<akomaNtoso xmlns:uk="https://www.legislation.gov.uk/namespaces/UK-AKN" xmlns:ukl="http://www.legislation.gov.uk/namespaces/legislation" xmlns:xsi="http://www.w3.org/2001/XMLSchema-instance" xmlns="http://docs.oasis-open.org/legaldocml/ns/akn/3.0" xsi:schemaLocation="http://docs.oasis-open.org/legaldocml/ns/akn/3.0 http://docs.oasis-open.org/legaldocml/akn-core/v1.0/cos01/part2-specs/schemas/akomantoso30.xsd"><act name="wsi"><meta><identification source="#"><FRBRWork><FRBRthis value="http://www.legislation.gov.uk/id/wsi/2021/1131"/><FRBRuri value="http://www.legislation.gov.uk/id/wsi/2021/1131"/><FRBRdate date="2021-10-08" name="made"/><FRBRauthor href="http://www.legislation.gov.uk/id/government/wales"/><FRBRcountry value="GB-WLS"/><FRBRsubtype value="regulation"/><FRBRnumber value="1131"/><FRBRnumber value="Cy. 274"/><FRBRname value="S.I. 2021/1131 (W. 274)"/><FRBRprescriptive value="true"/></FRBRWork><FRBRExpression><FRBRthis value="http://www.legislation.gov.uk/wsi/2021/1131/made"/><FRBRuri value="http://www.legislation.gov.uk/wsi/2021/1131/made"/><FRBRdate date="2021-10-08" name="made"/><FRBRauthor href="#"/><FRBRlanguage language="cym"/></FRBRExpression><FRBRManifestation><FRBRthis value="http://www.legislation.gov.uk/wsi/2021/1131/made/data.akn"/><FRBRuri value="http://www.legislation.gov.uk/wsi/2021/1131/made/data.akn"/><FRBRdate date="2026-04-05+01:00" name="transform"/><FRBRauthor href="http://www.legislation.gov.uk"/><FRBRformat value="application/akn+xml"/></FRBRManifestation></identification><lifecycle source="#"><eventRef refersTo="#made" date="2021-10-08" eId="date-made" source="#"/><eventRef refersTo="#laid" date="2021-10-08" eId="date-laid-1" source="#welsh-parliament"/><eventRef refersTo="#coming-into-force" date="2021-10-09" eId="date-cif-1" source="#"/></lifecycle><analysis source="#"><otherAnalysis source=""/></analysis><references source="#"><TLCOrganization eId="welsh-parliament" href="http://www.legislation.gov.uk/id/" showAs="WelshParliament"/><TLCEvent eId="made" href="" showAs="Made"/><TLCEvent eId="laid" href="" showAs="Laid"/><TLCEvent eId="cif" href="" showAs="ComingIntoForce"/></references><proprietary xmlns:ukm="http://www.legislation.gov.uk/namespaces/metadata" xmlns:dc="http://purl.org/dc/elements/1.1/" xmlns:dct="http://purl.org/dc/terms/" source="#"><dc:identifier>http://www.legislation.gov.uk/wsi/2021/1131/note/made/welsh</dc:identifier><dc:title>Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 18) 2021</dc:title><dc:language>cy</dc:language><dc:publisher>King's Printer of Acts of Parliament</dc:publisher><dc:modified>2021-10-11</dc:modified><dc:subject scheme="SIheading">IECHYD Y CYHOEDD, CYMRU</dc:subject><dc:description>Mae Rhan 2A o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 yn galluogi Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, i wneud darpariaeth at ddiben atal, diogelu rhag, rheoli neu ddarparu ymateb iechyd y cyhoedd i fynychder neu ledaeniad haint neu halogiad yng Nghymru.</dc:description><ukm:SecondaryMetadata><ukm:DocumentClassification><ukm:DocumentCategory Value="secondary"/><ukm:DocumentMainType Value="WelshStatutoryInstrument"/><ukm:DocumentStatus Value="final"/><ukm:DocumentMinorType Value="regulation"/></ukm:DocumentClassification><ukm:Year Value="2021"/><ukm:Number Value="1131"/><ukm:AlternativeNumber Category="Cy" Value="274"/><ukm:Made Date="2021-10-08" Time="13:40:00"/><ukm:Laid Date="2021-10-08" Time="17:00:00" Class="WelshParliament"/><ukm:ComingIntoForce><ukm:DateTime Date="2021-10-09"/></ukm:ComingIntoForce><ukm:ISBN Value="9780348391329"/></ukm:SecondaryMetadata><ukm:Alternatives><ukm:Alternative URI="http://www.legislation.gov.uk/wsi/2021/1131/pdfs/wsi_20211131_mi.pdf" Date="2021-10-11" Size="511504" Language="Mixed"/></ukm:Alternatives><ukm:Statistics><ukm:TotalParagraphs Value="3"/><ukm:BodyParagraphs Value="3"/><ukm:ScheduleParagraphs Value="0"/><ukm:AttachmentParagraphs Value="0"/><ukm:TotalImages Value="0"/></ukm:Statistics></proprietary></meta><conclusions><blockContainer class="explanatoryNote"><heading>NODYN ESBONIADOL</heading><subheading>(Nid ywʼr nodyn hwn yn rhan oʼr Rheoliadau)</subheading><blockContainer ukl:Name="P">
Mae Rhan 2A o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 yn galluogi Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, i wneud darpariaeth at ddiben atal, diogelu rhag, rheoli neu ddarparu ymateb iechyd y cyhoedd i fynychder neu ledaeniad haint neu halogiad yng Nghymru.
</blockContainer><blockContainer ukl:Name="P">
Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.
</blockContainer><blockContainer ukl:Name="P">
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 (<ref eId="c00001" href="http://www.legislation.gov.uk/id/wsi/2020/1609">O.S. 2020/1609 (Cy. 335)</ref>) (“y prif Reoliadau”) er mwyn—
<blockList class="unordered bullet" ukl:Name="UnorderedList" ukl:Decoration="bullet"><item>
ei gwneud yn glir y caiff person y byddai’n ofynnol iddo ynysu fel arall o dan reoliad 6, 7 neu 8 o’r prif Reoliadau ymadael â’r man lle y mae’n byw a bod y tu allan i’r man hwnnw cyhyd ag y bo’n angenrheidiol—
<blockList class="unordered bullet" ukl:Name="UnorderedList" ukl:Decoration="bullet"><item>
i atal salwch, anaf neu risg arall o niwed i berson arall (“A”) pan na fo’n bosibl nac yn ymarferol i rywun arall gynorthwyo A, pan na fo’r person yn cynorthwyo A fel rhan o waith y person na thrwy ddarparu gwasanaethau gwirfoddol, a phan fo’r risg o niwed i A yn fwy na’r risg o niwed i A sy’n deillio o fod yn yr un man â’r person y byddai’n ofynnol iddo ynysu fel arall;
</item><item>
i symud i fan gwahanol i fyw er mwyn atal salwch i berson arall sy’n byw yn y man lle y mae’r person yn byw;
</item></blockList></item><item>
ei gwneud yn glir y caiff swyddog olrhain cysylltiadau, pan fo’n penderfynu pa un ai i ofyn i berson am dystiolaeth ei fod wedi ei frechu’n llawn neu ei fod wedi cymryd rhan mewn treial clinigol (cyn y gall y person ddibynnu ar yr esemptiad perthnasol i’r gofyniad i ynysu o dan reoliad 8 o’r prif Reoliadau ar ôl cysylltiad agos ag achos positif), gael mynediad at gofnod brechu’r person neu gofnod y person o gymryd rhan mewn treial clinigol a defnyddio’r cofnod hwnnw;
</item><item>
darparu na chaiff swyddog olrhain cysylltiadau ond datgelu unrhyw wybodaeth am statws brechu person neu gyfranogiad person mewn treial clinigol y mae’n angenrheidiol i’r person sy’n cael yr wybodaeth ei chael at ddibenion cyflawni swyddogaeth o dan y prif Reoliadau, atal perygl i iechyd y cyhoedd, monitro lledaeniad y coronafeirws, neu at ddiben sy’n gysylltiedig ag unrhyw un neu ragor o’r materion hyn;
</item><item>
hepgor y ddarpariaeth drosiannol sydd wedi ei disbyddu yn rheoliad 10A o’r prif Reoliadau;
</item><item>
ei gwneud yn glir bod rheoliad 57(9) o’r prif Reoliadau, sy’n gwneud darpariaeth mewn perthynas â phan na fo cynulliad neu ddigwyddiad i’w drin fel pe bai “yn yr awyr agored”, yn gymwys i bob cynulliad a digwyddiad.
</item></blockList></blockContainer><blockContainer ukl:Name="P">
Mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn diwygio rheoliad newydd 16A sydd i’w fewnosod yn y prif Reoliadau am 7.00 a.m. ar 11 Hydref 2021 gan Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 17) 2021 (<ref eId="c00002" href="http://www.legislation.gov.uk/id/wsi/2021/1119">O.S. 2021/1119 (Cy. 271)</ref>).
</blockContainer><blockContainer ukl:Name="P">
Mae rheoliad 16A(1) yn ei gwneud yn ofynnol i’r person sy’n gyfrifol am fangreoedd penodol gymryd mesurau rhesymol i sicrhau na chaniateir i oedolyn fod yn bresennol yn y fangre ond os oes ganddo dystiolaeth o faterion penodol, gan gynnwys brechu â brechlyn awdurdodedig. Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio rheoliad 16A, cyn iddo ddod i rym, i ddarparu bod tystiolaeth o’r canlynol yn dderbyniol at ddibenion rheoliad 16A(1)—
<blockList class="unordered bullet" ukl:Name="UnorderedList" ukl:Decoration="bullet"><item>
brechu yn y Deyrnas Unedig neu mewn gwlad benodedig â dos o un brechlyn awdurdodedig a dos o frechlyn awdurdodedig gwahanol;
</item><item>
brechu o dan raglen frechu’r Deyrnas Unedig dramor yn unol â chanllawiau’r gweithgynhyrchydd ar gyfer y brechlyn, neu â dos o un brechlyn a dos o frechlyn gwahanol.
</item></blockList></blockContainer><blockContainer ukl:Name="P">
Mae’r diwygiadau hefyd yn—
<blockList class="unordered bullet" ukl:Name="UnorderedList" ukl:Decoration="bullet"><item>
ychwanegu Awstralia a Chanada at y rhestr o wledydd penodedig yn rheoliad 16A(11), fel bod tystiolaeth o frechu yn y gwledydd hynny â brechlynnau sydd wedi eu hawdurdodi gan reoleiddwyr y gwledydd hynny yn dderbyniol at ddibenion rheoliad 16A(1);
</item><item>
ehangu ymhellach y rhestr o wledydd penodedig (drwy fewnosod paragraff newydd (12) yn rheoliad 16A), fel bod tystiolaeth o frechu yn y gwledydd hynny â brechlynnau sydd wedi eu hawdurdodi yn y Deyrnas Unedig yn dderbyniol hefyd;
</item><item>
darparu y caiff tystiolaeth o frechu mewn gwlad benodedig fod ar ffurf tystysgrif brechlyn sydd wedi ei dyroddi gan awdurdod iechyd cymwys y wlad honno.
</item></blockList></blockContainer><blockContainer ukl:Name="P">
Mae’r diwygiadau hyn i reoliad 16A yn ofynnol er mwyn cynnal cysondeb â rheoliad 2A o Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020 (<ref eId="c00003" href="http://www.legislation.gov.uk/id/wsi/2020/574">O.S. 2020/574 (Cy. 132)</ref>), fel y’i diwygiwyd gan Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol, Atebolrwydd Gweithredwyr a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) (Rhif 3) 2021 (<ref eId="c00004" href="http://www.legislation.gov.uk/id/wsi/2021/1109">O.S. 2021/1109 (Cy. 265)</ref>), o 4 Hydref 2021 a gan Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 11) 2021 (<ref eId="c00005" href="http://www.legislation.gov.uk/id/wsi/2021/1126">O.S. 2021/1126 (Cy. 273)</ref>) o 11 Hydref 2021. Mae rheoliad 2A yn darparu bod person sy’n cyrraedd Cymru o’r tu allan i’r ardal deithio gyffredin yn ddarostyngedig i ofynion llai ar gyfer profi am y coronafeirws os yw wedi ei frechu â brechlyn cymhwysol, ac mae rheoliad 16A o’r prif Reoliadau yn darparu bod tystiolaeth o frechu â’r un brechlyn cymhwysol yn dderbyniol at ddibenion rheoliad 16A(1).
</blockContainer><blockContainer ukl:Name="P">
Mae rheoliad 16A wedi ei ddiwygio hefyd er mwyn ei gwneud yn glir bod person sy’n cymryd rhan mewn gwasanaeth crefyddol mewn mangre a ddefnyddir fel arfer fel addoldy i’w ystyried fel pe bai’n eistedd fel arfer. Mae hyn yn golygu nad yw gofynion rheoliad 16A(1) yn gymwys i wasanaeth crefyddol o fwy na 500 o bobl o dan do mewn mangre a ddefnyddir fel arfer fel addoldy, sy’n golygu’n ymarferol nad yw’r gofynion hynny yn gymwys i unrhyw wasanaeth crefyddol a gynhelir mewn mangre a ddefnyddir fel arfer fel addoldy.
</blockContainer><blockContainer ukl:Name="P">
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.
</blockContainer></blockContainer></conclusions></act></akomaNtoso>