Search Legislation

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Personau sy’n Teithio i Gymru etc.) 2020

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Offerynnau Statudol Cymru

2020 Rhif 595 (Cy. 136)

Iechyd Y Cyhoedd, Cymru

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Personau sy’n Teithio i Gymru etc.) 2020

Gwnaed

am 5.38 p.m. ar 15 Mehefin 2020

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

16 Mehefin 2020

Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2) a (3)

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 45B, 45F(2) a 45P(2) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984(1).

RHAN 1Cyffredinol

Enwi a dod i rym

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Personau sy’n Teithio i Gymru etc.) 2020.

(2Daw’r Rheoliadau 2 i 9 i rym ar 17 Mehefin 2020.

(3Daw’r rheoliad hwn a rheoliadau 10 ac 11 i rym pan wneir y Rheoliadau hyn.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

mae i “ardal deithio gyffredin” yr ystyr a roddir i “common travel area” yn adran 1(3) o Ddeddf Mewnfudo 1971(2);

ystyr “coronafeirws” (“coronavirus”) yw coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2);

ystyr “gwasanaeth teithwyr rhyngwladol” (“international passenger service”) yw gwasanaeth masnachol y mae teithwyr yn ei ddefnyddio i deithio ar lestr neu awyren o’r tu allan i’r ardal deithio gyffredin i borthladd yng Nghymru;

ystyr “llestr” (“vessel”) yw pob ddisgrifiad o lestr a ddefnyddir i fordwyo (gan gynnwys hofrenfad o fewn ystyr “hovercraft” yn Neddf Hofrenfadau 1968(3)) sy’n 24 o fetrau neu fwy o hyd;

ystyr “person awdurdodedig” (“authorised person”) yw—

(a)

mewn perthynas â theithwyr sy’n cyrraedd ar lestr, yr Ysgrifennydd Gwladol;

(b)

mewn perthynas â theithwyr sy’n cyrraedd ar awyren, yr Awdurdod Hedfan Sifil(4);

mae “porthladd” (“port”) yn cynnwys unrhyw faes awyr, maes hofrenyddion neu borthladd môr.

RHAN 2Gofynion i ddarparu gwybodaeth i deithwyr

Darparu gwybodaeth cyn archebu ac wrth gofrestru

3.—(1Rhaid i weithredwr unrhyw wasanaeth teithwyr rhyngwladol ddarparu’r wybodaeth a bennir ym mharagraff (2) fel rhan o unrhyw gyfleuster a reolir gan y gweithredwr y caiff person ei ddefnyddio—

(a)i archebu taith ar y gwasanaeth, neu

(b)i gofrestru i deithio ar y gwasanaeth.

(2Yr wybodaeth a grybwyllir ym mharagraff (1)(a) yw—

(a)yn achos cyfleuster a ddarperir ar lein—

(i)dolen i www.gov.uk/uk-border-control, a

(ii)dolen i www.llyw.cymru/coronafeirws ynghyd â datganiad bod yr wybodaeth a geir ar y ddolen honno yn cynnwys y cyngor diweddaraf o ran iechyd y cyhoedd sy’n ymwneud â’r coronafeirws yng Nghymru,

wedi ei gosod mewn lle amlwg fel bod y dolenni yn weladwy cyn archebu neu gofrestru;

(b)yn achos cyfleuster a ddarperir dros y ffôn neu wyneb yn wyneb, cyfarwyddyd—

(i)i ddarllen yr wybodaeth ar www.gov.uk/uk-border-control, a

(ii)i fynd i www.llyw.cymru/coronafeirws ynghyd â datganiad bod yr wybodaeth a geir ar y ddolen honno yn cynnwys y cyngor diweddaraf o ran iechyd y cyhoedd sy’n ymwneud â’r coronafeirws yng Nghymru;

(c)yn y naill achos neu’r llall, cais i drosglwyddo’r wybodaeth a grybwyllir yn is-baragraff (a) neu (b) (yn ôl y digwydd) i unrhyw berson—

(i)yr archebir taith ar ei ran, neu

(ii)y cofrestrir ar gyfer taith ar ei ran.

(3Pan na fo’r gweithredwr yn rheoli’r broses archebu neu gofrestru yn uniongyrchol, rhaid i’r gweithredwr gymryd pob mesur rhesymol i sicrhau bod y person sy’n rheoli’r broses yn cydymffurfio â pharagraff (1) ar ran y gweithredwr.

Darparu gwybodaeth yn ystod taith

4.—(1Rhaid i weithredwr gwasanaeth teithwyr rhyngwladol sicrhau y darperir pob teithiwr ar y llestr neu’r awyren â’r datganiad a nodir yn yr Atodlen yn ystod y daith i’r porthladd yng Nghymru.

(2Rhaid darparu’r datganiad ar lafar yn Gymraeg, yn Saesneg ac mewn iaith a gydnabyddir yn swyddogol yn y wlad yr ymadawyd â hi.

Eithriad o ofynion rheoliadau 3 a 4

5.  Nid oes dim yn rheoliad 3 neu 4 yn ei gwneud yn ofynnol darparu gwybodaeth i berson sydd, yn rhinwedd oedran neu alluedd meddyliol, yn annhebygol o allu ei deall.

RHAN 3Troseddau, cosbau ac erlyniadau

Troseddau

6.—(1Mae person sy’n torri gofyniad yn rheoliad 3(1) neu (3), neu reoliad 4 yn cyflawni trosedd.

(2Mae’n amddiffyniad i gyhuddiad o gyflawni’r drosedd o dorri’r gofyniad yn rheoliad 4 i ddangos bod gan y person esgus rhesymol dros dorri’r gofyniad.

(3Mae person sy’n cyflawni trosedd o dan baragraff (1) yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy.

Hysbysiadau cosb benodedig

7.—(1Caiff person awdurdodedig ddyroddi hysbysiad cosb benodedig i unrhyw berson (“P”) y mae’r person awdurdodedig yn credu’n rhesymol ei fod wedi cyflawni trosedd o dan reoliad 6(1).

(2Mae hysbysiad cosb benodedig yn hysbysiad sy’n cynnig i P y cyfle i gael ei ryddhau o unrhyw atebolrwydd am euogfarn am y drosedd drwy dalu cosb benodedig i—

(a)Gweinidogion Cymru, neu

(b)person a ddynodir gan Weinidogion Cymru at ddibenion cael taliad o dan y rheoliad hwn.

(3Pan fo hysbysiad wedi ei ddyroddi o dan baragraff (1) mewn cysylltiad â throsedd—

(a)ni chaniateir dwyn unrhyw achos am y drosedd cyn diwedd y cyfnod o 28 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad y dyroddir yr hysbysiad;

(b)ni chaniateir euogfarnu P o’r drosedd os yw P yn talu’r gosb benodedig cyn diwedd y cyfnod hwnnw.

(4Rhaid i hysbysiad cosb benodedig—

(a)disgrifio’r amgylchiadau yr honnir eu bod yn ffurfio’r drosedd,

(b)datgan y cyfnod pan (oherwydd paragraff (3)(a)) na ddygir achos am y drosedd,

(c)pennu swm y gosb benodedig,

(d)datgan enw a chyfeiriad y person y caniateir talu’r gosb benodedig iddo, ac

(e)pennu dulliau o dalu a ganiateir.

(5Rhaid i swm y gosb benodedig a bennir o dan baragraff (4)(c) fod yn £4,000.

(6Mewn unrhyw achos, mae tystysgrif—

(a)sy’n honni ei bod wedi ei llofnodi gan neu ar ran—

(i)Gweinidogion Cymru, neu

(ii)person a ddynodir gan Weinidogion Cymru o dan baragraff (2)(b), a

(b)sy’n datgan i’r taliad am y gosb benodedig ddod i law, neu na ddaeth i law, erbyn y dyddiad a bennir yn y dystysgrif,

yn dystiolaeth o’r ffeithiau a ddatgenir.

Erlyniadau

8.  Ni chaniateir dwyn achos am drosedd o dan y Rheoliadau hyn ac eithrio gan y Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus neu berson awdurdodedig.

RHAN 4Amrywiol

Adolygu’r gofynion

9.—(1Rhaid i Weinidogion Cymru gynnal adolygiad o’r gofynion a osodir gan Ran 2—

(a)erbyn 29 Mehefin 2020,

(b)o leiaf unwaith yn y cyfnod o 21 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl y dyddiad hwnnw, ac

(c)o leiaf unwaith ym mhob cyfnod dilynol o 21 o ddiwrnodau.

(2Rhaid i adolygiad a gynhelir o dan baragraff (1) ystyried a yw’r gofynion yn angenrheidiol ac yn gymesur fel modd o atal perygl i’r cyhoedd sy’n deillio o ledaeniad y coronafeirws.

Diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020

10.—(1Diwygir Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020(5) fel a ganlyn.

(2Yn y testun Cymraeg yn unig—

(a)yn rheoliad 2(1), yn lle’r diffiniad o “gwybodaeth am deithiwr (“passenger information”)” rhodder—

“ystyr “gwybodaeth am deithiwr” (“passenger information”) yw’r wybodaeth a bennir yn Atodlen 1;”;

(b)yn rheoliad 5(3)(b), yn lle “ddiweddaru ar ran P,” rhodder “diweddaru”;

(c)yn rheoliad 7—

(i)ym mharagraff (1)(b)(ii), hepgorer y coma ar ôl “sydd”;

(ii)ym mharagraff (4)(a) hepgorer y gair “bai”;

(iii)yn mharagraff (5)(a) ar ôl “yng Nghymru” mewnosoder “sy’n addas i breswylio ynddi”;

(d)yn rheoliad 8—

(i)ym mharagraff (2)(a)(i) yn lle “7(3));” rhodder “7(3); a”;

(ii)ym mharagraff (3)(b)(i) yn lle “(bod y tu allan i fangre am gyhyd ag y bo’n angenrheidiol)” rhodder “(gadael y fangre dros dro)”;

(e)yn rheoliad 14(4) yn lle “rreoliadau yma” rhodder “Rheoliadau hyn”;

(f)yn rheoliad 16(2) yn lle “Reoliadau” rhodder “Rheoliadau”;

(g)yn rheoliad 17(10)—

(i)ar ôl ““ddeddfwriaeth diogelu data”” mewnosoder “a “data personol””;

(ii)yn lle “ac mae i “data personol” yr ystyr a roddir i” rhodder “a”;

(h)yn Atodlen 1, yn is-baragraff (d), yn lle “ei ddogfen” rhodder “dogfen”;

(i)yn Atodlen 2—

(i)ym mharagraff 1 yn is-baragraffau (1)(h) a (2)(a)(i) yn lle “swydd” rhodder “swyddfa”;

(ii)ym mharagraff 1(2)(a)(i) yn lle “i’r person” rhodder “i P”;

(iii)ym mharagraff 2(1)(a) yn lle “y tu allan i’r” rhodder “yn y”;

(iv)yn lle paragraff 3(1)(b) rhodder—

“sydd wedi bod ar lestr a weithredir gan Wasanaeth Llyngesol ei Mawrhydi am gyfnod di-dor o 14 o ddiwrnodau o leiaf yn union cyn iddo gyrraedd ac nad yw’r llestr hwnnw wedi codi unrhyw bersonau nac wedi glanio mewn unrhyw borthladd môr y tu allan i’r ardal deithio gyffredin yn ystod y cyfnod hwnnw.”;

(v)ym mharagraff 7(2) yn y geiriau agoriadol, yn lle “y paragraff hwn” rhodder “is-baragraff (1)”;

(vi)ym mharagraff 13(1)(b) yn y ddau le y mae’n ymddangos, ar ôl “plismona” mewnosoder “hanfodol”.

(3Yn Atodlen 2—

(a)yn lle’r pennawd i’r Atodlen rhodder—

Personau esempt

(b)yn y pennawd i Ran 1 o’r Atodlen, yn lle “3 a rheoliad 4” rhodder “4,5,7 nac 8”;

(c)yn y pennawd i Ran 2 o’r Atodlen, yn lle “4”rhodder “7 nac 8”.

Y Rheoliadau hyn yn dod i ben

11.—(1Daw’r Rheoliadau hyn i ben ar ddiwedd y 7fed diwrnod o Fehefin 2021.

(2Nid yw’r ffaith bod y Rheoliadau hyn wedi dod i ben yn effeithio ar ddilysrwydd unrhyw beth a wneir yn unol â’r Rheoliadau hyn cyn iddynt ddod i ben.

Mark Drakeford

Y Prif Weinidog, un o Weinidogion Cymru

Am 5.38 p.m. ar 15 Mehefin 2020

Rheoliad 4

YR ATODLENDatganiad ar y llestr neu’r awyren

Y datganiad sydd i’w ddarparu at ddibenion rheoliad 4 yw—

(a)Y fersiwn Gymraeg—

Dyma neges iechyd y cyhoedd ar ran Llywodraeth Cymru a Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Symptomau’r coronafeirws yw peswch cyson newydd, tymheredd uchel neu golli eich synnwyr blasu neu arogli arferol, neu newid yn eich synnwyr blasu neu arogli. Os ydych yn profi unrhyw un o’r symptomau hyn, waeth pa mor ysgafn ydynt, fe’ch cynghorir chi i wneud eich hunan yn hysbys i’r criw.

Camau syml y gallwch eu cymryd i helpu i’ch diogelu chi eich hun a’ch teulu yw:

1.

Golchi eich dwylo.

2.

Osgoi cyffwrdd â’ch wyneb â’ch dwylo.

3.

Dal peswch a thisian mewn hances bapur a’i gwaredu ar unwaith.

Cyn cael mynediad i’r Deyrnas Unedig, rhaid i chi lenwi ffurflen lleoli cyswllt ar lein ar www.gov.uk. Rhaid i chi hefyd hunanynysu am y 14 o ddiwrnodau ar ôl i chi gyrraedd. Wedi cyrraedd, rhaid ichi gadw’r arfer o gadw pellter cymdeithasol os yn bosibl a theithio’n uniongyrchol i’r man lle rydych yn bwriadu ynysu. Dylech osgoi defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus oni bai nad oes dewis arall gennych.

Mae rhestr o’r bobl sy’n esempt rhag y gofynion, ar gael ar lein ar www.llyw.cymru/coronafeirws

(b)Y fersiwn Saesneg—

The following is a public health message on behalf of the Welsh Government and Public Health Wales.

The symptoms of coronavirus are a new continuous cough, a high temperature or a loss of, or change in, normal sense of taste or smell. If you experience any of these symptoms, however mild, you are advised to make yourself known to the crew.

Simple measures you can take to help protect yourself and family are:

1.

Wash your hands.

2.

Avoid touching your face with your hands.

3.

Catch coughs and sneezes in a tissue and dispose of it immediately.

Before entering the UK, you must complete a contact locator form online at www.gov.uk. You must also self-isolate for the first 14 days after you arrive. When you arrive you must practice social distancing where possible and travel directly to the place where you intend to isolate. Please avoid using public transport unless you have no alternative.

A list of the people who are exempt from the requirements can be found online at www.gov.wales/coronavirus

(c)y datganiad sydd ym mharagraff (a) a (b) wedi ei gyfieithu i iaith a gydnabyddir yn swyddogol yn y wlad yr ymadawyd â hi.

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r perygl i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2). Mae adran 45B o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 yn galluogi Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, i wneud darpariaethau at ddiben (ymhlith pethau eraill) atal perygl i iechyd y cyhoedd a ddaw o lestrau, awyrennau, trenau neu gludiant arall yn cyrraedd unrhyw fan.

Mae’r Rheoliadau yn gosod gofyniad ar weithredwyr gwasanaethau teithwyr rhyngwladol sy’n dod o’r tu allan i’r ardal deithio gyffredin i faes awyr, maes hofrenyddion neu borthladd môr yng Nghymru (“gweithredwyr”) i ddarparu gwybodaeth iechyd y cyhoedd benodol sy’n ymwneud â’r feirws i deithwyr.

Mae rheoliad 3 yn gosod gofynion ar weithredwyr ar adeg archebu taith a chofrestru ar gyfer taith. Pan fo’r archebu neu’r cofrestru yn digwydd ar lein, mae’r rheoliad yn ei gwneud yn ofynnol i’r gweithredwr i roi ar gael i deithwyr ddolen i’r tudalennau perthnasol ar wefan gov.uk a gwefan llyw.cymru. Pan fo’r archebu neu’r cofrestru yn digwydd dros y ffôn neu wyneb yn wyneb, mae’n ofynnol i weithredwyr gyfeirio’r teithiwr at y tudalennau hyn.

Mae rheoliad 4 yn ei gwneud yn ofynnol i weithredwyr ddarparu’r datganiad gwybodaeth iechyd y cyhoedd yn yr Atodlen i deithwyr tra bônt ar y llestr neu’r awyren.

Mae rheoliad 5 yn darparu eithriad i’r gofyniad i ddarparu gwybodaeth iechyd y cyhoedd yn rheoliadau 3 a 4; nid yw’n gymwys pan fo’r person sy’n cael yr wybodaeth yn annhebygol o allu ei deall.

Mae rheoliad 6 yn creu trosedd ddiannod o dorri’r gofyniad i ddarparu’r wybodaeth iechyd y cyhoedd yn rheoliadau 3 a 4. Mae’r drosedd i’w chosbi drwy ddirwy.

Mae rheoliad 6(2) yn darparu amddiffyniad o “esgus rhesymol” i weithredwr a gyhuddir o drosedd o dan reoliad 4 (torri gofyniad i ddarparu gwybodaeth i deithwyr tra bônt ar y llestr neu’r awyren).

Mae rheoliad 7 yn darparu y caniateir gosod cosbau penodedig ar bersonau yr amheuir eu bod wedi cyflawni trosedd o dan y Rheoliadau hyn yn lle eu herlyn. Y gosb yw £4000.

Rhaid adolygu’r angen am y Rheoliadau hyn a’u cymesuredd bob 21 o ddiwrnodau (rheoliad 9).

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

(1)

1984 p. 22. Mewnosodwyd Rhan 2A gan adran 129 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2008 (p. 14).

(2)

1971 p. 77. Mae’r adran honno yn darparu y cyfeirir ar y cyd at y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw a Gweriniaeth Iwerddon fel “the common travel area”.

(4)

Mae’r Awdurdod Hedfan Sifil yn gorff corfforedig a sefydlwyd gan adran 1 o Ddeddf Hedfan Sifil 1971 (p. 75).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources