Search Legislation

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Offerynnau Statudol Cymru

2020 Rhif 574 (Cy. 132)

Iechyd Y Cyhoedd, Cymru

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020

Gwnaed

5 Mehefin 2020

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

am 11.00 a.m. ar 8 Mehefin 2020

Yn dod i rym

am 12.01 a.m. ar 8 Mehefin 2020

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 45B, 45F(2) a 45P(2) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

RHAN 1Cyffredinol

Enwi a dod i rym

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym am 12.01 a.m. ar 8 Mehefin 2020.

Dehongli cyffredinol

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “coronafeirws” (“coronavirus”) yw coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-Cov-2);

mae i “y Deddfau Mewnfudo” yr ystyr a roddir i “the Immigration Acts” yn adran 61 o Ddeddf Ffiniau’r DU 2007(2);

mae i “gwybodaeth am deithiwr” (“passenger information”) yr ystyr a roddir gan reoliad 4(1);

mae “mangre” (“premises”) yn cynnwys unrhyw ardd, iard, tramwyfa, gris, garej, tŷ allan, neu unrhyw atodyn i fangre o’r fath;

ystyr “plentyn” (“child”) yw person o dan 18 oed ac mae unrhyw gyfeiriad at “oedolyn” i’w ddehongli yn unol â hynny;

ystyr “swyddog mewnfudo” (“immigration officer”) yw person sydd wedi ei benodi yn swyddog mewnfudo gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dan baragraff 1 o Atodlen 2 i Ddeddf Mewnfudo 1971(3).

(2At ddibenion y Rheoliadau hyn, mae gan berson gyfrifoldeb am blentyn os oes gan y person—

(a)gwarchodaeth neu ofal am y plentyn, neu

(b)cyfrifoldeb rhiant am y plentyn (o fewn ystyr Deddf Plant 1989)(4).

(3Yn y Rheoliadau hyn, mae i—

“yr ardal deithio gyffredin”(5);

“awyren”(6);

“llong”(7);

“porthladd”(8),

yr un ystyr ag a roddir i “the common travel area”, “aircraft”, “ship” a “port” yn Neddf Mewnfudo 1971.

RHAN 2Gofyniad i ddarparu gwybodaeth

Personau sy’n cyrraedd o’r tu allan i’r ardal deithio gyffredin

3.—(1Yn y Rhan hon mae cyfeiriadau at “P” yn gyfeiriadau at—

(a)person sy’n cyrraedd Cymru ar long neu awyren o fan y tu allan i’r ardal deithio gyffredin, neu

(b)person—

(i)sy’n cyrraedd Cymru ar long neu awyren o Weriniaeth Iwerddon, Ynysoedd y Sianel, neu Ynys Manaw, ac

(ii)sydd wedi bod mewn man y tu allan i’r ardal deithio gyffredin o fewn y cyfnod o 14 o ddiwrnodau sy’n dod i ben ar y diwrnod pan fo’r person yn cyrraedd.

(2Ond nid yw cyfeiriadau at P yn cynnwys person a ddisgrifir yn Rhan 1 o Atodlen 2.

Gofyniad i ddarparu gwybodaeth am deithiwr

4.—(1Rhaid i P gyflwyno’r wybodaeth ganlynol i’r Ysgrifennydd Gwladol yn electronig cyn gynted â bo’n rhesymol ymarferol ar ôl cyrraedd Cymru, gan ddefnyddio cyfleuster a ddarperir gan yr Ysgrifennydd Gwladol at y diben hwn—

(a)gwybodaeth am deithiwr ar gyfer P, a

(b)pan fo P yn cyrraedd Cymru yng nghwmni plentyn y mae gan P gyfrifoldeb amdano, gwybodaeth am deithiwr ar gyfer y plentyn,

(2Pan fo P yn cyrraedd Cymru drwy borthladd--

(a)rhaid i P gydymffurfio â pharagraff (1) cyn gadael y porthladd, a

(b)rhaid i swyddog mewnfudo yn y porthladd ddarparu P unrhyw gynhorthwy y mae’r swyddog yn ei ystyried yn angenrheidiol i alluogi P i gydymffurfio â pharagraff (1).

(3Nid yw’n ofynnol i P gydymffurfio â pharagraff (1) os yw’r wybodaeth am deithiwr wedi ei darparu’n electronig i’r Ysgrifennydd Gwladol gan ddefnyddio cyfleuster a ddarparwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol at y diben hwnnw, cyn i P gyrraedd Cymru.

(4Ond pan fo paragraff (3) yn gymwys, rhaid i P ddarparu tystiolaeth i swyddog mewnfudo bod y wybodaeth am deithiwr wedi ei ddarparu, os gofynnir iddo wneud hynny gan y swyddog.

(5Pan fo P yn blentyn y mae gwybodaeth am deithiwr mewn cysylltiad ag ef wedi ei darparu gan berson sydd â chyfrifoldeb am P, yn unol â pharagraff (1)(b), nid yw paragraff (1)(a) yn ei gwneud hi’n ofynnol i P ddarparu gwybodaeth am deithiwr ar gyfer P.

Gofyniad i hysbysu ynghylch newidiadau i wybodaeth am deithiwr

5.—(1Mae paragraff (2) yn gymwys—

(a)pan fo’n ofynnol gan reoliad 7 neu 8 i P breswylio mewn mangre (ac i beidio â gadael y fangre na bod y tu allan iddi) tan ddiwedd diwrnod olaf ynysiad P (o fewn yr ystyr a roddir gan reoliad 12), a

(b)pan fo gwybodaeth am deithiwr ar gyfer P yn newid cyn diwedd y diwrnod hwnnw.

(2Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys, rhaid i P ddarparu i’r Ysgrifennydd Gwladol yn electronig wybodaeth am deithiwr sydd wedi ei diweddaru cyn gynted ag y bo’n resymol ymarferol, gan ddefnyddio’r cyfleuster a ddarperir gan yr Ysgrifennydd Gwladol at y diben hwnnw.

(3Pan fo P yn blentyn y mae gan berson arall gyfrifoldeb amdano—

(a)nid yw’n ofynnol i P ddarparu gwybodaeth am deithiwr sydd wedi ei diweddaru o dan baragraff (2), a

(b)mae’n ofynnol i’r person arall, ar ran P, ddarparu’r wybodaeth am deithiwr sydd wedi ei ddiweddaru ar ran P.

Gwybodaeth am deithiwr nad yw ym meddiant neu o dan reolaeth person

6.  Nid oes dim yn rheoliad 4 neu 5 sy’n ei gwneud yn ofynnol i berson ddarparu gwybodaeth am deithiwr nad yw ym meddiant y person neu o dan ei reolaeth.

RHAN 3Gofyniad i ynysu etc.

Gofyniad i ynysu: cyrraedd o fan y tu allan i’r Deyrnas Unedig

7.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i berson (“P”)—

(a)sy’n cyrraedd Cymru ar long neu awyren o fan y tu allan i’r ardal deithio gyffredin, neu

(b)sydd —

(i)yn cyrraedd Cymru ar long neu awyren o Weriniaeth Iwerddon, Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw, a

(ii)sydd, wedi cyrraedd yr ardal deithio gyffredin o fan y tu allan i’r ardal honno o fewn y cyfnod o 14 o ddiwrnodau sy’n dod i ben ar y diwrnod y mae P yn cyrraedd Cymru.

(2Rhaid i P—

(a)teithio’n uniongyrchol i fangre benodol yng Nghymru sy’n addas i P breswylio ynddi tan ddiwedd diwrnod olaf ynysiad P, neu

(b)teithio’n uniongyrchol i ran o’r Deyrnas Unedig heblaw Cymru.

(3Pan fo P yn teithio i fangre benodol yng Nghymru i breswylio ynddi, fel sy’n ofynnol gan baragraff (2)(a), ni chaniateir i P adael na bod y tu allan i’r fangre cyn diwedd diwrnod olaf ynysiad P—

(a)onid yw wedi ei awdurdodi i wneud hynny gan reoliad 10(4) (gadael y fangre dros dro), neu

(b)onid yw’r paragraff hwn yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â P yn rhinwedd rheoliad 10(3) (gadael Cymru).

(4At ddibenion paragraffau (2) a (3), y fangre benodol yw—

(a)y fangre a bennir yng ngwybodaeth am deithiwr P fel y fangre y mae P yn bwriadu preswylio ynddi at ddibenion y rheoliad hwn (oni bai fo is-baragraff (d) yn gymwys i P);

(b)pan fo P yn berson a ddisgrifir—

(i)ym mharagraff 1(1)(a) i (k) o Atodlen 2 nad yw wedi bodloni’r amodau ym mharagraff 1(2) o’r Atodlen honno, neu

(ii)paragraff 1(1)(l) o’r Atodlen honno,

mangre y mae P yn bwriadu preswylio ynddi at ddibenion y rheoliad hwn;

(c)pan na fo gwybodaeth am deithiwr P yn pennu’r fangre y mae P yn bwriadu preswylio ynddi at ddibenion y rheoliad hwn, y fangre a drefnwyd gan P o dan baragraff (5);

(d)pan fo P yn ddarostyngedig i ofyniad a osodir o dan neu yn rhinwedd y Deddfau Mewnfudo i breswylio mewn mangre arbennig yng Nghymru, y fangre honno.

(5Pan na fo gwybodaeth am deithiwr P yn pennu’r fangre y mae P yn bwriadu preswylio ynddi at ddibenion y rheoliad hwn, rhaid i P—

(a)wneud trefniadau cyn gynted a bo’n rhesymol ymarferol i breswylio mewn mangre yng Nghymru tan ddiwedd diwrnod olaf ynysiad P, a

(b)hysbysu’r Ysgrifennydd Gwladol yn electronig cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol o gyfeiriad y fangre honno gan ddefnyddio cyfleuster a ddarparwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol at y diben hwnnw.

(6Ond pan fo P wedi cyrraedd Cymru drwy borthladd, rhaid i P gydymffurfio ậ gofynion paragraff (5) cyn i P adael y porthladd.

(7Pan fo paragraff (5) yn gymwys, rhaid i Weinidogion Cymru ddarparu’r cynorthwy, neu drefnu darpariaeth o’r cynhorthwy, y maent yn ystyried yn angenrheidiol (os o gwbl) i sicrhau y gall P wneud y trefniadau a grybwyllir ym mharagraff (5)(a).

Gofyniad i ynysu: cyrraedd o ran arall o’r Deyrnas Unedig

8.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i berson (“P”)—

(a)sy’n cyrraedd Cymru o rywle arall yn y Deyrnas Unedig, a

(b)sydd o fewn y cyfnod o 14 o diwrnod sy’n dod i ben ar y diwrnod y mae P yn cyrraedd Cymru wedi cyrraedd yr ardal deithio gyffredin o fan y tu allan i‘r ardal honno;

(2Ond nid yw cyfeiriadau at P yn cynnwys—

(a)person—

(i)sy’n cyrraedd Cymru at ddiben dychwelyd i’r fangre yng Nghymru y mae’r person yn preswylio ynddi at ddibenion rheoliad 7(3));

(ii)person a adawodd Cymru dros dro, am un neu ragor o’r resymau a awdurdodir yn rheoliad 10(4);

(b)person—

(i)y mae’n ofynnol iddo breswylio mewn mangre yn rhywle arall yn y Deyrnas Unedig o dan ddarpariaeth mewn Rheoliadau a wneir mewn perthynas â Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon (yn ôl y digwydd) sy’n cyfateb i’r Rheoliadau hyn,

(ii)y caniateir iddo adael y rhan arall honno o’r Deyrnas Unedig dros dro yn rhinwedd y Rheoliadau hynny, a

(iii)sy’n aros yng Nghymru am ddim hwy nag sy’n angenrheidiol.

(3O ran P—

(a)rhaid iddo deithio’n uniongyrchol i fangre yng Nghymru sy’n addas i P breswylio ynddi tan ddiwedd diwrnod olaf ynysiad P, a

(b)ni chaiff adael y fangre na bod y tu allan iddi cyn diwedd diwrnod olaf ynysiad P—

(i)onid yw wedi ei awdurdodi gan reoliad 10(4) (bod y tu allan i fangre am gyhyd ag y bo’n angenrheidiol) i wneud hynny, neu

(ii)onid yw’r paragraff hwn yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â P yn rhinwedd rheoliad 10(3) (gadael Cymru).

(4Rhaid i P hefyd—

(a)cyn cyrraedd Cymru, neu

(b)cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl cyrraedd Cymru,

hysbysu’r Ysgrifennydd Gwladol yn electronig am gyfeiriad y fangre y mae P yn bwriadu preswylio ynddi at ddibenion paragraff (3) gan ddefnyddio cyfleuster a ddarperir gan yr Ysgrifennydd Gwladol at y diben hwnnw.

Gofynion ynysu: esemptiadau

9.  Nid yw rheoliad 7 ac 8 yn gymwys i berson a ddisgrifir—

(a)ym mharagraff 1(1)(a) i (k) o Atodlen 2 sy’n bodloni’r amodau ym mharagraff 2 o’r Atodlen honno;

(b)ym mharagraffau 2 i 36 o Atodlen 2.

Gofynion ynysu: eithriadau

10.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo gofyniad i ynysu yn ei gwneud yn ofynnol i berson (“P”) breswylio mewn mangre (a pheidio â gadael y fangre na bod y tu allan iddi) yng Nghymru.

(2Ystyr “gofyniad i ynysu” mewn perthynas â P yw gofyniad a osodir gan—

(a)rheoliad 7(3);

(b)rheoliad 8(3)(b).

(3Mae gofyniad i ynysu yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â P os yw P yn gadael Cymru, onid yw P y tu allan i’r Deyrnas Unedig dros dro at ddiben a awdurdodir gan baragraff (4)(b) i (j).

(4Caniateir i P adael y fangre a bod y tu allan iddi am gyhyd ag y bo’n angenrheidiol—

(a)i deithio at ddibenion gadael Cymru yn y modd a ddisgrifir gan baragraff (3);

(b)i gael angenrheidiau sylfaenol (gan gynnwys ar gyfer personau eraill yn y fangre neu unrhyw anifeiliaid anwes yn y fangre), pan na fo’n bosibl neu’n ymarferol—

(i)i berson arall yn y fangre eu cael ar ran P, neu

(ii)eu cael drwy ddanfoniad i’r fangre gan drydydd parti;

(c)i geisio cynhorthwy meddygol, pan fo angen y cynhorthwy hwnnw ar frys neu yn unol â chyngor ymarferydd meddygol cofrestredig;

(d)i gael gwasanaeth iechyd a ddarperir gan ymarferydd meddygol cofrestredig, pan fo trefniadau wedi eu gwneud i ddarparu’r gwasanaeth cyn i P gyrraedd y Deyrnas Unedig;

(e)i gynorthwyo person sy’n derbyn gwasanaeth iechyd a ddisgrifir ym mharagraff (d), neu i fod gyda’r person hwnnw os yw P yn blentyn y mae gan y person hwnnw gyfrifoldeb amdano;

(f)i gael gafael ar wasanaethau milfeddygol—

(i)pan fo angen y gwasanaethau hynny ar fyrder ar gyfer anifail anwes yn y fangre, a

(ii)pan na fo’n bosibl i berson arall yn y fangre gael mynediad i’r gwasanaethau hynny;

(g)i wneud gweithgareddau penodedig mewn perthynas â garddwriaeth fwytadwy, ond dim ond os yw P yn preswylio yn y fangre mewn cysylltiad â’r gweithgareddau hynny;

(h)i osgoi salwch neu anaf neu i ddianc rhag risg o niwed;

(i)i fodloni rhwymedigaeth gyfreithiol, gan gynnwys mynd i’r llys neu fodloni amodau mechnïaeth, neu i gymryd rhan mewn achos cyfreithiol;

(j)i gael gafael ar wasanaethau cyhoeddus (gan gynnwys gwasanaethau cymdeithasol neu wasanaethau i ddioddefwyr)—

(i)pan fo cael gafael ar y gwasanaeth yn hanfodol i lesiant P, a

(ii)pan na ellir darparu’r gwasanaeth os yw P yn aros yn y fangre;

(k)am resymau tosturiol, gan gynnwys i fynd i angladd—

(i)aelod o deulu P;

(ii)ffrind agos.

(5O ran P—

(a)pan fo rhwymedigaeth gyfreithiol yn ei gwneud yn ofynnol i P newid y fangre y mae’n preswylio ynddi at ddiben gofyniad i ynysu, neu

(b)pan na fo P fel arall yn gallu aros yn y fangre y mae P yn preswylio ynddi at ddiben gofyniad i ynysu,

caiff P deithio’n uniongyrchol i fangre arall yng Nghymru sy’n addas i P breswylio ynddi tan ddiwedd diwrnod olaf ynysiad P; ac mae cyfeiriadau yn y Rhan hon at fangre, mewn perthynas â gofyniad i ynysu, i’w darllen yn unol â hynny.

(6Pan fo paragraff (5) yn gymwys, rhaid i P hysbysu’r Ysgrifennydd Gwladol yn electronig am gyfeiriad y fangre arall cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol gan ddefnyddio cyfleuster a ddarparwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol at y diben hwnnw.

(7Nid yw gofyniad i ynysu yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw gyfnod pan fo P—

(a)wedi ei symud ymaith i le, wedi ei gyfarwyddo i fynd i le neu wedi ei gyfarwyddo i aros mewn lle gan swyddog mewnfudo, cwnstabl neu swyddog iechyd y cyhoedd o dan Atodlen 21 i Ddeddf y Coronafeirws 2020(9);

(b)wedi ei gadw mewn lle yn rhinwedd gofyniad a osodir o dan y Deddfau Mewnfudo.

(8At ddibenion y rheoliad hwn—

ystyr “garddwriaeth fwytadwy” (“edible horticulture) yw tyfu—

(i)

llysiau wedi eu diogelu a dyfir mewn systemau tai gwydr,

(ii)

llysiau maes a dyfir yn yr awyr agored, gan gynnwys llysiau, perlysiau, salad deiliog a thatws,

(iii)

ffrwythau meddal a dyfir yn yr awyr agored neu o dan orchudd,

(iv)

coed sy’n dwyn ffrwyth,

(v)

gwinwydd a choesynnau, neu

(vi)

madarch;

ystyr “gwasanaeth iechyd” (“health service”) yw gwasanaeth a ddarperir ar gyfer y canlynol neu mewn cysylltiad â’r canlynol—

(i)

atal salwch, gwneud diagnosis o salwch neu ei drin, neu

(ii)

hybu neu warchod iechyd y cyhoedd;

ystyr “ymarferydd meddygol cofrestredig” (“registered medical practitioner”) yw person sydd wedi ei gofrestri’n llawn o fewn yr ystyr a roddir i “fully registered” yn Neddf Meddygol 1983(10) sydd yn dal trwydded i ymarfer o dan y Ddeddf honno;

ystyr “gweithgareddau penodedig” (“specified activities”), mewn perthynas â garddwriaeth fwytadwy, yw—

(i)

cynnal a chadw cnydau,

(ii)

cynaeafu cnydau,

(iii)

codi twneli a’u datgymalu,

(iv)

gosod dulliau dyfrhau a’u cynnal,

(v)

hwsmonaeth cnydau,

(vi)

pacio a phrosesu cnydau ar fangreoedd cyflogwyr,

(vii)

paratoi mannau a chyfryngau tyfu a’u datgymalu,

(viii)

gwaith cynhyrchu sylfaenol cyffredinol mewn garddwriaeth fwytadwy,

(ix)

gweithgareddau sy’n ymwneud â goruchwylio timau o weithwyr garddwriaeth.

Gofyniad ar bersonau sydd â chyfrifoldeb am blentyn

11.  Pan osodir gofyniad ar blentyn o dan reoliad 7, 8 neu 10, rhaid i berson sydd â chyfrifoldeb am y plentyn gymryd pob mesur rhesymol i sicrhau bod y plentyn yn cydymffurfio â’r gofyniad.

Diwrnod olaf yr ynysu

12.  At ddibenion rheoliadau 7, 8 a 10, diwrnod olaf ynysiad P yw diwrnod olaf y cyfnod o 14 o ddiwrnodau sy’n dechrau ar y diwrnod y cyrhaeddodd P yn yr ardal deithio cyffredin o fan y tu allan i’r ardal honno.

Rhan 4Gorfodi a Throseddau

Gorfodi gofyniad i ynysu

13.—(1Pan fo gan gwnstabl sail resymol dros amau bod person (“P”) yn torri rheoliad 7(3) neu 8(3)(b), caiff y cwnstabl—

(a)cyfarwyddo P i ddychwelyd i’r fangre y mae P yn preswylio ynddi,

(b)symud P ymaith i’r fangre, neu

(c)pan na fo’n ymarferol neu’n briodol cymryd y cam yn is-baragraff (a) neu (b) o dan yr amgylchiadau, symud P ymaith i fangre wedi’i threfnu gan Weinidogion Cymru sy’n addas i P breswylio ynddi at ddibenion rheoliad 7(3) neu 8(3)(b).

(2Caiff cwnstabl sy’n arfer y pŵer ym mharagraff (1)(b) neu (c) ddefnyddio grym rhesymol, os yw hynny’n angenrheidiol, wrth arfer y pŵer.

(3Pan fo P yn blentyn yng nghwmni person sydd â chyfrifoldeb am y plentyn—

(a)caiff y cwnstabl gyfarwyddo’r person â’r cyfrifoldeb hwnnw i fynd â’r plentyn i’r fangre y mae’r plentyn yn preswylio ynddi, a

(b)rhaid i’r person, i’r graddau y bo’n rhesymol ymarferol, sicrhau bod y plentyn yn cydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddyd neu gyfarwyddiad a roddir gan y cwnstabl i’r plentyn.

(4Caiff cwnstabl gymryd unrhyw gamau eraill y mae’r cwnstabl yn ystyried eu bod yn angenrheidiol ac yn gymesur i hwyluso arfer pŵer a roddir i’r cwnstabl gan y rheoliad hwn.

(5Ni chaiff cwnstabl arfer pŵer a roddir i’r cwnstabl gan y rheoliad hwn oni fo’r cwnstabl yn ystyried ei bod yn angenrheidiol ac yn gymesur gwneud hynny.

Troseddau

14.—(1Mae oedolyn sy’n torri gofyniad yn rheoliad —

(a)4(1) neu (4),

(b)5(2),

(c)7(2), (3) neu (5),

(d)8(3) neu (4),

(e)10(6), neu

(f)11

yn cyflawni trosedd.

(2Mae’n drosedd i oedolyn ddarparu gwybodaeth anwir neu gamarweiniol i’r Ysgrifennydd Gwladol at ddibenion rheoliad 4, 5, 7(5), 8(4) neu 10(6)—

(a)pan fo’r person yn gwybod bod yr wybodaeth yn anwir neu’n gamarweiniol, neu

(b)pan fo’r person yn ddi-hid ynghylch pa un a yw’n anwir neu’n gamarweiniol.

(3Mae oedolyn sy’n methu cydymffurfio â chyfarwyddyd a roddir gan gwnstabl o dan reoliad 13 yn cyflawni trosedd.

(4Mae oedolyn sy’n rhwystro yn fwriadol unrhyw berson sy’n arfer swyddogaethau o dan y rrheoliadau yma yn cyflawni trosedd.

(5Mae’n amddiffyniad i gyhuddiad o gyflawni trosedd o dan baragraff (1) neu (3) i ddangos bod gan y person esgus rhesymol dros dorri’r gofyniad neu fethu â chydymffurfio â’r gofyniad o dan sylw.

(6Mae person sy’n cyflawni trosedd o dan y rheoliad hwn yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy.

(7Mae adran 24 o Ddeddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984(11) yn gymwys mewn perthynas â throsedd o dan y rheoliad hwn fel pe bai’r rhesymau yn is-adran (5) o’r adran honno yn cynnwys—

(a)cynnal iechyd y cyhoedd;

(b)cynnal trefn gyhoeddus.

Erlyn

15.  Ni chaniateir dwyn achos am drosedd o dan y Rheoliadau hyn ond gan y Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus neu unrhyw berson sydd wedi ei ddynodi gan Weinidogion Cymru.

Hysbysiadau cosb benodedig

16.—(1Caiff swyddog mewnfudo ddyroddi hysbysiad cosb benodedig i unrhyw oedolyn y mae’r swyddog yn credu’n rhesymol ei fod wedi cyflawni trosedd—

(a)o dan reoliad 14(1) neu (2)—

(i)mewn perthynas â gofyniad yn rheoliad 4(1) neu (4), 5(2), neu 7(5), neu

(ii)mewn perthynas â thorri gofyniad yn rheoliad 11 sy’n ymwneud â’r gofyniad yn rheoliad 7(5), neu

(b)o dan reoliad 14(4) lle credir bod y person yn fwriadol wedi rhwystro person oedd yn arfer swyddogaeth mewn perthynas ag un o’r gofynion hynny.

(2Caiff cwnstabl ddyroddi hysbysiad cosb benodedig i unrhyw oedolyn y mae’r cwnstabl yn credu’n rhesymol ei fod wedi cyflawni trosedd o dan y Reoliadau hyn.

(3Hysbysiad yw hysbysiad cosb benodedig sy’n cynnig i’r person y’i dyroddir iddo y cyfle i gael ei ryddhau o unrhyw atebolrwydd am euogfarn am y drosedd drwy dalu cosb benodedig i—

(a)Gweinidogion Cymru, neu

(b)person a ddynodir gan Weinidogion Cymru at ddibenion cael taliad o dan y rheoliad hwn.

(4Pan ddyroddir hysbysiad i berson o dan y rheoliad hwn mewn cysylltiad â throsedd—

(a)ni chaniateir dwyn unrhyw achos am y drosedd cyn diwedd y cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau ar y dyddiad y dyroddir yr hysbysiad;

(b)ni chaniateir euogfarnu’r person o’r drosedd os yw’r person yn talu’r gosb benodedig cyn diwedd y cyfnod hwnnw.

(5Rhaid i hysbysiad cosb benodedig—

(a)disgrifio’r amgylchiadau yr honnir eu bod yn ffurfio’r drosedd,

(b)datgan y cyfnod pan (oherwydd paragraff (4)(a)) na ddygir achos am y drosedd,

(c)pennu swm y gosb benodedig,

(d)datgan enw a chyfeiriad y person y caniateir talu’r gosb benodedig iddo, ac

(e)pennu dulliau o dalu a ganiateir.

(6Pan ddyroddir yr hysbysiad cosb benodedig mewn cysylltiad â throsedd—

(a)o dorri gofyniad a osodir gan reoliad 7(2), neu (3), 8(3) neu 11,

(b)o dan reoliad 14(3), neu

(c)o dan reoliad 14(4) lle credir bod y person yn fwriadol wedi rhwystro person oedd yn arfer swyddogaeth mewn perthynas â rheoliad 7(2) neu (3), 8(3) neu 11,

rhaid i’r swm a bennir o dan baragraff (5)(c) fod yn £1000.

(7Pan ddyroddir yr hysbysiad cosb benodedig mewn cysylltiad â throsedd (“trosedd gwybodaeth neu hysbysu”) —

(a)o dorri gofyniad a osodir gan reoliad 4(1) neu (4), 5(2), 7(5), 8(4) neu 10(6), neu

(b)o dan reoliad 14(4) lle credir bod y person yn fwriadol wedi rhwystro person oedd yn arfer swyddogaethau mewn perthynas ag un o’r gofynion hynny,

rhaid i’r swm a bennir o dan baragraff (5)(c) fod yn £60 (yn ddarostyngedig i baragraffau (8) a (9)).

(8Caiff hysbysiad cosb benodedig a ddyroddir mewn cysylltiad â throsedd gwybodaeth neu hysbysu bennu, os telir £30 cyn diwedd y cyfnod o 14 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl dyddiad y dyroddir yr hysbysiad, mai dyna yw swm y gosb benodedig.

(9Ond os yw’r person y dyroddir iddo hysbysiad cosb benodedig mewn cysylltiad â throsedd gwybodaeth neu hysbysu eisoes wedi cael hysbysiad cosb benodedig mewn cysylltiad â’r drosedd honno—

(a)nid yw paragraff (8) yn gymwys, a

(b)y swm a bennir fel y gosb benodedig fydd—

(i)yn achos yr ail hysbysiad cosb benodedig a geir, £120;

(ii)yn achos y trydydd hysbysiad cosb benodedig a geir, £240;

(iii)yn achos y pedwerydd hysbysiad cosb benodedig a geir, £480;

(iv)yn achos y pumed hysbysiad cosb benodedig a geir, £960;

(v)yn achos y chweched hysbysiad cosb benodedig a geir, ac unrhyw hysbysiad cosb benodedig a geir wedi hynny, £1920.

(10Pa bynnag ddull arall a bennir o dan baragraff (5)(e), caniateir talu cosb benodedig drwy ragdalu a phostio llythyr sy’n cynnwys swm y gosb (mewn arian parod neu fel arall) i’r person y nodir ei enw o dan baragraff (5)(d) i’r cyfeiriad a nodir.

(11Pan fo llythyr yn cael ei anfon fel a grybwyllir ym mharagraff (10), ystyrir bod taliad wedi ei wneud ar yr adeg y byddai’r llythyr hwnnw wedi cael ei ddanfon yn nhrefn arferol y post.

(12Mewn unrhyw achos, mae tystysgrif—

(a)sy’n honni ei bod wedi ei llofnodi gan neu ar ran—

(i)Gweinidogion Cymru, neu

(ii)person sydd wedi ei ddynodi gan Weinidogion Cymru o dan baragraff (3)(b), a

(b)sy’n datgan bod y taliad am y gosb benodedig wedi dod i law, neu heb ddod i law, erbyn y dyddiad a bennir yn y dystysgrif,

yn dystiolaeth o’r ffeithiau a ddatgenir.

RHAN 5Rhannu gwybodaeth

Defnyddio a datgelu gwybodaeth

17.—(1Yn y rheoliad hwn ac yn rheoliad 18, ystyr “gwybodaeth berthnasol” yw—

(a)gwybodaeth am deithiwr o Gymru;

(b)gwybodaeth am deithiwr o weddill y Deyrnas Unedig.

(2At ddibenion y rheoliad hwn—

(a)ystyr “gwybodaeth am deithiwr o Gymru” yw—

(i)gwybodaeth am deithiwr a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol at ddiben rheoliad 4 neu 5;

(ii)gwybodaeth a ddarparwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol mewn hysbysiad a wnaed o dan reoliad 7(5)(b), 8(4) neu 10(6);

(b)ystyr “gwybodaeth am deithiwr o weddill y Deyrnas Unedig” yw gwybodaeth a roddir i berson o dan ddarpariaeth mewn Rheoliadau a wnaed mewn perthynas â Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon (yn ôl y digwydd) sy’n cyfateb i ddarpariaeth a grybwyllir yn is-baragraff (a).

(3Yn y rheoliad hwn, mae unrhyw gyfeiriad at ddeiliad gwybodaeth yn gyfeiriad at—

(a)yr Ysgrifennydd Gwladol;

(b)person y datgelwyd yr wybodaeth iddo o dan baragraff (4) neu (5).

(4Caiff deiliad gwybodaeth am deithiwr o Gymru ddatgelu’r wybodaeth i berson arall (y “derbynnydd”) o dan amgylchiadau pan fo’n angenrheidiol i’r derbynnydd gael yr wybodaeth—

(a)at ddiben arfer swyddogaeth y derbynnydd o dan —

(i)y Rheoliadau hyn, neu

(ii)Rheoliadau a wnaed mewn perthynas â Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon (yn ôl y digwydd) sy’n cyfateb â’r Rheoliadau yma;

(b)at ddiben—

(i)atal perygl i iechyd y cyhoedd o ganlyniad i ledaeniad haint neu halogiad y coronafeirws,

(ii)monitro lledaeniad haint neu halogiad y coronafeirws, neu

(iii)rhoi effaith i unrhyw drefniant neu gytundeb rhyngwladol sy’n ymwneud â lledaeniad haint neu halogiad y coronafeirws;

(c)at ddiben sy’n gysylltiedig â’r diben a ddisgrifir yn is-baragraff (a) neu (b), neu sydd fel arall yn gysylltiedig â‘r diben hwnnw

(5Caiff deiliad gwybodaeth am deithiwr o weddill y Deyrnas Unedig ei ddatgelu i berson arall (“y derbynnydd”) mewn amgylchiadau lle ei bod hi’n angenrheidiol i’r derbynnydd gael y wybodaeth—

(a)at ddiben arfer swyddogaeth y derbynnydd o dan y Rheoliadau yma;

(b)at ddiben—

(i)atal perygl i iechyd y cyhoedd yng Nghymru o ganlyniad i ledaeniad haint neu halogiad y coronafeirws,

(ii)monitro lledaeniad haint neu halogiad y coronafeirws yng Nghymru, neu

(iii)rhoi effaith yng Nghymru i unrhyw drefniant neu gytundeb rhyngwladol sy’n ymwneud â lledaeniad haint neu halogiad y coronafeirws;

(c)at ddiben sy’n gysylltiedig â diben a ddisgrifir yn is-baragraff (a) neu (b) neu ddiben sydd fel arall yn gysylltiedig â’r diben hwnnw.

(6Ni all deiliad gwybodaeth berthnasol ddefnyddio’r wybodaeth ac eithrio—

(a)at ddiben arfer swyddogaeth y deiliad o dan y Rheoliadau hyn;

(b)yn achos gwybodaeth am deithiwr o Gymru, at ddiben a ddisgrifir ym mharagraff (4)(b);

(c)yn achos gwybodaeth am deithiwr o weddill y Deyrnas Unedig, at ddiben a ddisgrifir ym mharagraff (5)(b);

(d)at ddiben sy’n gysylltiedig â diben a ddisgrifir yn is-baragraff (a), (b) neu (c), neu ddiben sydd fel arall yn gysylltiedig â’r diben hwnnw.

(7Er gwaethaf paragraffau (4), (5) a (6), nid yw’r rheoliad hwn yn cyfyngu’r amgylchiadau lle y gellir fel arall ddatgelu’r wybodaeth yn gyfreithiol, neu lle y gellir defnyddio’r wybodaeth o dan unrhyw ddeddfiad arall neu reol gyfreithiol arall.

(8Nid yw datgeliad a awdurdodir gan y rheoliad hwn yn torri—

(a)rhwymedigaeth o safbwynt cyfrinachedd sy’n ddyledus gan y person sy’n gwneud y datgeliad, neu

(b)unrhyw gyfyngiad arall ar ddatgelu gwybodaeth (ym mha fodd bynnag y’i gorfodir).

(9Nid oes unrhyw beth yn y rheoliad hwn yn awdurdodi datgelu data personol pan fo gwneud hynny yn torri’r ddeddfwriaeth diogelu data.

(10Ym mharagraff (8), mae i “ddeddfwriaeth diogelu data” yr ystyr a roddir i “data protection legislation” ac mae i “data personol” yr ystyr a roddir i “personal data” yn adran 3 o Ddeddf Diogelu Data 2018(12).

Hunanargyhuddo

18.—(1Caniateir i wybodaeth berthnasol gael ei defnyddio fel tystiolaeth yn erbyn y person y mae’r wybodaeth yn ymwneud ag ef mewn achos troseddol.

(2Pan ddefnyddir yr wybodaeth mewn achos ac eithrio ar gyfer trosedd o dan y Rheoliadau hyn neu adran 5 o Ddeddf Anudon 1911(13) (datganiadau anwir a wneir ac eithrio ar lw)—

(a)ni chaniateir i unrhyw dystiolaeth sy’n ymwneud â’r wybodaeth gael ei rhoi gan yr erlyniad nac ar ei ran, a

(b)ni chaniateir i unrhyw gwestiwn sy’n ymwneud â’r wybodaeth gael ei ofyn gan yr erlyniad nac ar ei ran.

(3Nid yw paragraff (2) yn gymwys—

(a)os rhoddir tystiolaeth sy’n ymwneud â’r wybodaeth gan y person a’i darparodd, neu ar ei ran, yn ystod yr achos, neu

(b)os gofynnir cwestiwn sy’n ymwneud â’r wybodaeth gan y person hwnnw, neu ar ei ran, yn ystod yr achos.

RHAN 6Adolygu a dod i ben

Adolygu’r gofynion

19.  Rhaid i Weinidogion Cymru adolygu’r angen am y gofynion a osodir gan y Rheoliadau hyn, ac a yw’r gofynion hynny’n gymesur â’r hyn y mae Gweinidogion Cymru yn ceisio ei gyflawni drwyddynt—

(a)erbyn 29 Mehefin 2020,

(b)o leiaf unwaith yn y cyfnod o 21 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl y dyddiad hwnnw, ac

(c)o leiaf unwaith ym mhob cyfnod dilynol o 21 o ddiwrnodau.

Y Rheoliadau’n dod i ben

20.—(1Daw’r Rheoliadau hyn i ben ar ddiwedd y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r diwrnod y deuant i rym.

(2Nid yw’r ffaith bod y Rheoliadau hyn wedi dod i ben yn effeithio ar ddilysrwydd unrhyw beth a wneir yn unol â’r Rheoliadau hyn cyn iddynt ddod i ben.

Mark Drakeford

Y Prif Weinidog, un o Weinidogion Cymru

5 Mehefin 2020

Rheoliad 2(1)

ATODLEN 1Gwybodaeth am Deithiwr

1.  Manylion personol—

(a)enw llawn,

(b)rhyw,

(c)dyddiad geni,

(d)rhif pasport, neu gyfeirnod ei ddogfen deithio (fel y bo’n briodol), y dyddiad dyroddi a’r dyddiad y daw’r pasport neu’r ddogfen i ben a’r awdurdod dyroddi,

(e)rhif ffôn,

(f)cyfeiriad cartref,

(g)cyfeiriad e-bost.

2.  Manylion y daith—

(a)os yn gymwys, cyfeiriad mangre addas yng Nghymru y mae’r person yn bwriadu preswylio ynddi fel sy’n ofynnol gan reoliad 7(3),

(b)os yn gymwys, cyfeiriad mangre addas yn y Deyrnas Unedig y mae P yn bwriadu preswylio ynddi fel sy’n ofynnol gan ddarpariaeth gyfatebol mewn Rheoliadau a wnaed mewn perthynas â Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon,

(c)dyddiad y bydd y person yn cyrraedd y cyfeiriad a bennir yn is-baragraff (a) neu (b), neu’r dyddiad y mae’n bwriadu cyrraedd, fel y bo’n briodol,

(d)y gweithredwr y mae’r person yn teithio gydag ef, neu wedi teithio gydag ef, neu’r gweithredwr a ddefnyddiodd y person i archebu’r daith,

(e)cyfeirnod yr archeb deithio,

(f)rhif yr hediad, rhif y trên, neu rif y tocyn (fel y bo’n briodol),,

(g)enw unrhyw grŵp teithio trefnedig y mae’r person yn teithio neu wedi teithio gydag ef,

(h)y lleoliad yn y Deyrnas Unedig y bydd y person yn ei gyrraedd, neu’r lleoliad yn y Deyrnas Unedig y mae wedi ei gyrraedd,

(i)y wlad y mae’r person yn teithio drwyddi, neu wedi ymadael ohoni,

(j)y dyddiad a’r amser y bydd y person yn cyrraedd y Deyrnas Unedig neu y mae’n bwriadu ei chyrraedd, fel y bo’n briodol,

(k)a yw’r person yn teithio drwy’r Deyrnas Unedig fel rhan o siwrnai gysylltu i gyrchfan y tu allan i’r Deyrnas Unedig ac, os felly—

(i)lleoliad y man y bydd y person yn ymadael â’r Deyrnas Unedig,

(ii)y wlad sy’n gyrchfan terfynol y person,

(iii)enw’r gweithredwr y mae’r person yn teithio gydag ef ar y daith sy’n dilyn, neu’r gweithredwr a ddefnyddiodd y person i archebu’r daith sy’n dilyn,

(iv)cyfeirnod archeb deithio’r daith sy’n dilyn,

(v)rhif yr hediad, rhif y trên, neu rif y tocyn (fel y bo’n briodol) ar gyfer y daith sy’n dilyn.

3.  A yw’r person sy’n darparu gwybodaeth am deithiwr yn gwneud hynny ar ran person arall.

4.  Pan fo’r person yn teithio gyda phlentyn y mae ganddo gyfrifoldeb amdano—

(a)enw llawn a dyddiad geni’r plentyn hwnnw,

(b)perthynas y teithiwr â’r plentyn hwnnw.

5.  Enw llawn a rhif ffôn cyswllt brys.

Rheoliadau 3(2), 7(4)(b) a 9

ATODLEN 2Personau nad yw’n ofynnol iddynt gydymffurfio â rheoliadau 3 neu 4

RHAN 1Personau nad yw’n ofynnol iddynt gydymffurfio â rheoliad 3 a rheoliad 4

1.—(1Person—

(a)sy’n aelod o genhadaeth ddiplomyddol yn y Deyrnas Unedig;

(b)sy’n aelod o swyddfa gonsylaidd yn y Deyrnas Unedig;

(c)sy’n swyddog neu’n was i sefydliad rhyngwladol;

(d)a gyflogir gan sefydliad rhyngwladol fel arbenigydd neu ar genhadaeth;

(e)sy’n gynrychiolydd i sefydliad rhyngwladol;

(f)sy’n gynrychiolydd mewn cynhadledd ryngwladol neu gynhadledd y Deyrnas Unedig y rhoddir breintiau a breinryddidau iddo yn y Deyrnas Unedig;

(g)sy’n aelod o staff swyddogol cynrychiolydd i sefydliad rhyngwladol, neu berson sy’n dod o fewn paragraff (f);

(h)a ddisgrifir ym mharagraff (a) neu (b) sy’n pasio drwy’r Deyrnas Unedig i gychwyn neu barhau â’i swyddogaethau ar genhadaeth ddiplomyddol neu mewn swydd gonsylaidd mewn gwlad neu diriogaeth arall, neu i ddychwelyd i wlad ei genedligrwydd;

(i)sy’n gynrychiolydd i wlad dramor neu diriogaeth dramor sy’n teithio i’r Deyrnas Unedig i gynnal busnes swyddogol gyda’r Deyrnas Unedig;

(j)sy’n gynrychiolydd llywodraeth i diriogaeth dramor Brydeinig;

(k)sy’n gludwr diplomyddol neu’n gludwr consylaidd;

(l)sy’n aelod o’r teulu sy’n ffurfio rhan o aelwyd person sy’n dod o fewn unrhyw un neu ragor o baragraffau (a) i (k).

(2Yr amodau y cyfeirir atynt yn rheoliad 9(a) (personau nad yw’n ofynnol iddynt gydymffurfio â rheoliad 7 a 8) yw —

(a)bod pennaeth perthnasol y genhadaeth, y swyddfa gonsylaidd, y sefydliad rhyngwladol, neu’r gynhadledd, y swyddfa sy’n cynrychioli tiriogaeth dramor yn y Deyrnas Unedig neu Lywodraethwr tiriogaeth dramor Brydeinig (yn ôl y digwydd), neu berson sy’n gweithredu ar eu awdurdod, yn cadarnhau mewn ysgrifen‘i’r Swyddfa Dramor a Chymanwlad—

(i)ei bod yn ofynnol i’r person ymgymryd â gwaith sy’n hanfodol i weithrediad y genhadaeth, y swydd gonsylaidd, y sefydliad rhyngwladol neu’r gynhadledd, neu’r swyddfa, neu i ymgymryd â gwaith sy’n hanfodol i’r wlad dramor a gynrychiolir gan y genhadaeth neu’r swyddfa gonsylaidd, y diriogaeth dramor a gynrychiolir gan y swyddfa neu’r diriogaeth dramor Brydeinig a

(ii)na ellir ymgymryd â’r gwaith hwnnw tra bo’r person yn cydymffurfio â rheoliad 7 neu 8, a

(b)cyn i’r person gyrraedd y Deyrnas Unedig, bod y Swyddfa Dramor a Chymanwlad—

(i)wedi rhoi cadarnhad mewn ysgrifen i’r person sy’n rhoi’r cadarnhad y cyfeirir ato ym mharagraff (a) ei fod wedi cael y cadarnhad hwnnw, a

(ii)os yw’r person yn gynrychiolydd i wlad neu diriogaeth dramor, bod y Swyddfa wedi rhoi cadarnhad wedyn mewn ysgrifen i’r person sy’n rhoi’r cadarnhad y cyfeirir ato ym mharagraff (a) bod y person yn teithio i’r Deyrnas Unedig i gynnal busnes swyddogol gyda’r Deyrnas Unedig ac nad yw’n ofynnol iddo gydymffurfio â rheoliad 7 neu 8.

(3At ddibenion y paragraff hwn—

(a)ystyr “cludydd consylaidd” yw person sydd wedi cael dogfen swyddogol gan y Wladwriaeth y mae’n gweithredu ar ei rhan sy’n cadarnhau ei statws fel cludydd consylaidd yn unol ag Erthygl 35(5) o Gonfensiwn Fienna ar Gysylltiadau Consylaidd 1963,

(b)ystyr “swyddfa gonsylaidd” yw unrhyw gonsyliaeth gyffredinol, consyliaeth, is-gonsyliaeth neu asiantaeth gonsylaidd,

(c)ystyr “cludydd diplomyddol” yw person sydd wedi cael dogfen swyddogol gan y Wladwriaeth y mae’n gweithio ar ei rhan sy’n cadarnhau ei statws fel cludydd diplomyddol yn unol ag Erthygl 27(5) o Gonfensiwn Fienna ar Gysylltiadau Consylaidd 1961,

(d)ystyr “sefydliad rhyngwladol” yw sefydliad rhyngwladol y rhoddwyd breintiau a breinryddidau iddo yn y Deyrnas Unedig,

(e)ystyr “aelod o swyddfa gonsylaidd” yw swyddog consylaidd, gweithiwr consylaidd ac aelod o staff y gwasanaeth yn unol â’r diffiniadau o “consular officer”, “consular employee” a “member of the service staff” yn Atodlen 1 i Ddeddf Cysylltiadau Consylaidd 1968(14), ac mae i “pennaeth swyddfa gonsylaidd” yr ystyr a roddir i “head of consular post” yn yr Atodlen honno,

(f)ystyr “aelod o genhadaeth ddiplomyddol” yw pennaeth y genhadaeth, aelodau o’r staff diplomyddol, aelodau o’r staff gweinyddol a thechnegol ac aelodau o staff y gwasanaeth yn unol â’r diffiniadau o “head of the mission”, “members of the diplomatic staff”, “members of the administrative and technical staff” a “members of the service staff” yn Atodlen 1 i Ddeddf Breintiau Diplomyddol 1964(15).

(4Nid yw’r paragraff hwn yn rhagfarnu unrhyw freinryddid rhag awdurdodaeth neu anhydoredd a roddir i unrhyw berson a ddisgrifir yn is-baragraff (1) o dan gyfraith Cymru a Lloegr ar wahân i’r Rheoliadau hyn.

2.—(1Gwas i’r Goron neu gontractwr llywodraeth—

(a)y mae’n ofynnol iddo ymgymryd â gwaith llywodraeth hanfodol sy’n gysylltiedig â ffin y Deyrnas Unedig y tu allan i’r Deyrnas Unedig o fewn 14 diwrnod o gyrraedd y Deyrnas Unedig, neu ,

(b)sy’n ymgymryd â gwaith llywodraeth hanfodol sy’n gysylltiedig â ffin y Deyrnas Unedig y tu allan i’r Deyrnas Unedig ond—

(i)ei bod yn ofynnol iddo ddychwelyd i’r Deyrnas Unedig dros dro, a

(ii)y bydd wedyn yn ymadael er mwyn ymgymryd â gwaith llywodraeth hanfodol sy’n gysylltiedig â ffin y Deyrnas Unedig y tu allan i’r Deyrnas Unedig.

(2At ddibenion is-baragraff (1) a pharagraff 3—

(a)mae i “gwas i’r Goron” yr ystyr a roddir i “Crown servant” yn adran 12(1)(a) i (e) o Ddeddf Cyfrinachau Swyddogol 1989(16),

(b)ystyr “gwaith llywodraeth hanfodol” yw gwaith sydd wedi ei ddynodi felly gan yr Adran berthnasol neu’r cyflogwr perthnasol,

(c)mae i “contractwr llywodraeth” yr ystyr a roddir i “government contractor” yn adran 12(2) o’r Ddeddf honno.

3.—(1Person sy’n was i’r Goron, yn gontractwr llywodraeth neu’n aelod o lu ar ymweliad—

(a)y mae’n ofynnol iddo ymgymryd â gwaith sy’n angenrheidiol er mwyn i weithgareddau amddiffyn hanfodol gael eu cyflawni, neu

(b)sydd wedi ymgymryd â chyfnod di-dor o 14 o ddiwrnodau o leiaf yn union cyn iddo gyrraedd ar lestr a weithredir gan Wasanaeth Llyngesol ei Mawrhydi ac nad yw’r llestr hwnnw wedi codi unrhyw bersonau nac wedi glanio mewn unrhyw borthladd y tu allan i’r ardal deithio gyffredin am gyfnod o 14 o ddiwrnodau o leiaf cyn iddo gyrraedd y Deyrnas Unedig.

(2At ddibenion is-baragraff (1)—

(a)mae i “amddiffyn” yr ystyr a roddir i “defence” yn adran 2(4) o Ddeddf Cyfrinachau Swyddogol 1989(17),

(b)ystyr “llu ar ymweliad” yw llu ar ymweliad o fewn yr ystyr a roddir i “visiting force” yn adran 12(1) o Ddeddf Lluoedd ar Ymweliad 1952(18), pan fo’r llu hwnnw’n dod o wlad a restrir o dan adran 1(1)(a) neu a ddynodir o dan adran 1(1)(b) neu 1(2) o Ddeddf Lluoedd ar Ymweliad 1952(19), neu sy’n aelod-wlad o Sefydliad Cytuniad Gogledd Iwerydd.

4.  Swyddog i Lywodraeth dramor y mae’n ofynnol iddo deithio i’r Deyrnas Unedig i ymgymryd â dyletswyddau diogelwch ffin hanfodol, neu gontractwr sy’n cefnogi’r dyletswyddau diogelwch ffin hanfodol hyn yn uniongyrchol—

(a)pan fo’r swyddog neu’r contractwr yn meddu ar hysbysiad ysgrifenedig a lofnodwyd gan aelod uwch o’r Llywodraeth dramor sy’n cadarnhau ei bod yn ofynnol iddo ymgymryd â dyletswyddau diogelwch ffin hanfodol yn y Deyrnas Unedig o fewn 14 diwrnod ar ôl iddynt gyrraedd ac na ellir ymgymryd â’r gwaith hwnnw tra bo’r person yn cydymffurfio â rheoliad 7 neu 8, neu

(b)pan fo lleoliad y swyddog neu’r contractwr yn unol â chytundeb dwyochrog neu amlochrog sefydlog gyda Llywodraeth Ei Mawrhydi ar weithredu rheolaethau ffin yn y Deyrnas Unedig.

RHAN 2Personau nad yw’n ofynnol iddynt gydymffurfio â rheoliad 4

5.  Person sydd, ar ôl cyrraedd y Deyrnas Unedig, yn pasio trwodd i wlad neu diriogaeth arall heb ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig.

6.—(1Gweithiwr cludiant ffyrdd neu weithiwr cludiant teithwyr ffyrdd.

(2At ddibenion y paragraff hwn—

(a)mae “gyrrwr” yn cynnwys person sy’n teithio mewn cerbyd fel gyrrwr wrth gefn,

(b)mae i “cerbyd nwyddau” yr ystyr a roddir i “goods vehicle” yn adran 192 o Ddeddf Traffig Ffyrdd 1988(20),

(c)mae i “cerbyd gwasanaeth cyhoeddus” yr ystyr a roddir i “public service vehicle” yn adran 1 o Ddeddf Cerbydau Cyhoeddus i Deithwyr 1981(21),ystyr “gweithiwr cludiant ffyrdd” yw—

(i)gyrrwr cerbyd nwyddau sy’n cael ei ddefnyddio mewn cysylltiad â chludo nwyddau, ac eithrio nwyddau at ddiben personol anfasnachol y gyrrwr, neu

(ii)person a gyflogir gan ddeiliad trwydded Gymunedol a ddyroddwyd o dan Erthygl 4 o Reoliad (EC) Rhif 1072/2009 Senedd Ewrop a’r Cyngor (22), ac sy’n gweithredu yng nghwrs ei gyflogaeth,

(d)ystyr “gweithiwr cludiant teithwyr ffyrdd” yw—

(i)gyrrwr cerbyd gwasanaeth cyhoeddus, neu

(ii)person a gyflogir gan ddeiliad trwydded Gymunedol a ddyroddwyd o dan Erthygl 4 o Reoliad (EC) Rhif 1073/2009 Senedd Ewrop a’r Cyngor(23), ac sy’n gweithredu yng nghwrs ei gyflogaeth.

7.—(1Meistri a morwyr, fel y’u diffinnir yn adran 313(1) o Ddeddf Llongau Masnach 1995(24), pan fônt wedi teithio i’r Deyrnas Unedig yng nghwrs eu gwaith neu wedi eu dychwelyd i’r Deyrnas Unedig yn unol â Chonfensiwn Llafur Morwrol 2006 neu Gonfensiwn Gwaith mewn Pysgota 2007.

(2At ddibenion y paragraff hwn a pharagraff 8—

(a)ystyr “Confensiwn Llafur Morol 2006” yw’r Confensiwn a fabwysiadwyd ar 23 Chwefror 2006 gan Gynhadledd Gyffredinol y Sefydliad Llafur Rhyngwladol(25),

(b)ystyr “Confensiwn Gwaith mewn Pysgota 2007” yw’r Confensiwn a fabwysiadwyd yng Ngenefa ar 14 Mehefin 2007 gan y Sefydliad Llafur Rhyngwladol(26).

8.  Peilot, fel y’i diffinnir ym mharagraff 22(1) o Atodlen 3A i Ddeddf Llongau Masnach 1995(27), pan fo’r peilot wedi teithio i’r Deyrnas Unedig yng nghwrs ei waith neu wedi ei ddychwelyd i’r Deyrnas Unedig yn unol â Chonfensiwn Llafur Morwrol 2006 neu Gonfensiwn Gwaith mewn Pysgota 2007.

9.  Arolygydd neu syrfëwr llongau a benodwyd o dan adran 256 o Ddeddf Llongau Masnach 1995(28), pan fo wedi teithio i’r Deyrnas Unedig yng nghwrs ei waith.

10.  Person o fewn y diffinad o “crew” ym mharagraff 1 o Atodlen 1 i Orchymyn Llywio Awyr 2016(29), pan fo’r person wedi teithio i’r Deyrnas Unedig yng nghwrs ei waith.

11.  Arolygwr hedfan sifil, fel y’u diffinnir yn Atodlen 9 i’r Confensiwn ar Hedfan Sifil Rhyngwladol a lofnodwyd yn Chicago ar 7 Rhagfyr 1944(30), pan fo’r arolygwr wedi teithio i’r Deyrnas Unedig wrth ymgymryd â dyletswyddau arolygu.

12.—(1Unrhyw un o’r personau a ganlyn sydd wedi teithio i’r Deyrnas Unedig yng nghwrs eu gwaith—

(a)gyrwyr a chriwiau ar wasanaethau gwennol ac ar wasanaethau ar gyfer cludo teithwyr neu nwyddau drwy gyfrwng system y twnnel,

(b)gweithwyr gweithredol, gweithwyr cynnal a chadw rheilffyrdd, a gweithwyr diogelwch a diogeledd sy’n gweithio ar system y twnnel,

(c)gweithwyr eraill sy’n cyflawni rolau hanfodol ar gyfer rhedeg, mewn modd diogel neu effeithlon, system y twnnel, gwasanaethau gwennol neu wasanaethau ar gyfer cludo teithwyr neu nwyddau drwy gyfrwng system y twnnel, neu sy’n ymwneud â diogelwch system y twnnel neu unrhyw wasanaethau o’r fath.

(2At ddibenion is-baragraff (1)—

(a)mae i “gwasanaeth gwennol” yr ystyr a roddir i “shuttle service” yn adran 1(9) o Ddeddf Twnnel y Sianel 1987(31),

(b)mae i “system y twnnel” yr ystyr a roddir i “tunnel system” yn adran 1(7) o’r Ddeddf honno.

13.—(1Gwas i’r goron neu gontractwr llywodraeth—

(a)y mae yn ofynnol iddo ymgymryd â gwaith plismona hanfodol neu waith llywodraeth hanfodol yn y Deyrnas Unedig o fewn 14 diwrnod o gyrraedd y Deyrnas Unedig, neu

(b)sy’n ymgymryd â gwaith plismona neu waith llywodraeth hanfodol y tu allan i’r Deyrnas Unedig ond—

(i)y mae’n ofynnol iddo ddychwelyd i’r Deyrnas Unedig dros dro,

(ii)a fydd wedyn yn ymadael i ymgymryd â gwaith plismona neu waith llywodraeth hanfodol y tu allan i’r Deyrnas Unedig, neu

(c)sy’n cynnal trafodaethau dwyochrog ac amlochrog gyda gwladwriaeth arall neu sefydliad rhyngwladol.

(2At ddibenion is-baragraff (1)—

(a)mae i “gwas i’r Goron” yr ystyr a roddir i “Crown servant” yn adran 12(1)(a) i (e) o Ddeddf Cyfrinachau Swyddogol 1989,

(b)ystyr “gwaith llywodraeth hanfodol” yw gwaith sydd wedi ei ddynodi felly gan Weinidogion Cymru neu’r Adran berthnasol, neu’r cyflogwr, ac mae’n cynnwys, yn benodol, gwaith sy’n gysylltiedig â diogelwch gwladol, gwaith yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol yn unol â’i swyddogaethau statudol, mewnfudo, y coronafeirws ac unrhyw ymateb argyfwng arall, ond nid yw’n cynnwys gwaith o’r math a bennir ym mharagraff 2(1) o Ran 1 o’r Atodlen hon,

(c)ystyr “plismona hanfodol” yw plismona sydd wedi ei ddynodi felly gan y prif swyddog neu’r prif gwnstabl perthnasol,

(d)mae i “contractwr llywodraeth” yr ystyr a roddir i “government contractor” yn adran 12(2) o Ddeddf Cyfrinachau Swyddogol 1989.

14.  Person a ddynodir gan y Gweinidog perthnasol o dan adran 5(3) o Ddeddf Dychwelyd Carcharorion i’w Gwlad eu Hunain 1984(32).

15.  Person sy’n gyfrifol am hebrwng

  • person a geisir i’w estraddodi yn unol â gwarant a ddyroddwyd o dan Ran 3 o Ddeddf Estraddodi 2003(33), neu berson a geisir i’w estraddodi yn unol ag unrhyw drefniadau estraddodi eraill.

16.  Cynrychiolydd i unrhyw diriogaeth sy’n teithio i’r Deyrnas Unedig er mwyn cymryd i’r ddalfa berson y gorchmynnwyd ei ildio yn unol ag unrhyw ddarpariaeth yn Neddf Estraddodi 2003.

17.—(1Gweithiwr sy’n ymwneud â gwaith hanfodol neu waith brys—

(a)sy’n gysylltiedig â chyflenwadau dŵr a gwasanaethau carthffosiaeth, a

(b)a gyflawnir gan ymgymerwr dŵr, ymgymerwr carthffosiaeth, trwyddedai cyflenwi dŵr, trwyddedai carthffosiaeth neu awdurdod lleol, i’r rhain neu ar ran y rhain,

pan fo’r gweithiwr wedi teithio i’r Deyrnas Unedig yng nghwrs ei waith.

(2At ddibenion is-baragraff (1)—

(a)mae “gwaith hanfodol neu waith brys” yn cynnwys—

(i)archwilio, cynnal a chadw, atgyweirio, a gweithgareddau amnewid asedau,

(ii)monitro, samplu a dadansoddi cyflenwadau dŵr o dan Reoliadau Cyflenwadau Dŵr Preifat (Cymru) 2017(34), Rheoliadau Cyflenwad Dŵr (Ansawdd Dŵr) 2018(35), Rheoliadau Cyflenwadau Dŵr Preifat (Lloegr) 2016(36) neu Reoliadau Cyflenwad Dŵr (Ansawdd Dŵr) 2016(37),

(b)mae i “trwyddedai carthffosiaeth” yr ystyr a roddir i “sewerage licensee” yn adran 17BA(6) a 219(1) o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991(38),

(c)mae i “gwasanaethau carthffosiaeth” yr ystyr a roddir i “sewerage services” yn adran 219(1) o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991(39),

(d)ystyr “ymgymerwr carffosiaeth” yw cwmni a benodwyd yn ymgymerwr carffosiaeth o dan adran 6 o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991(40),

(e)mae i “trwyddedai cyflenwi dŵr” yr ystyr a roddir i “water supply licensee” yn adrannau 17A(7) a 219(1) o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991(41),

(f)ystyr “ymgymerwr dŵr” yw cwmni a benodwyd yn ymgymerwr dŵr o dan adran 6 o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991..

18.—(1Gweithiwr sy’n ymwneud â gwaith hanfodol neu waith brys—

(a)sy’n gysylltiedig—

(i)â gorsaf gynhyrchu,

(ii)â chydgysylltydd trydan,

(iii)â rhwydwaith gwres ardal fel y’i diffinnir yn rheoliad 2 o Reoliadau Rhwydweithiau Gwres (Mesuryddion a Bilio) 2014(42),

(iv)â gwresogi cymunedol fel y’i diffinnir yn rheoliad 2 o Reoliadau Rhwydweithiau Gwres (Mesuryddion a Bilio) 2014,

(v)â systemau glanhau awtomataidd ar falast a systemau ailosod traciau ar rwydwaith, neu

(vi)â chomisiynu, cynnal a chadw a thrwsio peiriannau diwydiannol i’w defnyddio ar rwydwaith, neu

(b)a gyflawnir gan, ar gyfer, neu ar ran—

(i)gweithredwr y system genedlaethol,

(ii)person sydd â thrwydded drawsyrru,

(iii)person sydd â thrwydded ddosbarthu,

(iv)person sydd â thrwydded o dan adran 7 a 7ZA o Ddeddf Nwy 1986(43),

(v)cyfleuster mewnforio neu allforio LNG fel y’i diffinnir yn adran 48 o Ddeddf Nwy 1986(44), neu

(vi)person sydd â thrwydded rwydwaith o dan adran 8 o Ddeddf Rheilffyrdd 1993,

pan fo’r gweithiwr wedi teithio i’r Deyrnas Unedig at ddibenion ei waith.

(2At ddibenion is-baragraff (1)—

(a)ystyr “trwydded ddosbarthu” yw trwydded a roddwyd o dan adran 6(1)(c) o Ddeddf Trydan 1989(45),

(b)mae “gwaith hanfodol neu waith brys” yn cynnwys comisiynu, archwilio, cynnal a chadw, atgyweirio, a gweithgareddau amnewid asedau,

(c)ystyr “gweithredwr y system genedlaethol” yw’r person sy’n gweithredu system drawsyrru genedlaethol Prydain Fawr,

(d)mae i “rhwydwaith”, , yr ystyr a roddir i “network” yn adran 83(1) o Ddeddf Rheilffyrdd 1993(46),

(e)ystyr “trwydded drawsyrru” yw trwydded a roddwyd o dan adran 6(1)(b) o Ddeddf Trydan 1989,

(f)mae i “cydgysylltydd trydan”, “gorsaf gynhyrchu” a “system drawsyrru” yr ystyron a roddir i “electricity interconnector”, “generating station” a “transmission system” yn adran 64(1) o Ddeddf Trydan 1989(47).

19.—(1Person sydd—

(a)yn bersonél niwclear, ac sy’n hanfodol i weithrediad saff a diogel safle y rhoddwyd trwydded safle niwclear mewn perthynas ag ef,

(b)yn ymatebydd argyfwng niwclear,

(c)yn arolygydd asiantaeth, neu

(d)yn arolygydd Euratom, ar yr amod ei fod yn cyrraedd y Deyrnas Unedig cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu,

pan fo’r person wedi teithio i’r Deyrnas Unedig yng nghwrs ei waith.

(2At ddibenion is-baragraff (1)—

(a)mae i “arolygydd asiantaeth” yr ystyr a roddir i “agency inspector” yn adran 1(1) o Ddeddf Diogelwch Niwclear 2000(48),

(b)ystyr “ymatebydd argyfwng niwclear” yw person sy’n rhoi cymorth i’r Deyrnas Unedig yn unol â’r Confensiwn ar Gymorth yn Achos Damwain Niwclear neu Argyfwng Radiolegol a wnaed yn Fienna ar 26 Medi 1986, sydd wedi ei hysbysu’n briodol i’r Deyrnas Unedig ac wedi ei dderbyn ganddi, pan fo’r Deyrnas Unedig wedi gofyn am gymorth o dan y Confensiwn hwnnw,

(c)ystyr “arolygydd Euratom” yw arolygydd a anfonwyd i’r Deyrnas Unedig gan Gomisiwn yr Undeb Ewropeaidd yn unol ag Erthyglau 81 a 82 o Gytuniad Euratom,

(d)ystyr “personél niwclear” yw—

(i)gweithiwr a gyflogir i gyflawni gwaith ar safle neu mewn perthynas â safle y rhoddwyd trwydded safle niwclear mewn perthynas ag ef, neu

(ii)cyflogai i’r Awdurdod Datgomisiynu Niwclear(49),

(e)mae i “trwydded safle niwclear” yr ystyr a roddir i “nuclear site licence” yn adran 1 o Ddeddf Safleoedd Niwclear 1965(50).

20.  Arolygydd o’r Sefydliad Gwahardd Arfau Cemegol o fewn yr ystyr a roddir i “inspector” yn adran 24(e) o Deddf Arfau Cemegol 1996(51) sydd wedi teithio i’r Deyrnas Unedig at ddibenion arolygiad.

21.—(1Person sydd—

(a)yn cyflawni swyddogaeth gritigol ar safle gofod,

(b)yn rheolwr llongau gofod sy’n gyfrifol am lywio a rheoli cerbyd lansio neu long ofod ar gyfer gweithrediadau enwol, osgoi gwrthdrawiadau neu anomaleddau, neu

(c)a gyflogir gan berson sy’n gweithredu neu’n cynnal galluoedd ymwybyddiaeth o sefyllfa’r gofod, neu sydd o dan gontract i ddarparu gwasanaethau i’r person hwnnw,

pan fo’r person wedi teithio i’r Deyrnas Unedig yng nghwrs ei waith.

(2At ddibenion is-baragraff (1)—

(a)mae i “safle gofod” yr ystyr a roddir i “space site” ym mharagraff 5(3) o Atodlen 4 i Ddeddf y Diwydiant Gofod 2018(52),

(b)ystyr “galluoedd ymwybyddiaeth o sefyllfa’r gofod” yw’r synwyryddion, y systemau a’r gwasanaethau dadansoddi y mae eu hangen i roi rhybuddion sy’n sensitif o ran amser ynglŷn â digwyddiadau tywydd yn y gofod, gwrthdrawiadau orbitol, drylliadau orbitol neu ailfynediad gwrthrychau a wnaed gan bobl o’u horbit,

(c)mae i “llong ofod” yr ystyr a roddir i “spacecraft” yn adran 2(6) o Ddeddf y Diwydiant Gofod 2018,

(d)ystyr “rheolwr llong ofod” yw person sy’n gymwys, sydd wedi ei awdurdodi ac sy’n gyfrifol am gynnal gweithrediad saff a diogel llong ofod drwy fonitro statws llong ofod, rhoi gorchmynion llywio neu reoli agweddau eraill ar y llong ofod sy’n dylanwadu ar ei hymddygiad gan gynnwys ei symudiadau yn y gofod.

22.—(1Peiriannydd awyrofod arbenigol, neu weithiwr awyrofod arbenigol, pan fo’r peiriannydd neu’r gweithiwr wedi teithio i’r Deyrnas Unedig yng nghwrs ei waith.

(2At ddibenion is-baragraff (1)—

(a)ystyr “peiriannydd awyrofod arbenigol” yw person sydd wedi ei gyflogi neu wedi ei gymryd ymlaen fel arall i ddarparu gwasanaethau peirianyddol er mwyn sicrhau bod gweithgareddau hedfan yn parhau i weithredu (gan gynnwys, ond heb ei gyfyngu i, ddarparu gwasanaethau cynnal a chadw ac atgyweirio ar gyfer llinellau cynhyrchu, cydrannau hedfan, awyrennau ar y ddaear ac awyrennau newydd),

(b)ystyr “gweithiwr awyrofod arbenigol” yw person sydd wedi ei gyflogi neu wedi ei gymryd ymlaen fel arall i ddarparu gwasanaethau at ddiben sicrhau bod diogelwch yn cael ei reoli a bod ansawdd yn cael ei sicrhau yn unol â gofynion y safonau, y canllawiau a’r cyhoeddiadau perthnasol ar ddiogelwch hedfan a gynhyrchir gan yr Awdurdod Hedfan Sifil neu Asiantaeth Diogelwch Hedfan yr Undeb Ewropeaidd(53).

23.—(1Person sy’n ymwneud â gweithgareddau gweithredu, cynnal a chadw neu ddiogelwch cyfleuster yn y sector olew is sydd â chapasiti o fwy nag 20,000 o dunelli—

(a)pan fo’r cyfleuster yn y sector olew is yn ymwneud â gweithgaredd penodedig a gyflawnir yn y Deyrnas Unedig yng nghwrs busnes, ac yn cyfrannu (yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol) at gyflenwi tanwyddau sy’n seiliedig ar olew crai i ddefnyddwyr yn y Deyrnas Unedig neu bersonau sy’n rhedeg busnes yn y Deyrnas Unedig, a

(b)pan fo angen y gweithgareddau er mwyn sicrhau bod y cyfleuster yn parhau i weithredu’n ddiogel,

pan fo’r person wedi teithio i’r Deyrnas Unedig yng nghwrs ei waith.

(2At ddibenion is-baragraff (1)—

(a)mae gan gyfleuster gapasiti o fwy nag 20,000 o dunelli unrhyw bryd os cafodd ei ddefnyddio yn y flwyddyn galendr flaenorol at ddibenion gweithgareddau’r sector olew is mewn perthynas â mwy na’r nifer hwnnw o dunelli o olew,

(b)“gweithgareddau penodedig” yw—

(i)storio olew,

(ii)trafod olew,

(iii)cludo olew ar y môr neu ddŵr mewndirol,

(iv)cludo olew drwy bibellau,

(v)puro olew neu ei brosesu fel arall.

24.—(1Gweithiwr sy’n ymgymryd â’r canlynol, neu y mae’n ofynnol iddo gychwyn y canlynol—

(a)gweithgareddau ar osodiadau alltraeth neu mewn perthynas â hwy,

(b)gweithgareddau ar seilwaith y sector petrolewm uwch neu mewn perthynas ag ef,

(c)gwaith diogelwch critigol ar osodiadau alltraeth a ffynhonnau sy’n cael eu datgomisiynu neu sy’n cael eu cadw hyd nes y cânt eu dymchwel neu eu hailddefnyddio, neu

(d)gweithgareddau i ddarparu gweithwyr, nwyddau, deunyddiau neu gyfarpar neu wasanaethau hanfodol eraill y mae eu hangen i gefnogi gweithrediad diogel y gweithgareddau y cyfeirir atynt ym mharagraffau (a) i (c).

(2At ddibenion is-baragraff (1)—

(a)mae i “gosodiadau alltraeth” yr ystyr a roddir i “offshore installations” yn adran 44 o Ddeddf Petrolewm 1998(54),

(b)mae i “seilwaith y sector petrolewm uwch” yr ystyr a roddir i “upstream petroleum infrastructure” yn adran 9H o Ddeddf Petrolewm 1998(55),

(c)mae i “ffynhonnau” yr ystyr a roddir i “wells” yn adran 45A(10) o Ddeddf Petrolewm 1998(56).

25.  Gweithredydd post, yn unol â’r diffiniad o “postal operator” yn adran 27(3) o Ddeddf Gwasanaethau Post 2011(57), pan fo’r gweithredydd wedi teithio i’r Deyrnas Unedig yng nghwrs ei waith.

26.  Gweithiwr sydd â sgiliau technegol arbenigol, pan fo angen y sgiliau technegol arbenigol hynny ar gyfer gwaith neu wasanaethau hanfodol neu frys (gan gynnwys comisiynu, cynnal a chadw ac atgyweirio a gwiriadau diogelwch) i sicrhau y parheir i gynhyrchu, cyflenwi, symud, gweithgynhyrchu, storio neu gadw nwyddau, pan fo’r gweithiwr wedi teithio i’r Deyrnas Unedig yng nghwrs ei waith neu fel arall i ddechrau neu ailddechrau gweithio.

27.  Gweithiwr sydd â sgiliau technegol arbenigol, pan fo angen y sgiliau technegol arbenigol hynny ar gyfer gwaith hanfodol neu frys (gan gynnwys comisiynu, cynnal a chadw, atgyweirio a gwiriadau diogelwch) neu i gyflawni rhwymedigaethau contract neu fanylebau gwarantiad mewn cyfleusterau rheoli gwastraff a ddefnyddir ar gyfer rheoli, didoli, trin, adfer, neu waredu gwastraff (gan gynnwys ynni o wastraff), neu mewn cysylltiad â hynny, pan fo’r gweithiwr wedi teithio i’r Deyrnas Unedig yng nghwrs ei waith.

28.—(1Person sydd wedi teithio i’r Deyrnas Unedig er mwyn cludo, i ddarparwr gwasanaethau iechyd (o fewn ystyr rheoliad 10(8)) yn y Deyrnas Unedig, ddeunydd a ffurfir o gelloedd neu waed dynol, neu sy’n cynnwys celloedd neu waed dynol, ac sydd i’w ddefnyddio er mwyn darparu gwasanaethau iechyd.

(2At ddibenion is-baragraff (1) mae “gwaed” yn cynnwys cydrannau gwaed.

29.  Person sydd wedi teithio i’r Deyrnas Unedig—

(a)y mae’n ofynnol iddo ymgymryd â gwaith fel gweithiwr iechyd proffesiynol, neu weithiwr gofal proffesiynol yn y Deyrnas Unedig o fewn 14 diwrnod ar ôl cyrraedd, a

(b)sy’n gymwys i ymarfer proffesiwn a reoleiddir gan unrhyw un neu ragor o’r cyrff a grybwyllir yn adran 25(3) o Ddeddf Diwygio’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Phroffesiynau Gofal Iechyd 2002(58).

30.  Person sy’n arolygydd yn yr ystyr a roddir i “inspector” yn rheoliad 8(1) o Reoliadau Meddyginiaethau Dynol 2012(59) sydd wedi teithio i’r Deyrnas Unedig i ymgymryd â gweithgareddau mewn perthynas â’i rôl fel person o’r fath.

31.—(1Person sydd—

(a)wedi teithio i’r Deyrnas Unedig—

(i)i gynnal treial clinigol o fewn ystyr “conducting a clinical trial” yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Meddyginiaethau i’w Defnyddio gan Bobl (Treialon Clinigol) 2004(60),

(ii)i ymgymryd ag unrhyw weithgareddau sy’n angenrheidiol neu’n hwylus i baratoi at gynnal treial clinigol, neu

(iii)i gyflawni unrhyw weithgarwch cydymffurfio angenrheidiol mewn perthynas â threial clinigol na ellir ei gynnal o bell,

(b)yn berson cymwys yn yr ystyr a roddir i “qualified person” yn rheoliad 43 o’r Rheoliadau hynny, pan fo wedi teithio i’r Deyrnas Unedig er mwyn ymgymryd â gweithgareddau mewn perthynas â’i rôl fel person o’r fath, neu

(c)yn noddwr yn yr ystyr a roddir i “sponsor” yn rheoliad 2(1) o’r Rheoliadau hynny, neu’n cyflawni swyddogaethau neu ddyletswyddau noddwr, treial clinigol ac wedi teithio i’r Deyrnas Unedig i ymgymryd â gweithgareddau mewn perthynas â’r treial clinigol.

(2At ddibenion is-baragraff (1), mae i “treial clinigol” yr ystyr a roddir i “clinical trial” yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Meddyginiaethau i’w Defnyddio gan Bobl (Treialon Clinigol) 2004.

32.  Person sydd wedi teithio i’r Deyrnas Unedig i gynnal ymchwiliad clinigol yn yr ystyr a roddir i “clinical investigation” yn Rheoliadau Dyfeisiau Meddygol 2002(61), neu i ymgymryd â gweithgareddau sy’n angenrheidiol neu’n hwylus i baratoi at gynnal ymchwiliad clinigol neu i gyflawni unrhyw weithgarwch cydymffurfio angenrheidiol arall mewn perthynas ag ymchwiliad clinigol na ellir ei gynnal o bell.

33.—(1Person sydd—

(a)yn berson cymwys yn yr ystyr a roddir i “qualified person” yn rheoliad 41(2) o Reoliadau Meddyginiaethau Dynol 2012(62),

(b)yn berson cyfrifol yn yr ystyr a roddir i “responsible person” yn rheoliad 45(1) o’r Rheoliadau hynny, neu

(c)yn berson â chymwysterau priodol sy’n gyfrifol am wyliadwriaeth ffarmacolegol yn yr ystyr a roddir i “an appropriately qualified person responsible for pharmacovigilance” yn rheoliad 182(2)(a) o’r Rheoliadau hynny,

pan fo’r person wedi teithio i’r Deyrnas Unedig er mwyn ymgymryd â gweithgareddau mewn perthynas â’i rôl fel person o’r fath.

34.—(1Person sydd wedi teithio i’r Deyrnas Unedig at ddibenion ei waith mewn diwydiannau seilwaith hanfodol gan gynnwys—

(a)person sy’n ymwneud â gwaith cynnal a chadw ac atgyweirio hanfodol ar seilwaith data y mae ei angen i leihau a datrys diffoddiadau, neu â darparu nwyddau a gwasanaethau i gefnogi’r gweithgareddau hyn, a

(b)gweithiwr proffesiynol technoleg gwybodaeth neu delathrebu (gan gynnwys ymgynghorydd technoleg gwybodaeth, dadansoddwr ansawdd, profwr meddalwedd, profwr systemau, a chynllunydd telathrebu), y mae angen ei arbenigedd er mwyn—

(i)darparu ymateb hanfodol neu frys i fygythiadau a digwyddiadau sy’n ymwneud â diogelwch unrhyw system rhwydwaith a gwybodaeth, a

(ii)sicrhau bod unrhyw system rhwydwaith a gwybodaeth yn parhau i weithredu.

(2At ddibenion is-baragraff (1), mae i “system rhwydwaith a gwybodaeth” yr ystyr a roddir i “network and information system” yn rheoliad 1(2) o Reoliadau Systemau Rhwydwaith a Gwybodaeth 2018(63).

35.  Person sy’n ymwneud â gwaith brys neu waith hanfodol—

(a)sy’n angenrheidiol er mwyn parhau i weithredu—

(i)rhwydweithiau a gwasanaethau cyfathrebu electronig fel y’u diffinnir yn adran 32 o Ddeddf Cyfathrebiadau 2003(64), gan gynnwys gwaith sy’n ymwneud â chynnal a chadw ac atgyweirio ceblau tanfor sy’n cysylltu’r Deyrnas Unedig â gwledydd eraill, neu

(ii)rhwydwaith a gwasanaethau trawsyrru darllediadau’r BBC,

(b)mewn cwmnïau yn y gadwyn gyflenwi sy’n cynnal cyfrinachedd, cyflawnder ac argaeledd y rhwydweithiau a’r gwasanaethau cyfathrebu electronig a rhwydwaith a gwasanaethau trawsyrru’r BBC,

pan fo’r person wedi teithio i’r Deyrnas Unedig yng nghwrs ei waith.

36.  Person—

(a)sy’n dilyn gweithgaredd fel person cyflogedig neu hunangyflogedig yn y Deyrnas Unedig ac sy’n preswylio mewn gwlad arall y mae fel arfer yn dychwelyd iddi o leiaf unwaith yr wythnos, neu

(b)sy’n preswylio yn y Deyrnas Unedig ac sy’n dilyn gweithgaredd fel person cyflogedig neu hunangyflogedig mewn gwlad arall y mae fel arfer yn mynd iddi o leiaf unwaith yr wythnos.

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Gwneir y Rheoliadau hyn mewn ymateb i’r bygythiad difrifol i iechyd y cyhoedd o ganlyniad i fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlu acíwt difrifol 2 (SARSCoV-2) yng Nghymru. Yn unol ag adran 45B Deddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 gall Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaethau at ddibenion (ymysg pethau eraill) atal perygl i iechyd y cyhoedd a ddaw o longau, awyrennau, trenau neu gludiant yn cyrraedd unrhyw fan.

Mae’r Rheoliadau’n gosod gofynion ar gategorïau penodol o bobl sy’n cyrraedd Cymru o fan y tu allan i’r ardan deithio gyffredin—

  • i ddarparu gwybodaeth am ble y byddant yn preswylio yng Nghymru a materion perthnasol eraill, ac

  • i ynysu am gyfnod o 14 o ddiwrnodau.

Mae rheoliad 4 yn gorfodi personau sy’n cyrraedd Cymru ar long neu awyren i ddarparu gwybodaeth ar ffurf electronig i’r Ysgrifennydd Gwladol. Yn ymarferol gwneir hyn drwy gwblhau’r ffurflen ar-lein ar wefan www.gov.uk at y diben hwn. Pan fo person yn cyrraedd yng nghwmni plentyn y bydd y maent yn gyfrifol amdano, mae’n ofynnol iddynt ddarparu gwybodaeth am y plentyn yn ogystal.

Mae rheoliad 5 yn darparu ei bod yn ofynnol i berson hysbysu’r Ysgrifennydd Gwladol o unrhyw newid i’r wybodaeth a ddarparwyd cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol. Gwneir hyn hefyd drwy ddefnyddio’r un cyfleuster ar lein.

Mae Atodlen 1 yn pennu’r mathau o wybodaeth sy’n ofynnol i’w darparu o dan reoliad 4 neu 5. Dyma fydd y wybodaeth y bydd y ofynnol i’w gynnwys wrth gwblhau’r ffurflen ar lein. Mewn ambell achos bydd y wybodaeth sydd yn ofynnol gan Atodlen 1 yn dibynnu ar yr amgylchiadau (er enghraifft, o dan baragraff 1(d) mae’n ofynnol i berson ddarparu manylion pasport neu fanylion dogfen deithio arall os nad oes gan y person basport). Nid yw’n ofynnol i bersonau sydd yn dod o fewn un o’r categorïau a nodir yn Rhan 1 o Atodlen 2 ddarparu gwybodaeth o dan reoliad 4 a 5. Os nad yw’r wybodaeth ym meddiant y person nid yw’n ofynnol iddynt ei ddarparu (rheoliad 6).

Mae Rheoliadau 7 ac 8 yn ei gwneud yn ofynnol bod y categorïau isod o bersonau yn ynysu am gyfnod o 14 o ddiwrnodau wedi cyrraedd Cymru—

(a)person sy’n cyrraedd Cymru ar long neu awyren o fan y tu allan i’r ardal deithio gyffredin, neu

(b)person sy’n cyrraedd Cymru o Weriniaeth Iwerddon, Ynysoedd y Sianel, neu Ynys Manaw, ac sydd wedi cyrraedd o’r ardal deithio gyffredin o fewn y cyfnod o 14 o ddiwrnodau sy’n gorffen ar y diwrnod y mae’r person yn cyrraedd Cymru, neu

(c)person sy’n cyrraedd Cymru o fan arall yn y Deyrnas Unedig sydd, wedi cyrraedd o fan y tu allan i’r ardal deithio gyffredin yn yr 14 diwrnod blaenorol.

Ni ddylai’r personau hynny adael y fangre neu fod y tu allan i’r fangre lle y byddant yn ynysu cyn diwedd diwrnod olaf yr ynysiad (ac eithrio am resymau nodir yn rheoliad 10).

Mae rheoliad 8 yn darparu hefyd ei bod yn ofynnol i berson sy’n cyrraedd Cymru o ran arall o’r Deyrnas Unedig sydd wedi cyrraedd o fan y tu allan i’r ardal deithio gyffredin yn y 14 diwrnod blaenorol hysbysu’r Ysgrifennydd Gwladol am gyfeiriad y man lle y byddant yn preswylio a bod yn rhaid iddynt wneud hynny cyn cyrraedd Cymru, neu cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl cyrraedd Cymru (eto drwy ddefnyddio’r ffurflen ar lein).

Mae Atodlen 2 (a gyflwynir gan reoliad 9) yn nodi’r categorïau o bobl sydd wedi’u eithrio rhag y gofyniad i ynysu. Mae rheoliad 10 yn darparu bod y gofyniad i ynysu’n peidio â bod yn gymwys os yw’r person yn teithio er mwyn gadael Cymru (paragraff (3)), yn nodi’r amgylchiadau cyfyngedig y caniateir i berson fod y tu allan i’r man ymaent yn ynysu pan fo hynny dros dro (paragraff (4)), mae’n caniatau i berson newid y man lle maent yn ynysu, os oes angen iddynt wneud hynny am resymau cyfreithiol, neu os yw hi’n amhosib iddynt a ros yn y man gwreiddiol (paragraff (5)) fel arall ac yn darparu nad ydyw’r gofyniad ynysu’n gymwys i berson sy’n ddarostyngedig i ofynion penodol o dan y Ddeddf Coronafeirws 2020 neu ddeddfwriaeth mewnfudo.

Mae rheoliad 13 yn rhoi’r pŵer i swyddogion yr heddlu orchymyn neu symud person i fan lle maent yn ynysu os ydynt yn rhesymol gredu fod y person yn torri’r gofyniad i ynysu.

Mae rheoliad 14 yn darparu fod torri gofyniad a geir yn y Rheoliadau yma ac atal person rhag arfer swyddogaethau o dan y rheoliadau yma’n drosedd. Gall person sydd yn cael ei ganfod yn euog o drosedd o dan y Rheoliadau dderbyn dirwy, ac nid oes uchafswm ar y ddirwy a ellid ei rhoi.

Mae rheoliad 16 yn darparu y gellid rhoi cosb benodedig i berson sydd o dan amheuaeth o gyflawni troseddo dan y Rheoliadau yma yn hytrach na’i erlyn. Pan fo’r drosedd honedig yn deillio o dorri’r ddyletswydd ynysu bydd y gosb yn £1000, mewn achosion eraill bydd y gosb yn £60 (£30 os y’i telir o fewn 14 diwrnod) gan godi bob tro y rhoddir cosb benodedig debyg, hyd at uchafswm o £1920.

Mae rheoliad 17 yn nodi’r amgylchiadau y caiff gwybodaeth a ddarperir o dan y Rheoliadau (a Rheoliadau cyfatebol a wnaed mewn perthynas â Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon) ei datgelu neu ei defnyddio. Mae rheoliad 18 yn atal gwybodaeth a ddarperir o dan y Rheoliadau yma rhag cael ei defnyddio i argyhuddo person mewn achos am unrhyw drosedd ac eithrio achos o dan y Rheoliadau yma, am drosedd o wneud datganiad anwir ac eithrio yn dilyn tyngu llw.

Bydd yn ofynnol adolygu rheidrwydd a chymesuroldeb y Rheoliadau yma bob 21 diwrnod (rheoliad 19).

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

(1)

1984 p. 22. Mewnosodwyd Rhan 2A gan adran 129 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2008 (p. 14).

(2)

2007 p. 30. Diwygiwyd adran 61 gan adran 73(5) o Ddeddf Mewnfudo 2014 (p. 22) ac adran 92(5) o Ddeddf Mewnfudo 2016 (p. 19).

(3)

1971 p. 77. Diwygiwyd paragraff 1 gan baragraff 3 o Atodlen 3 i Ddeddf yr Asiantaeth Diogelu Iechyd 2004 (p. 17), a chan O.S. 1993/1813.

(5)

Gweler adran 1(3). Mae’n darparu y cyfeirir at y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw a Gweriniaeth Iwerddon gyda’i gilydd yn Neddf Mewnfudo 1971 fel “the common travel area”.

(6)

Gweler adran 33(1).

(7)

Gweler adran 33(1).

(8)

Gweler adran 33(1).

(10)

1983 p. 54. Gweler adran 55(1). Diwgiwyd y diffiniad o “fully registered person” gan O.S. 2006/1914, O.S. 2007/3101 a O.S. 2008/1774

(11)

1984 p. 60. Amnewidiwyd adran 24 gan adran 110(1) o Ddeddf Troseddu Cyfundrefnol Difrifol a’r Heddlu 2005 (p. 15).

(13)

1911 p. 6. Diwygiwyd adran 5 gan adran 1(2) o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1948 (p. 58).

(14)

1968 p. 18. Ceir diwygiadau ond nid yw’r un yn berthnasol.

(15)

1964 p. 81. Ceir diwygiadau ond nid yw’r un yn berthnasol.

(16)

1989 p. 6. Diwygiwyd adran 12 gan baragraff 22 o Atodlen 10 i Ddeddf Lluoedd wrth Gefn 1996 (p. 14), gan baragraff 30 o Atodlen 12 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (p. 38), gan baragraff 26 o Atodlen 8 i Ddeddf yr Alban 1998 (p. 46), gan baragraff 9(3) o Atodlen 13 i Ddeddf Gogledd Iwerddon 1998 (p. 47), gan baragraff 9 o Atodlen 6 i Ddeddf yr Heddlu (Gogledd Iwerddon) 2000 (p. 32), gan baragraff 6 o Atodlen 14 i Ddeddf Ynni 2004 (p. 20), gan baragraff 58 o Atodlen 4 i Ddeddf Troseddu Cyfundrefnol Difrifol a’r Heddlu 2005, gan baragraff 34 o Atodlen 10, i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraff 1 o Atodlen 12 iddi, a chan baragraff 36 o Atodlen 8 i Ddeddf Troseddu a’r Llysoedd 2013 (p. 22).

(17)

1989 p. 6.

(18)

1952 p. 67. Diwygiwyd y diffiniad o “visiting force” yn adran 12(1) gan baragraff 14(1) o Atodlen 15 i Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1988 (c. 33).

(19)

Mae adran 1(a) wedi ei diwygio nifer o weithiau. Dyma’r gwledydd a restrir: Canada, Awstralia, Seland Newydd, De Affrica, India, Pakistan, Ceylon, Ghana, Malaysia, Gweriniaeth Cyprus, Nigeria, Sierra Leone, Tanganyika, Jamaica, Trinidad a Tobago, Uganda, Kenya, Zanzibar, Malawi, Zambia, Malta, Y Gambia, Guyana, Botswana, Lesotho, Singapore, Barbados, Mauritius, Swaziland, Tonga, Fiji, y Bahamas, Bangladesh, Ynysoedd Solomon, Tuvalu, Dominica, St. Lucia, Kiribati, St. Vincent a’r Grenadines, Papua Guinea Newydd, Gorllewin Samoa a Nauru, Zimbabwe, yr Hebrides Newydd, Belize, Antigua a Barbuda, Saint Christopher a Nevis, Brunei, Maldives, Namibia, Cameroon a Mozambique.

(20)

1988 p. 52. Ceir diwygiadau i adran 192 ond nid yw’r un yn berthnasol.

(21)

1981 p. 14. Diwygiwyd adran 1 gan adran 139(3) o Ddeddf Trafnidiaeth 1985 (p. 67).

(22)

OJ Rhif L300, 14.11.2009, t. 72.

(23)

OJ Rhif L 300, 14.11.2009, t. 88-105

(24)

1995 p. 21. Ceir diwygiadau i adran 313(1) ond nid yw’r un yn berthnasol.

(25)

Gorch. 7049. ISBN 978 010 1889 766.

(26)

Gorch. 7375.

(27)

Mewnosodwyd Atodlen 3A gan Atodlen 1 i Ddeddf Diogelwch Morol 2003 (p. 16).

(28)

Ceir diwygiadau i adran 256 ond nid yw’r un yn berthnasol.

(29)

O.S. 2016/765. Ceir diwygiadau i Atodlen 1 ond nid yw’r un yn berthnasol.

(30)

Argraffiad diweddaraf Atodlen 9, a gyhoeddir gan y Sefydliad Hedfan Sifil Rhyngwladol, yw’r 15ed argraffiad, sy’n gymwys ers 23 Chwefror 2018 (ISBN 978-92-9258-301-9).

(36)

O.S. 2016/618; offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 2017/506, O.S. 2018/707 ac O.S. 2019/558.

(38)

1991 p. 56. Mewnosodwyd adran 17BA(6) gan adran 4(1) o Ddeddf Dŵr 2014 (p. 21). Mewnosodwyd y cyfeiriad at “sewerage licensee” yn adran 219(1) gan baragraff 120(2)(f) o Atodlen 7 i Ddeddf Dŵr 2014.

(39)

Diwygiwyd y diffiniad o “sewerage services” gan baragraff 120 o Atodlen 7 i Ddeddf Dŵr 2014.

(40)

Diwygiwyd adran 6 gan adran 36(2) o Ddeddf Dŵr 2003 (p.37) ac Atodlen 8 i’r Ddeddf honno, Atodlen 23 i Ddeddf Dadreoleiddio 2015 (p. 20), ac Atodlen 7 i Deddf Dŵr 2014.

(41)

Mewnosodwyd adran 17A gan adran 1 o Ddeddf Dŵr 2014.

(42)

O.S. 2014/3120. Nid oes offerynnau diwygio perthnasol.

(43)

1986 p. 44. Mewnosodwyd adran 7ZA gan adran 149(6) o Ddeddf Ynni 2004.

(44)

Mewnosodwyd y diffiniad gan O.S. 2011/2704.

(46)

1993 p. 43. Ceir diwygiadau i adran 83(1) ond nid yw’r un yn berthnasol.

(47)

Mewnosodwyd y diffiniad o “electricity interconnector” gan adran 147(7) o Ddeddf Ynni 2004. Amnewidiwyd y diffiniad o “transmission system” gan baragraff 15 o Atodlen 19 i Ddeddf 2004.

(49)

Sefydlwyd yr Awdurdod Datgomisiynu Niwclear gan adran 1 o Ddeddf Ynni 2004 p. 20.

(50)

1965 p. 57. Amnewidiwyd adran 1 gan baragraff 17 o Atodlen 2 i Ddeddf Ynni 2013 (p. 32); yn rhinwedd adran 1(2), cyfeirir at drwydded a ddisgrifir yn adran 1(1) fel “nuclear site licence”.

(51)

1996 p. 6.

(52)

2018 p. 5.

(53)

Sefydlwyd yr Awdurdod Hedfan Sifil o dan adran 1(1) o Ddeddf Hedfan Sifil 1971 (p. 75). Disodlwyd y Ddeddf honno gan statud cydgrynhoi, Deddf Hedfan Sifil 1982 (p.16), y mae adran 2(1) o’r Ddeddf honno’n darparu ar gyfer parhad yr Awdurdod Hedfan Sifil. Ceir diwygiadau i adran 2 ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol. Sefydlwyd Asiantaeth Diogelwch Hedfan yr Undeb Ewropeaidd gan Reoliad (EU) 2018/1139 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar 4 Gorffennaf 2018 ar reolau cyffredin ym maes hedfan sifil ac yn sefydlu Asiantaeth Diogelwch Hedfan yr Undeb Ewropeaidd, ac yn diwygio Rheoliadau (EC) Rhif 2111/2005, (EC) Rhif 1008/2008, (EU) Rhif 996/2010, (EU) Rhif 376/2014 a Chyfarwyddebau 2014/30/EU a 2014/53/EU Senedd Ewrop a’r Cyngor, ac yn diddymu Rheoliadau (EC) Rhif 552/2004 ac (EC) Rhif 216/2008 Senedd Ewrop a’r Cyngor a Rheoliad y Cyngor (EEC) Rhif 3922/91.

(54)

1998 p. 17. Diwygiwyd adran 44 gan baragraff 11 o Atodlen 1 i Ddeddf Ynni 2008 (p. 32).

(55)

Amnewidiwyd adran 9H gan adran 74(2) o Ddeddf Ynni 2016 (p. 20).

(56)

Mewnosodwyd adran 45A gan adran 75(1) o Ddeddf Ynni 2008. Ceir diwygiadau i adran 45A(10) ond nid yw’r un yn berthnasol.

(57)

2011 p. 5.

(58)

2002 p. 17. Diwygiwyd adran 25(3) gan baragraff 17(2) a (3) o Atodlen 10 i Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2008, gan baragraff 56(b) o Atodlen 15 i Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2012, gan baragraff 2(2) o Atodlen 4 i Ddeddf Plant a Gwaith Cymdeithasol 2017 (p. 16) a chan O.S. 2010/231.

(60)

O.S. 2004/1031, y ceir diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(64)

2003 p. 21. Diwygiwyd y diffiniad o “electronic communications network” gan O.S. 2011/1210.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources