ei farcio neu’n ddi-rym oherwydd ansicrwydd.

(2Pan fo gan y pleidleisiwr hawl i bleidleisio dros fwy nag un ymgeisydd, nid yw papur pleidleisio i’w drin fel pe bai’n ddi-rym oherwydd ansicrwydd o ran unrhyw bleidlais nad oes ansicrwydd yn codi yn ei chylch a rhaid cyfrif y bleidlais honno.

(3Mae paragraff (4) yn gymwys i bapur pleidleisio y marciwyd pleidlais arno—

(a)mewn man heblaw’r man priodol,

(b)heblaw drwy gyfrwng croes, neu

(c)drwy fwy nag un marc.

(4Nid yw’r papur pleidleisio i’w drin fel pe bai’n ddi-rym (naill ai’n gyfan gwbl neu o ran y bleidlais honno), oherwydd y modd y mae’r bleidlais wedi ei marcio yn unig—

(a)os yw’n glir o’r papur pleidleisio fod y pleidleisiwr yn bwriadu pleidleisio dros un neu’r llall o’r ymgeiswyr,

(b)os nad yw’r modd y mae’r papur pleidleisio wedi ei farcio ynddo’i hun yn adnabod y pleidleisiwr, ac

(c)os yw’r swyddog canlyniadau wedi ei fodloni na ellir adnabod y pleidleisiwr o’r papur pleidleisio.

(5Rhaid i’r swyddog canlyniadau—

(a)arnodi’r gair “gwrthodwyd” ar unrhyw bapur pleidleisio nad yw, yn unol â’r rheol hon, i’w gyfrif;

(b)arnodi’r geiriau “gwrthodwyd yn rhannol” ar unrhyw bapur pleidleisio y cyfrifir pleidlais arno yn unol â pharagraff (2) a nodi pa bleidlais neu bleidleisiau a gyfrifwyd.

(6Os bydd asiant cyfrif prif ardal yn gwrthwynebu penderfyniad y swyddog canlyniadau, rhaid i’r swyddog canlyniadau ychwanegu’r geiriau “gwrthwynebwyd y gwrthodiad” at yr arnodiad.

(7Rhaid i’r swyddog canlyniadau baratoi datganiad yn dangos nifer y papurau pleidleisio a wrthodwyd a’r nifer a wrthodwyd yn rhannol.

(8Rhaid i’r datganiad nodi’r nifer a wrthodwyd neu a wrthodwyd yn rhannol o dan bob un o’r penawdau yn is-baragraffau (a) i (d) o baragraff (1).

Gwybodaeth Cychwyn

I135Atod. 2 para. 60 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1

AilgyfrifLL+C

61.—(1Caiff ymgeisydd neu asiant etholiadol yr ymgeisydd, os yw’n bresennol pan fydd y cyfrif wedi ei gwblhau, ofyn i’r swyddog canlyniadau ailgyfrif y pleidleisiau.

(2Rhaid i’r swyddog canlyniadau gydymffurfio â’r cais oni bai bod y swyddog canlyniadau o’r farn bod y cais yn afresymol.

(3Ni chaniateir cymryd unrhyw gam pan fo’r cyfrif wedi ei gwblhau nes bod yr ymgeiswyr a’r asiantau etholiadol sy’n bresennol wedi cael cyfle rhesymol i ofyn i’r pleidleisiau gael eu hailgyfrif.

(4Pan fydd ailgyfrif yn digwydd, mae’r rheol hon hefyd yn gymwys mewn perthynas â’r ailgyfrif (fel y gall yr ymgeisydd neu asiant etholiadol yr ymgeisydd, er enghraifft, os yw’n bresennol pan fydd yr ailgyfrif wedi ei gwblhau, ofyn i’r swyddog canlyniadau ailgyfrif y pleidleisiau).

Gwybodaeth Cychwyn

I136Atod. 2 para. 61 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1

Pleidleisiau cyfartalLL+C

62.—(1Mae’r rheol hon yn gymwys pan fo’r pleidleisiau’n gyfartal rhwng unrhyw ymgeiswyr ar ôl cyfrif y pleidleisiau (gan gynnwys unrhyw ailgyfrif), a phan fyddai ychwanegu pleidlais yn rhoi’r hawl i unrhyw un o’r ymgeiswyr hynny gael ei ethol.

(2Rhaid i’r swyddog canlyniadau benderfynu ar unwaith rhwng yr ymgeiswyr drwy fwrw coelbren a bwrw ymlaen fel pe bai’r ymgeisydd y mae’r coelbren yn mynd o’i blaid wedi cael pleidlais ychwanegol.

Gwybodaeth Cychwyn

I137Atod. 2 para. 62 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1

Penderfynu ar bapurau pleidleisioLL+C

63.  Mae penderfyniad y swyddog canlyniadau ar unrhyw gwestiwn sy’n codi mewn cysylltiad â phapur pleidleisio yn derfynol, ond caniateir ei adolygu ar ddeiseb etholiad.

Gwybodaeth Cychwyn

I138Atod. 2 para. 63 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1

Datgan y canlyniadLL+C

64.—(1Pan fydd y cyfrif wedi ei gwblhau, rhaid i’r swyddog canlyniadau ddatgan bod yr ymgeisydd neu’r ymgeiswyr y rhoddwyd mwy o bleidleisiau iddo ef neu iddynt hwy nag i ymgeiswyr eraill wedi ei ethol neu wedi eu hethol, hyd at nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol.

(2Rhaid i’r swyddog canlyniadau roi hysbysiad yn nodi enwau a chyfeiriadau’r ymgeiswyr a etholwyd i swyddog priodol y cyngor y cynhaliwyd yr etholiad ar ei gyfer.

(3Rhaid i’r swyddog canlyniadau gyhoeddi hysbysiad hefyd—

(a)o enwau’r ymgeiswyr a etholwyd,

(b)o gyfanswm nifer y pleidleisiau a roddwyd i bob ymgeisydd (p’un a etholwyd hwy ai peidio), ac

(c)o nifer y papurau pleidleisiau a wrthodwyd o dan bob pennawd a ddangosir yn y datganiad o’r papurau pleidleisio a wrthodwyd (gweler rheol 60(7)).

Gwybodaeth Cychwyn

I139Atod. 2 para. 64 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1

[F46Rhan 4ALL+CCyfrif y Pleidleisiau: Etholiadau sy’n Defnyddio’r System Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy

PENNOD 1LL+CDarpariaethau rhagarweiniol

Trosolwg o’r rheolau a dehongli LL+C

64A.(1) Mae’r rheol hon yn rhoi trosolwg o sut y cymhwysir y Rhan hon.

(2) Pan y swyddog canlyniadau cydlynol yw’r swyddog canlyniadau, mae’r rheolau a ganlyn yn gymwys—

(a)rheol 64B (presenoldeb mewn trafodion);

(b)rheol 64C (dyletswyddau rhagarweiniol a chyffredinol);

(c)rheol 64D (gwahanu papurau pleidleisio etc.);

(d)y rheolau ym Mhennod 2 (canfod y canlyniad).

(3) Pan nad y swyddog canlyniadau cydlynol yw’r swyddog canlyniadau, mae’r rheolau a ganlyn yn gymwys—

(a)rheol 64B(1) a (3) i (8) (presenoldeb mewn trafodion);

(b)rheol 64E (dyletswyddau rhagarweiniol a chyffredinol);

(c)rheol 64F (agor cynwysyddion etc.);

(d)y rheolau ym Mhennod 2 (canfod y canlyniad).

(4) Yn y Rhan hon—

(a)mae cyfeiriadau at asiantau cyfrif y brif ardal yn gyfeiriadau at yr asiantau cyfrif a benodwyd at ddibenion etholiad y brif ardal;

(b)mae cyfeiriadau at asiantau cyfrif eraill yn gyfeiriadau at yr asiantau cyfrif a benodwyd at ddibenion unrhyw etholiad perthnasol;

(c)mae cyfeiriadau at asiantau etholiadol y brif ardal yn gyfeiriadau at yr asiantau etholiadol a benodwyd at ddibenion etholiad y brif ardal;

(d)mae cyfeiriadau at asiantau etholiadol eraill yn gyfeiriadau at yr asiantau etholiadol a benodwyd at ddibenion unrhyw etholiad perthnasol.

Presenoldeb mewn trafodion o dan y Rhan hon LL+C

64B.(1) Mae gan y personau a ganlyn hawl i fod yn bresennol mewn trafodion o dan reolau 64D(2) i (10) a 64F ac o dan y rheolau ym Mhennod 2—

(a)y swyddog canlyniadau ac aelodau staff y swyddog canlyniadau;

(b)pob ymgeisydd a gwestai i bob ymgeisydd;

(c)asiantau etholiadol y brif ardal;

(d)asiantau cyfrif y brif ardal;

(e)unrhyw berson sydd â hawl i fod yn bresennol yn rhinwedd adrannau 6A i 6D o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (cynrychiolwyr y Comisiwn Etholiadol a sylwedyddion achrededig);

(f)y cwnstabliaid ar ddyletswydd.

(2) Yn ychwanegol, mae gan unrhyw berson sydd â hawl i fod yn bresennol wrth i’r pleidleisiau gael eu cyfrif mewn etholiad perthnasol hawl i fod yn bresennol mewn trafodion o dan reol 64D(2) i (10).

(3) Caiff y swyddog canlyniadau ganiatáu i unrhyw berson arall fod yn bresennol mewn trafodion o dan unrhyw un neu ragor o reolau 64D(2) i (10) neu 64F neu o dan unrhyw un neu ragor o’r rheolau ym Mhennod 2.

(4) Ni chaniateir rhoi caniatâd o dan baragraff (3) oni bai bod y swyddog canlyniadau—

(a)wedi ei fodloni na fydd presenoldeb y person yn rhwystro swyddogaethau’r swyddog canlyniadau rhag cael eu cyflawni’n effeithlon, a

(b)naill ai wedi ymgynghori â’r personau priodol ynghylch a ddylid rhoi caniatâd neu wedi penderfynu nad yw’n ymarferol ymgynghori â hwy.

(5) At ddibenion paragraff (4)(b), “y personau priodol” yw—

(a)yn achos trafodion o dan reol 64D(2) i (10), asiantau etholiadol y brif ardal a’r asiantau etholiadol eraill;

(b)yn achos unrhyw drafodion eraill, asiantau etholiadol y brif ardal.

(6) Rhaid i’r swyddog canlyniadau roi pob cyfleuster rhesymol i unrhyw asiantau cyfrif sydd â hawl i fod yn bresennol ar gyfer goruchwylio’r trafodion, a’r holl wybodaeth amdanynt, y gall y swyddog canlyniadau eu rhoi yn gyson â chynnal y trafodion yn drefnus a chyflawni dyletswyddau’r swyddog canlyniadau.

(7) Yn benodol, pan fo’r pleidleisiau’n cael eu cyfrif drwy ddidoli’r papurau pleidleisio yn ôl yr ymgeisydd y rhoddwyd y dewis cyntaf o’i ran ac yna cyfrif nifer y papurau pleidleisio ar gyfer pob ymgeisydd, mae gan asiantau cyfrif y brif ardal hawl i’w bodloni eu hunain fod y papurau pleidleisio wedi eu didoli’n gywir.

(8) Rhaid i’r swyddog canlyniadau wneud trefniadau i sicrhau bod pawb sy’n bresennol wrth i’r pleidleisiau gael eu cyfrif (ac eithrio’r cwnstabliaid ar ddyletswydd) wedi cael hysbysiad yn nodi darpariaethau adran 66(2) a (6) o Ddeddf 1983 (hysbysiad o ofyniad cyfrinachedd).

(9) Yn y rheol hon, mae cyfeiriad at gwnstabl yn cynnwys cyfeiriad at berson a ddynodwyd yn swyddog cymorth cymunedol neu’n wirfoddolwr cymorth cymunedol o dan adran 38 o Ddeddf Diwygio’r Heddlu 2002 (pwerau’r heddlu i staff sy’n sifiliaid a gwirfoddolwyr).

Dyletswyddau rhagarweiniol a chyffredinol pan y swyddog canlyniadau cydlynol yw’r swyddog canlyniadau LL+C

64C.(1) Mae’r rheol hon yn gymwys pan y swyddog canlyniadau cydlynol yw’r swyddog canlyniadau.

(2) Rhaid i’r swyddog canlyniadau wneud trefniadau ar gyfer cyflawni’r swyddogaethau o dan reol 64D cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl i’r bleidlais gau.

(3) Rhaid i’r swyddog canlyniadau roi hysbysiad i asiantau cyfrif y brif ardal a’r asiantau cyfrif eraill yn datgan yr amser a’r lle y bydd y swyddog canlyniadau yn dechrau cyflawni’r swyddogaethau o dan reol 64D.

(4) Wrth gyfrif a chofnodi nifer y papurau pleidleisio a chyfrif y pleidleisiau, rhaid i’r swyddog canlyniadau—

(a)cadw’r papurau pleidleisio â’u hwynebau i fyny, a

(b)cymryd unrhyw ragofalon eraill sy’n briodol at ddiben atal unrhyw berson rhag gweld y rhifau neu’r marciau adnabod unigryw eraill a argraffwyd ar gefn y papurau.

Gwahanu papurau pleidleisio etc. pan y swyddog canlyniadau cydlynol yw’r swyddog canlyniadau LL+C

64D.(1) Mae’r rheol hon yn gymwys pan y swyddog canlyniadau cydlynol yw’r swyddog canlyniadau.

(2) Rhaid i’r swyddog canlyniadau, ym mhresenoldeb asiantau cyfrif y brif ardal a’r asiantau cyfrif eraill—

(a)agor pob bocs pleidleisio a thynnu’r papurau pleidleisio,

(b)gwahanu’r papurau pleidleisio yn ôl yr etholiad y’u defnyddiwyd ynddo,

(c)cyfrif y papurau pleidleisio a ddefnyddiwyd ym mhob etholiad, a

(d)cofnodi ar wahân nifer y papurau pleidleisio a ddefnyddiwyd ym mhob etholiad.

(3) Ni chaiff y swyddog canlyniadau gyfrif unrhyw bapur pleidleisio a dendrwyd.

(4) Pan ddefnyddiwyd bocsys pleidleisio ar wahân yn y bleidlais, nid yw unrhyw bleidlais dros ymgeisydd yn etholiad y brif ardal i’w thrin fel pleidlais annilys am ei bod wedi ei gosod yn y bocs pleidleisio y bwriadwyd ei ddefnyddio mewn etholiad perthnasol.

(5) Rhaid i’r swyddog canlyniadau, ym mhresenoldeb asiantau etholiadol y brif ardal a’r asiantau etholiadol eraill, ddilysu pob cyfriflen papurau pleidleisio drwy ei chymharu â nifer y papurau pleidleisio a gofnodwyd, y papurau pleidleisio heb eu defnyddio a’r papurau pleidleisio a ddifethwyd sydd ym meddiant y swyddog canlyniadau a’r rhestr pleidleisiau a dendrwyd (gan agor ac ailselio’r pecynnau sy’n cynnwys y papurau pleidleisio heb eu defnyddio a’r papurau pleidleisio a ddifethwyd, a’r rhestr pleidleisiau a dendrwyd).

(6) Rhaid i’r swyddog canlyniadau baratoi datganiad ynglŷn â chanlyniad y dilysiad a rhoi copi o’r datganiad i unrhyw asiant etholiadol prif ardal, ac i unrhyw asiant etholiadol arall, sy’n gofyn amdano.

(7) Rhaid hefyd i’r swyddog canlyniadau—

(a)cyfrif y papurau pleidleisio post sydd wedi eu dychwelyd yn briodol (ynglŷn â hynny gweler rheol 64G), a

(b)cofnodi ar wahân y nifer a gyfrifwyd yn y bleidlais yn etholiad y brif ardal ac ym mhob etholiad perthnasol.

(8) Yna rhaid i’r swyddog canlyniadau—

(a)trefnu’r papurau pleidleisio ar gyfer pob etholiad perthnasol yn becynnau, a

(b)selio’r pecynnau mewn cynwysyddion ar wahân gan arnodi ar bob un ddisgrifiad o’r ardal y mae’r papurau pleidleisio yn ymwneud â hi.

(9) Yna rhaid i’r swyddog canlyniadau ddanfon neu beri danfon i swyddog canlyniadau pob etholiad perthnasol—

(a)cynwysyddion y papurau pleidleisio sy’n ymwneud â’r etholiad, ynghyd â rhestr o’r cynwysyddion a’u cynnwys,

(b)y cyfriflenni papurau pleidleisio sy’n ymwneud â’r etholiad, ynghyd â chopi o’r datganiadau ynglŷn â chanlyniad y dilysiad, ac

(c)y pecynnau o bapurau pleidleisio heb eu defnyddio a’r papurau pleidleisio a ddifethwyd a’r papurau pleidleisio a dendrwyd.

(10) Yna rhaid i’r swyddog canlyniadau gymysgu’r holl bapurau pleidleisio a ddefnyddiwyd yn etholiad y brif ardal gyda’i gilydd.

Dyletswyddau rhagarweiniol a chyffredinol pan nad y swyddog canlyniadau cydlynol yw’r swyddog canlyniadau LL+C

64E.(1) Mae’r rheol hon yn gymwys pan nad y swyddog canlyniadau cydlynol yw’r swyddog canlyniadau.

(2) Rhaid i’r swyddog canlyniadau wneud trefniadau ar gyfer cyfrif y pleidleisiau ym mhresenoldeb asiantau cyfrif y brif ardal cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl i’r papurau pleidleisio gael eu danfon gan y swyddog canlyniadau, sef y swyddog canlyniadau cydlynol.

(3) Rhaid i’r swyddog canlyniadau roi hysbysiad i asiantau cyfrif y brif ardal yn nodi’r amser y dechreuir cyfrif pleidleisiau (a bwrw bod y papurau pleidleisio wedi eu danfon) a’r man lle bydd y cyfrif yn digwydd.

(4) Tra bydd yn cyfrif ac yn cofnodi nifer y papurau pleidleisio ac yn cyfrif y pleidleisiau, rhaid i’r swyddog canlyniadau—

(a)cadw’r papurau pleidleisio â’u hwynebau i fyny, a

(b)cymryd unrhyw ragofalon eraill sy’n briodol at ddiben atal unrhyw berson rhag gweld y rhifau neu’r marciau adnabod unigryw eraill a argraffwyd ar gefn y papurau.

Agor cynwysyddion etc. pan nad y swyddog canlyniadau cydlynol yw’r swyddog canlyniadau LL+C

64F.(1) Mae’r rheol hon yn gymwys pan nad y swyddog canlyniadau cydlynol yw’r swyddog canlyniadau.

(2) Ar ôl cael y cynwysyddion papurau pleidleisio oddi wrth y swyddog canlyniadau sef y swyddog canlyniadau cydlynol, ac ar ôl yr amser a bennwyd yn yr hysbysiad a roddwyd o dan reol 64E(3), rhaid i’r swyddog canlyniadau agor pob cynhwysydd ym mhresenoldeb asiantau cyfrif y brif ardal.

(3) Pan nad yw’r trafodion ynglŷn â dyroddi a derbyn papurau pleidleisio post yn cael eu cynnal ynghyd â’r trafodion hynny mewn etholiad perthnasol o dan reoliad 65 o Reoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001 neu o dan y rheoliad hwnnw fel y’i cymhwysir gan reoliadau o dan adran 44 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000, rhaid i’r swyddog canlyniadau gyfrif y papurau pleidleisio post sydd wedi eu dychwelyd yn briodol a chofnodi’r nifer a gyfrifwyd.

(4) Yna, rhaid i’r swyddog canlyniadau gymysgu’r holl bapurau pleidleisio post a’r holl bapurau pleidleisio o’r cynwysyddion gyda’i gilydd.

Darpariaeth bellach ynghylch papurau pleidleisio post LL+C

64G.(1) Mae’r rheol hon yn gymwys ar gyfer penderfynu a yw papur pleidleisio post i’w drin fel pe bai wedi ei ddychwelyd yn briodol fel y crybwyllir yn rheolau 64D(7)(a) a 64F(3).

(2) Mae papur pleidleisio post i’w drin fel pe bai wedi ei ddychwelyd yn briodol os yw’r papur pleidleisio a’r datganiad pleidleisio post sy’n cyd-fynd ag ef sydd wedi ei gwblhau’n briodol—

(a)wedi eu cyflwyno mewn gorsaf bleidleisio yn yr ardal briodol cyn i’r bleidlais gau,

(b)wedi eu rhoi â llaw i’r swyddog canlyniadau cyn i’r bleidlais gau, neu

(c)wedi dod i law’r swyddog canlyniadau drwy’r post cyn i’r bleidlais gau.

(3) Mae datganiad pleidleisio post wedi ei gwblhau’n briodol—

(a)os yw wedi ei lofnodi gan yr etholwr neu (yn ôl y digwydd) y dirprwy, oni bai bod y swyddog cofrestru wedi hepgor y gofyniad ynglŷn â llofnod,

(b)os yw’n datgan dyddiad geni’r etholwr neu (yn ôl y digwydd) ddyddiad geni’r dirprwy, ac

(c)mewn achos lle mae camau i ddilysu dyddiad geni a llofnod etholwr neu ddirprwy wedi eu rhagnodi gan reoliadau o dan Ddeddf 1983, os yw’r swyddog canlyniadau wedi cymryd y camau hynny ac wedi dilysu’r dyddiad geni ac (ac eithrio mewn achos lle mae’r gofyniad ynglŷn â llofnod wedi ei hepgor) y llofnod.

(4) Pan fo person, wrth i’r bleidlais gau, yn yr orsaf bleidleisio, neu mewn ciw y tu allan i’r orsaf bleidleisio, er mwyn cyflwyno papur pleidleisio post a datganiad pleidleisio post—

(a)rhaid caniatáu i’r person gyflwyno’r papur pleidleisio a’r datganiad yn yr orsaf bleidleisio, a

(b)pan fônt wedi eu cyflwyno, maent i’w trin fel pe baent wedi eu cyflwyno cyn i’r bleidlais gau at ddibenion y rheol hon.

(5) “Yr ardal briodol” y cyfeirir ati ym mharagraff (2)(a) yw’r ardal a ddynodir drwy—

(a)canfod y pleidleisiau y rhoddwyd papur pleidleisio i’r pleidleisiwr post mewn cysylltiad â hwy,

(b)adnabod yr etholaeth neu’r ardal arall y mae pob un o’r pleidleisiau hynny’n cael eu cynnal mewn cysylltiad â hi, ac

(c)wedyn adnabod yr ardal sy’n gyffredin i’r holl ardaloedd hynny.

Y cyfrif: cyffredinol LL+C

64H.(1) Mae’r rheol hon yn gymwys pan fo’r swyddog canlyniadau wedi cymysgu’r papurau pleidleisio o dan reol 64D(10) neu 64F(4).

(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid i’r swyddog canlyniadau, i’r graddau y bo’n ymarferol, fwrw ymlaen yn ddi-dor â’r gwaith cyfrif pleidleisiau, gan ganiatáu amser ar gyfer lluniaeth yn unig.

(3) Caiff y swyddog canlyniadau eithrio unrhyw oriau rhwng 7 p.m. a 9 a.m. fore trannoeth.

(4) Yn ystod unrhyw amser sydd wedi ei eithrio, rhaid i’r swyddog canlyniadau—

(a)gosod y papurau pleidleisio a’r dogfennau eraill sy’n ymwneud â’r etholiad o dan sêl y swyddog canlyniadau a seliau unrhyw asiantau cyfrif prif ardal sy’n dymuno gosod eu sêl, a

(b)cymryd rhagofalon priodol fel arall ar gyfer diogelwch y papurau pleidleisio a’r dogfennau eraill.

Y cyfrif: papurau pleidleisio a wrthodwyd LL+C

64I.(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae’r papurau pleidleisio a ganlyn yn ddi-rym ac ni chaniateir eu cyfrif—

(a)papur pleidleisio nad oes arno farc swyddogol;

(b)papur pleidleisio nad yw’r rhif “1” ar ei ben ei hun wedi ei nodi arno er mwyn dangos dewis cyntaf o ran ymgeisydd penodol;

(c)papur pleidleisio y mae’r rhif “1” ar ei ben ei hun i ddangos dewis cyntaf wedi ei nodi arno gyferbyn ag enw mwy nag un ymgeisydd;

(d)papur pleidleisio y mae unrhyw beth wedi ei ysgrifennu neu wedi ei farcio arno y gellir adnabod y pleidleisiwr drwyddo ac eithrio’r rhif printiedig a’r marc adnabod unigryw arall ar y cefn;

(e)papur pleidleisio sydd heb ei farcio neu’n ddi-rym oherwydd ansicrwydd.

(2) Mae paragraff (3) yn gymwys i bapur pleidleisio y marciwyd pleidlais arno—

(a)mewn man heblaw’r man priodol, neu

(b)heblaw drwy ddefnyddio geiriau neu unrhyw farc arall yn lle ffigur.

(3) Nid yw’r papur pleidleisio i’w drin fel pe bai’n ddi-rym, oherwydd y modd y mae’r bleidlais wedi ei marcio yn unig, os yw’n glir o’r papur pleidleisio, ym marn y swyddog canlyniadau, fod y pleidleisiwr wedi nodi’n glir ddewis neu ddewisiadau.

(4) Rhaid i’r swyddog canlyniadau arnodi’r gair “gwrthodwyd” ar unrhyw bapur pleidleisio nad yw, yn unol â’r rheol hon, i’w gyfrif.

(5) Os bydd asiant cyfrif yn gwrthwynebu penderfyniad y swyddog canlyniadau, rhaid i’r swyddog canlyniadau ychwanegu’r geiriau “gwrthwynebwyd y gwrthodiad” at yr arnodiad.

(6) Rhaid i’r swyddog canlyniadau baratoi datganiad yn dangos nifer y papurau pleidleisio a wrthodwyd.

(7) Rhaid i’r datganiad nodi’r nifer a wrthodwyd o dan bob un o is-baragraffau (a) i (e) o baragraff (1).

PENNOD 2LL+CCanfod y Canlyniad

Cymhwyso a dehongli LL+C

64J.  Yn y Bennod hon—

ystyr “cam o’r cyfrif” (“stage of the count”) yw—

(a)

pennu’r pleidleisiau dewis cyntaf ar gyfer pob ymgeisydd;

(b)

trosglwyddo papurau trosglwyddadwy ymgeisydd a drinnir fel pe bai wedi ei ethol ac sydd â phleidleisiau dros ben (gweler rheolau 64N a 64O);

(c)

eithrio un ymgeisydd neu ragor ar unrhyw adeg benodol (gweler rheol 64S);

ystyr “cwota” (“quota”) yw’r nifer a gyfrifir yn unol â rheol 64L;

ystyr “cyfrif” (“count”) yw’r holl weithrediadau sy’n ymwneud â chyfrif dewisiadau cyntaf a gofnodwyd o ran ymgeiswyr, trosglwyddo papurau trosglwyddadwy oddi wrth ymgeiswyr a drinnir fel pe baent wedi eu hethol ac y mae ganddynt bleidleisiau dros ben, a throsglwyddo papurau trosglwyddadwy oddi wrth ymgeiswyr sydd wedi eu heithrio o dan reol 64S;

ystyr “dewis nesaf sydd ar gael” (“next available preference”) yw dewis sy’n ail ddewis neu’n ddewis pellach mewn trefn olynol o ran ymgeisydd sy’n parhau (ac felly nid yw’n cynnwys dewis o ran ymgeisydd a drinnir fel pe bai wedi ei ethol na dewis o ran ymgeisydd a eithriwyd o dan reol 64S);

ystyr “pleidleisiau dros ben” (“surplus”) yw nifer y pleidleisiau sydd uwchlaw’r cwota o blith cyfanswm nifer y pleidleisiau dros unrhyw ymgeisydd;

ystyr “ymgeisydd sy’n parhau” (“continuing candidate”) yw unrhyw ymgeisydd nad yw eisoes yn cael ei drin fel pe bai wedi ei ethol ac nad yw wedi ei eithrio o dan reol 64S.

Cyfrif pleidleisiau dewis cyntaf LL+C

64K.(1) Rhaid i’r swyddog canlyniadau ddidoli’r papurau pleidleisio dilys yn grwpiau yn ôl yr ymgeiswyr y rhoddwyd y pleidleisiau dewis cyntaf iddynt.

(2) Yna rhaid i’r swyddog canlyniadau—

(a)cyfrif nifer y papurau pleidleisio ym mhob grŵp, a

(b)cofnodi’r niferoedd hynny.

(3) Rhaid i’r swyddog canlyniadau hefyd ganfod a chofnodi cyfanswm nifer y papurau pleidleisio dilys.

Pennu’r cwota LL+C

64L.  Rhaid i’r swyddog canlyniadau gymryd y camau a ganlyn i bennu nifer y pleidleisiau sy’n ddigon i sicrhau y dychwelir ymgeisydd fel cynghorydd (“y cwota”).

Cam 1

Cymryd cyfanswm nifer y papurau pleidleisio dilys a gofnodwyd ar gyfer y ward etholiadol o dan reol 64K(3).

Cam 2

Cymryd nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol ar gyfer y ward etholiadol ac ychwanegu un.

Cam 3

Rhannu’r nifer a gymerwyd yng ngham 1 â’r nifer a gymerwyd yng ngham 2. Os yw canlyniad y rhannu yn cynnwys lleoedd degol, eu hanwybyddu.

Cam 4

Ychwanegu un at ganlyniad y rhannu yng ngham 3 (gan anwybyddu unrhyw ddegolion). Y nifer hwn yw’r cwota.

Dychwelyd cynghorwyr LL+C

64M.(1) Pan fo nifer y pleidleisiau dros ymgeisydd, ar unrhyw gam o’r cyfrif, yn cyfateb i’r cwota neu uwchlaw’r cwota, trinnir yr ymgeisydd fel pe bai wedi ei ethol.

(2) At ddiben pennu a yw nifer y pleidleisiau dewis cyntaf dros unrhyw ymgeisydd yn cyfateb i’r cwota neu uwchlaw’r cwota, mae’r ymgeisydd i’w gredydu ag un bleidlais ar gyfer pob papur pleidleisio y rhoddwyd pleidlais dewis cyntaf i’r ymgeisydd arno.

(3) Mae rheolau 64N, 64O, 64S a 64T yn gwneud darpariaeth ynghylch nifer y pleidleisiau sydd i’w credydu i ymgeisydd pan fo papur pleidleisio y rhoddir ail ddewis neu ddewis pellach o ran yr ymgeisydd arno yn cael ei drosglwyddo i’r ymgeisydd yn unol â’r rheolau hynny.

(4) Caiff ymgeisydd a drinnir fel pe bai wedi ei ethol ei ddychwelyd fel cynghorydd pan fo’r swyddog canlyniadau’n datgan bod yr ymgeisydd wedi ei ethol yn unol â rheol 64Z1.

(5) Ar gyfer ystyr “cwota”, gweler rheol 64J.

Trosglwyddiadau pan fo’r pleidleisiau dewis cyntaf uwchlaw’r cwota LL+C

64N.(1) Mae’r rheol hon yn gymwys pan fo nifer y pleidleisiau dewis cyntaf dros ymgeisydd uwchlaw’r cwota.

(2) Rhaid i’r swyddog canlyniadau ddidoli’r holl bapurau pleidleisio y rhoddir pleidleisiau dewis cyntaf i’r ymgeisydd arnynt fel eu bod wedi eu grwpio—

(a)yn ôl yr ymgeisydd sy’n parhau y rhoddir y dewis nesaf sydd ar gael o’i ran ar y papurau hynny, neu

(b)pan nad oes dewis nesaf sydd ar gael wedi ei roi, fel grŵp ar wahân.

Mae’r papurau pleidleisio yn y grwpiau a ffurfiwyd o dan baragraff (a) (“papurau trosglwyddadwy”) i’w trosglwyddo yn unol â pharagraffau (4) a (5) o’r rheol hon. Nid yw’r papurau pleidleisio yn y grŵp a ffurfiwyd o dan baragraff (b) (“papurau anhrosglwyddadwy”) i’w trosglwyddo.

(3) Rhaid i’r swyddog canlyniadau gyfrif nifer y papurau pleidleisio ym mhob grŵp o bapurau trosglwyddadwy ac yn y grŵp o bapurau anhrosglwyddadwy.

(4) Yna rhaid i’r swyddog canlyniadau drosglwyddo pob grŵp o bapurau trosglwyddadwy i’r ymgeisydd sy’n parhau y rhoddwyd y dewis nesaf sydd ar gael o’i ran ar y papurau hynny.

(5) Trosglwyddir y bleidlais ar bob papur trosglwyddadwy yn ôl gwerth (“y gwerth trosglwyddo”) a gyfrifir drwy gymryd y camau a ganlyn.

Cam 1

Cymryd pleidleisiau dros ben yr ymgeisydd y trosglwyddir papurau pleidleisio oddi wrtho.

Cam 2

Rhannu’r pleidleisiau dros ben â chyfanswm nifer y papurau pleidleisio a drosglwyddir. Gwneud y cyfrifiad i ddau le degol ac anwybyddu’r gweddill. Dyma’r gwerth trosglwyddo.

(6) Ar gyfer ystyr “ymgeisydd sy’n parhau”, “dewis nesaf sydd ar gael”, “cwota” a “pleidleisiau dros ben”, gweler rheol 64J.

(7) Gweler hefyd—

reol 64P (sy’n nodi’r amgylchiadau pan nad yw pleidleisiau i’w trosglwyddo o dan y rheol hon);

rheol 64Q (sy’n nodi’r drefn y mae pleidleisiau dros ben i’w trosglwyddo ynddi pan fo gan ddau ymgeisydd neu ragor bleidleisiau dros ben);

rheol 64R (sy’n gwneud darpariaeth atodol).

Trosglwyddiadau eraill pan fo’r pleidleisiau uwchlaw’r cwota LL+C

64O.(1) Mae’r rheol hon yn gymwys pan fo nifer y pleidleisiau dros ymgeisydd uwchlaw’r cwota ar ddiwedd unrhyw gam o’r cyfrif sy’n cynnwys trosglwyddo papurau pleidleisio.

(2) Rhaid i’r swyddog canlyniadau ddidoli’r holl bapurau pleidleisio yn y grŵp o bapurau a drosglwyddwyd a gafwyd ddiwethaf gan yr ymgeisydd hwnnw fel eu bod wedi eu grwpio—

(a)yn ôl yr ymgeisydd sy’n parhau y rhoddwyd y dewis nesaf sydd ar gael o’i ran ar y papurau hynny, neu

(b)pan nad oes dewis nesaf sydd ar gael wedi ei roi, fel grŵp ar wahân.

Mae’r papurau pleidleisio yn y grwpiau a ffurfiwyd o dan baragraff (a) (“papurau trosglwyddadwy”) i’w trosglwyddo yn unol â pharagraffau (4) a (5) o’r rheol hon. Nid yw’r papurau pleidleisio yn y grŵp a ffurfiwyd o dan baragraff (b) (“papurau anhrosglwyddadwy”) i’w trosglwyddo.

(3) Rhaid i’r swyddog canlyniadau gyfrif nifer y papurau pleidleisio ym mhob grŵp o bapurau trosglwyddadwy ac yn y grŵp o bapurau anhrosglwyddadwy.

(4) Yna rhaid i’r swyddog canlyniadau drosglwyddo pob grŵp o bapurau trosglwyddadwy i’r ymgeisydd sy’n parhau y rhoddwyd y dewis nesaf sydd ar gael o’i ran ar y papurau hynny.

(5) Trosglwyddir y bleidlais ar bob papur trosglwyddadwy yn ôl gwerth (“y gwerth trosglwyddo”) a gyfrifir drwy gymryd y camau a ganlyn.

Cam 1

Cymryd pleidleisiau dros ben yr ymgeisydd y trosglwyddir papurau pleidleisio oddi wrtho.

Cam 2

Rhannu’r pleidleisiau dros ben â chyfanswm nifer y papurau pleidleisio a drosglwyddir. Gwneud y cyfrifiad i ddau le degol ac anwybyddu’r gweddill.

Cam 3

Cymharu’r nifer a geir ar ôl cam 2 â gwerth y bleidlais ar y papur pleidleisio pan gafwyd hi gan yr ymgeisydd y mae’r papurau pleidleisio yn awr yn cael eu trosglwyddo oddi wrtho.

Os yw’r nifer a geir ar ôl cam 2 yn llai na gwerth y bleidlais ar y papur pleidleisio pan gafwyd hi gan yr ymgeisydd hwnnw, neu’n gyfwerth â’r bleidlais honno, y nifer hwnnw yw’r gwerth trosglwyddo.

Os yw’r nifer a geir ar ôl cam 2 yn fwy na gwerth y bleidlais ar y papur pleidleisio pan gafwyd hi gan yr ymgeisydd hwnnw, gwerth y bleidlais pan gafwyd hi gan yr ymgeisydd hwnnw yw’r gwerth trosglwyddo.

(6) Ar gyfer ystyr “ymgeisydd sy’n parhau”, “dewis nesaf sydd ar gael”, “cwota” a “pleidleisiau dros ben”, gweler rheol 64J.

(7) Gweler hefyd—

reol 64P (sy’n nodi’r amgylchiadau pan nad yw pleidleisiau i’w trosglwyddo o dan y rheol hon);

rheol 64Q (sy’n nodi’r drefn y mae pleidleisiau dros ben i’w trosglwyddo ynddi pan fo gan ddau ymgeisydd neu ragor bleidleisiau dros ben);

rheol 64R (sy’n gwneud darpariaeth atodol).

Amgylchiadau pan na throsglwyddir pleidleisiau o dan reol 64N neu 64O LL+C

64P.(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3), rhaid i’r swyddog canlyniadau barhau i wneud trosglwyddiadau o dan reolau 64N a 64O hyd nes—

(a)nad oes ymgeisydd a drinnir fel pe bai wedi ei ethol sydd â phleidleisiau dros ben, neu

(b)bod pob swydd wag wedi ei llenwi (ar ôl cymhwyso rheol 64W, pan fo hynny’n berthnasol).

(2) Nid yw papurau trosglwyddadwy i’w trosglwyddo pan fo’r pleidleisiau dros ben (neu, pan fo gan ddau ymgeisydd neu ragor bleidleisiau dros ben, gyfanswm y pleidleisiau dros ben hynny), ar unrhyw gam o’r cyfrif, yn llai na’r gwahaniaeth rhwng—

(a)nifer y pleidleisiau sydd wedi eu credydu bryd hynny i’r ymgeisydd sy’n parhau sydd â’r nifer lleiaf o bleidleisiau, a

(b)nifer y pleidleisiau sydd wedi eu credydu bryd hynny i’r ymgeisydd sy’n parhau sydd nesaf uwchben yr ymgeisydd hwnnw.

(3) Nid yw papurau trosglwyddadwy i’w trosglwyddo pan fo’r pleidleisiau dros ben (neu, pan fo gan ddau ymgeisydd neu ragor bleidleisiau dros ben, gyfanswm y pleidleisiau dros ben hynny), ar unrhyw gam o’r cyfrif, yn llai na’r gwahaniaeth rhwng—

(a)cyfanswm nifer y pleidleisiau sydd wedi eu credydu bryd hynny i’r ddau ymgeisydd sy’n parhau neu ragor sydd â’r nifer lleiaf o bleidleisiau, a

(b)nifer y pleidleisiau sydd wedi eu credydu bryd hynny i’r ymgeisydd sy’n parhau sydd nesaf uwchben yr ymgeiswyr hynny.

(4) Nid yw rheolau 64N a 64O yn gymwys i etholiad pan nad oes ond un swydd wag.

(5) Ar gyfer ystyr “ymgeisydd sy’n parhau” a “pleidleisiau dros ben”, gweler rheol 64J.

Trefn trosglwyddiadau o dan reolau 64N a 64O LL+C

64Q.(1) Os oes gan ddau ymgeisydd neu ragor, ar unrhyw gam o’r cyfrif, bleidleisiau dros ben yr ymdrinnir â hwy o dan reol 64N neu 64O, rhaid i bapurau trosglwyddadwy’r ymgeisydd sydd â’r nifer mwyaf o bleidleisiau dros ben gael eu trosglwyddo gyntaf.

(2) Os yw’r pleidleisiau dros ben mewn cysylltiad â dau ymgeisydd neu ragor yn gyfartal, rhaid i bapurau trosglwyddadwy yr ymgeisydd a oedd â’r nifer uchaf o bleidleisiau ar y cam cynharaf o’r cyfrif pan oedd eu pleidleisiau’n anghyfartal gael eu trosglwyddo gyntaf.

(3) Os oedd y pleidleisiau a oedd wedi eu credydu i ddau ymgeisydd neu ragor yn gyfartal ar bob cam o’r cyfrif—

(a)rhaid i’r swyddog canlyniadau benderfynu rhwng yr ymgeiswyr drwy fwrw coelbren, a

(b)rhaid i bapurau trosglwyddadwy’r ymgeisydd y mae’r coelbren yn mynd o’i blaid gael eu trosglwyddo gyntaf.

(4) Ar gyfer ystyr “pleidleisiau dros ben”, gweler rheol 64J.

Trosglwyddiadau o dan reolau 64N a 64O: darpariaeth atodol LL+C

64R.(1) Mae pob trosglwyddiad o dan reol 64N neu 64O o ran yr holl bapurau trosglwyddadwy oddi wrth ymgeisydd sydd â phleidleisiau dros ben yn ffurfio cam yn y cyfrif.

(2) Rhaid i’r swyddog canlyniadau, ar ôl cwblhau’r cam hwnnw—

(a)cofnodi cyfanswm gwerth trosglwyddo’r pleidleisiau a drosglwyddwyd i bob ymgeisydd,

(b)ychwanegu’r gwerth hwnnw at gyfanswm blaenorol y pleidleisiau a gofnodwyd ar gyfer pob ymgeisydd a chofnodi’r cyfanswm newydd,

(c)cofnodi fel pleidleisiau anhrosglwyddadwy y gwahaniaeth rhwng y pleidleisiau dros ben a chyfanswm gwerth trosglwyddo’r pleidleisiau a drosglwyddwyd, a

(d)ychwanegu’r gwahaniaeth hwnnw at y cyfanswm a gofnodwyd yn flaenorol o ran pleidleisiau anhrosglwyddadwy.

(3) Yna rhaid i’r swyddog canlyniadau gymharu—

(a)cyfanswm nifer y pleidleisiau a gofnodwyd bryd hynny ar gyfer yr holl ymgeiswyr, ynghyd â chyfanswm nifer y pleidleisiau anhrosglwyddadwy, â

(b)y cyfanswm a gofnodwyd o ran pleidleisiau dewis cyntaf dilys.

(4) Rhaid i’r holl bapurau pleidleisio a drosglwyddwyd o dan reol 64N neu 64O fod wedi eu marcio’n glir, naill ai’n unigol neu fel grŵp, er mwyn dangos y gwerth trosglwyddo y trosglwyddwyd y bleidlais ar y papur yn ei ôl neu, yn ôl y digwydd, werth trosglwyddo’r holl bleidleisiau ar y papurau yn y grŵp hwnnw.

(5) Rhaid i’r swyddog canlyniadau gynnwys papur pleidleisio yn y grŵp o bapurau anhrosglwyddadwy a ffurfiwyd o dan reol 64N(2) neu 64O(2)—

(a)os yw’r swyddog canlyniadau o’r farn bod y papur pleidleisio’n dangos bod y dewis nesaf yn nhrefn y dewisiadau wedi ei roi o ran dau ymgeisydd neu ragor (p’un a ydynt yn ymgeiswyr olynol ai peidio),

(b)os yw’r swyddog canlyniadau o’r farn nad yw’r dewis nesaf ar y papur pleidleisio (p’un a yw dros ymgeisydd sy’n parhau ai peidio) yn dilyn yn olynol ar ôl y dewis sy’n dod yn union o’i flaen, neu

(c)os nad yw’n glir i’r swyddog canlyniadau am unrhyw reswm arall pa ymgeisydd sydd nesaf yn nhrefn y dewisiadau.

(6) Ar gyfer ystyr “pleidleisiau dros ben”, gweler rheol 64J.

Eithrio ymgeiswyr a throsglwyddo papurau pleidleisio dewis cyntaf LL+C

64S.(1) Mae’r rheol hon yn gymwys—

(a)pan fo’r swyddog canlyniadau wedi trosglwyddo’r holl bapurau trosglwyddadwy y mae’n ofynnol i’r swyddog canlyniadau eu trosglwyddo o dan unrhyw ddarpariaeth yn y Bennod hon, a

(b)pan fo un swydd wag neu ragor i’w llenwi o hyd (ar ôl cymhwyso rheol 64W, pan fo hynny’n berthnasol).

(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid i’r swyddog canlyniadau eithrio o’r etholiad, ar y cam hwnnw, yr ymgeisydd sydd â’r nifer lleiaf o bleidleisiau bryd hynny.

(3) Rhaid i’r swyddog canlyniadau eithrio dau ymgeisydd neu ragor sydd â’r nifer lleiaf o bleidleisiau pan fo cyfanswm nifer pleidleisiau’r ymgeiswyr hynny, ynghyd ag unrhyw bleidleisiau dros ben nad ydynt wedi eu trosglwyddo, yn llai na nifer y pleidleisiau sydd wedi eu credydu bryd hynny i’r ymgeisydd sydd nesaf uwchben yr ymgeiswyr hynny.

(4) Rhaid i’r swyddog canlyniadau ddidoli’r holl bapurau pleidleisio y rhoddir arnynt bleidleisiau dewis cyntaf i’r ymgeisydd neu’r ymgeiswyr a eithriwyd fel eu bod wedi eu grwpio—

(a)yn ôl yr ymgeisydd sy’n parhau y rhoddwyd y dewis nesaf sydd ar gael o’i ran ar y papurau hynny, neu

(b)pan nad oes dewis nesaf sydd ar gael wedi ei roi, fel grŵp ar wahân.

Mae’r papurau pleidleisio yn y grwpiau a ffurfiwyd o dan baragraff (a) (“papurau trosglwyddadwy”) i’w trosglwyddo yn unol â’r rheol hon. Nid yw’r papurau pleidleisio yn y grŵp a ffurfiwyd o dan baragraff (b) (“papurau anhrosglwyddadwy”) i’w trosglwyddo.

(5) Rhaid i’r swyddog canlyniadau drosglwyddo pob grŵp o bapurau trosglwyddadwy i’r ymgeisydd sy’n parhau y rhoddwyd y dewis nesaf sydd ar gael o’i ran ar y papurau hynny.

(6) Trosglwyddir y bleidlais ar bob papur trosglwyddadwy yn ôl gwerth trosglwyddo, a’r gwerth hwnnw fydd 1.

(7) Pan fo’r swyddog canlyniadau wedi cwblhau’r trosglwyddiadau sy’n ofynnol gan baragraff (5) a bo un swydd wag neu ragor i’w llenwi o hyd (ar ôl cymhwyso rheol 64W, pan fo hynny’n berthnasol), rhaid i’r swyddog canlyniadau weithredu nesaf yn unol â rheol 64T.

(8) Mae paragraff (7) yn gymwys p’un a drinnir unrhyw ymgeisydd fel pe bai wedi ei ethol ar ôl y trosglwyddiadau ai peidio a ph’un a oes ganddo bleidleisiau dros ben ai peidio.

(9) Ar gyfer ystyr “ymgeisydd sy’n parhau”, “dewis nesaf sydd ar gael” a “pleidleisiau dros ben”, gweler rheol 64J.

(10) Gweler hefyd—

reol 64U (sy’n ymdrin â’r drefn eithrio pan fo gan fwy nag un ymgeisydd y nifer lleiaf o bleidleisiau);

rheol 64V (sy’n gwneud darpariaeth atodol).

Trosglwyddo papurau pleidleisio eraill ymgeiswyr a eithriwyd LL+C

64T.(1) Mae’r rheol hon yn gymwys—

(a)pan fo’r swyddog canlyniadau wedi trosglwyddo holl bapurau trosglwyddadwy ymgeisydd neu ymgeiswyr a eithriwyd y mae’n ofynnol i’r swyddog canlyniadau eu trosglwyddo o dan reol 64S, a

(b)pan fo un swydd wag neu ragor i’w llenwi o hyd (ar ôl cymhwyso rheol 64W, pan fo hynny’n berthnasol).

(2) Rhaid i’r swyddog canlyniadau ddidoli’n grwpiau yr holl bapurau pleidleisio, os oes rhai, a drosglwyddwyd i’r ymgeisydd a eithriwyd (neu i unrhyw un neu ragor o’r ymgeiswyr a eithriwyd) ar gam cynharach o’r cyfrif yn ôl y gwerth trosglwyddo a oedd i’r pleidleisiau pan gafodd yr ymgeisydd hwnnw hwy.

(3) Yna rhaid i’r swyddog canlyniadau ddidoli’r papurau pleidleisio yn y grŵp o bapurau pleidleisio sydd â’r pleidleisiau â’r gwerth trosglwyddo uchaf yn grwpiau pellach fel a ganlyn—

(a)yn ôl yr ymgeisydd sy’n parhau y rhoddwyd y dewis nesaf sydd ar gael o’i ran ar y papurau hynny, neu

(b)pan nad oes dewis nesaf sydd ar gael wedi ei roi, fel grŵp ar wahân.

Mae’r papurau pleidleisio yn y grwpiau a ffurfiwyd o dan baragraff (a) (“papurau trosglwyddadwy”) i’w trosglwyddo yn unol â pharagraffau (4) a (5) o’r rheol hon. Nid yw’r papurau pleidleisio yn y grŵp a ffurfiwyd o dan baragraff (b) (“papurau anhrosglwyddadwy”) i’w trosglwyddo.

(4) Rhaid i’r swyddog canlyniadau drosglwyddo pob grŵp o bapurau trosglwyddadwy i’r ymgeisydd sy’n parhau y rhoddwyd y dewis nesaf sydd ar gael o’i ran ar y papurau hynny.

(5) Trosglwyddir y bleidlais ar y papur pleidleisio ar bob papur trosglwyddadwy yn ôl gwerth trosglwyddo, sef y gwerth a oedd i’r bleidlais pan gafwyd hi gan yr ymgeisydd a eithriwyd y mae’r papur yn cael ei drosglwyddo oddi wrtho.

(6) Pan fo’r swyddog canlyniadau wedi cwblhau’r trosglwyddiadau sy’n ofynnol gan baragraff (4) a bo un swydd wag neu ragor i’w llenwi o hyd (ar ôl cymhwyso rheol 60W, pan fo hynny’n berthnasol), rhaid i’r swyddog canlyniadau ailadrodd y camau ym mharagraffau (3) i (5) mewn perthynas â’r grwpiau sy’n weddill o bapurau pleidleisio a ffurfiwyd o dan baragraff (2), gan ymdrin â phob grŵp mewn trefn ddisgynnol yn ôl gwerth y pleidleisiau hyd nes—

(a)naill ai nad oes swyddi gwag ar ôl i’w llenwi (ar ôl cymhwyso rheol 64W pan fo hynny’n berthnasol), neu

(b)yr ymdriniwyd â phob grŵp.

(7) Mae paragraff (6) yn gymwys p’un a drinnir unrhyw ymgeisydd fel pe bai wedi ei ethol ai peidio a ph’un a oes ganddo bleidleisiau dros ben ai peidio ar ôl cwblhau’r camau ym mharagraffau (3) i (5) mewn perthynas â’r grŵp o bapurau pleidleisio sydd â’r pleidleisiau â’r gwerth trosglwyddo uchaf neu mewn perthynas ag unrhyw un neu ragor o’r grwpiau sy’n weddill.

(8) Mewn achos pan ymdriniwyd â phob grŵp o bapurau pleidleisio a ffurfiwyd o dan baragraff (2) ond bod un swydd wag neu ragor i’w llenwi o hyd (ar ôl cymhwyso rheol 64W, pan fo hynny’n berthnasol), rhaid i’r swyddog canlyniadau fwrw ymlaen fel a ganlyn—

(a)yn unol â rheol 64O os trinnir unrhyw ymgeisydd, ar y cam hwnnw, fel pe bai wedi ei ethol a bod ganddo bleidleisiau dros ben, a

(b)fel arall yn unol â rheol 64S.

(9) Ar gyfer ystyr “ymgeisydd sy’n parhau”, “dewis nesaf sydd ar gael” a “pleidleisiau dros ben”, gweler rheol 64J.

(10) Gweler hefyd reol 64V (sy’n gwneud darpariaeth atodol).

Y drefn eithrio LL+C

64U.(1) Mae’r rheol hon yn gymwys—

(a)pan fo’r swyddog canlyniadau yn penderfynu pa ymgeisydd i’w eithrio o dan reol 64S(2),

(b)pan fo gan ddau ymgeisydd neu ragor yr un nifer o bleidleisiau, ac

(c)pan na fo gan yr un ymgeisydd arall lai o bleidleisiau.

(2) Rhaid i’r swyddog canlyniadau eithrio p’un bynnag o’r ymgeiswyr a oedd â’r nifer lleiaf o bleidleisiau ar y cam cynharaf o’r cyfrif pan oedd ganddynt nifer anghyfartal o bleidleisiau.

(3) Pan oedd nifer y pleidleisiau a oedd wedi eu credydu i’r ymgeiswyr yn gyfartal ar bob cam, rhaid i’r swyddog canlyniadau—

(a)penderfynu rhwng yr ymgeiswyr drwy fwrw coelbren, a

(b)eithrio’r ymgeisydd yr aeth y coelbren o’i blaid.

Eithrio ymgeiswyr: darpariaeth atodol LL+C

64V.(1) Mae eithrio ymgeisydd, neu ddau ymgeisydd neu ragor gyda’i gilydd, o dan reol 64S yn ffurfio cam pellach o’r cyfrif.

(2) Rhaid i’r swyddog canlyniadau gymryd y camau a ganlyn ar ôl gorffen trosglwyddo papurau trosglwyddadwy o dan reol 64S(5) neu ar ôl ymdrin â grŵp o bapurau pleidleisio a ffurfiwyd o dan reol 64T(2) yn unol â rheol 64T(3) i (5)—

(a)cofnodi cyfanswm gwerth y pleidleisiau a drosglwyddwyd i bob ymgeisydd o dan reol 64S(5) neu 64T(4);

(b)ychwanegu’r cyfanswm hwnnw at gyfanswm blaenorol y pleidleisiau a gofnodwyd ar gyfer pob ymgeisydd a chofnodi’r cyfanswm newydd,

(c)cofnodi gwerth y pleidleisiau yn y grwpiau o bapurau anhrosglwyddadwy a ffurfiwyd o dan reol 64S(4) neu 64T(3), a

(d)ychwanegu’r gwerth hwnnw at y cyfanswm a gofnodwyd yn flaenorol o ran pleidleisiau anhrosglwyddadwy.

(3) Yna rhaid i’r swyddog canlyniadau gymharu—

(a)cyfanswm nifer y pleidleisiau a gofnodwyd bryd hynny ar gyfer pob ymgeisydd, ynghyd â chyfanswm nifer y pleidleisiau anhrosglwyddadwy, â

(b)y cyfanswm a gofnodwyd o ran pleidleisiau dewis cyntaf dilys.

(4) Rhaid i’r holl bapurau pleidleisio a drosglwyddwyd o dan reol 64S(5) neu 64T(4) fod wedi eu marcio’n glir, naill ai’n unigol neu fel grŵp, er mwyn dangos y gwerth y trosglwyddwyd y bleidlais ar y papur yn ei ôl neu, yn ôl y digwydd, werth trosglwyddo’r holl bleidleisiau ar y papurau yn y grŵp hwnnw.

(5) Rhaid i’r swyddog canlyniadau gynnwys papur pleidleisio yn y grŵp o bapurau anhrosglwyddadwy a ffurfiwyd o dan reol 64S(4) neu 64T(3)—

(a)os yw’r swyddog canlyniadau o’r farn bod y papur pleidleisio’n dangos bod y dewis nesaf yn nhrefn y dewisiadau wedi ei roi o ran dau ymgeisydd neu ragor (p’un a ydynt yn ymgeiswyr olynol ai peidio),

(b)os yw’r swyddog canlyniadau o’r farn nad yw’r dewis nesaf ar y papur pleidleisio (p’un a yw dros ymgeisydd sy’n parhau ai peidio) yn dilyn yn olynol ar ôl y dewis sy’n dod yn union o’i flaen, neu

(c)os nad yw’n glir i’r swyddog canlyniadau am unrhyw reswm arall pa ymgeisydd sydd nesaf yn nhrefn y dewisiadau.

Llenwi swyddi gwag olaf LL+C

64W.(1) Pan fo nifer yr ymgeiswyr sy’n parhau yn cyfateb i nifer y swyddi gwag sy’n dal heb eu llenwi, trinnir yr ymgeiswyr sy’n parhau fel pe baent wedi eu hethol.

(2) Pan nad oes ond un swydd yn dal heb ei llenwi, rhaid trin yr ymgeisydd sy’n parhau sydd wedi ei gredydu bryd hynny â’r nifer uchaf o bleidleisiau fel pe bai wedi ei ethol os yw’r nifer hwnnw o bleidleisiau yn cyfateb i gyfanswm nifer y pleidleisiau sydd wedi eu credydu bryd hynny i’r ymgeiswyr eraill sy’n parhau, ynghyd ag unrhyw bleidleisiau dros ben nas trosglwyddwyd, neu os yw’n fwy na hynny.

(3) Pan ellir llenwi’r swyddi olaf o dan y rheol hon, ni chaniateir trosglwyddo pleidleisiau ymhellach.

(4) Ar gyfer ystyr “ymgeisydd sy’n parhau” a “pleidleisiau dros ben”, gweler rheol 64J.

Ailgyfrif LL+C

64X.(1) Rhaid i’r swyddog canlyniadau, ar ôl cwblhau pob cam o’r cyfrif, hysbysu’r holl ymgeiswyr a’u hasiantau etholiadol sy’n bresennol bryd hynny o’i fwriad, yn ddarostyngedig i gais am ailgyfrif, i fwrw ymlaen i’r cam nesaf.

(2) Cyn i’r swyddog canlyniadau fwrw ymlaen, caiff unrhyw ymgeisydd neu asiant etholiadol sy’n bresennol yn y cyfrif ofyn i’r cam diwethaf a gwblhawyd gael ei ailgyfrif.

(3) Rhaid i’r swyddog canlyniadau gydymffurfio â’r cais oni bai bod y swyddog canlyniadau o’r farn bod y cais yn afresymol.

(4) Os na cheir cais rhaid i’r swyddog canlyniadau fwrw ymlaen â cham nesaf y cyfrif.

(5) Pan ddeuir o hyd i gamgymeriad o ganlyniad i ailgyfrif, rhaid i’r swyddog canlyniadau, pan fo hynny’n angenrheidiol, ddiwygio unrhyw ganlyniadau sydd eisoes wedi eu cyhoeddi.

Trefn ethol yr ymgeiswyr LL+C

64Y.(1) Y drefn y trinnir ymgeiswyr y mae eu pleidlais uwchlaw’r cwota fel pe baent wedi eu hethol ynddi yw’r drefn y trosglwyddwyd eu priod bleidleisiau dros ben ynddi neu’r drefn y byddai’r pleidleisiau dros ben hynny wedi eu trosglwyddo ynddi oni bai am reol 64P(2) neu (3).

(2) Mae ymgeisydd a gredydwyd â nifer o bleidleisiau sy’n cyfateb i’r cwota i’w roi (yn nhrefn y rheini a drinnir fel pe baent wedi eu hethol) ar ôl unrhyw ymgeiswyr eraill a drinnir fel pe baent wedi eu hethol ar yr un pryd ac yr oedd ganddynt bleidleisiau dros ben.

(3) Ar gyfer ystyr “cwota” a “pleidleisiau dros ben”, gweler rheol 64J.

Penderfyniadau ar bapurau pleidleisio LL+C

64Z.  Mae penderfyniad y swyddog canlyniadau ar unrhyw gwestiwn sy’n codi mewn cysylltiad â phapur pleidleisio, trosglwyddo papurau pleidleisio neu eithrio ymgeiswyr yn derfynol, ond caniateir ei adolygu ar ddeiseb etholiad.

Datgan y canlyniad mewn etholiad lle ceir gornest LL+C

64Z1.(1) Pan fo pob cam o’r cyfrif wedi ei gwblhau, rhaid i’r swyddog canlyniadau ddatgan bod yr ymgeiswyr sydd wedi eu trin fel pe baent wedi eu hethol o dan y Bennod hon wedi eu hethol.

(2) Rhaid i’r swyddog canlyniadau roi hysbysiad yn nodi enwau a chyfeiriadau’r ymgeiswyr a etholwyd i swyddog priodol y cyngor y cynhaliwyd yr etholiad ar ei gyfer.

(3) Rhaid i’r swyddog canlyniadau gyhoeddi hysbysiad hefyd—

(a)o enwau’r ymgeiswyr a etholwyd;

(b)o nifer y dewisiadau cyntaf a’r dewisiadau pellach o ran pob ymgeisydd (p’un a’i hetholwyd ai peidio);

(c)o nifer y papurau pleidleisio a drosglwyddwyd a’u gwerth trosglwyddo ar bob cam o’r cyfrif;

(d)o nifer y pleidleisiau a gredydwyd i bob ymgeisydd ar bob cam o’r cyfrif;

(e)o nifer y papurau pleidleisio anhrosglwyddadwy a nifer y pleidleisiau anhrosglwyddadwy ar bob cam o’r cyfrif;

(f)o nifer y papurau pleidleisio a wrthodwyd o dan bob pennawd a ddangosir yn y datganiad o’r papurau pleidleisio a wrthodwyd.]

RHAN 5LL+CGwaredu Dogfennau

Selio papurau pleidleisio mewn etholiadau lle ceir gornestLL+C

65.—(1Mae’r rheol hon yn gymwys ar ôl cwblhau cyfrif y pleidleisiau mewn etholiad lle ceir gornest.

(2Rhaid i’r swyddog canlyniadau selio mewn pecynnau ar wahân—

(a)y papurau pleidleisio a gyfrifwyd, a

(b)y papurau pleidleisio a wrthodwyd (gan gynnwys y papurau pleidleisio a wrthodwyd yn rhannol).

(3Ni chaiff y swyddog canlyniadau agor unrhyw becyn a seliwyd o dan reol 51(3) sy’n cynnwys papurau pleidleisio a dendrwyd.

(4Pan y swyddog canlyniadau cydlynol yw’r swyddog canlyniadau, rhaid i’r swyddog canlyniadau beidio ag agor unrhyw becynnau a seliwyd o dan reol 51(3) sy’n cynnwys—

(a)rhestrau rhifau cyfatebol a gwblhawyd,

(b)copïau a farciwyd o’r cofnodion cofrestru a’r rhestrau dirprwyon;

(c)tystysgrifau a ildiwyd gan gwnstabliaid neu staff swyddogion canlyniadau o dan reol 37(4) neu (5).

Gwybodaeth Cychwyn

I140Atod. 2 para. 65 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1

Danfon dogfennau i’r swyddog cofrestru mewn etholiadau lle ceir gornestLL+C

66.—(1Mae’r rheol hon yn gymwys pan fo’r swyddog canlyniadau wedi selio’r papurau pleidleisio a gyfrifwyd a’r papurau pleidleisio a wrthodwyd o dan reol 65(2).

(2Rhaid i’r swyddog canlyniadau anfon y dogfennau a ganlyn at swyddog cofrestru’r cyngor sir neu’r cyngor bwrdeistref sirol y cynhelir yr etholiad yn ei ardal—

(a)y pecynnau o bapurau pleidleisio sydd ym meddiant y swyddog canlyniadau;

(b)y cyfriflenni papurau pleidleisio a baratowyd o dan reol 51(5);

(c)y datganiadau o’r papurau pleidleisio a wrthodwyd a baratowyd o dan reol 60(7) [F47neu reol 64I(6)];

(d)y datganiadau o ganlyniad dilysiad y cyfriflenni papurau pleidleisio a baratowyd o dan reol 55(6) [F48neu reol 64D(6)];

(e)y pecynnau sy’n cynnwys y rhestr pleidleiswyr post a’r rhestr pleidleiswyr post drwy ddirprwy.

(3Pan fo’r swyddog canlyniadau yn swyddog canlyniadau cydlynol hefyd, rhaid i’r swyddog canlyniadau hefyd anfon y dogfennau a ganlyn at swyddog cofrestru’r cyngor sir neu’r cyngor bwrdeistref sirol y cynhelir yr etholiad yn ei ardal—

(a)y rhestrau a’r datganiadau a ganlyn—

(i)y rhestrau pleidleisiau a farciwyd gan y swyddog llywyddu, ynghyd â datganiad o nifer y pleidleiswyr y mae eu pleidleisiau wedi eu marcio o dan y penawdau “anabledd” a “methu darllen” (gweler rheol 43);

(ii)y datganiadau a wnaed gan gymdeithion pleidleiswyr ag anableddau (gweler rheol 44);

(iii)y rhestrau pleidleiswyr ag anableddau a gynorthwywyd gan gymdeithion (gweler rheol 45);

(iv)y rhestrau pleidleisiau a dendrwyd (gweler rheol 47);

(v)y rhestrau a gadwyd o dan reol 49 (cywiro gwallau ar ddiwrnod y bleidlais);

(b)y pecynnau sy’n cynnwys y rhestrau rhifau cyfatebol a gwblhawyd;

(c)y pecynnau sy’n cynnwys copïau a farciwyd o gofnodion cofrestru a rhestrau dirprwyon;

(d)y pecynnau sy’n cynnwys tystysgrifau a ildiwyd gan gwnstabliaid neu staff swyddogion canlyniadau o dan reol 37(4) neu (5).

Dangos etc. dogfennauLL+C

67.—(1Mae’r rheol hon yn gymwys mewn perthynas â’r dogfennau a ganlyn pan fyddant ym meddiant y swyddog cofrestru (ar ôl cael eu hanfon o dan reol 66)—

(a)papurau pleidleisio a wrthodwyd ac a gyfrifwyd;

(b)pecynnau a seliwyd sy’n cynnwys rhestrau rhifau cyfatebol a gwblhawyd;

(c)pecynnau a seliwyd sy’n cynnwys tystysgrifau a ildiwyd gan gwnstabliaid neu staff swyddogion canlyniadau o dan reol 37(4) neu (5).

(2Caiff llys sirol wneud unrhyw un neu ragor o’r gorchmynion a ganlyn, os yw wedi ei fodloni gan dystiolaeth ar lw fod angen y gorchymyn er mwyn naill ai cychwyn neu gynnal erlyniad am drosedd mewn perthynas â phapurau pleidleisio neu at ddibenion deiseb etholiad—

(a)gorchymyn i archwilio neu ddangos unrhyw un neu ragor o’r papurau pleidleisio a wrthodwyd (gan gynnwys unrhyw bapurau pleidleisio a wrthodwyd yn rhannol);

(b)gorchymyn i archwilio unrhyw un neu ragor o’r papurau pleidleisio a gyfrifwyd;

(c)gorchymyn i agor unrhyw un neu ragor o’r pecynnau a seliwyd sy’n cynnwys—

(i)rhestrau rhifau cyfatebol a gwblhawyd, neu

(ii)tystysgrifau a ildiwyd gan gwnstabliaid neu staff swyddogion canlyniadau o dan reol 37(4) neu (5);

(d)pan wneir gorchymyn i agor unrhyw un neu ragor o’r pecynnau a seliwyd o dan is-baragraff (c), gorchymyn i archwilio neu ddangos y cyfan neu ran o’r cynnwys.

(3Caiff llys etholiad wneud—

(a)gorchymyn i archwilio unrhyw un neu ragor o’r papurau pleidleisio a gyfrifwyd;

(b)gorchymyn i agor unrhyw un neu ragor o’r pecynnau a seliwyd sy’n cynnwys—

(i)rhestrau rhifau cyfatebol a gwblhawyd, neu

(ii)tystysgrifau a ildiwyd gan gwnstabliaid neu staff swyddogion canlyniadau o dan reol 37(4) neu (5);

(c)pan wneir gorchymyn i agor unrhyw un neu ragor o’r pecynnau a seliwyd o dan is-baragraff (b), gorchymyn i archwilio neu ddangos y cyfan neu ran o’r cynnwys.

(4Caniateir i orchymyn o dan y rheol hon gael ei wneud yn ddarostyngedig i unrhyw un neu ragor o’r amodau a ganlyn y mae’r llys yn credu eu bod yn briodol—

(a)amodau ynglŷn â phersonau;

(b)amodau ynglŷn ag amser;

(c)amodau ynglŷn â’r lle archwilio a’r dull archwilio;

(d)amodau ynglŷn â dangos neu agor.

(5Rhaid i lys, wrth wneud gorchymyn o dan y rheol hon i archwilio papurau pleidleisio a gyfrifwyd neu i agor pecyn a seliwyd, osod unrhyw amodau o dan baragraff (4) y mae’r llys o’r farn eu bod yn briodol i sicrhau na ddatgelir y modd y mae etholwr wedi rhoi ei bleidlais oni bai a hyd nes y profwyd—

(a)bod yr etholwr wedi rhoi ei bleidlais, a

(b)bod y bleidlais wedi ei datgan yn annilys gan lys cymwys.

(6Rhaid i unrhyw berson sy’n rhoi ei effaith i orchymyn o dan y rheol hon i archwilio papurau pleidleisio a gyfrifwyd neu i agor pecyn a seliwyd gymryd gofal i sicrhau na ddatgelir y modd y mae etholwr wedi rhoi ei bleidlais oni bai a hyd nes y profwyd—

(a)bod yr etholwr wedi rhoi ei bleidlais, a

(b)bod y bleidlais wedi ei datgan yn annilys gan lys cymwys.

(7At yr Uchel Lys y cyfeirir apêl sy’n deillio o orchymyn llys sirol o dan y rheol hon.

(8Caniateir i bwerau llys sirol o dan y rheol hon gael eu harfer gan unrhyw un neu ragor o farnwyr y llys heblaw mewn llys agored.

(9Ac eithrio fel y darperir gan y rheol hon, ni chaiff neb—

(a)archwilio unrhyw un neu ragor o’r papurau pleidleisio a wrthodwyd neu a gyfrifwyd;

(b)agor unrhyw un neu ragor o’r pecynnau a seliwyd sy’n cynnwys—

(i)rhestrau rhifau cyfatebol a gwblhawyd, neu

(ii)tystysgrifau a ildiwyd gan gwnstabliaid neu staff swyddogion canlyniadau o dan reol 37(4) neu (5).

Gwybodaeth Cychwyn

I142Atod. 2 para. 67 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1

Gorchmynion i ddangos etc. dogfennau: darpariaeth atodolLL+C

68.—(1Mae paragraffau (2) a (3) yn gymwys pan wneir gorchymyn o dan reol 67 i swyddog cofrestru ddangos dogfen sydd ym meddiant y swyddog cofrestru ac sy’n ymwneud ag etholiad a bennwyd yn y gorchymyn.

(2Mae dangos y ddogfen gan y swyddog cofrestru neu asiant y swyddog cofrestru yn y modd a gyfarwyddwyd gan y gorchymyn yn dystiolaeth bendant bod y ddogfen yn ymwneud â’r etholiad a bennwyd.

(3Os bydd pecyn o bapurau pleidleisio sydd ag arnodiad ar y pecyn yn cael ei ddangos gan y swyddog cofrestru neu asiant y swyddog cofrestru i gydymffurfio â’r gorchymyn, mae’r arnodiad yn dystiolaeth prima facie mai’r papurau pleidleisio yw’r hyn y mae’r arnodiad yn dweud eu bod.

(4Mae paragraff (5) yn gymwys pan fo swyddog cofrestru neu asiant swyddog cofrestru, er mwyn cydymffurfio â gorchymyn o dan reol 67, wedi dangos—

(a)papur pleidleisio sy’n honni ei fod wedi ei ddefnyddio mewn etholiad, a

(b)rhestr rhifau cyfatebol a gwblhawyd a oedd yn cael ei defnyddio yn yr etholiad, gyda rhif wedi ei farcio mewn ysgrifen wrth ochr rhif y papur pleidleisio hwnnw ar y rhestr.

(5Mae dangos y papur pleidleisio a’r rhestr yn dystiolaeth prima facie mai’r etholwr y rhoddwyd ei bleidlais gan y papur pleidleisio hwnnw oedd y person yr oedd ei gofnod adeg yr etholiad yn y gofrestr etholwyr, neu ar hysbysiad a ddyroddwyd o dan adran 13B(3B) neu (3D) o Ddeddf 1983, yn cynnwys yr un rhif â’r rhif a ysgrifennwyd ar y papur pleidleisio.

Gwybodaeth Cychwyn

I143Atod. 2 para. 68 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1

Cadw a dinistrio dogfennau a anfonwyd at y swyddog cofrestruLL+C

69.—(1Rhaid i’r swyddog cofrestru gadw’r holl ddogfennau a anfonwyd o dan reol 66 am gyfnod o flwyddyn sy’n dechrau â’r diwrnod y daethant i law’r swyddog cofrestru.

(2Ar ddiwedd y cyfnod hwnnw o flwyddyn, rhaid i’r swyddog cofrestru beri i’r dogfennau gael eu dinistrio oni chyfarwyddir fel arall gan orchymyn llys sirol, Llys y Goron, llys ynadon neu lys etholiad.

Gwybodaeth Cychwyn

I144Atod. 2 para. 69 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1

Dinistrio ffurflenni cyfeiriad cartref gan y swyddog canlyniadauLL+C

70.—(1Rhaid i’r swyddog canlyniadau ddinistrio ffurflen cyfeiriad cartref pob ymgeisydd—

(a)drannoeth y 35ain diwrnod ar ôl i’r swyddog canlyniadau ddychwelyd enwau’r cynghorwyr a etholwyd, oni bai bod deiseb etholiad sy’n amau etholiad neu ddychweliad ymgeiswyr yn cael ei chyflwyno cyn y diwrnod hwnnw;

(b)os cyflwynir deiseb etholiad sy’n amau etholiad neu ddychweliad cynghorwyr cyn y diwrnod hwnnw, cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl i’r achos ynglŷn â’r ddeiseb ddod i ben (gan gynnwys achos yr apêl, pan geir apêl).

(2Er mwyn penderfynu ar y diwrnod y mae’n rhaid dinistrio ffurflenni cyfeiriad cartref ymgeiswyr, rhaid diystyru unrhyw ddiwrnod sy’n ddiwrnod eithriedig.

Gwybodaeth Cychwyn

I145Atod. 2 para. 70 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1

RHAN 6LL+CMarwolaeth Ymgeisydd

Diddymu pleidlais neu roi’r gorau iddi ar ôl i ymgeisydd farwLL+C

71.—(1Mae’r rheol hon yn gymwys pan fo’r swyddog canlyniadau, mewn etholiad lle ceir gornest, wedi ei fodloni cyn i ganlyniad yr etholiad gael ei ddatgan fod un o’r personau a enwyd neu sydd i’w enwi yn ymgeisydd yn y papurau pleidleisio wedi marw.

(2Rhaid i’r swyddog canlyniadau ddiddymu hysbysiad y bleidlais neu, os yw’r pleidleisio wedi dechrau, rhaid i’r swyddog canlyniadau gyfarwyddo rhoi’r gorau i’r bleidlais ac ni chaniateir dyroddi rhagor o bapurau pleidleisio.

(3Nid yw diddymu’r bleidlais neu gyfarwyddyd i roi’r gorau iddi yn effeithio ar y bleidlais mewn unrhyw etholiad perthnasol.

(4Pan fo’r bleidlais wedi ei chau ym mhob etholiad perthnasol, rhaid i’r swyddog llywyddu mewn unrhyw orsaf bleidleisio sy’n cael ei defnyddio yn yr etholiad gymryd y camau (i’r graddau nad ydynt eisoes wedi eu cymryd) y byddai’n ofynnol i’r swyddog llywyddu eu cymryd o dan reol 51 pe na buasid wedi rhoi’r gorau i’r bleidlais yn etholiad y brif ardal, ac eithrio nad oes angen i’r swyddog llywyddu baratoi cyfriflen papurau pleidleisio.

(5Pan y swyddog canlyniadau cydlynol yw’r swyddog canlyniadau, rhaid i’r swyddog canlyniadau gymryd y camau (i’r graddau nad ydynt eisoes wedi eu cymryd) y byddai’n ofynnol i’r swyddog canlyniadau eu cymryd o dan Ran 4, ac eithrio—

(a)na chaniateir i’r swyddog canlyniadau fwrw ymlaen â chyfrif unrhyw bapurau pleidleisio na phleidleisiau sy’n ymwneud â’r bleidlais y rhoddwyd y gorau iddi, a

(b)nad oes angen dilysu unrhyw gyfriflen papurau pleidleisio sy’n ymwneud â’r bleidlais honno.

(6Pan nad y swyddog canlyniadau cydlynol yw’r swyddog canlyniadau, rhaid i’r swyddog canlyniadau—

(a)derbyn unrhyw bapurau pleidleisio neu ddogfennau eraill sy’n ymwneud â’r bleidlais y rhoddwyd y gorau iddi y caniateir eu danfon gan neu ar ran y swyddog canlyniadau cydlynol, ond

(b)peidio â bwrw ymlaen fel arall ag unrhyw gam o dan Ran 4 sy’n ymwneud â’r bleidlais y rhoddwyd y gorau iddi.

(7Rhaid i’r swyddog canlyniadau gymryd yr un camau ag y byddai’n ofynnol i’r swyddog canlyniadau eu cymryd o dan reolau 65 a 66 ar ôl cwblhau cyfrif y pleidleisiau (pe na buasid wedi rhoi’r gorau i’r bleidlais), ac eithrio—

(a)bod rhaid i’r swyddog canlyniadau selio’r holl bapurau pleidleisio (p’un a yw’r pleidleisiau arnynt wedi eu cyfrif ai peidio), a

(b)nad oes angen selio papurau pleidleisio a gyfrifwyd ac a wrthodwyd mewn pecynnau ar wahân.

(8Mae darpariaethau rheolau 67 i 69 yn gymwys i bapurau pleidleisio a dogfennau eraill sy’n ymwneud â phleidlais y rhoddwyd y gorau iddi oherwydd marwolaeth ymgeisydd, ac eithrio—

(a)bod papurau pleidleisio na chafodd y pleidleisiau arnynt eu cyfrif na’u gwrthod i’w trin fel papurau pleidleisio a gyfrifwyd, a

(b)y caniateir i orchymyn gael ei wneud o dan reol 67(2) neu (3) er mwyn cychwyn neu gynnal erlyniad am drosedd mewn perthynas â phapurau pleidleisio yn unig.

(9O ran yr hyn sy’n digwydd ar ôl i hysbysiad o bleidlais gael ei ddiddymu neu ar ôl rhoi’r gorau i bleidlais, gweler adran 39 o Ddeddf 1983.

Gwybodaeth Cychwyn

I146Atod. 2 para. 71 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1

F49F50F51F52ATODIADAULL+CNodyn: Caniateir i’r ffurflenni a geir yn yr Atodiadau hyn gael eu haddasu i’r graddau y bo’r amgylchiadau’n gofyn.

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheolau)

Mae’r Rheolau hyn, Rheolau Etholiadau Lleol (Prif Ardaloedd) (Cymru) 2021, yn nodi’r rheolau (y cyfeirir atynt yn y nodiadau fel “y Rheolau Cynnal Etholiad”) ar gyfer cynnal etholiadau cynghorwyr i gynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol (“prif gynghorau”) yng Nghymru.

Mae’r Rheolau hyn yn disodli, mewn perthynas â Chymru, Reolau Etholiadau Lleol (Prif Ardaloedd) (Cymru a Lloegr) 2006 (“Rheolau 2006”) a oedd yn gymwys i etholiadau prif gynghorau yng Nghymru a Lloegr.

Bydd y Rheolau hyn yn gymwys i etholiadau i brif gynghorau yng Nghymru a gynhelir ar 5 Mai 2022 ac ar ôl hynny.

Y Rheolau hyn yw’r rhai cyntaf i gael eu gwneud gan Weinidogion Cymru ar gyfer cynnal etholiadau prif gynghorau yng Nghymru. Gan hynny, dyma’r rheolau cyntaf o’u math i fod yn gymwys i Gymru yn unig a nhw yw’r cyntaf i gael eu gwneud yn ddwyieithog, yn Gymraeg ac yn Saesneg, ar gyfer etholiadau prif gynghorau.

Wrth wneud y Rheolau hyn, mae Gweinidogion Cymru wedi diweddaru’r iaith drwyddi draw ac wedi ad-drefnu rheolau penodol i wella eglurder a hygyrchedd.

Rheolau 1 i 5LL+C

Mae rheolau 1 a 2 yn nodi enw a dyddiad cychwyn y Rheolau ac yn gwneud darpariaeth drosiannol fel y bydd unrhyw etholiadau i brif gynghorau yng Nghymru a gynhelir ar ôl i’r Rheolau hyn ddod i rym, ond cyn 5 Mai 2022, yn cael eu cynnal yn unol â Rheolau 2006.

Mae rheol 3 yn darparu diffiniadau o dermau penodol a ddefnyddir yn y Rheolau hyn, gan gynnwys “diwrnod eithriedig” ac “etholiad perthnasol”.

Mae adran 22(1) a (3) o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 yn cael yr effaith bod gan ymgeisydd mewn etholiad i gyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru nad yw’n sefyll i’w ethol yn enw plaid gofrestredig ddewis rhwng peidio â chynnwys disgrifiad yn ei bapur enwebu neu gynnwys y gair “Independent”. Mae rheol 4, a wneir o dan y pwerau a roddir gan adran 26(2) o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993, yn ymestyn dewis yr ymgeisydd drwy ganiatáu’r defnydd o’r gair “Annibynnol” yn lle, neu yn ogystal â’r gair “Independent”. Adlewyrchir y dewis estynedig hwn hefyd yn rheol 6 o Atodlenni 1 a 2.

Mae rheol 5 yn cyflwyno Atodlen 1 (sy’n nodi’r rheolau ar gyfer cynnal etholiad prif gyngor pan nad yw’r bleidlais yn cael ei chynnal gyda phleidlais mewn etholiad arall) ac Atodlen 2 (sy’n nodi’r rheolau ar gyfer cynnal etholiad prif gyngor pan fo’r bleidlais yn cael ei chyfuno â’r bleidlais mewn un neu ragor o etholiadau perthnasol).

Mae rheol 5 hefyd yn darparu, pan fo rheol yn yr Atodlenni hynny yn ei gwneud yn ofynnol i’r swyddog canlyniadau gyhoeddi dogfen, yna (oni bai bod y rheol yn darparu fel arall) y dylid cyhoeddi’r ddogfen ar-lein ac mewn unrhyw ffyrdd eraill y mae’r swyddog canlyniadau o’r farn eu bod yn briodol er mwyn tynnu sylw’r cyhoedd at gynnwys y ddogfen.

Y Rheolau Cynnal Etholiad (Atodlenni 1 a 2)LL+C

Oni nodir yn wahanol, mae’r nodiadau esboniadol yn gyffredin i’r darpariaethau yn Atodlenni 1 a 2.

Rhannau 1 a 2

Mae Rhan 1 yn nodi’r dyddiadau cau ar gyfer cwblhau neu gyflawni gweithredoedd allweddol penodedig mewn etholiad. Mae diwrnodau eithriedig, fel y’u diffinnir yn rheol 3(1) o’r Rheolau hyn, i’w hanwybyddu wrth gyfrifo’r cyfnodau a nodir yn yr amserlen.

Mae Rhan 2 yn nodi’r trefniadau y mae’n rhaid i’r swyddog canlyniadau eu gwneud i roi hysbysiad o’r etholiad ac ynglŷn â sicrhau ffurflenni enwebu a’u cyflwyno. Yn benodol, mae’n nodi’r gofynion ynglŷn â hysbysiad yr etholiad, cynnwys ffurflenni enwebu a phenderfynu a yw nifer yr unigolion a enwebwyd mewn modd dilys yn ddigonol i fwrw ymlaen a chynnal pleidlais.

Rhaid i hysbysiad yr etholiad gynnwys manylion penodol am yr etholiad fel y’u nodir yn rheol 3. Er enghraifft, mae rheol 3(5) a (6) yn ei gwneud yn ofynnol i swyddogion canlyniadau gynnwys datganiad danfon electronig yn yr hysbysiad gan ddarparu y caniateir i bapurau enwebu gael eu danfon drwy eu hanfon yn electronig i gyfeiriad ebost, drwy eu cyflwyno ar-lein neu drwy’r naill neu’r llall o’r dulliau hyn (yn unol â’r trefniadau a nodir yn y datganiad).

Mae rheol 5 yn darparu ar gyfer hunan-enwebu; rhaid i ymgeiswyr enwebu eu hunain drwy gwblhau a llofnodi’r papur enwebu ym mhresenoldeb tyst. Nid oes angen i’r ymgeisydd ddefnyddio papur enwebu a gyflenwyd gan y swyddog canlyniadau neu a sicrhawyd ar-lein, ond mae’n rhaid iddo ddarparu’r holl wybodaeth fel y’i nodir ar ffurflen y papur enwebu.

Mae rheol 5(3)(a) yn ei gwneud yn ofynnol bod enwau llawn yr ymgeisydd yn cael eu datgan yn y papur enwebu. Caiff yr ymgeisydd hefyd roi ei enwau a ddefnyddir yn gyffredin (gan gynnwys pan fo’r enwau hynny yn gwahaniaethu o’i enwau llawn oherwydd eu bod mewn trefn wahanol yn unig, yn cynnwys rhai o’r enwau hynny yn unig neu’n cynnwys enwau ychwanegol).

Mae rheol 5(3)(b) yn caniatáu i ymgeisydd gynnwys disgrifiad yn ei bapur enwebu, a fydd, yn ddarostyngedig i gyfyngiadau penodol, yn cael ei gynnwys yn y papur pleidleisio gyferbyn â’i enw. Mae’r rheolau a ganlyn yn gymwys i ddisgrifiadau:

  • Rheol 6 – sy’n nodi’r gofynion cyffredinol ynghylch defnyddio disgrifiad;

  • Rheol 7 – sy’n caniatáu i ymgeisydd ychwanegu’r geiriau “Wales”, “Welsh”, “Cymru” neu “Cymreig” at enw plaid gofrestredig neu ddisgrifiad cofrestredig, pan nad yw’r enw neu’r disgrifiad dan sylw eisoes yn cynnwys disgrifydd tiriogaethol. Caniateir i ymgeisydd ddefnyddio’r gair “Wales” neu “Welsh” o flaen yr enw cofrestredig neu’r disgrifiad cofrestredig a ganiateir neu caiff ddefnyddio’r gair “Cymru” neu “Cymreig” ar ôl yr enw cofrestredig neu’r disgrifiad cofrestredig a ganiateir. Rhaid i ymgeisydd beidio â defnyddio’r disgrifyddion tiriogaethol a ganiateir o dan reol 7 os yw un o’r geiriau eisoes yn rhan o’r enw cofrestredig neu’r disgrifiad cofrestredig neu os yw’r ymgeisydd yn defnyddio’r gair “Independent” neu “Annibynnol” neu’r ddau air hynny fel ei ddisgrifiad.

Mae rheol 5(3)(c) yn ei gwneud yn ofynnol i ymgeisydd gynnwys, yn ei bapur enwebu, ddatganiad o aelodaeth plaid.

  • Mae rheol 8 yn nodi’r gofynion ynglŷn â’r datganiad o aelodaeth plaid. Rhaid i’r ymgeisydd ddatgan ar ei bapur enwebu a yw’n aelod, neu a yw wedi bod yn aelod, o unrhyw blaid wleidyddol gofrestredig yn ystod y 12 mis diwethaf (“y cyfnod perthnasol”), ond nad yw’n blaid y maent yn ceisio sefyll ar ei rhan yn yr etholiad dan sylw. Y “cyfnod perthnasol” yw’r cyfnod o 12 mis sy’n dod i ben gyda’r diwrnod y cyhoeddwyd hysbysiad yr etholiad. Os bydd ymgeisydd yn methu’n fwriadol â darparu’r wybodaeth hon bydd yn euog o arfer lwgr.

Mae rheol 5(3)(d) yn ei gwneud yn ofynnol i ymgeisydd gynnwys y datganiadau perthnasol a nodir ar y ffurf yn Atodiad 1, wedi eu llofnodi gan yr ymgeisydd.

Mae rheol 5(6) yn ei gwneud yn ofynnol i ymgeisydd gynnwys gyda’i bapur enwebu ffurflen cyfeiriad cartref ar wahân fel y’i nodir yn rheol 9. Nodir y gofynion o ran darparu cyfeiriad sy’n sefydlu cymhwyster yr ymgeisydd i sefyll i’w ethol yn y brif ardal dan sylw yn y tabl yn rheol 9(3).

  • Mae rheol 9(6) yn caniatáu i ymgeisydd ddatgan nad yw am i’w gyfeiriad cartref gael ei gyhoeddi. Os bydd ymgeisydd yn gwneud datganiad o’r fath, rhaid i’r ffurflen cyfeiriad cartref ddatgan: os yw cyfeiriad cartref yr ymgeisydd yn y Deyrnas Unedig, yr “ardal berthnasol”, a ddiffinnir yn rheol 9(8); neu os yw’r cyfeiriad cartref y tu allan i’r Deyrnas Unedig, y wlad y mae wedi ei lleoli ynddi.

Mae’r swyddog canlyniadau yn gyfrifol am sicrhau, pan fo ymgeisydd wedi nodi nad yw’r cyfeiriad cartref i’w gyhoeddi, fod dymuniadau’r ymgeisydd yn cael eu rhoi ar waith.

Mae rheol 13 yn ei gwneud yn ofynnol i’r swyddog canlyniadau gyhoeddi’r datganiad o’r personau a enwebwyd. Wrth wneud hynny, rhaid i’r swyddog canlyniadau gynnwys:

  • enwau a disgrifiadau’r personau sy’n dal wedi eu henwebu;

  • yr wybodaeth am gyfeiriad cartref pob ymgeisydd (yn y modd y gofynnir amdano gan yr ymgeisydd – gweler rheol 9); a’r

  • wybodaeth a gynhwysir yn y datganiadau o aelodaeth plaid wleidyddol, fel y bo’n briodol (gweler rheol 8).

Rhaid i’r datganiad gynnwys hefyd unrhyw bersonau eraill sydd wedi eu henwebu ond nad ydynt yn dal wedi eu henwebu, ynghyd â’r rheswm dros hynny.

Mae rheol 19 yn caniatáu rhoi’r gorau i’r trafodion enwebu os torrir ar eu traws ar unrhyw ddiwrnod gan derfysg neu drais agored. Os y diwrnod olaf ar gyfer danfon papurau enwebu yw’r diwrnod y rhoddir y gorau i’r trafodion, rhaid i’r trafodion barhau drannoeth.

Rhan 3

Mae Rhan 3 o’r ddwy Atodlen yn nodi’r rheolau sy’n llywodraethu’r modd y cynhelir y bleidlais pan geir gornest mewn etholiad. Mae’r rheolau yn Rhan 3 yn ymdrin â ffurf a chynnwys papurau pleidleisio a dogfennau eraill i’w defnyddio yn y bleidlais (rheolau 21 i 24) ac maent yn galluogi swyddogion canlyniadau i ddefnyddio ystafelloedd ysgol ac ystafelloedd cyhoeddus eraill ar gyfer pleidleisio (rheol 26). Maent yn nodi’r camau y mae’n rhaid i’r swyddog canlyniadau eu cymryd cyn y bleidlais (rheolau 27 i 36), sy’n cynnwys rhoi hysbysiad o’r bleidlais, dyroddi papurau pleidleisio post a chardiau pleidleisio, darparu gorsafoedd pleidleisio ac offer a phenodi swyddogion llywyddu a chlercod. Maent hefyd yn nodi’r weithdrefn yn yr orsaf bleidleisio ar ddiwrnod y bleidlais (rheolau 37 i 51), gan gynnwys y cwestiynau y caniateir eu gofyn i bleidleiswyr a’r cymorth y caniateir ei roi i bleidleiswyr sydd ag anabledd neu nad ydynt yn gallu darllen.

Mae cynnwys y rheolau yn Rhan 3 o Atodlen 1 a’r rheolau yn Rhan 3 o Atodlen 2 yn weddol debyg. Ceir rhai mân wahaniaethau am fod y rheolau yn Rhan 3 o Atodlen 2 yn rheoleiddio’r modd y cynhelir y bleidlais pan gaiff ei chyfuno â’r bleidlais mewn etholiad perthnasol (fel y’i diffinnir yn rheol 3 o’r Rheolau hyn). Er enghraifft, yn Atodlen 2, mae rheol 22(4)(d) yn ei gwneud yn ofynnol i’r papur pleidleisio yn etholiad y brif ardal fod mewn lliw gwahanol i’r papur pleidleisio a ddefnyddir mewn etholiad perthnasol. Nid oes gofyniad tebyg yn Atodlen 1 gan nad oes mo’i angen.

Mae rheolau penodol yn Rhan 3 o’r ddwy Atodlen yn cyfeirio at ddeddfwriaeth arall. Lle byddai rhywfaint o esboniad ar y ddeddfwriaeth arall honno o gymorth, fe’i rhoddir isod.

  • Mae rheol 28(1) o’r ddwy Atodlen (sy’n ymwneud â dyroddi papurau pleidleisio post etc.) a rheol 36(1) a (2) o’r ddwy Atodlen (sy’n ymwneud â marcio rhestrau o bleidleiswyr post) yn cyfeirio at reoliadau o dan Ddeddf 1983. Adeg gwneud y Rheolau hyn, Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001 (O.S. 2001/341) sy’n gwneud darpariaeth ar gyfer dyroddi papurau pleidleisio post, datganiadau pleidleisio post ac amlenni ar gyfer eu dychwelyd a marcio rhestrau o bleidleiswyr post.

  • Mae rheol 32(3) o Atodlen 1 a rheol 32(5) o Atodlen 2 yn darparu i’r swyddog canlyniadau ddarparu i bob gorsaf bleidleisio gopïau (ymhlith pethau eraill) o hysbysiadau perthnasol a ddyroddir o dan adran 13B(3B) neu (3D) o Ddeddf 1983. Mae’r rhain yn hysbysiadau sy’n ategu’r copïau o’r rhannau perthnasol o’r gofrestr sydd hefyd yn cael eu cyflenwi i’r orsaf bleidleisio. Mae hysbysiadau o dan adran 13B(3B) yn ymdrin â sefyllfaoedd lle cafwyd apêl yn erbyn penderfyniad swyddog cofrestru (er enghraifft, penderfyniad yn gwrthod cofrestru) a bod yr apêl yn llwyddiannus. Mae hysbysiadau o dan adran 13B(3D) yn ymdrin â sefyllfaoedd lle cafwyd sylwadau ynghylch gwall clerigol yn y gofrestr (er enghraifft, o ran enw neu gyfeiriad person) a bod y swyddog cofrestru yn cytuno bod yna wall.

  • Mae rheol 35(1) o’r ddwy Atodlen yn ei gwneud yn ofynnol i’r swyddog canlyniadau roi i bawb sy’n bresennol yn yr orsaf bleidleisio, heblaw pleidleiswyr a’u cwmni, personau o dan 16 oed a chwnstabliaid ar ddyletswydd, hysbysiad sy’n nodi darpariaethau adran 66(1), (3) a (6) o Ddeddf 1983. Mae adran 66(1) yn ei gwneud yn ofynnol i swyddogion canlyniadau, clercod, ymgeiswyr, asiantau etholiadol, asiantau pleidleisio, cynrychiolwyr y Comisiwn Etholiadol a sylwedyddion achrededig sy’n bresennol mewn gorsaf bleidleisio gadw cyfrinachedd y bleidlais ac mae’n eu gwahardd rhag cyfleu gwybodaeth benodol i neb, er enghraifft, enwau pleidleiswyr neu’r marc swyddogol. Mae adran 66(3) yn gwahardd unrhyw un rhag ymddygiad penodol, er enghraifft, ymyrryd â phleidleisiwr wrth iddo bleidleisio. O dan adran 66(6), mae’n drosedd peidio â chydymffurfio â’r gofynion a’r gwaharddiadau a nodir yn yr adran.

  • Mae rheol 37 o’r ddwy Atodlen yn cynnwys ymhlith y rhai sydd â hawl i fod yn bresennol mewn gorsaf bleidleisio “personau sydd â hawl i fod yn bresennol yn rhinwedd unrhyw un neu ragor o adrannau 6A i 6D o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000” (gweler rheol 37(1)(g)). Y personau sydd â hawl i fod yn bresennol yn rhinwedd yr adrannau hyn yw cynrychiolwyr o’r Comisiwn Etholiadol a sylwedyddion achrededig (sydd naill ai’n unigolion y mae eu ceisiadau i arsylwi wedi eu caniatáu gan y Comisiwn Etholiadol neu gynrychiolwyr sefydliadau y mae’r Comisiwn Etholiadol wedi caniatáu eu ceisiadau i arsylwi).

Pan fo’r bleidlais mewn etholiad prif ardal yn cael ei chyfuno â’r bleidlais mewn etholiad perthnasol, mae’r sefyllfa gyfreithiol yn cael ei llywodraethu’n rhannol gan y Rheolau hyn ac yn rhannol gan Reoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cyfuno Pleidleisiau) (Cymru a Lloegr) 2004 (O.S. 2004/294) (“Rheoliadau Cyfuno Pleidleisiau”). Mae rôl y swyddog canlyniadau yn etholiad y brif ardal yn amrywio yn ôl a yw’r swyddog canlyniadau hwnnw hefyd yn “swyddog canlyniadau cydlynol”. Diffinnir hyn yn rheol 5(4) o’r Rheolau hyn fel y person sydd, o dan reoliad 4 o’r Rheoliadau Cyfuno Pleidleisiau, yn arfer swyddogaethau a bennir yn rheoliad 5 o’r Rheoliadau hynny.

Mae effaith hyn yn dibynnu ar y cyfuniad. Er enghraifft, pan gyfunir y bleidlais mewn etholiad cyffredinol seneddol â’r bleidlais mewn etholiad prif ardal, y swyddog canlyniadau yn yr etholiad cyffredinol seneddol yw’r swyddog canlyniadau cydlynol ac sy’n arfer y swyddogaethau a bennir yn rheoliad 5 yn etholiad y brif ardal (yn ogystal â swyddogaethau arferol y swyddog canlyniadau yn yr etholiad cyffredinol seneddol). Ar y llaw arall, pan gyfunir y bleidlais mewn etholiad cymuned â’r bleidlais mewn etholiad prif ardal cyffredin, y swyddog canlyniadau yn etholiad y brif ardal yw’r swyddog canlyniadau cydlynol ac sy’n arfer y swyddogaethau a bennir yn rheoliad 5 yn etholiad y gymuned (yn ogystal â swyddogaethau arferol y swyddog canlyniadau yn etholiad y brif ardal).

Un o ganlyniadau hyn yw, er mwyn deall y cyfrifoldebau dros arfer swyddogaethau o dan reolau penodol yn Rhan 3 o Atodlen 2, bod angen darllen y rheolau hynny a’r Rheoliadau Cyfuno Pleidleisiau ill dau. I helpu’r darllenydd, mae’r rheolau dan sylw yn cynnwys rhai arwyddbyst i’r Rheoliadau Cyfuno Pleidleisiau. Er enghraifft, mae rheol 29 o Atodlen 2 yn nodi swyddogaeth y swyddog canlyniadau o sicrhau nifer digonol o orsafoedd pleidleisio yn etholiad y brif ardal. Os swyddog canlyniadau etholiad y brif ardal yw’r swyddog canlyniadau cydlynol, mae’r swyddog canlyniadau yn yr etholiad hwnnw yn arfer y swyddogaeth hon yn y ffordd arferol (ac mae hefyd yn arfer y swyddogaeth gymaradwy yn yr etholiad arall yn unol â’r Rheoliadau Cyfuno Pleidleisiau).

Er hynny, fel yr esboniwyd, mae yna achosion pan na fydd y swyddog canlyniadau yn swyddog canlyniadau cydlynol, er enghraifft, pan fo’r etholiad arall yn etholiad cyffredinol seneddol. Yn yr enghraifft honno, swyddog canlyniadau’r etholiad cyffredinol seneddol fydd y swyddog canlyniadau cydlynol ac o dan y Rheoliadau Cyfuno Pleidleisiau bydd yn arfer y swyddogaeth o sicrhau nifer digonol o orsafoedd pleidleisio yn etholiad y brif ardal (yn ogystal ag yn yr etholiad cyffredinol seneddol). Gan hynny, mae rheol 29(4) yn cynnwys arwyddbost at y Rheoliadau hynny gyda’r nod o helpu’r darllenydd.

Y swyddogaethau eraill yn Rhan 3 o Atodlen 2 sydd weithiau’n arferadwy o dan y Rheoliadau Cyfuno Pleidleisiau gan y swyddog canlyniadau mewn etholiad perthnasol yn hytrach na swyddog canlyniadau prif ardal yw’r canlynol (ac mae’r rheolau perthnasol felly yn cynnwys arwyddbyst i helpu’r darllenydd):

  • paratoi’r rhestr rhifau cyfatebol o dan reol 23 neu, os nad yw’r trafodion ar ddyroddi a derbyn papurau pleidleisio post yn etholiad y brif ardal a’r etholiad perthnasol yn cael eu cymryd gyda’i gilydd, paratoi Rhan 2 o’r rhestr;

  • cyhoeddi hysbysiad o leoliad gorsafoedd pleidleisio etc. o dan reol 27(3) i (5);

  • dyroddi papurau pleidleisio post o dan reol 28 pan fo trafodion dyroddi a derbyn papurau pleidleisio post yn etholiad y brif ardal a’r etholiad perthnasol yn cael eu cymryd gyda’i gilydd;

  • darparu gorsafoedd pleidleisio o dan reol 29;

  • penodi swyddogion llywyddu a chlercod o dan reol 30;

  • darparu cyfarpar mewn gorsafoedd pleidleisio o dan reol 32;

  • hysbysu, o dan reol 35, gofynion adran 66(1), (3) a (6) o Ddeddf 1983;

  • marcio’r rhestrau o bleidleiswyr post a phleidleiswyr drwy’r post drwy ddirprwy o dan reol 36, pan fo trafodion dyroddi a derbyn papurau pleidleisio post yn etholiad y brif ardal a’r etholiad perthnasol yn cael eu cymryd gyda’i gilydd;

  • llofnodi tystysgrifau o dan reol 37(5) sy’n ymwneud â dyletswyddau staff y swyddog canlyniadau;

  • awdurdodi unigolion o dan reol 38(3)(b) a gaiff symud y rhai sy’n camymddwyn o orsafoedd pleidleisio.

Rhan 4

Mae Rhan 4 o’r ddwy Atodlen (rheolau 52 i 60 yn Atodlen 1 a rheolau 52 i 64 yn Atodlen 2) yn nodi’r rheolau sy’n llywodraethu’r broses o gyfrif pleidleisiau a datgan y canlyniad mewn etholiadau lle ceir gornest, gan gynnwys rheolau ynghylch pwy gaiff fod yn bresennol, y trefniadau ymarferol yn y cyfrif, y camau rhagarweiniol y mae’n rhaid eu cymryd, y dull cyfrif, gwrthod papurau pleidleisio, ailgyfrifiadau a’r camau y mae’n rhaid eu cymryd pan ddatgenir y canlyniad.

Mae cynnwys y rheolau yn Rhan 4 o Atodlen 1 a’r rheolau yn Rhan 4 o Atodlen 2 yn weddol debyg. Mae pleidleisiau yn etholiad y brif ardal yn cael eu cyfrif yn yr un ffordd p’un a yw’r bleidlais yn yr etholiad wedi ei chyfuno â’r bleidlais mewn etholiad perthnasol ai peidio. Er hynny, ceir rhai gwahaniaethau yng nghynnwys y rheolau. Y rheswm am hyn yw bod angen i’r rheolau yn Rhan 4 o Atodlen 2, sy’n gymwys pan fo’r bleidlais yn etholiad y brif ardal wedi ei chyfuno â’r bleidlais mewn etholiad perthnasol, wahaniaethu rhwng y sefyllfa lle mae swyddog canlyniadau etholiad y brif ardal yn swyddog canlyniadau cydlynol a’r sefyllfa lle swyddog canlyniadau arall yw’r swyddog canlyniadau cydlynol. Yn benodol, pan fo swyddog canlyniadau etholiad y brif ardal yn swyddog canlyniadau cydlynol, mae’r swyddog canlyniadau yn gwahanu’r papurau pleidleisio a ddefnyddiwyd yn y bleidlais a gyfunwyd fesul etholiad (rheol 55).

Pan nad swyddog canlyniadau etholiad y brif ardal yw’r swyddog canlyniadau cydlynol, mae’r swyddog canlyniadau yn cael papurau pleidleisio etholiad y brif ardal oddi wrth y swyddog canlyniadau cydlynol ar ôl iddynt gael eu gwahanu oddi wrth y papurau pleidleisio eraill (rheol 57). Er mwyn helpu gyda dealltwriaeth, mae rheol 52 yn rhoi trosolwg, sy’n nodi pa reolau sy’n gymwys pan fo swyddog canlyniadau’r brif ardal yn swyddog cydlynol a pha reolau sy’n gymwys pan nad y swyddog canlyniadau’r brif ardal yw’r swyddog cydlynol.

Mae rheolau penodol yn Rhan 4 yn cyfeirio at ddeddfwriaeth arall. Lle byddai esboniad ar y ddeddfwriaeth arall honno o gymorth, fe’i rhoddir isod.

  • Mae rheol 53 o’r ddwy Atodlen yn cynnwys ymhlith y rhai sydd â hawl i fod yn bresennol mewn gorsaf bleidleisio “personau sydd â hawl i fod yn bresennol yn rhinwedd unrhyw un neu ragor o adrannau 6A i 6D o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000” (gweler rheol 53(1)(e)). Fel yr esboniwyd uchod, y personau sydd â hawl i fod yn bresennol yn rhinwedd yr adrannau hyn yw cynrychiolwyr y Comisiwn Etholiadol a sylwedyddion achrededig.

  • Mae rheol 53(6) o Atodlen 1 a rheol 53(8) o Atodlen 2 yn ei gwneud yn ofynnol i’r swyddog canlyniadau wneud trefniadau i bawb sy’n bresennol wrth i’r pleidleisiau gael eu cyfrif heblaw cwnstabliaid ar ddyletswydd gael hysbysiad sy’n nodi darpariaethau adran 66(2) a (6) o Ddeddf 1983. Mae adran 66(2) yn ei gwneud yn ofynnol i bawb sy’n bresennol wrth i’r pleidleisiau gael eu cyfrif gadw cyfrinachedd y bleidlais ac mae’n eu gwahardd rhag canfod neu geisio canfod y rhif neu’r marc adnabod unigryw arall ar gefn y papur pleidleisio neu gyfathrebu â neb am yr ymgeisydd y rhoddwyd pleidlais benodol iddo. O dan adran 66(6), mae’n drosedd peidio â chydymffurfio â’r gofynion a’r gwaharddiadau a nodir yn yr adran.

  • Mae rheol 54(8)(c) o Atodlen 1 a rheol 58(3)(c) o Atodlen 2 yn cyfeirio at achosion pan fo camau i wirio dyddiad geni a llofnod etholwr neu ddirprwy sy’n pleidleisio drwy’r post wedi eu rhagnodi gan reoliadau o dan Ddeddf 1983. Adeg gwneud y Rheolau hyn, Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001 sy’n gwneud darpariaeth ar gyfer dilysu.

Rhan 5

Mae Rhan 5 o’r ddwy Atodlen (rheolau 61 i 66 o Atodlen 1 a rheolau 65 i 70 o Atodlen 2) yn nodi’r rheolau sy’n llywodraethu’r hyn sy’n digwydd i bapurau pleidleisio a dogfennau eraill a ddefnyddir mewn etholiadau, gan gynnwys rheolau ynghylch danfon dogfennau i swyddogion cofrestru, pwerau llysoedd i wneud gorchmynion sy’n ymwneud â’r dogfennau a phryd y mae’n rhaid eu dinistrio.

Mae cynnwys y rheolau yn Rhan 5 o Atodlen 1 a’r rheolau yn Rhan 5 o Atodlen 2 yn weddol debyg. Ceir mân wahaniaethau am fod angen i’r rheolau yn Atodlen 2 (sy’n gymwys pan fo’r bleidlais yn etholiad y brif ardal wedi ei chyfuno â’r bleidlais mewn etholiad perthnasol) wahaniaethu rhwng y sefyllfa lle mae swyddog canlyniadau etholiad y brif ardal yn swyddog canlyniadau cydlynol a’r sefyllfa lle swyddog canlyniadau arall yw’r swyddog canlyniadau cydlynol. Yn benodol, pan fo’r swyddog canlyniadau yn swyddog canlyniadau cydlynol, mae’r swyddog canlyniadau yn gyfrifol am ddanfon ystod ehangach o ddogfennau i’r swyddog cofrestru (rheol 66 o Atodlen 2).

Rhan 6

Mae Rhan 6 yn nodi’r rheolau sy’n llywodraethu’r hyn sy’n digwydd pan fydd ymgeisydd yn marw. Mae’r rheolau’n sicrhau bod trafodion yr etholiad yn dod i ben a hefyd yn ymdrin â materion gweinyddol canlyniadol (er enghraifft, i sicrhau bod dogfennau a ddefnyddir yn yr etholiad yn cael eu hanfon at y swyddog cofrestru). Fel y nodir gan y ddarpariaeth arwyddbostio yn rheol 67(6) o Atodlen 1 a rheol 71(9) o Atodlen 2, mae adran 39 o Ddeddf 1983 yn ymdrin yn fwy cyffredinol â’r hyn sy’n digwydd pan fo ymgeisydd yn marw a phan fo’r bleidlais, o ganlyniad, yn cael ei diddymu neu pan roddir y gorau iddi. Mae’n ei gwneud yn ofynnol i’r swyddog canlyniadau orchymyn cynnal etholiad newydd ond mae hefyd yn darparu nad yw enwebiadau newydd yn ofynnol yn achos ymgeiswyr sy’n dal wedi eu henwebu’n ddilys yn yr etholiad hwnnw.

Asesiad Effaith RheoleiddiolLL+C

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheolau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheolau hyn. Gellir cael copi oddi wrth yr Is-adran Democratiaeth Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ ac ar wefan Llywodraeth Cymru ar www.llyw.cymru.

(1)

1983 p. 2. Mewnosodwyd adran 36A gan adran 13(3) o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (dsc 1).

(2)

1993 p. 38. Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol, i’r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), ac Atodlen 1 iddi. Trosglwyddwyd y swyddogaethau hynny wedi hynny i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32). Gweler hefyd adran 59A o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 ac Atodlen 3A iddi. Caniateir arfer y pŵer i wneud gorchymyn o dan adran 26(2) o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993 i wneud rheolau yn rhinwedd adran 39 o Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 (dccc 4).

(3)

Gweler hefyd adran 40 o Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 am ddarpariaeth ynghylch yr weithdrefn sy’n gymwys i’r offeryn hwn.

(5)

O.S. 2004/294 fel y’i diwygiwyd gan baragraff 17 o Atodlen 2 i Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 a chan O.S. 2006/3278, O.S. 2012/1917, O.S. 2014/920 ac O.S. 2015/654.

(7)

2011 p. 13. Diwygiwyd Pennod 6 o Ran 1 gan Ddeddf Troseddu a’r Llysoedd 2013 (p. 22) (Atodlen 8, paragraff 184), gan Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 (dccc 4) (Atodlen 1, paragraff 5), gan Ddeddf Plismona a Throsedd 2017 (p. 3) (adran 122(1), Atodlen 2, paragraff 117 ac Atodlen 9, paragraff 73) a chan Ddeddf Cymru 2017 (p. 4) (adran 8). Fe’i diwygiwyd hefyd gan O.S. 2014/268, O.S. 2015/1376, O.S. 2015/1526, O.S. 2016/997, O.S. 2017/470 ac O.S. 2018/1310.

(8)

Diwygiwyd adran 202(1) gan Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1985 (p. 50) (Atodlen 2, paragraff 3), gan Ddeddf Awdurdod Llundain Fwyaf 1999 (p. 29) (Atodlen 3, paragraff 38), gan Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 2000 (p. 2) (Atodlen 6, paragraff 9), gan Ddeddf Gweinyddu Etholiadol 2006 (p. 22) (Atodlen 1, paragraffau 13, 76 ac 128) a chan Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (Atodlen 2, paragraff 2(17)). Mae diwygiadau eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol i’r Rheolau hyn.

(10)

Diwygiwyd adran 28 gan adran 48 o Ddeddf Gweinyddu Etholiadol 2006.

(11)

Mewnosodwyd adran 28A gan adran 49(1) o Ddeddf Gweinyddu Etholiadol 2006.

(12)

Gweler Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001 (O.S. 2001/341); yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 2002/871, O.S. 2006/752, O.S. 2006/2910 ac O.S. 2013/3198.

(13)

Diwygiwyd adran 202(1) er mwyn mewnosod diffiniad o “qualifying address” gan baragraff 22 o Atodlen 1 i Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 2000.

(14)

Rhoddwyd adrannau 13 i 13B o Ddeddf 1983 yn lle adran 13 o’r Ddeddf honno gan baragraff 6 o Atodlen 1 i Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 2000 (p. 2). Mewnosodwyd adran 13B(3B) a (3D) gan adran 11(4) o Ddeddf Gweinyddu Etholiadol 2006.

(15)

Diwygiwyd adran 66 o Ddeddf 1983 gan baragraffau 82 ac 86 o Atodlen 1 i Ddeddf Gweinyddu Etholiadol 2006 a pharagraff 3 o Atodlen 3 i Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1985; mae diwygiadau eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol i’r Rheolau hyn.

(16)

2002 p. 30. Diwygiwyd adran 38 gan adran 38 o Ddeddf Plismona a Throseddu 2017.

(17)

Mewnosodwyd adrannau 6A i 6D gan adran 29 o Ddeddf Gweinyddu Etholiadol 2006.

(18)

Diwygiwyd adran 39 gan adran 19 o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1985, paragraff 68 Atodlen 16 i Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 (p. 19) a pharagraff 2(7) o Atodlen 2 i Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021.

(19)

O.S. 2001/341. Diwygiwyd rheoliad 65 gan baragraff 16(4) o Atodlen 2 i Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021.

(20)

2000 p. 22. Diwygiwyd adran 44 gan baragraff 18(2) o Atodlen 21 i Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000. I’r graddau y maent yn arferadwy o fewn cymwysedd datganoledig, trosglwyddwyd swyddogaethau Gweinidog y Goron o dan adran 44 i Weinidogion Cymru gan erthygl 45 o Orchymyn Gweinidogion Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 2018 (O.S. 2018/644), ac Atodlen 1 iddo.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

See additional information alongside the content

Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

Timeline of Changes

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: