NODYN ESBONIADOL

(Nid ywʼr nodyn hwn yn rhan oʼr Rheoliadau)

Mae Rhan 2A o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 yn galluogi Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, i wneud darpariaeth at ddiben atal, diogelu rhag, rheoli neu ddarparu ymateb iechyd y cyhoedd i fynychder neu ledaeniad haint neu halogiad yng Nghymru.

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/1609 (Cy. 335)) (“y prif Reoliadau”) er mwyn—

Mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn diwygio rheoliad newydd 16A sydd i’w fewnosod yn y prif Reoliadau am 7.00 a.m. ar 11 Hydref 2021 gan Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 17) 2021 (O.S. 2021/1119 (Cy. 271)).

Mae rheoliad 16A(1) yn ei gwneud yn ofynnol i’r person sy’n gyfrifol am fangreoedd penodol gymryd mesurau rhesymol i sicrhau na chaniateir i oedolyn fod yn bresennol yn y fangre ond os oes ganddo dystiolaeth o faterion penodol, gan gynnwys brechu â brechlyn awdurdodedig. Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio rheoliad 16A, cyn iddo ddod i rym, i ddarparu bod tystiolaeth o’r canlynol yn dderbyniol at ddibenion rheoliad 16A(1)—

Mae’r diwygiadau hefyd yn—

Mae’r diwygiadau hyn i reoliad 16A yn ofynnol er mwyn cynnal cysondeb â rheoliad 2A o Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/574 (Cy. 132)), fel y’i diwygiwyd gan Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol, Atebolrwydd Gweithredwyr a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) (Rhif 3) 2021 (O.S. 2021/1109 (Cy. 265)), o 4 Hydref 2021 a gan Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 11) 2021 (O.S. 2021/1126 (Cy. 273)) o 11 Hydref 2021. Mae rheoliad 2A yn darparu bod person sy’n cyrraedd Cymru o’r tu allan i’r ardal deithio gyffredin yn ddarostyngedig i ofynion llai ar gyfer profi am y coronafeirws os yw wedi ei frechu â brechlyn cymhwysol, ac mae rheoliad 16A o’r prif Reoliadau yn darparu bod tystiolaeth o frechu â’r un brechlyn cymhwysol yn dderbyniol at ddibenion rheoliad 16A(1).

Mae rheoliad 16A wedi ei ddiwygio hefyd er mwyn ei gwneud yn glir bod person sy’n cymryd rhan mewn gwasanaeth crefyddol mewn mangre a ddefnyddir fel arfer fel addoldy i’w ystyried fel pe bai’n eistedd fel arfer. Mae hyn yn golygu nad yw gofynion rheoliad 16A(1) yn gymwys i wasanaeth crefyddol o fwy na 500 o bobl o dan do mewn mangre a ddefnyddir fel arfer fel addoldy, sy’n golygu’n ymarferol nad yw’r gofynion hynny yn gymwys i unrhyw wasanaeth crefyddol a gynhelir mewn mangre a ddefnyddir fel arfer fel addoldy.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.