- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
20.—(1) Ar ôl cyfarfod CBC rhaid i’r cyd-bwyllgor corfforedig—
(a)cyhoeddi’n electronig y dogfennau a restrir ym mharagraff (2), a
(b)sicrhau bod y dogfennau hynny’n parhau i fod ar gael yn electronig i aelodau’r cyhoedd hyd nes y daw’r cyfnod o chwe mlynedd sy’n dechrau â dyddiad y cyfarfod i ben.
(2) Y dogfennau yw—
(a)cofnodion, neu gopi o gofnodion, y cyfarfod, gan hepgor pa rannau bynnag o gofnodion y trafodion nad oedd y cyfarfod yn agored i’r cyhoedd yn eu hystod sy’n datgelu gwybodaeth esempt,
(b)pan fo hynny’n gymwys, crynodeb o dan baragraff (4),
(c)copi o’r agenda ar gyfer y cyfarfod, a
(d)copi o ba rannau bynnag o unrhyw adroddiad ar gyfer y cyfarfod sy’n ymwneud ag unrhyw eitem yr oedd y cyfarfod yn agored i’r cyhoedd yn ei hystod.
(3) Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl cyfarfod CBC, a pha un bynnag cyn diwedd saith niwrnod gwaith gan ddechrau â’r diwrnod y cynhelir y cyfarfod, rhaid i’r cyd-bwyllgor corfforedig gyhoeddi’n electronig nodyn yn nodi—
(a)enwau’r aelodau a fynychodd y cyfarfod, ac unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb;
(b)unrhyw ddatganiadau o fuddiant;
(c)unrhyw benderfyniad a wnaed yn y cyfarfod, gan gynnwys canlyniadau unrhyw bleidleisiau, ond heb gynnwys unrhyw beth sy’n ymwneud â phenderfyniad a wnaed pan nad oedd y cyfarfod yn agored i’r cyhoedd sy’n datgelu gwybodaeth esempt.
(4) Pan nad yw’r dogfennau a gyhoeddwyd o dan baragraff (1)(a) a (3)(c) yn darparu i aelodau o’r cyhoedd gofnod rhesymol deg a chydlynol o’r trafodion cyfan neu ran ohonynt, a hynny o ganlyniad i hepgor deunydd sy’n datgelu gwybodaeth esempt, rhaid i swyddog priodol lunio crynodeb ysgrifenedig o’r trafodion neu’r rhan, yn ôl y digwydd, sy’n darparu cofnod o’r fath heb ddatgelu’r wybodaeth esempt.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: