- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2021, Adran 17.![]()
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.
17.—(1) Rhaid i gyd-bwyllgor corfforedig roi hysbysiad cyhoeddus am gyfarfod CBC—
(a)o leiaf dri diwrnod clir cyn y cyfarfod, neu
(b)os yw’r cyfarfod yn cael ei gynnull ar rybudd byrrach, adeg cynnull y cyfarfod.
(2) Rhaid cyhoeddi’r hysbysiad yn electronig a rhaid iddo—
(a)pan fo’r cyfarfod wedi ei alw gan un neu ragor o aelodau’r cyd-bwyllgor corfforedig, bennu’r busnes y bwriedir ei drafod yn y cyfarfod ac—
(i)bod wedi ei lofnodi gan yr aelodau sy’n galw’r cyfarfod, neu
(ii)dynodi cymeradwyaeth yr aelodau hynny drwy ddulliau electronig;
(b)pan fo’r cyfarfod neu ran o’r cyfarfod yn agored i’r cyhoedd a’i fod yn cael ei gynnal drwy ddulliau o bell yn unig, roi manylion am amser y cyfarfod a sut i’w gyrchu;
(c)pan fo’r cyfarfod neu ran o’r cyfarfod yn agored i’r cyhoedd a’i fod yn cael ei gynnal yn rhannol drwy ddulliau o bell neu os nad yw’n cael ei gynnal drwy ddulliau o bell, roi manylion am amser a lleoliad y cyfarfod a sut i’w gyrchu;
(d)pan na fo’r cyfarfod yn agored i’r cyhoedd a’i fod yn cael ei gynnal drwy ddulliau o bell yn unig, roi manylion am amser y cyfarfod, a’r ffaith ei fod yn cael ei gynnal drwy ddulliau o bell yn unig ac nad yw’n agored i’r cyhoedd;
(e)pan na fo’r cyfarfod yn agored i’r cyhoedd a’i fod yn cael ei gynnal yn rhannol drwy ddulliau o bell neu os nad yw’n cael ei gynnal drwy ddulliau o bell, roi manylion am amser a lleoliad y cyfarfod a’r ffaith nad yw’n agored i’r cyhoedd.
(3) Heb fod yn hwyrach na 3 diwrnod clir cyn cyfarfod CBC neu, os yw’r cyfarfod yn cael ei gynnull ar rybudd byrrach, adeg cynnull y cyfarfod, rhaid i swyddog priodol anfon gwŷs i fynychu’r cyfarfod at bob aelod o’r cyd-bwyllgor corfforedig drwy—
(a)ei hanfon drwy’r post i fan preswylio’r aelod neu, pan fo’r aelod wedi hysbysu’r swyddog priodol fod gwŷs i’w hanfon i gyfeiriad arall, i’r cyfeiriad arall hwnnw, neu
(b)ei hanfon yn electronig.
(4) Pan fo cyfarfod CBC yn cael ei gynnull ar fyr rybudd, rhaid i wŷs a anfonir drwy’r post o dan baragraff (3)(a) gael ei hanfon gan ganiatáu amser digonol iddi gyrraedd yn nhrefn arferol y post cyn i’r cyfarfod gael ei gynnull.
(5) Rhaid i wŷs bennu’r busnes y bwriedir ei drafod yn y cyfarfod.
(6) Nid yw methu â chyflwyno gwŷs i unrhyw aelod yn effeithio ar ddilysrwydd cyfarfod CBC.
(7) Ac eithrio yn achos—
(a)busnes sy’n ofynnol gan neu o dan—
(i)y Rheoliadau sefydlu,
(ii)unrhyw ddeddfiad arall, neu
(iii)rheolau sefydlog,
sydd i’w drafod yng nghyfarfod cyffredinol blynyddol cyd-bwyllgor corfforedig,
(b)busnes a ychwanegir at yr agenda ar gyfer cyfarfod CBC yn unol â rheolau sefydlog ar ôl i’r wŷs gael ei hanfon, neu
(c)busnes arall a ddygir gerbron cyfarfod CBC fel mater o frys yn unol â rheolau sefydlog,
ni chaniateir trafod unrhyw fusnes mewn cyfarfod CBC heblaw’r busnes a bennir yn y wŷs sy’n ymwneud â’r cyfarfod (a gweler hefyd reoliad 18(6)).
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 17 mewn grym ar 3.12.2021, gweler rhl. 1(2)
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: