Search Legislation

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 18) 2021

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.

NODYN ESBONIADOL

(Nid ywʼr nodyn hwn yn rhan oʼr Rheoliadau)

Mae Rhan 2A o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 yn galluogi Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, i wneud darpariaeth at ddiben atal, diogelu rhag, rheoli neu ddarparu ymateb iechyd y cyhoedd i fynychder neu ledaeniad haint neu halogiad yng Nghymru.

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/1609 (Cy. 335)) (“y prif Reoliadau”) er mwyn—

  • ei gwneud yn glir y caiff person y byddai’n ofynnol iddo ynysu fel arall o dan reoliad 6, 7 neu 8 o’r prif Reoliadau ymadael â’r man lle y mae’n byw a bod y tu allan i’r man hwnnw cyhyd ag y bo’n angenrheidiol—

    • i atal salwch, anaf neu risg arall o niwed i berson arall (“A”) pan na fo’n bosibl nac yn ymarferol i rywun arall gynorthwyo A, pan na fo’r person yn cynorthwyo A fel rhan o waith y person na thrwy ddarparu gwasanaethau gwirfoddol, a phan fo’r risg o niwed i A yn fwy na’r risg o niwed i A sy’n deillio o fod yn yr un man â’r person y byddai’n ofynnol iddo ynysu fel arall;

    • i symud i fan gwahanol i fyw er mwyn atal salwch i berson arall sy’n byw yn y man lle y mae’r person yn byw;

  • ei gwneud yn glir y caiff swyddog olrhain cysylltiadau, pan fo’n penderfynu pa un ai i ofyn i berson am dystiolaeth ei fod wedi ei frechu’n llawn neu ei fod wedi cymryd rhan mewn treial clinigol (cyn y gall y person ddibynnu ar yr esemptiad perthnasol i’r gofyniad i ynysu o dan reoliad 8 o’r prif Reoliadau ar ôl cysylltiad agos ag achos positif), gael mynediad at gofnod brechu’r person neu gofnod y person o gymryd rhan mewn treial clinigol a defnyddio’r cofnod hwnnw;

  • darparu na chaiff swyddog olrhain cysylltiadau ond datgelu unrhyw wybodaeth am statws brechu person neu gyfranogiad person mewn treial clinigol y mae’n angenrheidiol i’r person sy’n cael yr wybodaeth ei chael at ddibenion cyflawni swyddogaeth o dan y prif Reoliadau, atal perygl i iechyd y cyhoedd, monitro lledaeniad y coronafeirws, neu at ddiben sy’n gysylltiedig ag unrhyw un neu ragor o’r materion hyn;

  • hepgor y ddarpariaeth drosiannol sydd wedi ei disbyddu yn rheoliad 10A o’r prif Reoliadau;

  • ei gwneud yn glir bod rheoliad 57(9) o’r prif Reoliadau, sy’n gwneud darpariaeth mewn perthynas â phan na fo cynulliad neu ddigwyddiad i’w drin fel pe bai “yn yr awyr agored”, yn gymwys i bob cynulliad a digwyddiad.

Mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn diwygio rheoliad newydd 16A sydd i’w fewnosod yn y prif Reoliadau am 7.00 a.m. ar 11 Hydref 2021 gan Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 17) 2021 (O.S. 2021/1119 (Cy. 271)).

Mae rheoliad 16A(1) yn ei gwneud yn ofynnol i’r person sy’n gyfrifol am fangreoedd penodol gymryd mesurau rhesymol i sicrhau na chaniateir i oedolyn fod yn bresennol yn y fangre ond os oes ganddo dystiolaeth o faterion penodol, gan gynnwys brechu â brechlyn awdurdodedig. Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio rheoliad 16A, cyn iddo ddod i rym, i ddarparu bod tystiolaeth o’r canlynol yn dderbyniol at ddibenion rheoliad 16A(1)—

  • brechu yn y Deyrnas Unedig neu mewn gwlad benodedig â dos o un brechlyn awdurdodedig a dos o frechlyn awdurdodedig gwahanol;

  • brechu o dan raglen frechu’r Deyrnas Unedig dramor yn unol â chanllawiau’r gweithgynhyrchydd ar gyfer y brechlyn, neu â dos o un brechlyn a dos o frechlyn gwahanol.

Mae’r diwygiadau hefyd yn—

  • ychwanegu Awstralia a Chanada at y rhestr o wledydd penodedig yn rheoliad 16A(11), fel bod tystiolaeth o frechu yn y gwledydd hynny â brechlynnau sydd wedi eu hawdurdodi gan reoleiddwyr y gwledydd hynny yn dderbyniol at ddibenion rheoliad 16A(1);

  • ehangu ymhellach y rhestr o wledydd penodedig (drwy fewnosod paragraff newydd (12) yn rheoliad 16A), fel bod tystiolaeth o frechu yn y gwledydd hynny â brechlynnau sydd wedi eu hawdurdodi yn y Deyrnas Unedig yn dderbyniol hefyd;

  • darparu y caiff tystiolaeth o frechu mewn gwlad benodedig fod ar ffurf tystysgrif brechlyn sydd wedi ei dyroddi gan awdurdod iechyd cymwys y wlad honno.

Mae’r diwygiadau hyn i reoliad 16A yn ofynnol er mwyn cynnal cysondeb â rheoliad 2A o Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/574 (Cy. 132)), fel y’i diwygiwyd gan Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol, Atebolrwydd Gweithredwyr a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) (Rhif 3) 2021 (O.S. 2021/1109 (Cy. 265)), o 4 Hydref 2021 a gan Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 11) 2021 (O.S. 2021/1126 (Cy. 273)) o 11 Hydref 2021. Mae rheoliad 2A yn darparu bod person sy’n cyrraedd Cymru o’r tu allan i’r ardal deithio gyffredin yn ddarostyngedig i ofynion llai ar gyfer profi am y coronafeirws os yw wedi ei frechu â brechlyn cymhwysol, ac mae rheoliad 16A o’r prif Reoliadau yn darparu bod tystiolaeth o frechu â’r un brechlyn cymhwysol yn dderbyniol at ddibenion rheoliad 16A(1).

Mae rheoliad 16A wedi ei ddiwygio hefyd er mwyn ei gwneud yn glir bod person sy’n cymryd rhan mewn gwasanaeth crefyddol mewn mangre a ddefnyddir fel arfer fel addoldy i’w ystyried fel pe bai’n eistedd fel arfer. Mae hyn yn golygu nad yw gofynion rheoliad 16A(1) yn gymwys i wasanaeth crefyddol o fwy na 500 o bobl o dan do mewn mangre a ddefnyddir fel arfer fel addoldy, sy’n golygu’n ymarferol nad yw’r gofynion hynny yn gymwys i unrhyw wasanaeth crefyddol a gynhelir mewn mangre a ddefnyddir fel arfer fel addoldy.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources