Search Legislation

Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2021

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Offerynnau Statudol Cymru

2021 Rhif 1349 (Cy. 348)

Llywodraeth Leol, Cymru

Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2021

Gwnaed

am 9.30 a.m. ar 1 Rhagfyr 2021

Yn dod i rym

Rheoliadau 10, 27, 31 a 32

6 Mai 2022

Y gweddill

3 Rhagfyr 2021

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 80(1), 83, 84 a 174 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021(1) yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Yn unol ag adran 82(2) a (3)(a) a (d) o’r Ddeddf honno, mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â’r personau hynny y maent yn ystyried eu bod yn briodol ar ddrafft o’r rheoliadau, ac wedi rhoi hysbysiad o’u bwriad i’r prif gynghorau yn ardaloedd y cyd-bwyllgorau corfforedig ac i’r cyd-bwyllgorau corfforedig.

Gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad yn unol ag adran 174(4) a (5) o’r Ddeddf honno.

RHAN 1Cyflwyniad

Enwi a dod i rym

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2021.

(2Daw’r Rheoliadau hyn, ac eithrio’r darpariaethau a grybwyllir ym mharagraff (3), i rym ar 3 Rhagfyr 2021.

(3Daw’r rheoliadau a ganlyn i rym ar 6 Mai 2022—

(a)rheoliad 10 (anghymhwyso swyddogion a staff penodol a chyfyngiadau gwleidyddol arnynt);

(b)rheoliad 27 (darllediadau electronig);

(c)rheoliad 31 (dyletswydd i wneud cynlluniau deisebau);

(d)rheoliad 32 (dyletswydd i annog pobl leol i gyfranogi).

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “cyd-bwyllgor corfforedig” (“corporate joint committee”) yw cyd-bwyllgor corfforedig a sefydlir gan reoliadau o dan Ran 5 o Ddeddf 2021;

ystyr “Deddf 1972” (“the 1972 Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol 1972(2);

ystyr “Deddf 1988” (“the 1988 Act”) yw Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988(3);

ystyr “Deddf 1989” (“the 1989 Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol a Thai 1989(4);

ystyr “Deddf 2011” (“the 2011 Act”) yw Deddf Lleoliaeth 2011(5);

ystyr “Deddf 2021” (“the 2021 Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021;

ystyr “Mesur 2011” (“the 2011 Measure”) yw Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011(6);

ystyr “rheolau sefydlog” (“standing orders”) yw rheolau sefydlog cyd-bwyllgor corfforedig a wneir o dan y Rheoliadau sefydlu;

ystyr “y Rheoliadau sefydlu” (“the establishment Regulations”) yw—

(a)

Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd (Cymru) 2021(7),

(b)

Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig y Canolbarth (Cymru) 2021(8),

(c)

Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig De-ddwyrain (Cymru) 2021(9), a

(d)

Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig y De-orllewin (Cymru) 2021(10).

RHAN 2Swyddogion gweithrediaeth

Prif weithredwr

Dyletswydd i benodi prif weithredwr

3.—(1Rhaid i gyd-bwyllgor corfforedig benodi prif weithredwr.

(2Rhaid i brif weithredwr cyd-bwyllgor corfforedig—

(a)adolygu’n barhaus bob un o’r materion a bennir ym mharagraff (3), a

(b)pan fo’r prif weithredwr yn ystyried ei bod yn briodol gwneud hynny, gwneud adroddiad i’r cyd-bwyllgor corfforedig yn nodi cynigion y prif weithredwr mewn cysylltiad ag unrhyw un neu ragor o’r materion hynny.

(3Y materion yw—

(a)y modd y cydgysylltir sut y mae’r cyd-bwyllgor corfforedig yn arfer ei wahanol swyddogaethau,

(b)trefniadau’r cyd-bwyllgor corfforedig mewn perthynas ag—

(i)cynllunio ariannol,

(ii)rheoli asedau, a

(iii)rheoli risg,

(c)nifer a graddau’r staff sy’n ofynnol gan y cyd-bwyllgor corfforedig er mwyn arfer ei swyddogaethau,

(d)trefniadaeth staff y cyd-bwyllgor corfforedig,

(e)penodi staff y cyd-bwyllgor corfforedig, ac

(f)y trefniadau ar gyfer rheoli staff y cyd-bwyllgor corfforedig, gan gynnwys unrhyw drefniadau ar gyfer hyfforddi a datblygu.

(4Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl llunio adroddiad at ddibenion paragraff (2)(b), rhaid i’r prif weithredwr drefnu bod yr adroddiad yn cael ei anfon at bob aelod o’r cyd-bwyllgor corfforedig.

(5Rhaid i’r cyd-bwyllgor corfforedig ystyried adroddiad a wnaed o dan baragraff (2)(b) mewn cyfarfod a gynhelir yn ddim hwyrach na thri mis ar ôl i gopïau o’r adroddiad gael eu hanfon at yr aelodau am y tro cyntaf.

(6Rhaid i gyd-bwyllgor corfforedig ddarparu i’w brif weithredwr y staff, yr adeiladau neu’r ystafelloedd a’r adnoddau eraill hynny sydd, ym marn y prif weithredwr, yn ddigonol i alluogi cyflawni dyletswyddau’r prif weithredwr o dan y rheoliad hwn.

(7Nid yw rheoliad 13 (trefniadau ar gyfer cyflawni swyddogaethau) yn gymwys i’r ddyletswydd a osodir ar gyd-bwyllgor corfforedig gan baragraff (5).

Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol

4.—(1Ym Mesur 2011—

(a)wrth gymhwyso adran 142 (swyddogaethau sy’n ymwneud â thaliadau i aelodau) i gyd-bwyllgor corfforedig, mae’r cyfeiriad at 1 Ebrill 2012 i’w ddarllen fel cyfeiriad at 1 Ebrill 2022;

(b)yn adran 143A(7) (swyddogaethau sy’n ymwneud â chydnabyddiaeth ariannol prif weithredwyr), yn y diffiniad o “prif weithredwr”, ar ôl “Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021” mewnosoder “neu brif weithredwr a benodir gan gyd-bwyllgor corfforedig”;

(c)yn adran 144 (awdurdodau perthnasol, aelodau etc.)—

(i)yn is-adran (2), o flaen paragraff (e) mewnosoder—

(db)cyd-bwyllgor corfforedig;;

(ii)yn is-adran (4) hepgorer “ac” ar ôl paragraff (b);

(iii)yn is-adran (4), ar ôl paragraff (c) mewnosoder “, a” ac yna mewnosoder—

(d)person sy’n aelod o is-bwyllgor i gyd-bwyllgor corfforedig a chanddo hawl i bleidleisio ar unrhyw gwestiwn sydd i’w benderfynu gan yr is-bwyllgor hwnnw;;

(iv)yn is-adran (5), ar ôl “awdurdod perthnasol” mewnosoder “heblaw cyd-bwyllgor corfforedig”;

(v)yn is-adran (8), yn lle “(2)(e)” rhodder “(2)(db) neu (e)”.

(2At ddibenion y rheoliad hwn (ac felly wrth estyn adran 143A o Fesur 2011 i awdurdod perthnasol sy’n gyd-bwyllgor corfforedig), hyd nes y daw’r diwygiadau a wneir i adran 143A o Fesur 2011 gan baragraff 15 o Atodlen 5 i Ddeddf 2021 i rym, mae adran 143A i’w darllen fel pe bai’r diwygiadau hynny mewn grym.

Prif swyddog cyllid

Dyletswydd i benodi prif swyddog cyllid

5.—(1Mae adran 151 o Ddeddf 1972 (dyletswydd awdurdod lleol i benodi swyddog â chyfrifoldeb am weinyddu ariannol) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2Daw’r testun presennol yn is-adran (1).

(3Ar ôl yr is-adran honno mewnosoder —

(2) This section applies to a corporate joint committee as it applies to a local authority.

Swyddogaethau adrodd prif swyddog cyllid

6.—(1Mae Deddf 1988 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2Yn adran 114 (swyddogaethau swyddog cyfrifol o ran adroddiadau), yn is-adran (3A)—

(a)ym mharagraff (a), ar ôl “Local Government and Housing Act 1989” mewnosoder “or, in the case of a corporate joint committee, the person who is for the time being appointed as the authority’s chief executive”;

(b)ym mharagraff (b), yn lle “that Act” rhodder “the Local Government and Housing Act 1989”.

(3Yn adran 115 (dyletswyddau awdurdodau o ran adroddiadau), ar ôl is-adran (4A) mewnosoder—

(4B) In the case of a corporate joint committee, regulation 13 of the Corporate Joint Committees (General) (No. 2) (Wales) Regulations 2021 (arrangements for the discharge of functions) does not apply to the duty under subsection (2).

Swyddog monitro

Dynodi swyddog monitro ac adroddiadau ganddo

7.—(1Mae adran 5 o Ddeddf 1989 (dynodi swyddog monitro ac adroddiadau ganddo) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2O flaen is-adran (1C) mewnosoder—

(1BB) The officer designated under subsection (1)(a) above by a relevant authority which is a corporate joint committee may not be the authority’s chief executive.

(3Yn is-adran (3)(a), ar ôl “chief finance officer” mewnosoder “or, in the case of a relevant authority which is a corporate joint committee, with the person who is for the time being appointed as the authority’s chief executive and with their chief finance officer”.

(4Ar ôl is-adran (5) mewnosoder—

(5A) In the case of a relevant authority which is a corporate joint committee, regulation 13 of the Corporate Joint Committees (General) (No. 2) (Wales) Regulations 2021 (arrangements for the discharge of functions) does not apply to the duty imposed by virtue of subsection (5)(a).

(5Yn is-adran (8), yn y diffiniad o “relevant authority”, ar ôl “below” mewnosoder “, a corporate joint committee,”.

Swyddogaethau swyddog monitro o ran rhoi cefnogaeth a chyngor

8.—(1Rhaid i’r swyddog monitro a ddynodwyd gan gyd-bwyllgor corfforedig o dan adran 5 o Ddeddf 1989 ddarparu cefnogaeth a chyngor i—

(a)y cyd-bwyllgor corfforedig mewn perthynas â’i gyfarfodydd;

(b)unrhyw is-bwyllgor i’r cyd-bwyllgor corfforedig;

(c)pob aelod o’r cyd-bwyllgor corfforedig wrth gyflawni ei rôl;

(d)pob person a benodir i is-bwyllgor i’r cyd-bwyllgor corfforedig wrth gyflawni ei rôl.

(2Ond nid yw’r cyfeiriad at gyngor yn is-baragraffau (1)(c) a (d) yn cynnwys cyngor ynghylch a ddylid neu sut y dylid arfer swyddogaethau’r cyd-bwyllgor corfforedig, nac a ddylid bod wedi neu sut y dylid bod wedi eu harfer.

(3Rhaid i’r cyd-bwyllgor corfforedig ddarparu i’r swyddog monitro y staff, yr adeiladau neu’r ystafelloedd a’r adnoddau eraill hynny sydd, ym marn y swyddog monitro, yn ddigonol i alluogi cyflawni swyddogaethau’r swyddog o dan y paragraff hwn.

(4Caiff y swyddog monitro drefnu i’w swyddogaethau o dan y paragraff hwn gael eu cyflawni gan aelod o staff y cyd-bwyllgor corfforedig.

RHAN 3Darpariaethau cyffredinol mewn perthynas â staff

Cyfeiriadau at “proper officer” yn Neddf 1972 ac mewn deddfiadau eraill

9.—(1Pan fo deddfiad yn ymwneud â gweinyddu cyd-bwyllgor corfforedig neu ag arfer ei swyddogaethau, mae unrhyw gyfeiriadau yn y deddfiad hwnnw at “swyddog” i’r cyd-bwyllgor corfforedig i’w dehongli fel cyfeiriadau at aelod o staff y cyd-bwyllgor corfforedig, gan gynnwys person sy’n cael ei drin fel aelod o staff yn rhinwedd paragraff 11(2) o’r Atodlen i bob un o’r Rheoliadau sefydlu.

(2Yn adran 270(3) o Ddeddf 1972 (ystyr “proper officer”), ar ôl “local authority” mewnosoder “, corporate joint committee”.

(3Yn adran 21(3) o Ddeddf 1989 (dehongli Rhan 1), yn y diffiniad o “proper officer”, ym mharagraff (a), ar ôl “Wales” mewnosoder “or a corporate joint committee”.

Anghymhwyso swyddogion a staff penodol a chyfyngiadau gwleidyddol arnynt

10.—(1Mae Deddf 1989 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2Yn adran 1 (anghymhwyso swyddogion a staff penodol a chyfyngiadau gwleidyddol arnynt)—

(a)yn is-adran (1A)—

(i)daw’r geiriau o “holds the post” hyd at y diwedd yn baragraff (a);

(ii)ar ôl y paragraff hwnnw mewnosoder—

(b)holds a politically restricted post under a corporate joint committee.;

(b)ar ôl is-adran (1A) mewnosoder—

(1B) A person shall be disqualified from becoming or remaining a member of a corporate joint committee if that person holds a politically restricted post under any corporate joint committee or local authority in Great Britain.;

(c)ar ôl is-adran (11) mewnosoder—

(12) Subsections (5) to (8) of this section apply to a corporate joint committee as they apply to a local authority in Wales.

(3Yn adran 2 (swyddi o dan gyfyngiadau gwleidyddol)—

(a)ar ôl is-adran (1A) mewnosoder—

(1B) For the purposes of this Part the following persons are to be regarded as holding politically restricted posts under a corporate joint committee—

(a)a person appointed as the chief executive of the corporate joint committee;

(b)a person described in subsection (1)(b) to (e);

(c)a person not falling within paragraphs (a) or (b) whose post is for the time being specified by the corporate joint committee in—

(i)the list maintained in accordance with subsection (2) and any directions under section 3;

(ii)the list maintained in accordance with regulation 24(2) of the Corporate Joint Committees (General) (No. 2) (Wales) Regulations 2021.;

(b)ar ôl is-adran (10) mewnosoder—

(10A) This section, other than subsection (1), applies in relation to a corporate joint committee as it applies in relation to a local authority in Wales.

(10B) In the application of subsection (2) to a corporate joint committee the reference to section 100G(2) of the Local Government Act 1972 is to be read as a reference to regulation 24(2) of the Corporate Joint Committees (General) (No. 2) (Wales) Regulations 2021.

(10C) In the application of subsection (4) to a corporate joint committee—

(a)the reference to two months is to be read as a reference to six months, and

(b)the reference to the coming into force of this section is to be read as a reference to—

(i)the coming into force of this subsection, or

(ii)the date on which the corporate joint committee is established,

whichever is the later.

(4Yn adran 3 (rhoi a goruchwylio esemptiadau)—

(a)yn is-adran (5), ym mharagraff (b), ar ôl “Local Government Act 1972” mewnosoder “, regulation 24(2) of the Corporate Joint Committees (General) (No. 2) (Wales) Regulations 2021”;

(b)ar ôl is-adran (8) mewnosoder—

(9) In this section a reference to a local authority includes a reference to a corporate joint committee.

Dyletswydd i fabwysiadu rheolau sefydlog mewn cysylltiad â staff

11.  Yn adran 8 o Ddeddf 1989 (dyletswydd awdurdodau perthnasol i fabwysiadu rheolau sefydlog mewn cysylltiad â staff), yn is-adran (5), ar ôl paragraff (a), mewnosoder—

(aa)in relation to Wales, means a corporate joint committee;.

Atebolrwydd o ran tâl

12.—(1Yn Neddf 2011, yn Rhan 1—

(a)wrth gymhwyso Pennod 8 i gyd-bwyllgor corfforedig—

(i)yn adran 38(1), mae’r cyfeiriad at flwyddyn ariannol 2012-13 i’w ddarllen fel cyfeiriad at flwyddyn ariannol 2022-23;

(ii)yn adran 39(2), mae’r cyfeiriad at 31 Mawrth 2012 i’w ddarllen fel cyfeiriad at 31 Mawrth 2022;

(iii)yn adran 41(1), mae’r cyfeiriad at 1 Ebrill 2012 i’w ddarllen fel cyfeiriad at 1 Ebrill 2022;

(b)yn adran 42 (arfer swyddogaethau), ar ôl is-adran (2) mewnosoder—

(2A) In the case of a relevant authority which is a corporate joint committee, regulation 13 of the Corporate Joint Committees (General) (No. 2) (Wales) Regulations 2021 (arrangements for the discharge of functions) does not apply to the function of passing a resolution under this Chapter.;

(c)yn adran 43 (dehongli), ar ôl is-adran (1)(j) mewnosoder—

(k)a corporate joint committee established by regulations made under Part 5 of the Local Government and Elections (Wales) Act 2021.

RHAN 4Swyddogaethau

Cyflawni swyddogaethau gan bersonau eraill

13.—(1Yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth ddatganedig sydd yn cael ei chynnwys yn y Rheoliadau hyn neu mewn unrhyw ddeddfiad arall, caiff cyd-bwyllgor corfforedig drefnu i unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau gael eu cyflawni gan—

(a)is-bwyllgor;

(b)aelod o staff;

(c)unrhyw gyd-bwyllgor corfforedig arall;

(d)unrhyw gyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru.

(2Ond nid yw unrhyw drefniant a wneir gan gyd-bwyllgor corfforedig o dan baragraff (1) yn atal y cyd-bwyllgor corfforedig hwnnw rhag arfer y swyddogaethau y mae’r trefniant yn ymwneud â hwy.

(3Pan fo cyd-bwyllgor corfforedig wedi trefnu i unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau gael eu cyflawni gan is-bwyllgor o dan baragraff (1)(a), caiff yr is-bwyllgor drefnu i unrhyw un neu ragor o’r swyddogaethau hynny gael eu cyflawni gan aelod o staff y cyd-bwyllgor corfforedig, onid yw’r cyd-bwyllgor corfforedig wedi cyfarwyddo fel arall.

(4Ond nid yw unrhyw drefniant a wneir gan is-bwyllgor o dan baragraff (3) yn atal yr is-bwyllgor hwnnw rhag arfer y swyddogaethau y mae’r trefniant yn ymwneud â hwy.

(5Pan fo cyd-bwyllgor corfforedig wedi trefnu i unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau gael eu cyflawni o dan baragraff (1)(c) neu (d) yna, yn ddarostyngedig i delerau’r trefniant, caiff y corff sydd wedi ei awdurdodi i gyflawni’r swyddogaethau hynny drefnu iddynt gael eu cyflawni gan bwyllgor neu is-bwyllgor i’r corff hwnnw neu gan aelod o staff y corff hwnnw.

(6Yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth ddatganedig sydd wedi ei chynnwys yn y Rheoliadau hyn neu mewn unrhyw ddeddfiad arall, caiff dau neu ragor o gyd-bwyllgorau corfforedig gyflawni unrhyw un neu ragor o’u swyddogaethau ar y cyd.

(7Pan fo dau neu ragor o gyd-bwyllgorau corfforedig wedi trefnu cyflawni unrhyw un neu ragor o’u swyddogaethau ar y cyd o dan baragraff (6) cânt hefyd drefnu i aelod o staff gyflawni’r swyddogaethau hynny.

(8Pan fo dau neu ragor o gyd-bwyllgorau corfforedig wedi trefnu cyflawni unrhyw un neu ragor o’u swyddogaethau ar y cyd o dan baragraff (6) mae unrhyw ddeddfiad sy’n ymwneud ag—

(a)y swyddogaethau hynny,

(b)y cyd-bwyllgorau corfforedig sydd i’w cyflawni, neu

(c)yr ardaloedd y maent i’w cyflawni mewn cysylltiad â hwy,

i’w ddehongli yn unol â pharagraff (9).

(9Rhaid darllen deddfiad y cyfeirir ato ym mharagraff (8) fel pe bai’n cynnwys pob addasiad sy’n angenrheidiol i alluogi cyflawni’r swyddogaethau y cyfeirir atynt yn y paragraff hwnnw—

(a)gan y cyd-bwyllgorau corfforedig, a

(b)mewn cysylltiad â’r ardaloedd,

y cyfeirir atynt yn y paragraff hwnnw (boed yn unol â threfniadau o dan baragraff (6) neu fel arall).

(10Mae cyfeiriadau yn y rheoliad hwn at gyflawni unrhyw un neu ragor o swyddogaethau cyd-bwyllgor corfforedig yn cynnwys cyfeiriadau at wneud unrhyw beth y bwriedir iddo hwyluso cyflawni unrhyw un neu ragor o’r swyddogaethau hynny, neu sy’n ffafriol i hynny neu’n gysylltiedig â hynny.

(11Nid oes dim yn y rheoliad hwn yn effeithio ar weithrediad Deddf Awdurdodau Lleol (Nwyddau a Gwasanaethau) 1970(11).

Is-bwyllgorau

Is-bwyllgorau

14.—(1Caiff cyd-bwyllgor corfforedig benodi un neu ragor o is-bwyllgorau—

(a)at ddiben cyflawni unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau yn unol â threfniadau a wnaed o dan reoliad 13 (cyflawni swyddogaethau gan bersonau eraill) o Reoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2021;

(b)i gynghori’r cyd-bwyllgor corfforedig ar unrhyw fater sy’n ymwneud â chyflawni unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau.

(2Caiff is-bwyllgor a benodir o dan baragraff (1) gynnwys aelodau nad ydynt yn aelodau o’r cyd-bwyllgor corfforedig, neu fod wedi ei gyfansoddi’n gyfan gwbl o aelodau o’r fath.

(3Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau’r rheoliad hwn ac unrhyw ddarpariaeth ddatganedig mewn unrhyw ddeddfiad arall, rhaid i swyddogaethau is-bwyllgor, nifer aelodau is-bwyllgor a chyfnod swydd pob aelod gael eu pennu gan y cyd-bwyllgor corfforedig.

(4Rhaid nodi gweithdrefnau is-bwyllgor, gan gynnwys unrhyw weithdrefnau pleidleisio pan fo hynny’n briodol, yn rheolau sefydlog y cyd-bwyllgor corfforedig.

RHAN 5Cyfarfodydd a thrafodion

Dilysrwydd trafodion

15.—(1Nid yw trafodion cyd-bwyllgor corfforedig neu is-bwyllgor i gyd-bwyllgor corfforedig wedi eu hannilysu gan—

(a)unrhyw swydd wag ymhlith aelodaeth y cyd-bwyllgor corfforedig neu’r is-bwyllgor;

(b)unrhyw ddiffyg o ran penodi neu gyfethol yr aelodau neu o ran eu cymwysterau.

(2Ond mae paragraff (1)(a) yn ddarostyngedig i unrhyw ofyniad a osodir gan neu o dan unrhyw ddeddfiad neu gan reolau sefydlog y cyd-bwyllgor corfforedig sy’n peri na chaniateir arfer swyddogaeth mewn cyfarfod oni chaiff gofynion penodol eu bodloni ynghylch—

(a)cyfansoddiad y cyd-bwyllgor corfforedig neu’r is-bwyllgor i’r cyd-bwyllgor corfforedig;

(b)cyfansoddiad y cyfarfod, gan gynnwys gofynion o ran bod cworwm yn y cyfarfod.

Lleoliad cyfarfodydd a chaniatáu i’r cyhoedd a’r wasg fynd iddynt

16.—(1Caniateir cynnal cyfarfod CBC—

(a)mewn lleoliad a bennir gan y cyd-bwyllgor corfforedig;

(b)drwy ddulliau o bell;

(c)yn rhannol drwy ddulliau o bell ac yn rhannol mewn lleoliad a bennir gan y cyd-bwyllgor corfforedig.

(2Rhaid i gyfarfod CBC fod yn agored i’r cyhoedd oni bai ac i’r graddau bod y cyhoedd wedi ei wahardd—

(a)yn rhinwedd paragraff (3), neu

(b)drwy benderfyniad a wnaed o dan baragraff (6).

(3Rhaid gwahardd y cyhoedd o gyfarfod CBC yn ystod eitem o fusnes os yw’r cyd-bwyllgor corfforedig yn ystyried ei bod yn debygol, oherwydd natur y busnes hwnnw neu natur y trafodion, pe bai aelodau o’r cyhoedd yn bresennol yn ystod yr eitem honno, y byddai gwybodaeth gyfrinachol yn cael ei datgelu iddynt gan dorri’r rhwymedigaeth o ran cyfrinachedd.

(4Rhaid peidio â chymryd bod unrhyw beth yn y Rhan hon yn awdurdodi nac yn ei gwneud yn ofynnol datgelu gwybodaeth gyfrinachol gan dorri’r rhwymedigaeth o ran cyfrinachedd.

(5At ddibenion paragraffau (3) a (4)—

(a)ystyr “gwybodaeth gyfrinachol” yw—

(i)gwybodaeth a ddarperir i gyd-bwyllgor corfforedig gan un o adrannau’r Llywodraeth, neu brif gyngor, ar delerau (sut bynnag y’u mynegir) sy’n gwahardd datgelu’r wybodaeth i’r cyhoedd, a

(ii)gwybodaeth y gwaherddir ei datgelu i’r cyhoedd gan neu o dan unrhyw ddeddfiad neu gan orchymyn llys, a

(b)o ganlyniad, mae’r cyfeiriadau at y rhwymedigaeth o ran cyfrinachedd i’w dehongli yn unol â hynny.

(6Caiff cyd-bwyllgor corfforedig drwy benderfyniad wahardd y cyhoedd o gyfarfod CBC yn ystod eitem o fusnes os yw’r cyd-bwyllgor corfforedig yn ystyried ei bod yn debygol, oherwydd natur y busnes neu natur y trafodion, pe bai aelodau o’r cyhoedd yn bresennol yn ystod yr eitem honno, y byddai gwybodaeth esempt yn cael ei datgelu iddynt.

(7Rhaid i benderfyniad o dan baragraff (6)—

(a)nodi’r trafodion, neu’r rhan o’r trafodion, y mae’n gymwys iddynt neu’n gymwys iddi, a

(b)datgan y disgrifiad, o ran Atodlen 12A i Ddeddf 1972 fel y’i cymhwysir gan reoliad 26, o’r wybodaeth esempt sy’n peri i’r cyhoedd gael ei wahardd.

(8Mewn cyfarfod CBC, rhaid i’r cyd-bwyllgor corfforedig gymryd pob cam rhesymol i sicrhau y darperir i gynrychiolwyr achrededig sefydliadau cyfryngau newyddion gyfleusterau rhesymol ar gyfer adrodd ar y trafodion ac anfon adroddiadau i’r sefydliad.

(9Nid oes dim yn y rheoliad hwn yn ei gwneud yn ofynnol i gyd-bwyllgor corfforedig ganiatáu cymryd ffotograffau o unrhyw drafodion, na chaniatáu defnyddio unrhyw ddull i alluogi personau nad ydynt yn bresennol i weld neu glywed unrhyw drafodion (boed ar y pryd neu’n ddiweddarach), na chaniatáu gwneud unrhyw adroddiad ar lafar ar unrhyw drafodion wrth iddynt ddigwydd (ond gweler adran 46 o Ddeddf 2021 (darllediadau electronig o gyfarfodydd) fel y’i diwygiwyd gan reoliad 27).

(10Nid yw’r rheoliad hwn yn rhagfarnu unrhyw bŵer i wahardd er mwyn atal neu rwystro ymddygiad afreolus neu gamymddygiad arall mewn cyfarfod.

Hysbysu am gyfarfodydd a gwysio i fynychu cyfarfodydd

17.—(1Rhaid i gyd-bwyllgor corfforedig roi hysbysiad cyhoeddus am gyfarfod CBC—

(a)o leiaf dri diwrnod clir cyn y cyfarfod, neu

(b)os yw’r cyfarfod yn cael ei gynnull ar rybudd byrrach, adeg cynnull y cyfarfod.

(2Rhaid cyhoeddi’r hysbysiad yn electronig a rhaid iddo—

(a)pan fo’r cyfarfod wedi ei alw gan un neu ragor o aelodau’r cyd-bwyllgor corfforedig, bennu’r busnes y bwriedir ei drafod yn y cyfarfod ac—

(i)bod wedi ei lofnodi gan yr aelodau sy’n galw’r cyfarfod, neu

(ii)dynodi cymeradwyaeth yr aelodau hynny drwy ddulliau electronig;

(b)pan fo’r cyfarfod neu ran o’r cyfarfod yn agored i’r cyhoedd a’i fod yn cael ei gynnal drwy ddulliau o bell yn unig, roi manylion am amser y cyfarfod a sut i’w gyrchu;

(c)pan fo’r cyfarfod neu ran o’r cyfarfod yn agored i’r cyhoedd a’i fod yn cael ei gynnal yn rhannol drwy ddulliau o bell neu os nad yw’n cael ei gynnal drwy ddulliau o bell, roi manylion am amser a lleoliad y cyfarfod a sut i’w gyrchu;

(d)pan na fo’r cyfarfod yn agored i’r cyhoedd a’i fod yn cael ei gynnal drwy ddulliau o bell yn unig, roi manylion am amser y cyfarfod, a’r ffaith ei fod yn cael ei gynnal drwy ddulliau o bell yn unig ac nad yw’n agored i’r cyhoedd;

(e)pan na fo’r cyfarfod yn agored i’r cyhoedd a’i fod yn cael ei gynnal yn rhannol drwy ddulliau o bell neu os nad yw’n cael ei gynnal drwy ddulliau o bell, roi manylion am amser a lleoliad y cyfarfod a’r ffaith nad yw’n agored i’r cyhoedd.

(3Heb fod yn hwyrach na 3 diwrnod clir cyn cyfarfod CBC neu, os yw’r cyfarfod yn cael ei gynnull ar rybudd byrrach, adeg cynnull y cyfarfod, rhaid i swyddog priodol anfon gwŷs i fynychu’r cyfarfod at bob aelod o’r cyd-bwyllgor corfforedig drwy—

(a)ei hanfon drwy’r post i fan preswylio’r aelod neu, pan fo’r aelod wedi hysbysu’r swyddog priodol fod gwŷs i’w hanfon i gyfeiriad arall, i’r cyfeiriad arall hwnnw, neu

(b)ei hanfon yn electronig.

(4Pan fo cyfarfod CBC yn cael ei gynnull ar fyr rybudd, rhaid i wŷs a anfonir drwy’r post o dan baragraff (3)(a) gael ei hanfon gan ganiatáu amser digonol iddi gyrraedd yn nhrefn arferol y post cyn i’r cyfarfod gael ei gynnull.

(5Rhaid i wŷs bennu’r busnes y bwriedir ei drafod yn y cyfarfod.

(6Nid yw methu â chyflwyno gwŷs i unrhyw aelod yn effeithio ar ddilysrwydd cyfarfod CBC.

(7Ac eithrio yn achos—

(a)busnes sy’n ofynnol gan neu o dan—

(i)y Rheoliadau sefydlu,

(ii)unrhyw ddeddfiad arall, neu

(iii)rheolau sefydlog,

sydd i’w drafod yng nghyfarfod cyffredinol blynyddol cyd-bwyllgor corfforedig,

(b)busnes a ychwanegir at yr agenda ar gyfer cyfarfod CBC yn unol â rheolau sefydlog ar ôl i’r wŷs gael ei hanfon, neu

(c)busnes arall a ddygir gerbron cyfarfod CBC fel mater o frys yn unol â rheolau sefydlog,

ni chaniateir trafod unrhyw fusnes mewn cyfarfod CBC heblaw’r busnes a bennir yn y wŷs sy’n ymwneud â’r cyfarfod (a gweler hefyd reoliad 18(6)).

Mynediad at agenda ac at adroddiadau cysylltiedig

18.—(1Rhaid i gopïau o’r agenda ar gyfer cyfarfod CBC a chopïau o unrhyw adroddiad ar gyfer y cyfarfod—

(a)cael ei gyhoeddi gan y cyd-bwyllgor corfforedig—

(i)yn electronig, a

(ii)yn unol â pharagraffau (3) i (5), a

(b)parhau i fod ar gael yn electronig i aelodau’r cyhoedd hyd nes y bo’r cyfarfod wedi dod i ben (gweler rheoliad 20 am ddarpariaeth ynghylch mynediad at ddogfennau ar ôl cyfarfod CBC).

(2Os gwêl swyddog priodol yn dda, caniateir hepgor o’r copïau o adroddiadau a gyhoeddir o dan baragraff (1) adroddiad cyfan, neu unrhyw ran ohono, sy’n ymwneud yn unig ag eitemau y mae’n debygol, ym marn y swyddog, na fydd y cyfarfod yn agored i’r cyhoedd yn eu hystod.

(3Rhaid i ddogfen y mae’n ofynnol ei chyhoeddi o dan baragraff (1) gael ei chyhoeddi o leiaf dri diwrnod clir cyn y cyfarfod, neu, os yw’r cyfarfod yn cael ei gynnull ar rybudd byrrach, yna adeg ei gynnull.

(4Pan ychwanegir eitem at yr agenda ar gyfer cyfarfod CBC yn unol â rheolau sefydlog, rhaid i’r cyd-bwyllgor corfforedig, ar yr adeg yr ychwanegir yr eitem, gyhoeddi—

(a)agenda ddiwygiedig, neu

(b)adendwm i’r agenda,

yn pennu’r eitem ychwanegol.

(5Nid oes dim ym mharagraffau (3) a (4) yn ei gwneud yn ofynnol cyhoeddi dogfen neu gopïau o agenda, eitem neu adroddiad hyd nes y bydd y ddogfen neu’r copïau ar gael i aelodau o’r cyd-bwyllgor corfforedig.

(6Ni chaniateir ystyried eitem o fusnes mewn cyfarfod CBC oni bai naill ai—

(a)y cydymffurfiwyd â pharagraff (1) neu (4) mewn cysylltiad ag agenda sy’n cynnwys yr eitem, neu

(b)oherwydd amgylchiadau arbennig, y mae rhaid eu pennu yn y cofnodion, fod cadeirydd y cyfarfod o’r farn y dylid ystyried yr eitem yn y cyfarfod fel mater o frys.

(7Pan fo adroddiad cyfan neu ran o adroddiad wedi ei hepgor o dan baragraff (2)—

(a)rhaid marcio “Nid i’w gyhoeddi” ar bob copi o’r adroddiad neu o’r rhan, a

(b)os yw’r swyddog priodol wedi penderfynu bod y cyhoedd yn debygol o gael ei wahardd o’r cyfarfod yn rhinwedd rheoliad 16(6), rhaid datgan ar bob copi o’r adroddiad neu o’r rhan ddisgrifiad, o ran Atodlen 12A i Ddeddf 1972 fel y’i cymhwysir gan reoliad 26, o’r wybodaeth esempt y mae’n debygol y gwaherddir y cyhoedd yn ei rhinwedd yn ystod yr eitem y mae’r adroddiad yn ymwneud â hi.

(8O ran cyfarfod CBC—

(a)pan fo’n ofynnol gan reoliad 16(2) iddo fod yn agored i’r cyhoedd yn ystod y trafodion neu ran ohonynt, a

(b)pan na fo’n cael ei gynnal drwy ddulliau o bell yn unig,

rhaid i’r cyd-bwyllgor corfforedig beri bod nifer rhesymol o gopïau o’r agenda ac o’r adroddiadau ar gyfer y cyfarfod ar gael i’w defnyddio gan aelodau o’r cyhoedd sy’n bresennol yn y cyfarfod.

(9Rhaid i’r cyd-bwyllgor corfforedig, ar gais ac ar ôl i unrhyw dâl angenrheidiol am drawsyrru gael ei dalu, gyflenwi drwy ddulliau electronig er budd unrhyw sefydliadau cyfryngau newyddion—

(a)copi o’r agenda ar gyfer cyfarfod CBC a chopi o bob un o’r adroddiadau ar gyfer y cyfarfod,

(b)unrhyw ddatganiadau pellach neu fanylion pellach, os oes rhai, sy’n angenrheidiol i ddangos beth yw natur yr eitemau sydd wedi eu cynnwys yn yr agenda, ac

(c)os gwêl swyddog priodol yn dda yn achos unrhyw eitem, gopïau o unrhyw ddogfennau eraill a gyflenwyd i aelodau o’r cyd-bwyllgor corfforedig mewn cysylltiad â’r eitem.

(10Mae paragraff (2) yn gymwys mewn perthynas â chopïau o adroddiadau a ddarperir o dan baragraff (8) neu (9) fel y mae’n gymwys mewn perthynas â chopïau o adroddiadau a gyhoeddir o dan baragraff (1).

Cofnodion

19.—(1Rhaid cofnodi enwau’r aelodau o gyd-bwyllgor corfforedig sy’n bresennol mewn cyfarfod CBC.

(2Rhaid llunio a chofnodi cofnodion o drafodion cyfarfod CBC, yn ddarostyngedig i baragraff (3).

(3Rhaid i’r person sy’n cadeirio’r cyfarfod CBC neu’r person sy’n cadeirio’r cyfarfod nesaf addas o’r fath gymeradwyo’r cofnodion drwy—

(a)llofnodi’r cofnodion, neu

(b)dynodi’n electronig ei fod yn eu cymeradwyo.

(4Caniateir derbyn yn dystiolaeth gofnodion yr honnir eu bod wedi eu llofnodi neu eu cymeradwyo yn y modd hwnnw heb dystiolaeth bellach.

(5Hyd nes y profir i’r gwrthwyneb, bernir bod cyfarfod CBC y mae cofnod o’i drafodion wedi ei gofnodi a’i lofnodi neu wedi ei gymeradwyo yn unol â’r rheoliad hwn wedi ei gynnull a’i gynnal yn briodol, a bernir bod pob un sy’n bresennol yn y cyfarfod wedi ei gymhwyso’n briodol.

(6At ddibenion paragraff (3) y cyfarfod CBC nesaf addas yw’r cyfarfod canlynol nesaf neu, pan fo rheolau sefydlog yn darparu ar gyfer ystyried bod cyfarfod arall yn addas, naill ai’r cyfarfod canlynol nesaf neu’r cyfarfod arall hwnnw.

Cyhoeddi cofnodion a dogfennau eraill ar ôl cyfarfodydd

20.—(1Ar ôl cyfarfod CBC rhaid i’r cyd-bwyllgor corfforedig—

(a)cyhoeddi’n electronig y dogfennau a restrir ym mharagraff (2), a

(b)sicrhau bod y dogfennau hynny’n parhau i fod ar gael yn electronig i aelodau’r cyhoedd hyd nes y daw’r cyfnod o chwe mlynedd sy’n dechrau â dyddiad y cyfarfod i ben.

(2Y dogfennau yw—

(a)cofnodion, neu gopi o gofnodion, y cyfarfod, gan hepgor pa rannau bynnag o gofnodion y trafodion nad oedd y cyfarfod yn agored i’r cyhoedd yn eu hystod sy’n datgelu gwybodaeth esempt,

(b)pan fo hynny’n gymwys, crynodeb o dan baragraff (4),

(c)copi o’r agenda ar gyfer y cyfarfod, a

(d)copi o ba rannau bynnag o unrhyw adroddiad ar gyfer y cyfarfod sy’n ymwneud ag unrhyw eitem yr oedd y cyfarfod yn agored i’r cyhoedd yn ei hystod.

(3Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl cyfarfod CBC, a pha un bynnag cyn diwedd saith niwrnod gwaith gan ddechrau â’r diwrnod y cynhelir y cyfarfod, rhaid i’r cyd-bwyllgor corfforedig gyhoeddi’n electronig nodyn yn nodi—

(a)enwau’r aelodau a fynychodd y cyfarfod, ac unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb;

(b)unrhyw ddatganiadau o fuddiant;

(c)unrhyw benderfyniad a wnaed yn y cyfarfod, gan gynnwys canlyniadau unrhyw bleidleisiau, ond heb gynnwys unrhyw beth sy’n ymwneud â phenderfyniad a wnaed pan nad oedd y cyfarfod yn agored i’r cyhoedd sy’n datgelu gwybodaeth esempt.

(4Pan nad yw’r dogfennau a gyhoeddwyd o dan baragraff (1)(a) a (3)(c) yn darparu i aelodau o’r cyhoedd gofnod rhesymol deg a chydlynol o’r trafodion cyfan neu ran ohonynt, a hynny o ganlyniad i hepgor deunydd sy’n datgelu gwybodaeth esempt, rhaid i swyddog priodol lunio crynodeb ysgrifenedig o’r trafodion neu’r rhan, yn ôl y digwydd, sy’n darparu cofnod o’r fath heb ddatgelu’r wybodaeth esempt.

Cyhoeddi papurau cefndir

21.—(1Os yw’n ofynnol gan reoliad 18(1) neu 20(1) i gopïau o adroddiad cyfan neu ran o adroddiad ar gyfer cyfarfod CBC gael eu cyhoeddi’n electronig, ac am gyhyd ag y bo hynny’n ofynnol—

(a)rhaid i bob un o’r copïau hynny gynnwys copi o restr, a luniwyd gan swyddog priodol, o’r papurau cefndir ar gyfer yr adroddiad neu’r rhan o’r adroddiad, a

(b)rhaid cyhoeddi’n electronig bob un o’r dogfennau sydd wedi eu cynnwys yn y rhestr honno, ond os yw swyddog priodol o’r farn nad yw’n rhesymol ymarferol cyhoeddi dogfen sydd wedi ei chynnwys yn y rhestr yn electronig, rhaid i’r cyd-bwyllgor corfforedig wneud trefniadau i anfon copi ar gais at unrhyw aelod o’r cyhoedd cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl i gais am gopi gael ei wneud.

(2Pan gaiff copïau o ddogfennau sydd wedi eu cynnwys yn y rhestr eu cyhoeddi o dan baragraff (1)(b) rhaid iddynt barhau i fod ar gael yn electronig i aelodau o’r cyhoedd hyd nes y daw’r cyfnod o chwe mlynedd sy’n dechrau â dyddiad y cyfarfod i ben.

(3Pan wneir trefniadau i anfon copïau o ddogfennau sydd wedi eu cynnwys yn y rhestr at aelodau o’r cyhoedd ar gais o dan baragraff (1)(b), rhaid i’r trefniadau hynny barhau hyd nes y daw’r cyfnod hwnnw o chwe mlynedd i ben.

(4Nid oes dim yn y rheoliad hwn yn ei gwneud yn ofynnol i unrhyw ddogfen sy’n datgelu gwybodaeth esempt gael ei chynnwys yn y rhestr y cyfeirir ati ym mharagraff (1).

(5Er gwaethaf cyffredinolrwydd rheoliad 16(4), nid oes dim yn y rheoliad hwn yn ei gwneud yn ofynnol nac yn awdurdodi cynnwys yn y rhestr unrhyw ddogfen a fyddai, pe’i cyhoeddid yn electronig neu pe’i hanfonid at aelod o’r cyhoedd, yn datgelu gwybodaeth gyfrinachol gan dorri’r rhwymedigaeth o ran cyfrinachedd.

(6Ym mharagraff (5), mae i “gwybodaeth gyfrinachol” yr un ystyr ag yn rheoliad 16(5)(a) ac mae’r cyfeiriad at y rhwymedigaeth o ran cyfrinachedd i’w ddehongli yn unol â hynny.

(7At ddibenion y rheoliad hwn, y papurau cefndir ar gyfer adroddiad yw’r dogfennau hynny sy’n ymwneud â phwnc yr adroddiad—

(a)sy’n datgelu unrhyw ffeithiau neu faterion y mae’r adroddiad neu ran bwysig o’r adroddiad, ym marn swyddog priodol, yn seiliedig arnynt, a

(b)y dibynnwyd arnynt, ym marn y swyddog, i raddau arwyddocaol wrth lunio’r adroddiad,

ond nid ydynt yn cynnwys unrhyw weithiau cyhoeddedig.

Cymhwyso i gyfarfodydd is-bwyllgorau

22.—(1Mae rheoliadau 16 i 21 yn gymwys i gyfarfod is-bwyllgor i gyd-bwyllgor corfforedig fel y maent yn gymwys i gyfarfod cyd-bwyllgor corfforedig.

(2Wrth gymhwyso rheoliadau 16 i 21 i gyfarfod is-bwyllgor—

(a)mae cyfeiriadau at gyfarfod CBC i’w darllen fel cyfeiriadau at gyfarfod o’r is-bwyllgor;

(b)mae rheoliad 16(3) i’w ddarllen fel pe bai “neu’r is-bwyllgor” wedi ei fewnosod ar ôl “cyd-bwyllgor corfforedig”;

(c)mae’r cyfeiriadau at gyd-bwyllgor corfforedig yn rheoliad 16(6) i’w darllen fel cyfeiriadau at is-bwyllgor i gyd-bwyllgor corfforedig.

(3Wrth gymhwyso rheoliadau 17 i 20 i gyfarfod is-bwyllgor, mae cyfeiriadau at aelod o gyd-bwyllgor corfforedig i’w darllen fel cyfeiriadau at aelod o’r is-bwyllgor.

Hawliau ychwanegol i aelodau o gyd-bwyllgorau corfforedig ac aelodau o brif gynghorau etc. gael mynediad at ddogfennau

23.—(1Rhaid i unrhyw ddogfen sydd ym meddiant neu o dan reolaeth cyd-bwyllgor corfforedig ac sy’n cynnwys deunydd sy’n ymwneud ag unrhyw fusnes sydd i’w drafod mewn cyfarfod CBC neu mewn cyfarfod o is-bwyllgor i’r cyd-bwyllgor corfforedig, yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3), fod yn agored i edrych arni ar bob adeg resymol ac yn rhad ac am ddim gan—

(a)unrhyw aelod o’r cyd-bwyllgor corfforedig;

(b)unrhyw aelod o brif gyngor pan fo un o brif aelodau gweithrediaeth y cyngor yn aelod o’r cyd-bwyllgor corfforedig;

(c)unrhyw aelod o awdurdod Parc Cenedlaethol pan fo aelod o’r awdurdod hwnnw’n aelod o’r cyd-bwyllgor corfforedig.

(2Nid yw paragraff (1) yn ei gwneud yn ofynnol i’r ddogfen fod yn agored i edrych arni os ymddengys i swyddog priodol ei bod yn datgelu gwybodaeth esempt.

(3Ond, er gwaethaf paragraff (2), mae paragraff (1) yn ei gwneud yn ofynnol i’r ddogfen fod yn agored i edrych arni os yw’r wybodaeth yn wybodaeth o ddisgrifiad sydd am y tro yn dod o fewn—

(a)paragraff 14 o Atodlen 12A i Ddeddf 1972 fel y’i cymhwysir gan reoliad 26 (ac eithrio i’r graddau y mae’r wybodaeth yn ymwneud ag unrhyw delerau a gynigiwyd neu sydd i’w cynnig gan y cyd-bwyllgor corfforedig, neu iddo, yng nghwrs negodiadau am gontract), neu

(b)paragraff 17 o’r Atodlen honno fel y’i cymhwysir yn y modd hwnnw.

(4Pan fo dogfen i fod yn agored i edrych arni gan berson o dan baragraff (1) caiff y person, yn ddarostyngedig i baragraff (5)—

(a)gwneud copïau o’r ddogfen neu rannau o’r ddogfen, neu

(b)ei gwneud yn ofynnol i’r cyd-bwyllgor corfforedig ddarparu copi o’r ddogfen neu rannau o’r ddogfen,

ar ôl talu i’r cyd-bwyllgor corfforedig unrhyw ffi resymol sy’n ofynnol am y cyfleuster.

(5Nid yw paragraff (4) yn ei gwneud yn ofynnol nac yn awdurdodi gwneud unrhyw weithred sy’n torri’r hawlfraint yn unrhyw waith heblaw, pan mai cyd-bwyllgor corfforedig yw perchennog yr hawlfraint, nad oes dim a wneir yn unol â’r paragraff hwnnw yn torri’r hawlfraint.

(6Mae’r hawliau a roddir gan y rheoliad hwn i berson yn ychwanegol at unrhyw hawliau eraill sydd gan y person ar wahân i’r paragraff hwn.

(7At ddibenion paragraff (1)(b), mae i “prif aelod gweithrediaeth” yr ystyr a roddir gan adran 77(4) o Ddeddf 2021.

Cyhoeddi gwybodaeth ychwanegol

24.—(1Rhaid i gyd-bwyllgor corfforedig gadw cofrestr yn datgan—

(a)enw pob aelod o’r cyd-bwyllgor corfforedig a’i is-bwyllgorau am y tro ynghyd â chyfeiriad electronig a chyfeiriad post ar gyfer pob aelod, y gellir anfon gohebiaeth ar gyfer yr aelod iddo, a

(b)enw pob person arall sydd â hawl, yn unol â’r rheolau sefydlog, i siarad mewn cyfarfod CBC neu mewn cyfarfod o is-bwyllgor i’r cyd-bwyllgor corfforedig ynghyd â chyfeiriad electronig a chyfeiriad post ar gyfer pob un o’r personau hynny, y gellir anfon gohebiaeth ar gyfer y person iddo.

(2Rhaid i gyd-bwyllgor corfforedig gadw rhestr—

(a)yn pennu’r swyddogaethau hynny sydd gan y cyd-bwyllgor corfforedig a’i is-bwyllgorau y caiff aelodau o staff y cyd-bwyllgor corfforedig, am y tro, eu cyflawni o bryd i’w gilydd yn unol â threfniadau a wnaed o dan y Rheoliadau hyn neu unrhyw ddeddfiad arall, a

(b)yn datgan teitl yr aelod o staff sydd, am y tro, yn cyflawni yn y modd hwnnw bob un o’r swyddogaethau a bennir yn y modd hwnnw,

ond nid yw’r paragraff hwn yn ei gwneud yn ofynnol pennu swyddogaeth yn y rhestr os gwneir y trefniadau i’r aelod o staff ei chyflawni am gyfnod, heb fod yn hwy na chwe mis, a bennir gan y cyd-bwyllgor corfforedig.

(3Rhaid i gyd-bwyllgor corfforedig gadw crynodeb ysgrifenedig o’r hawliau—

(a)i fynychu cyfarfod CBC neu gyfarfod o is-bwyllgor i’r cyd-bwyllgor corfforedig, a

(b)i edrych ar ddogfennau a’u copïo ac i gael copïau o ddogfennau,

a roddir am y tro gan y Rhan hon a’r Rheoliadau sefydlu.

(4Rhaid i gyd-bwyllgor corfforedig gyhoeddi’n electronig—

(a)y gofrestr a gedwir o dan baragraff (1),

(b)y rhestr a gedwir o dan baragraff (2), ac

(c)y crynodeb a gedwir o dan baragraff (3).

(5Rhaid i gyd-bwyllgor corfforedig wneud trefniadau i anfon copi o unrhyw wybodaeth a gyhoeddir o dan baragraff (4) ar gais at unrhyw aelod o’r cyhoedd cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl i gais am gopi gael ei wneud.

Darpariaethau atodol

25.—(1Nid yw’r darpariaethau yn y Rhan hon sy’n ei gwneud yn ofynnol i gyd-bwyllgor corfforedig gyhoeddi dogfennau yn ei gwneud yn ofynnol nac yn awdurdodi gwneud unrhyw weithred sy’n torri’r hawlfraint yn unrhyw waith heblaw, pan mai’r cyd-bwyllgor corfforedig yw perchennog yr hawlfraint, nad oes dim a wneir yn unol â’r darpariaethau hynny yn torri’r hawlfraint.

(2Pan fo unrhyw ddarpariaeth yn y Rhan hon yn ei gwneud yn ofynnol cyflenwi copi o ddogfen i unrhyw berson, mae person (“P”), sydd â dogfen o dan ei ofal, yn cyflawni trosedd os yw P, heb esgus rhesymol, yn gwrthod darparu copi i’r person sydd â hawl i’w gael.

(3Mae trosedd o dan baragraff (2) i’w chosbi ar euogfarn ddiannod drwy ddirwy nad yw’n uwch na lefel 1 ar y raddfa safonol.

(4Pan gaiff unrhyw ddogfen y gellir cael mynediad ati ar gyfer cyfarfod CBC neu gyfarfod o is-bwyllgor i gyd-bwyllgor corfforedig—

(a)ei chyflenwi i aelod o’r cyhoedd,

(b)ei chyhoeddi’n electronig, neu

(c)ei chyflenwi er budd unrhyw sefydliad cyfryngau newyddion,

mae cyhoeddi drwy hynny unrhyw ddeunydd difenwol sydd wedi ei gynnwys yn y ddogfen yn freintiedig, oni phrofir y’i cyhoeddwyd yn faleisus.

(5At ddibenion paragraff (4), y “dogfennau y gellir cael mynediad atynt” ar gyfer cyfarfod CBC neu gyfarfod o is-bwyllgor i gyd-bwyllgor corfforedig yw—

(a)unrhyw gopi o’r agenda neu o unrhyw eitem sydd wedi ei chynnwys yn yr agenda ar gyfer y cyfarfod;

(b)unrhyw ddatganiadau pellach neu fanylion pellach at ddiben dangos beth yw natur unrhyw eitem sydd wedi ei chynnwys yn yr agenda a grybwyllir yn rheoliad 18(9)(b);

(c)unrhyw gopi o ddogfen sy’n ymwneud ag eitem o’r fath a gyflenwir er budd sefydliad cyfryngau newyddion yn unol â rheoliad 18(9)(c);

(d)unrhyw gopi o adroddiad cyfan neu ran o adroddiad ar gyfer y cyfarfod;

(e)unrhyw gopi o unrhyw bapurau cefndir cyfan neu ran ohonynt ar gyfer adroddiad ar gyfer y cyfarfod;

(f)y nodyn y mae’n ofynnol ei gyhoeddi o dan reoliad 20(3).

(6Mae’r hawliau a roddir gan y Rhan hon i edrych ar ddogfennau, eu copïo a’u cael yn ychwanegol at unrhyw hawliau o’r fath a roddir gan neu o dan unrhyw ddeddfiad arall, ac nid ydynt yn rhagfarnu’r hawliau hynny.

Gwybodaeth esempt

26.—(1Y disgrifiadau o wybodaeth sydd, at ddibenion y Rhan hon, yn wybodaeth esempt yw’r rheini sydd am y tro wedi eu pennu yn Rhan 4 o Atodlen 12A i Ddeddf 1972 fel y’i haddaswyd o ran ei chymhwyso i’r Rhan hon gan baragraff (2) yn ddarostyngedig i unrhyw amodau sydd wedi eu cynnwys yn Rhan 5 o’r Atodlen honno fel y’i haddaswyd yn y modd hwnnw.

(2At ddibenion paragraff (1), mae Rhannau 4 i 6 o Atodlen 12A i Ddeddf 1972 yn gymwys fel pe bai’r canlynol wedi ei roi yn lle paragraff 22(2) o’r Atodlen honno—

(2) Any reference in Parts 4 and 5 and this Part of this Schedule to “the authority” is a reference to the corporate joint committee or, as the case may be, the sub-committee of the corporate joint committee in relation to whose proceedings or documents the question whether information is exempt or not falls to be determined and includes a reference—

(a)in the case of a corporate joint committee, to any sub-committee of the corporate joint committee, and

(b)in the case of a sub-committee, to the corporate joint committee of which it is a sub-committee.

Darllediadau electronig o gyfarfodydd

27.  Yn adran 46 o Ddeddf 2021 (darllediadau electronig o gyfarfodydd awdurdodau lleol penodol), ar ôl is-adran (7) mewnosoder—

(7A) Mae’r adran hon yn gymwys i gyd-bwyllgor corfforedig fel y mae’n gymwys i brif gyngor yn ddarostyngedig i’r addasiadau a ganlyn—

(a)mae’r cyfeiriadau at brif gyngor yn is-adrannau (1), (2)(a), (5) a (6) i’w darllen fel cyfeiriadau at gyd-bwyllgor corfforedig, a

(b)mae is-adran (2)(b) i’w thrin fel pe bai’r canlynol wedi ei roi yn ei lle—

(b)is-bwyllgor i gyd-bwyllgor corfforedig.

Mynychu cyfarfodydd o bell

28.  Yn adran 47 o Ddeddf 2021 (mynychu cyfarfodydd awdurdodau lleol), yn is-adran (6), yn y diffiniad o “awdurdod lleol”, ar ôl paragraff (a) mewnosoder—

(aa)cyd-bwyllgor corfforedig;.

Cyhoeddusrwydd i gyfarfodydd i ystyried adroddiadau neu argymhellion gan Archwilydd Cyffredinol Cymru

29.  Yn adran 26(3A) o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004(12), ar ôl paragraff (b) mewnosoder—

(ba)a corporate joint committee;.

Dehongli

30.—(1Yn y Rhan hon—

mae “copi” (“copy”), mewn perthynas ag unrhyw ddogfen, yn cynnwys copi a wneir o gopi;

ystyr “cyfarfod CBC” (“CJC meeting”) yw cyfarfod cyd-bwyllgor corfforedig (ond gweler rheoliad 22);

mae “gwybodaeth” (“information”) yn cynnwys mynegiant o farn, unrhyw argymhellion ac unrhyw benderfyniad a wneir;

mae i “gwybodaeth esempt” (“exempt information”) yr ystyr a roddir gan reoliad 26;

mae i “prif gyngor” (“principal council”) yr ystyr a roddir yn adran 171(1) o Ddeddf 2021;

ystyr “sefydliad cyfryngau newyddion” (“news media organisation”) yw—

(a)

papur newydd;

(b)

unrhyw sefydliad sy’n ymwneud yn systematig ag adrodd newyddion drwy gyfrwng—

(i)

darllediadau sain neu deledu, neu

(ii)

cyhoeddiad electronig;

(c)

asiantaeth newyddion sy’n cynnal yn systematig y busnes o werthu a chyflenwi adroddiadau neu wybodaeth i bapurau newydd neu i sefydliadau cyfryngau newyddion eraill;

(d)

unrhyw sefydliad sy’n ymwneud yn systematig â chasglu newyddion—

(i)

ar gyfer darllediadau sain neu deledu;

(ii)

i’w cynnwys mewn rhaglenni sydd i’w cynnwys yn unrhyw wasanaeth rhaglenni (o fewn yr ystyr a roddir i “programme service” yn Neddf Darlledu 1990) heblaw gwasanaeth darlledu sain neu deledu;

(iii)

i’w cyhoeddi’n electronig.

(2Mae cyfeiriadau yn unrhyw ddarpariaeth yn y Rhan hon at “swyddog priodol” yn gyfeiriadau at aelod o staff cyd-bwyllgor corfforedig sydd wedi ei awdurdodi i gyflawni swyddogaeth y swyddog priodol a bennir yn y ddarpariaeth o dan sylw.

(3Mae cyfeiriadau yn unrhyw ddarpariaeth yn y Rhan hon at gyfarfod cyd-bwyllgor corfforedig a gynhelir drwy “ddulliau o bell” yn gyfeiriadau at gyfarfod a gynhelir drwy gyfrwng unrhyw gyfarpar neu gyfleuster arall sy’n galluogi personau nad ydynt yn yr un lle i siarad â’i gilydd ac i gael eu clywed gan ei gilydd (pa un a yw’r cyfarpar neu’r cyfleuster yn galluogi’r personau hynny i weld ei gilydd ac i gael eu gweld gan ei gilydd ai peidio).

RHAN 6Diwygiadau amrywiol a chanlyniadol

Cynlluniau deisebau

Cynlluniau deisebau

31.  Yn adran 42 o Ddeddf 2021 (dyletswydd i wneud cynllun deisebau), ar ôl is-adran (4) mewnosoder—

(5) Mae’r adran hon yn gymwys i gyd-bwyllgor corfforedig fel y mae’n gymwys i brif gyngor ac mae cyfeiriadau yn is-adrannau (1) i (4) at brif gyngor i’w dehongli yn unol â hynny.

Dyletswydd i annog pobl leol i gyfranogi pan fo penderfyniadau’n cael eu gwneud

32.  Yn adran 39 o Ddeddf 2021 (dyletswydd i annog pobl leol i gyfranogi pan fo penderfyniadau’n cael eu gwneud), ar ôl is-adran (2) mewnosoder—

(3) Mae’r adran hon yn gymwys i gyd-bwyllgor corfforedig fel y mae’n gymwys i brif gyngor ac mae cyfeiriadau yn is-adrannau (1) a (2) at brif gyngor i’w dehongli yn unol â hynny.

Ceisiadau i uno

Ymgynghori cyn ceisiadau i uno a wneir gan brif gynghorau

33.  Yn adran 122 o Ddeddf 2021 (ymgynghori cyn gwneud cais i uno), ar ôl is-adran (1)(g) mewnosoder—

(ga)pob cyd-bwyllgor corfforedig—

(i)sy’n cynnwys o leiaf un prif swyddog gweithrediaeth (o fewn yr ystyr a roddir gan adran 77(4)) o’r prif gynghorau yn aelod o’r cyd-bwyllgor corfforedig;

(ii)y mae’n debygol fel arall y bydd y cynnig i uno’n effeithio arno,.

Diwygiadau amrywiol i’r Rheoliadau sefydlu

Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig y Canolbarth (Cymru) 2021

34.—(1Mae Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig y Canolbarth (Cymru) 2021(13) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2 (dehongli), hepgorer y diffiniad o “cyfranogwr cyfetholedig” ac ar ôl y diffiniad o “aelod Bannau Brycheiniog” rhodder—

mae i “aelod cyfetholedig” (“co-opted member”) yr ystyr a roddir gan reoliad 9(1); .

(3Yn rheoliad 6 (aelodaeth)—

(a)ym mharagraff (1)—

(i)ar ddiwedd is-baragraff (a) hepgorer “a”;

(ii)ar ddiwedd is-baragraff (b) mewnosoder “, ac”;

(iii)ar ôl is-baragraff (b) mewnosoder—

(c)unrhyw aelod cyfetholedig.;

(b)ym mharagraff (2), ar ôl “Canolbarth” mewnosoder “, yn ddarostyngedig i reoliadau 8(2A) a 9(2)”;

(c)hepgorer paragraff (3);

(d)ym mharagraff (4), yn lle “i’r graddau a ddisgrifir ym mharagraff (3),” rhodder “ac unrhyw aelod cyfetholedig”.

(4Yn rheoliad 7 (aelodau cyngor), ym mharagraff (2)—

(a)yn lle “gyflawni ei swyddogaethau” rhodder “weithredu fel aelod cyngor”;

(b)yn lle “gyflawni’r swyddogaethau hynny” rhodder “weithredu”.

(5Yn rheoliad 8 (aelod Bannau Brycheiniog)—

(a)ar ôl paragraff (2) mewnosoder—

(2A) Ni chaiff aelod Bannau Brycheiniog weithredu fel aelod ond mewn perthynas ag—

(a)y swyddogaethau a roddir i CBC y Canolbarth o dan reoliad 13;

(b)unrhyw swyddogaeth sydd gan CBC y Canolbarth sy’n ategol i’r swyddogaethau hynny neu’n gysylltiedig â hwy.

(2B) Ond caiff aelod Bannau Brycheiniog hefyd weithredu fel aelod mewn perthynas ag unrhyw swyddogaeth arall sydd gan CBC y Canolbarth—

(a)os yw’r aelodau cyngor ac aelod Bannau Brycheiniog yn cytuno, neu

(b)os caniateir i aelod Bannau Brycheiniog weithredu mewn perthynas â’r swyddogaeth honno, neu os yw’n ofynnol iddo wneud hynny, yn rhinwedd darpariaeth ddatganedig yn y Rheoliadau hyn neu mewn unrhyw ddeddfiad arall.

(2C) Rhaid i gytundeb o dan baragraff (2B)(a) bennu’r telerau y caiff aelod Bannau Brycheiniog weithredu odanynt mewn perthynas â’r swyddogaeth o dan sylw, gan gynnwys pennu’r cyfnod pan fo aelod Bannau Brycheiniog i weithredu.;

(b)ym mharagraff (3)—

(i)yn lle “gyflawni ei swyddogaethau” rhodder “weithredu fel aelod”;

(ii)yn lle “gyflawni’r swyddogaethau hynny” rhodder “weithredu”.

(6Yn lle rheoliad 9 (cyfranogwyr cyfetholedig) rhodder—

Aelodau cyfetholedig

9.(1) Caiff CBC y Canolbarth gyfethol un neu ragor o unigolion i fod yn aelodau o CBC y Canolbarth (“aelod cyfetholedig”) ar y telerau hynny y mae’n eu pennu.

(2) Rhaid i’r telerau hynny—

(a)pennu—

(i)swyddogaethau CBC y Canolbarth y caiff yr aelod cyfetholedig weithredu mewn perthynas â hwy fel aelod o’r CBC, a

(ii)unrhyw swyddogaeth sydd gan CBC y Canolbarth sy’n ategol i’r swyddogaethau hynny neu’n gysylltiedig â hwy;

(b)cael eu cytuno gan yr aelod cyfetholedig a’r aelodau eraill, ac

(c)cael eu nodi mewn cytundeb cyfethol.

(3) Pan fo gan aelod cyfetholedig, o dan baragraff (1), hawl i weithredu mewn perthynas ag—

(a)y swyddogaethau a roddir i CBC y Canolbarth o dan reoliad 13, a

(b)unrhyw swyddogaeth sydd gan CBC y Canolbarth sy’n ategol i’r swyddogaethau hynny neu’n gysylltiedig â hwy,

caiff aelod Bannau Brycheiniog weithredu fel aelod at ddibenion y paragraff hwnnw.

(4) Caiff aelod cyfetholedig ei gyfethol—

(a)am gyfnod a bennir yn y cytundeb cyfethol, neu

(b)hyd nes—

(i)y bydd yr aelod cyfetholedig yn ymddiswyddo o CBC y Canolbarth, neu

(ii)y bydd CBC y Canolbarth yn terfynu’r cyfetholiad.

(5) Mewn perthynas â chytundeb cyfethol—

(a)caniateir ei amrywio ar unrhyw adeg;

(b)rhaid iddo gael ei gyhoeddi’n electronig gan CBC y Canolbarth.

(7Yn lle rheoliad 15 (dirprwyo swyddogaethau) rhodder—

Cyfyngiad ar gyflawni swyddogaethau gan bersonau eraill

15.  Nid yw rheoliad 13 o Reoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2021 (trefniadau ar gyfer cyflawni swyddogaethau) yn gymwys i—

(a)cymeradwyo polisi trafnidiaeth, neu ddiwygio polisi o’r fath a ddatblygwyd yn rhinwedd rheoliad 12(1) o dan adran 108(1)(a) a (2A)(a) o Ran 2 o Ddeddf Trafnidiaeth 2000;

(b)y gweithredoedd a ganlyn sy’n gysylltiedig â llunio cynllun datblygu strategol, neu ddiwygio cynllun, o dan reoliad 13—

(i)mabwysiadu cytundeb cyflawni, neu ddiwygio cytundeb o’r fath (gweler rheoliad 11(2) ac (8) o Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Cynllun Datblygu Strategol) (Cymru) 2021 (“y Rheoliadau CDS”));

(ii)cymeradwyo dogfennau cynigion cyn-adneuo a datganiad o faterion cyn-adneuo (gweler rheoliadau 17 a 18 o’r Rheoliadau CDS);

(iii)cymeradwyo adroddiad ymgynghori cychwynnol, dogfen cynigion yr CDS a datganiad o faterion adneuo (gweler rheoliad 20 o’r Rheoliadau CDS);

(iv)cymeradwyo dogfennau i’w hanfon at Weinidogion Cymru o dan adran 64(3) o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004;

(v)tynnu cynllun datblygu strategol yn ôl o dan adran 66A(2) o’r Ddeddf honno;

(vi)mabwysiadu cynllun datblygu strategol o dan adran 60M(9)(a) o’r Ddeddf honno;

(vii)cymeradwyo adroddiad monitro blynyddol sydd i’w wneud o dan adran 76(1) o’r Ddeddf honno;

(viii)cymeradwyo adroddiad adolygiad o gynllun datblygu strategol sydd i’w wneud o dan adran 69(2) o’r Ddeddf honno;

(c)cytuno ar gyfrifiadau o ofynion cyllideb neu gyfrifiadau diwygiedig o dan reoliad 16(6)(b) a (9).

(8Yn rheoliad 17 (ariannu gofyniad cyllideb), ym mharagraff (2), yn lle “yr aelodau” rhodder “yr aelodau cyngor ac aelod Bannau Brycheiniog”.

(9Ym mharagraff 2 o’r Atodlen (penodi cadeirydd ac is-gadeirydd), yn is-baragraff (4)(b), yn lle “gyfranogwyr cyfetholedig” rhodder “aelodau eraill”.

(10Ym mharagraff 6 o’r Atodlen (y weithdrefn bleidleisio), yn lle is-baragraff (1)(a) rhodder—

(a)ni chaiff nifer yr aelodau cyfetholedig sydd â hawl i bleidleisio fod yn fwy na nifer yr aelodau eraill sydd â hawl i bleidleisio,.

(11Ym mharagraff 7 o’r Atodlen (mabwysiadu gweithdrefn bleidleisio wahanol), yn lle is-baragraff (4) rhodder—

(4) Rhaid i weithdrefn a fabwysiedir o dan y paragraff hwn gael ei mabwysiadu drwy gytundeb unfrydol yr aelodau sydd â hawl i bleidleisio ar fabwysiadu’r weithdrefn.

(12Ym mharagraff 9 o’r Atodlen (darpariaeth gyffredinol o ran staffio)—

(a)daw’r testun presennol yn is-baragraff (1);

(b)ar ôl yr is-baragraff hwnnw mewnosoder—

(2) Rhaid i CBC y Canolbarth sicrhau bod trefniadau a wneir o dan is-baragraff (1) yn rhai sy’n angenrheidiol er mwyn i CBC y Canolbarth gyflawni ei swyddogaethau’n briodol.

(13Ym mharagraff 10 o’r Atodlen (telerau ac amodau), yn lle is-baragraff (2) rhodder—

(2) Ond o ran is-baragraff (1)—

(a)mae’n ddarostyngedig i adran 41 o Ddeddf Lleoliaeth 2011, a

(b)nid yw’n atal CBC y Canolbarth rhag addasu telerau ac amodau staff y mae’n eu penodi os yw hynny’n ofynnol yn rhinwedd unrhyw ddeddfiad neu reol gyfreithiol arall.

(14Ym mharagraff 11 o’r Atodlen (staff o awdurdodau eraill), ar ôl is-baragraff (2) mewnosoder—

(3) Ond, yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth i’r gwrthwyneb mewn unrhyw ddeddfiad arall, at ddibenion blwydd-daliadau mae gwasanaeth a ddarperir gan aelod o staff awdurdod Cymreig datganoledig sydd wedi ei roi at ddefnydd CBC y Canolbarth yn rhinwedd cytundeb o’r fath yn wasanaeth a ddarperir i’r awdurdod.

(15Hepgorer paragraff 15 o’r Atodlen (is-bwyllgorau).

(16Ym mharagraff 16 o’r Atodlen (is-bwyllgor llywodraethu ac archwilio)—

(a)yn nhestun Saesneg is-baragraff (1)(g), ar ôl “Mid” mewnosoder “Wales”;

(b)yn is-baragraff (2)(b) yn lle “gan” rhodder “o”;

(c)yn lle is-baragraff (2)(c) rhodder—

(c)nad yw unrhyw un o aelodau o’r is-bwyllgor—

(i)yn aelod cyngor,

(ii)yn aelod cyfetholedig,

(iii)yn aelod o is-bwyllgor arall i CBC y Canolbarth, neu

(iv)yn aelod o weithrediaethau’r cynghorau cyfansoddol.;

(d)hepgorer is-baragraff (3).

Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd (Cymru) 2021

35.—(1Mae Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd (Cymru) 2021(14) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2 (dehongli), hepgorer y diffiniad o “cyfranogwr cyfetholedig” ac ar ôl y diffiniad o “aelod Eryri” rhodder—

mae i “aelod cyfetholedig” (“co-opted member”) yr ystyr a roddir gan reoliad 9(1); .

(3Yn rheoliad 6 (aelodaeth)—

(a)ym mharagraff (1)—

(i)ar ddiwedd is-baragraff (a) hepgorer “a”;

(ii)ar ddiwedd is-baragraff (b) mewnosoder “, ac”;

(iii)ar ôl is-baragraff (b) mewnosoder—

(c)unrhyw aelod cyfetholedig.;

(b)ym mharagraff (2), ar ôl “Gogledd” mewnosoder “, yn ddarostyngedig i reoliadau 8(2A) a 9(2)”;

(c)hepgorer paragraff (3);

(d)ym mharagraff (4), yn lle “i’r graddau a ddisgrifir ym mharagraff (3),” rhodder “ac unrhyw aelod cyfetholedig”.

(4Yn rheoliad 7 (aelodau cyngor), ym mharagraff (2)—

(a)yn lle “gyflawni ei swyddogaethau” rhodder “weithredu fel aelod cyngor”;

(b)yn lle “gyflawni’r swyddogaethau hynny” rhodder “weithredu”.

(5Yn rheoliad 8 (aelod Eryri)—

(a)ar ôl paragraff (2) mewnosoder—

(2A) Ni chaiff aelod Eryri weithredu fel aelod ond mewn perthynas ag—

(a)y swyddogaethau a roddir i CBC y Gogledd o dan reoliad 13;

(b)unrhyw swyddogaeth sydd gan CBC y Gogledd sy’n ategol i’r swyddogaethau hynny neu’n gysylltiedig â hwy.

(2B) Ond caiff aelod Eryri hefyd weithredu fel aelod mewn perthynas ag unrhyw swyddogaeth arall sydd gan CBC y Gogledd—

(a)os yw’r aelodau cyngor ac aelod Eryri yn cytuno, neu

(b)os caniateir i aelod Eryri weithredu mewn perthynas â’r swyddogaeth honno, neu os yw’n ofynnol iddo wneud hynny, yn rhinwedd darpariaeth ddatganedig yn y Rheoliadau hyn neu mewn unrhyw ddeddfiad arall.

(2C) Rhaid i gytundeb o dan baragraff (2B)(a) bennu’r telerau y caiff aelod Eryri weithredu odanynt mewn perthynas â’r swyddogaeth o dan sylw, gan gynnwys pennu’r cyfnod pan fo aelod Eryri i weithredu.;

(b)ym mharagraff (3)—

(i)yn lle “gyflawni ei swyddogaethau” rhodder “weithredu fel aelod”;

(ii)yn lle “gyflawni’r swyddogaethau hynny” rhodder “weithredu”.

(6Yn lle rheoliad 9 (cyfranogwyr cyfetholedig) rhodder—

Aelodau cyfetholedig

9.(1) Caiff CBC y Gogledd gyfethol un neu ragor o unigolion i fod yn aelodau o CBC y Gogledd (“aelod cyfetholedig”) ar y telerau hynny y mae’n eu pennu.

(2) Rhaid i’r telerau hynny—

(a)pennu—

(i)swyddogaethau CBC y Gogledd y caiff yr aelod cyfetholedig weithredu mewn perthynas â hwy fel aelod o’r CBC, a

(ii)unrhyw swyddogaeth sydd gan CBC y Gogledd sy’n ategol i’r swyddogaethau hynny neu’n gysylltiedig â hwy,

(b)cael eu cytuno gan yr aelod cyfetholedig a’r aelodau eraill, ac

(c)cael eu nodi mewn cytundeb cyfethol.

(3) Pan fo gan aelod cyfetholedig, o dan baragraff (1), hawl i weithredu mewn perthynas ag—

(a)y swyddogaethau a roddir i CBC y Gogledd o dan reoliad 13, a

(b)unrhyw swyddogaeth sydd gan CBC y Gogledd sy’n ategol i’r swyddogaethau hynny neu’n gysylltiedig â hwy,

caiff aelod Eryri weithredu fel aelod at ddibenion y paragraff hwnnw.

(4) Caiff aelod cyfetholedig ei gyfethol—

(a)am gyfnod a bennir yn y cytundeb cyfethol, neu

(b)hyd nes—

(i)y bydd yr aelod cyfetholedig yn ymddiswyddo o CBC y Gogledd, neu

(ii)y bydd CBC y Gogledd yn terfynu’r cyfetholiad.

(5) Mewn perthynas â chytundeb cyfethol—

(a)caniateir ei amrywio ar unrhyw adeg;

(b)rhaid iddo gael ei gyhoeddi’n electronig gan CBC y Gogledd.

(7Yn lle rheoliad 15 (dirprwyo swyddogaethau) rhodder—

Cyfyngiad ar gyflawni swyddogaethau gan bersonau eraill

15.  Nid yw rheoliad 13 o Reoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2021 (trefniadau ar gyfer cyflawni swyddogaethau) yn gymwys i—

(a)cymeradwyo polisi trafnidiaeth, neu ddiwygio polisi o’r fath a ddatblygwyd yn rhinwedd rheoliad 12(1) o dan adran 108(1)(a) a (2A)(a) o Ran 2 o Ddeddf Trafnidiaeth 2000;

(b)y gweithredoedd a ganlyn sy’n gysylltiedig â llunio cynllun datblygu strategol, neu ddiwygio cynllun, o dan reoliad 13—

(i)mabwysiadu cytundeb cyflawni, neu ddiwygio cytundeb o’r fath (gweler rheoliad 11(2) ac (8) o Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Cynllun Datblygu Strategol) (Cymru) 2021 (“y Rheoliadau CDS”));

(ii)cymeradwyo dogfennau cynigion cyn-adneuo a datganiad o faterion cyn-adneuo (gweler rheoliadau 17 a 18 o’r Rheoliadau CDS);

(iii)cymeradwyo adroddiad ymgynghori cychwynnol, dogfen cynigion yr CDS a datganiad o faterion adneuo (gweler rheoliad 20 o’r Rheoliadau CDS);

(iv)cymeradwyo dogfennau i’w hanfon at Weinidogion Cymru o dan adran 64(3) o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004;

(v)tynnu cynllun datblygu strategol yn ôl o dan adran 66A(2) o’r Ddeddf honno;

(vi)mabwysiadu cynllun datblygu strategol o dan adran 60M(9)(a) o’r Ddeddf honno;

(vii)cymeradwyo adroddiad monitro blynyddol sydd i’w wneud o dan adran 76(1) o’r Ddeddf honno;

(viii)cymeradwyo adroddiad adolygiad o gynllun datblygu strategol sydd i’w wneud o dan adran 69(2) o’r Ddeddf honno;

(c)cytuno ar gyfrifiadau o ofynion cyllideb neu gyfrifiadau diwygiedig o dan reoliad 16(6)(b) a (9).

(8Yn rheoliad 17 (ariannu gofyniad cyllideb), ym mharagraff (2), yn lle “yr aelodau” rhodder “yr aelodau cyngor ac aelod Eryri”.

(9Ym mharagraff 2 o’r Atodlen (penodi cadeirydd ac is-gadeirydd), yn is-baragraff (4)(b), yn lle “gyfranogwyr cyfetholedig” rhodder “aelodau eraill”.

(10Ym mharagraff 6 o’r Atodlen (y weithdrefn bleidleisio), yn lle is-baragraff (1)(a) rhodder—

(a)ni chaiff nifer yr aelodau cyfetholedig sydd â hawl i bleidleisio fod yn fwy na nifer yr aelodau eraill sydd â hawl i bleidleisio,.

(11Ym mharagraff 7 o’r Atodlen (mabwysiadu gweithdrefn bleidleisio wahanol), yn lle is-baragraff (4) rhodder—

(4) Rhaid i weithdrefn a fabwysiedir o dan y paragraff hwn gael ei mabwysiadu drwy gytundeb unfrydol yr aelodau sydd â hawl i bleidleisio ar fabwysiadu’r weithdrefn.

(12Ym mharagraff 9 o’r Atodlen (darpariaeth gyffredinol o ran staffio)—

(a)daw’r testun presennol yn is-baragraff (1);

(b)ar ôl yr is-baragraff hwnnw mewnosoder—

(2) Rhaid i CBC y Gogledd sicrhau bod trefniadau a wneir o dan is-baragraff (1) yn rhai sy’n angenrheidiol er mwyn i CBC y Gogledd gyflawni ei swyddogaethau’n briodol.

(13Ym mharagraff 10 o’r Atodlen (telerau ac amodau), yn lle is-baragraff (2) rhodder—

(2) Ond o ran is-baragraff (1)—

(a)mae’n ddarostyngedig i adran 41 o Ddeddf Lleoliaeth 2011, a

(b)nid yw’n atal CBC y Gogledd rhag addasu telerau ac amodau staff y mae’n eu penodi os yw hynny’n ofynnol yn rhinwedd unrhyw ddeddfiad neu reol gyfreithiol arall.

(14Ym mharagraff 11 o’r Atodlen (staff o awdurdodau eraill), ar ôl is-baragraff (2) mewnosoder—

(3) Ond, yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth i’r gwrthwyneb mewn unrhyw ddeddfiad arall, at ddibenion blwydd-daliadau mae gwasanaeth a ddarperir gan aelod o staff awdurdod Cymreig datganoledig sydd wedi ei roi at ddefnydd CBC y Gogledd yn rhinwedd cytundeb o’r fath yn wasanaeth a ddarperir i’r awdurdod.

(15Hepgorer paragraff 15 o’r Atodlen (is-bwyllgorau).

(16Ym mharagraff 16 o’r Atodlen (is-bwyllgor llywodraethu ac archwilio)—

(a)yn is-baragraff (2)(b) yn lle “gan” rhodder “o”;

(b)yn lle is-baragraff (2)(c) rhodder—

(c)nad yw unrhyw un o aelodau o’r is-bwyllgor—

(i)yn aelod cyngor,

(ii)yn aelod cyfetholedig,

(iii)yn aelod o is-bwyllgor arall i CBC y Gogledd, neu

(iv)yn aelod o weithrediaethau’r cynghorau cyfansoddol.;

(c)hepgorer is-baragraff (3).

Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig De-ddwyrain (Cymru) 2021

36.—(1Mae Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig De-ddwyrain (Cymru) 2021(15) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2 (dehongli), hepgorer y diffiniad o “cyfranogwr cyfetholedig” ac ar ôl y diffiniad o “aelod Bannau Brycheiniog” rhodder—

mae i “aelod cyfetholedig” (“co-opted member”) yr ystyr a roddir gan reoliad 9(1); .

(3Yn rheoliad 6 (aelodaeth)—

(a)ym mharagraff (1)—

(i)ar ddiwedd is-baragraff (a) hepgorer “a”;

(ii)ar ddiwedd is-baragraff (b) mewnosoder “, ac”;

(iii)ar ôl is-baragraff (b) mewnosoder—

(c)unrhyw aelod cyfetholedig.;

(b)ym mharagraff (2), ar ôl “De-ddwyrain” mewnosoder “, yn ddarostyngedig i reoliadau 8(2A) a 9(2)”;

(c)hepgorer paragraff (3);

(d)ym mharagraff (4), yn lle “i’r graddau a ddisgrifir ym mharagraff (3),” rhodder “ac unrhyw aelod cyfetholedig”.

(4Yn rheoliad 7 (aelodau cyngor), ym mharagraff (2)—

(a)yn lle “gyflawni ei swyddogaethau” rhodder “weithredu fel aelod cyngor”;

(b)yn lle “gyflawni’r swyddogaethau hynny” rhodder “weithredu”.

(5Yn rheoliad 8 (aelod Bannau Brycheiniog)—

(a)ar ôl paragraff (2) mewnosoder—

(2A) Ni chaiff aelod Bannau Brycheiniog weithredu fel aelod ond mewn perthynas ag—

(a)y swyddogaethau a roddir i CBC y De-ddwyrain o dan reoliad 13;

(b)unrhyw swyddogaeth sydd gan CBC y De-ddwyrain sy’n ategol i’r swyddogaethau hynny neu’n gysylltiedig â hwy.

(2B) Ond caiff aelod Bannau Brycheiniog hefyd weithredu fel aelod mewn perthynas ag unrhyw swyddogaeth arall sydd gan CBC y De-ddwyrain—

(a)os yw’r aelodau cyngor ac aelod Bannau Brycheiniog yn cytuno, neu

(b)os caniateir i aelod Bannau Brycheiniog weithredu mewn perthynas â’r swyddogaeth honno, neu os yw’n ofynnol iddo wneud hynny, yn rhinwedd darpariaeth ddatganedig yn y Rheoliadau hyn neu mewn unrhyw ddeddfiad arall.

(2C) Rhaid i gytundeb o dan baragraff (2B)(a) bennu’r telerau y caiff aelod Bannau Brycheiniog weithredu odanynt mewn perthynas â’r swyddogaeth o dan sylw, gan gynnwys pennu’r cyfnod pan fo aelod Bannau Brycheiniog i weithredu.;

(b)ym mharagraff (3)—

(i)yn lle “gyflawni ei swyddogaethau” rhodder “weithredu fel aelod”;

(ii)yn lle “gyflawni’r swyddogaethau hynny” rhodder “weithredu”.

(6Yn lle rheoliad 9 (cyfranogwyr cyfetholedig) rhodder—

Aelodau cyfetholedig

9.(1) Caiff CBC y De-ddwyrain gyfethol un neu ragor o unigolion i fod yn aelodau o CBC y De-ddwyrain (“aelod cyfetholedig”) ar y telerau hynny y mae’n eu pennu.

(2) Rhaid i’r telerau hynny—

(a)pennu—

(i)swyddogaethau CBC y De-ddwyrain y caiff yr aelod cyfetholedig weithredu mewn perthynas â hwy fel aelod o’r CBC, a

(ii)unrhyw swyddogaeth sydd gan CBC y De-ddwyrain sy’n ategol i’r swyddogaethau hynny neu’n gysylltiedig â hwy,

(b)cael eu cytuno gan yr aelod cyfetholedig a’r aelodau eraill, ac

(c)cael eu nodi mewn cytundeb cyfethol.

(3) Pan fo gan aelod cyfetholedig, o dan baragraff (1), hawl i weithredu mewn perthynas ag—

(a)y swyddogaethau a roddir i CBC y De-ddwyrain o dan reoliad 13, a

(b)unrhyw swyddogaeth sydd gan CBC y De-ddwyrain sy’n ategol i’r swyddogaethau hynny neu’n gysylltiedig â hwy,

caiff aelod Bannau Brycheiniog weithredu fel aelod at ddibenion y paragraff hwnnw.

(4) Caiff aelod cyfetholedig ei gyfethol—

(a)am gyfnod a bennir yn y cytundeb cyfethol, neu

(b)hyd nes—

(i)y bydd yr aelod cyfetholedig yn ymddiswyddo o CBC y De-ddwyrain, neu

(ii)y bydd CBC y De-ddwyrain yn terfynu’r cyfetholiad.

(5) Mewn perthynas â chytundeb cyfethol—

(a)caniateir ei amrywio ar unrhyw adeg;

(b)rhaid iddo gael ei gyhoeddi’n electronig gan CBC y De-ddwyrain.

(7Yn lle rheoliad 15 (dirprwyo swyddogaethau) rhodder—

Cyfyngiad ar gyflawni swyddogaethau gan bersonau eraill

15.  Nid yw rheoliad 13 o Reoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2021 (trefniadau ar gyfer cyflawni swyddogaethau) yn gymwys i—

(a)cymeradwyo polisi trafnidiaeth, neu ddiwygio polisi o’r fath a ddatblygwyd yn rhinwedd rheoliad 12(1) o dan adran 108(1)(a) a (2A)(a) o Ran 2 o Ddeddf Trafnidiaeth 2000;

(b)y gweithredoedd a ganlyn sy’n gysylltiedig â llunio cynllun datblygu strategol, neu ddiwygio cynllun, o dan reoliad 13—

(i)mabwysiadu cytundeb cyflawni, neu ddiwygio cytundeb o’r fath (gweler rheoliad 11(2) ac (8) o Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Cynllun Datblygu Strategol) (Cymru) 2021 (“y Rheoliadau CDS”));

(ii)cymeradwyo dogfennau cynigion cyn-adneuo a datganiad o faterion cyn-adneuo (gweler rheoliadau 17 a 18 o’r Rheoliadau CDS);

(iii)cymeradwyo adroddiad ymgynghori cychwynnol, dogfen cynigion yr CDS a datganiad o faterion adneuo (gweler rheoliad 20 o’r Rheoliadau CDS);

(iv)cymeradwyo dogfennau i’w hanfon at Weinidogion Cymru o dan adran 64(3) o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004;

(v)tynnu cynllun datblygu strategol yn ôl o dan adran 66A(2) o’r Ddeddf honno;

(vi)mabwysiadu cynllun datblygu strategol o dan adran 60M(9)(a) o’r Ddeddf honno;

(vii)cymeradwyo adroddiad monitro blynyddol sydd i’w wneud o dan adran 76(1) o’r Ddeddf honno;

(viii)cymeradwyo adroddiad adolygiad o gynllun datblygu strategol sydd i’w wneud o dan adran 69(2) o’r Ddeddf honno;

(c)cytuno ar gyfrifiadau o ofynion cyllideb neu gyfrifiadau diwygiedig o dan reoliad 16(6)(b) a (9).

(8Yn rheoliad 17 (ariannu gofyniad cyllideb), ym mharagraff (2), yn lle “yr aelodau” rhodder “yr aelodau cyngor ac aelod Bannau Brycheiniog”.

(9Ym mharagraff 2 o’r Atodlen (penodi cadeirydd ac is-gadeirydd), yn is-baragraff (4)(b), yn lle “gyfranogwyr cyfetholedig” rhodder “aelodau eraill”.

(10Ym mharagraff 6 o’r Atodlen (y weithdrefn bleidleisio), yn lle is-baragraff (1)(a) rhodder—

(a)ni chaiff nifer yr aelodau cyfetholedig sydd â hawl i bleidleisio fod yn fwy na nifer yr aelodau eraill sydd â hawl i bleidleisio,.

(11Ym mharagraff 7 o’r Atodlen (mabwysiadu gweithdrefn bleidleisio wahanol), yn lle is-baragraff (4) rhodder—

(4) Rhaid i weithdrefn a fabwysiedir o dan y paragraff hwn gael ei mabwysiadu drwy gytundeb unfrydol yr aelodau sydd â hawl i bleidleisio ar fabwysiadu’r weithdrefn.

(12Ym mharagraff 9 o’r Atodlen (darpariaeth gyffredinol o ran staffio)—

(a)daw’r testun presennol yn is-baragraff (1);

(b)ar ôl yr is-baragraff hwnnw mewnosoder—

(2) Rhaid i CBC y De-ddwyrain sicrhau bod trefniadau a wneir o dan is-baragraff (1) yn rhai sy’n angenrheidiol er mwyn i CBC y De-ddwyrain gyflawni ei swyddogaethau’n briodol.

(13Ym mharagraff 10 o’r Atodlen (telerau ac amodau), yn lle is-baragraff (2) rhodder—

(2) Ond o ran is-baragraff (1)—

(a)mae’n ddarostyngedig i adran 41 o Ddeddf Lleoliaeth 2011, a

(b)nid yw’n atal CBC y De-ddwyrain rhag addasu telerau ac amodau staff y mae’n eu penodi os yw hynny’n ofynnol yn rhinwedd unrhyw ddeddfiad neu reol gyfreithiol arall.

(14Ym mharagraff 11 o’r Atodlen (staff o awdurdodau eraill), ar ôl is-baragraff (2) mewnosoder—

(3) Ond, yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth i’r gwrthwyneb mewn unrhyw ddeddfiad arall, at ddibenion blwydd-daliadau mae gwasanaeth a ddarperir gan aelod o staff awdurdod Cymreig datganoledig sydd wedi ei roi at ddefnydd CBC y De-ddwyrain yn rhinwedd cytundeb o’r fath yn wasanaeth a ddarperir i’r awdurdod.

(15Hepgorer paragraff 15 o’r Atodlen (is-bwyllgorau).

(16Ym mharagraff 16 o’r Atodlen (is-bwyllgor llywodraethu ac archwilio)—

(a)yn is-baragraff (2)(b) yn lle “gan” rhodder “o”;

(b)yn lle is-baragraff (2)(c) rhodder—

(c)nad yw unrhyw un o aelodau o’r is-bwyllgor—

(i)yn aelod cyngor,

(ii)yn aelod cyfetholedig,

(iii)yn aelod o is-bwyllgor arall i CBC y De-ddwyrain, neu

(iv)yn aelod o weithrediaethau’r cynghorau cyfansoddol.;

(c)hepgorer is-baragraff (3).

Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig y De-orllewin (Cymru) 2021

37.—(1Mae Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig y De-orllewin (Cymru) 2021(16) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2 (dehongli), hepgorer y diffiniad o “cyfranogwr cyfetholedig” ac ar ôl y diffiniad o “aelod Bannau Brycheiniog” rhodder—

mae i “aelod cyfetholedig” (“co-opted member”) yr ystyr a roddir gan reoliad 9(1); .

(3Yn rheoliad 6 (aelodaeth)—

(a)ym mharagraff (1)—

(i)ar ddiwedd is-baragraff (b) hepgorer “a”;

(ii)ar ddiwedd is-baragraff (c) mewnosoder “, a”;

(iii)ar ôl is-baragraff (c) mewnosoder—

(d)unrhyw aelod cyfetholedig.;

(b)ym mharagraff (2), ar ôl “De-orllewin” mewnosoder “, yn ddarostyngedig i reoliadau 8(3A) a 9(2)”;

(c)hepgorer paragraff (3);

(d)ym mharagraff (4)—

(i)yn lle “ac”, yn yr ail le y mae’n digwydd, rhodder “,”;

(ii)yn lle “i’r graddau a ddisgrifir ym mharagraff (3),” rhodder “ac unrhyw aelod cyfetholedig”.

(4Yn rheoliad 7 (aelodau cyngor), ym mharagraff (2)—

(a)yn lle “gyflawni ei swyddogaethau” rhodder “weithredu fel aelod cyngor”;

(b)yn lle “gyflawni’r swyddogaethau hynny” rhodder “weithredu”.

(5Yn rheoliad 8 (aelod Bannau Brycheiniog ac aelod Arfordir Penfro)—

(a)ar ôl paragraff (3) mewnosoder—

(3A) Ni chaiff aelod Bannau Brycheiniog neu aelod Arfordir Penfro, yn ôl y digwydd, weithredu fel aelod ond mewn perthynas ag—

(a)y swyddogaethau a roddir i CBC y De-orllewin o dan reoliad 13;

(b)unrhyw swyddogaeth sydd gan CBC y De-orllewin sy’n ategol i’r swyddogaethau hynny neu’n gysylltiedig â hwy.

(3B) Ond caiff aelod Bannau Brycheiniog neu aelod Arfordir Penfro, yn ôl y digwydd, hefyd weithredu fel aelod mewn perthynas ag unrhyw swyddogaeth arall sydd gan CBC y De-orllewin—

(a)os yw’r aelodau cyngor ac aelod Bannau Brycheiniog neu aelod Arfordir Penfro (yn ôl y digwydd) yn cytuno, neu

(b)os caniateir i aelod Bannau Brycheiniog neu aelod Arfordir Penfro (yn ôl y digwydd) weithredu mewn perthynas â’r swyddogaeth honno, neu os yw’n ofynnol iddo wneud hynny, yn rhinwedd darpariaeth ddatganedig yn y Rheoliadau hyn neu mewn unrhyw ddeddfiad arall.

(3C) Rhaid i gytundeb o dan baragraff (3B)(a) bennu’r telerau y caiff aelod Bannau Brycheiniog neu aelod Arfordir Penfro (yn ôl y digwydd) weithredu odanynt mewn perthynas â’r swyddogaeth o dan sylw, gan gynnwys pennu’r cyfnod pan fo aelod Bannau Brycheiniog neu aelod Arfordir Penfro i weithredu.;

(b)ym mharagraff (4)—

(i)yn lle “gyflawni ei swyddogaethau” rhodder “weithredu fel aelod”;

(ii)yn lle “gyflawni’r swyddogaethau hynny” rhodder “weithredu”;

(iii)ar ôl “aelod Arfordir Penfro”, yn yr ail le y mae’n digwydd, mewnosoder “(yn ôl y digwydd)”.

(6Yn lle rheoliad 9 (cyfranogwyr cyfetholedig) rhodder—

Aelodau cyfetholedig

9.(1) Caiff CBC y De-orllewin gyfethol un neu ragor o unigolion i fod yn aelodau o CBC y De-orllewin (“aelod cyfetholedig”) ar y telerau hynny y mae’n eu pennu.

(2) Rhaid i’r telerau hynny—

(a)pennu—

(i)swyddogaethau CBC y De-orllewin y caiff yr aelod cyfetholedig weithredu mewn perthynas â hwy fel aelod o’r CBC, a

(ii)unrhyw swyddogaeth sydd gan CBC y De-orllewin sy’n ategol i’r swyddogaethau hynny neu’n gysylltiedig â hwy;

(b)cael eu cytuno gan yr aelod cyfetholedig a’r aelodau eraill, ac

(c)cael eu nodi mewn cytundeb cyfethol.

(3) Pan fo gan aelod cyfetholedig, o dan baragraff (1), hawl i weithredu mewn perthynas ag—

(a)y swyddogaethau a roddir i CBC y De-orllewin o dan reoliad 13, a

(b)unrhyw swyddogaeth sydd gan CBC y De-orllewin sy’n ategol i’r swyddogaethau hynny neu’n gysylltiedig â hwy,

caiff aelod Bannau Brycheiniog ac aelod Arfordir Penfro weithredu fel aelod at ddibenion y paragraff hwnnw.

(4) Caiff aelod cyfetholedig ei gyfethol—

(a)am gyfnod a bennir yn y cytundeb cyfethol, neu

(b)hyd nes—

(i)y bydd yr aelod cyfetholedig yn ymddiswyddo o CBC y De-orllewin, neu

(ii)y bydd CBC y De-orllewin yn terfynu’r cyfetholiad.

(5) Mewn perthynas â chytundeb cyfethol—

(a)caniateir ei amrywio ar unrhyw adeg;

(b)rhaid iddo gael ei gyhoeddi’n electronig gan CBC y De-orllewin.

(7Yn lle rheoliad 15 (dirprwyo swyddogaethau) rhodder—

Cyfyngiad ar gyflawni swyddogaethau gan bersonau eraill

15.  Nid yw rheoliad 13 o Reoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2021 (trefniadau ar gyfer cyflawni swyddogaethau) yn gymwys i—

(a)cymeradwyo polisi trafnidiaeth, neu ddiwygio polisi o’r fath a ddatblygwyd yn rhinwedd rheoliad 12(1) o dan adran 108(1)(a) a (2A)(a) o Ran 2 o Ddeddf Trafnidiaeth 2000;

(b)y gweithredoedd a ganlyn sy’n gysylltiedig â llunio cynllun datblygu strategol, neu ddiwygio cynllun, o dan reoliad 13—

(i)mabwysiadu cytundeb cyflawni, neu ddiwygio cytundeb o’r fath (gweler rheoliad 11(2) ac (8) o Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Cynllun Datblygu Strategol) (Cymru) 2021 (“y Rheoliadau CDS”));

(ii)cymeradwyo dogfennau cynigion cyn-adneuo a datganiad o faterion cyn-adneuo (gweler rheoliadau 17 a 18 o’r Rheoliadau CDS);

(iii)cymeradwyo adroddiad ymgynghori cychwynnol, dogfen cynigion yr CDS a datganiad o faterion adneuo (gweler rheoliad 20 o’r Rheoliadau CDS);

(iv)cymeradwyo dogfennau i’w hanfon at Weinidogion Cymru o dan adran 64(3) o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004;

(v)tynnu cynllun datblygu strategol yn ôl o dan adran 66A(2) o’r Ddeddf honno;

(vi)mabwysiadu cynllun datblygu strategol o dan adran 60M(9)(a) o’r Ddeddf honno;

(vii)cymeradwyo adroddiad monitro blynyddol sydd i’w wneud o dan adran 76(1) o’r Ddeddf honno;

(viii)cymeradwyo adroddiad adolygiad o gynllun datblygu strategol sydd i’w wneud o dan adran 69(2) o’r Ddeddf honno;

(c)cytuno ar gyfrifiadau o ofynion cyllideb neu gyfrifiadau diwygiedig o dan reoliad 16(6)(b) a (9).

(8Yn rheoliad 17 (ariannu gofyniad cyllideb), ym mharagraff (2)—

(a)yn lle “yr Awdurdod” rhodder “bob Awdurdod”;

(b)yn lle “yr aelodau” rhodder “yr aelodau cyngor, aelod Bannau Brycheiniog ac aelod Arfordir Penfro”.

(9Ym mharagraff 2 o’r Atodlen (penodi cadeirydd ac is-gadeirydd), yn is-baragraff (4)(b), yn lle “gyfranogwyr cyfetholedig” rhodder “aelodau eraill”.

(10Ym mharagraff 6 o’r Atodlen (y weithdrefn bleidleisio), yn lle is-baragraff (1)(a) rhodder—

(a)ni chaiff nifer yr aelodau cyfetholedig sydd â hawl i bleidleisio fod yn fwy na nifer yr aelodau eraill sydd â hawl i bleidleisio,.

(11Ym mharagraff 7 o’r Atodlen (mabwysiadu gweithdrefn bleidleisio wahanol), yn lle is-baragraff (4) rhodder—

(4) Rhaid i weithdrefn a fabwysiedir o dan y paragraff hwn gael ei mabwysiadu drwy gytundeb unfrydol yr aelodau sydd â hawl i bleidleisio ar fabwysiadu’r weithdrefn.

(12Ym mharagraff 9 o’r Atodlen (darpariaeth gyffredinol o ran staffio)—

(a)daw’r testun presennol yn is-baragraff (1);

(b)ar ôl yr is-baragraff hwnnw mewnosoder—

(2) Rhaid i CBC y De-orllewin sicrhau bod trefniadau a wneir o dan is-baragraff (1) yn rhai sy’n angenrheidiol er mwyn i CBC y De-orllewin gyflawni ei swyddogaethau’n briodol.

(13Ym mharagraff 10 o’r Atodlen (telerau ac amodau), yn lle is-baragraff (2) rhodder—

(2) Ond o ran is-baragraff (1)—

(a)mae’n ddarostyngedig i adran 41 o Ddeddf Lleoliaeth 2011, a

(b)nid yw’n atal CBC y De-orllewin rhag addasu telerau ac amodau staff y mae’n eu penodi os yw hynny’n ofynnol yn rhinwedd unrhyw ddeddfiad neu reol gyfreithiol arall.

(14Ym mharagraff 11 o’r Atodlen (staff o awdurdodau eraill), ar ôl is-baragraff (2) mewnosoder—

(3) Ond, yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth i’r gwrthwyneb mewn unrhyw ddeddfiad arall, at ddibenion blwydd-daliadau mae gwasanaeth a ddarperir gan aelod o staff awdurdod Cymreig datganoledig sydd wedi ei roi at ddefnydd CBC y De-orllewin yn rhinwedd cytundeb o’r fath yn wasanaeth a ddarperir i’r awdurdod.

(15Hepgorer paragraff 15 o’r Atodlen (is-bwyllgorau).

(16Ym mharagraff 16 o’r Atodlen (is-bwyllgor llywodraethu ac archwilio)—

(a)yn is-baragraff (2)(b) yn lle “gan” rhodder “o”;

(b)yn lle is-baragraff (2)(c) rhodder—

(c)nad yw unrhyw un o aelodau o’r is-bwyllgor—

(i)yn aelod cyngor,

(ii)yn aelod cyfetholedig,

(iii)yn aelod o is-bwyllgor arall i CBC y De-orllewin, neu

(iv)yn aelod o weithrediaethau’r cynghorau cyfansoddol.;

(c)hepgorer is-baragraff (3).

Deddf Llywodraeth Leol 1972

38.  Yn adran 270 o Ddeddf 1972, yn is-adran (1), ar ôl y diffiniad o “Common Council” mewnosoder—

corporate joint committee” means a corporate joint committee established by regulations under Part 5 of the Local Government and Elections (Wales) Act 2021;

Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988

39.  Yn adran 111 o Ddeddf 1988 (dehongli)—

(a)yn is-adran (2) (awdurdodau perthnasol), ar ôl paragraff (n) mewnosoder—

(o)a corporate joint committee;

(b)ar ôl is-adran (3C) mewnosoder—

(3D) In this Part “corporate joint committee” means a corporate joint committee established by regulations under Part 5 of the Local Government and Elections (Wales) Act 2021.

Deddf Llywodraeth Leol a Thai 1989

40.  Yn adran 21 o Ddeddf 1989 (dehongli Rhan 1), yn is-adran (3), yn y lle priodol, mewnosoder—

corporate joint committee” means a corporate joint committee established by regulations under Part 5 of the Local Government and Elections (Wales) Act 2021;.

Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011

41.  Yn adran 175 o Fesur 2011 (dehongli), ar ôl y diffiniad o “awdurdod lleol” mewnosoder—

ystyr “cyd-bwyllgor corfforedig” (“corporate joint committee”) yw cyd-bwyllgor corfforedig a sefydlir gan reoliadau o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021;.

Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021

42.—(1Mae Deddf 2021 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2Yn adran 171 (dehongli), yn is-adran (1), ar ôl y diffiniad o “awdurdod tân ac achub” mewnosoder—

mae i “cyd-bwyllgor corfforedig” (“corporate joint committee”) yr un ystyr ag yn adran 68 o’r Ddeddf hon;.

(3Yn Atodlen 5—

(a)ym mharagraff 3—

(i)yn lle is-baragraff (a) rhodder—

(a)yn lle paragraff (a) rhodder—

(a)with—

(i)in the case of a Welsh county council or county borough council, the person who is for the time being appointed as the authority’s chief executive under section 54 of the Local Government and Elections (Wales) Act 2021;

(ii)in the case of a corporate joint committee, the person who is for the time being appointed as the authority’s chief executive;

(iii)in any other case, the person who is for the time being designated as the head of the authority’s paid service under section 4 of the Local Government and Housing Act 1989;.

(ii)hepgorer is-baragraff (b);

(b)ym mharagraff 9, yn lle is-baragraff (c) rhodder—

(c)yn lle is-adran (3)(a) rhodder—

(a)in preparing a report under this section to consult so far as practicable with—

(i)in the case of a relevant authority which is the council of a county or county borough in Wales, the person who is for the time being the authority’s chief executive and with their chief finance officer;

(ii)in the case of a relevant authority which is a corporate joint committee, the person who is for the time being appointed as the authority’s chief executive and with their chief finance officer;

(iii)in the case of any other relevant authority, the person who is for the time being designated as the head of the authority’s paid service under section 4 above and with their chief finance officer;;

(c)ym mharagraff 17 (diwygiadau i adran 43 o Ddeddf 2011), yn is-baragraff (a), yn lle’r testun a fewnosodir rhodder—

(aa)its chief executive appointed under—

(i)section 54 of the Local Government and Elections (Wales) Act 2021 (chief executive of council in Wales), or

(ii)regulations made under Part 5 of that Act (chief executive of a corporate joint committee).

Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Cymru) 2021

43.—(1Mae Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Cymru) 2021(17) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2 mae’r diffiniadau o “cyfranogwr cyfetholedig” ac “aelod” wedi eu hepgor.

(3Yn rheoliad 3, lle y mae’n ymddangos yn y pennawd ac yng nghorff y rheoliad, yn lle “cyfranogwyr cyfetholedig” rhodder “aelodau o is-bwyllgor”.

(4Yn Atodlen 1, ym mharagraff 1—

(a)yn y pennawd, yn lle “a chyfranogwyr cyfetholedig” rhodder “ac aelodau o is-bwyllgor”.

(b)yn is-baragraff (1)(a)(ii), yn lle “gyfranogwyr cyfetholedig” rhodder “aelod o is-bwyllgor”.

Rebecca Evans

Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru

Am 9.30 a.m. ar 1 Rhagfyr 2021

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud fel rhan o gyfres o reoliadau sy’n gysylltiedig â sefydlu cyd-bwyllgorau corfforedig yng Nghymru gan reoliadau o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021.

Mae chwe rhan i’r Rheoliadau hyn.

Mae Rhan 1 yn gwneud darpariaeth ynghylch cychwyn a dehongli’r Rheoliadau hyn.

Mae Rhan 2 yn darparu bod rhaid i gyd-bwyllgorau corfforedig yng Nghymru benodi swyddogion gweithrediaeth, sef Prif Weithredwr, Prif Swyddog Cyllid a Swyddog Monitro. Mae’r Rhan hon hefyd yn darparu rhagor o fanylion ynghylch y swyddogaethau sydd i’w harfer gan bob un o’r deiliaid swyddi hyn.

Mae Rhan 3 yn cynnwys darpariaethau cyffredinol mewn perthynas â staff cyd-bwyllgorau corfforedig. Er enghraifft, mae’r Rhan hon yn diwygio’r diffiniad o “proper officer” yn Neddf Llywodraeth Leol 1972. Mae hefyd yn cymhwyso darpariaethau yn Rhan 1 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 i gyd-bwyllgorau corfforedig. Mae’r rhain yn darparu bod cyfyngiadau gwleidyddol ar swyddi penodol mewn cyd-bwyllgor corfforedig fel sydd ar swyddi penodol mewn awdurdod lleol ac na chaniateir cyfethol deiliaid swyddi o’r fath mewn unrhyw awdurdod perthnasol yn aelodau o gyd-bwyllgor corfforedig.

Mae Rhan 4 yn gwneud darpariaeth sy’n caniatáu i gyd-bwyllgorau corfforedig wneud trefniadau i’w swyddogaethau gael eu cyflawni gan is-bwyllgorau, gan staff neu ar y cyd â chyd-bwyllgorau corfforedig eraill neu gynghorau sir neu gynghorau bwrdeistref sirol yng Nghymru. Caiff is-bwyllgor a benodir gan gyd-bwyllgor corfforedig fod ag aelodau nad ydynt hefyd yn aelodau o’r cyd-bwyllgor corfforedig.

Mae Rhan 5 yn darparu manylion ynghylch y modd y mae’n rhaid ymgymeryd â chyfarfodydd a thrafodion cyd-bwyllgorau corfforedig (ac unrhyw is-bwyllgor i gyd-bwyllgor corfforedig). Er enghraifft gofynion o ran hysbysu a dogfennau a darpariaeth ynghylch lleoliad cyfarfodydd (a mynediad o bell atynt).

Mae Rhan 6 yn nodi diwygiadau amrywiol a chanlyniadol y mae angen eu gwneud i rywfaint o ddeddfwriaeth sylfaenol ac is-ddeddfwriaeth o ganlyniad i sefydlu cyd-bwyllgorau corfforedig a’r darpariaethau eraill yn y Rheoliadau hyn.

Mae’r Rheoliadau hyn yn gysylltiedig â’r rheoliadau a oedd yn sefydlu cyd-bwyllgorau corfforedig penodol o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 ac a ddaeth i rym ar 1 Ebrill 2021 a 30 Mehefin 2021. Lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol pan wnaed y rheoliadau sefydlu hynny a gellir cael copi oddi wrth: Yr Is-adran Cyllid Strategol Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources