RHAN 5Cyfarfodydd a thrafodion
Hysbysu am gyfarfodydd a gwysio i fynychu cyfarfodydd17.
(1)
Rhaid i gyd-bwyllgor corfforedig roi hysbysiad cyhoeddus am gyfarfod CBC—
(a)
o leiaf dri diwrnod clir cyn y cyfarfod, neu
(b)
os yw’r cyfarfod yn cael ei gynnull ar rybudd byrrach, adeg cynnull y cyfarfod.
(2)
Rhaid cyhoeddi’r hysbysiad yn electronig a rhaid iddo—
(a)
pan fo’r cyfarfod wedi ei alw gan un neu ragor o aelodau’r cyd-bwyllgor corfforedig, bennu’r busnes y bwriedir ei drafod yn y cyfarfod ac—
(i)
bod wedi ei lofnodi gan yr aelodau sy’n galw’r cyfarfod, neu
(ii)
dynodi cymeradwyaeth yr aelodau hynny drwy ddulliau electronig;
(b)
pan fo’r cyfarfod neu ran o’r cyfarfod yn agored i’r cyhoedd a’i fod yn cael ei gynnal drwy ddulliau o bell yn unig, roi manylion am amser y cyfarfod a sut i’w gyrchu;
(c)
pan fo’r cyfarfod neu ran o’r cyfarfod yn agored i’r cyhoedd a’i fod yn cael ei gynnal yn rhannol drwy ddulliau o bell neu os nad yw’n cael ei gynnal drwy ddulliau o bell, roi manylion am amser a lleoliad y cyfarfod a sut i’w gyrchu;
(d)
pan na fo’r cyfarfod yn agored i’r cyhoedd a’i fod yn cael ei gynnal drwy ddulliau o bell yn unig, roi manylion am amser y cyfarfod, a’r ffaith ei fod yn cael ei gynnal drwy ddulliau o bell yn unig ac nad yw’n agored i’r cyhoedd;
(e)
pan na fo’r cyfarfod yn agored i’r cyhoedd a’i fod yn cael ei gynnal yn rhannol drwy ddulliau o bell neu os nad yw’n cael ei gynnal drwy ddulliau o bell, roi manylion am amser a lleoliad y cyfarfod a’r ffaith nad yw’n agored i’r cyhoedd.
(3)
Heb fod yn hwyrach na 3 diwrnod clir cyn cyfarfod CBC neu, os yw’r cyfarfod yn cael ei gynnull ar rybudd byrrach, adeg cynnull y cyfarfod, rhaid i swyddog priodol anfon gwŷs i fynychu’r cyfarfod at bob aelod o’r cyd-bwyllgor corfforedig drwy—
(a)
ei hanfon drwy’r post i fan preswylio’r aelod neu, pan fo’r aelod wedi hysbysu’r swyddog priodol fod gwŷs i’w hanfon i gyfeiriad arall, i’r cyfeiriad arall hwnnw, neu
(b)
ei hanfon yn electronig.
(4)
Pan fo cyfarfod CBC yn cael ei gynnull ar fyr rybudd, rhaid i wŷs a anfonir drwy’r post o dan baragraff (3)(a) gael ei hanfon gan ganiatáu amser digonol iddi gyrraedd yn nhrefn arferol y post cyn i’r cyfarfod gael ei gynnull.
(5)
Rhaid i wŷs bennu’r busnes y bwriedir ei drafod yn y cyfarfod.
(6)
Nid yw methu â chyflwyno gwŷs i unrhyw aelod yn effeithio ar ddilysrwydd cyfarfod CBC.
(7)
Ac eithrio yn achos—
(a)
busnes sy’n ofynnol gan neu o dan—
(i)
y Rheoliadau sefydlu,
(ii)
unrhyw ddeddfiad arall, neu
(iii)
rheolau sefydlog,
sydd i’w drafod yng nghyfarfod cyffredinol blynyddol cyd-bwyllgor corfforedig,
(b)
busnes a ychwanegir at yr agenda ar gyfer cyfarfod CBC yn unol â rheolau sefydlog ar ôl i’r wŷs gael ei hanfon, neu
(c)
busnes arall a ddygir gerbron cyfarfod CBC fel mater o frys yn unol â rheolau sefydlog,
ni chaniateir trafod unrhyw fusnes mewn cyfarfod CBC heblaw’r busnes a bennir yn y wŷs sy’n ymwneud â’r cyfarfod (a gweler hefyd reoliad 18(6)).