- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
Offerynnau Statudol Cymru
Anifeiliaid, Cymru
Iechyd Anifeiliaid
Gwnaed
am 5.55 p.m. ar 19 Tachwedd 2021
Yn dod i rym yn unol ag erthygl 1(2)
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 1, 8(1), 15(5), 17(1), 23 a 25 o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981(1) yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ffliw Adar (H5N1 mewn Adar Gwyllt) (Cymru) (Diwygio) 2021.
(2) Daw’r Gorchymyn hwn i rym yn union ar ôl iddo gael ei wneud.
2. Mae Gorchymyn Ffliw Adar (H5N1 mewn Adar Gwyllt) (Cymru) 2006(2) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
3. Yn erthygl 2 (dehongli)—
(a)yn y diffiniad o “wild bird control area” hepgorer “or 5(3)”;
(b)yn y diffiniad o “wild bird monitoring area” hepgorer “or 5(3)”.
4. Yn erthygl 5 (cadarnhau neu amau bod H5N1 mewn adar gwyllt)—
(a)ym mharagraff (2)—
(i)yn lle “If the wild bird or carcase was found in Wales, the” rhodder “The”;
(ii)yn lle “must declare” rhodder “, after considering a risk assessment, may declare”;
(b)hepgorer paragraffau (3), (4) a (5);
(c)ym mharagraff (6) hepgorer “, (3)(a) or (3)(b)”;
(d)ym mharagraff (7) hepgorer “, (3)(a) or (3)(c)”.
5. Yn erthygl 6 (rhychwant ardaloedd rheoli a monitro adar gwyllt), ym mharagraff (9), yn lle “5(3)” rhodder “5(2)”.
6. Yn erthygl 11 (dyletswydd i arolygu mangreoedd dofednod), yn is-baragraff (1)(b), yn lle “all premises where poultry are kept within the wild bird control area as often” rhodder “such premises within the wild bird control area at such frequency”.
7. Yn erthygl 12 (cynnal ardaloedd), ym mharagraff 2(c) yn lle “at least one visit to each of those premises” rhodder “such visits as considered necessary”.
8. Yn Atodlen 3 (mesurau bioddiogelwch), ym mharagraff 4(b), hepgorer “(unless it is carrying poultry)”.
9. Mae Penderfyniad y Comisiwn dyddiedig 11 Awst 2006 ynghylch mesurau diogelu penodol mewn perthynas â ffliw adar pathogenig iawn o’r is-deip H5N1 mewn adar gwyllt yn y Gymuned ac sy’n diddymu Penderfyniad 2006/115/EC(3) wedi ei ddirymu.
Lesley Griffiths
Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, un o Weinidogion Cymru
Am 5.55 p.m. ar 19 Tachwedd 2021
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r Gorchymyn hwn, sy’n gymwys yng Nghymru yn unig, yn diwygio Gorchymyn Ffliw Adar (H5N1 mewn Adar Gwyllt) (Cymru) 2006 (O.S. 2006/3310 (Cy. 300)) (“y prif Orchymyn”) ac yn dirymu Penderfyniad y Comisiwn dyddiedig 11 Awst 2006 ynghylch mesurau amddiffyn penodol mewn perthynas â ffliw adar pathogenig iawn o’r is-deip H5N1 mewn adar gwyllt yn y Gymuned ac sy’n diddymu Penderfyniad 2006/115/EC (“Penderfyniad y Comisiwn”).
Mae erthygl 4 yn diwygio erthygl 5 o’r prif Orchymyn ac yn rhoi disgresiwn i Weinidogion Cymru i ddatgan ardal rheoli adar gwyllt ac ardal monitro adar gwyllt o dan amgylchiadau penodol, yn lle’r rhwymedigaeth a oedd arnynt i wneud hynny.
Mae erthyglau 2, 5 a 7 yn gwneud diwygiadau canlyniadol.
Mae erthygl 6 yn diwygio erthygl 11(1) o’r prif Orchymyn fel bod rhaid i Weinidogion Cymru, ymysg pethau eraill, sicrhau bod arolygydd milfeddygol yn ymweld â’r mangreoedd hynny o fewn yr ardal rheoli adar gwyllt mor aml ag y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn angenrheidiol er mwyn monitro lledaeniad posibl ffliw adar.
Mae erthygl 8 yn diwygio paragraff 4(b) o Atodlen 3 i’r prif Orchymyn fel bod y gofyniad bod rhaid i berson sy’n mynd i fangre neu’n ei gadael sicrhau nad yw’r tu allan i’r cerbyd wedi ei faeddu â llaid, ysgarthion anifeiliaid neu adar etc. hefyd yn gymwys i gerbydau sy’n cludo dofednod.
Mae erthygl 9 yn dirymu Penderfyniad y Comisiwn.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.
1981 p. 22. Mae swyddogaethau “the Ministers” o dan Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981 (p. 22) (fel y’u diffinnir yn adran 86(1) o’r Ddeddf honno) yn arferadwy gan Weinidogion Cymru (o ran Cymru), yn rhinwedd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 2004 (O.S. 2004/3044) ac adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32), a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi. Mae’r pwerau yn Neddf Iechyd Anifeiliaid 1981, wrth eu darllen gyda pharagraff 5 o Atodlen 8 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p. 16), yn caniatáu gwneud addasiadau i fân ddeddfwriaeth uniongyrchol UE a ddargedwir fel y diffinnir “retained direct minor EU legislation” yn adran 7(6) o’r Ddeddf. Mae “modify” wedi ei ddiffinio yn adran 20(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 ac mae’n cynnwys “amend, repeal or revoke”.
O.S. 2006/3310 (Cy. 300) fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2014/517 (Cy. 60). Mae diwygiadau eraill nad ydynt yn berthnasol i’r Gorchymyn hwn.
2006/563/EC.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: